Papur polisi

Dod â’r broblem i stop: Strategaeth newydd i daclo tybaco anghyfreithlon

Diweddarwyd 1 March 2024

Rhagair gweinidogol

O ran marwolaethau a salwch yn y Deyrnas Unedig, un o’r prif achosion y gellir ei osgoi yw ysmygu. Mae’r llywodraeth hon o blaid mynd i’r afael ag effeithiau niweidiol tybaco i wneud ysmygu’n hen hanes. Yn 2019 fe wnaethom addo gwneud Lloegr yn ‘ddi-fwg’ erbyn 2030 – cyflawnir hyn pan fydd nifer yr achosion o ysmygu ymhlith oedolion yn gostwng i 5% neu lai.

Ym mis Hydref 2023, aethom ymhellach fyth gyda ‘Stopping the start: our new plan to create a smokefree generation’, a oedd yn cyhoeddi ystod o fesurau i daclo effeithiau niweidiol ysmygu. Mae hyn yn cynnwys ein bwriad i gyflwyno deddfwriaeth sy’n golygu na fydd cynhyrchion tybaco byth ar werth yn gyfreithlon i neb a aned ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.

Gyda phob cam a gymerwn tuag at genhedlaeth ddi-fwg, mae’n rhaid i ni barhau â’n hymdrechion i fynd i’r afael â’r troseddwyr sy’n ceisio tanseilio ein cynnydd. Yn ôl amcangyfrif CThEF, roedd y farchnad anghyfreithlon wedi achosi colled o £2.8 biliwn mewn toll tybaco, a TAW gysylltiedig, yn 2021 i 2022. Mae elw’r math hwn o drosedd yn ariannu ymdrechion i smyglo arfau, smyglo cyffuriau a hyd yn oed smyglo pobl ledled y byd. Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â chanser y grwpiau troseddau cyfundrefnol yr un mor ddiflino â’n hymdrechion i daclo effaith niweidiol ysmygu ei hun.

Lansiodd CThEF ei strategaeth gyntaf i daclo tybaco anghyfreithlon yn 2000. Mae hon, a strategaethau eraill wedi hynny gyda Llu’r Ffiniau, wedi lleihau’r bwlch toll amcangyfrifedig ar gyfer sigaréts draean (o 16.9% yn 2005 i 11% yn 2021 i 2022) ac mae wedi haneru’r gyfran ar gyfer tybaco rholio â llaw (o 65.2% i 33.5% dros yr un cyfnod). Roedd ein strategaeth ddiwethaf a gyhoeddwyd yn 2015 wedi gyrru deddfwriaeth, sancsiynau, rheolaethau a gweithrediadau newydd a beiddgar yn eu blaenau i fynd i’r afael â’r fasnach anghyfreithlon.

Heddiw, rydym yn mynd hyd yn oed ymhellach. Bydd ein strategaeth newydd yn targedu bylchau ar bob cam o’r gadwyn gyflenwi, gan ein cadw sawl cam o flaen y troseddwyr. 

Mae’r strategaeth:

  • yn gosod ein dull hollgynhwysol newydd - sy’n targedu’r galw am y fasnach anghyfreithlon (sef y defnyddwyr y mae troseddwyr yn ceisio manteisio arnynt) yn ogystal â’r cyflenwad (sef y troseddwyr eu hunain) ei hun

  • am gael dros £100 miliwn o gyllid newydd dros y 5 mlynedd nesaf i hybu gallu CThEF a Llu’r Ffiniau i gymryd camau gorfodi

  • yn sefydlu Tasglu Tybaco Anghyfreithlon drawslywodraethol newydd – gan gyfuno arbenigedd sawl asiantaeth o ran gweithrediadau, ymchwiliadau a chuddwybodaeth, a gwella ein gallu i darfu ar droseddau cyfundrefnol

Er mwyn taclo tybaco anghyfreithlon, mae’n rhaid i bob rhan o’r llywodraeth sefyll ynghyd. Mae’r strategaeth hon yn cryfhau’r cydweithio effeithiol sydd eisoes yn digwydd rhwng CThEF, Llu’r Ffiniau a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol , i yrru camau gorfodi yn eu blaenau ym mhob maes ac i ddod â’r broblem o dybaco anghyfreithlon i stop.

Gareth Davies AS, Ysgrifennydd y Siecr i’r Trysorlys

Rhagarweiniad

“Mae tybaco anghyfreithlon yn camfanteisio ar y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymuned, ac yn chwalu iechyd a gobaith” – Javed Khan, Adolygiad Annibynnol i’r targed o wneud ysmygu’n hen hanes (‘Making Smoking Obsolete’), Mehefin 2022

Mae tybaco yn niweidio ein hiechyd, ein cynhyrchiant, a’n heconomi. Mae’r niwed yn rhemp ac mae tystiolaeth gadarn ohono. Yn 2019 ymrwymodd y llywodraeth i wneud Lloegr yn ddi-fwg erbyn 2030 - cyflawnir hyn pan fydd nifer yr achosion o ysmygu ymhlith oedolion yn gostwng i 5% neu lai. Er mwyn cefnogi’r uchelgais hwn, ym mis Hydref 2023 nododd y llywodraeth ei bwriad i greu ‘cenhedlaeth ddi-fwg’. Mae hyn yn golygu na fydd cynhyrchion tybaco byth ar werth yn gyfreithlon i neb a aned ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.

Er mwyn atal pobl rhag ysmygu, rydym hefyd wedi datblygu un o gyfundrefnau trethiant uchaf y byd mewn perthynas â thybaco. Mae’r cyfraddau uchel hyn yn gwneud tybaco’n llai fforddiadwy, ac mae wedi helpu i leihau nifer yr achosion o ysmygu yn y DU o 26% yn 2000 i 12.9% yn 2022.

Fodd bynnag, mae tybaco anghyfreithlon yn tanseilio’r ymdrechion hyn. Mae’r fasnach anghyfreithlon yn cynnwys amrywiaeth o gynhyrchion tybaco sy’n cael eu gwerthu yn anghyfreithlon, yn aml i ddefnyddwyr dan oed, heb dalu trethi (TAW a tholl ecséis).  Mae’n darparu cyflenwad rhad o dybaco sydd heb ei reoleiddio a hynny i’r rheiny a allai, fel arall, gael eu rhwystro gan y gost.

Mae’r fasnach tybaco anghyfreithlon yn dwyn cwsmeriaid o’r busnesau hynny sy’n gweithredu yn unol â’r gyfraith. Mae’n ariannu troseddau cyfundrefnol eraill gyda’i helw ac yn cynyddu’r baich ar drethdalwyr gonest. Yn ôl amcangyfrif CThEF, roedd y farchnad anghyfreithlon wedi achosi colled o £2.8 biliwn mewn toll tybaco, a TAW gysylltiedig,  yn 2021 i 2022. Mae effeithiau’r farchnad anghyfreithlon yn bwrw’r rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymunedau yn drymach, gyda dros hanner o’r rheiny sy’n ysmygu tybaco anghyfreithlon yn dod o’r grwpiau economaidd-gymdeithasol mwyaf amddifad.

Mae twyll tybaco yn bodoli ledled y byd ac mae marchnad y DU yn cynrychioli ond cyfran fach o’r galw byd-eang am gynnyrch anghyfreithlon. Mae’r ystod eang o gyflenwyr a grwpiau troseddau cyfundrefnol (OCGau) sy’n gweithredu ar draws ffiniau yn ei gwneud hi’n anodd cyfyngu ar lif nwyddau i mewn i’r DU; mae cyflenwad anghyfreithlon ar gael yn ddidrafferth ledled y byd ac mae’r elw sydd ar gael ohono’n denu nifer fawr o droseddwyr. Rydym yn gwybod hyn ac yn cymryd camau priodol, gan weithio mewn partneriaeth ar draws y llywodraeth i stopio cynnyrch rhag cael eu cynhyrchu wrth y ffynhonnell, wrth atafaelu cynnyrch anghyfreithlon wrth ein ffiniau ac yn ein siopau, ac wrth gosbi’r troseddwyr sy’n rhan o’r fasnach tybaco anghyfreithlon.

Y diweddaraf

Mae’r llywodraeth wedi addo gweithredu ar werthiant tybaco anghyfreithlon mewn strategaethau olynol ers 2000. Roedd strategaeth ddiwethaf CThEF a Llu’r Ffiniau, ‘Tackling illicit tobacco: From leaf to light’ (‘Leaf to Light’) a lansiwyd yn 2015, yn nodi’r nodau canlynol dros dargedu, dal a chosbi’r rheiny sy’n rhan o’r farchnad tybaco anghyfreithlon:

  1. creu amgylchedd byd-eang digroeso ar gyfer twyll tybaco drwy rannu cuddwybodaeth a newid polisïau

  2. mynd i’r afael â’r twyll ar bob pwynt yn y gadwyn gyflenwi anghyfreithlon, o’r gwaith cynhyrchu i’r gwaith manwerthu

  3. codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r cysylltiadau rhwng tybaco anghyfreithlon a throseddu cyfundrefnol er mwyn troi pobl yn erbyn twyll yn y DU

  4. defnyddio’r sancsiynau sydd gennym i’r eithaf a, lle bo angen, ddatblygu rhai llymach

Yn ogystal â gwella’r ffordd rydym yn gweithredu, rydym hefyd wedi parhau i ddefnyddio’r ystod lawn o sancsiynau sydd ar gael i fynd i’r afael â thwyll drwy gydol y gadwyn gyflenwi. O fis Ebrill 2015 i fis Mawrth 2023, mae hyn wedi arwain at y canlynol:

  • £10 biliwn: o dderbyniadau treth tybaco yn 2022 i 2023

  • 10.6 biliwn: o sigaréts wedi’u hatafaelu gan CThEF a Llu’r Ffiniau lle nad oedd toll y DU wedi’i thalu arnynt

  • 1,600 tunnell: o dybaco rholio â llaw wedi’i atafaelu gan CThEF a Llu’r Ffiniau lle nad oedd toll y DU wedi’i thalu

  • 1,571: o bobl wedi’u cael yn euog o droseddau tybaco

  • 8,000: o asesiadau i adennill toll ecséis oedd heb ei thalu

  • 9,304: o gosbau am gamwedd ecséis wedi’u rhoi am droseddau tybaco

  • £298 miliwn: gwerth y cosbau a’r asesiadau a godwyd

Drwy ‘Leaf to Light’ rydym wedi:

  • cadarnhau Protocol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) i Gael Gwared â’r Fasnach Anghyfreithlon mewn Cynhyrchion Tybaco (y Protocol). Mae’r Protocol yn darparu cyfres o fesurau sydd â’r nod o leihau’r fasnach mewn tybaco anghyfreithlon, gan gynnwys lansio system olrhain fyd-eang

  • cryfhau ein rhwydwaith o Swyddogion Cyswllt Troseddau Cyllidol, gyda 45 o swyddogion wedi’u lleoli mewn 38 o wledydd, gyda chyrhaeddiad byd-eang drwy gael rhanbarthau i weithio gyda’i gilydd. Mae’r swyddogion hyn yn gweithio’n agos gydag awdurdodau tramor i gau’n dynn ar y fasnach tybaco anghyfreithlon

  • arwain y ffordd drwy fod yn un o fabwysiadwyr byd-eang cyntaf o system olrhain ar gyfer cynhyrchion tybaco

  • cryfhau ein gwaith rheoleiddio i dargedu risgiau a bylchau newydd yn ein rheolaethau, drwy gyflwyno’r Cynllun Cymeradwyo Tybaco Crai yn 2017, a’r Cynllun Trwyddedu ar gyfer Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Tybaco yn 2018

  • lansio’r Ganolfan Cydlynu Cuddwybodaeth Weithredol Tybaco (TOICC), tîm amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol gydag aelodau o dimau Risg a Chuddwybodaeth CThEF, timau Gwasanaeth Ymchwilio i Dwyll, a Llu’r Ffiniau. Prif nod TOICC yw dod i hyd i gyfleoedd tactegol i wrthsefyll gweithgareddau OCG

  • lansio Ymgyrch CeCe, sef menter sy’n canolbwyntio ei hymdrechion ar darfu ar y fasnach tybaco anghyfreithlon ar lefel manwerthu leol. Gan ddod ag awdurdodau lleol, y sawl sy’n gorfodi’r gyfraith, a Safonau Masnach Cenedlaethol ynghyd, mae Ymgyrch CeCe wedi ei gwneud yn bosibl i dybaco anghyfreithlon o safleoedd manwerthu a phreswyl ledled Cymru, Lloegr a’r Alban gael ei atafaelu, gan darfu ar y farchnad ac atal twyll

  • arwain adolygiad o’r holl sancsiynau sydd ar gael, ac wedi cyflwyno sancsiynau a phwerau newydd, cryfach i Safonau Masnach yn 2023 o ran tybaco anghyfreithlon sy’n cael ei ddosbarthu ar y stryd

Astudiaethau achos

Gwnaethom gyflwyno rheolaethau newydd i’n helpu i fynd i’r afael â thwyll

Mae systemau olrhain yn olrhain cynhyrchion tybaco o’r cam gweithgynhyrchu i’r cam manwerthu. Mae’r system yn y DU a gyflwynwyd yn 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i bob pecyn o sigaréts a thybaco rholio â llaw sydd am gyrraedd marchnad y DU gael ei farcio â chod adnabod unigryw (UID) a gofynion pecynnu a marcio diogelwch penodol. Yna, caiff y cynnyrch ei olrhain ar bob pwynt yn y gadwyn gyflenwi drwy sganio’r UID, o’r cam gweithgynhyrchu i fewnforio ac yna i’r cam dosbarthu a gwerthu. Gan ddefnyddio’r label diogelwch ac UID, gall swyddogion nodi’n gyflym ai pecyn o sigaréts go iawn sydd dan sylw. Yn ogystal â chynyddu effeithlonrwydd gwiriadau ar lawr gwlad, mae’r system hefyd yn ein galluogi i olrhain tueddiadau ehangach mewn smyglo tybaco a dosbarthu tybaco.

Rydym yn gweithio’n rhyngwladol i dargedu grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n cynhyrchu ac yn cyflenwi tybaco anghyfreithlon ar gyfer marchnad y DU

Enghraifft: drwy ein Rhwydwaith Cyswllt Troseddau Cyllidol, roedd CThEF yn cydweithio â chyrff gorfodi’r gyfraith yng Ngwlad Pwyl i dynnu grŵp troseddau rhyngwladol i lawr a oedd yn ymwneud ag ystod o droseddau gan gynnwys smyglo sigaréts, ar raddfa fawr, i’r DU. Roedd CThEF yn gefn i’r ymchwiliad yng Ngwlad Pwyl drwy ddarparu cuddwybodaeth a thystiolaeth o weithgareddau’r grŵp yn y DU yn ogystal â chynhyrchion penodol oedd wedi’u hatafaelu.

Ym mis Chwefror 2023, lansiodd awdurdodau Gwlad Pwyl gyrchoedd cydgysylltiedig ledled Gwlad Pwyl, gan arestio 25 o bobl dan amheuaeth, chwilio 47 safle ac atafaelu peiriannau sigaréts, sigaréts, arfau saethu, bwledi a chetris, cyffuriau ac arian parod. Mae’r achos hwn yn dangos difrifoldeb y troseddau sy’n gysylltiedig â thybaco anghyfreithlon, ond hefyd y llwyddiant a ddaw yn sgil ein cydweithrediad rhyngwladol.

Rydym yn targedu smyglwyr mynych wrth y ffin ac o fewn y DU

Ym mis Mehefin 2022, cipiodd Llu’r Ffiniau dros 99 miliwn o sigaréts anghyfreithlon ym Mhorthladd Hull. Dyma oedd yr atafaeliad unigol mwyaf erioed o sigaréts mewn porthladd yn y DU. Roedd y troseddwyr wedi pacio 8 cynhwysydd yn llawn sigaréts anghyfreithlon a’u cludo i’r DU drwy’r Emiraethau Arabaidd Unedig. Aeth CThEF yn ei flaen i arestio nifer o bobl mewn perthynas â’r atafaeliad hwn.

Dyma un enghraifft yn unig o’r gwaith wrth y ffin, lle bo Llu’r Ffiniau a CThEF yn cyfuno i rannu cuddwybodaeth, cynnal gwaith proffilio i ddod o hyd i gynhyrchion tybaco anghyfreithlon ac erlyn y rhai sy’n gyfrifol. Arweiniodd y gwaith hwn at atafaelu cymaint â thros biliwn o sigaréts wrth y ffin yn 2021 i 2022.

Rydym yn targedu’r manwerthwyr sy’n hwyluso’r twyll

Mae CThEF yn gweithio’n agos gyda Safonau Masnach i darfu ar y fasnach tybaco anghyfreithlon ar lefel fanwerthu – sef Ymgyrch CeCe. Dechreuodd y gwaith hwn ym mis Ionawr 2021 ac mae eisoes wedi arwain at atafaelu dros 28 miliwn o sigaréts anghyfreithlon a bron i 8 tunnell o dybaco rholio â llaw anghyfreithlon yn ystod y ddwy flynedd gyntaf.

Sancsiynau newydd i fynd i’r afael ag osgoi toll ar dybaco anghyfreithlon

Cyflwynwyd pwerau cryfach i frwydro yn erbyn tybaco anghyfreithlon ym mis Gorffennaf 2023, gan gynnwys cosbau o hyd at £10,000 i unrhyw fusnesau ac unigolion sy’n cael eu dal yn gwerthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon.

Mae hyn yn adeiladu ar y gwaith cydweithio llwyddiannus sydd wrthi’n digwydd rhwng CThEF a Safonau Masnach. O dan y pwerau cryfach hyn, mae Safonau Masnach yn gallu gwneud atgyfeiriadau at CThEF lle maent yn dod o hyd i dystiolaeth o achosion sy’n mynd yn groes i’r system Olrhain Tybaco.

Mae CThEF yn rheoli’r gwaith o weinyddu a chyhoeddi’r sancsiynau perthnasol o dan y pwerau newydd.

Tueddiadau diweddar

Mae cefndir ehangach gwaith CThEF i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon wedi esblygu ers cyhoeddi ‘Leaf to Light’:

  • mae nifer yr achosion o ysmygu yn y DU wedi gostwng yn sylweddol o 17.2% yn 2015 i 12.9% yn 2022 (tua 6.4 miliwn o bobl). Mae camau gweithredu’r llywodraeth wedi bod yn sbardun pwysig i’r dirywiad hwn a bydd yn mynd ymhellach yn fuan. Ym mis Hydref 2023, cyhoeddodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei phapur gorchymyn, ‘Stopping the start: our new plan to create a smokefree generation’. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n drosedd i gynhyrchion tybaco fod ar werth yn gyfreithlon i unrhyw un a aned ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009. Mae hanes yn dangos bod ein mesurau wedi’u targedu, p’un ai wedi’u cyflwyno gennym drwy reolaethau cyfreithiol tynnach neu orfodaeth gryfach, wedi cael effaith gadarnhaol ar fynd i’r afael â phroblemau tybaco anghyfreithlon. Bydd y strategaeth hon, a’r buddsoddiad cynyddol mewn asiantaethau gorfodi o dros £100 miliwn dros gyfnod o 5 mlynedd, yn rhoi hwb pellach i asiantaethau fel safonau masnach lleol, CThEF a Llu’r Ffiniau i gwtogi ar nifer y cyfleoedd sydd ar gael i droseddwyr
  • er gwaethaf rheolaethau a llwyddiannau llymach ers ‘Leaf to Light’, mae amcangyfrifon o ran bwlch treth CThEF a chuddwybodaeth ehangach yn awgrymu bod bwlch y doll tybaco heb symud rhyw lawer ers 2015 (15.6% yn 2015 i 2016 i 17.7% yn 2021 i 2022). Mae’r sefyllfa sefydlog hon yn awgrymu, ni waeth faint rydyn ni’n cryfhau ein strategaeth bresennol, y bydd y cyflenwad bob amser yn dod o hyd i ffordd o gyrraedd y farchnad lle bo galw amdano. Mae’r elw sydd ar gael yn y fasnach tybaco anghyfreithlon fyd-eang yn golygu y bydd OCGau yn mynd i drafferth fawr i gynnal y cyflenwad, a’u bod yn barod i addasu’n gyson i reolaethau tynn, a’u bod yn gallu goresgyn unrhyw rwystrau’n sydyn
  • mae’n ymddangos nad yw datblygiadau pellgyrhaeddol fel ymadawiad y DU o’r UE, pandemig COVID-19, na’r pwysau costau byw wedi effeithio ar y risg gyffredinol a achosir gan dybaco anghyfreithlon. Mae’n ymddangos bod y galw am dybaco anghyfreithlon wedi aros yn gyson er gwaethaf y digwyddiadau gwleidyddol a byd-eang hyn
  • bu rhai newidiadau i’r math o gynnyrch sy’n ffurfio’r farchnad anghyfreithlon:

    • ar hyn o bryd mae’r farchnad anghyfreithlon ar gyfer sigaréts yn cael ei dominyddu gan sigaréts gwyn, ffug a rhad, sydd bron i gyd yn cael eu cynhyrchu y tu allan i’r DU ac wedi’u smyglo i mewn fel cynnyrch gorffenedig. Mae nifer y sigaréts go iawn sy’n cael eu smyglo ond yn gwneud rhan fach o’r farchnad
    • yn bennaf, mae’r farchnad anghyfreithlon ar gyfer tybaco rholio â llaw yn cynnwys cynnyrch ffug sy’n cael ei gynhyrchu’n anghyfreithlon yn y DU, a hefyd gynhyrchion tybaco go iawn sy’n cael eu smyglo i mewn i’r DU o’r gwledydd Ewropeaidd hynny sydd â chyfraddau toll is. Mae cynnydd yng nghynhyrchiad anghyfreithlon y DU yn tarddu’n bennaf o’r cyn lleied o arbenigedd ac offer sydd eu hangen i wneud tybaco rholio â llaw, ynghyd â’r elw mawr y mae modd ei wneud drwy gynhyrchu’r cynnyrch o fewn cyrraedd hawdd y farchnad arfaethedig
    • mae’r defnydd o dybaco shisha yn parhau i dyfu o fewn y DU. Er bod y dreth sydd yn y fantol yn llawer is ar hyn o bryd nag ar gyfer sigaréts a thybaco rholio â llaw, mae marchnad anghyfreithlon o smyglo tybaco shisha o dramor ac mae hefyd yn cael ei weithgynhyrchu’n anghyfreithlon yn y DU

Er gwaethaf ein llwyddiannau wrth fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon ers ‘Leaf to Light’, mae’r datblygiadau a’r tueddiadau hyn yn awgrymu bod angen rhai newidiadau i’n dull o fynd i’r afael â’r heriau:

  • dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae cysondeb y gwerthiant anghyfreithlon, yn hytrach na dirywiad ohono, yn awgrymu ein bod bellach, o bosib, wedi cyrraedd talcen caled o ran y rheiny sy’n defnyddio tybaco anghyfreithlon yn selog. Cyn belled â bod y galw hwn yn parhau, bydd OCGau yn parhau i fynd i drafferth fawr i gynnal y cyflenwad. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n debyg mai lleihau’r galw fydd y dacteg fwyaf effeithiol o fynd i’r afael â’r fasnach anghyfreithlon

  • o ran cyflenwad, er y bydd rhagor o reolaethau a mentrau yn cael effaith bellach yn erbyn OCGau, mae angen gweld cynnydd yng nghapasiti a gallu cyrff gorfodi er mwyn gweld gostyngiad sylweddol yn y farchnad anghyfreithlon yn ei chyfanrwydd

Dull newydd

Mae ein strategaeth newydd yn seiliedig ar gyflawni 2 nod strategol lefel uchel.

Nod 1: Lleihau’r galw am dybaco anghyfreithlon

Er mwyn lleihau maint y farchnad anghyfreithlon, mae’n rhaid i ni leihau’r galw am gynhyrchion anghyfreithlon. Nid yw mesurau o ran yr ochr gyflenwi yn unig yn ddigon i wneud cynnydd pellach yn y frwydr yn erbyn tybaco anghyfreithlon. Bydd lleihau’r galw yn lleihau’r cyfleoedd i OCGau a’r niwed ehangach y maent yn ei achosi, yn lleihau colledion treth ac yn cefnogi cynllun newydd y llywodraeth i greu ‘cenhedlaeth ddi-fwg’.

Nod 2: Taclo troseddau cyfundrefnol i leihau niwed cymunedol

Mae’r farchnad tybaco anghyfreithlon yn cael ei dominyddu gan droseddau cyfundrefnol, sy’n dod â phoen a dioddefaint i’r DU a’n cymunedau lleol. Ni wnawn ni ganiatáu i’r OCGau hyn weithredu’n rhydd. Byddwn yn dod â nhw o flaen eu gwell ac yn amddiffyn cymdeithas rhag y niwed y maent yn ei achosi. Dyrannwyd buddsoddiad sylweddol newydd o dros £100 miliwn dros y 5 mlynedd nesaf i fynd i’r afael yn rhagweithiol â her barhaus y bwlch treth sydd heb newid a’r risgiau hynny sy’n dod i’r amlwg sy’n rhwystro cenhedlaeth ddi-fwg rhag cael ei gwireddu.

Mae cysylltiad cryf rhwng y ddau nod cyffredinol hyn. Bydd ein hymdrechion i leihau’r galw drwy ymyrryd ar yr ochr gyflenwi yn golygu mynd i’r afael â’r troseddwyr sy’n ymwneud â smyglo tybaco a’u cosbi. Bydd y gwaith o fynd i’r afael â’r troseddwyr hynny, yn ei dro, yn cynyddu pris tybaco anghyfreithlon ac yn cael effaith gadarn ar faint o dybaco y gofynnir amdano.

Mae cyllid sylweddol newydd o dros £100 miliwn drwy gydol y 5 mlynedd nesaf wedi’i ddyrannu i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r genhedlaeth ddi-fwg gyntaf, gan ddangos ein hymrwymiad i frwydro yn erbyn twyll tybaco a sicrhau cenhedlaeth ddi-fwg i’n cymdeithas. Bydd yr arian newydd hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r ystod lawn o weithgareddau ar draws CThEF, Llu’r Ffiniau a Safonau Masnach fel y nodir yn y strategaeth hon.

Rydym wedi ceisio ymgorffori’r argymhellion ar dybaco anghyfreithlon o’r ‘Khan review 2022: Making Smoking Obsolete’ yn y strategaeth hon lle bo’n berthnasol. Nodir camau penodol ar shisha a sancsiynau llymach am dybaco anghyfreithlon yn fanwl isod. Mae nifer o’r argymhellion hyn, megis cyflwyno cynllun trwyddedu tybaco, yn cael eu cynnwys yn fras gan gynlluniau presennol neu rai sydd ar ddod, megis gofynion Olrhain Tybaco a sancsiynau cysylltiedig.

Mae’r llywodraeth wedi nodi camau arfaethedig i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag niwed ysmygu drwy greu’r genhedlaeth ddi-fwg gyntaf. Bydd CThEF a Llu’r Ffiniau yn gweithio i gefnogi uchelgais ehangach y llywodraeth o ran lleihau’r galw am dybaco yn fwy cyffredinol. Ein rôl benodol fydd lleihau’r galw am dybaco anghyfreithlon.

Byddwn yn gweithio i leihau’r galw yn uniongyrchol drwy fynd i’r afael ag agweddau’r cyhoedd tuag at ddefnydd tybaco anghyfreithlon yn ogystal â thrwy leihau pa mor rhwydd yw cael gafael ar gynhyrchion anghyfreithlon.

Ein huchelgais yw lleihau’r galw am dybaco anghyfreithlon drwy ei gwneud yn ddrytach i’w brynu ac yn anoddach dod o hyd iddo.

Nod 1: Lleihau’r galw am dybaco anghyfreithlon

1A: Lleihau rhwyddineb prynu tybaco anghyfreithlon drwy gynyddu ein heffaith ar fanwerthwyr sy’n gwerthu cynhyrchion anghyfreithlon a gweithio gyda manwerthwyr sy’n parchu’r gyfraith yn onest

Rydym am atal tybaco anghyfreithlon rhag bod yn opsiwn cyfleus sydd ar gael yn hwylus. Byddwn yn gweithio i darfu ar y rhwyddineb hwnnw er mwyn cael effaith ar y galw.

Byddwn ni’n gwneud y canlynol:

  • yn adeiladu ar lwyddiant Ymgyrch CeCe drwy gynyddu lefel y cyllid ac yn ymrwymo i’n perthynas â Safonau Masnach yn y tymor hir, er mwyn cael rhagor o effaith

  • yn gwella’r gwaith o rannu cuddwybodaeth ar draws CThEF a Safonau Masnach, gan sicrhau llwyddiant hirdymor Ymgyrch CeCe

  • yn mynd i’r afael â gwerthu tybaco anghyfreithlon ar-lein ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, casglu cuddwybodaeth am werthiannau ar y cyfryngau cymdeithasol, a gweithio gyda llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i sicrhau ein bod yn effeithiol wrth gyfyngu ar allu grwpiau troseddol i werthu tybaco anghyfreithlon drwy’r sianeli hyn

  • yn adolygu ein sancsiynau presennol i sicrhau ein bod yn gallu gweithio gyda landlordiaid i gau unrhyw allfeydd sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon ar eu safleoedd a’u hannog i ddod â phrydlesi i ben yn gynnar pan fo hynny’n digwydd. Bydd hyn yn cefnogi’r gwaith o roi ein sancsiynau tybaco llymach newydd ar waith

1B: Canolbwyntio ein gweithgarwch gorfodi’r gyfraith ar gynyddu’r pris y gall grwpiau troseddau cyfundrefnol werthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon amdano, a fydd yn ei dro yn lleihau’r galw amdanynt

Er bod cyfyngu ar gyflenwad cynhyrchion anghyfreithlon yn anodd iawn oherwydd eu bod ar gael ledled y byd a pharodrwydd OCGau i’w smyglo, mae ein gweithredoedd yn newid y ffordd y mae’r OCGau yn gweithredu, gan gynyddu eu costau a chodi pris stryd y cynhyrchion tybaco yn y pen draw. Mae dadansoddiad economaidd yn dangos bod codi pris cynhyrchion tybaco anghyfreithlon yn cael effaith sylweddol ar y galw am y cynhyrchion hynny.

Byddwn ni’n gwneud y canlynol:

  • yn cynyddu’r risg i’r troseddwyr hynny sy’n ymwneud â chyflenwi tybaco anghyfreithlon, gan orfodi OCGau i fynd i fwy o drafferth, a chostau, i smyglo cynhyrchion

  • yn tarfu ar lwybrau a dulliau smyglo, gan wneud i OCGau addasu i lwybrau a dulliau drutach i gynnal y cyflenwad

  • yn datgymalu’r OCGau mwyaf mynych er mwyn torri lawr ar y darbodion maint y maent yn gallu eu cyflawni

  • yn parhau i ddatgymalu ffatrïoedd tybaco anghyfreithlon yn y DU, gan darfu ar ymdrechion OCGau i sefydlu cynhyrchiad yn y DU fel modd i gwtogi ar gostau logistaidd

1C: Cefnogi ymgyrch ehangach y llywodraeth ar gyfer strategaeth ‘cenhedlaeth ddi-fwg’ gyda gweithgarwch cyfathrebu i helpu i fynd i’r afael â masnach a defnydd tybaco anghyfreithlon a chodi ymwybyddiaeth o gysylltiadau â throseddau cyfundrefnol.

Er ein bod wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’n herlyniadau a’n hatafaeliadau ac wedi cyfrannu at ymgyrchoedd ehangach y llywodraeth i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon, gallwn fynd ymhellach i godi ymwybyddiaeth o dybaco anghyfreithlon a’r effaith y mae’n ei chael ar gymunedau lleol, gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu i’r eithaf i helpu i leihau’r galw am gynnyrch anghyfreithlon.

Byddwn ni’n gwneud y canlynol:

  • yn cyflawni gweithgarwch cyfathrebu rhagweithiol i gefnogi’r ymgyrch i leihau’r galw am dybaco anghyfreithlon a chyffyrddusrwydd y rhai sy’n ei ddefnyddio

  • yn cyfathrebu’n benodol â busnesau - gan gynnwys siopau manwerthu - i atgyfnerthu’r risg a thynnu sylw at effaith sancsiynau newydd

  • yn cyfathrebu’n ehangach er mwyn tynnu sylw at y niwed cymunedol ehangach, y risgiau i blant a chysylltiadau â’r mathau eraill o droseddau cyfundrefnol lle bo hynny’n briodol. Mae’r fasnach anghyfreithlon yn aml yn cael yr effaith fwyaf yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad. Bydd canolbwyntio cyfathrebiadau ar ardaloedd lle mae tybaco anghyfreithlon yn fwyaf cyffredin yn helpu i gefnogi cenhedlaeth ddi-fwg a lleihau gwahaniaethau iechyd

  • yn gweithio gydag adrannau eraill y llywodraeth, gan gynnwys yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i gefnogi ymgyrchoedd cyfathrebu a mentrau eraill sydd wedi’u cynllunio i leihau’r galw am gynnyrch tybaco yn fwy cyffredinol – gan dynnu sylw at yr effaith ariannol ar yr economi yn ei chyfanrwydd ac ar gymunedau lleol

  • yn sicrhau bod ein negeseuon yn gyson gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus, a sefydliadau gan gynnwys y Bartneriaeth Tybaco Anghyfreithlon

  • yn parhau i roi cyhoeddusrwydd i’r gwaith atafaelu, arestio, a straeon o lwyddiant

Nod 2: Mynd i’r afael â throseddau cyfundrefnol

Mae’r farchnad tybaco anghyfreithlon yn cael ei dominyddu gan OCGau sy’n gweithredu’n rhyngwladol ac sy’n cymryd rhan mewn nifer o droseddau eraill. Mae’r niwed a achosir gan y grwpiau hyn yn llawer ehangach na’r niwed sy’n gysylltiedig ag ysmygu. Er enghraifft:

  • mae pobl sydd wedi’u masnachu yn aml yn cael eu defnyddio i gynhyrchu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon, gan weithio mewn amodau annynol yn erbyn eu hewyllys.

  • yn aml mae OCGau tybaco hefyd yn smyglo ac yn cyflenwi nwyddau troseddol eraill gan gynnwys cyffuriau

  • maent yn aml yn droseddwyr treisgar sy’n defnyddio arfau yn ein cymunedau

  • mae’r elw o dwyll tybaco yn cael ei wyngalchu, gan ariannu troseddau eraill yn ogystal â thwyll tybaco pellach

  • maent yn gwerthu cynhyrchion tybaco i blant na fyddent, fel arall, yn gallu prynu cynhyrchion tybaco yn gyfreithiol a dod yn ysmygwyr

Mae gan CThEF gyfrifoldeb fel asiantaeth orfodi i ddwyn troseddwyr o dwyll treth o flaen eu gwell. Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn cymdeithas rhag niwed a mynd i’r afael â’r rhai sy’n mynd ati i dwyllo’r system dreth.

Byddwn yn gweithio i fynd i’r afael â throseddau cyfundrefnol yn y DU, wrth y ffin a thramor, gan rannu cuddwybodaeth yn effeithiol a chodi cosbau llym ar y rhai sy’n torri’r gyfraith. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn gwneud y canlynol:

2A: Sefydlu tasglu tybaco anghyfreithlon amlasiantaethol i gydlynu gweithgarwch gorfodi

  • byddwn yn sefydlu tasglu tybaco anghyfreithlon amlasiantaethol, gan ddod â chydweithwyr o CThEF, Llu’r Ffiniau, a Safonau Masnach at ei gilydd i un tîm sy’n cydweithio’n agos â phartneriaid gorfodi’r gyfraith a chuddwybodaeth eraill

  • bydd y tasglu yn cyfuno’r holl guddwybodaeth a gwybodaeth sydd ar gael, gan adeiladu trosolwg o’r farchnad anghyfreithlon a’r troseddwyr dan sylw, gan alluogi ymateb cydlynol a chynhwysfawr

  • bydd y tasglu yn cyfarwyddo gweithgarwch gweithredol, gan ddefnyddio galluoedd a phwerau’r holl bartneriaid i wneud y mwyaf o’n heffaith ar yr OCGau mwyaf niweidiol

  • gan weithio gyda’n gilydd, byddwn yn nodi bygythiadau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg ac yn datblygu cynlluniau i fynd i’r afael â nhw

2B: Targedu’r grwpiau troseddau cyfundrefnol mwyaf niweidiol yn y DU yn ddi-baid nes na allant weithredu mwyach

Byddwn ni’n gwneud y canlynol:

  • yn defnyddio’r holl adnoddau a sancsiynau sydd ar gael i fynd i’r afael â’r OCGau mwyaf niweidiol yn y DU, gan gynnwys erlyniad

  • yn rhoi blaenoriaeth i dargedu’r grwpiau hyn dros y tymor hir, gan fuddsoddi adnoddau sylweddol i darfu ar eu gweithrediadau

  • yn targedu cyllid anghyfreithlon yr OCGau hyn, gan weithio gyda phartneriaid gorfodi’r gyfraith a defnyddio pwerau adennill asedion helaeth CThEF i adennill arian parod ac asedion

2C: Targedu troseddau cyfundrefnol wrth y ffin

Mae’r rhan fwyaf o dybaco anghyfreithlon yn cael ei smyglo i’r DU fel cynnyrch wedi’i becynnu. Er bod tybaco rholio â llaw anghyfreithlon bellach yn cael ei gynhyrchu yn aml yn y DU, mae OCGau yn dal i ddibynnu ar ddeunyddiau crai sy’n cael eu smyglo i mewn. Mae’r elw o dwyll tybaco hefyd yn aml yn cael ei smyglo allan o’r DU ar ffurf arian parod.

  • bydd CThEF a Llu’r Ffiniau yn parhau i weithio gyda’i gilydd, gan rannu cuddwybodaeth i ddod o hyd i, ac atafaelu, gynhyrchion tybaco, deunyddiau/offer cynhyrchu ac arian parod wrth y ffin, ac i erlyn, cosbi a dirwyo’r rhai sy’n gyfrifol am ymdrechion smyglo

  • yn unol ag uchelgais ehangach y llywodraeth a nodir yn strategaeth Ffiniau 2025, byddwn yn ceisio gwella sut rydym yn gweithredu wrth y ffin drwy gynnal ein gwiriadau i’r eithaf, symleiddio prosesau wrth y ffin ac archwilio sut y gall technolegau newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg gefnogi ein gwaith wrth y ffin

  • byddwn yn archwilio sancsiynau newydd i’w cynnal wrth y ffin ochr yn ochr â’r defnydd o bwerau mewnfudo i wrthod a symud teithwyr sy’n smyglo cynhyrchion tybaco. Byddai’r sancsiynau hyn yn ffordd ychwanegol effeithiol o atal a chosbi’r rheiny sy’n smyglo cynnyrch anghyfreithlon

2D: Cryfhau’r gwaith cydweithio rhyngwladol i daclo troseddau cyfundrefnol

Mae tybaco anghyfreithlon yn broblem fyd-eang. Mae’r sigaréts anghyfreithlon a welwn yn y DU yn cael eu cynhyrchu dramor i raddau helaeth, yn aml yn croesi sawl ffin cyn cyrraedd ein glannau. Ers gadael yr UE, mae’r DU wedi parhau i chwarae rhan flaenllaw wrth hyrwyddo cytundebau rhyngwladol a chreu partneriaethau gwaith agosach dramor i greu amgylchedd byd-eang digroeso ar gyfer y fasnach tybaco anghyfreithlon. Byddwn yn parhau i gydweithio â phartneriaid rhyngwladol i’w gwneud hi’n anodd i OCGau yn y DU gael tybaco anghyfreithlon.

Byddwn ni’n gwneud y canlynol:

  • yn gweithio drwy ein rhwydwaith o Swyddogion Cyswllt Troseddau Cyllidol mewn partneriaethau amlochrog a dwyochrog allweddol i darfu ar yr OCGau mwyaf niweidiol a darfu ar y llif tybaco anghyfreithlon cyn iddo gyrraedd y DU

  • yn gweithio gyda gwledydd partner drwy Lwyfan Rhannu Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer y System Olrhain Tybaco, a lansiwyd ym mis Medi 2023. Mae’r llwyfan hwn yn galluogi’r DU i gael a rhannu data olrhain gyda dros 65 o wledydd eraill sydd wedi cofrestru i’r platfform. Bydd y data hyn yn ehangu ein cuddwybodaeth am gadwyni cyflenwi byd-eang ar gyfer cynhyrchion go iawn ac yn ein helpu i dargedu ein hymdrechion i fynd i’r afael â chynhyrchion anghyfreithlon.

2E: Defnyddio polisi a deddfwriaeth i leihau cyfleoedd ar gyfer OCGau

  • rydym yn ehangu mynediad at y System Olrhain Tybaco ar draws CThEF ac i Safonau Masnach

  • yn 2024, bydd CThEF yn ymestyn y system olrhain i gynnwys pob cynnyrch tybaco fel sigârs, sigarilos, a shisha

  • byddwn yn parhau i ddefnyddio’r ddeddfwriaeth bresennol i sicrhau nad yw OCGau yn gallu cael gafael ar niferoedd mawr o’r cynhyrchion tybaco go iawn sy’n cael eu marchnata yn y DU

  • byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol, yn enwedig yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar weithredu’r System Olrhain Tybaco yn y ffordd orau bosibl, gan gynnwys ymchwilio i gyfleoedd a fyddai’n caniatáu i unrhyw un wirio a yw busnes wedi’i gofrestru’n gywir i werthu cynhyrchion tybaco

  • er bod shisha’n ffurfio cyfran fach o’r farchnad tybaco anghyfreithlon gyffredinol, rydym yn gwybod bod cryn dipyn o’r shisha a ddefnyddir yn y DU yn anghyfreithlon. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol i fynd i’r afael â shisha anghyfreithlon yn y DU, gan gasglu cuddwybodaeth ar y gadwyn gyflenwi ac archwilio opsiynau polisi i leihau maint y farchnad shisha anghyfreithlon

  • byddwn yn adolygu ac yn cryfhau ein mecanweithiau adrodd ar gyfer tybaco anghyfreithlon fel y gall y rhai sy’n dod o hyd i dybaco anghyfreithlon rybuddio’r awdurdodau priodol yn hawdd

  • byddwn yn gweithio ar draws y llywodraeth i sicrhau ein bod yn gydgysylltiedig yn ein gwaith i fynd i’r afael â throseddau cyfundrefnol ac i amlygu’r cysylltiadau rhwng tybaco anghyfreithlon a throseddoldeb cyfundrefnol arall

Gwerthuso’r strategaeth

Byddwn yn datblygu sylfaen dystiolaeth gref sy’n sail i’r strategaeth hon, fel y gallwn fesur effeithiolrwydd ein gwaith yn gywir ac addasu ein hymateb yn unol â hynny.

Byddwn yn gweithio i fireinio’r fethodoleg a ddefnyddiwn i gyfrifo ystod eang o offer sy’n ein galluogi i fesur effaith ein gwaith, gan sicrhau bod gennym asesiad cadarn o faint y farchnad anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys:

  • datblygu ystod o ddangosyddion, mor agos at amser real sy’n bosibl, o raddfa gyffredinol y farchnad anghyfreithlon

  • gwneud y defnydd mwyaf o’r data Olrhain

  • adnabod amrywiadau mewn ymddygiad yn gyflym