Ymchwil a dadansoddi

Adroddiad: Effaith y cynnig arfaethedig i wahardd gwerthu mawn garddwriaethol yn Lloegr ar weithrediad effeithiol Marchnad Fewnol y DU

Darparodd Swyddfa’r Farchnad Fewnol ei hadroddiad terfynol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.

Dogfennau

Manylion

Ar 4 Awst 2022, derbyniodd Swyddfa’r Farchnad Fewnol (OIM) gais am adroddiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig mewn perthynas â rheoliad arfaethedig.

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i gais gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i Swyddfa’r Farchnad Fewnol (OIM) archwilio i’r effaith bosibl ar swyddfa fewnol y DU petai’r Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn gwahardd gwerthu mawn garddwriaethol i brynwyr adwerthol yn Lloegr erbyn 2024 ac i dyfwyr proffesiynol erbyn 2028 yn y drefn honno.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen prosiect Adroddiad am y cynnig arfaethedig i wahardd gwerthu mawn yn Lloegr.

Cyhoeddwyd ar 21 February 2023