Canllawiau

Gwerthu gwasanaeth rhentu car: cydymffurfio â chyfraith defnyddwyr

Cyhoeddwyd 29 March 2018

Os ydych chi’n darparu gwasanaeth i bobl archebu rhentu car, yna rhaid i’r prisiau a gwybodaeth allweddol arall a ddangoswch fod yn gywir, clir ac amlwg. Os nad, mae perygl eich bod yn torri’r gyfraith.

Mae’n bwysig bod eich cwsmeriaid yn gwybod gwir gost rhentu’r car ac yn cael manylion unrhyw atebolrwydd atodol - fel symiau taliadau dros ben neu flaendal - y byddant yn atebol amdanynt. Mae hyn er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad gwybodus am beth yw’r cynnig gorau iddynt.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen crynodeb y CMA sy’n sefydlu’r camau ddylech chi gymryd i gydymffurio gyda chyfraith defnyddwyr yn y meysydd canlynol:

Rhaid i’r wybodaeth a ddangoswch fod yn gywir

Rhaid bod gennych chi weithdrefnau yn eu lle i gyfyngu’r risg o ddangos prisiau anghywir. Rhaid i’ch gwefan ddangos gwybodaeth gywir a rhaid i chi fonitro hyn yn rheolaidd. Cofiwch, efallai y byddwch yn dal yn atebol os byddwch yn dangos prisiau anghywir hyd yn oed os mai’ch cyflenwr sydd ar fai.

Gofynnwch i’ch cyflenwyr gynnwys taliadau gofynnol a gwybodaeth allweddol arall yn eu porthiant data i chi. Dylech sefydlu polisi ar sut i ddelio gyda chyflenwyr sy’n darparu prisiau anghywir yn rheolaidd. Os oes angen, stopiwch restru cynigion gan gyflenwyr nad ydynt yn cydymffurfio.

Rhaid i’r pris blaen gynnwys pob taliad gofynnol

Unwaith y bydd y cwsmer wedi nodi ei fanylion chwilio, rhaid i’r prisiau a ddangosir fod yn gyfanswm y gost, yn cynnwys taliadau gofynnol fel tanwydd a gordaliadau cysylltiedig ag oedran, ffi oedd tu allan i oriau gwaith, trethi a ffi oedd un ff ordd.

Mae taliadau yn ofynnol os nad oes modd i’r cwsmer osgoi eu talu. Ni ddylid ychwanegu’r taliadau hyn yn hwyr yn y broses archebu neu ger y ddesg archebu.

Rhaid i chi ddarparu cynllun o’r polisi tanwydd.

Os ydych chi’n rhestru cynigion yn ôl pris, rhaid i hyn fod yn seiliedig ar y pris cyfan (yn cynnwys unrhyw daliadau ar gasglu) i osgoi gwneud cymariaethau camarweiniol.

Rhaid dweud wrth y cwsmer am ei atebolrwydd

Rhaid i chi ddatgan yn glir ac yn amlwg swm y gordal ar yr ildiad hawl difrod gwrthdrawiad a swm unrhyw flaendal neu awdurdodiad cerdyn credyd, os oes angen. Ni ddylai’r wybodaeth hon fod fwy nag 1 clic i ff wrdd o’r pris blaen, e.e. mewn dogfen ‘ff eithiau allweddol’ neu trwy glicio ar eicon yn y canlyniadau chwilio.

Yr arfer gorau yw arddangos rhybudd amlwg ar eich gwefan yn cynghori cwsmeriaid i wirio’r gormodedd a swm y blaendal cyn cwblhau’r archeb.

Dylai rhybuddion am eitemau sy’n ofynnol yn gyfreithiol, fel cadwyni eira neu seddi plant, gael eu hamlygu pan gynigir y dewisiadau hyn.

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae cwsmeriaid angen gwybodaeth sy’n gywir, yn gyfredol, yn hawdd i’w ganfod ac nid yn gamarweiniol. Mae hyn yn eu helpu i ddewis y fargen sy’n gweddu orau i’w hanghenion.

Os yw’ch gwefan yn arddangos gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol ac nad ydych yn ei gwirio neu ei chadw’n gyfredol, yna mae perygl eich bod yn torri cyfraith diogelu defnyddwyr.

Nid yw’r deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.