Policy paper

Welsh translation (HTML)

Updated 7 February 2023

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried bod y Bil yn cynnwys darpariaethau sy’n gwneud addasiadau i’r gyfraith fel y mae’n berthnasol i faterion cadwedig ac mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol sail resymol dros gredu y byddai ganddynt effaith andwyol ar weithrediad y gyfraith fel y mae’n berthnasol i faterion cadwedig. Mae’r rhesymau dros y gred hon wedi eu nodi yn Rhannau 2. 3 a 4.

Rhan 1: Effaith y Bil

Mae’r Bil yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 (Deddf 2004) ar gyfer yr Alban. Bydd y diwygiadau hyn yn newid yn sylweddol sut y gellir rhoi Tystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC) i ymgeiswyr o dan gyfraith yr Alban. Mae pobl yn gallu ymgeisio os ydynt wedi eu cofnodi ar gofrestr geni yn yr Alban neu os ydynt yn preswylio fel arfer yn yr Alban.

Mae’r diwygiadau a wneir gan y Bil i Ddeddf 2004 yn ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i ymgeiswyr o’r Alban gael GRC llawn, gan ddileu nifer o fesurau mae llywodraeth y DU yn eu hystyried yn drefniadau diogelu pwysig, gan gynnwys:

  • dileu’r gofyn i ymgeisydd gael neu fod wedi cael diagnosis o ddysfforia rhywedd (ac, yn gyfatebol, dileu’r gofyn i ymgeisydd ddarparu adroddiadau meddygol gyda’i gais).
  • gostyngiad yn yr isafswm oedran o 18 i 16
  • gostyngiad yn y cyfnod mae’n rhaid bod ymgeisydd wedi byw yn ei rywedd/ rhywedd caffaeledig cyn cyflwyno cais, o 2 flynedd i 3 mis (neu 6 mis i ymgeiswyr o dan 18), ochr yn ochr â chyflwyno cyfnod myfyrio 3 mis gorfodol
  • dileu’r gofyn i ymgeisydd ddarparu unrhyw dystiolaeth ei fod/bod wedi byw yn ei rywedd/rhywedd caffaeledig wrth gyflwyno cais
  • dileu’r gofyn i Banel fod yn fodlon fod yr ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf, a cheisiadau yn cael eu gwneud yn hytrach i Gofrestrydd Cyffredinol yr Alban.

Gyda’i gilydd, mae’r gwelliannau hyn yn dileu unrhyw ofyn am ddilysu trydydd parti neu dystiolaeth o’r broses.

Mae’r Bil hefyd yn diwygio darpariaethau ar gyfer y broses y mae pobl o dramor yn gallu cael GRC o dan gyfraith yr Alban. Mae Adran 1(1)(b) o Ddeddf 2004 yn darparu llwybr tramor symlach sy’n galluogi person i ymgeisio am GRC os yw ei rywedd/rhywedd caffaeledig wedi cael ei gydnabod yn gyfreithiol mewn gwlad neu diriogaeth a gymeradwywyd. Yn hytrach, mae’r Bil yn darparu lle mae person wedi cael “cydnabyddiaeth rhywedd dramor”, bydd y person yn cael ei drin yn awtomatig fel pe byddai Cofrestrydd Cyffredinol yr Alban wedi rhoi GRC llawn i’r person, oni bai ei fod yn amlwg yn groes i bolisi cyhoeddus. Nid yw’r ddarpariaeth hon yn berthnasol i bobl sydd â GRC a roddwyd yng ngweddill y DU o dan Ddeddf 2004, oherwydd bod adran 8M yn darparu ar wahân eu bod yn cael eu trin fel petaent yn dystysgrifau GRC llawn wedi eu rhoi gan y Cofrestrydd Cyffredinol. Mae gan y Bil eithriad ar gyfer amgylchiadau lle y byddai’n amlwg yn groes i bolisi cyhoeddus i wneud hynny (er enghraifft, mewn achos lle cafwyd cydnabyddiaeth rhywedd gyfreithiol dramor yn ifanc iawn), er nad yw’r Bil yn diffinio fel arall pryd y bydd yr eithriad hwn yn berthnasol.

Effaith ar weithrediad y gyfraith fel y mae’n berthnasol i faterion cadwedig.

Bydd y Bil yn gwneud addasiadau i’r gyfraith fel y mae’n berthnasol i’r materion cadwedig. Mae adrannau 2-6 a 16 y Bil yn gwneud addasiadau i Ddeddf 2004 trwy ddiwygio adrannau 1-8 (ac eithrio a.4(4)) o Ddeddf 2004 a rhoi adrannau 8A i 8E yn eu lle; mae adran 8 yn mewnosod adran 8M newydd; mae adran 16 hefyd yn diwygio adran 25 (sy’n cynnwys y diffiniadau perthnasol) o Ddeddf 2004. Mae’r Bil felly yn addasu Deddf 2004.

Y mater cadwedig y mae’r gyfraith yn berthnasol iddo yw (o leiaf yn gyntaf) “cyfleoedd cyfartal”.[footnote 1] Mae’r mater cadwedig yn cael ei ddiffinio’n benodol i olygu “atal, dileu neu reoleiddio gwahaniaethu rhwng personau ar sail rhyw neu statws priodasol, ar sail hiliol, neu ar sail anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, iaith neu darddiad cymdeithasol, neu nodweddion personol eraill, gan gynnwys cred neu farn, megis cred grefyddol neu farn wleidyddol.”

Mae’r gyfraith wedi’i haddasu (Deddf 2004) yn berthnasol i’r mater cadwedig (cyfleoedd cyfartal) trwy ei rhyngberthynas â Deddf Cydraddoldeb 2010 (Deddf 2010). Mae Deddf 2010 yn darparu fframwaith gyfreithiol Prydain Fawr i ddiogelu hawliau unigolion a hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb.

Mae Deddf 2010 yn gwneud “rhyw” yn nodwedd warchodedig ac mae’n gwneud darpariaethau ynghylch pan fydd ymddygiad yn ymwneud â’r nodwedd warchodedig honno yn anghyfreithlon. Mae Adran 9 o Ddeddf 2004 yn darparu oni bai fod eithriadau yn berthnasol, mai effaith GRC llawn yw y daw rhyw’r person “at bob diben” fel y mae wedi’i ardystio. Fel mater o egwyddor gyffredinol, mae gan GRC llawn yr effaith o newid y rhyw sydd gan berson yn nodwedd warchodedig at ddibenion Deddf 2010.[footnote 2] Mae hyn yn amodol ar sefydlu bwriad i’r gwrthwyneb mewn perthynas â’r dehongliad o ddarpariaethau penodol yn Neddf 2010.

Cafodd Deddf 2010 yn ei chyfanrwydd ei drafftio yng ngoleuni, a chan adlewyrchu, terfynau penodol Deddf 2004 Act a’r anhawster cymharol y gallai person ei gael wrth newid ei ryw/rhyw yn gyfreithiol “at bob diben” (ar gyfer adran 9), gan gynnwys Deddf 2010 ei hun. Mae’r Bil yn newid y cydbwysedd gofalus hwnnw.

Mae gan y Bil ganlyniadau ymarferol hefyd ar weithrediad y gyfraith fel y mae’n berthnasol i faterion cadwedig eraill. Yr enghreifftiau mwyaf nodedig yw’r weinyddiaeth o dreth, budd-dâl a phensiynau Gwladwriaeth a reolir gan systemau integredig ar draws y DU sy’n rhychwantu swyddogaethau cadwedig a datganoledig. Y materion cadwedig y mae’r gyfraith yn berthnasol iddynt yw “polisi ariannol” a “nawdd cymdeithasol”.[footnote 3]

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn credu y byddai’r addasiadau i Ddeddf 2004 fel y mae’n berthnasol i faterion cadwedig yn cael effaith andwyol ar weithredu’r gyfraith fel y mae’n berthnasol i faterion cadwedig.

Mae’r effeithiau andwyol hyn yn gallu cael eu grwpio i 3 maes pryder cyffredinol a nodir yn adrannau canlynol y ddogfen hon:

Rhan 2: Yr effeithiau o greu 2 drefn gyfochrog a gwahanol iawn ar gyfer rhoi a dehongli GRC o fewn y DU.

Rhan 3: Yr effeithiau y gallai dileu trefniadau diogelu eu cael ar ddiogelwch, yn enwedig i fenywod a merched, o ystyried y potensial sylweddol gynyddol i geisiadau twyllodrus fod yn llwyddiannus.

Rhan 4: Yr effeithiau ar weithredu Deddf Cydraddoldeb 2010 sy’n deillio o’r ffaith fod GRC yn newid nodwedd warchodedig rhyw person at ddibenion Deddf 2010, ac yn ehangu’r garfan o bobl sy’n gallu cael GRC. Mae hyn yn cynnwys (a) gwaethygu materion sy’n bodoli eisoes o dan y drefn GRC bresennol, a (b) creu rhai newydd.

Rhan 2: Effeithiau andwyol trefniadau GRC gwahanol ar draws y DU

Mae’r categori cyntaf o effeithiau andwyol a grëir gan y Bil yn dod o’r addasiadau sylweddol mae’n eu gwneud i’r sail y gellir cael GRC arni, ac felly’n gwahanu cyfraith yr Alban oddi wrth gyfraith gweddill y DU, hynny yw, mae’n creu 2 drefn gyfochrog a gwahanol iawn ar gyfer rhoi a dehongli GRC.

Nid yw’r Bil yn honni y byddai gofyn na fyddai gan GRC a roddir yn yr Alban o dan ei thelerau unrhyw effaith gyfreithiol ac eithrio yng nghyfraith yr Alban; ni allai, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, fod wedi gwneud hynny. Mae’n broblemus iawn mewn egwyddor yn ogystal ag yn ymarferol pe bai gan un o ddinasyddion y DU rywedd gwahanol, a rhyw cyfreithiol (gan gynnwys at ddibenion Deddf 2010), yn dibynnu ar ble mae’n digwydd byw o fewn y DU, a pha system gyfreithiol sy’n berthnasol iddo/iddi. Mae’n annymunol yn ymarferol ac yn gyfreithiol i bawb, gan gynnwys deiliad unigol y GRC yn benodol, y bydd gan berson un rhyw cyfreithiol yn yr Alban ac un gwahanol yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Cydnabu’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol a gafodd ei basio gan Senedd yr Alban ochr yn ochr â GRC 2004, ar y pryd, ddymunoldeb cael un drefn gydlynol ar gyfer cael GRC a oedd yn berthnasol yn yr un modd ledled y DU. Nid yw’r dymunoldeb hwnnw wedi newid.

Mae’n glir fod nifer o effeithiau andwyol penodol a achosir gan system ddeuol, fel yr amlinellir isod, yn ogystal â’r effaith andwyol gyffredinol a grëir gan ddiffyg eglurder cyffredinol ar gyfer deiliaid GRC yn ogystal â darparwyr gwasanaeth, cyflogwyr ac ati y gall fod yn aneglur iddynt pa statws sydd gan GRC Albanaidd neu un i’r DU gyfan mewn cyd-destunau gwahanol, ac i ba raddau ac o dan ba amgylchiadau y bydd y cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth (am statws neu hanes GRC rhywun) a osodir gan adran 22 o Ddeddf 2004 yn berthnasol.

Mae’r effeithiau andwyol hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain, yr enghreifftiau o effeithiau ar weithrediad Deddf Cydraddoldeb 2010 a nodir yn fanylach isod, gan gynnwys:

  • clybiau neu gymdeithasau un rhyw: gallai fod gan glwb neu gymdeithas un rhyw ledled y DU aelodaeth wahanol mewn rhannau gwahanol o’r DU
  • dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (PSED): byddai’n rhaid i awdurdod cyhoeddus trawsffiniol wneud cais i ddefnyddio’r PSED yn wahanol yn yr Alban i Gymru a Lloegr
  • tâl cyfartal: byddai gan gyflogwr ledled y DU gyflogeion na fyddai’n gallu defnyddio cydweithiwr yn gymharydd mewn hawliad tâl cyfartal pe byddai’n cael ei gyflwyno yn yr Alban, ond gallai wneud hynny yn Lloegr (a’r gwrthwyneb)

Byddai defnyddio’r Bil yng nghyd-destun adran 22 o Ddeddf 2004 yn debygol o waethygu pryderon cynyddol cyflogwyr a darparwyr sy’n codi o’r garfan newydd: mae’r niferoedd cynyddol o ddeiliaid GRC yn golygu y bydda pobl yn dod ar draws y materion a’r cyfyngiadau hyn yn amlach; a bod ystyriaethau ychwanegol ar gyfer deiliaid GRC 16 a 17 oed nad oeddent wedi eu rhagweld pan gafodd Deddf 2004 ei dyfeisio. Mae adran 22 yn ei gwneud yn drosedd i rywun sydd wedi derbyn gwybodaeth warchodedig yn rhinwedd ei swydd ddatgelu’r wybodaeth i rywun arall. Mae hon yn ddarostyngedig i eithriadau, gan gynnwys lle mae’r person yn cydsynio i’r datgeliad. Gwybodaeth warchodedig yw ffaith am gais person am GRC a chyn gynted ag y bydd wedi newid ei ryw/rhyw yn gyfreithiol, gwybodaeth fod ganddo/ganddi GRC, neu wybodaeth yn ymwneud â’i ryw/rhyw biolegol ( ac felly hunaniaeth flaenorol). Mae cwmpas adran 22 yn un eang. Mae’n ei gwneud yn anodd gofyn neu gofnodi rhyw cyfreithiol unigolyn mewn cyd-destun proffesiynol, gan y gallai newidiadau mewn cofnodion rhyw cyfreithiol rhywun dros amser ddatgelu bod ganddo/ganddi GRC, sy’n wybodaeth warchodedig.

Mae nifer o feysydd hefyd lle caiff creu system ddeuol ganlyniadau andwyol difrifol (ac mewn rhai achosion rhai nad oes modd eu rheoli o bosibl) ar weithrediad y gyfraith fel y mae’n berthnasol i faterion cadwedig eraill. Yr enghraifft fwyaf nodedig yw gweinyddiaeth treth, budd-daliadau a phensiynau’r Wladwriaeth sy’n cael eu rheoli gan systemau integredig ledled y DU ac sy’n cwmpasu swyddogaethau cadwedig a datganoledig, yn gweithredu ar gyfer llywodraethau’r DU yn ogystal â’r Alban. Mae seilwaith TG presennol yn caniatáu un rhyw cyfreithiol yn unig ar unrhyw gofnod ac nid yw’n gallu newid y dynodwr ar gyfer pobl 16 i 17 oed. Mae’r rheini sy’n gyfrifol am y systemau hyn yn ystyried, hyd yn oed ag amser a chost sylweddol,[footnote 4] y gall fod yn amhosibl rheoli’r gwaith o’u hadeiladu gallu system i reoli hunaniaeth ddeuol ar gyfer yr un unigolyn os gallai rhyw cyfreithiol rhywun fod yn wahanol yng nghyfraith yr Alban a’r gyfraith ar gyfer Lloegr a Chymru.

Mae’r Bil hefyd yn creu system wahanol i ddinasyddion tramor gael tystysgrifau GRC rhwng tystysgrifau a gydnabyddir yn yr Alban ac yng ngweddill y DU. Gan y bydd y broses yn yr Alban yn caniatáu i unrhyw ddeiliad GRC tramor gael GRC Albanaidd yn awtomatig (oni bai ei bod yn amlwg groes i bolisi cyhoeddus), gallai hyn arwain o bosibl at ddinasyddion tramor yn y DU (o wledydd neu diriogaethau nad ydynt ar y rhestr gymeradwy) yn ffafrio ymgeisio am dystysgrifau GRC yr Alban er mwyn osgoi’r broses fwy trwyadl o ymgeisio i’r Panel ar lwybr safonol y DU. Lle dibynnir ar y tystysgrifau GRC hyn mewn perthynas â meysydd materion cadwedig - gan gynnwys o dan Ddeddf 2010 - byddant yn agwedd ychwanegol ar effaith anghydlynol y Bil ar weithredu’r gyfraith fel y mae’n berthnasol i faterion cadwedig.

Rhan 3: Effeithiau andwyol sy’n deillio o risg gynyddol ceisiadau twyllodrus

Bydd y gwelliannau a wneir gan y Bil i Ddeddf 2004 yn dileu nifer o fesurau y mae llywodraeth y DU yn eu hystyried yn drefniadau diogelu pwysig, fel yr amlinellir ym mharagraff 3 uchod. Gyda’i gilydd, mae’r addasiadau hyn yn tynnu unrhyw ofyniad am ddilysu trydydd parti neu dystiolaeth o’r broses.

Mae’r Bil yn creu trosedd o wneud datganiad statudol ffug neu wneud cais ffug am gydnabyddiaeth rhywedd, â chosbau o hyd at 2 flynedd o garchar a dirwy anghyfyngedig.

Mae’r Bil hefyd yn gofyn i Brif Gwnstabl Heddlu’r Alban hysbysu Cofrestrydd Cyffredinol yr Alban os bydd yn gwneud cais i’r llys am orchymyn atal niwed rhywiol neu orchymyn atal troseddau rhywiol, fyddai’n cael yr effaith o atal person rhag gwneud cais am GRC.

Mae’r trothwy newydd ar gyfer ceisiadau yn newid y garfan o bobl sydd â GRC mewn 2 ffordd sylweddol: mae’n newid natur y bobl sy’n gymwys i ymgeisio ac wrth wneud hynny, mae’n debygol o gynyddu’n sylweddol nifer y bobl sy’n gallu gwneud hynnyl.[footnote 5] Ar hyn o bryd, mae’r gofyn am ddiagnosis dysfforia rhywedd, yn ogystal â thystiolaeth o 2 flynedd o fyw yn y rhywedd caffaeledig, yn golygu bod terfynau clir ar bwy sy’n gymwys i ymgeisio. Trwy ddileu’r angen am unrhyw ddilysu trydydd parti gan gynnwys y cyfnod gofynnol o fyw yn y rhywedd caffaeledig, a lleihau’r cyfnod hwnnw i 3 mis (6 mis i’r rheini sy’n 16 i 17 oed),[footnote 6] mae’r trothwy wedi’i newid: o un sy’n anodd iawn i’w fodloni ac sy’n gofyn am ddilysu trydydd parti; i un sy’n llawer mwy dibynnol ar farn personol ymgeisydd. Mae’n eglur fod hyn yn newid y garfan o bobl a allai felly fod yn dal GRC, a thrwy hynny’r categori o bobl sy’n berthnasol i/sy’n elwa o ddarpariaethau rhyw penodol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd lefel y sicrwydd ynglŷn â’r tebygolrwydd y bydd yr unigolyn yn parhau’n ymrwymedig i fyw yn ei rywedd caffaeledig hefyd dipyn yn llai oherwydd y cyfnod dechreuol byrrach gofynnol, gan gynyddu’r tebygolrwydd o unigolion yn amrywio neu’n terfynu’n llwyr yr ymrwymiad hwn gan ei fod/bod wedi newid ei ryw/rhyw cyfreithiol. Mae’r newidiadau hyn felly yn agor y posibilrwydd ar gyfer heterogenedd arwyddocaol helaethach yn y garfan.

Mae’r newid mewn sut mae GRC yn gallu cael ei gaffael o dan y Bil yn effeithio ar yr amgylchiadau lle mae person yn gallu newid ei nodwedd warchodedig o ryw o dan Ddeddf 2010. Mae’n ehangu’r categori o bobl fydd yn cael eu hystyried yn fenywod[footnote 7] o dan Ddeddf 2010. Bellach nid benyw fiolegol fydd na benyw 18 oed neu drosodd sydd â GRC o ganlyniad i gyflwr meddygol wedi’i ddiagnosio ac sydd â 2 flynedd o brofiad byw; bydd, yng nghyfraith yr Alban, yn fenyw fiolegol neu’n berson 16 oed neu drosodd sydd wedi hunanadnabod yn fenyw am 6 (neu 9 mis).[footnote 8] Mae hwn yn newid sylweddol i’r hyn yw ‘dyn’ neu ‘fenyw’ at ddibenion Deddf 2010.

Nid yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn credu bod y Bil yn cadw nac yn creu trefniadau diogelu digonol i liniaru’r risg o geisiadau twyllodrus a/neu faleisus ac mae’n credu y bydd y system ddiwygiedig yn agored i gamddefnydd a gweithredwyr maleisus. Er enghraifft, fel y nodwyd eisoes, nid yw’r cyfnod gofynnol ar gyfer byw yn y rhywedd caffaeledig yn cynnwys unrhyw dystiolaeth. Byddai hyn yn tanseilio gweithrediad dynodiad y BIl o ryw a’i ryngberthynas â rhyw yn nodwedd warchodedig yn Neddf 2010, gan erydu hyder yn yr ail yn fframwaith credadwy i ddiogelu hawliau’r unigolion a hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb. Mae pwyntiau tebyg wedi cael eu nodi gan Adroddwr Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Drais yn erbyn Menywod a Merched.[footnote 9]

Mae effeithiau andwyol a nodwyd o bryder arbennig mewn perthynas â gweithredu darpariaethau Deddf 2010 yn ymwneud â mannau wedi’u gwahanu o ran rhyw, gwasanaethau, chwaraeon cystadleuol a gofynion galwedigaethol. Mae’r rhain yn caniatáu ar gyfer eithrio pobl sydd â’r nodweddion gwarchodedig ailbennu rhywedd, gan gynnwys y rheini sydd â GRC, lle gellir cyfiawnhau’n wrthrychol eu heithrio. O ystyried y posibilrwydd sylweddol gynyddol y gall rhywun sydd â bwriad maleisus gael GRC a chan y bydd y risg hon yn hysbys yn eang, mae risg berthynol o bobl ddim yn teimlo’n ddiogel mwyach mewn unrhyw leoliad wedi’i wahanu o ran rhyw ac yn hunaneithrio o’r lleoliadau hyn er y gallent gael budd sylweddol oddi wrthynt.

Rhan 4: Effeithiau andwyol mewn perthynas â gweithrediad Deddf Cydraddoldeb 2010.

(a) Gwaethygu materion presennol gyda gweithredu Deddf Cydraddoideb 2010.

Bydd y gwelliannau a wneir gan y Bil i Ddeddf 2004 yn caniatáu i gategori newydd a sylweddol ehangach o bobl, nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu cael GRC llawn, wneud hynny. Mae’r grŵp hwn (y garfan newydd) yn cynnwys:

  • ymgeiswyr 16 i 17 oed
  • ymgeiswyr sydd â diagnosis o ddysfforia rhywedd
  • ymgeiswyr nad ydynt yn byw ers 2 flynedd yn eu rhywedd caffaeledig

Mae llywodraeth y DU wedi asesu y byddai creu’r garfan newydd a gwahanol iawn hon o ymgeiswyr cymwys yn effeithio’n andwyol ar weithredu Deddf 2010, gan nodi 4 prif faes:

  • clybiau a chymdeithasau (lle mae eithriadau yn gymwys mewn perthynas â rhyw ond nid mewn perthynas ag ailbennu rhywedd)
  • gweithredu’r PSED
  • tâl cyfartal
  • darpariaethau lle mae eithriadau yn berthnasol ar gyfer ailbennu rhyw yn ogystal â rhywedd

Clybiau a chymdeithasau (lle mae eithriadau yn gymwys mewn perthynas â rhyw ond nid mewn perthynas ag ailbennu rhywedd)

Mae’r darpariaethau yn Neddf 2010 yn ymwneud â chymdeithasau sydd â 25 neu ragor o aelodau (Rhan 7) yn golygu bod cymdeithasau yn gallu cyfyngu aelodaeth i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig, felly gallent gyfyngu aelodaeth i ddynion neu i fenywod. Bydd sawl math o grwpiau a chlybiau menywod, gan gynnwys unrhyw grwpiau cymorth seiliedig ar aelodaeth[footnote 10] i fenywod agored i niwed neu fenywod sydd wedi dioddef treisio neu drais rhywiol, neu’r rheini sydd wedi’u cynllunio i feithrin cyfranogiad menywod a merched mewn gweithgareddau neilltuol neu chwaraeon, wedi eu cynnwys mewn perthynas â chymdeithasau sydd wedi rheoleiddio’u haelodaeth i fod yn fenywod yn unig. Lle mae unigolyn wedi newid ei ryw/rhyw at ddibenion Deddf 2010 trwy gael GRC llawn, nid yw’r gymdeithas felly yn gallu gwrthod aelodaeth ar sail ei ryw/rhyw blaenorol. Nid ydynt chwaith yn gallu cyfyngu aelodaeth i bobl nad ydynt wedi eu cynnwys gan y nodwedd ailbennu rhywedd oherwydd bod aelodaeth cymdeithas yn gallu cael ei seilio ar nodwedd warchodedig a rennir yn unig ac nid ei habsenoldeb.

Bydd y garfan newydd â’r gallu i newid eu rhyw cyfreithiol a grëir gan y Bil yn newid yn sylweddol broffil a nifer yr unigolion na fydd cymdeithasau yn gallu eu eithrio o aelodaeth ar sail rhyw yn arwyddocaol.

Mae mesurau Deddf 2010 mewn perthynas â chymdeithasau yn eu hatal rhag gwrthod aelodaeth i grŵp bach o bobl sydd wedi’u diffinio’n fanwl ac sydd wedi newid eu rhyw cyfreithiol o dan Ddeddf 2004 fel y mae’n berthnasol ar hyn o bryd. Hwn oedd y cyd-destun y cafodd Deddf 2010 ei deddfu ynddo.

Bydd y Bil yn effeithio’n andwyol ar weithrediad Deddf 2010 trwy newid effaith ei gofynion ar gymdeithasau un rhyw, y bydd gofyn iddynt dderbyn, heb wahaniaethu, aelodau o garfan newydd, fwy a gwahanol, na fyddai wedi ateb y gofynion a amlinellir ar hyn o bryd yn Neddf 2004.

Tra bo derbynwyr presennol GRC wedi sefydlu hunaniaeth rhywedd sefydlog am o leiaf 2 flynedd, gall derbynwyr o dan y Bil fod wedi gwneud hynny am 6 mis yn unig[footnote 11] ac mewn modd sydd wedi’i hunanddiffinio. Lle roedd gan gymdeithas reswm i eithrio’r rhyw arall, mae’n rhesymol i ragdybio y bydd ystwytho’r broses ar gyfer newid rhyw cyfreithiol yn creu heriau, problemau neu bryderon newydd. Gall cymwysiadau, addasiadau a chyfaddawdau a all fod wedi cael eu darparu’n rhesymol ar sail eithriad, beidio â bod yn bosibl i nifer fwy. Gall darpariaethau a allai wedi bod yn briodol i unigolion a fyddai wedi byw yn eu rhywedd caffaeledig dros gyfnod sylweddol o amser beidio â bod yn addas pan nad yw hi felly.

Mae’r Bil felly yn newid natur a lefel disgwyliadau cymdeithasau un rhyw o’i gymharu â’r rheini a nodir gan Ddeddf 2010 pan gaiff ei ddeddfu. Wrth wneud hynny, gall arwain at berygl uwch y gwelir bod cymdeithasau, gan gynnwys cymdeithasau hirsefydlog, yn gweithredu’n anghyfreithlon (trwy eithrio menywod trawsryweddol, er enghraifft) neu wneud penderfyniadau i beidio â gweithredu oherwydd y risgiau canfyddedig. Yn yr un modd ni all sefydlwyr posibl y fath gymdeithasau newydd symud ymlaen oherwydd pryderon cyfatebol. Gallai’r newidiadau hyn arwain at golli’r ddarpariaeth hon, gan danseilio ymdrechion i feithrin cyfranogiad helaethach menywod mewn gweithgarwch neilltuol, neu at hunaneithrio menywod sydd, oherwydd cred grefyddol, athronyddol neu resymau eraill, ond yn teimlo eu bod yn gallu mynychu cymdeithas os ydynt yn deall eu bod wedi’u gwahanu fesul rhyw biolegol ac sy’n fwy tebygol o gredu, o ystyried y cynnydd a’r ehangu ar y garfan os daw’r Bil yn ddeddf, fod hyn yn annhebygol.

Gweithrediad Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED)

Mae ehangu carfan deiliaid GRC yn broblem sylweddol hefyd i weithrediad y PSED (adran 149). Mae hyn yn gofyn i awdurdodau cyhoeddus a’r rheini sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus roi sylw dyledus i’r angen i ‘hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu’ ymhlith mesurau eraill.

Fel y sefydlwyd uchod, effaith meddu ar GRC lawn yw newid yn gyffredinol y rhyw sydd gan berson yn nodwedd warchodedig at ddibenion Deddf 2010. O ganlyniad, wrth ystyried yr angen i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng personau sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu, ni fydd llunwyr penderfyniadau bob amser yn ystyried yr effaith ar fenywod biolegol yn grŵp clir o dan anfantais o’i chymharu â’r effaith ar ddynion biolegol, fel y rhai gwarchodedig.

Nid yw nodwedd rhyw yn gyfyngedig i fenywod biolegol.[footnote 12] Bydd y Bil, os caiff ei ddeddfu, yn gwaethygu’n sylweddol broblem sy’n bodoli eisoes oherwydd nifer ac amrediad cynyddol deiliaid GRC, a goblygiadau sylweddol ar gyfer darpariaethau cydraddoldeb ar sail grwpiau. O’r herwydd, mae’n bosibl y bydd ehangu carfan y bobl sy’n meddu ar GRC yn cael effaith uniongyrchol ar gymhwyso’r adran hon o Ddeddf 2010. Bydd hefyd yn mynd yn anos monitro anghydraddoldebau ledled y DU rhwng menywod a dynion cyfreithiol, neu bobl drawsryweddol ac annhrawsryweddol, os yw aelodaeth o’r grwpiau hyn yn gwahaniaethu rhwng yr Alban a gweddill y DU a’i bod yn newid yn gyflymach yn yr Alban nac yn Lloegr. Bydd newid aelodaeth y grwpiau hyn yn cael effaith neilltuol ar gyd-destunau mwy lleol a gweithredol lle mae niferoedd y bobl dan sylw yn gallu bod yn eithaf cyfyngedig ac y gallai effaith hyd yn oed nifer fach iawn o ddeiliaid GRC fod yn sylweddol.

Nodir hefyd fod dimensiwn rhyw yn berthnasol yng nghyd-destun pob nodwedd warchodedig arall a gall dealltwriaeth o effeithiau cydraddoldebau ar gyfer mater penodol ofyn am ystyriaeth o gyfuniadau o nodweddion gwarchodedig - er enghraifft, yr effaith ar fenywod lleiafrifoedd ethnig. Bydd yr hwylustod helaethach y gall pobl yn yr Alban newid eu rhyw cyfreithiol trwyddo yn ei gwneud yn anos asesu effeithiau’r polisi yn glir mewn perthynas â phob nodwedd warchodedig, ac felly bydd yn anos defnyddio PSED, o ganlyniad i’r Bil

DylaI asesiadau effaith cydraddoldeb ddefnyddio’r data a’r dystiolaeth sydd ar gael. Yn y cyd-destun hwnnw, nodir y gall cynnwys hyd yn oed niferoedd bach o bobl drawsryweddol mewn dadansoddiad gael effaith anghymesur, gan ei bod yn annhebygol y bydd pobl drawsryweddol yn cael eu dosbarthu’n gyfartal yn y rhyngdoriad â nodweddion gwarchodedig eraill a/neu eu lleoliad. Bydd edrych ar sut yr effeithir ar grwpiau mewn sefyllfaoedd penodol, yn hytrach nac ar raddfa genedlaethol, yn golygu y gallai cynnwys pobl drawsryweddol o fewn grwpiau wedi’u gwahanu o ran rhyw gael effaith anghymesur ar ddehongliad y data.

Tâl cyfartal

Gall y materion hyn godi’n anaml ond gallent fod yn arwyddocaol mewn achosion penodol - mae’r effaith andwyol felly’n ansoddol yn hytrach na meintiol. Mae Deddf 2010 yn darparu pan fydd hawlydd yn cyflwyno hawliadau o dan Bennod 3 Rhan 5, mae’n rhaid iddo/iddi ddangos ei fod/bod wedi cael llai o dâl na pherson o’r rhyw arall a gyflogir ar waith cydradd (‘cymharydd’).

Mae gan GRC lawn yr effaith o newid y rhyw sydd gan berson fel nodwedd warchodedig at ddibenion Deddf 2010, sy’n golygu bod menywod trawsryweddol â GRC yn cael eu hystyried yn gyfreithiol yn hawlwyr a chynharwyr benywaidd, a dynion trawsryweddol fel hawlwyr a chymharwyr gwrywaidd.

Lle cyflwynir hawliad tâl cyfartal gan hawlydd â GRC, neu fod cymharydd â GRC yn cael ei ddefnyddio yn yr hawliad, gall person fod wedi cael ei drin fel y gwrthwyneb i’w ryw/rhyw cyfreithiol presennol am gyfran sylweddol o’i yrfa/gyrfa â thelerau gwell neu waeth yn ystod yr amser hwn na’r cymharydd neu hawlydd yn eu tro. Gall hyn arwain at y prawf cymharydd yn adnabod mater tâl cyfartal lle nad oes un yn bodoli’n gywir, neu yn wir gan fethu ag adnabod y fath fater oherwydd statws unigolyn yn ddeiliad y GRC.

Lle gall hawlydd farnu mai cydweithiwr yw cymharydd mwyaf priodol y rhyw arall, ond fod y cydweithiwr hwnnw wedyn yn derbyn GRC, ni fyddai Deddf 2010 yn ei alluogi/galluogi i gael ei enwi/henwi yn gymharydd yn yr hawliad. Gallai hyn atal y prawf cymharydd rhag nodi’n gywir beth a allai fod wedi ei farnu’n anghyfreithlon fel arall.

Gan fod y meini prawf ar gyfer derbyn GRC o dan Ddeddf 2004 ar hyn o bryd yn golygu na ellir rhoi GRC ond i grŵp bach sydd wedi byw yn eu rhywedd caffaeledig am o leiaf 2 flynedd, mae effaith hyn ar ddarpariaethau tâl cyfartal wedi’i gyfyngu’n sylweddol.

Fodd bynnag, bydd y Bil yn caniatáu i gategori newydd a sylweddol ehangach o bobl i newid eu rhyw cyfreithiol. A rhagor o unigolion yn gymwys i newid eu rhyw cyfreithiol, mae’r effaith andwyol ar weithrediad darpariaethau tâl cyfartal Deddf 2010 yn tyfu. Yn neilltuol, byddai gallu unigolyn i ennill GRC lawn ar ôl byw yn ei rywedd/rhywedd caffaeledig am 6 i 9 mis yn cynyddu’r tebygolrwydd o hawliadau tâl cyfartal yn ymwneud ag unigolion oedd wedi dechrau a chwblhau’r broses cydnabod rhywedd yn gymharol ddiweddar yn unig neu oedd wedi cael GRC tra bydd hawliad yn mynd rhagddo.

Mewn egwyddor, gall yr un materion godi yng nghyd-destun hawliad gwahaniaethu uniongyrchol yn seiliedig ar ryw. Fodd bynnag, yn y fath hawliadau gellir dibynnu ar gymharydd damcaniaethol, a bydd y posibilrwydd hwnnw yn golygu y bydd sefyllfa lle mae effaith andwyol yn codi o ganlyniad i’r Bil yn brin. Nid yw cymharwyr damcaniaethol yn cael eu defnyddio’n gyffredinol mewn hawliadau tâl cyfartal.

Darpariaethau lle mae eithriadau yn berthnasol ar gyfer ailbennu rhyw yn ogystal â rhywedd

Mae darpariaethau Deddf 2010 ar gyfer gwasanaethau wedi’u gwahanu o ran rhyw, chwaraeon cystadleuol a gofynion galwedigaethol yn caniatáu eithrio pobl sydd â nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd, lle gellir cyfiawnhau’n wrthrychol eu heithrio. Byddai unrhyw un sy’n dal GRC yn cael ei ddiogelu gan nodwedd ailbennu rhywedd, ond nid yw hyn yn ddibynnol ar feddu ar GRC.

Mae bodolaeth y system bresennol o gydnabod rhywedd cyfreithiol yn golygu bod problemau’n ymwneud â’r darpariaethau hyn yn bodoli eisoes. Yn gyntaf, byddai rhywun sy’n drawsryweddol (hynny yw, mae ganddo/ganddi nodwedd ailbennu rhywedd) ond nad oes ganddo/ganddi GRC yn destun gwaharddiad cyffredinol rhag y gwasanaethau hyn, lleoliadau a rolau hyn ar sail ei ryw/rhyw cyfreithiol; tra nad yw rhywun sy’n drawsryweddol â GRC ddim yn gallu cael ei eithrio/heithrio ar sail ei ryw/rhyw cyfreithiol, ond gall gael ei eithrio/heithrio ar sail ailbennu rhywedd os oes cyfiawnhad gwrthrychol dros wneud hynny. Byddai ehangu’r garfan o ddeiliaId GRC felly’n arwain at wneud rhagor o benderfyniadau fesul achos. Gall darparwyr hefyd ei chael yn anos cyfiawnhau eithrio niferoedd cynyddol o bobl â GRC neu boeni am risg gynyddol o heriau gweithredol a/neu gyfreithiol. Gallai hyn arwain at gynnydd yn nifer y bobl drawsryweddol sy’n manteisio ar wasanaethau, mannau a rolau un rhyw, ac effaith oeri bosibl ar ddarparwyr presennol a rhai posibl, gan leihau’r cymhelliant dros y ddarpariaeth hon mewn gwirionedd.

Mae cynnydd yn nifer deiliaid GRC yn golygu y bydd canfyddiad pobl o a yw lleoliad yn debygol o fod wedi’i wahanu o ran rhyw yn newid, a gallant fod yn fwy tebygol o hunaneithrio o ganlyniad i’w canfyddiad fod pobl o’r rhyw biolegol arall yn fwy tebygol o fod yn bresennol. Ymhellach, mae natur y garfan newydd a gwahanol iawn o ddeiliaid GRC yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl yn cyfarfod eraill nad ydynt yn cydymffurfio â’u disgwyliadau o rywun y byddent yn disgwyl ei ganfod/chanfod mewn gwasanaeth, man neu rôl un rhyw, a allai arwain atynt yn teimlo’n anghyfforddus, neu hyd yn oed wedi’u trawmateiddio, ac yn tanseilio’r pwrpas o wneud y rhain wedi’u gwahanu o ran rhyw. Mae’r Bil yn gwaethygu’r mater hwn a bydd yn debygol o achosi effaith oeri a allai fod yr un mor niweidiol yn ymarferol ag effaith gyfreithiol.

(b) Materion newydd

Er bod nifer o’r effeithiau andwyol sy’n codi o’r Bil yn cynyddu arwyddocâd problemau sy’n bodoli eisoes gyda gweithrediad Deddf 2010, mae’r effaith ar weithrediad Deddf 2010 ynglŷn ag ysgolion o arwyddocâd arbennig yn yr ystyr ei fod yn creu anhawster na fu’n rhaid i ysgolion yn gyffredinol ymwneud ag ef o’r blaen.

Mae’r darpariaethau yn Neddf 2010 ynghylch ysgolion (yn Rhan 6) wedi’u heithrio o ddarpariaethau gwahaniaethau ar sail rhyw Deddf 2010 at ddibenion derbyniadau i ysgol un rhyw. Mae ysgolion un rhyw felly yn gallu rhoi polisïau cyfreithlon mewn grym sy’n gwahaniaethu ar sail rhyw darpar ddisgyblion. Nid oes eithriad cyfatebol ar gyfer gwahaniaethu ailbennu rhywedd uniongyrchol. Lle mae unigolyn wedi newid ei ryw/rhyw cyfreithiol at ddibenion Deddf 2010 trwy gael GRC lawn, byddai gwrthodiad ysgol i dderbyn plentyn oherwydd ailbennu’i r(h)ywedd yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail ailbennu rhywedd.

Gan fod Deddf 2004 yn amlinellu isafswm oedran ymgeisio yn 18, nid yw’n bosibl i’r mwyafrif llethol o ddisgyblion ysgol newid eu statws cyfreithiol cyn gadael yr ysgol. Nid yw Adran Addysg y DU, sy’n gyfrifol am y system ysgolion yn Lloegr, yn ymwybodol o unrhyw enghreifftiau yn ymarferol naill ai yn Lloegr nac unrhyw le yn y DU. Hwn oedd y cyd-destun y cafodd Deddf 2010 ei deddfu ynddo. Felly, gellir rhagdybio ar hyn o bryd i raddau helaeth bod ysgolion un rhyw yn darparu ar gyfer rhyw biolegol unigol. Os yw’r Bil yn cael ei weithredu ac y ceisiodd yr ysgolion hyn eithrio o fynediad y rheini o fewn y garfan newydd oedd wedi newid eu rhyw cyfreithiol fel nad oedd yn cyfateb mwyach i ddarpariaeth yr ysgol, byddai hyn yn anghyfreithlon.

Nid yw Deddf 2010 yn caniatáu[footnote 13] i ysgolion un rhyw dderbyn disgyblion trwy eithriad o’r rhyw arall na derbyn nifer gymharol fach o ddisgyblion o’r rhyw arall a chyfyngu’r disgyblion hynny i ddosbarthiadau neu gyrsiau neilltuol. Rhoddir felly ar hyn o bryd i ysgolion un rhyw yn ymarferol lefel disgresiwn o dan y Ddeddf mewn perthynas â phenderfyniadau derbyniadau maent yn gallu eu defnyddio i ddisgyblion trawsryweddol, y bydd eu rhyw cyfreithiol (ym mhob enghraifft bron) heb newid.

Bydd y Bil yn effeithio’n andwyol ar weithrediad Deddf 2010 trwy gwtogi ar y disgresiwn mae’n ei roi i ysgolion yn yr Alban: bydd galluogi carfan newydd o ddisgyblion trawsryweddol 16 i 17 oed i newid eu rhyw cyfreithiol yn yr Alban yn golygu na fydd ysgolion un rhyw yn gallu gwrthod derbyniad iddynt ar sail eu rhyw. Pe byddai ysgol un rhyw yn yr Alban yn gwrthod derbyniad ar sail ailbennu rhywedd disgybl (yn hytrach na’i ryw), gallai fod yn wahaniaethu anghyfreithlon uniongyrchol ar sail ailbennu rhywedd. Gyda dim ond nifer fach iawn o ysgolion un rhyw yn yr Alban, mae darpariaeth un rhyw yn gyfyngedig iawn eisoes. Byddai darparwyr sy’n sefydlu ysgolion un rhyw newydd i ateb unrhyw gynnydd mewn galw i’r dyfodol yn cael eu gwahardd yn yr un modd rhag gwrthod derbyniad i ddisgyblion o’r garfan newydd o ddisgyblion trawsryweddol 16 i 17 oed oherwydd eu bod wedi newid eu rhyw cyfreithiol. Mae’n bosibl y gallai’r fath gyfyngiadau yn codi o’r Bil ar ysgolion un rhyw yn yr Alban gyfrannu at ysgolion unigol yn penderfynu dod yn gydaddysgol. Byddai hynny’n cael effaith andwyol i rieni a myfyrwyr presennol ac i’r dyfodol y byddai’n well ganddynt ysgol un rhyw, efallai yn benodol lle maent yn ystyried bod y fath leoliad yn llai tebygol nac ysgol gydaddysgol o greu problemau o ran aflonyddu rhywiol.

Byddai creu carfan newydd dan y Bil o bobl ifanc 16 i 17 oed yn yr Alban sydd â’r gallu i newid eu tystysgrif geni ac felly eu rhyw cyfreithiol hefyd yn effeithio’n andwyol ar weithrediad Deddf 2010 mewn ysgolion yn Lloegr, yn enwedig y rheini sy’n agos at y ffin sydd â chanran uwch o fyfyrwyr wedi’u geni neu’n byw yn yr Alban. Gallai hyn greu amheuon ynghylch a ellid dibynnu ar dystysgrifau geni a roddir gan Gofresrydd Cyffredinol yr Alban yn dystiolaeth ddogfennol o ryw cyfreithiol person yng Nghymru a Lloegr i rai 16 i 17 oed. Byddai hyn yn gadael ysgolion yn ansicr ynghylch sut i gadarnhau rhyw cyfreithiol person trwy gyfeirio at y ddogfennaeth hon pe byddent wedi’u geni neu’n byw yn yr Alban a thros 16 oed.

Gyda’r fath amheuon am sut i gadarnhau rhyw cyfreithiol rhywun, os daw’n ddeddf gallai’r Bil ei gwneud yn anos i rai ysgolion un rhyw yn Lloegr weithredu. Gallai ansicrwydd neu ddiffyg ymwybyddiaeth o statws trawsryweddol disgybl (rhywbeth sy’n debygol o godi’n amlach oherwydd maint cynyddol y garfan yn yr Alban) hefyd olygu nad oes gan ysgolion yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i asesu risgiau diogelu, gan gynnwys sut i gynorthwyo disgyblion trawsryweddol orau.

  1. Gweler §L2 o Atodlen 5 i Ddeddf 1998 

  2. For Women Scotland Ltd v Lord Advocate 2022 CSOH 90 - sylwer bod y Deisebwyr yn ceisio caniatâd i apelio 

  3. Gweler §A1 a §F1 o Atodlen 5 i Ddeddf 1998 

  4. Pe byddai’r Bil yn cael ei droi’n ddeddf, byddai angen i Gyllid a Thollau ei Fawrhydi archwilio a fyddai newidiadau dilyniannol i seilwaith TG yn bosibl. Gall newidiadau i TG Cyllid a Thollau ei Fawrhydi gael effeithiau dilyniannol ar adrannau eraill oherwydd systemau integredig. 

  5. Mae Llywodraeth yr Alban yn disgwyl i nifer yr ymgeiswyr blynyddol gynyddu i 250 i 300 (yn seiliedig ar ddata o Iwerddon a gyflwynodd drefn debyg i boblogaeth o faint tebyg, er â gwahaniaethau diwylliannol) o linell sylfaen o tua 30 y flwyddyn (yn ôl Cofnodion Cenedlaethol yr Alban mewn perthynas â’r rheini a gafodd eu geni yn yr Alban yn unig) - sy’n awgrymu cynnydd deng ngwaith. Mae amcangyfrifon Llywodraeth yr Alban fodd bynnag yn agored i ansicrwydd sylweddol. Maen nhw’n seiliedig ar ddata hanesyddol o wledydd Ewropeaidd eraill sydd heb systemau cyfatebol. Mae’r system agosaf o’r fath mewn gwlad sydd â phoblogaeth debyg i’r Alban wedi gweld cyfartaledd o 550 o geisiadau y flwyddyn, yn sylweddol fwy nac amcangyfrif Llywodraeth yr Alban. Ni chafodd fframwaith rhesymu ei roi yn ystod yr ymgynghoriad na hynt y Bil ar gyfer amcangyfrifon cymharol isel Llywodraeth yr Alban o’u cymharu â’r boblogaeth amcangyfrifedig o’r gymuned draws. Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban, Shona Robinson, wrth gyflwyno’r Bil ar 3 Mawrth 2022: “Mae tua 25,000 o bobl yn y gymuned draws yn yr Alban ond dim ond tua 600 ohonynt sydd â thystysgrif cydnabod rhywedd…byddai llawer rhagor o’r 25,000 hynny wedi dymuno cael tystysgrif cydnabod rhywedd”. Ffynonellau ar gyfer fframweithiau rhyngwladol: https://www.gov.scot/publications/review-gender-recognition-act-2004/pages/14/, https://www.gov.scot/publications/gender-recognition-reform-scotland-bill-equality-impact-assessment/pages/. Ffynonellau ar gyfer data/amcangyfrifon Llywodraeth yr Alban: https://www.parliament.scot/-/media/files/legislation/bills/s6-bills/gender-recognition-reform-scotland-bill/introduced/financial-memorandum-accessible.pdf , https://www.gov.scot/publications/gender-recognition-reform-scotland-bill-business-regulatory-impact-assessment/pages/1/

  6. Mae’r Bil yn gofyn am gyfnod myfyrio 3 mis ychwanegol cyn i GRC gael ei rhoi. 

  7. Mae’r ffocws ar fenywod trawsryweddol er hwylustod iaith ac oherwydd, fel y mae’r datganiad hwn yn esbonio, hwn yw’r cyd-destun ar gyfer y pryderon ymarferol arwyddocaol a nodwyd; ni ddylid cymryd bod hyn yn eithrio’r posibilrwydd o faterion posibl neu gyfatebol yn codi mewn perthynas a phobl sy’n ddynion trwy rinwedd meddu ar GRC. 

  8. Y 3 neu 6 mis gofynnol ar adeg ymgeisio a 3 mis ychwanegol o gyfnod myfyrio cyn i GRC gael ei rhoi. 

  9. Llythyr gan Adroddwr Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar drais yn erbyn menywod a merched, 29 Tachwedd 2022 https://spcommreports.ohchr.org/TMResultsBase/DownLoadPublicCommunicationFile?gId=27681 

  10. os nad yw gweithgareddau tebyg yn cael eu trefnu’n ffurfiol ar sail aelodaeth, mae’n debygol y byddent yn cael eu hystyried yn wasanaethau a byddai darparwyr yn gallu cymhwyso’r eithriad ailbennu rhywedd lle byddai cyfiawnhad. 

  11. Y 3 neu 6 mis gofynnol ar adeg ymgeisio a 3 mis ychwanegol o gyfnod myfyrio cyn i GRC gael ei rhoi. 

  12. Gall rhai gwneuthurwyr penderfyniadau beidio â bod yn ymwybodol ar hyn o bryd o’r gwahaniaeth rhwng rhyw biolegol a chyfreithiol ond, lle maent, mae’r ystyriaethau hyn yn annhebygol o fod yn rhan arferol o asesiadau PSED ar hyn o bryd: gall y data a’r dystiolaeth sydd ar gael gyfyngu ar ba ddadansoddi sy’n bosibl; a/neu gall natur y penderfyniad dan sylw olygu nad yw gwahaniaethu rhwng rhyw cyfreithiol a biolegol yn berthnasol. 

  13. Cafodd y ddarpariaeth hon ei datblygu yn Neddf 2010 i hwyluso blaenoriaethu plant staff ysgol, o’r naill ryw neu’r llall, mewn derbyniadau i unrhyw ysgol neilltuol; ni chafodd ei chynllunio ag ystyriaeth o ddisgyblion trawsryweddol.