Rhoi gwybod i CThEF am fuddiant cymhwysol mewn meddiant yn dod i ben oherwydd bod rhywun wedi marw (IHT100b (marwolaeth))
Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod i ni fod buddiant cymhwysol mewn meddiant sydd gan fuddiolwr mewn ymddiriedolaeth wedi dod i ben oherwydd eu marwolaeth a bod Treth Etifeddiant yn ddyledus.
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch ffurflen IHT100b (marwolaeth) i roi gwybod i CThEF bod Treth Etifeddiant yn ddyledus ar ymddiriedolaeth.
Sut i gwblhau’r ffurflen
Mae angen i chi wneud y canlynol:
-
Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.
-
Agor y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader sy’n rhad ac am ddim.
-
Llenwi’r ffurflen ar y sgrin. Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.