Ymchwil a dadansoddi

Crynodeb Gweithredol

Cyhoeddwyd 21 February 2023

Crynodeb Gweithredol

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i gais gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i Swyddfa’r Farchnad Fewnol (OIM) archwilio effaith posibl y gwaharddiad arfaethedig gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn Lloegr ar werthu mawn garddwriaethol i ddefnyddwyr adwerthu erbyn 2024 ac i dyfwyr proffesiynol erbyn 2028 yn eu tro ar y farchnad fewnol yn y Deyrnas Unedig. Derbyniodd yr OIM y cais hwnnw ar 4 Awst 2022, a wnaed dan a.34 o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020.

Cynhaliwyd ein dadansoddiad yn unol â’n swyddogaethau dan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Mae’n archwilio effeithiau’r rheoliad arfaethedig ar y farchnad fewnol ac mae’n bennaf yn ymwneud â’i effeithiau economaidd. Fe wnaethom ganolbwyntio ein sylw ar y gwaharddiad adwerthu yn 2024.

Casglwyd gwybodaeth gennym o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys yr ymatebion i ymgynghoriad DEFRA ar y rheoliad arfaethedig, cyfweliadau gyda chyfranogwyr o fyd diwydiant a phartïon eraill â diddordeb, ceisiadau gwybodaeth, ac ymchwil cyhoeddedig. Fe wnaethom hefyd gomisiynu arolwg o agweddau ac ymddygiad defnyddwyr. Fe wnaethom siarad ag aelodau o fyd diwydiant, gan gynnwys gweithgynhyrchwyr ac adwerthwyr cyfryngau tyfu, tyfwyr proffesiynol, prynwyr adwerthu, a phartïon eraill â diddordeb fel y Gweinyddiaethau Datganoledig, swyddogion cynllunio awdurdodau lleol ac elusennau amgylcheddol.

Mae’r gadwyn gyflenwi ar gyfer cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn a werthir i gwsmeriaid adwerthu yn cynnwys echdynnwyr mawn, gweithgynhyrchwyr (y rhan fwyaf ohonynt hefyd yn cynnal rhywfaint o weithgareddau echdynnu mawn) ac adwerthwyr. Gwerthir y rhan fwyaf (dros ddwy ran o dair) o’r cyfryngau tyfu a werthir yn y Deyrnas Unedig trwy adwerthwyr. Gwerthir y gweddill i dyfwyr proffesiynol, grŵp sy’n cynnwys ffermwyr a busnesau sy’n tyfu planhigion addurnol.

Lleihaodd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth dros y degawd diwethaf, gyrrwyd hynny gan fwy o ddefnydd o gyfryngau tyfu di-fawn a gostyngiad yn y gyfran o fawn a ddefnyddir mewn cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn. Cyflymodd y duedd hon dros y tair blynedd ddiwethaf, gan adlewyrchu’r newid yn ymwybyddiaeth amgylcheddol y defnyddwyr, dymuniad adwerthwyr i gyflawni eu hymrwymiadau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu, a’r ffaith bod gweithgynhyrchwyr yn rhagweld camau’r llywodraeth i wahardd y defnydd o fawn. Er gwaethaf y datblygiadau hyn, rydym yn rhagweld y bydd mawn yn parhau i gael ei ddefnyddio yn Lloegr am yr ychydig flynyddoedd nesaf heb y gwaharddiad arfaethedig.

Er mwyn deall effeithiau tebygol y gwaharddiad arfaethedig ar y farchnad fewnol fe wnaethom edrych yn gyntaf ar sut y gall y farchnad ar gyfer cynhyrchion cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn a’r dewisiadau eraill di-fawn ddatblygu yn dilyn y gwaharddiad. Yn ganolog i’r dadansoddiad hwn mae ystyriaeth o’r rhan y mae’r Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad yn eu chwarae. Byddai’r egwyddorion yma, dan rai amgylchiadau, yn caniatáu i gyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn wedi eu cynhyrchu yn yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon gael eu gwerthu yn Lloegr, hyd yn oed ar ôl i’r gwaharddiad ddod i rym. Ni fyddai’r Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad yn caniatáu i gyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn a gynhyrchir yn Lloegr gael eu gwerthu yn Lloegr, gan y byddai’r gwaharddiad arfaethedig ar eu gwerthu yn berthnasol.

Rydym yn casglu bod galw defnyddwyr am gyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn yn benodol yn fychan ond nad yw’n amherthnasol. Datgelodd ein harolwg defnyddwyr nad oes gan fwy nag un o bob deg o ddefnyddwyr gymhelliant cryf i brynu cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn. Mae gan gyfran lawer mwy (o leiaf bedwar o bob deg) gymhelliant i brynu cyfryngau tyfu di-fawn. Nid yw o leiaf dri o bob deg yn poeni beth mae eu cyfryngau tyfu yn ei gynnwys ac mae pris y cyfryngau tyfu yn fwy tebygol o gael dylanwad arnynt. Mae’r canfyddiadau hyn yn gyson ag ymchwil gan gyfranogwyr o fyd diwydiant, a’r trafodaethau a gawsom gyda hwy.

Yn unol â’r dewisiadau yma gan ddefnyddwyr, mae llawer o adwerthwyr wedi ymrwymo i atal cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn yn raddol. Rydym yn amcangyfrif bod tua 60% o’r holl gyfryngau tyfu a werthir trwy’r sianel adwerthu yn cael eu gwerthu gan adwerthwyr sydd wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i gadw cyfryngau tyfu di-fawn yn unig erbyn diwedd 2024 neu cyn hynny. Mae’r ymrwymiadau yma’n lleihau awydd adwerthwyr i barhau i gynnig cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn. Yn ychwanegol, mae adwerthwyr mwy sy’n gweithredu trwy’r Deyrnas Unedig yn dueddol o gadw un cyfrwng tyfu ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd. Byddai hyn yn golygu y byddai cyfryngau tyfu di-fawn sy’n cydymffurfio â’r gwaharddiad arfaethedig yn Lloegr hefyd yn dod yn gynnig safonol gan yr adwerthwyr hyn yng ngweddill y Deyrnas Unedig hyd yn oed os na fyddai gwerthu cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn wedi ei wahardd yno.

Bydd argaeledd cyfryngau tyfu di-fawn yn fwy cyffredinol yn effeithio ar benderfyniadau stocio adwerthwyr hefyd. Gall prinder deunydd di-fawn arwain at brinder cyfryngau tyfu di-fawn, neu achosi cynnydd mewn pris a/neu i’r safon ddirywio. Gall hyn gael effaith anghymesur ar adwerthwyr llai. Dan amgylchiadau o’r fath, gall adwerthwyr ddibynnu ar yr Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad i gael cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn, yn neilltuol os nad ydynt wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i beidio â gwerthu mawn. Bydd y cymhelliant i wneud hynny’n arbennig o gryf i adwerthwyr fel canolfannau garddio, lle na fydd cwsmeriaid yn prynu cynnyrch arall efallai os nad ydynt yn gallu prynu cyfrwng tyfu.

Ar yr ochr gynhyrchu, mae llawer o weithgynhyrchwyr wedi bod yn lleihau eu defnydd o fawn yn eu cyfryngau tyfu yn gyson. Roedd yr holl weithgynhyrchwyr y buom yn siarad â hwy sydd yn cynhyrchu cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn ar hyn o bryd wedi buddsoddi mewn offer newydd, storfeydd, neu brosesu i’w galluogi i gynhyrchu cyfryngau tyfu di-fawn. Fe wnaethant ddweud bod y gwaharddiad arfaethedig ar adwerthu mawn yn debygol o gyflymu’r duedd hon.

Sgil-gynnyrch diwydiannau eraill yw llawer o’r dewisiadau di-fawn a ddefnyddir gan weithgynhyrchwyr ac felly mae lefelau’r gweithgaredd yn y diwydiant sylfaenol yn effeithio arnynt. Yn ychwanegol, mae’r diwydiant garddwriaethol yn y Deyrnas Unedig yn cystadlu â diwydiannau eraill yn fyd-eang, fel cynhyrchu ynni biomas, er mwyn cael gafael ar y mewnbynnau hyn. Ceir rhai mewnbynnau di-fawn ar gyfer cyfryngau tyfu o ffynonellau rhyngwladol, fel rhisgl coconyt, a gall ffactorau byd-eang fel cyfraddau prisiau cludo mewn llongau effeithio arno. Er gwaethaf yr heriau yma mae gweithgynhyrchwyr y Deyrnas Unedig wedi llwyddo wrth ehangu’r defnydd o fewnbynnau di-fawn ar draws eu busnesau gyda’r defnydd o fewnbynnau di-fawn bron â dyblu rhwng 2011 a 2021. Byddai angen ehangu ymhellach yn gyflym i ddisodli’r defnydd presennol o fawn mewn cyfryngau tyfu adwerthu erbyn diwedd 2024.

Er bod gweithgynhyrchwyr wedi bod yn llwyddiannus wrth gael gwared ar gyfran sylweddol o fawn o gynhyrchu cyfryngau tyfu, cododd nifer o’r gweithgynhyrchwyr y buom yn siarad â nhw bryderon am brinder posibl yn y mewnbynnau sy’n ofynnol i wneud cyfryngau tyfu di-fawn os bydd mawn yn cael ei dynnu o’r sector yn llwyr. Petai prinder yn y cyflenwad o gyfryngau tyfu di-fawn yn gyffredinol, neu ddiffyg mewnbynnau di-fawn priodol ar gyfer cyfresi penodol o gynnyrch, gall adwerthwyr yn Lloegr gael cymhelliant i geisio dibynnu ar yr Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad i gael a gwerthu cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn.

Hyd yn oed petai digon o gyfryngau tyfu di-fawn ar gael, mae’r cynnydd yn y galw am y mewnbynnau sy’n ofynnol yn debygol o gynyddu’r gost, fydd hefyd yn rhoi cymhelliant i adwerthwyr yn Lloegr i ddibynnu ar yr Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad i gael a gwerthu cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn. Mae’r gwahaniaethau mewn costau cynhyrchu rhwng cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn a rhai di-fawn yn y gorffennol wedi arafu’r symudiad oddi wrth fawn, gan fod mawn yn hanesyddol wedi bod yn rhatach na’r mewnbynnau sy’n ofynnol ar gyfer dewisiadau di-fawn. Yn fwy diweddar, mae pris mawn wedi codi, gan leihau’r gwahaniaeth hwn mewn pris. Os bydd gweithgynhyrchwyr yn cael trafferth cael mewnbynnau ar gyfer cyfryngau tyfu di-fawn a bod eu costau cynhyrchu’n codi, gall y gwahaniaeth hwn gynyddu eto, gan roi cymhelliant i ddychwelyd at gynhyrchu cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn lle bydd hynny’n cael ei ganiatáu.

Rydym yn ystyried bod y sector proffesiynol yn annhebygol o fod yn ffynhonnell mewnbynnau di-fawn i’r sector adwerthu. Er bod tyfwyr proffesiynol yn defnyddio swm sylweddol o fewnbynnau di-fawn yn eu cyfryngau tyfu, hyd yn oed petai pris mewnbynnau di-fawn yn cynyddu byddent yn annhebygol o gyfnewid am gyfrwng tyfu gyda mwy o fawn ynddo. Mae gan dyfwyr proffesiynol resymau masnachol grymus dros wneud newidiadau i’r cyfrwng tyfu y maent yn ei ddefnyddio bob yn gam ac yn ofalus a bydd angen iddynt, beth bynnag, ddechrau paratoi ar gyfer y gwaharddiad ar gyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn yn y sector proffesiynol yn 2028.

Bydd gallu gweithgynhyrchwyr i gyflenwi cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn yn dibynnu ar ble y maent yn ei weithgynhyrchu – rhaid i’r cynhyrchu ddigwydd yn yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon iddo gael ei werthu’n gyfreithlon yn Lloegr ar ôl i’r gwaharddiad ddod i rym. Nid oes unrhyw le yn cynhyrchu cyfrwng tyfu sy’n cynnwys mawn yng Nghymru. Mae’r Alban yn annhebygol o fod yn ffynhonnell arwyddocaol o gyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn ar gyfer y sector adwerthu yn dilyn y gwaharddiad adwerthu yn Lloegr gan fod y rhan fwyaf o’r cynhyrchu yn yr Alban ar gyfer y farchnad broffesiynol.

Mae’r cynhyrchu yng Ngogledd Iwerddon yn digwydd gan nifer o weithgynhyrchwyr gan gynnwys rhai busnesau llai ac mae’n fwy tebygol o fod yn ffynhonnell ar gyfer cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn i weddill y Deyrnas Unedig. Ond, efallai na fydd Gogledd Iwerddon yn lleoliad cost effeithiol i gyflenwi pob rhan o Loegr oherwydd y costau cludiant.

Yn y tymor hwy, gallai gweithgynhyrchwyr fuddsoddi mewn safleoedd newydd yn yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon a fyddai’n eu galluogi i ddibynnu ar yr Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad i gyflenwi cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn i Loegr. Ond, mae cwestiynau am y cymhelliant fyddai gan weithgynhyrchwyr i fuddsoddi yn y tymor hwy mewn cynhyrchu cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn o ystyried bod Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i gael gwared ar ddefnyddio mawn mewn garddwriaeth ac mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn dod ag adwerthu mawn mewn garddwriaeth i ben. Mae strategaeth fawnogydd ddrafft Gogledd Iwerddon yn cynnwys cynnig i gynnal adolygiad a chyhoeddi papur ar y prif broblemau am echdynnu mawn a’r defnydd o fawn a chynnyrch mawn erbyn 2023 a symud unrhyw argymhellion a wneir ymlaen.

Yn gyffredinol, rydym yn dod i’r casgliad mai cymhelliant cyfyngedig fydd i weithgynhyrchwyr ac adwerthwyr werthu cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn yn Lloegr pan ddaw’r gwaharddiad i rym. Ond, mae’r canfyddiad hwnnw’n ddibynnol ar argaeledd y mewnbynnau angenrheidiol i wneud y cyfryngau tyfu di-fawn. Er ein bod yn meddwl y bydd prinder ar raddfa fawr yn annhebygol, gall rhywfaint o brinder godi a mwyaf difrifol a pharhaol fydd y prinder, y mwyaf tebygol fydd hi y bydd gweithgynhyrchwyr ac adwerthwyr yn troi at gyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn i bontio’r bwlch, petai cyfryngau tyfu di-fawn yn mynd yn rhy gostus neu o safon is.

At ei gilydd, rydym felly’n dod i’r casgliad, er y bydd peth newid i batrymau masnachu mewn cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn ar draws y Deyrnas Unedig a all fod yn arwyddocaol i fusnesau unigol, mae’r rhain yn debygol o fod yn fychan yng nghyd-destun y farchnad gyffredinol ar gyfer cyfryngau tyfu. Mae hyn yn wir oherwydd mae’r rhan fwyaf, os nad y cyfan, o weithgynhyrchwyr sy’n cynhyrchu cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn ar hyn o bryd hefyd yn gallu cynhyrchu cyfryngau tyfu di-fawn ac rydym yn disgwyl i’r fasnach mewn cyfryngau tyfu sy’n cynnwys mawn gael ei chyfnewid am fasnach mewn cyfryngau tyfu di-fawn. Am yr un rheswm, nid ydym chwaith yn disgwyl y bydd effaith arwyddocaol ar gystadleuaeth ehangach yn y farchnad cyfryngau tyfu.