Adolygu rheolaethau ar fewnforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid: Ebrill 2016 i Fawrth 2017
Hwn yw'r 13eg adolygiad o reolaethau ar fewnforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid (Ebrill 2016 i Fawrth 2017).
Dogfennau
Manylion
Dyma’r trydydd adolygiad ar ddeg o reolaethau’r Deyrnas Unedig (y DU) ar fewnforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid yn unol ag adran 10A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002).
Mae’r adroddiad yn esbonio’r canlyniadau penodol, datblygiadau polisi a gweithredol. Mae hefyd yn disgrifio’r camau a gymerir gan y llywodraeth ac eraill er mwyn atal clefyd rhag cael ei gyflwyno drwy fewnforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid. Mae’n:
- rhoi trosolwg o effeithiolrwydd rheolaethau’r DU ar fewnforio
- esbonio’r ffordd y mae’r system rheolaethau mewnforio a mesurau diogelu eraill yn gweithio
A hefyd yn rhoi manylion am y canlynol:
- cadw golwg ar glefydau ledled y byd
- effeithiolrwydd rheolaethau ar y ffin
- mesurau a gymerir yn fewndirol
- cydweithredu rhwng asiantaethau