Canllawiau

Nodyn ymarfer y Gwarcheidwad Cyhoeddus (SD15): Sut mae’r OPG yn ymdrin â bondiau sicrwydd (fersiwn y we)

Diweddarwyd 11 April 2023

Applies to England and Wales

Crynodeb

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn goruchwylio dirprwyon a gaiff eu penodi gan y Llys Gwarchod.

Bydd y llys yn dweud wrth y rhan fwyaf o ddirprwyon am gael ‘bond sicrwydd’. Yswiriant yw’r bond sy’n gwarchod asedau’r sawl y mae’r dirprwy’n rheoli ei faterion a’i eiddo ar ei ran.

Mae’r OPG wedi sefydlu cynllun ar gyfer bondiau sicrwydd ond fe all dirprwyon gael bond gan ddarparwr nad yw’n rhan o’r cynllun.

Mae’r nodyn ymarfer hwn yn esbonio’r hyn y mae’r OPG yn ei ddisgwyl gan ddarparwr bondiau, er mwyn i’w fondiau sicrwydd fod yn addas ar gyfer dirprwyon.

Rhagarweiniad

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA) yn dweud sut y gellir gwneud penderfyniadau ar ran pobl dan amgylchiadau lle byddant o bosibl yn analluog i wneud y penderfyniadau hynny drostynt eu hunain. Mewn achosion o’r fath, lle bydd gan rywun, (a elwir yn “P”) eiddo neu arian ac nad oes ganddo atwrnai i’w gynrychioli, bydd angen iddo wneud cais i’r Llys Gwarchod (y Llys) am orchymyn priodol.

Os bydd y Llys yn gwneud gorchymyn untro neu’n penodi dirprwy i reoli eiddo a materion P, gall ofyn am sicrwydd ar ffurf bond sicrwydd er mwyn gwarchod asedau P. Bydd y Llys yn penderfynu beth fydd gwerth y bond sicrwydd

Crëwyd y Gwarcheidwad Cyhoeddus o dan yr MCA ar 1 Hydref 2007. Un o Asiantaethau Gweithredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder yw’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) sy’n helpu’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni ei ddyletswyddau. Mae gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus nifer o swyddogaethau statudol, ac un o’r rheini yw cael y sicrwydd gan ddirprwy neu gan rywun arall yn unol â’r hyn sy’n ofynnol gan y Llys. Caiff y Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd wneud cais i’r Llys orfodi’r bond os bydd y Dirprwy’n torri ei ddyletswydd.

Mae’r rheoliadau sy’n ymwneud â sicrwydd wedi’u rhestru yn Atodiad A ac maent ar gael yn llawn yma:

The Lasting Powers of Attorney, Enduring Powers of Attorney and Public Guardian Regulations 2007 (2007 Rhif. 1253)

The Lasting Powers of Attorney, Enduring Powers of Attorney and Public Guardian (Amendment) Regulations 2010 (2010 Rhif. 1063)

Y Cynllun

Mae Rheoliad 34(4) yn caniatáu i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wneud trefniadau i hwyluso darparu bondiau. Yr enw ar y trefniant hwn gan amlaf yw ‘y Cynllun’. Mae’r Cynllun yn darparu bondiau sicrwydd sy’n addas at ddibenion sicrwydd ar gyfer yr holl ddirprwyon sy’n cael eu penodi gan y Llys. Ers mis Hydref 2016, Howden UK Ltd sy’n gweinyddu’r cynllun. Nid oes yn rhaid i ddirprwyon ymuno â’r Cynllun ac fe gânt wneud eu trefniadau eu hunain.

Pwrpas y ddogfen hon

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r hyn y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei ddisgwyl gan unrhyw gwmni sy’n dymuno darparu bondiau y tu allan i’r Cynllun. Bydd angen i ddarparwyr ddangos i ddirprwyon sy’n dymuno symud y tu allan i’r Cynllun eu bod yn deall natur unigryw bondiau dirprwyon, eu bod yn cyflawni gofynion y Rheoliadau, ac yn darparu’r warchodaeth sy’n ofynnol i “P”. Nid oes gan yr OPG gontract ag unrhyw ddarparwr y tu allan i’r Cynllun ac nid yw’n cymeradwyo nac yn hyrwyddo dim o’r cynnyrch a gynigir.

Ni chaiff y gorchymyn sy’n rhoi’r awdurdod i rywun weithredu fel dirprwy ei ryddhau nes bod y Llys a’r OPG yn fodlon bod y sicrwydd priodol ar waith. Er mwyn hwyluso’r broses hon, byddai’r OPG yn disgwyl cytuno bod y darparwr a’r cynnyrch yn cyflawni gofynion y rheoliadau ac yn cyflawni disgwyliadau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn iddo gael ei ddefnyddio. Fel arall, bydd yn rhaid ymdrin â’r mater fesul achos, ac fe all hyn achosi oedi wrth benodi dirprwy. Bydd darparwyr sy’n bodloni gofynion y Rheoliadau ac sydd wedi cytuno i gyflawni disgwyliadau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu rhoi ar restr a gedwir gan yr OPG a’u darparu ar gyfer y Llys Gwarchod.

Byddai’r OPG yn disgwyl cynnal adolygiad rheolaidd i sicrhau bod darparwr yn cyflawni’r gofynion ac yn cyflawni disgwyliadau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a hynny bob blwyddyn fel rheol.

Yr hyn a ddisgwylir gan ddarparwyr

  1. Bydd angen i ddarparwyr allu cymeradwyo bond yn unol â’r hyn a nodir yn rheoliad 34.
  2. Bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl i ddarparwyr bondiau gynnal aelodaeth lawn o Gymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) neu ei holynydd neu gymdeithas gyfatebol.

Disgwyliadau ynghylch y Bond

Unig bwrpas y sicrwydd a roddir drwy’r bond yw gwarchod P, ac nid yw’n cynnig gwarchodaeth i’r dirprwy. Mae’r disgwyliadau hyn yn rhoi sicrwydd bod y warchodaeth yn gadarn ac yn parhau’n ddi-dor drwy gydol cyfnod y ddirprwyaeth. Dylai darparwyr bondiau ddeall y canlynol:

  • Y llys sy’n pennu swm y sicrwydd sy’n ofynnol ac ni chaiff darparwyr y bond na’r OPG amrywio’r swm hwn;
  • Nid yw’r OPG na’r Llys yn barti i’r bond. Trefniant rhwng y dirprwy a darparwr y bond ydyw;
  • Ar ôl trefnu’r bond, ni chaiff y naill barti na’r llall ei ddiddymu am unrhyw reswm;
  • Dim ond y Llys a gaiff ddiddymu’r bond.
  • Bydd angen i ddarparwr y bond sicrhau bod y bond yn darfod yn unol â’r terfynau amser yn rheoliad 37, ar ôl i’r ddirprwyaeth ddod i ben
  • I ddiddymu bond y tu allan i’r amserlenni hyn, bydd gofyn i un o’r partïon wneud cais i’r Llys

Gorfodi

Os bydd dirprwy’n methu yn ei ddyletswyddau, gellir gorfodi’r bond os bydd gofyn. Dylai darparwyr bondiau ddeall y canlynol: * Caiff y Llys alw i mewn y bond i gyd neu ran ohono hyd at y terfyn a sicrhawyd. Nid oes gofyn profi twyll ac mae’n bosibl na fydd modd pennu swm y golled; * Caiff y Llys orchymyn taliad interim, h.y. galw rhan o’r bond i mewn nes bod modd mesur swm y golled; * Rhaid i’r Yswiriwr dalu pan orchmynnir iddo wneud heb ddim ymchwiliad pellach; * Daw’r hysbysiad ar ffurf Gorchymyn Llys; * Disgwylir y bydd gan Yswirwyr yr hawl i adennill y swm y maent wedi’i dalu, a’u treuliau, gan y dirprwy. Mater i’r yswiriwr fydd hwn, ac ni fydd gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus na’r Llys ran ynddo.

Dirprwyon sy’n dymuno newid darparwr

Os bydd dirprwy’n dymuno newid darparwr bond, yn ôl Rheoliad 35(3) rhaid i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fod yn fodlon bod gofynion penodol wedi’u cyflawni. Disgwylir i ddarparwyr roi gwybod i’r OPG am unrhyw ddirprwyon sy’n dymuno newid darparwyr.

  • Bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl i ddarparwyr sicrhau bod dirprwyon sy’n dymuno newid darparwr yn deall a wnaiff yr yswiriwr dderbyn atebolrwydd neu beidio am gyfnod sydd wedi heibio gyda golwg ar unrhyw golled yn ystod y ddirprwyaeth, ni waeth pa bryd y digwyddodd hynny. Os na wnaiff dderbyn atebolrwydd am gyfnod sydd wedi mynd heibio, bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl i ddarparwr ei gwneud yn glir, oni fydd y bond blaenorol wedi’i ddiddymu, y gall y dirprwy fod yn atebol am dalu premiymau ar gyfer y ddau fond.

Newid Swm y Sicrwydd

Dylai darparwyr bondiau ddeall y canlynol:

  • Caiff y Llys newid swm y sicrwydd sy’n ofynnol unrhyw bryd. Bydd hyn yn digwydd gan amlaf pan fydd cais yn cael ei wneud i roi mwy o hawl i’r dirprwy fynd at yr ar arian. Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn meddwl ei bod yn well, er mwyn sicrhau gwarchodaeth i P, fod geiriad y bond yn sicrhau bod y dirprwy’n derbyn unrhyw gynnydd yn y sicrwydd a’r premiwm heb fod angen llofnodi rhagor o ddogfennau.

Os na fydd hyn yn digwydd, dylai darparwyr bondiau sicrhau bod proses ar waith i hysbysu’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os na chaiff newidiadau i’r sicrwydd eu rhoi ar waith, yn unol â gorchymyn y Llys.

Cyfnewid Gwybodaeth

Mae’r rheoliadau’n cynnwys gofynion ynghylch cyfnewid gwybodaeth. Byddai’r OPG yn dymuno cytuno â darparwyr sy’n gallu cyflawni’r disgwyliadau uchod ynghylch dull priodol o drosglwyddo gwybodaeth yn electronig

Byddai’r OPG yn awyddus i sicrhau cytundeb rhannu gwybodaeth rhwng y darparwr, y Llys a’r swyddfa ei hun. Disgwylid i’r cytundeb hwnnw gynnwys hysbysu bod bond wedi cael ei roi ar waith, terfynu dirprwyaeth, gorfodi bondiau, a fformat a phatrwm y wybodaeth. Byddai hefyd yn awyddus i gytuno ar amserlenni ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth ac ymateb i geisiadau am wybodaeth gan yr OPG a’r Llys.

Cwynion

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl i ddarparwyr bondiau bennu gweithdrefn gwyno glir a bod honno ar gael ar ei gwefan. Dylai’r weithdrefn gyflawni gofynion yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol a Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Atodiad A

Rheoliadau 33-37 y Gwarcheidwad Cyhoeddus

Y rhai y mae gofyn iddynt roi sicrwydd ar gyfer cyflawni eu swyddogaethau

  1. (I) Mae’r rheoliad hwn yn berthnasol mewn unrhyw achos lle bydd y llys yn gorchymyn i unigolyn (“S”) roi sicrwydd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau.

(2) Rhaid i’r sicrwydd gael ei roi gan S—

a) drwy gyfrwng bond sy’n cael i drefnu’n unol â rheoliad 34; neu

b) ym mha fodd bynnag arall yn unol â chyfarwyddyd y llys

(3) At ddibenion paragraff (2) (a), bydd S yn cydymffurfio â’r gofyniad i roi sicrwydd dim ond os—

a) yw’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol o dan reoliad 34(2) wedi’i darparu; a

b) bod y sawl sydd wedi’i roi wedi hysbysu’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am y ffaith honno.

(4) At ddibenion paragraff (2) (b), bydd S yn cydymffurfio â’r gofyniad i roi’r sicrwydd—

(a) mewn unrhyw achos lle bydd y llys yn cyfarwyddo ei bod yn rhaid rhoi cymeradwyaeth o unrhyw fath arall, dim ond os—

(i) yw’r cadarnhad hwnnw wedi’i ddarparu; a

(ii) bod y sawl sydd wedi’i roi wedi hysbysu’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am y ffaith honno.

(b) mewn unrhyw achos lle bydd y llys yn cyfarwyddo ei bod yn rhaid cyflawni unrhyw ofynion eraill yng nghyswllt rhoi’r sicrwydd, dim ond os bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn fodlon bod y gofynion eraill hynny wedi’u cyflawni.

Sicrwydd a roddir o dan reoliad 33(2)(a): gofyniad i roi cymeradwyaeth

  1. (1) Mae’r rheoliad hwn yn berthnasol i ddibenion rheoliad 33(2)(a).

(2) Bydd bond yn cael ei drefnu’n unol â’r rheoliad hwn dim ond os caiff ei gadarnhau gan—

(a) cwmni yswiriant awdurdodedig; neu

(b) cymerwr blaendaliadau awdurdodedig.

(3) Caiff rhywun drefnu’r bond o dan—

(a) trefniadau sydd wedi’u gwneud gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus; neu

(b) trefniadau eraill a wneir gan y sawl sy’n trefnu’r bond neu ar ei ran.

(4) Caiff y Gwarcheidwad Cyhoeddus wneud trefniadau gydag unrhyw un a bennir ym mharagraff

(2) gyda golwg ar hwyluso’r ffordd iddynt ddarparu bondiau a drefnir gan y sawl y mae gofyn iddynt roi sicrwydd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

(5) Yn y rheoliad hwn-

ystyr “cwmni yswiriant awdurdodedig” yw—

(a) rhywun sydd â chaniatâd o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000[6] i roi ar waith neu gyflawni contractau yswiriant;

(b) cwmni EEA o’r fath a grybwyllir ym mharagraff 5(d) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno, sydd â chaniatâd o dan baragraff 15 o’r Atodlen honno i roi ar waith neu i gyflawni contractau yswiriant;

(c) rhywun sy’n cyflawni gweithgarwch yn y farchnad yswiriant (yn yr ystyr a roddir yn adran 316(3) o’r Ddeddf honno); ac

ystyr “cymerwr blaendal awdurdodedig” yw—

(a) rhywun sydd â chaniatâd o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000[6] i dderbyn blaendaliadau;

(b) cwmni EEA o’r fath a grybwyllir ym mharagraff 5(d) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno, sydd â chaniatâd o dan baragraff 15 o’r Atodlen honno i dderbyn blaendaliadau.

(6) Rhaid darllen y diffiniadau o “gwmni yswiriant awdurdodedig” a “chymerwr blaendaliadau awdurdodedig” yn unol ag—

(a) adran 22 o Ddeddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000;

(b) unrhyw orchymyn perthnasol [7] o dan yr adran honno; ac

(c) Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

Sicrwydd a roddir o dan reoliad 33(2) (a): cynnal neu ddisodli

  1. (1) Mae’r rheoliad hwn yn berthnasol i unrhyw sicrwydd a roddir o dan reoliad 33(2) (a).

(2) Ar ba adegau neu ar ba gyfnodau bynnag yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig y Gwarcheidwad Cyhoeddus, rhaid i unrhyw un (“S”) sydd wedi rhoi’r Sicrwydd fodloni’r Gwarcheidwad Cyhoeddus bod unrhyw bremiymau sy’n daladwy ar ei gyfer wedi’u talu.

(3) Os bydd S yn cynnig disodli sicrwydd a roddwyd ganddo eisoes, ni cheir tybio bod y sicrwydd newydd wedi’i roi nes bod y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn fodlon bod—

(a) y gofynion yn is-baragraffau (a) a (b) o reoliad 33(3) wedi’u cyflawni mewn perthynas â hynny; a

(b) nad oes yr un taliad yn ddyledus gan S yng nghyswllt cyflawni ei swyddogaethau.

Gorfodi ar ôl gorchymyn llys ynghylch unrhyw sicrwydd a gymeradwywyd

  1. (1) Mae’r rheoliad hwn yn berthnasol i unrhyw sicrwydd a gymeradwywyd a roddir i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

(2) Os bydd y llys yn gorchymyn gorfodi sicrwydd, rhaid i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus—

(a) hysbysu unrhyw un sydd wedi cymeradwyo sicrwydd ynghylch cynnwys y gorchymyn; a

(b) hysbysu’r llys pan fydd taliad wedi’i wneud am y swm a sicrhawyd.

Diddymu unrhyw sicrwydd a gymeradwywyd

  1. —(1) Mae’r rheoliad hwn yn berthnasol i unrhyw sicrwydd a roddwyd gan rywun (“S”) i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac a gymeradwywyd.

(2) Gellir diddymu’r sicrwydd os bydd y llys yn gwneud gorchymyn i’w ddiddymu.

(3) Heblaw am hynny, ni cheir diddymu’r sicrwydd—

(a) os bydd y sawl y penodwyd S i weithredu ar ei ran yn marw, tan ddiwedd y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau ar ddyddiad ei farwolaeth; neu

(b) mewn unrhyw achos arall, tan ddiwedd y cyfnod o 7 mlynedd sy’n dechrau ar ba un bynnag o’r dyddiadau a ganlyn sy’n digwydd gyntaf-

(i) os bydd S yn marw, dyddiad ei farwolaeth;

(ii) os bydd y llys yn gwneud gorchymyn sy’n rhyddhau S ond nad yw hefyd yn diddymu’r sicrwydd o dan baragraff (2), dyddiad y gorchymyn;

(iii) y dyddiad pan na fydd S mewn rhyw fodd arall o dan ddyletswydd i gyflawni’r swyddogaethau y gorchmynnwyd iddo roi sicrwydd ar eu cyfer.

4) At ddibenion paragraff (3), os bydd rhywun yn cymryd cam i ddiddymu’r sicrwydd cyn diwedd y cyfnod a bennir yn y paragraff hwnnw, rhaid trin y sicrwydd at bob diben fel petai’n dal mewn grym.