Sut mae ASCA yn prosesu cwynion
Diweddarwyd 28 Chwefror 2025
1. Sut mae’r dyfarnwr yn gwneud penderfyniad
Os yw eich cwyn yn un y gallwn ymchwilio iddi, byddwn yn rhoi gwybod i chi y byddwn yn dechrau’r drefn ymchwilio. Mae hyn yn golygu cysylltu â’r prynwr a rhoi hysbysiad iddo eich bod wedi gwneud cwyn berthnasol i’r dyfarnwr.
Bydd yr hysbysiad hwn yn cynnwys yr honiadau rydych wedi’u gwneud yn eu herbyn, ac yn gofyn am eu hymateb i’r gŵyn, gan gynnwys tystiolaeth ategol o’u sefyllfa. Mae gan brynwyr ddyletswydd gyfreithiol o dan y rheoliadau i gydweithredu â’r ymchwiliad.
Wrth ymchwilio i gŵyn berthnasol, caiff y dyfarnwr hefyd ystyried methiannau eraill i gydymffurfio â’r rheoliadau nad oeddent yn rhan o’r gŵyn honno.
Yn ystod yr ymchwiliad, mae’n bosibl y bydd angen i ni gael rhagor o dystiolaeth gennych chi.
Mae’r mathau o dystiolaeth y gallwn ofyn amdanynt yn cynnwys:
- dogfennau, gan gynnwys y rheini mewn fformat digidol
- tystiolaeth gan dyst, boed hynny drwy ddatganiad ysgrifenedig neu ar lafar
- unrhyw dystiolaeth arall y mae’r dyfarnwr yn ei hystyried yn berthnasol i’r gŵyn.
Bydd ein cais am dystiolaeth yn ysgrifenedig a bydd yn cynnwys:
- datganiad bod y cais yn cael ei wneud o dan baragraff (7)(b) y rheoliadau
- manylion y sawl y gofynnir am y dystiolaeth ganddo
- pa dystiolaeth y gofynnir amdani
- sut i gyflwyno’r dystiolaeth
- ble i gyflwyno’r dystiolaeth
- erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid cyflwyno’r dystiolaeth
Os na fydd y dystiolaeth yn cael ei chyflwyno gennych , gall y dyfarnwr ddechrau achos cyfreithiol i’w gwneud yn ofynnol i chi gyflwyno’r wybodaeth. Gall methu â chyflwyno’r dystiolaeth y gofynnwyd amdani hefyd arwain y dyfarnwr i ddod i gasgliad anffafriol yn erbyn yr unigolyn ynghylch y gŵyn.
Mae’n bosibl y byddwn yn ymgynghori â thrydydd partïon, fel cyfreithwyr arbenigol, a Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd, fel rhan o’r broses gwyno. Os yw eich busnes y tu allan i’r DU, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am fewnbwn gan yr awdurdodau yn eich awdurdodaeth yn ystod eich cwyn.
2. Os na fydd rheoliadau’n cael eu torri
Os bydd y dyfarnwr yn canfod na thorrwyd y Rheoliadau, byddwn yn ysgrifennu at y ddau barti yn nodi’r penderfyniad i beidio â rhoi cosb sifil ac iawndal a’r rhesymau dros ddod i’r penderfyniad. Bydd y gŵyn wedyn yn cael ei chau gan y dyfarnwr.
Mae gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â rhoi cosb sifil neu iawndal i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf. Ceisiwch gyngor cyfreithiol annibynnol ar apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf. I gael gwybodaeth am sut i apelio, darllenwch Ganllawiau Statudol Rheoliadau Rhwymedigaethau Delio’n Deg (Llaeth) 2024.
3. Os yw’r dyfarnwr yn bwriadu rhoi cosb sifil neu iawndal
Os yw’r dyfarnwr yn bwriadu gosod gofyniad ar y prynwr i dalu cosb sifil neu iawndal, byddwn yn ysgrifennu at y ddau barti yn nodi’r tor-amod y mae’r dyfarnwr o’r farn ei fod wedi’i gyflawni, y dystiolaeth y dibynnir arni a’r gosb sifil a’r iawndal y mae’r dyfarnwr yn bwriadu eu rhoi.
Os yw’r dyfarnwr yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr dalu iawndal, cewch gyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig am swm yr iawndal hwnnw.
Bydd y prynwr hefyd yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau ynglŷn â’r achosion o dorri amodau y mae’r dyfarnwr yn credu sydd wedi’u cyflawni a’r gofyniad arfaethedig i dalu cosb sifil neu iawndal.
Unwaith y bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau ysgrifenedig wedi mynd heibio, bydd y dyfarnwr yn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid gosod gofyniad i dalu cosb sifil neu iawndal.
Os mai’r penderfyniad yw rhoi cosb sifil neu iawndal, byddwn yn ysgrifennu at y ddau barti yn nodi’r gofyniad sy’n cael ei osod, y rhesymau dros hyn ac esboniad o sut mae swm y gosb sifil neu’r iawndal wedi cael ei gyfrifo.
Mae gennych hawl i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn swm unrhyw iawndal a roddir. Ceisiwch gyngor cyfreithiol annibynnol ar apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
Os bydd y dyfarnwr yn canfod tor-amod, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod y contract yn ddi-rym.
Nid yw torri’r rheoliadau hefyd o reidrwydd yn golygu bod y contract ei hun wedi cael ei dorri, cyn belled â bod y ddau barti wedi bod yn cyflawni eu rhwymedigaethau o fewn y contract.
Ceisiwch gyngor cyfreithiol annibynnol ynghylch unrhyw achos o dorri contract neu i ba raddau y mae’n rhaid i chi barhau i gyflawni eich rhwymedigaethau o dan y contract hwnnw.