Canllawiau

Tir elusen: trosolwg ar gyfer gwerthu neu brydlesu tir eich elusen

Diweddarwyd 7 March 2024

Applies to England and Wales

Mae’r trosolwg hwn yn canolbwyntio ar werthiannau a phrydlesi tir elusen yn unig gan mai dyma’r mathau mwyaf cyffredin o waredu tir elusen.

Nod y trosolwg hwn yw eich helpu i ddeall pa rannau o’n prif ganllawiau ar waredu tir fydd yn berthnasol i chi. Dylech ddarllen y manylion yn y prif ganllaw: Tir elusen: Gwerthu, prydlesu neu waredu tir elusen fel arall yn Lloegr a Chymru.

Cyn i chi werthu neu brydlesu tir elusen, rhaid i chi fod yn sicr:

  • bod eich elusen yn berchen ar y tir a
  • bod y gwerthiant neu’r brydles er lles gorau eich elusen

Deall beth rydym yn ei olygu wrth y gair ‘tir’.

0.1 Cam 1

Gwiriwch fod gennych yr hawl i werthu neu brydlesu’r tir. Ydych chi’n gallu defnyddio pŵer yn nogfen lywodraethol eich elusen neu ddefnyddio hawliau cyfreithiol?

Darllenwch ‘Gwybod a oes gennych y pŵer i waredu’r tir’ am fanylion llawn.

0.2 Cam 2

Gwiriwch os ydych yn:

  • gwerthu’r tir neu
  • rhoi les am fwy na 7 mlynedd neu
  • rhoi les am 7 mlynedd neu lai gyda dirwy neu bremiwm neu
  • rhoi les am 7 mlynedd neu lai gydag opsiwn i ymestyn y brydles

Os ydych yn gwneud unrhyw un o’r rhain, rhaid i chi ddilyn y ‘Gofynion cyfreithiol ar gyfer gwerthu a phrydlesi ‘hir’.

Os ydych yn rhoi les am 7 mlynedd neu lai heb ddirwy neu bremiwm neu opsiwn i ymestyn, yna mae’n rhaid i chi ddilyn y gwahanol ‘Gofynion cyfreithiol ar gyfer prydlesi ‘byr’

0.3 Cam 3

Gwiriwch os ydych yn gwerthu neu’n prydlesu tir i berson cysylltiedig.

Os yw’r gwarediad i berson cysylltiedig, mae’r gofynion yr un fath os yw’r trafodiad yn werthiant, yn brydles hir neu’n brydles fer. Rhaid i chi gael awdurdod gan y Comisiwn cyn i chi werthu neu brydlesu’r tir.

Darllenwch ‘Pryd mae’n rhaid i chi gael awdurdod y Comisiwn Elusennau’ am fanylion llawn.

0.4 Cam 4

Gwiriwch os ydych yn gwerthu neu’n prydlesu tir dynodedig.

Darllenwch ‘Gwaredu tir dynodedig’ am fanylion llawn.

Os felly, mae yna ofynion cyfreithiol ychwanegol y mae’n rhaid i chi eu dilyn ac efallai y bydd angen awdurdod arnoch gan y Comisiwn.

0.5 Cam 5

Gwiriwch os yw eich gwerthiant neu brydles yn dod o fewn rhestr o eithriadau. Os ydyw, efallai na fydd angen i chi gydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, er enghraifft:

  • mae eich elusen yn elusen eithriedig
  • mae’r gwerthiant neu’r les yn cael ei threfnu gan ddatodydd, darpar ddatodydd, derbynnydd, codwr morgais neu weinyddwr

Gwiriwch ‘Eithriadau i’r gofynion cyfreithiol ar gyfer gwerthiannau, prydlesi a mathau eraill o warediadau’.