Canllawiau rhaglen Erasmus+ ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET)
Cyhoeddwyd 16 Ebrill 2026
Trosolwg
Mae’r dudalen hon yn egluro’r gweithgareddau Erasmus+ y gall darparwyr Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) wneud cais amdanynt.
Mae Trosolwg o raglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o wybodaeth am sut mae rhaglen Erasmus+ yn gweithio.
Cyflwyniad
Mae Erasmus+ yn darparu cyllid grant i ddysgwyr VET, prentisiaid, graddedigion diweddar a staff i gymryd rhan mewn gweithgareddau astudio, hyfforddi neu weithio dramor. Mae hefyd yn ariannu prosiectau ar y cyd rhwng sefydliadau VET a phartneriaid dramor.
Mae darparwyr VET cymwys yn cynnwys:
-
colegau addysg bellach (AB)
-
ysgolion a darparwyr hyfforddiant sy’n cynnig cymwysterau technegol galwedigaethol (megis Lefelau T neu BTECs)
-
gweithleoedd a sefydliadau sy’n darparu prentisiaethau
Gall darparwyr AB fod yn gymwys ar gyfer mwy nag un math o gyllid Erasmus+, yn dibynnu ar y cyrsiau maen nhw’n eu cynnig. Gall darparwyr wneud cais am fwy nag un ffrwd ariannu. Dyma rai ffrydiau ariannu eraill y gallai darparwyr Addysg Bellach yn y Deyrnas Unedig (DU) fod yn gymwys ar eu cyfer:
-
Cyllid ysgolion Erasmus+, ar gyfer darparwyr sy’n cynnig cymwysterau academaidd fel Lefelau A
-
Cyllid Addysg Uwch Erasmus+, ar gyfer darparwyr sydd â Siarter Addysg Uwch Erasmus (ECHE) ddilys, neu sy’n cyflenwi darpariaeth addysg uwch mewn trefniant masnachfraint gyda darparwr addysg uwch arweiniol sydd ag ECHE dilys
-
Cyllid addysg oedolion Erasmus+, ar gyfer sefydliadau sy’n cynnig cyrsiau addysg oedolion
Manteision i ddysgwyr
Mae gweithgareddau rhyngwladol yn helpu dysgwyr i:
-
meithrin sgiliau technegol a galwedigaethol
-
ennill hyder
-
cryfhau eu cyflogadwyedd yn y dyfodol
Manteision i staff a darparwyr
I staff a darparwyr, mae’r rhaglen yn cefnogi cydweithio â chyfoedion dramor, gan eu helpu i gael safbwyntiau ffres, datblygu eu harfer a chryfhau’r profiad dysgu maen nhw’n ei gynnig.
Mathau o gyllid sydd ar gael
Mae 3 math o gyllid Erasmus+ ar gyfer darparwyr VET:
-
Cam Gweithredu Allweddol 1: sy’n ariannu ymweliadau dramor, a elwir yn ‘symudeddau’
-
Cam Gweithredu Allweddol 2: sy’n darparu cyllid i sefydliadau gydweithio ar brosiectau cydweithredol, a elwir yn ‘bartneriaethau ar gyfer cydweithredu’
-
Camau Gweithredu Jean Monnet: sy’n ariannu mentrau i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd
Prosiectau Erasmus+
Pan yw sefydliad yn gwneud cais am gyllid, mae’n gwneud cais am ‘brosiect’. Dyma’r rhaglen waith y mae’r sefydliad yn bwriadu ei chyflawni gyda’r cyllid. Mae’n disgrifio:
-
beth mae’r sefydliad yn bwriadu ei wneud gyda’r cyllid
-
y gweithgareddau y bydd yn eu cynnal
-
yr amcanion y mae’n anelu at eu cyflawni, megis datblygu sgiliau staff neu wella sgiliau iaith ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol myfyrwyr
Disgwylir i’r cylch ariannu nesaf agor ym mis Tachwedd 2026.
Am ragor o wybodaeth am sut mae cyllid Erasmus+ yn gweithio, gweler Trosolwg o raglen Erasmus+.
Cam Gweithredu Allweddol 1: prosiectau symudedd
Gelwir ymweliadau dramor yn ‘symudeddau’ yn Erasmus+.
Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i deithio i wlad arall sy’n rhan o raglen Erasmus+ a threulio amser mewn sefydliad partner. Mae hyn yn cynnwys:
- myfyrwyr
-
prentisiaid
-
graddedigion diweddar
-
staff sy’n gweithio mewn darparwyr VET
Rhaid i bob gweithgaredd symudedd dysgu fod yn:
-
Addysgol: wedi’i gynllunio i helpu cyfranogwyr i ddysgu neu ddatblygu gwybodaeth, sgiliau, agweddau a chymwyseddau newydd
-
Trawswladol: yn dod â phobl o wahanol wledydd at ei gilydd er mwyn iddynt allu cyfnewid syniadau a dysgu oddi wrth ei gilydd
-
Strwythuredig: yn dilyn cynllun clir, gyda rhaglen, dull a chanlyniadau dysgu disgwyliedig y cytunwyd arnynt
-
Strategol: yn cyfrannu at ystod ehangach o amcanion prosiect
Cyfleoedd i fyfyrwyr
Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i fyfyrwyr, prentisiaid neu raddedigion diweddar rhaglen VET i deithio dramor i astudio mewn sefydliad partner neu wneud hyfforddeiaeth mewn gweithle.
Symudedd grŵp
Gall grŵp o ddysgwyr o ddarparwr VET dreulio amser yn dysgu gyda chyfoedion mewn darparwr partner dramor.
Gall dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio ar gyfer cymhwyster technegol galwedigaethol gymryd rhan mewn symudedd grŵp Erasmus+.
Gall symudeddau:
-
parhau rhwng 2 a 30 diwrnod
-
cynnwys gweithgareddau dysgu rhithwir
Bydd staff sy’n trefnu’r symudedd yn gweithio gyda’r darparwr partner i ddylunio rhaglen ddysgu yn amlinellu’r gweithgareddau y bydd myfyrwyr yn eu gwneud ar eu lleoliad. Gallwch ddewis hyd y lleoliad a’r mathau o weithgareddau y byddwch yn eu gwneud.
Rhaid i symudeddau grŵp fodloni gofynion penodol:
-
rhaid i weithgareddau ddigwydd dramor, fel arfer gyda darparwr Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol partner (gall rhai gweithgareddau ddigwydd oddi ar y safle os yw’n berthnasol, er enghraifft, mewn gweithle neu yn y byd natur)
-
nid yw gweithgareddau sydd ar gael yn fasnachol, fel cyrsiau ysgolion ieithoedd, yn gymwys i gael cyllid
-
rhaid i ddysgwyr fod yng nghwmni staff cymwys fel athrawon neu hyfforddwyr
Symudedd dysgwyr unigol
Gall myfyriwr unigol dreulio amser yn astudio gyda darparwr VET partner neu wneud lleoliad gwaith dramor. Gall myfyrwyr ddysgu gan gyfoedion mewn gwledydd eraill, gan ennill sgiliau a mewnwelediadau newydd sy’n helpu eu cyflogadwyedd.
Gall myfyrwyr a phrentisiaid sy’n gweithio tuag at gymhwyster galwedigaethol neu dechnegol gymryd rhan mewn symudedd dysgwr unigol.
Mae’r symudeddau hyn yn:
-
Tymor byr: 10 diwrnod i 3 mis
-
Tymor hir: 3 mis i 1 flwyddyn
Gall graddedigion diweddar gymryd rhan o fewn 12 mis i orffen eu cymhwyster.
Gofynion:
-
rhaid i leoliadau astudio gynnwys elfen gref sy’n seiliedig ar waith
-
rhaid i’r darparwr anfon, y sefydliad cynnal a’r cyfranogwr lofnodi cytundeb dysgu
-
rhaid cydnabod dysgu’n ffurfiol fel arfer drwy ddogfen Symudedd Europass
-
rhaid i sefydliadau gadw copïau o’r dogfennau hyn fel tystiolaeth
Cystadlaethau sgiliau
Gall myfyrwyr (ynghyd â staff sy’n teithio gyda nhw) dderbyn cyllid i gystadlu mewn cystadlaethau sgiliau.
Mae cystadlaethau sgiliau yn ddigwyddiadau strwythuredig, cystadleuol lle mae dysgwyr yn dangos eu sgiliau ymarferol, technegol a phroffesiynol yn erbyn safonau’r diwydiant. Maent yn cael eu cynllunio i adlewyrchu tasgau a disgwyliadau go iawn yn y gweithle, yn hytrach nag arholiadau academaidd.
Gall y cystadlaethau barhau rhwng 1 a 10 diwrnod a gall staff fynd gyda’r dysgwyr.
Cyfleoedd i staff
Mae Erasmus+ yn darparu cyllid ar gyfer gweithgareddau datblygu proffesiynol i:
-
athrawon
-
hyfforddwyr
-
staff eraill sy’n gweithio mewn VET
Mae hyn yn caniatáu i staff ddysgu sgiliau a dulliau newydd, perthnasol i’r diwydiant, y gallant eu trosglwyddo i fyfyrwyr a phrentisiaid yn eu cyrsiau eu hunain. Gall hefyd helpu staff i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol, eu hyder a’u datblygiad gyrfa eu hunain.
Cysgodi swyddi
Gall staff sy’n gweithio mewn darparwr Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol ymweld â sefydliad partner mewn gwlad Erasmus+ arall i arsylwi:
- addysgu
- hyfforddi
- arferion proffesiynol eraill
Gall symudedd cysgodi swydd barhau rhwng 2 ddiwrnod a 2 fis.
Addysgu neu hyfforddi dramor
Gall staff dreulio amser yn addysgu, hyfforddi neu’n rhoi mewnbwn arbenigol o fewn sefydliad partner dramor. Hyd yr aseiniad addysgu neu hyfforddi: 2 ddiwrnod i 1 flwyddyn.
Cyrsiau hyfforddi
Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i staff fynychu cyrsiau hyfforddi strwythuredig mewn gwlad Erasmus+ arall Hyd y cwrs: 2 i 10 diwrnod.
Sut i wneud cais am gyllid prosiect symudedd
Ni all disgyblion unigol nac aelodau staff wneud cais am gyllid Erasmus+. Rhaid gwneud ceisiadau am gyllid Erasmus+ drwy ddarparwr VET.
Gall darparwyr VET wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau symudedd tymor byr. Mae hyn yn cynnwys:
-
Colegau AB, ysgolion neu ddarparwyr cymwysterau galwedigaethol
-
awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau academi a sefydliadau sy’n ymwneud ag addysg VET
-
sefydliadau cyhoeddus neu breifat sy’n darparu prentisiaethau
Gwneir ceisiadau am brosiectau symudedd drwy Asiantaeth Genedlaethol y DU.
Gweler Canllaw Rhaglen Erasmus+ am ragor o wybodaeth am yr hyn i’w gynnwys yn eich cais, gan gynnwys y meini prawf dyfarnu ar gyfer cyllid.
Am fanylion pellach ar yr hyn sy’n cael ei gynnwys yn y cyllid, gweler Trosolwg o raglen Erasmus+.
Sefydlu prosiect symudedd
Cam 1: Gwirio cymhwysedd
Darllenwch y canllawiau yn ‘sut i wneud cais am gyllid ar gyfer Cam Gweithredu Allweddol 1’ a’r Canllaw Rhaglen Erasmus+ i gadarnhau bod eich sefydliad yn bodloni’r gofynion cymhwysedd.
Cam 2: Dod o hyd i bartneriaid Ewropeaidd
Defnyddiwch lwyfannau ar-lein Erasmus+ i feithrin cysylltiadau â darparwyr AB neu VET, cwmnïau neu sefydliadau eraill mewn gwledydd rhaglen Erasmus+, fel:
Cam 3: Cofrestru eich sefydliad
Crëwch gyfrif mewngofnodi UE a mynnwch fynediad i’r system gofrestru sefydliadau ar gyfer Erasmus+ a chael ID Sefydliad. (OID).
Cam 4: Cynllunio eich prosiect symudedd
Gweithiwch gyda’ch sefydliad partner i gynllunio’r gweithgareddau rydych chi am eu cynnig, megis lleoliadau gwaith, cysgodi swyddi staff neu ddysgu seiliedig ar waith. Cytunwch ar y sgiliau a’r canlyniadau dysgu rydych chi am eu cyflawni.
Cam 5: Gwirio’r dyddiadau cau
Cyhoeddir dyddiadau cau ar gyfer cyllid Erasmus+ ar wefan yr Asiantaeth Genedlaethol.
Cam 6: Paratoi eich cais
Yn y ffurflen gais, disgrifiwch eich sefydliad, amcanion y prosiect a’r gweithgareddau a gynllunir.
Cam 7: Gwneud cais
Cyflwynwch eich cais drwy’r Asiantaeth Genedlaethol.
Cam Gweithredu Allweddol 2: Partneriaethau
Mae Cam Gweithredu Allweddol 2 yn darparu cyllid i ddarparwyr AB a VET o wahanol wledydd gydweithio ar brosiectau a rennir. Rhaid i’r partneriaethau hyn gynnwys sefydliadau o fwy nag un wlad, gydag un sefydliad yn gweithredu fel y partner arweiniol.
Rhaid i bob prosiect gysylltu ag un neu fwy o flaenoriaethau’r UE, fel y gwelir yn y Trosolwg o raglen Erasmus+, ac yna mae’r partneriaid yn cytuno ar eu nodau penodol eu hunain yn seiliedig ar yr hyn y maent am ei gyflawni gyda’i gilydd.
Mae prosiectau’n canolbwyntio ar:
-
adeiladu capasiti
-
creu offer neu ffyrdd o weithio newydd
-
rhannu arfer da
-
cysylltu VET â busnesau a chymunedau
-
cefnogi pobl sydd â llai o gyfleoedd
Mae 2 fath o bartneriaeth ar gael, sy’n cynnig gwahanol ffyrdd i sefydliadau gydweithio:
-
partneriaethau ar raddfa fach
-
partneriaethau cydweithredu
Partneriaethau ar raddfa fach
Wedi’i gynllunio ar gyfer darparwyr llai neu’r rhai sy’n newydd i Erasmus+. Mae’r math hwn o gyllid yn addas ar gyfer darparwyr VET.
Gofynion:
-
o leiaf 2 sefydliad o wahanol wledydd
-
mae prosiectau’n parhau 6 mis i 2 flynedd
-
rhaid mynd i’r afael ag o leiaf un flaenoriaeth lorweddol neu benodol i VET
Gweithgareddau
Mae darparwyr VET yn cynllunio ac yn cynnal prosiect gyda sefydliad partner dramor, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol sy’n helpu myfyrwyr a staff i ddysgu oddi wrth ei gilydd.
Gall prosiectau gynnwys:
-
rhannu arferion addysgu neu hyfforddi
-
cydweithio â chyflogwyr lleol
-
datblygu sgiliau digidol, cyflogadwyedd neu gynaliadwyedd myfyrwyr
Sut i wneud cais
Mae 2 opsiwn grant ar gyfer partneriaethau bach: €30,000 neu €60,000.
Wrth gynllunio eich prosiect, bydd angen i chi a’ch partneriaid prosiect ddewis yr opsiwn grant priodol i dalu am gost y prosiect. Bydd hyn yn seiliedig ar anghenion ac amcanion y prosiect, a’r gweithgareddau rydych chi’n bwriadu eu gwneud.
Gwneir ceisiadau am bartneriaethau ar raddfa fach drwy Asiantaeth Genedlaethol y DU.
I wneud cais, rhaid i chi
-
greu cyfrif Mewngofnodi UE i gael mynediad i byrth ar-lein Erasmus+
-
yna cofrestrwch eich sefydliad yn System Cofrestru Sefydliadau Erasmus+ i gael ID Sefydliad (OID)
Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif mewngofnodi’r UE neu OID.
Partneriaethau cydweithredu
Prosiectau mwy yw’r rhain sy’n cynnwys o leiaf 3 sefydliad o wahanol wledydd am gyfnod o 1 i 3 blynedd.
Mae’r math hwn o brosiect yn fwyaf addas ar gyfer darparwyr neu gonsortia AB ac VET mawr.
Nod partneriaethau cydweithredu yw cefnogi datblygiad arferion arloesol a hyrwyddo cydweithrediad a chyfnewid syniadau ar lefel Ewropeaidd. Disgwylir i brosiectau a ddewisir rannu canlyniadau eu gwaith ar lefel leol, ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.
Cymhwysedd
Er mwyn cael ei hystyried ar gyfer cyllid, rhaid i bartneriaeth gydweithredu:
-
mynd i’r afael ag un flaenoriaeth lorweddol Erasmus+ neu o leiaf un flaenoriaeth sy’n gysylltiedig â VET
-
cynnwys o leiaf 3 sefydliad o 3 gwlad o leiaf sy’n gysylltiedig ag Erasmus+
-
parhau o 1 flwyddyn i 3 blynedd
Sut i wneud cais
Mae 3 opsiwn grant ar gyfer partneriaethau cydweithredu:
-
€120,000
-
€250,000
-
€400,000
Wrth gynllunio eich prosiect, bydd angen i chi a’ch partneriaid prosiect ddewis yr opsiwn grant priodol i dalu am gost y prosiect. Bydd hyn yn seiliedig ar anghenion ac amcanion y prosiect, a’r gweithgareddau rydych chi’n bwriadu eu gwneud.
Gwneir ceisiadau am bartneriaethau cydweithredu drwy Asiantaeth Genedlaethol y DU.
I wneud cais, rhaid i chi
-
greu cyfrif Mewngofnodi UE i gael mynediad i byrth ar-lein Erasmus+
-
yna cofrestrwch eich sefydliad yn System Cofrestru Sefydliadau Erasmus+ i gael ID Sefydliad (OID)
Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif mewngofnodi’r UE neu OID.
Cyllid partneriaeth arall sydd ar gael i ddarparwyr VET
Y Canolfannau Rhagoriaeth Galwedigaethol
Mae Canolfannau Rhagoriaeth Galwedigaethol yn cefnogi rhwydweithiau sy’n:
-
ysgogi arferion VET arloesol
-
cryfhau atyniad addysg a hyfforddiant galwedigaethol
-
hyrwyddo cynhwysiant
-
cefnogi symudedd rhyngwladol
Mae’r canolfannau’n dod â rhanddeiliaid ynghyd i ffurfio partneriaethau cyhoeddus-preifat, megis:
-
Sefydliadau VET ac SAU
-
busnesau
-
elusennau
-
mentrau cymdeithasol
Mae’r partneriaethau hyn yn cydweithio ar brosiectau sy’n cefnogi 3 chlwstwr o weithgareddau:
-
addysgu a dysgu
-
cydweithredu a phartneriaethau
-
llywodraethu a chyllid
Mae rhagor o wybodaeth am ba weithgareddau sy’n dod o dan bob clwstwr o weithgareddau ar gael yn Canllaw Rhaglen Erasmus+.
Rhaid i sefydliadau sy’n cymryd rhan fod yn weithgar ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol neu ym myd gwaith.
Gall y sefydliadau canlynol gymryd rhan:
-
Darparwyr VET
-
Sefydliadau cynrychioladol darparwyr VET
-
cwmnïau, diwydiant, cyflogwyr eraill neu sefydliadau sy’n cynrychioli sector
-
awdurdodau cymwysterau cenedlaethol a rhanbarthol
-
sefydliadau ymchwil
-
asiantaethau arloesi
-
awdurdodau datblygu rhanbarthol
-
sefydliadau rhyngwladol sy’n weithgar ym maes VET
Rhaid i bartneriaethau gynnwys o leiaf 8 cais o 4 gwlad Rhaglen Erasmus+ o leiaf, a rhaid iddynt gynnwys:
-
o leiaf un fenter, corff diwydiant, cyflogwr, neu sefydliad cynrychioliadol sector
-
o leiaf un darparwr addysg a hyfforddiant galwedigaethol ar lefel uwchradd neu drydyddol
Sut i wneud cais
Gwneir ceisiadau am gyllid drwy Asiantaeth Weithredol Addysg a Diwylliant Ewrop (EACEA).
I wneud cais, rhaid i chi
-
greu mewngofnod yr UE cyfrif i gael mynediad i byrth ar-lein Erasmus+
-
yna cofrestrwch eich sefydliad drwy Borth Cyllid a Thendrau’r UE i gael Cod Adnabod Cyfranogwr (PIC). Mae hwn yn adnabyddwr unigryw 9 digid a roddir i sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni ariannu’r UE, gan gynnwys Erasmus+.
Cynghreiriau ar gyfer arloesi
Mae’r cynghreiriau hyn yn cefnogi cydweithrediad cryfach a rhannu gwybodaeth rhwng addysg a hyfforddiant galwedigaethol, addysg uwch, busnesau a’r sector economaidd-gymdeithasol ehangach.
Maent yn annog datblygu sgiliau a chwricwlwm ac yn meithrin ymdeimlad o fenter ac entrepreneuriaeth.
Mae cynghreiriau ar gyfer arloesi yn cael eu rhannu’n 3 grŵp:
-
cynghreiriau ar gyfer addysg a mentrau
-
cynghreiriau ar gyfer cydweithredu sectoraidd ar sgiliau
-
ffowndrïau sgiliau STEM
Cynghreiriau ar gyfer addysg a mentrau
Hyd: 2 i 3 blynedd.
O leiaf 8 partner llawn o 4 gwlad y rhaglen.
Rhaid iddynt gynnwys:
-
o leiaf 3 menter
-
o leiaf 3 darparwr addysg
Grantiau: €1 miliwn (2 flynedd) neu €1.5 miliwn (3 blynedd).
Cynghreiriau ar gyfer cydweithredu sectoraidd ar sgiliau
Hyd: 4 blynedd
O leiaf 12 partner llawn o 8 gwlad y rhaglen.
Rhaid iddynt gynnwys:
-
5 actor yn y farchnad lafur
-
5 darparwr addysg
Grant: €4 miliwn
Ffowndrïau sgiliau STEM
Hyd: 2 flynedd
O leiaf 8 ymgeisydd o 4 gwlad y rhaglen
Rhaid cynnwys 3 actor yn y farchnad lafur ac o leiaf 3 darparwr addysg a hyfforddiant, y dylai o leiaf 1 ohonynt fod yn sefydliad addysg uwch ac 1 yn ddarparwr VET.
- Grant: €1.5 miliwn
Sut i wneud cais
Rhaid i sefydliadau wneud cais i’r EACEA ar gyfer pob cynghrair ar gyfer arloesi.
I wneud cais, rhaid i chi
-
greu mewngofnod UE account i gael mynediad i byrth Erasmus+ ar-lein
-
yna cofrestrwch eich sefydliad drwy Borth Cyllid a Thendrau’r UE i gael Cod Adnabod Cyfranogwr (PIC). Mae hwn yn adnabyddwr unigryw 9 digid a roddir i sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni ariannu’r UE, gan gynnwys Erasmus+.
Adeiladu capasiti mewn VET
Yn cefnogi partneriaethau rhwng gwledydd Erasmus+ a gwledydd y tu allan i’r rhaglen i gryfhau systemau VET. Yn y trydydd gwledydd hyn ac yn cefnogi eu cyfraniad at ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd.
Gall cyfranogwyr gynnwys:
-
Darparwyr VET
-
cyflogwyr
-
awdurdodau cymwysterau
-
cyrff ymchwil
-
asiantaethau arloesi
Mae darparwyr AB a VET yn gweithio gyda phartneriaid yn y gwledydd hyn i feithrin capasiti sefydliadau VET, gwella ansawdd hyfforddiant, a chreu cysylltiadau cryfach â chyflogwyr.
Cymhwysedd
Rhaid i ymgeiswyr ffurfio consortiwm o:
-
o leiaf 4 sefydliad
-
o 3 gwlad gymwys
-
gan gynnwys o leiaf un darparwr VET ar lefel uwchradd
I fod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr fod yn gorff cyhoeddus neu breifat sy’n weithgar ym maes VET.
Gall sefydliadau sy’n cymryd rhan gynnwys:
-
Darparwyr VET
-
cwmnïau, diwydiant, cyflogwyr eraill neu sefydliadau sy’n cynrychioli sector
-
awdurdodau cymwysterau cenedlaethol a rhanbarthol
-
sefydliadau ymchwil
-
asiantaethau arloesi
-
sefydliadau rhyngwladol sy’n weithgar ym maes VET
Sut i wneud cais
Gwneir ceisiadau am gyllid drwy Asiantaeth Weithredol Addysg a Diwylliant Ewrop (EACEA).
I wneud cais, rhaid i chi
-
greu mewngofnod UE account i gael mynediad i byrth Erasmus+ ar-lein
-
yna cofrestrwch eich sefydliad drwy Borth Cyllid a Thendrau’r UE i gael Cod Adnabod Cyfranogwr (PIC). Mae hwn yn adnabyddwr unigryw 9 digid a roddir i sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni ariannu’r UE, gan gynnwys Erasmus+.
Camau Gweithredu Jean Monnet
Hyfforddiant Athrawon Jean Monnet
Mae’r cyllid hwn ar gyfer darparwyr hyfforddiant athrawon i ddatblygu deunyddiau dysgu a modiwlau cwrs sy’n helpu darparwyr addysg bellach neu addysg a hyfforddiant galwedigaethol i ddysgu mwy am yr Undeb Ewropeaidd a’i sefydliadau.
Cymhwysedd
Mae sefydliadau cymwys yn cynnwys:
-
darparwyr addysg uwch
-
sefydliadau hyfforddiant athrawon
-
Darparwyr hyfforddiant athrawon VET
Mentrau Dysgu Jean Monnet yr UE
Mae mentrau Dysgu Jean Monnet yr UE yn cefnogi darparwyr VET i addysgu am bynciau sy’n gysylltiedig â’r UE, megis:
-
democratiaeth
-
sut mae’r UE yn gweithio
-
Hanes yr UE
Mae gweithgareddau enghreifftiol yn cynnwys:
-
Gwersi ar thema’r UE
-
wythnosau prosiect
-
gweithdai
-
ymweliadau astudio
-
profiadau dysgu trochol a ddarperir fel rhan o raglenni VET neu a gynigir fel cyfleoedd allgyrsiol
Gall darparwyr VET ddylunio a chyflwyno cynnwys eu hunain neu weithio gyda sefydliadau addysg uwch, elusennau a sefydliadau eraill.
Cymhwysedd
I fod yn gymwys, rhaid i brosiectau ddarparu o leiaf 40 awr addysgu y flwyddyn am 3 blynedd yn olynol. Y grant uchaf fesul prosiect yw €35,000.
Rhwydweithiau Jean Monnet ar gyfer VET
Mae Rhwydweithiau Jean Monnet yn dwyn ynghyd ddarparwyr VET, darparwyr Addysg Bellach, ysgolion a sefydliadau hyfforddi athrawon i gryfhau addysgu pynciau sy’n gysylltiedig â’r UE ac i gydweithio â phartneriaid mewn gwledydd Erasmus+ eraill.
Mae’r rhwydweithiau hyn wedi’u cynllunio i roi dimensiwn rhyngwladol cryfach i addysg VET ac i gefnogi cydweithrediad ar sut mae pynciau’r UE yn cael eu haddysgu.
Mae sefydliadau sy’n rhan o Rwydwaith Jean Monnet yn cydweithio i wella ansawdd addysgu ar themâu sy’n gysylltiedig â’r UE.
Mae gweithgareddau’r rhwydwaith yn canolbwyntio ar rannu arbenigedd, cyfnewid methodolegau addysgu effeithiol a datblygu dulliau ar y cyd.
Gall hyn gynnwys cynhyrchu adnoddau a rennir, cyd-ddysgu (yn bersonol neu ar-lein), a chreu platfform hirdymor ar gyfer cydweithio ar addysg yr UE o fewn y sector VET.
Sut i wneud cais am Gamau Gweithredu Jean Monnet
Gwneir ceisiadau am Gamau Gweithredu Jean Monnet drwy Asiantaeth Weithredol Addysg a Diwylliant Ewrop (EACEA).
I wneud cais, rhaid i chi
-
greu mewngofnod UE account i gael mynediad i byrth Erasmus+ ar-lein
-
yna cofrestrwch eich sefydliad drwy Borth Cyllid a Thendrau’r UE i gael Cod Adnabod Cyfranogwr (PIC). Mae hwn yn adnabyddwr unigryw 9 digid a roddir i sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni ariannu’r UE, gan gynnwys Erasmus+.
Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif mewngofnodi UE neu PIC.