Trosolwg o'r rhaglen Erasmus+
Cyhoeddwyd 16 Ebrill 2026
Ynglŷn ag Erasmus+
Mae’r Deyrnas Unedig (DU) a’r Undeb Ewropeaidd (UE) wedi cytuno i’r DU ymuno â’r rhaglen Erasmus+ o 2027 ymlaen.
Mae Erasmus+ yn rhaglen yr UE sy’n darparu cyllid grant ar gyfer lleoliadau rhyngwladol a phrosiectau partneriaeth ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio yn:
- addysg
- hyfforddiant
- ieuenctid
- chwaraeon
Nod y rhaglen yw helpu unigolion i ddatblygu eu gwybodaeth, ennill profiad gwaith ac adeiladu sgiliau personol a phroffesiynol drwy gyfleoedd i astudio, dysgu a gweithio mewn gwledydd cymwys.
I sefydliadau, mae Erasmus+ yn darparu cyfleoedd i adeiladu partneriaethau rhyngwladol sy’n annog arloesedd ac yn cryfhau arfer, gan greu manteision parhaol i:
- staff
- dysgwyr
- pobl ifanc
- cymunedau
Mae’r partneriaethau hyn yn helpu i gryfhau enw da byd-eang y DU mewn addysg a hyfforddiant.
I bwy mae hyn
Mae Erasmus+ ar agor i ddysgwyr gan gynnwys hyfforddeion a staff ym meysydd:
-
addysg uwch (AU)
-
addysg bellach (AB)
-
addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET)
-
ysgolion ac addysg oedolion
Mae hefyd ar agor i:
-
pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid yn y sector ieuenctid
-
staff (gan gynnwys gwirfoddolwyr) mewn sefydliadau chwaraeon
Mae’n cefnogi ymrwymiad y llywodraeth i gynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol a chynyddu mynediad at gyfleoedd chwaraeon ar lawr gwlad.
Beth allwch chi ei wneud
-
gall disgyblion ysgol dreulio amser yn astudio dramor, naill ai fel rhan o ddosbarth neu grŵp, neu’n unigol
-
gall myfyrwyr a phrentisiaid mewn AU, AB a VET astudio, hyfforddi, gwirfoddoli neu wneud lleoliad gwaith dramor
-
gall dysgwyr sy’n oedolion dreulio amser mewn sefydliad dysgu oedolion dramor neu astudio dramor fel rhan o grŵp
-
gall pobl ifanc sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli i sefydliadau ieuenctid deithio i gael hyfforddiant neu gyfnewidiad ieuenctid a chymryd rhan mewn gweithdai, trafodaethau a gweithgareddau awyr agored
-
gall gweithwyr ieuenctid a staff sy’n gweithio mewn ysgolion, addysg bellach, addysg uwch neu addysg oedolion hyfforddi neu addysgu dramor a chymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad proffesiynol
-
gall staff chwaraeon ar lawr gwlad dreulio amser dramor yn cysgodi swyddi neu ar aseiniad hyfforddi
Sefydliadau
Gall sefydliadau hefyd gymryd rhan yn Erasmus+ drwy ffurfio prosiectau cydweithredol gyda phartneriaid dramor. Nod y prosiectau hyn yw datblygu a rhannu arferion arloesol a gwella’r addysg, hyfforddiant, gweithgareddau ieuenctid neu chwaraeon y mae sefydliadau’n eu cynnig.
Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd ar gyfer pob sector a sut i wneud cais gweler canllawiau rhaglen Erasmus+ ar gyfer:
-
ysgolion
-
addysg a hyfforddiant galwedigaethol
-
ar gyfer addysg oedolion
-
addysg uwch
-
ieuenctid
-
chwaraeon
Diffiniad Erasmus+ o brosiect
Pan yw sefydliad yn gwneud cais am gyllid Erasmus+, mae’n gwneud cais am ‘brosiect’.
Mae prosiect yn nodi:
-
y gwaith y mae’r sefydliad yn bwriadu ei gyflawni gyda’r cyllid
-
a yw hyn yn cynnwys lleoliadau rhyngwladol neu bartneriaeth â sefydliadau eraill dramor
Mae’n amlinellu’r gweithgareddau a gynllunir a’r nodau y bwriedir iddynt eu cyflawni. Mae enghreifftiau o nodau a gweithgareddau yn cynnwys:
-
datblygu sgiliau staff
-
cefnogi myfyrwyr i gryfhau eu galluoedd iaith a’u dealltwriaeth ddiwylliannol
Ble allwch chi fynd
Fel rhan o Erasmus+, gall cyfranogwyr ym mhob sector deithio i unrhyw aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â:
-
Gwlad yr Iâ
-
Liechtenstein
-
Norwy
-
Gogledd Macedonia
-
Serbia
-
Türkiye
Gall deiliaid grantiau yn y sectorau addysg uwch ac ieuenctid hefyd ddyrannu hyd at 20% o gyllid prosiect i gefnogi symudeddau rhyngwladol i wledydd nad ydynt yn gysylltiedig â’r rhaglen.
Pwy all wneud cais am gyllid
Ni all dysgwyr na staff wneud cais yn uniongyrchol am gyllid Erasmus+. Rhaid i chi wneud cais drwy sefydliad sy’n cymryd rhan fel eich ysgol, prifysgol, coleg AB neu weithle.
Mae sefydliadau a all wneud cais am gyllid yn cynnwys:
-
ysgolion
-
darparwyr AU
-
darparwyr AB
-
darparwyr VET
-
darparwyr addysg oedolion
-
sefydliadau ieuenctid a chwaraeon
-
sefydliadau nid-er-elw
Mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ba sefydliadau all wneud cais am gyllid. Mae’n ddogfen dechnegol, wedi’i chynllunio’n bennaf ar gyfer sefydliadau sy’n paratoi ceisiadau am gyllid.
Camau gweithredu allweddol Erasmus+
Mae cyllid ar gyfer prosiectau Erasmus+ wedi’i rannu ar draws 4 cham gweithredu allweddol a bydd angen i sefydliadau nodi pa gam gweithredu allweddol y mae eu prosiect yn ymwneud ag ef.
Cam gweithredu allweddol 1: prosiectau symudedd
Yn cefnogi myfyrwyr, pobl ifanc a staff sy’n gweithio ym maes addysg, ieuenctid a chwaraeon ar lawr gwlad i deithio dramor i astudio, hyfforddi, addysgu neu wirfoddoli. Gelwir hyn yn ‘symudedd’.
Enghraifft: Mae grŵp o ddisgyblion ysgol uwchradd yn teithio i ysgol bartner mewn gwlad arall ar gyfer ymweliad astudio byr i brofi dysgu mewn system addysg a diwylliant gwahanol.
Cam gweithredu allweddol 2: partneriaethau
Yn cefnogi partneriaethau ac adeiladu capasiti ar gyfer ysgolion, darparwyr AB, darparwyr addysg uwch, a grwpiau eraill i gydweithio ar flaenoriaethau ar y cyd a rhannu syniadau.
Enghraifft: Mae coleg AB yn gweithio gyda phartneriaid dramor i ddatblygu a threialu deunyddiau hyfforddi digidol newydd.
Cam gweithredu allweddol 3: datblygu polisi a chydweithredu
Yn cefnogi gwledydd i gydweithio i wella addysg, gwaith ieuenctid a chwaraeon ledled Ewrop drwy brosiectau datblygu polisi.
Enghraifft: Mae sefydliadau o sawl gwlad yn cydweithio i ymchwilio i sut mae cynhwysiant ac amrywiaeth yn cael eu hyrwyddo mewn systemau addysg. Maent yn defnyddio’r canfyddiadau i lunio argymhellion ar gyfer gwella polisi ac arfer.
Camau Gweithredu Jean Monnet
Yn cefnogi pobl i ddysgu mwy am yr UE a’i pholisïau, yn enwedig mewn ysgolion a phrifysgolion.
Enghraifft: Mae prifysgol yn datblygu cwrs byr sy’n esbonio sut mae polisïau allweddol yr UE yn gweithio a sut maen nhw’n dylanwadu ar gydweithrediad rhyngwladol â gwledydd y tu allan i’r UE.
Blaenoriaethau Erasmus+
Mae Erasmus+ yn cael ei arwain gan 4 blaenoriaeth lorweddol sy’n berthnasol ar draws y gwahanol gamau gweithredu allweddol.
Dylai ceisiadau am brosiectau arddangos sut maent yn ymateb i o leiaf un o’r blaenoriaethau hyn.
Blaenoriaeth 1: cynhwysiant ac amrywiaeth
Nod y flaenoriaeth hon yw sicrhau mynediad cyfartal i Erasmus+ drwy hyrwyddo gweithgareddau prosiect cynhwysol a hygyrch a thrwy gefnogi pobl sy’n wynebu rhwystrau, gan gynnwys:
- cymdeithasol
- economaidd
- diwylliannol
- daearyddol
- addysgol
Mae hyn yn cefnogi Cenhadaeth Cyfle y llywodraeth drwy flaenoriaethu cyfranogiad gan grwpiau difreintiedig ac yn parhau â’r uchelgais a osodwyd gan Gynllun Turing i ehangu mynediad at gyfleoedd rhyngwladol.
Blaenoriaeth 2: yr amgylchedd a’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd
Mae’r flaenoriaeth hon yn cefnogi’r newid gwyrdd drwy annog ymwybyddiaeth amgylcheddol, ymddygiadau cynaliadwy a datblygu sgiliau sy’n gysylltiedig â gweithredu ar yr hinsawdd ar draws addysg, hyfforddiant a gweithgareddau ieuenctid.
Blaenoriaeth 3: trawsnewid digidol
Mae’r flaenoriaeth hon yn canolbwyntio ar wella sgiliau digidol a chefnogi’r defnydd o offer a dulliau digidol mewn addysg, hyfforddiant a gweithgareddau ieuenctid, gan gynnwys dulliau cymysg ac ar-lein.
Blaenoriaeth 4: cyfranogiad mewn bywyd democrataidd, gwerthoedd cyffredin ac ymgysylltiad dinesig
Mae’r flaenoriaeth hon yn hyrwyddo cyfranogiad mewn bywyd democrataidd ac yn cefnogi cyfleoedd ystyrlon i bobl rannu eu barn a chymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau.
Mae canllaw rhaglen Erasmus+ yn rhoi rhagor o wybodaeth am flaenoriaethau Erasmus+.
Beth mae’r Asiantaeth Genedlaethol yn ei wneud
Yr Adran Addysg (DfE) yw Awdurdod Cenedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+.
Fel yr Awdurdod Cenedlaethol, mae’r Adran Addysg yn goruchwylio’r rhaglen yn y DU ac yn gyfrifol am fonitro a goruchwylio ei rheolaeth.
I gymryd rhan yn Erasmus+, rhaid i’r DU hefyd benodi Asiantaeth Genedlaethol nad yw’n adran o’r llywodraeth.
Mae’r Asiantaeth Genedlaethol hon yn gyfrifol am gyflwyno Erasmus+ yn y DU a rheoli gweithgareddau rheoli anuniongyrchol y rhaglen, sy’n cyfrif am tua 80% o’r cyllid ar gyfer:
-
Cam Gweithredu Allweddol 1 (symudedd dysgu)
-
Cam Gweithredu Allweddol 2 (prosiectau cydweithredu)
Mae eu cyfrifoldebau’n cynnwys:
-
darparu gwybodaeth am y rhaglen
-
adolygu ceisiadau a gyflwynwyd yn eu gwlad
-
monitro a gwerthuso gweithrediad y rhaglen yn eu gwlad
-
cefnogi pobl a sefydliadau sy’n cymryd rhan yn Erasmus+
-
hyrwyddo’r rhaglen a’i gweithgareddau ar lefel leol a chenedlaethol
-
rheoli dyrannu arian a sicrhau ei fod yn cael ei wario’n briodol
Mae’r DfE wedi dechrau trafodaethau gyda’r Cyngor Prydeinig gyda’r bwriad o’u penodi’n Asiantaeth Genedlaethol.
Sut mae cyllid yn gweithio
Mae cyllid Erasmus+ yn cael ei reoli mewn dwy ffordd:
-
yn uniongyrchol gan Asiantaeth Weithredol Addysg a Diwylliant (EACEA) yr UE
-
yn anuniongyrchol drwy Asiantaeth Genedlaethol y DU
Bydd Cam Gweithredu Allweddol eich prosiect yn pennu a fyddwch yn gwneud cais am gronfeydd a reolir yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
Mae sefydliadau, fel prifysgolion neu golegau, yn gwneud cais am gyllid. Nid yw unigolion, fel myfyrwyr a staff, yn gwneud cais yn uniongyrchol ac yn hytrach maent yn derbyn cyllid trwy eu sefydliad.
Rheolaeth anuniongyrchol drwy’r Asiantaeth Genedlaethol
Mae’r rhan fwyaf o weithgareddau Erasmus+ yn cael eu rheoli’n anuniongyrchol drwy Asiantaeth Genedlaethol y DU, mae hyn yn cynnwys:
-
Cam Gweithredu Allweddol 1: cyllid i bobl astudio, hyfforddi neu weithio dramor
-
Cam Gweithredu Allweddol 2: y rhan fwyaf o’r cyllid i sefydliadau gydweithio ar brosiectau ar y cyd
Os yw eich prosiect yn dod o dan y camau gweithredu allweddol hyn, rhaid i chi wneud cais i’r Asiantaeth Genedlaethol.
Bydd yr Asiantaeth Genedlaethol yn gyfrifol am asesu eich cais ac, os bydd yn llwyddiannus, am ddyfarnu cyllid a goruchwylio eich prosiect.
Ar gyfer prosiectau symudedd Cam Gweithredu Allweddol 1, gall cyllid gwmpasu:
-
teithio
-
costau byw
-
ffioedd cwrs
-
costau fisa a mynediad
-
dysgu iaith
-
cymorth sefydliadol
-
ymweliadau paratoadol
Mae cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer pobl ag anableddau, anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai o gefndiroedd difreintiedig. Mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn rhoi rhagor o wybodaeth am y rheolau a’r symiau ariannu.
Gall cyllid prosiect partneriaeth Cam Gweithredu Allweddol 2 gwmpasu unrhyw weithgaredd sy’n berthnasol i gyflawni’r prosiect, megis:
-
rheoli prosiectau (cynllunio, cyllid, cydlynu a chyfathrebu rhwng partneriaid, monitro a goruchwylio)
-
gweithgareddau dysgu
-
gweithgareddau addysgu a hyfforddi
-
cyfarfodydd a digwyddiadau
-
cyflawniadau prosiect (cyhoeddiadau, deunyddiau, dogfennau, offer a chynhyrchion)
-
gweithgareddau sydd â’r nod o wneud y mwyaf o effaith canlyniadau’r prosiect
-
gweithgareddau sydd wedi’u hanelu at rannu canlyniadau’r prosiect
Rheolaeth uniongyrchol
Rheolir gweithgareddau Erasmus+ eraill yn uniongyrchol gan yr UE drwy’r EACEA. Mae hyn yn cynnwys:
-
Cam Gweithredu Allweddol 2: rhywfaint o’r cyllid i sefydliadau gydweithio ar brosiectau mwy ar y cyd
-
Cam Gweithredu Allweddol 3: cyllid ar gyfer prosiectau datblygu polisi a chydweithredu
-
Camau Gweithredu Jean Monnet: cyllid ar gyfer addysgu ac ymchwil ar bynciau’r UE
Os yw eich prosiect yn dod o dan unrhyw un o’r camau gweithredu hyn, rhaid i chi wneud cais yn uniongyrchol i EACEA, nid Asiantaeth Genedlaethol y DU. Bydd yr EACEA yn gyfrifol am asesu eich cais ac, os bydd yn llwyddiannus, am ddyfarnu cyllid a goruchwylio eich prosiect.
Mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn esbonio’n fanylach:
-
pa weithgareddau sy’n dod o dan bob cam gweithredu allweddol
-
unrhyw ofynion cymhwysedd
-
sut i wneud cais
Amserlenni a pharatoi
Disgwylir i’r cylch ariannu nesaf agor ym mis Tachwedd 2026 a chau ym mis Chwefror 2027.
Bydd dyddiadau union yn cael eu cadarnhau yng Nghanllaw Rhaglen Erasmus+ 2027, sy’n debygol o gael ei gyhoeddi yn hydref 2026.
Bydd dyddiadau cau ceisiadau yn dibynnu ar y math o brosiect Erasmus+ rydych chi’n gwneud cais amdano.
Bydd gwefan gyda rhagor o wybodaeth yn cael ei lansio gan Asiantaeth Genedlaethol y DU erbyn Haf 2026. Tan hynny, anogir sefydliadau sydd â diddordeb i ddechrau:
-
meddwl am ba fathau o brosiectau yr hoffent gymryd rhan ynddynt
-
adeiladu neu ehangu partneriaethau â phartneriaid yr UE yn y sector perthnasol
Mae’r camau isod yn amlinellu’r camau nodweddiadol sy’n gysylltiedig â datblygu a chyflwyno cais prosiect Erasmus+, i’ch helpu i ddechrau meddwl am yr hyn y bydd angen i chi ei baratoi.
Cam 1: Penderfynnu ar eich syniad am brosiect
Penderfynwch ar y math o brosiect rydych chi am ei redeg, er enghraifft gallai fod yn brosiect symudedd neu’n brosiect partneriaeth
Mae cronfa ddata ar-lein o brosiectau Erasmus+ blaenorol (https://erasmus-plus.ec.europa.eu/projects) a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer archwilio prosiectau blaenorol a chasglu syniadau.
Cam 2: Gwirio ei fod yn cyd-fynd â blaenoriaethau Erasmus+
Gwnewch yn siŵr bod eich syniad yn cefnogi o leiaf un o flaenoriaethau’r rhaglen
Cam 3: Cofrestru eich sefydliad
Cofrestrwch eich sefydliad er mwyn i chi allu gwneud cais am gyllid:
-
Ar gyfer prosiectau a reolir yn uniongyrchol (a reolir gan Asiantaeth Weithredol Addysg a Diwylliant Ewrop, EACEA): cofrestrwch yn Porth Cyllid a Thendrau’r UE i gael PIC (Cod Adnabod Cyfranogwr).
-
Ar gyfer prosiectau a reolir yn anuniongyrchol (a reolir gan yr Asiantaeth Genedlaethol): cofrestrwch drwy’r System Gofrestru Sefydliadau i dderbyn OID (Rhif Adnabod Sefydliad)
Os yw eich sefydliad wedi cymryd rhan mewn rhaglen arall gan yr UE, gallwch ailddefnyddio ei PIC neu ei OID presennol.
Cam 4: Dod o hyd i bartner(iaid) mewn gwlad gymwys sy’n cymryd rhan
Nodwch sefydliad mewn gwlad sy’n cymryd rhan sy’n rhannu eich nodau ac sydd â diddordeb mewn datblygu’r prosiect gyda chi.
I bori ceisiadau partneriaid a phostio eich syniadau prosiect eich hun gweler:
-
Ar gyfer Ysgolion: Llwyfan Addysg Ysgolion Ewropeaidd
-
Ar gyfer Addysg Oedolion: Chwilio am Bartner EPALE
-
Ar Gyfer Ieuenctid: SALTO‑YOUTH
Cam 5: Datblygu cynnig y prosiect yn fanylach
Gweithiwch gyda’ch partneriaid i gytuno ar amserlen y prosiect, y gweithgareddau, y canlyniadau bwriadedig a sut y bydd y prosiect yn cyflawni’r rhain.
Cam 6: Cwblhau a chyflwyno’r cais
Cwblhewch eich cais yn unol â’r canllawiau cyhoeddedig a’i gyflwyno erbyn y dyddiad cau yng Nghanllaw Rhaglen Erasmus+.