Paratoi fformiwla fabanod yn ddiogel wrth deithio a phan fo tarfu ar y cyflenwad dŵr
Cyhoeddwyd 2 Tachwedd 2026
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Pwysig: Nid yw fformiwla fabanod bowdr yn ddi-haint (‘sterile’). Felly, dylid ei pharatoi gan ddefnyddio dŵr wedi’i ferwi’n ffres, sydd wedi’i oeri yn y tegell am ddim mwy na 30 munud fel bod ei dymheredd yn 70°C o leiaf.
Gallwch chi ddod o hyd i gyngor a chyfarwyddiadau gan y GIG ar sut i baratoi fformiwla fabanod yn ddiogel.
Esbonnir hefyd bwysigrwydd defnyddio dŵr poeth ar dymheredd o 70°C o leiaf i leihau’r risg o haint.
Mae’r canllawiau ar y dudalen hon ar gyfer sefyllfaoedd pan nad yw’r prif gyflenwad dŵr ar gael, pan fo tarfu ar y prif gyflenwad, neu pan nad yw’n ddiogel oherwydd halogiad.
Hefyd, mae cyngor ar sut i baratoi fformiwla’n ddiogel os oes angen teithio.
Canllawiau’r GIG
Defnyddio fformiwla fabanod pan fo argyfwng
Os bydd diffyg dŵr diogel a’ch bod chi’n bwydo â fformiwla, defnyddiwch fformiwla sy’n barod i’w defnyddio lle bo’n bosib. Dyma’r opsiwn mwyaf diogel.
Gallwch ddefnyddio fformiwla barod i’w defnyddio yn ôl yr angen, ar yr amod bod poteli, tethi ac offer bwydo wedi’u glanhau a’u sterileiddio.
Ar ôl agor fformiwla fabanod sy’n barod i’w defnyddio, dilynwch gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr.
Defnyddio dŵr potel ar gyfer fformiwla
Nid yw dŵr potel yn ddi-haint, a dylid ei ferwi cyn ei ddefnyddio i baratoi fformiwla fabanod.
Dewiswch ddŵr potel llonydd a gwiriwch y label. Chwiliwch am y dŵr potel sydd â’r lefel isaf o sodiwm (halen). Os mai dŵr mwynol naturiol yw’r unig opsiwn, dewiswch ddŵr sydd â:
-
sodiwm o dan 200 mg/l
-
sylffad o dan 250 mg/l
-
gweddillion sych ar 180°C o dan 500 mg/l
Dylai lefelau’r mwynau yn y dŵr potel fod mor isel â phosib. Peidiwch â defnyddio dŵr potel os yw’r label yn nodi nad yw’n addas i’w yfed yn rheolaidd gan fabanod a phlant o dan 7 oed.
Y dewis gorau yw dŵr â lefel isel o sodiwm, oherwydd nad yw arennau babanod wedi’u datblygu’n llawn ac na allan nhw brosesu llawer iawn o halen.
Paratoi fformiwla’n ddiogel
-
P’un a ydych chi’n defnyddio fformiwla fabanod sy’n barod i’w defnyddio neu bowdr, golchwch eich dwylo’n drylwyr â sebon a dŵr glân lle bo hynny’n bosib cyn paratoi’r fformiwla. Os nad oes cyfleusterau golchi dwylo ar gael, gallech chi ddefnyddio hylif diheintio dwylo sy’n seiliedig ar alcohol.
-
Gwnewch yn siŵr bod eich poteli, tethi ac offer bwydo wedi’u glanhau a’u sterileiddio, a’ch bod yn paratoi’r fformiwla ar arwyneb glân. Os yw’r dŵr tap yn anniogel, ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer golchi na rinsio offer bwydo. Ystyriwch ddefnyddio dŵr potel yn lle hynny. Dilynwch gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr o ran opsiynau sterileiddio, gan sicrhau bod yr holl offer bwydo’n edrych yn lân cyn eu sterileiddio.
-
Berwch y dŵr cyn ei ddefnyddio, a dilynwch ganllawiau’r GIG ar gyfer paratoi fformiwla fabanod. Nid yw dŵr potel yn ddi-haint a dylid ei drin yn yr un modd â dŵr tap diogel.
-
Defnyddiwch eich fformiwla wedi’i pharatoi ar unwaith.
Paratoi fformiwla pan nad oes trydan
Os oes tarfu ar y cyflenwad dŵr a’r cyflenwad trydan hefyd, defnyddiwch fformiwla fabanod hylif sy’n barod i’w defnyddio lle bo hynny’n bosib, gan nad oes angen ei pharatoi â dŵr wedi’i ferwi.
Os oes rhaid defnyddio fformiwla fabanod bowdr, yr opsiwn mwyaf diogel yw defnyddio dŵr sydd wedi’i ferwi gan ddefnyddio dull diogel arall, fel stof nwy neu offer addas arall gan ddilyn cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr.
Os byddwch chi’n defnyddio dŵr sydd heb ei ferwi (ac nad yw ar dymheredd o 70°C o leiaf), mae siawns y bydd unrhyw facteria niweidiol – a allai fod wedi halogi’r powdr fformiwla wrth ei weithgynhyrchu – yn goroesi. Byddai hyn yn golygu risg uwch o haint a all arwain at salwch difrifol.
Er nad yw fformiwla fabanod bowdr yn cael ei halogi’n aml, bu achosion proffil uchel o alw cynhyrchion yn ôl oherwydd halogiad â chronobacter a salmonela.
Paratoi fformiwla oddi cartref
Os oes angen i chi fwydo’ch babi oddi cartref, gallai carton o fformiwla hylif barod i’w defnyddio fod yn opsiwn cyfleus.
Os nad yw hyn yn bosib, yna ewch â’r canlynol gyda chi:
-
swm mesuredig o fformiwla bowdr mewn cynhwysydd bach, glân a sych
-
fflasg wactod o ddŵr poeth sydd newydd gael ei ferwi
-
potel fwydo wag wedi’i sterileiddio, sydd â chaead a chylch cadw wedi’u gosod
Does dim angen sterileiddio’r fflasg wactod, ond dylai fod yn lân, a dim ond ar gyfer eich babi y dylech ei defnyddio.
Dylai’r dŵr berw ladd unrhyw facteria sy’n bresennol yn y fflasg. Os yw’r fflasg yn llawn ac wedi’i selio, bydd y dŵr yn aros uwchben 70°C am sawl awr.
Paratowch y fformiwla’n ffres pan fydd ei hangen ar eich babi. Mae’n rhaid i’r dŵr fod yn boeth pan fyddwch chi’n ei ddefnyddio, er mwyn dinistrio unrhyw facteria yn y fformiwla bowdr.
Cofiwch oeri’r botel (gyda’r caead ymlaen) o dan ddŵr oer diogel cyn i chi fwydo’ch babi.
Os nad oes dŵr tap ar gael neu os nad yw’n ddiogel, dylid defnyddio dull oeri diogel arall.
Os na allwch ddilyn y cyngor ar gyfer paratoi fformiwla oddi cartref
Os nad oes gennych unrhyw opsiwn arall ond cludo potel o fformiwla fabanod wedi’i pharatoi, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn yn ofalus i leihau’r risg o haint. Fodd bynnag, nid ydym yn argymell hyn fel dull rheolaidd.
-
Paratowch y fformiwla gartref a’i hoeri mewn powlen o ddŵr oer diogel, neu o dan ddŵr tap os yw’n dal i fod ar gael ac yn ddiogel.
-
Cadwch y caead ar y botel fwydo i atal y dŵr sy’n oeri rhag dod i gysylltiad â’r teth. Os oes trydan ar gael o hyd, rhowch y fformiwla wedi’i pharatoi ac wedi’i hoeri yn yr oergell er mwyn oeri ymhellach.
-
Gwnewch yn siŵr bod y fformiwla’n oer. Tynnwch hi o’r oergell ychydig cyn i chi adael a’i chario mewn bag oeri gyda phecyn iâ, a’i defnyddio o fewn 4 awr. Os nad oes gennych chi becyn iâ neu fynediad at oergell, rhaid defnyddio’r fformiwla fabanod wedi’i pharatoi o fewn 2 awr.
Os yw’r fformiwla y gwnaethoch chi ei pharatoi gartref yn cael ei storio:
-
mewn oergell – defnyddiwch hi o fewn 24 awr
-
mewn bag oeri gyda phecyn iâ – defnyddiwch hi o fewn 4 awr
-
ar dymheredd ystafell – defnyddiwch hi o fewn 2 awr
Er mwyn lleihau’r risg o salwch, mae’n well paratoi fformiwla ar gyfer un sesiwn fwydo ar y tro, yn ôl yr angen.
Paratoi fformiwla’n ddiogel wrth deithio dramor
Defnyddiwch ddŵr yfed diogel yn unig. Os nad ydych chi’n siŵr am y dŵr tap, defnyddiwch ddŵr llonydd o botel wedi’i selio, a’i ferwi cyn ei ddefnyddio i baratoi’r fformiwla. Dilynwch y canllawiau yn yr adran ‘Defnyddio dŵr potel ar gyfer fformiwla’ ar y dudalen hon.
Ystyriwch fynd â fformiwla barod i’w defnyddio yn ystod teithiau lle gall cyfleusterau fod yn gyfyngedig.
Os ydych chi’n defnyddio tabledi fformiwla fabanod neu ddognau o fformiwla fabanod bowdr wedi’u mesur ymlaen llaw, cariwch nhw ar wahân mewn cynhwysydd glân a sych, ac aros nes eich bod chi’n barod i baratoi’r fformiwla cyn eu hychwanegu at y botel fwydo.
Dilynwch gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr a chanllawiau’r GIG ar sut i baratoi fformiwla fabanod yn ddiogel.