Sut i roi gwybod am broblem diogelwch neu hylendid bwyd
Diweddarwyd 7 Gorffennaf 2026
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Os bydd gennych broblem gyda bwyd mewn bwyty neu siop fwyd, pryder am eitem a brynwyd neu broblem gyda bwyd wedi’i archebu ar-lein, gallwch roi gwybod i’r awdurdod lleol lle mae’r busnes wedi’i leoli. Bydd tîm diogelwch bwyd yr awdurdod lleol yn ystyried y gŵyn ac yn penderfynu ar y camau gweithredu mwyaf priodol.
Ewch ati i ddod o hyd i fanylion cyswllt y tîm diogelwch bwyd. Bydd gennych opsiwn i naill ai e-bostio’r tîm neu ddefnyddio gwefan yr awdurdod lleol i roi gwybod am y broblem.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n nodi cod post llawn y busnes bwyd rydych yn dymuno sôn amdano, er enghraifft SW1H 9EX. Ni fydd cyfeiriadau â chodau post rhannol yn cael eu cydnabod.
Yr hyn y gallwch chi roi gwybod amdano
Gallwch chi roi gwybod am y canlynol:
- achosion tybiedig o wenwyn bwyd
- darn estron yn eich bwyd
- safleoedd budr
- hylendid dwylo gwael
- dulliau trin bwyd gwael
- bwyd sydd wedi prydu neu sy’n cynnwys llwydni
- bwyd sy’n cael ei werthu ar ôl ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’
- gwybodaeth am alergenau sy’n anghywir neu ddim ar gael
Pwysig
Dylid anfon cwynion am fwyd o ansawdd gwael a gwasanaeth cwsmeriaid gwael yn uniongyrchol at y busnes neu’r platfform archebu. Mae hyn yn cynnwys:
- problemau gyda thaliadau ac ad-daliadau
- bwyd tecawê sy’n hwyr, yn anghywir neu sydd ar goll
I gael cyngor am eich hawliau fel defnyddiwr, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth.