Papur polisi

Adolygu rheolaethau ar fewnforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid: Ebrill 2014 i Fawrth 2016

Hwn yw'r 12eg adolygiad o reolaethau ar fewnforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid (Ebrill 2014 i Fawrth 2016).

Dogfennau

Disgrifiad o system reolaeth y DU ar fewnforio anifeiliaid byw a chynnyrch anifeiliaid a gwerthuso perfformiad hynny (Ebrill 2014 - Mawrth 2016): fersiwn print

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch defra.helpline@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Dyma’r deuddegfed adolygiad o reolaethau’r Deyrnas Unedig (y DU) ar fewnforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid yn unol ag adran 10A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002). Mae’r adroddiad yn esbonio’r canlyniadau penodol, datblygiadau polisi a gweithredol. Mae hefyd yn disgrifio’r camau a gymerir gan y llywodraeth ac eraill er mwyn atal clefyd rhag cael ei gyflwyno drwy fewnforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid. Mae’n:

  • rhoi trosolwg o effeithiolrwydd rheolaethau’r DU ar fewnforio
  • esbonio’r ffordd y mae’r system rheolaethau mewnforio a mesurau diogelu eraill yn gweithio

A hefyd yn rhoi manylion am y canlynol:

  • cadw golwg ar glefydau byd eang a chwilio’r gorwelion
  • effeithiolrwydd rheolaethau ar y ffin
  • mesurau a gymerir yn fewndirol
  • cydweithredu rhwng asiantaethau
Cyhoeddwyd ar 7 September 2017