Papur polisi

Diogelu yn GLlTEF

Diweddarwyd 28 December 2023

Applies to England, Scotland and Wales

1. Ynglŷn â’r ddogfen hon

Mae’r polisi a’r canllawiau hyn yn nodi dull GLlTEF ar gyfer diogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion sy’n agored i niwed.

Rydym wedi datblygu’r polisi a’r canllawiau hyn i fod mor syml â phosibl i’w defnyddio.

Rydym wedi darparu hyperddolenni i esboniadau manylach o’r wybodaeth gyfreithiol. Bydd yr hyperddolenni yn ymddangos wedi’u tanlinellu ac mewn lliw glas.

2. Beth yw diogelu?

Mae GLlTEF eisiau sicrhau bod gan staff a defnyddwyr gwasanaeth amgylchedd diogel ac addas i weithio ynddo neu ymweld ag ef. Weithiau rydyn ni’n gweld pobl mewn sefyllfaoedd lle gallen nhw fod mewn perygl o niwed. Mae llawer o wahanol ffyrdd y gall rhywun brofi camdriniaeth neu esgeulustod.

Ni allwn ddatrys pob sefyllfa, ond gallwn ni helpu. Mae diogelu yn golygu gwneud rhywbeth i amddiffyn grwpiau bregus o bobl rhag camdriniaeth ac esgeulustod sydd yn mynd y tu hwnt i ymateb brys.

Efallai y bydd angen i ni gyfeirio rhywun at wybodaeth neu gefnogaeth a fydd yn helpu i’w diogelu.

Mae unrhyw un dan 18 oed yn blentyn yn gyfreithiol ac mae pob plentyn yn cael ei ystyried yn fregus. Mae oedolyn yn cael ei ddiffinio fel oedolyn sy’n agored i niwed os yw’n bodloni’r tri maen prawf yn yr adran “Pwy ydym ni’n ei ddiogelu.”

I ddod dan y categori ‘diogelu’ rhaid i oedolyn hefyd fod angen help gydag un neu fwy o’r 6 categori eang canlynol:

  • gofal iechyd
  • gofal personol
  • gwaith cymdeithasol
  • arian parod, biliau a/neu siopa
  • rheoli eu materion eu hunain
  • defnyddio cludiant lle mae’r drafnidiaeth honno’n cael ei ddarparu oherwydd eu hoedran, iechyd neu anabledd.

Mae camdriniaeth ac esgeulustod yn groes i hawliau dynol a sifil unigolyn ac yn yr achosion gwaethaf gall arwain at farwolaeth.

Rhaid glynu wrth bolisïau cyfrinachedd yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, GDPR a Deddf Hawliau Dynol 1998. Yn ôl y gyfraith, ni allwn rannu unrhyw wybodaeth y dywedir wrthym heb ganiatâd yr unigolyn sy’n dweud yr wybodaeth honno wrthym oni bai ei fod “yn fesur angenrheidiol a chymesur … i ddiogelu’r unigolyn” (Canllaw i’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), 2018).

Mae hynny’n golygu ei bod hi’n bwysig gofyn am ganiatâd i rannu gwybodaeth am rywun. Ond os nad ydyn nhw’n rhoi caniatâd i ni, gallwn dorri amodau cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth amdanynt er mwyn i ni eu diogelu. Rydyn ni’n gofyn am ganiatâd oherwydd bod hyn yn grymuso’r dioddefwr, yn rhoi ymdeimlad o reolaeth iddyn nhw ac yn ein hatgoffa y dylai diogelu ganolbwyntio ar yr hyn y mae’r unigolyn yr ydym yn poeni amdano ei eisiau, ei angen ac yn ei feddwl.

Nid yw bob amser yn gymhleth i ddiogelu rhywun. Efallai y byddwn yn eu cyfeirio at wybodaeth ddefnyddiol fel y gall pobl fregus ddod o hyd i help eu hunain. Gallai diogelu hefyd olygu bod yn gyfrifol am rannu gwybodaeth briodol gydag unrhyw ymgynghorwyr, contractwyr, is-gontractwyr, partneriaid a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda’n defnyddwyr a’n staff.

Pa bynnag gamau sydd eu hangen, mae cyfrifoldeb arnom ni oll i ddiogelu pobl fregus. Mae’n well riportio pryder diogelu na pheidio gwneud. Hyd yn oed os canfyddir nad yw’n fater diogelu. Gallai unrhyw weithredoedd achub bywyd rhywun felly peidiwch ag oedi.

Mae’r Ddeddf Gofal (2014) yn rhoi llawer o wybodaeth am ddiogelu.

Yn Lloegr a’r Alban, mae’r Ddeddf Gofal eisiau i ni feddwl am chwe gwerth wrth ddiogelu. Dyma nhw:

  • grymuso
  • atal
  • cymesuredd
  • amddiffyn
  • partneriaeth
  • atebolrwydd.

Mae gwerthoedd tebyg yng Nghymru yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014:

  • mwy o ymgysylltu â dinasyddion a sicrhau llais a rheolaeth i bobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth
  • atal ac ymyrraeth gynnar
  • hyrwyddo llesiant
  • cyd-gynhyrchu – dinasyddion a gweithwyr proffesiynol yn rhannu pŵer a chydweithio fel partneriaid cyfartal
  • gweithio a chydweithredu amlasiantaethol.

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA) yn helpu i ystyried a yw unigolyn yn gallu gwneud penderfyniad sydd er eu lles eu hunain. Y peth pwysicaf yw sicrhau bod gan y sawl dan sylw ddealltwriaeth glir o’r hyn a allai ddigwydd oherwydd eu penderfyniad (y canlyniadau). Gall p’un a all rhywun wneud hyn gael ei effeithio gan bethau fel:

  • cyflwr iechyd sy’n gysylltiedig ag oedran
  • cyflwr niwroamrywiol megis dyslecsia, dyspracsia, ADHD neu gyflwr sbectrwm awtistig
  • cyflwr niwrolegol, megis clefyd Parkinson, dementia, clefyd motor niwron, sglerosis ymledol (MS), anabledd dysgu neu barlys yr ymennydd
  • anaf caffaeledig i’r ymennydd
  • nam ar y lleferydd
  • anhawster symudedd
  • bod yn fyddar neu’n drwm eich clyw
  • bod yn ddall neu’n rhannol ddall
  • anghenion iechyd meddwl
  • cyflwr meddygol hirsefydlog fel canser, HIV, diabetes, clefyd cronig y galon neu epilepsi
  • methu gwneud eu penderfyniadau eu hunain ac angen gofal a chymorth angenrheidiol
  • bod yn oedolyn ifanc, dros 18 oed, sydd ag anghenion gofal a chymorth ac sydd yn trosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion
  • bod yn ofalwr (gofalu am unigolyn arall sydd ag anghenion gofal a chymorth).

Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys pawb. Gallai oedolion eraill fod yn oedolion sydd mewn perygl hefyd. Gallai diffyg galluedd meddyliol fod yn rhywbeth dros dro neu’n gysylltiedig â’r digwyddiad diogelu.

3. Pam fod angen i ni ddiogelu staff a defnyddwyr sydd mewn perygl?

Mae GLlTEF eisiau creu a chynnal amgylchedd diogel a chadarnhaol i bawb. Hoffem:

  • ddiogelu’r cydweithwyr a’r defnyddwyr sydd yn y grwpiau a grybwyllir uchod
  • gwneud popeth o fewn ein gallu i ganfod risg diogelu yn gynnar a chymryd y camau cywir
  • bod cydweithwyr a defnyddwyr yn ddiogel ac yn teimlo y gallant ymddiried ynom
  • cyflawni ein cyfrifoldeb cyfreithiol i ddiogelu pobl sydd mewn perygl, er enghraifft o dan Ddeddf Gofal (2014).

Ond yn bwysicach na dim, dyma’r peth iawn i’w wneud.

4. Pwy ydym ni’n ei ddiogelu?

Mae Deddf Gofal 2014 yn egluro y dylen ni fod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl.

Mae bod ‘mewn perygl’ yn golygu staff neu ddefnyddwyr sydd angen gofal a chymorth i fyw’n annibynnol yn ddiogel. Gall gofal a chefnogaeth gynnwys cymorth ymarferol, ariannol ac emosiynol.

Mae hynny’n golygu, er efallai na fydd y polisi hwn yn berthnasol i lawer o bobl, mae angen i ni ddiogelu unrhyw un yn y grwpiau hyn:

  • staff a defnyddwyr oedolion sydd mewn perygl (oherwydd oedran, iechyd meddwl, anabledd sy’n effeithio ar eu gallu i amddiffyn eu hunain rhag niwed neu ecsploetiaeth)
  • staff a defnyddwyr sy’n blant sy’n dod drwy ein system llysoedd a thribiwnlysoedd.

Efallai y byddwn ni’n meddwl eu bod nhw mewn perygl pe bai oedolyn:

Heb alluedd meddyliol i ddeall eu bod mewn perygl o gamdriniaeth new esguelustod oherwydd eu hanghenion gofal a chymorth Hefo anghenion gofal a chymorth Yn profi neu mewn perygl o brofi camdriniaeth new esguelustod

Byddai angen i ni riportio pryder diogelu os yw’r oedolyn sydd mewn perygl yn cael ei gynnwys yn y tri maen prawf yn y tabl uchod.

Mae yna lawer o wahanol fathau o gamdriniaeth ac esgeulustod sy’n cael eu hesbonio yn y ddogfen hon.

Does dim angen prawf o anghenion gofal unigolyn i weithredu ar bryder diogelu Mae hyn yn rhan o’r gwaith ‘amddiffyn’ sydd ynghlwm â diogelu.

5. Pwy sydd angen defnyddio’r wybodaeth hon?

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn disgwyl safonau uchel o ymddygiad ym mhopeth a wnawn, gan gynnwys diogelwch staff a defnyddwyr.

Rydym ni wedi datblygu’r polisi hwn a rhai canllawiau i helpu staff GLlTEF:

  • deall beth mae diogelu yn ei olygu
  • deall pwy ddylen ni fod yn eu diogelu
  • disgrifio pam bod diogelu yn bwysig yn GLlTEF
  • adnabod pryd y gallai rhywun fod mewn perygl
  • egluro rolau a chyfrifoldebau’r holl weithwyr, partneriaid, darparwyr gwasanaethau dan gontract, eu hisgontractwyr a deiliaid swyddi barnwrol
  • cyfeirio at y polisïau, gweithdrefnau a’r cymorth cysylltiedig sydd ar gael
  • delio gyda phryder diogelu, ei riportio a’i gyfeirio at yr unigolyn perthnasol.

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer pawb yn GLlTEF, gan gynnwys staff asiantaeth. Os oes gennych chi bryder am ddiogelwch neu les rhywun sydd mewn perygl, mae’n bwysig gwneud rhywbeth am y peth. Cyfrifoldeb pawb yw diogelu. Rhaid i staff beidio cymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Pe bai pawb yn gwneud hynny, efallai na fydd y sawl sydd mewn perygl byth yn cael yr help maen nhw ei angen. Mae’n bwysig nad ydych yn teimlo’n ofnus wrth godi pryder.

Mae dyletswydd ar bob un ohonom i riportio pryderon diogelu i’r asiantaethau cywir. Mae GLlTEF wedi datblygu’r polisi a’r canllawiau hyn fel bod pob aelod o staff yn ymwybodol o’r gweithdrefnau diogelu ac yn gwybod beth i’w wneud os oes ganddynt bryder

Byddwn yn rhannu ein polisi gydag ymgynghorwyr, contractwyr, darparwyr gwasanaethau dan gontract, partneriaid, gwirfoddolwyr a gweithwyr asiantaeth sy’n darparu gwasanaethau ar ein rhan. Mae hyn yn caniatáu i’n partneriaid sicrhau nad yw ein polisi yn ymyrryd ag unrhyw fesurau sydd ganddynt eisoes ar waith, a chodi unrhyw broblemau gyda GLlTEF.

Ar gyfer sefydliadau partner y mae gan eu staff gysylltiad personol â’n defnyddwyr, byddwn angen copïau o’u polisi diogelu neu fregusrwydd. Bydd angen i sefydliadau partner eraill sicrhau bod y polisïau hyn ar waith. Rydym yn argymell i bob sefydliad wneud eu hasesiadau risg eu hunain wrth weithio gyda’n defnyddwyr ac adrodd i GLlTEF am unrhyw bryderon sy’n codi o’r asesiad. Bydd GLlTEF yn ystyried a oes angen rhoi mesurau diogelu ar waith ai peidio.

Rydym eisiau gwneud pob ymdrech i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl sy’n dod i gysylltiad â GLlTEF. Felly, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i rannu gwybodaeth berthnasol fel y gallwn weithio gyda’n gilydd i ddiogelu ein defnyddwyr a’n staff Mae hyn yn rhan o’r ‘bartneriaeth’ diogelu Mae’r bobl y gallem weithio gyda nhw yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i’r canlynol

  • Adnoddau Dynol
  • Cynghreiriaid Iechyd Meddwl
  • Y Farnwriaeth
  • Cyfryngwyr
  • Cyfieithwyr ar y Pryd
  • Swyddogion dociau a staff dalfa’r llys
  • Gwasanaeth Hebrwng Carcharorion
  • Gwasanaethau Diogelwch Blaen Tŷ
  • Cofnodwyr yn y llys a stenograffyddion
  • Y Gwasanaeth Prawf
  • Staff cymorth tystion
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Awdurdodau lleol
  • Timau Troseddwyr Ifanc
  • Asiantau Gorfodi Cymeradwy (AEAs)
  • Ymarferwyr yr amddiffyniad.

Rydym eisiau bod yn agored am y ffordd rydym yn helpu pobl a allai fod mewn perygl a sicrhau bod ein rhanddeiliaid yn ein helpu.

Efallai y bydd trefniadau lleol ar waith i ymdrin â materion diogelu ond mae’n bwysig bod pob gweithiwr yn defnyddio’r polisi a’r canllaw hwn, fel eich bod yn deall eich cyfrifoldebau diogelu.

Bydd GLlTEF yn penodi Arweinydd Diogelu a Dirprwy Arweinydd Diogelu ar gyfer pob safle Gweithredol a phob adran yn y pencadlys. Bydd Arweinwyr Diogelu a Dirprwy Arweinwyr Diogelu yn wirfoddolwyr o bob rhan o’r busnes. Bydd y rhwydwaith hwn o Arweinwyr Diogelu a Dirprwy Arweinwyr Diogelu yn cyflawni mwy o waith addysgu manwl i gefnogi’r rôl hon.

6. Beth mae esgeulustod a chamdriniaeth yn ei olygu?

Mae esgeulustod yn golygu bod rhywun sy’n gyfrifol am roi gofal a chymorth i rywun arall ddim yn rhoi’r gofal corfforol neu seicolegol sylfaenol i rywun maen nhw’n gofalu amdano. Hunan-esgeuluso yw pan nad yw unigolyn yn gofalu amdano’i hun.

Camdriniaeth yw pan fod rhywun sy’n rhoi gofal a chefnogaeth i rywun sydd mewn perygl yn defnyddio pŵer neu reolaeth mewn ffordd na ddylen nhw wneud. Mae hunan-niweidio a hunanladdiad hefyd yn fathau o gam-drin.

Gall unrhyw un gyflawni camdriniaeth neu esgeulustod. Mae’n fwy tebygol y bydd camdriniaeth yn cael ei gyflawni gan rywun mae’r unigolyn sy’n cael ei gam-drin yn gyfarwydd ag ef, yn enwedig os ydyn nhw’n ymddiried ynddyn nhw. Gall pobl sy’n cyflawni camdriniaeth neu esgeulustod gynnwys:

  • Priod / partner
  • Aelodau eraill o’r teulu
  • Cymdogion
  • Ffrindiau
  • Rhywun sy’n adnabod yr unigolyn
  • Trigolion lleol

Ymhlith y bobl eraill sy’n gallu cam-drin ac esgeuluso rhywun maen nhw’n gofalu amdano yw:

  • pobl sy’n manteisio’n fwriadol ar oedolion maen nhw’n eu hystyried fel rhai bregus
  • staff neu weithwyr proffesiynol cyflogedig fel nyrsys, meddygon a gofalwyr
  • gwirfoddolwyr sy’n gwneud pethau i ni a ddim yn disgwyl unrhyw beth yn ôl
  • dieithriaid sy’n bobl nad ydym yn eu hadnabod.

Os ydyn ni’n meddwl bod rhywun yn cael ei effeithio gan achosion o gam-drin neu esgeulustod, mae angen i ni wneud rhywbeth am y peth. Nid oes angen i ni benderfynu a gafodd y camdriniaeth neu’r esgeulustod ei wneud ar bwrpas.

Gallai fod angen gofal a chefnogaeth arbenigol i fyw’n annibynnol roi rhywun mewn mwy o berygl o gamdriniaeth neu esgeulustoh yw’r gwahanol fathau o gamdriniaeth ac esgeulustod?

Mae sawl math o gamdriniaeth ac esgeulustod ac yn cynnwys unrhyw fath o ymddygiad tuag at unigolyn bregus sy’n achosi niwed iddynt yn fwriadol neu’n anfwriadol. Y rhain yw:

Cam-drin corfforol Cam-drin rhywiol Cam-drin domestig Aflonyddu a stelcio
Anffurfio organau cenhedlu benywod Cam-drin ar sail anrhydedd Plant sy’n dyst i gam-drin domestig Cam-drin seicolegol
Cam-drin ariannol neu gam-drin adnoddau Caethwasiaeth fodern Priodas dan orfod Esgeuluso a gweithredoedd hepgor
Rheoli drwy orfodaeth Anffafriaeth Sefydliadol Cam-fanteisio rhywiol ar blant
Troseddau mêt Camdriniaeth ysbrydol    

Gall camdriniaeth ac esgeulustod ddigwydd yn unrhyw le. Y llefydd mwyaf cyffredin y gall ddigwydd yw:

  • Eich cartref
  • Canolfannau dydd neu breswyl
  • Tai â chefnogaeth
  • Sefydliadau addysgol
  • Cartrefi Nyrsio
  • Clinigau
  • Ysbytai