Gofyniad Plismona Strategol 2023
Mae'r Gofyniad Plismona Strategol yn nodi barn yr Ysgrifennydd Cartref am beth yw'r bygythiadau cenedlaethol presennol, a'r galluoedd plismona cenedlaethol sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r bygythiadau hynny.
Dogfennau
Manylion
Cyhoeddwyd y Gofyniad Plismona Strategol (SPR) am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2012, yn unol ag adran 77 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Cafodd y Gofyniad Plismona Strategol blaenorol ei ddiweddaru ddiwethaf yn 2015.
Rhaid i gomisiynwyr heddlu a throsedd a phrif gwnstabliaid ystyried yr SPR wrth gyflawni eu swyddogaethau.
Bygythiadau cenedlaethol
Mae fersiwn 2023 yn cyflwyno trais yn erbyn menywod a merched fel bygythiad cenedlaethol ychwanegol, ac yn ailddatgan dilysrwydd y bygythiadau presennol.
Y bygythiadau cenedlaethol a nodir yn yr SPR yw:
- trais yn erbyn menywod a merched
- terfysgaeth
- troseddau difrifol a chyfundrefnol
- digwyddiad seibr cenedlaethol
- cam-drin plant yn rhywiol
- anrhefn cyhoeddus
- argyfyngau sifil
Mae cynnwys trais yn erbyn menywod a merched fel bygythiad cenedlaethol yn gosod disgwyliadau clir ar gyfer:
- galluoedd heddlu lleol a rhanbarthol i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched
- sut mae heddluoedd lleol yn gweithio gydag eraill, gan gynnwys cydweithio ag asiantaethau eraill
Diweddariadau eraill
Mae newidiadau eraill yn cynnwys:
- disgrifiad manylach o sut y dylai bygythiadau gael eu taclo gan luoedd heddlu
- trefniadau llywodraethu a sicrwydd cryfach, gan gynnwys gofyniad am gyfeiriadau mwy penodol at SPR mewn cynlluniau heddlu a throsedd
- adran troseddau difrifol a threfnedig well, er mwyn sicrhau amlygrwydd i fathau o droseddau fel twyll a throseddau mewnfudo cyfundrefnol
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 June 2023 + show all updates
-
Accessible English version added.
-
Added Welsh translation.
-
First published.