Paratoi fformiwla fabanod yn ddiogel wrth deithio a phan fo tarfu ar y cyflenwad dŵr
Canllawiau ar sut i baratoi fformiwla fabanod yn ddiogel pan nad yw’r prif gyflenwad dŵr ar gael neu pan nad yw’n ddiogel, gan gynnwys sut i ddewis dŵr potel addas a chynnal arferion hylendid da.
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Dogfennau
Manylion
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer paratoi fformiwla fabanod pan nad yw’r prif gyflenwad dŵr ar gael, pan fo tarfu ar y prif gyflenwad, neu pan nad yw’n ddiogel oherwydd halogiad.
Hefyd, mae cyngor ar sut i baratoi fformiwla’n ddiogel os oes angen teithio.
Dilynwch y canllawiau hyn ochr yn ochr â chyngor a chyfarwyddiadau gan y GIG ar sut i baratoi fformiwla fabanod yn ddiogel.
Mae’r canllawiau hyn yn ehangu ar y cyngor a gynigiwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn flaenorol ar sut i baratoi ar gyfer y sefyllfaoedd hyn.