Ffurflen

Credydau treth: anghytuno ag adennill gordaliad (TC846)

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein os yw CThEM wedi talu gormod o gredydau treth i chi ac rydych o’r farn na ddylai’n rhaid i chi ei dalu’n ôl.

Dogfennau

Rhoi gwybod i CThEM ar-lein (mewngofnodi drwy ddefnyddio Porth y Llywodraeth)

Rhoi gwybod i CThEM drwy’r post (defnyddiwch y fersiwn hwn os ydych yn asiant neu os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein)

Manylion

Rhowch wybod i CThEM os ydych o’r farn eich bod wedi cael gormod o gredydau treth ac nad ydych o’r farn y dylech orfod ei ad-dalu oherwydd gwnaethoch fodloni’ch cyfrifoldebau chi ac ni wnaethant fodloni eu rhai nhw.

Rhaid eich bod yn gallu dangos bod CThEM wedi gwneud camgymeriad neu wedi rhoi cyngor anghywir i chi, a’i bod yn rhesymol i chi gredu bod eich taliadau yn gywir.

Cyn i chi ddechrau

Darllenwch ‘Credydau treth: apeliadau a chŵynion cyn i chi lenwi’r ffurflen er mwyn gwneud yn siwr y gallwch ddadlau yn erbyn penderfyniad.

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch er mwyn llenwi’r ffurflen:

  • pam yr ydych yn anghytuno â’r gordaliad yn y fan hon
  • eich rhif Yswiriant Gwladol (fe welwch hwn ar eich slip cyflog, eich P60 neu’ch Ffurflen Dreth)
  • rhif Yswiriant Gwladol eich partner, os gwnaed y gordaliad ar hawliad ar y cyd

Dylech hefyd gynnwys manylion o bryd y gwnaethoch gysylltu â ni, a beth a ddigwyddodd os rhoesoch wybod i CThEM:

  • roedd eich amgylchiadau personol ar eich hysbysiad o ddyfarniad yn anghywir neu’n anghyflawn
  • nid oedd eich taliadau’n cyd-fynd â’r rheiny ar eich hysbysiad dyfarnu

Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM os oes angen rhagor o amser arnoch i dalu gordaliad credyd treth.

Gwneud cais ar-lein

Er mwyn rhoi gwybod i CThEM ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch.

Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni.

Os ydych yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, cewch gyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.

Gwneud cais drwy’r post

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly dylech gasglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.

Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig

Gordaliadau credydau treth
Sut y gall gordaliadau credydau treth ddigwydd, ad-dalu gordaliadau ac anghydfodau.

Credydau treth: Beth sy’n digwydd os oes gormod wedi ei dalu i chi (COP26)
Mae’r daflen hon yn esbonio pam fod gordaliadau yn digwydd a sut i’w had-dalu. Mae’n rhoi gwybod i chi hefyd pan nad oes angen i chi eu had-dalu a sut i ddadlau yn erbyn gordaliad.

Cyhoeddwyd ar 4 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 April 2023 + show all updates
  1. The form has been updated for the 2023 to 2024 tax year.

  2. The form to tell HMRC about a tax credit overpayment by post has been updated for 2020 to 2021.

  3. The form to tell HMRC about a tax credit overpayment by post has been updated for 2019 to 2020.

  4. The form to tell HMRC about a tax credit overpayment by post has been updated for 2018 to 2019.

  5. The Welsh version of this page has been updated.

  6. Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2018 to 2019.

  7. New forms published for 2017 to 2018

  8. An online forms service is now available.

  9. A new version of the form is now available.

  10. The 2015 to 2016 form has been added to this page.

  11. Added translation