Canllawiau

Canllawiau rhaglen Erasmus+ ar gyfer addysg oedolion

Cyhoeddwyd 16 Ebrill 2026

Trosolwg

Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth am y gweithgareddau Erasmus+ y gall sefydliadau addysg oedolion wneud cais amdanynt.

Trosolwg o’r rhaglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o wybodaeth am sut mae’r rhaglen Erasmus+ yn gweithio.

Cyflwyniad

Mae Erasmus+ yn rhaglen sy’n darparu cyllid i ddysgwyr sy’n oedolion a staff gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu, hyfforddi neu weithio dramor. Mae hefyd yn ariannu partneriaethau rhwng darparwyr addysg i oedolion a sefydliadau mewn gwledydd eraill.

Mae hefyd yn darparu cyllid i ddarparwyr addysg oedolion weithio gyda sefydliadau mewn gwledydd eraill ar brosiectau datblygu a rennir.

Manteision i ddysgwyr sy’n oedolion

Mae Erasmus+ yn helpu dysgwyr i:

  • meithrin sgiliau allweddol

  • ennill hyder

  • ehangu eu profiad

  • cymryd rhan mewn cyfleoedd addysgol na fyddent fel arall yn gallu eu cyrchu

Manteision i staff a sefydliadau

Mae’r rhaglen yn cefnogi:

  • datblygiad proffesiynol

  • helpu darparwyr i adeiladu’r capasiti sydd ei angen i gefnogi ansawdd uchel

  • gwelliannau yn ansawdd a chynhwysiant addysg oedolion

Mathau o gyllid sydd ar gael

Mae 2 fath o gyllid Erasmus+ ar gael i sefydliadau addysg oedolion.

  • Cam Gweithredu Allweddol 1 sy’n ariannu ymweliadau dramor, a elwir yn ‘symudeddau’

  • Cam Gweithredu Allweddol 2 sy’n darparu cyllid i sefydliadau gydweithio ar brosiectau cydweithredol, a elwir yn ‘bartneriaethau ar gyfer cydweithredu’

Prosiectau Erasmus+

Pan fydd sefydliad yn gwneud cais am gyllid Erasmus+, mae’n gwneud cais am ‘brosiect’. Mae angen i chi nodi:

  • beth mae eich sefydliad yn bwriadu ei wneud

  • pa weithgareddau fydd yn cael eu cyflwyno

  • yr amcanion rydych chi’n anelu at eu cyflawni, megis datblygu sgiliau staff neu wella sgiliau iaith ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol dysgwyr

  • a yw hwn yn brosiect symudedd neu’n brosiect partneriaeth

Disgwylir i’r cylch ariannu nesaf agor ym mis Tachwedd 2026.

Sut i wneud cais am gyllid i brosiect

Ni all dysgwyr unigol nac aelodau staff wneud cais yn uniongyrchol. Rhaid i geisiadau gael eu gwneud gan sefydliad addysg oedolion cymwys.

Mae sefydliadau cymwys yn cynnwys y rhai sy’n cynnig:

  • addysg ffurfiol, anffurfiol neu heb fod yn ffurfiol i oedolion

  • gwasanaethau dysgu a chymorth cymunedol

  • rhaglenni ar gyfer oedolion anabl neu ddysgwyr hŷn

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • canolfannau dysgu i oedolion

  • llyfrgelloedd

  • gwasanaethau cwnsela neu arweiniad

  • sefydliadau sy’n cefnogi dysgwyr neu bobl hŷn sy’n anabl

  • awdurdodau cyhoeddus a chyrff cydlynu sy’n ymwneud ag addysg i oedolion

I gael rhagor o wybodaeth am sefydliadau cymwys, cyfeiriwch at:

Ble i wneud cais

Mae’r rhan fwyaf o brosiectau (Cam Gweithredu Allweddol 1 a’r rhan fwyaf o Gam Gweithredu Allweddol 2) yn cael eu rheoli gan Asiantaeth Genedlaethol y Deyrnas Unedig (DU). 

Mae rhai prosiectau Cam Gweithredu Allweddol 2 yn cael eu rheoli gan Asiantaeth Weithredol Addysg a Diwylliant Ewrop.

Gweler Trosolwg o’r rhaglen Erasmus+ am esboniad mwy manwl o sut mae cyllid Erasmus+ yn gweithio.

Gofynion cofrestru

I wneud cais drwy Asiantaeth Genedlaethol y DU, rhaid i sefydliadau:

I wneud cais drwy EACEA, rhaid i sefydliadau:

  • creu cyfrif Mewngofnodi’r UE am God Adnabod Cyfranogwr (PIC). Mae hwn yn adnabyddwr unigryw 9 digid a roddir i sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni ariannu’r UE, gan gynnwys Erasmus+.

Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru ar gyfer OID neu PIC.

Am ganllawiau pellach, gweler Trosolwg o’r rhaglen Erasmus+.

Cam Gweithredu Allweddol 1: Symudeddau rhyngwladol

Gelwir ymweliadau dramor yn ‘symudeddau’ yn Erasmus+. Mae Erasmus+ yn cynnig cyllid i ddysgwyr a staff mewn addysg oedolion deithio i wlad arall, gan roi cyfleoedd iddynt ennill profiad rhyngwladol a datblygu sgiliau newydd.

Rhaid i bob gweithgaredd symudedd dysgu fod yn:

  • Addysgol: wedi’i gynllunio i helpu cyfranogwyr i ddysgu neu ddatblygu gwybodaeth, sgiliau, agweddau a chymwyseddau newydd

  • Trawswladol: yn dod â phobl o wahanol wledydd at ei gilydd er mwyn iddynt allu cyfnewid syniadau a dysgu oddi wrth ei gilydd

  • Strwythuredig: yn dilyn cynllun clir, gyda rhaglen, dull a chanlyniadau dysgu disgwyliedig y cytunwyd arnynt

  • Strategol: yn cyfrannu at set ehangach o amcanion prosiect

Cyfleoedd i ddysgwyr sy’n oedolion

Gall dysgwyr sy’n oedolion gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu strwythuredig dramor drwy Erasmus+, naill ai fel rhan o grŵp neu’n unigol.

Mae’r cyfleoedd hyn yn caniatáu i ddysgwyr:

  • meithrin annibyniaeth

  • ennill hyder

  • cymryd rhan mewn rhaglenni sy’n cefnogi eu datblygiad personol ac addysgol

Nid oes terfyn oedran ar gyfer lleoliadau Erasmus+ mewn addysg oedolion, felly gall y rhai o dan 18 oed sydd wedi cofrestru ar raglen addysg oedolion gymryd rhan yn ogystal â’r rhai dros 18 oed.

Mae symudeddau yn cael eu cynllunio gyda sefydliad addysg oedolion partner o wlad sy’n rhan o raglen Erasmus+. Chi sy’n dewis hyd yr arhosiad a’r gweithgareddau rydych chi’n eu gwneud gyda’ch gilydd.

Symudedd grŵp

Gall grwpiau o 2 neu fwy o ddysgwyr sy’n oedolion deithio i wlad arall i ddysgu neu wirfoddoli gyda sefydliad partner.

Mae’r ymweliadau hyn yn cael eu cynllunio gyda’r sefydliad sy’n cynnal y daith a gallent gynnwys amrywiaeth o weithgareddau dysgu gwahanol, fel cymryd rhan mewn ymweliad diwylliannol neu ymuno â gweithdy ymarferol i helpu i feithrin sgiliau ymarferol.

Hyd: gall symudedd grŵp barhau rhwng 2 a 30 diwrnod.

Symudedd dysgwr unigol

Gall dysgwyr unigol gymryd rhan mewn symudedd dysgu dramor. 

Mae’r symudedd yn cael ei gynllunio gyda’r sefydliad sy’n cynnal y gwaith a gallai gynnwys gweithgareddau dysgu fel:

  • gweithio gyda hyfforddwr i feithrin hyder a datblygu strategaethau dysgu personol

  • ymuno â thasgau ymarferol dan arweiniad sy’n helpu i wella llythrennedd a sgiliau bob dydd mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn

Hyd: gall symudedd unigol barhau o 2 ddiwrnod i 1 flwyddyn.

Cyfleoedd i staff

Gall staff sy’n gweithio ym maes addysg oedolion gymryd rhan mewn gweithgareddau Erasmus+ sy’n cefnogi eu datblygiad proffesiynol.

Mae treulio amser gyda sefydliad partner dramor yn helpu staff i:

  • dysgu dulliau newydd

  • cyfnewid arferion da

  • dod â syniadau ffres yn ôl i’w sefydliad

Cysgodi swyddi

Gall staff sy’n gweithio ym maes addysg oedolion ymweld â sefydliad partner mewn gwlad Erasmus+ arall i arsylwi addysgu, hyfforddiant neu arferion proffesiynol eraill. Mae hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw weld sut mae dysgu oedolion yn cael ei drefnu a’i gyflwyno mewn lleoliad gwahanol.

Hyd: gall symudedd cysgodi swydd barhau rhwng 2 ddiwrnod a 2 fis.

Addysgu dramor

Gall staff dreulio amser yn addysgu neu’n hyfforddi mewn sefydliad partner dramor, gan eu galluogi i:

  • profi amgylchedd dysgu oedolion gwahanol

  • rhannu eu dulliau eu hunain

  • dysgu gan gydweithwyr mewn lleoliad arall

Hyd: gall aseiniad addysgu neu hyfforddi barhau o 2 ddiwrnod i 1 flwyddyn.

Mynychu cwrs hyfforddi yn Ewrop

Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i staff sy’n gweithio ym maes addysg oedolion fynychu cyrsiau hyfforddi strwythuredig mewn gwlad arall o Erasmus+, gan roi cyfle iddynt ddatblygu eu harfer a meithrin sgiliau proffesiynol.

Hyd: mae’r cyrsiau hyn fel arfer yn parhau rhwng 2 a 10 diwrnod.

Croesawu arbenigwr gwadd

Gall sefydliadau wahodd hyfforddwyr, athrawon, arbenigwyr polisi neu weithwyr proffesiynol cymwys eraill o dramor i helpu i wella addysgu, hyfforddiant a dysgu yn eu sefydliad.

Er enghraifft, gallai’r arbenigwyr gwadd hyn hyfforddi staff neu arddangos dulliau addysgu newydd.

Hyd: gall symudeddau arbenigwyr gwadd barhau rhwng 2 ddiwrnod a 2 fis.

Sut i wneud cais am gyllid prosiect symudedd

Ni all disgyblion unigol nac aelodau staff wneud cais am gyllid Erasmus+.  Rhaid gwneud ceisiadau am gyllid Erasmus+ drwy sefydliad addysg oedolion.

Gwneir ceisiadau am brosiectau symudedd drwy Asiantaeth Genedlaethol y DU.

Gweler Canllaw’r Rhaglen Erasmus+ am ragor o wybodaeth am yr hyn i’w gynnwys yn eich cais, gan gynnwys y meini prawf dyfarnu ar gyfer cyllid.

Am fanylion pellach ar yr hyn sy’n cael ei gynnwys yn y cyllid gweler Trosolwg o’r rhaglen Erasmus+.

Sut i sefydlu prosiect symudedd Erasmus+

Cam 1: Gwirio a yw’n gymwys

Darllenwch y canllawiau yn yr adrannau ar ‘sut i wneud cais am gyllid prosiect’ a Chanllaw Rhaglen Erasmus+ i gadarnhau bod eich sefydliad yn bodloni’r gofynion cymhwysedd.  

Cam 2: Dod o hyd i bartneriaid Ewropeaidd

Defnyddiwch lwyfannau ar-lein Erasmus+ fel EPALE (y Llwyfan Electronig ar gyfer Dysgu Oedolion yn Ewrop) i ddod o hyd i bartneriaid neu i barhau i weithio gyda darparwyr addysg oedolion neu sefydliadau cysylltiedig rydych chi eisoes yn eu hadnabod yn Ewrop.  

Cam 3: Cofrestru eich sefydliad

Crëwch gyfrif mewngofnodi’r UE a chyrchwch system gofrestru’r sefydliad ar gyfer Erasmus+ a chael ID Sefydliad (OID). 

Cam 4: Cynllunio eich prosiect symudedd

Gweithiwch gyda’ch sefydliad partner Erasmus+ i gynllunio’r gweithgareddau rydych chi am eu gwneud a’r hyn rydych chi am ei gyflawni ar y symudedd.  

Cam 5: Gwirio’r dyddiadau cau

Cyhoeddir dyddiadau cau ar gyfer cyllid Erasmus+ ar wefan Asiantaeth Genedlaethol y DU.  

Cam 6: Paratoi eich cais

Wrth lenwi’r ffurflen gais, byddwch yn darparu gwybodaeth allweddol am eich sefydliad, yn amlinellu’r nodau rydych chi am eu cyflawni trwy eich prosiect, ac yn disgrifio’r gweithgareddau rydych chi’n bwriadu eu cynnal. 

Cam 7: Cyflwyno eich cais

Gwnewch gais drwy Asiantaeth Genedlaethol y DU.

Cam Gweithredu Allweddol 2: Partneriaethau

Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i ddarparwyr addysg oedolion ddatblygu partneriaethau â sefydliadau perthnasol mewn gwahanol wledydd. 

Mae partneriaethau’n cefnogi cydweithredu, arloesi a chyfnewid arferion da.

Maen nhw’n helpu sefydliadau i:

  • gwella ansawdd eu gwaith

  • datblygu dulliau newydd

  • cryfhau capasiti

  • cydweithio ar draws sectorau amrywiol i fynd i’r afael ag anghenion a blaenoriaethau cyffredin

Partneriaethau ar raddfa fach

Mae’r partneriaethau hyn:

  • yn parhau am 6 mis i 2 flynedd

  • yn gorfod cynnwys o leiaf 2 sefydliad o wahanol wledydd

  • yn cynnwys cyllid: hyd at €60,000

  • yn cael eu cynllunio ar gyfer sefydliadau llai neu newydd-ddyfodiaid i Erasmus+

Sut i wneud cais

Mae angen i ymgeiswyr wneud cais i’r EACEA.