Skip to main content
Data tryloywder

Cofrestr o faterion dadansoddi risg

Mae’r Gofrestr hon o faterion dadansoddi risg yn darparu gwybodaeth am faterion sydd wrthi’n cael eu hystyried trwy ein proses dadansoddi risg ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae’n rhoi crynodeb o bob mater a’i statws cyfredol.

Dogfennau

2026-03 Register of Risk Analysis Issues March 2026

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch commsdigitalcontent@food.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y gofrestr

Rhif ID Dadansoddi Risg

Dyma’r rhif adnabod dadansoddi risg a ddefnyddir ar gyfer pob mater sy’n cael ei ystyried yn y broses dadansoddi risg.

Y math o fater dan sylw

Mae’r gofrestr yn cynnwys materion yn y meysydd canlynol:

  • ychwanegion bwyd a deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd
  • hylendid bwyd cyffredinol
  • hylendid cig
  • halogion a gweddillion cemegol
  • masnach
  • polisi radiolegol
  • bwyd anifeiliaid

Teitl y mater a chrynodeb ohono

Mae’r rhain yn rhoi trosolwg o’r mater a chrynodeb o’r gwaith a fydd yn cael ei gynnal.

Cam dadansoddi risg

Mae hyn yn nodi pa gam o’r broses dadansoddi risg y mae pob mater wedi ei gyrraedd:

  • asesu risg a thystiolaeth
  • datblygu ac ystyried dewisiadau rheoli risg
  • cwblhau

Gwybodaeth ychwanegol

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â materion sy’n destun dadansoddiad risg, fel papurau’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol, ymgynghoriadau a gwaith ymgysylltu cyhoeddus, trafodaethau Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a’r cyngor a’r argymhellion rydym yn eu rhoi i eraill, trwy’r dolenni canlynol:

Cynhyrchion rheoleiddiedig

Darperir gwybodaeth am geisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig sy’n destun dadansoddiad risg mewn cofrestr ar wahân o geisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Ionawr 2026

Argraffu'r dudalen hon