Canllawiau

Canllawiau rhaglen Erasmus+ ar gyfer ysgolion

Cyhoeddwyd 16 Ebrill 2026

Trosolwg

Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth am y gweithgareddau Erasmus+ y gall ysgolion wneud cais amdanynt.

Mae Trosolwg o’r rhaglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o wybodaeth am sut mae’r rhaglen Erasmus+ yn gweithio.

Mae Erasmus+ yn rhaglen sy’n darparu cyllid grant i ddisgyblion ysgol, athrawon a staff ysgol eraill dreulio amser dramor ar weithgareddau dysgu, hyfforddi neu waith. Mae hefyd yn darparu cyllid i ysgolion weithio gyda sefydliadau mewn gwledydd eraill ar brosiectau a rennir.

Manteision i ddisgyblion

I ddisgyblion, gall Erasmus+ agor drysau i ddiwylliannau, ieithoedd, syniadau a phrofiadau newydd.

Gall cymryd rhan mewn ymweliad rhyngwladol helpu disgyblion i:

  • meithrin hyder

  • datblygu annibyniaeth

  • deall diwylliannau ac ieithoedd eraill

Manteision i staff

I athrawon, arweinwyr ysgolion a staff eraill ysgolion, mae Erasmus+ yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol rhyngwladol.

Drwy dreulio amser mewn ysgol neu sefydliad partner, gall staff ddysgu dulliau newydd o addysgu a dod â syniadau newydd yn ôl i’r ystafell ddosbarth. 

Mathau o gyllid sydd ar gael

Gall y sefydliadau canlynol wneud cais am gyllid Erasmus+:

-  ysgolion

  • ymddiriedolaethau academi

  • awdurdodau lleol

  • darparwyr addysg bellach (AB) sy’n cynnig cymwysterau academaidd

  • sefydliadau eraill sy’n ymwneud ag addysg ysgol

Mae 3 phrif fath o gyllid:

  • Cam Gweithredu Allweddol 1: sy’n ariannu ymweliadau dramor, a elwir yn ‘symudeddau

  • Cam Gweithredu Allweddol 2: sy’n darparu cyllid i sefydliadau gydweithio ar brosiectau cydweithredol, a elwir yn ‘bartneriaethau ar gyfer cydweithredu’

  • Camau Gweithredu Jean Monnet: sy’n ariannu mentrau i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd

Prosiectau Erasmus+

Pan yw sefydliad yn gwneud cais am gyllid Erasmus+, mae’n gwneud cais am ‘brosiect’.

Prosiect yw’r rhaglen waith y mae’r sefydliad yn bwriadu ei chyflawni gyda’r cyllid, boed hwn yn brosiect symudedd neu’n brosiect partneriaeth.

Mae’n disgrifio beth mae’r sefydliad yn bwriadu ei wneud gyda’r cyllid, gan gynnwys y gweithgareddau y bydd yn eu cynnal a’r amcanion y mae’n anelu at eu cyflawni, megis:

  • datblygu sgiliau staff

  • gwella sgiliau iaith ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol myfyrwyr

Disgwylir i’r cylch ariannu nesaf agor ym mis Tachwedd 2026.

Cam Gweithredu Allweddol 1: prosiectau symudedd

Ymweliadau dramor ar gyfer disgyblion neu staff addysg yw symudeddau.

Rhaid i bob symudedd fod yn:

  • Addysgol: wedi’i gynllunio i helpu cyfranogwyr i ddysgu neu ddatblygu gwybodaeth, sgiliau, agweddau a chymwyseddau newydd

  • Trawswladol: yn dod â phobl o wahanol wledydd at ei gilydd er mwyn iddynt allu cyfnewid syniadau a dysgu oddi wrth ei gilydd

  • Strwythuredig: yn dilyn cynllun clir, gyda rhaglen, dull a chanlyniadau dysgu disgwyliedig y cytunwyd arnynt

  • Strategol: yn cyfrannu at ystod ehangach o amcanion prosiect

Cyfleoedd i ddisgyblion

Mae cyllid ar gael i ddisgyblion deithio i ysgol neu sefydliad partner fel rhan o grŵp neu’n unigol.

Symudedd grŵp

Gall grwpiau o hyd at 30 o ddisgyblion (ynghyd â staff) ymweld ag ysgol bartner dramor am 2 ddiwrnod i 1 mis. 

Nid oes isafswm oedran ar gyfer lleoliadau Erasmus+, gall disgyblion o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a myfyrwyr AB sy’n gwneud Lefelau A neu gymwysterau academaidd eraill gymryd rhan.

I fyfyrwyr sy’n gwneud cymwysterau galwedigaethol, mae cyllid ar gael trwy ffrwd Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) Erasmus+.

Gall y symudedd fod mewn unrhyw faes cwricwlwm, neu gallai fod ar gyfer prosiect trawsgwricwlaidd neu gyfoethogi. 

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • prosiectau theatr neu gerddoriaeth

  • cyfnewidiadau iaith

  • gweithgareddautrawsgwricwlaidd neu gyfoethogi

Rhaid i symudeddau grŵp ysgol Erasmus+:

  • cynnwys disgyblion o 2 wlad o leiaf

  • digwydd dramor, fel arfer yn yr ysgol neu’r sefydliad partner (gall rhai gweithgareddau ddigwydd oddi ar y safle am resymau addysgol)

  • cynnwys athrawon neu aelodau staff eraill sy’n dod gyda nhw

  • peidio â bod yn deithiau twristaidd neu hamdden yn unig - fel teithiau sgïo

Symudedd disgybl unigol

Gall disgyblion astudio mewn ysgol bartner neu gwblhau interniaeth dramor.

Symudeddau tymor byr: yn parhau rhwng 10 a 29 diwrnod.

Symudeddau tymor hir: hyd at 1 flwyddyn.

Cyfleoedd i staff

Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i athrawon, arweinwyr ysgolion neu ymddiriedolaethau, neu staff addysgol eraill gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau datblygiad proffesiynol. 

Mae treulio amser mewn ysgol bartner dramor yn caniatáu i staff ddysgu gan eu cyfoedion mewn gwledydd eraill a phrofi system addysg wahanol yn uniongyrchol. Gall hyn gefnogi staff i roi cynnig ar ddulliau addysgu newydd a chryfhau eu sgiliau.

Cysgodi swyddi

Gall staff ysgol ymweld ag ysgol mewn gwlad Erasmus+ arall i arsylwi addysgu a dysgu.

Hyd: Gall symudedd cysgodi swydd barhau o 2 ddiwrnod i 1 mis.

Addysgu dramor

Treulio amser yn addysgu mewn ysgol bartner neu hyfforddi staff addysg yn eich ysgol bartner.

Hyd: Gall aseiniad addysgu fod rhwng 2 ddiwrnod a blwyddyn.

Cyrsiau hyfforddi

Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i staff addysg fynychu cyrsiau hyfforddi mewn gwlad Erasmus+ arall.

Hyd: Gallai cwrs hyfforddi barhau rhwng 2 a 10 diwrnod. 

Croesawu arbenigwr addysg

Gall ysgolion, ymddiriedolaethau neu awdurdodau lleol wahodd athrawon, hyfforddwyr neu arbenigwyr addysg eraill i ddarparu hyfforddiant, arddangos dulliau addysgu newydd neu rannu arfer gorau.

Hyd: Gallwch groesawu arbenigwr gwadd am rhwng 2 ddiwrnod a 1 mis.

Croesawu athro/athrawes dan hyfforddiant

Gall ysgolion groesawu athro dan hyfforddiant o ysgol bartner.

Hyd: Gallwch groesawu am gyfnod o 10 diwrnod i 1 flwyddyn.

Sut i wneud cais am gyllid prosiect symudedd

Ni all disgyblion na staff unigol wneud cais yn uniongyrchol am gyllid Erasmus+. Rhaid i geisiadau gael eu gwneud gan:

  • ysgolion

  • ymddiriedolaethau academi

  • awdurdodau lleol

  • sefydliadau cymwys eraill

Cyflwynir ceisiadau i Asiantaeth Genedlaethol y Deyrnas Unedig (DU).

Gall ysgolion, ymddiriedolaethau academi, awdurdodau lleol a sefydliadaueraill sy’n gysylltiedig ag addysg wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau symudedd tymor byr. Mae hyn yn cynnwys:

  • lleoliadau blynyddoedd cynnar, fel meithrinfeydd,

  • ysgolion cynradd

  • ysgolion uwchradd, gan gynnwys darparwyr addysg bellach sy’n cynnig Lefelau A

  • awdurdodau lleol

  • ymddiriedolaethau academi

  • sefydliadau eraill sy’n ymwneud ag addysg ysgol

Gweler Canllaw Rhaglen Erasmus+ am ragor o wybodaeth am yr hyn i’w gynnwys yn eich cais, gan gynnwys y meini prawf dyfarnu ar gyfer cyllid.

Mae Trosolwg o raglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o fanylion am yr hyn sy’n cael ei gynnwys yn y cyllid.

Sut i sefydlu prosiect symudedd

Cam 1: Gwirio a yw eich ysgol yn gymwys

Darllenwch y canllawiau yn ‘sut i wneud cais am gyllid ar gyfer Cam Gweithredu Allweddol 1’ a’r Canllaw Rhaglen Erasmus+ i gadarnhau bod eich ysgol yn bodloni’r gofynion cymhwysedd.

Cam 2: Dod o hyd i bartneriaid

Defnyddiwch lwyfannau ar-lein Erasmus+ fel y Llwyfan Addysg Ysgolion Ewropeaidd i ddod o hyd i bartneriaid neu barhau i weithio gydag ysgolion rydych chi eisoes yn eu hadnabod yn Ewrop.

Cam 3: Cofrestru eich sefydliad

Cam 4: Cynllunio eich prosiect symudedd

Gweithiwch gyda’ch ysgol neu sefydliad partner Erasmus+ i gytuno ar weithgareddau ac amcanion.

Cam 5: Gwirio’r dyddiadau cau

Cyhoeddir dyddiadau cau ar gyfer cyllid Erasmus+ ar wefan yr Asiantaeth Genedlaethol.

Cam 6: Paratoi eich cais

Darparwch wybodaeth allweddol am eich sefydliad, amlinellwch y nodau rydych chi am eu cyflawni drwy eich prosiect tymor byr, a disgrifiwch y gweithgareddau rydych chi’n bwriadu eu cynnal.

Cam 7: Cyflwyno eich cais

Gwnewch gais drwy Asiantaeth Genedlaethol y DU.

Cam Gweithredu Allweddol 2: Partneriaethau

Mae cyllid Erasmus+ ar gael ar gyfer partneriaethau sy’n gwella ansawdd addysgu, dysgu neu addysg. Mae’r partneriaethau hyn yn rhan o Gam Gweithredu Allweddol 2.

Mae’n darparu cyllid i sefydliadau gydweithio ar brosiectau cydweithredol, a elwir yn ‘bartneriaethau ar gyfer cydweithredu’.

Partneriaethau ar raddfa fach

Mae partneriaethau bach yn cefnogi ysgolion i gymryd rhan mewn prosiectau Erasmus+ bach ac ystyrlon sy’n gwella addysgu a dysgu.

Mae partneriaethau bach yn cefnogi prosiectau syml ac ymarferol. Maent yn addas ar gyfer ysgolion sy’n newydd i Erasmus+ ac yn addas ar gyfer ysgolion unigol, o’r blynyddoedd cynnar i’r uwchradd.

Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer ariannu rhaid i brosiectau:

  • cynnwys o leiaf 2 sefydliad o wahanol wledydd

  • parhau 6 mis i 2 flynedd

  • bodloni o leiaf un flaenoriaeth lorweddol Erasmus+

Beth all ysgolion ei wneud fel rhan o bartneriaeth ar raddfa fach

Mae ysgolion yn cynllunio ac yn cynnal prosiect gydag ysgol neu sefydliad partner dramor, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol sy’n helpu athrawon a disgyblion i ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Gall gweithgareddau gynnwys:

  • cyfarfodydd ar-lein neuwyneb yn wyneb

  • rhannu syniadau addysgu

  • gweithio gyda grwpiau cymunedol

  • cynnal gweithdai gyda disgyblion

  • profi dulliau newydd yn yr ystafell ddosbarth

Mae gwefan chwilio am brosiectau Erasmus+ yn darparu cronfa ddata o brosiectau parhaus a phrosiectau wedi’u cwblhau, lle gall ysgolion archwilio enghreifftiau o sut mae eraill wedi defnyddio cyllid Erasmus+.

Sut i wneud cais

Dewiswch grant o €30,000 neu €60,000, yn dibynnu ar anghenion eich prosiect.

Wrth gynllunio eich prosiect, bydd angen i chi a’ch partneriaid prosiect ddewis yr opsiwn grant priodol i dalu cost y prosiect. Bydd hyn yn seiliedig ar anghenion ac amcanion y prosiect, a’r gweithgareddau rydych chi’n bwriadu eu gwneud.

Gwneir ceisiadau am bartneriaethau ar raddfa fach drwy Asiantaeth Genedlaethol y DU.

I wneud cais, rhaid i chi:

Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif mewngofnodi’r UE neu OID.

Partneriaethau cydweithredu

Dyma brosiectau mwy sy’n cynnwys:

  • o leiaf 3 sefydliad

  • o leiaf 3 gwlad rhaglen Erasmus+

  • hyd o 1 i 3 blynedd

Mae’r math hwn o brosiect yn addas ar gyfer sefydliadau mawr fel ymddiriedolaethau aml-academi, awdurdodau lleol neu sefydliadau hyfforddi athrawon. Gall ysgolion unigol hefyd gymryd rhan fel partneriaid.

Nod partneriaethau cydweithredu yw cefnogi datblygiad arferion arloesol a hyrwyddo cydweithredu a chyfnewid syniadau ar lefel Ewropeaidd.  Disgwylir i brosiectau a ddewisir rannu canlyniadau eu gwaith ar bob lefel, gan gynnwys:

  • lleol

  • rhanbarthol

  • cenedlaethol

  • rhyngwladol

Cymhwysedd

Er mwyn cael ei hystyried ar gyfer cyllid, rhaid i bartneriaeth gydweithredu fynd i’r afael ag un flaenoriaeth lorweddol Erasmus+.

Sut i wneud cais

Dewiswch grant o €120,000, €250,000, neu €400,000.

Wrth gynllunio eich prosiect, bydd angen i chi a’ch partneriaid prosiect ddewis yr opsiwn grant priodol i dalu cost y prosiect. Bydd hyn yn seiliedig ar anghenion ac amcanion y prosiect, a’r gweithgareddau rydych chi’n bwriadu eu gwneud.

Gwneir ceisiadau am bartneriaethau cydweithredu drwy Asiantaeth Genedlaethol y DU.

I wneud cais, rhaid i chi:

Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif mewngofnodi’r UE neu OID.

Partneriaeth Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Ysgolion

Mae’r cyllid hwn yn cefnogi cydweithredu rhwng ysgolion a sefydliadau eraill sy’n rhan o addysg ysgolion ar draws gwledydd sy’n rhan o Erasmus+.  Y pwrpas yw:

  • gwella ansawdd addysgu a dysgu drwy gydweithio rhyngwladol

  • cryfhau gallu’r ysgol i gynnig mwy o symudedd dysgu i ddisgyblion a staff

  • annog arloesi mewn addysgu a dysgu drwy rannu arfer gorau ar draws gwledydd

Gall prosiectau ddewis o weithgareddau mewn 2 brif gategori:

  • Gwella ansawdd addysgu a dysgu

  • meithrin capasiti ar gyfer cydweithredu trawsffiniol mewn addysg ysgol

Mae hyn yn cefnogi ysgolion, ymddiriedolaethau ac awdurdodau lleol i ddatblygu’r systemau a’r sgiliau i gydweithio’n effeithiol ag ysgolion mewn gwledydd Ewropeaidd eraill.

Mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn cynnwys y rhestr lawn o weithgareddau sy’n cael eu cefnogi gan y cyllid hwn. 

Rhaid i brosiectau:

  • cynnwys o leiaf 6 sefydliad

  • parhau 3 blynedd

  • canolbwyntio ar wella ansawdd addysgu neu adeiladucydweithredu trawsffiniol

Cymhwysedd

Mae’r math hwn o gyllid wedi’i anelu at:

  • awdurdodau lleol

  • ymddiriedolaethau academi

  • darparwyr blynyddoedd cynnar

  • ysgolion cynradd ac uwchradd

  • cyrff cydlynu eraill

Sut i wneud cais

Mae cyllid ar gael fel cyfandaliad o €400,000.

Gwneir ceisiadau am Bartneriaethau Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Ysgolion drwy Asiantaeth Genedlaethol y DU.

I wneud cais, rhaid i chi:

Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif mewngofnodi’r UE neu OID.

Academïau Athrawon

Mae Academïau Athrawon yn bartneriaethau rhyngwladol sy’n dwyn ynghyd sefydliadau sy’n ymwneud ag addysg a hyfforddiant athrawon. Eu pwrpas yw cryfhau cydweithrediad rhyngwladol rhwng darparwyr hyfforddiant athrawon ac adeiladu rhwydweithiau a chymunedau sy’n canolbwyntio ar ymarfer sy’n cefnogi addysg athrawon.

Darperir cyllid i ddatblygu a phrofi modiwlau hyfforddi newydd gyda phartneriaid rhyngwladol ac i gefnogi cyfleoedd ar gyfer symudedd athrawon ledled Ewrop a gwledydd eraill sy’n rhan o raglen Erasmus+.

Cymhwysedd

Mae’r cyllid hwn ar gyfer darparwyr addysg athrawon gan gynnwys sefydliadau addysg uwch (AU) neu addysg bellach sy’n darparu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA) a hyfforddiant cychwynnol athrawon sy’n canolbwyntio ar yr ysgol (SCITT).

Sut i wneud cais

Mae cyllid ar gyfer Academïau Athrawon ar gael fel grant cyfandaliad ac fe’i rheolir yn uniongyrchol gan yr UE.

Gwneir ceisiadau am gyllid drwy Asiantaeth Weithredol Addysg a Diwylliant Ewrop (EACEA).

I wneud cais, rhaid i chi:

  • greu mewngofnod yr UE cyfrif i gael mynediad i byrth ar-lein Erasmus+

  • yna cofrestrwch eich sefydliad drwy Borth Cyllid a Thendrau’r UE i gael Cod Adnabod Cyfranogwr (PIC). Mae hwn yn adnabyddwr unigryw 9 digid a roddir i sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni ariannu’r UE, gan gynnwys Erasmus+.

Camau Gweithredu Jean Monnet

Hyfforddiant Athrawon Jean Monnet

Mae’r cyllid hwn ar gyfer darparwyr hyfforddiant athrawon i ddatblygu deunyddiau dysgu a modiwlau cwrs sy’n helpu ysgolion a darparwyr Addysg Bellach neu Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol i ddysgu mwy am yr Undeb Ewropeaidd a’i sefydliadau.

Cymhwysedd

Mae’r rhai sy’n gymwys yn cynnwys:

  • Sefydliadau AU neu AB sy’n darparu hyfforddiant cychwynnol athrawon

  • darparwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon sy’n Canolbwyntio ar yr Ysgol (SCITT)

  • darparwyr hyfforddiant athrawon sy’n rhoi hyfforddiant mewn swydd i athrawon mewn ysgolion

Mentrau dysgu Jean Monnet yr UE

Mae mentrau dysgu Jean Monnet yr UE yn cefnogi ysgolion i addysgu am bynciau sy’n gysylltiedig â’r UE, megis:

-  democratiaeth

Mae mentrau dysgu Jean Monnet yr UE yn cefnogi ysgolion i addysgu am bynciau sy’n gysylltiedig â’r UE, megis:

  • Hanes yr UE

Gall gweithgareddau enghreifftiol gynnwys gwersi am yr UE, wythnosau prosiect ac ymweliadau addysgol. Gellir ymgorffori’r rhain yn y cwricwlwm neu eu cynnig fel gweithgareddau allgyrsiol. 

Gall ysgolion ddylunio a chyflwyno cynnwys eu hunain neu weithio gyda sefydliadau addysg uwch, elusennau a sefydliadau eraill.

Cymhwysedd

I fod yn gymwys, rhaid i brosiectau ddarparu o leiaf 40 awr addysgu y flwyddyn am 3 blynedd yn olynol. Y grant uchaf fesul prosiect yw €35,000.

Rhwydweithiau Jean Monnet ar gyfer ysgolion

Mae Rhwydweithiau Jean Monnet yn dwyn ynghyd ysgolion, darparwyr AB neu VET a sefydliadau hyfforddi athrawon i gryfhau addysgu pynciau sy’n gysylltiedig â’r UE ac i gydweithio â phartneriaid mewn gwledydd Erasmus+ eraill.

Mae sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn Rhwydwaith Jean Monnet yn cydweithio i wella sut mae pynciau’r UE yn cael eu haddysgu. Dylai gweithgareddau ganolbwyntio ar rannu arbenigedd, datblygu dulliau ar y cyd, a chryfhau cydweithredu rhwng ysgolion, darparwyr addysg a hyfforddiant athrawon, a sefydliadau hyfforddi athrawon.

Sut i wneud cais am Gamau Gweithredu Jean Monnet

Gwneir ceisiadau am Gamau Gweithredu Jean Monnet drwy Asiantaeth Weithredol Addysg a Diwylliant Ewrop (EACEA).

I wneud cais, rhaid i chi:

  • greu mewngofnod yr UE cyfrif i gael mynediad i byrth ar-lein Erasmus+

  • yna cofrestrwch eich sefydliad drwy Borth Cyllid a Thendrau’r UE i gael Cod Adnabod Cyfranogwr (PIC). Mae hwn yn adnabyddwr unigryw 9 digid a roddir i sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni ariannu’r UE, gan gynnwys Erasmus+.

Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif mewngofnodi’r UE neu PIC.