Publication

Twyll a sgamiau hysbys

Updated 15 February 2019

Sgam dros y ffôn

Taliad cosb ffeilio hwyr

Mae rhywrai wedi cysylltu â chwmnïau gan ofyn iddynt dalu cosb ffeilio hwyr dros y ffôn. Mae’r galwr yn dweud y bydd yn derbyn taliad o £5 gyda cherdyn credyd neu ddebyd i atal unrhyw gamau eraill dros dro.

Ni fyddwn yn cysylltu â chi i ofyn ichi dalu cosb ffeilio hwyr ar unwaith nac i ofyn ichi dalu ffi nominal i atal unrhyw gamau adennill dros dro.

Caiff cynlluniau talu eu sefydlu gyda chytundeb y rheolwr sy’n ymdrin â’ch ymholiad ynghylch cosb ffeilio hwyr. Ni fyddwn yn eich ffonio’n ddiwahoddiad i gymryd taliad.

Gofyn am eich cod dilysu

Ni fyddwn byth yn gofyn i chi beth yw’ch cod dilysu dros y ffôn.

Os yw unrhyw un yn eich ffonio gan honni ei fod o Dŷ’r Cwmnïau ac yn gofyn am eich cod dilysu, ceisiwch gael rhif ffôn i’w ffonio’n ôl a chysylltwch â ni ar unwaith ar 0303 1234 500.

Gofyn am fanylion cyfarwyddwyr

Mae cwmnïau wedi cael eu ffonio gan bobl sy’n honni eu bod o Dŷ’r Cwmnïau ac sy’n gofyn am fanylion cyfarwyddwyr y cwmni.

Ar ôl dweud bod anghysondeb gyda’r wybodaeth a gedwir ar y gofrestr, mae’r galwr yn gofyn am wybodaeth fel dyddiadau geni llawn cyfarwyddwyr.

Ni fyddwn byth yn cysylltu â chi dros y ffôn i gael gwybod pwy yw’ch swyddogion na gofyn am wybodaeth ddiogel. Os yw unrhyw un yn eich ffonio gan honni ei fod o Dŷ’r Cwmnïau ac yn gofyn am eich cod dilysu, ceisiwch gael rhif ffôn i’w ffonio’n ôl a chysylltwch â ni ar unwaith ar 0303 1234 500.

Negeseuon e-bost ffug

Rydym yn gwybod bod nifer o negeseuon e-bost amheus yn cael eu hanfon gan honni eu bod yn dod oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau.

Efallai y bydd rhai negeseuon e-bost yn cael atodiad, megis dogfen Word, ac efallai y bydd yn gofyn i chi i fewnbynnu cod awdurdodi. Nid yw’r negeseuon hyn wedi cael eu creu gan Dŷ’r Cwmnïau.

Os cewch neges e-bost amheus, dylech roi gwybod inni amdani ar unwaith.

Peidiwch â datgelu unrhyw wybodaeth bersonol nac agor unrhyw atodiadau. Ni fydd Tŷ’r Cwmnïau byth yn gofyn am eich cod dilysu.

Sgam gwe-rwydo yn gofyn ichi gadarnhau pwy ydych

Mae rhai cwsmeriaid wedi cael negeseuon e-bost oddi wrth “noreply@companieshousel.ink” yn gofyn iddynt ‘Verify your identity by Friday, Feb 8”. Mae’r negeseuon e-bost hyn yn honni eu bod oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau a CThEM.

Os cewch unrhyw negeseuon e-bost oddi wrth yr anfonwr hwn, anfonwch hwy ymlaen at phishing@companieshouse.gov.uk cyn gynted ag y bo modd. Dilëwch y neges e-bost o’ch mewnflwch a pheidiwch â datgelu unrhyw wybodaeth bersonol na chlicio ar unrhyw ddolenni.

Title GOV.UK, HM Revenue & Customs, Verify your identity by Friday Feb 8.

Negeseuon e-bost ffug am gwynion ynghylch cwmnïau

Mae rhai cwsmeriaid wedi cael negeseuon e-bost amheus am gwynion ynghylch cwmnïau. Nid yw’r negeseuon hyn oddi wrthym ni.

Os cewch unrhyw negeseuon e-bost oddi wrth yr anfonwr hwn, anfonwch hwy ymlaen at phishing@companieshouse.gov.uk cyn gynted ag y bo modd. Peidiwch ag agor unrhyw atodiadau.

Scam complaints email
Scam complaints email claiming to be from Companies House.

Anfonir yr e-bost oddi wrth: “complaints@companies-house-gov.uk” neu “noreply@cpgov.uk” gyda’r neges dilynol yn Saesneg:

“This message has been generated in response to the company complaint submitted to Companies House WebFiling service.

(CC01) Company Complaint for the company was accepted on 25/06/2018.

The submission number is 5GBV2LXEK5ULLKW

Please quote this number in any communications with Companies House.

View WebFiled document

All WebFiled documents are available to view / download for 10 days after their original submission.”

Negeseuon e-bost oddi wrth y Gwasanaethau Ymchwil a Gorfodi

Ers 2016, rydym wedi gweld enghreifftiau o negeseuon e-bost yr honnir eu bod oddi wrth y ‘Gwasanaethau Ymchwil a Gorfodi yn Nhŷ’r Cwmnïau’. Honnir bod y neges wedi cael ei chynhyrchu’n awtomatig i ymateb i gŵyn am gwmni. Wedyn gofynnir i gwsmeriaid edrych ar ddogfen sydd wedi’i hatodi. Dangoswyd bod y ddogfen hon â malwedd ynddi. Rydym yn eich cynghori i beidio ag agor yr atodiad hwn.

Mae’r negeseuon e-bost wedi bod â’r testun canlynol ynddynt yn Saesneg:

Image showing text of malicious email claiming to be from Companies House

Gwelwyd bod y negeseuon e-bost yn cynnwys y parthau canlynol nad yw Tŷ’r Cwmnïau yn eu defnyddio:

  • @companies-house-gov.uk
  • @cpgov.uk
  • @companieshouse.me.uk
  • @companies-house.me.uk
  • @companieshousecomplaint.co.uk
  • @companieshousecomplaints.co.uk
  • @companieshouseemail.co.uk
  • @companieshouseemail.uk
  • @companieshouses.com
  • @companiesshouse.com
  • @companiesshouse.co.uk
  • @companieshouses.co.uk
  • @companieshousesecure.co.uk
  • @cp-securemessage.co.uk
  • @ebilling-companieshouse-gov.uk
  • @companieshousel.ink

Os ydych wedi cael un o’r negeseuon e-bost hyn anfonwch hi ymlaen at phishing@companieshouse.gov.uk ac yna dilëwch hi. Peidiwch â cheisio edrych ar unrhyw atodiadau i’r neges.

Negeseuon e-bost ffug ynghylch ‘Archebu Dogfennau’

Mae’r negeseuon hyn yn ymddangos fel pe baent yn dod o gyfeiriad e-bost dilys yn Nhŷ’r Cwmnïau ond nid ydynt. Yr unig adeg y caiff negeseuon e-bost ‘Archebu Dogfennau’ dilys eu creu yw pan ofynnir am gopi o wybodaeth gwmni gyfredol o’r tu mewn i’n gwasanaeth ffeilio ar-lein.

Hefyd, mae negeseuon e-bost ‘Archebu Dogfennau’ dilys yn cynnwys enw a rhif eich cwmni o dan bennawd ‘Manylion yr archeb’ a chyfeiriad at y ddogfen PDF o wybodaeth gwmni sydd wedi’i hatodi. Ymddengys nad yw’r negeseuon ffug yn cynnwys y wybodaeth gwmni unigol hon, ac nid yw’r atodiad mewn fformat PDF. Peidiwch ag agor yr atodiad.

Os ydych wedi cael un o’r negeseuon e-bost hyn, anfonwch hi ymlaen at phishing@companieshouse.gov.uk ac yna dilëwch hi. Peidiwch â cheisio edrych ar unrhyw atodiadau sydd wedi’u cynnwys yn y neges.

Negeseuon e-bost ffug ynghylch cyflwyno dogfennau ar lein

Mae’r neges e-bost ffug hon yn honni ei bod yn ymateb i gyflwyno dogfen ar lein.

Screen grab of bogus email claiming to be from Companies House
Bogus email claiming to be from Companies House

Rydym hefyd yn gwybod bod rhai cwsmeriaid wedi cael negeseuon e-bost sy’n dweud yn Saesneg:

“Thank you for completing a submission Reference # (0516538). Check attachment to confirm acceptance or rejection of this filing”

Peidiwch ag agor unrhyw atodiad i wirio gwybodaeth.

Byddwn yn dweud wrthych chi yn y neges e-bost a yw’r ddogfen yr ydych wedi’i chyflwyno wedi cael ei derbyn neu ei gwrthod.

Os ydych wedi cael un o’r negeseuon ffug e-bost hyn, anfonwch hi ymlaen at phishing@companieshouse.gov.uk ac yna dilëwch hi. Peidiwch â cheisio edrych ar unrhyw atodiadau sydd wedi’u cynnwys yn y neges.

Ceisiadau eAtgoffa ffug am gyfrifon

Mae rhai pobl wedi dweud eu bod wedi cael negeseuon e-bost gwe-rwydo ar ffurf neges e-bost atgoffa i gyflwyno cyfrifon. Mae dyddiadau dyledus anghywir ar yr enghreifftiau sydd wedi cael eu dangos inni. Dyma’r awgrym cyntaf ichi nad yw hon, o bosibl, yn ddilys.

Mae’r negeseuon e-bost gwe-rwydo hefyd yn dweud ‘Please find information in the following link regarding your Company’s annual accounts.’

Peidiwch â chlicio ar y ddolen hon, gan ei bod yn eich trosglwyddo at ‘118enquiries.com’ ac yn lawrlwytho ffeil sip i’ch dyfais.

Os ydych wedi cael un o’r negeseuon e-bost hyn, anfonwch hi ymlaen at phishing@companieshouse.gov.uk ac yna dilëwch hi. Peidiwch â cheisio edrych ar unrhyw atodiadau sydd wedi’u cynnwys yn y neges.

Ceisiadau ffug i ddilysu’ch cyfrinair gyda Thŷ’r Cwmnïau

Rydym wedi clywed gan gwsmeriaid eu bod yn cael negeseuon e-bost yn gofyn iddynt ddilysu eu cyfeiriad e-bost a’u cyfrinair gyda Thŷ’r Cwmnïau. Os nad ydych chi’n disgwyl cael neges e-bost i ailosod eich cyfrinair, mae’n bosibl mai sgam yw hon. Rydym yn eich cynghori i’w hanfon ymlaen at phishing@companieshouse.gov.uk ac yna ei dileu.

Yn y neges e-bost ceir dolen i dudalen we sy’n gofyn i chi roi i mewn eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair. Gwiriwch bob amser bod yr URL (cyfeiriad y wefan) yr ydych ar fin mynd iddi’n gyfeiriad Tŷ’r Cwmnïau neu GOV.UK dilys. Er enghraifft, bydd gan gais am ailosod cyfrinair ar gyfer ein gwasanaeth ffeilio ar-lein gyfeiriad sy’n dechrau: ewf.companieshouse.gov.uk

Os nad yw’r ddolen yn cynnwys yr elfen ‘.gov.uk' yn y cyfeiriad, nid un o dudalennau Tŷ’r Cwmnïau yw hi ac mae’n bosibl mai sgam yw hi.

Peidiwch â rhoi unrhyw fanylion i mewn na chlicio ar unrhyw ddolenni na botymau. Nid yw’r dudalen we wedi’i chysylltu â’n gwasanaethau ni a bydd yn anfon eich manylion at y sgamwyr.

Screen grab of bogus web page claiming to be from Companies House
Bogus web page claiming to be from Companies House

Llythyrau sgam

Lythyrau oddi wrth gyfreithwyr erlyn yn gofyn am daliad

Rydym yn ymwybodol o lythyr sgam yr ymddengys ei fod oddi wrth gyfreithwyr erlyn Tŷ’r Cwmnïau. Mae’n gofyn am daliad i gyfrif banc i glirio anfoneb sydd heb ei thalu am ‘drafodaethau cosb flaenorol’. Nid ni sy’n anfon y llythyrau hyn.

Os cewch lythyr amheus, ffoniwch ni ar unwaith ar 0303 1234 500. Peidiwch byth â thalu unrhyw arian i’r cyfrif banc a ddangosir.

Image showing bogus letter claiming to be from Companies House
Bogus invoice letter claiming to be from Companies House.

Anfoneb sgam yn gofyn am daliad am gofrestru cwmni

Rydym wedi cael hysbysiadau am yr anfoneb ganlynol sy’n honni ei bod oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau. Mae’n gofyn am dalu swm a ddangosir mewn doleri, a’r cyfeiriad arni yw ‘Government Digital Service, Caroline Street, Birmingham’. Nid yw’r anfonebau hyn oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau.

Os cewch anfoneb amheus, ffoniwch ni ar unwaith ar 0303 1234 500. Peidiwch byth â thalu unrhyw arian i’r anfonwr.

Screen grab of email claiming to be from Companies House
Scam email claiming to be from Companies House.

Swyddi gwag amheus

Rydym yn cael ymholiadau trwy e-bost am hysbysebion swyddi yn y Deyrnas Unedig. Fel arfer mae’r rhain yn cynnig swyddi neu gyfleoedd â chyflogau bras yn y diwydiannau olew, gwestai neu fancio. Yn aml mae’r hysbysebion yn cael eu gosod mewn print neu ar wefannau i ymddangos yn ddilys.

Dylech drin pob cynnig o swydd yn hynod ofalus. Fel arfer mae’r manylion cyswllt yn ffug, a dylech beidio ag ateb darparwyr y swyddi gwag hyn.

Gallai’r hysbyseb ofyn am arian ymlaen llaw cyn y gellir prosesu’r cais, a hefyd gallent sôn am fisâu’r Deyrnas Unedig.

Gofynnwch i adran Fisâu a Mewnfudo y DU am wybodaeth am wneud cais am fisa’r Deyrnas Unedig.

Gellir chwilio am ein swyddi gwag ar wefan swyddi’r gwasanaeth sifil.

Twyll rhyddid pensiynau

Mae sgamiau pensiwn yn cynyddu yn y Deyrnas Unedig ac mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cael gwybod bod rhywrai wedi sefydlu cwmnïau cyfyngedig yn enw unigolion o dan rai cynlluniau. Os ydych chi’n credu bod rhywrai wedi sefydlu cwmni yn eich enw chi, ceisiwch gyngor cyfreithiol cyn mynd ati i’w gau.

Mae sgamiau’n cael eu hyrwyddo gan ddefnyddio termau fel cynnig cyfleoedd buddsoddi unigryw, adolygiad am ddim o’ch pensiwn, bwlch yn y gyfraith, bonws arian parod, neu fel cynllun sydd wedi’i gymeradwyo gan y llywodraeth. Cysylltir â dioddefwyr trwy eu ffonio’n ddiwahoddiad, trwy neges destun neu alw arnynt wrth y drws. Dylech drin pob cysylltiad ynghylch eich pensiwn yn ofalus os nad yw’n dod o ffynhonnell yr ydych chi’n ei hadnabod ac yn ymddiried ynddi.

Os yw rhywun yn cysylltu â chi, peidiwch â rhoi’ch gwybodaeth bersonol na llofnodi unrhyw bapurau. Gallwch wirio a yw’r cynnig gwasanaeth yn ddilys a gall gwefan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau helpu.

Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau hefyd yn cynnig cyfarwyddyd i helpu unigolion sy’n meddwl y gallant fod wedi cael eu targedu gan sgamiau pensiynau.

Ceisiadau am daliadau’r gofrestr cwmnïau

Mae cwmnïau sydd wedi’u cofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau’n cael hysbysiadau yn gofyn am arian i gadw eu cwmni ar y gofrestr.

Mae’r cwmnïau dan sylw’n cael yr hyn sy’n edrych fel cais dilys oddi wrth un o’r canlynol:

  • New Companies Register
  • Digital Companies Register
  • National Register of Companies
  • Economic Index for Europe
  • Register of Companies and Businesses
  • Scottish Commercial Register (publication of companies)
  • Welsh Commercial Register
  • e-public.co.uk Company Register
  • regist.co.uk

Nid yw’r sefydliadau hyn yn gysylltiedig â Thŷ’r Cwmnïau na GOV.UK, ac nid ydynt wedi’u cymeradwyo gan y naill na’r llall, ac nid yw’r ffi y gofynnir amdani yn ofynnol er mwyn cadw’r cwmni ar y gofrestr yn Nhŷ’r Cwmnïau.