Paratoi ar gyfer Toll Cynhyrchion Fepio a’r Cynllun Stampiau’r Doll Fepio
Diweddarwyd 12 Medi 2025
Pwy sydd angen darllen y briff hwn
Mae’n rhaid i chi ddarllen y briff hwn os yw’r canlynol yn wir:
- rydych chi’n wneuthurwr cynhyrchion fepio (gan gynnwys cynhyrchion a wneir gartref) wedi’i leoli yn y DU
- rydych chi’n wneuthurwr tramor o gynhyrchion fepio rydych chi’n bwriadu eu hanfon i’r DU
- rydych chi’n geidwad warws tollau neu ecséis sydd eisoes wedi’i gymeradwyo gan CThEF (os ydych chi am wneud cais neu os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am gymeradwyaeth gan CThEF)
- rydych chi’n berchennog cynhyrchion fepio a gedwir mewn warws nad yw’n warws tollau nac ecséis cymeradwy
- rydych chi’n mewnforio cynhyrchion fepio i’r DU
- rydych chi’n caffael cynhyrchion fepio o aelod-wladwriaethau’r UE, os ydych chi’n fusnes yng Ngogledd Iwerddon
- rydych chi’n gwerthu cynhyrchion fepio trwy gyfanwerthu (gwerthu’n uniongyrchol i fusnes) neu fanwerthu (gwerthu’n uniongyrchol i’r cwsmer) yn y DU
Ar gyfer Gogledd Iwerddon yn unig, dylech ddarllen hwn os ydych chi’n un o’r canlynol:
- derbynnydd cofrestredig
- derbynnydd cofrestredig dros dro
- cynrychiolydd treth
Diben y diweddariad polisi hwn
Cadarnhaodd y llywodraeth gyflwyno Toll Cynhyrchion Fepio (VPD) yn hydref 2024, a Stampiau’r Doll Fepio (VDS) yng ngwanwyn 2025.
Mae Toll Cynhyrchion Fepio yn doll ecséis newydd ar gynhyrchion fepio. Mae’r doll yn berthnasol i’r hylif fepio (a elwir weithiau’n e-liquid).
Bydd pob sylwedd a fwriadwyd ar gyfer fepio yn dod o dan Doll Cynhyrchion Fepio. Mae hyn yn cynnwys y rhai a wneir gartref o gynhwysion fel:
- propylen glycol (PG)
- glyserin llysiau (VG)
- blasau
Bydd cynhyrchion yn agored i Doll Cynhyrchion Fepio p’un a yw’r hylifau’n cynnwys nicotin ai peidio.
Darllenwch yr ymgynghoriad ar Doll Cynhyrchion Fepio (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod mwy am y cefndir, yr ymgynghoriad, a’r ymatebion a ddaeth i law.
O 1 Ebrill 2026 ymlaen
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, os ydych chi’n gwneud neu’n bwriadu gwneud cynhyrchion fepio yn y DU, mae’n rhaid i chi wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer Toll Cynhyrchion Fepio a’r Cynllun Stampiau’r Doll Fepio.
Gall gymryd hyd at 45 diwrnod gwaith i CThEF gwblhau eu gwiriadau. Dylech wneud cais cyn gynted â phosibl i wneud yn siŵr bod gennych y gymeradwyaeth angenrheidiol cyn 1 Hydref 2026.
Os na chewch eich cymeradwyo erbyn 1 Hydref 2026, ni allwch gynhyrchu cynhyrchion fepio yn gyfreithlon yn y DU, ac os gwnewch hynny, byddwch yn destun sancsiynau sifil a throseddol, a allai arwain at ddedfrydau carchar.
Mae’n rhaid i chi wneud cais am gymeradwyaeth fel un endid cyfreithiol. Dyma pan fydd pob rhan o’r busnes yn cael ei rheoli gan yr un person neu grŵp o bobl ar y cyd, ac fe’u trinir fel un busnes at ddibenion cyfreithiol a threth.
Os byddwch yn cyflwyno cais ar y cyd, byddwn yn ei wrthod.
Os byddwn yn cymeradwyo’ch cais, byddwch yn gallu prynu stampiau toll fepio gan gyflenwr arbenigol a ddewiswyd gennym. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pwy yw’r cyflenwr cyn 1 Ebrill 2026.
O 1 Hydref 2026 ymlaen
O 1 Hydref 2026 ymlaen, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- talu Toll Cynhyrchion Fepio ar gynhyrchion fepio
- atodi stamp toll fepio ar eich holl ddeunydd pacio manwerthu — yn yr achos hwn, pob cynnyrch fepio unigol
- parhau i dalu TAW ar gynhyrchion fepio
O 1 Ebrill 2027 ymlaen
O 1 Ebrill 2027 ymlaen, mae’n rhaid i bob cynnyrch fepio sydd heb fod dan ohiriad tollau yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) gael stamp toll fepio ynghlwm. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr adran ‘Gohiriad tollau’.
Talu Toll Cynhyrchion Fepio
Bydd y rheolau ar gyfer talu Toll Cynhyrchion Fepio’n gweithredu’n debyg i dollau ecséis eraill fel Toll Alcohol a Tholl Cynhyrchion Tybaco.
Os ydych chi’n gwneud neu’n dod â chynhyrchion fepio i’r DU, bydd yn rhaid i chi dalu Toll Cynhyrchion Fepio cyn gynted ag y bydd y cynhyrchion yn dod yn agored i’r doll.
Os yw’r cynhyrchion fepio’n cael eu dal dan ohiriad tollau, bydd angen talu’r Doll Cynhyrchion Fepio ar yr adeg y mae’r nwyddau’n gadael y trefniadau gohiriad tollau.
Bydd Toll Cynhyrchion Fepio’n cael ei gosod ar gyfradd unffurf sengl o £2.20 ar gyfer potel 10ml ar bob hylif fepio, er enghraifft:
- bydd pod 2ml yn agored i 44 ceiniog o doll — y cyfrifiad yw 2 × 22 ceiniog = 44 ceiniog
- bydd potel ail-lenwi 10ml yn agored i £2.20 o doll — y cyfrifiad yw 10 × 22 ceiniog = £2.20
Gohiriad tollau
Mae gohiriad tollau’n drefniant gyda CThEF sy’n golygu nad oes rhaid i chi dalu Toll Cynhyrchion Fepio yn syth os yw’r cynhyrchion fepio’n cael eu storio mewn rhai mannau cymeradwy, er enghraifft warws ecséis neu siop gofrestredig.
Mae’n rhaid talu’r Doll Cynhyrchion Fepio pan gaiff y cynhyrchion eu cymryd allan o’r lleoedd hyn i’w gwerthu neu eu cyflenwi yn y DU.
I ddefnyddio gohiriad tollau, mae’n rhaid i chi gael cymeradwyaeth gan CThEF.
Yn y rhan fwyaf o achosion, os ydych chi’n wneuthurwr yn y DU, byddwch chi’n gallu cofrestru lle gyda ni lle byddwch chi’n storio’ch cynhyrchion fepio (a elwir yn siop gofrestredig) a fydd yn caniatáu i chi ddefnyddio gohiriad tollau.
Ar gyfer pob trethdalwr arall, mae’n rhaid i chi naill ai:
- dod yn geidwad y warws ecséis neu dollau cymeradwy (yn agor tudalen Saesneg)
- cael cytundeb gan fusnes arall i storio’ch nwyddau yn eu lle cymeradwy
Unwaith y bydd y cynhyrchion fepio wedi’u rhoi mewn deunydd pacio ar gyfer eu gwerthu’n manwerthu, dim ond unwaith y gellir eu symud mewn gohiriad tollau, gall hyn fod naill ai:
- o un man cymeradwy i un arall (ond unwaith yn unig)
- o’r man mewnforio (er enghraifft maes awyr neu borthladd) i un man gohiriad tollau
Os ydynt yn cael eu symud eto, bydd yn rhaid i chi dalu Toll Cynhyrchion Fepio cyn i’r nwyddau adael.
Dod â chynhyrchion fepio i’r DU at ddefnydd personol
Byddwch yn gallu dod â swm bach o gynhyrchion fepio i’r DU at ddefnydd personol (nid i’w gwerthu) heb dalu Toll Cynhyrchion Fepio, na gwneud cais am stampiau toll fepio. Weithiau gelwir hyn yn ‘lwfans di-doll’.
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi faint o lwfans di-doll sydd ar gael ar gyfer cynhyrchion fepio cyn 1 Hydref 2026.
Esemptiadau
Ni fydd unrhyw esemptiadau ar gyfer Toll Cynhyrchion Fepio ac eithrio mewn amgylchiadau sy’n ofynnol gan y gyfraith, megis cyflenwadau i gehadaethau diplomyddol.
Stampiau’r Doll Fepio
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, os ydych yn un o’r canlynol:
-
gwneuthurwr yn y DU, mae’n rhaid i chi wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer Toll Cynhyrchion Fepio a dewis yr opsiwn i wneud cais am y Cynllun Stampiau’r Doll Fepio
-
ceidwad y warws gallwch wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer y Cynllun Stampiau’r Doll Fepio gan ddefnyddio’r ffurflen berthnasol
-
gwneuthurwr tramor, mae’n rhaid i chi benodi cynrychiolydd o’r DU i wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer y Cynllun Stampiau’r Doll Fepio
Gall gymryd hyd at 45 diwrnod gwaith i CThEF gwblhau eu gwiriadau. Dylech wneud cais cyn gynted â phosibl i wneud yn siŵr bod gennych y gymeradwyaeth angenrheidiol cyn 1 Hydref 2026. Os na chewch gymeradwyaeth ac os byddwch yn parhau i gynhyrchu cynhyrchion fepio, mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu dirwy.
Os byddwn yn cymeradwyo’ch cais, byddwch yn gallu prynu stampiau toll fepio gan gyflenwr arbenigol a ddewiswyd gennym. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pwy yw’r cyflenwr cyn 1 Ebrill 2026.
O 1 Hydref 2026 ymlaen, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- talu Toll Cynhyrchion Fepio ar bob cynnyrch fepio sy’n cael ei ryddhau i’w werthu neu ei gyflenwi yn y DU
- atodi stamp toll fepio pan roddir y cynhyrchion mewn deunydd pacio i’w gwerthu’n manwerthu
Bydd stampiau toll fepio’n labeli bach, diogel iawn sy’n dangos bod eich cynnyrch fepio’n gyfreithlon. Bydd union faint (dimensiynau) y stamp toll fepio’n cael ei gadarnhau, ond bydd rhwng 15 a 18 milimetr o led a 42 i 44 milimetr o hyd.
Pan fydd y stamp toll fepio ynghlwm wrth y cynnyrch, mae’n rhaid iddo selio’r deunydd pacio fel na ellir agor y cynnyrch heb niweidio’r deunydd pacio na’r stamp toll fepio. Ni ellir ailddefnyddio’r stamp toll fepio.
Mae’n rhaid atodi stampiau toll fepio i ran allanol y deunydd pacio manwerthu terfynol, gallai hyn fod naill ai i’r:
- bocs
- potel (os caiff ei gwerthu neu ei chyflenwi heb focs allanol)
O 1 Ebrill 2027 ymlaen, mae’n rhaid i bob cynnyrch fepio sydd heb fod dan ohiriad tollau yn y DU gael stamp toll fepio ynghlwm.
Mae’n rhaid i chi wneud cais am gymeradwyaeth gan CThEF i atodi stampiau toll fepio i ddeunydd pacio manwerthu cynhyrchion fepio yn eich safle os ydych chi’n un o’r canlynol:
- Gwneuthurwr yn y DU
- ceidwad warws ecséis neu dollau
Os ydych chi’n wneuthurwr tramor sydd eisiau atodi stampiau toll fepio fel rhan o’ch proses weithgynhyrchu, bydd yn rhaid i chi benodi cynrychiolydd o’r DU i wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer y Cynllun Stampiau’r Doll Fepio. Bydd cynrychiolydd y DU yn prynu stampiau toll fepio ar eich rhan.
Os byddwn yn cymeradwyo’r cais, bydd cynrychiolydd y DU yn gallu prynu stampiau toll fepio gan gyflenwr arbenigol a ddewisir gan CThEF. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pwy yw’r cyflenwr cyn 1 Ebrill 2026.
Gallwch ddysgu rhagor yn yr adran ‘Gweithgynhyrchu cynhyrchion fepio dramor i’w hanfon a’u gwerthu yn y DU’.
Bydd gan stampiau toll fepio nodwedd ddigidol hefyd, fel cod QR, y mae’n rhaid ei sganio ar bwyntiau penodol yn y gadwyn gyflenwi er mwyn uwchlwytho gwybodaeth.
Mae’n rhaid i’r busnesau sy’n gyfrifol am y cynhyrchion fepio yn y mannau hyn sganio’r stamp i adael i CThEF wirio ble mae’r cynhyrchion fepio wedi bod, a phwy sy’n gyfrifol amdanynt.
Am gyfnod cyfyngedig o amser, bydd ‘stamp doll fepio dros dro’ sy’n ymgorffori’r nodweddion diogelwch ffisegol (gan gynnwys yr un dimensiynau), ond nid y nodwedd ddigidol (y gellir ei sganio ar bwyntiau penodol) yn cael ei gyflenwi.
Byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant fepio a chyflenwyr cynhyrchion fepio i gefnogi’r cyfnod trosglwyddo hwn. Byddwn yn dweud mwy wrthych am hyn yn 2026.
Gweithgynhyrchu cynhyrchion fepio yn y DU heb gymeradwyaeth gan CThEF
O 1 Hydref 2026 ymlaen, bydd yn erbyn y gyfraith cynhyrchu cynhyrchion fepio mewn mannau nad ydynt wedi cael eu gwirio a’u cymeradwyo gan CThEF. Mae hyn yn cynnwys cymysgu hylifau heb doll a dalwyd i gynhyrchu hylif i’w ddefnyddio mewn fêp.
Ni fydd yn cynnwys cymysgu nifer o hylifau â tholl wedi’i thalu, er enghraifft ‘llenwad byr’ â tholl wedi’i dalu (hylif di-nicotin) a ‘shot nicotin’ â tholl wedi’i thalu.
Os ydych chi’n gwneud cynhyrchion fepio neu os ydych chi am ddechrau eu gwneud, mae’n rhaid i chi wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer Toll Cynhyrchion Fepio.
Mae angen caniatâd arnoch hefyd ar gyfer unrhyw le rydych chi’n storio’ch cynhyrchion fepio cyn talu’r Doll Cynhyrchion Fepio.
Byddwn yn gwirio bod y lleoedd hyn yn ddigon diogel a sicr i storio nwyddau ecséis a’ch bod wedi bodloni’r amodau i gael y gymeradwyaeth.
Os ydych am ryddhau cynhyrchion fepio i farchnad y DU, mae’n rhaid i chi atodi stamp toll fepio.
Mae’n rhaid i chi gael eich cymeradwyo gan CThEF (trwy’r Cynllun Stampiau’r Doll Fepio) i atodi stamp toll fepio. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod pob cynnyrch fepio’n gyfreithlon. Gallwch ddarllen rhagor am y cynllun yn yr adran ‘Stampiau’r toll fepio’.
Nid oes angen i chi wneud cais ar wahân am stampiau toll fepio os ydych chi’n wneuthurwr yn y DU. Byddwch yn gallu dewis y Cynllun Stampiau’r Doll Fepio fel rhan o’ch proses gymeradwyo Toll Cynhyrchion Fepio.
Gallwch wneud cais am Doll Cynhyrchion Fepio a’r Cynllun Stampiau’r Doll Fepio o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Gall eich cymeradwyaeth gwmpasu mwy nag un safle, er enghraifft ffatri a siop sydd wedi’i hatal rhag talu toll ar gyfer eich cynhyrchion fepio. Gall y rhain fod yn yr un adeilad ffisegol, ond rhaid iddynt fod ar wahân yn glir ac yn ffisegol.
Dim ond un gwneuthurwr fydd yn cael gweithredu mewn adeilad.
Gwneud cais am gymeradwyaeth
Bydd CThEF yn dweud wrthych sut i wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer Toll Cynhyrchion Fepio a’r Cynllun Stampiau’r Doll Fepio cyn 1 Ebrill 2026.
Pan fyddwch chi’n gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer Toll Cynhyrchion Fepio a’r Cynllun Stampiau’r Doll Fepio, bydd angen i chi roi gwybodaeth i ni gan gynnwys y canlynol:
- enw a chyfeiriad y busnes
- rhif TAW neu Dreth Gorfforaeth (os oes gennych un)
- enw person cyfrifol
- cynllun y safle
- y cynllun busnes
- gwarant ariannol gan sefydliad ariannol (os gofynnwn i chi wneud hynny)
Cynllun y safle
Mae’n rhaid i chi anfon cynllun o’ch safle at CThEF. Mae’n rhaid i hyn ddangos bod y safle’n ddiogel a sut y byddwch chi’n rheoli’r cynhyrchion fepio, y bobl a’r cerbydau sy’n dod i mewn neu’n gadael y safle.
Mae’n rhaid i chi ddangos i ni’r union leoliadau lle rydych chi’n bwriadu gwneud neu storio cynhyrchion fepio.
Cynllun busnes
Mae’n rhaid i chi roi cynllun busnes i CThEF ar gyfer eich busnes. Dylai gynnwys y canlynol:
- sut mae’ch busnes wedi’i sefydlu, pwy sy’n rheoli’r busnes a’ch strwythur corfforaethol
- pa gynhyrchion fepio, a faint rydych chi’n bwriadu ei gynhyrchu
- os ydych chi’n bwriadu allforio neu fewnforio cynhyrchion fepio
- yr wybodaeth dreth berthnasol, fel cyfeirnodau CThEF presennol
- eich cyfrifon ar gyfer y flwyddyn dreth ariannol flaenorol — 6 Ebrill i 5 Ebrill
- sut rydych chi’n bwriadu cydymffurfio â’r gofynion cadw cofnodion, a sut y gallwn ni archwilio’ch cofnodion
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i wneud y canlynol:
- gwirio bod eich busnes yn gredadwy ac y bydd yn talu’r swm cywir o dreth
- gwirio’ch cais am Gynllun Stamp y Doll Fepio
- cyfrifo faint o stampiau toll fepio y cewch eu prynu
Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y byddwn eisiau gwarant ariannol fel amod o’ch cymeradwyaeth. Er enghraifft, os yw’ch busnes yn newydd sbon neu os ydych wedi cael unrhyw broblemau treth yn y gorffennol. Mae hyn er mwyn sicrhau y gallwch barhau i dalu’r swm cywir o dreth os bydd pethau’n mynd yn anghywir.
Os nad ydych am gael eich cymeradwyo mwyach, mae’n rhaid i chi dynnu’ch cais yn ôl cyn gynted â phosibl.
Os ydych wedi’ch cymeradwyo
Bydd CThEF yn anfon llythyr atoch yn cadarnhau manylion eich cymeradwyaeth, gan gynnwys unrhyw reolau ychwanegol y mae’n rhaid i chi eu dilyn.
Gallwn wirio cydymffurfiaeth ar unrhyw adeg. Os byddwn yn canfod nad ydych wedi dilyn y rheolau, mae’n bosibl y byddwn yn dirymu (canslo) eich cymeradwyaeth. Byddwn yn dweud wrthych y rhesymau pam mae’ch cymeradwyaeth wedi’i chanslo.
Os caiff eich cymeradwyaeth ei dirymu (ei chanslo), mae’n rhaid i chi roi’r gorau i gynhyrchu cynhyrchion fepio.
Gallwch wneud y canlynol:
- gofyn i ni adolygu ein penderfyniad
- apelio ar dribiwnlys annibynnol
Mae’n bosibl y byddwn yn rhoi cymeradwyaeth dros dro i chi yn ystod y broses adolygu neu apelio os byddwn yn canslo’ch cais.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych am roi’r gorau i gynhyrchu cynhyrchion fepio
- rydych am ganslo’ch cymeradwyaeth
Cyn i ni ganslo’ch cymeradwyaeth, byddwn yn gwirio nad oes angen i chi fod wedi cofrestru ar gyfer y Cynllun Stampiau’r Doll Fepio.
Pan gaiff eich cymeradwyaeth ei chanslo, ni allwch gynhyrchu unrhyw gynhyrchion fepio pellach.
Os nad ydych wedi’ch cymeradwyo
Gall CThEF wrthod eich cais am gymeradwyaeth. Os byddwn yn gwrthod eich cais, byddwn yn dweud wrthych pam. Gallwch wneud y canlynol:
- gofyn i ni adolygu ein penderfyniad
- apelio ar dribiwnlys annibynnol
Mae’n bosibl y byddwn yn rhoi cymeradwyaeth dros dro i chi yn ystod y broses adolygu neu apelio os byddwn yn gwrthod neu’n dirymu (canslo) eich cymeradwyaeth.
Cyflwyno datganiadau
Mae’n rhaid i chi gyflwyno Datganiad Toll Cynhyrchion Fepio ar-lein erbyn seithfed diwrnod pob mis.
Mae’n rhaid iddo gwmpasu’ch holl weithgarwch ar gyfer y mis calendr blaenorol (a elwir yn gyfnod cyfrifyddu).
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi beth fydd angen i chi ei gynnwys yn eich datganiad.
Os na allwch ddefnyddio’r datganiad ar-lein, gallwch gael cymorth ychwanegol gan CThEF.
Pryd i dalu’r Doll Cynhyrchion Fepio
Mae’n rhaid i chi dalu’r Doll Cynhyrchion Fepio a ddangosir ar eich datganiad ar-lein erbyn y 15fed diwrnod o’r mis yn dilyn y cyfnod cyfrifyddu.
Os yw’r 15fed diwrnod yn disgyn ar benwythnos neu ŵyl banc, mae’n rhaid i chi dalu ar y diwrnod gwaith nesaf.
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi sut i dalu a beth sy’n digwydd os yw’r canlynol yn digwydd:
- rydych chi’n talu gormod
- nid ydych chi’n talu digon oherwydd camgymeriad
Adhawlio arian os yw’r cynhyrchion wedi’u difetha
Os ydych chi’n wneuthurwr yn y DU ac yn talu Toll Cynhyrchion Fepio ar gynhyrchion fepio sy’n cael eu dychwelyd oherwydd nad ydynt mewn cyflwr gwerthadwy mwyach, mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu hawlio’r Doll Cynhyrchion Fepio rydych wedi’i thalu yn ôl, neu ei haddasu yn eich datganiad nesaf.
Mae’n rhaid i chi roi tystiolaeth i CThEF fod y cynhyrchion wedi cael eu dinistrio.
Adhawlio arian os ydych chi’n allforio cynhyrchion â tholl wedi’i thalu
Os ydych wedi talu Toll Cynhyrchion Fepio ar gynhyrchion fepio ac rydych chi’n eu hallforio, mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu eu hadhawlio drwy’r cynllun ad-daliad tollau ecséis.
Bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth o’r allforyn a dinistrio’r stampiau toll fepio sydd ynghlwm wrth y cynhyrchion.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am gynllun ad-daliad tollau ecséis y DU (yn agor tudalen Saesneg).
Cofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw
Mae’n rhaid i chi gadw manylion am weithgareddau busnes ariannol, ac unrhyw gofnodion eraill sy’n gysylltiedig â thrin eich nwyddau ecséis (cynhyrchion fepio).
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi yn union pa gofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw ac am ba hyd.
Gweithgynhyrchu cynhyrchion fepio dramor i’w hanfon a’u gwerthu yn y DU
O 1 Hydref 2026 ymlaen, bydd yn erbyn y gyfraith mewnforio cynhyrchion fepio gwneuthurwyr tramor i’r DU nad oes stampiau toll fepio ynghlwm wrthynt, oni bai eu bod yn mynd i mewn i safle sydd wedi’i gymeradwyo gan CThEF ar gyfer gohiriad tollau.
Os ydych chi’n bwriadu cyflenwi cynhyrchion fepio i’r DU, bydd angen i chi benodi cynrychiolydd o’r DU sydd wedi cael ein cymeradwyaeth ni i ymuno â’r Cynllun Stamp y Doll Fepio.
Os oes gan eich busnes gangen sefydledig yn y DU, gallant wneud cais i fod yn gynrychiolydd i chi, neu gallwch benodi cynrychiolydd o’r DU.
Mae’n rhaid i gynrychiolydd y DU gael cymeradwyaeth cyn y gallant archebu stampiau’r doll fepio ar eich rhan. Byddwch chi’n talu am gost y stampiau’r doll fepio pan fyddant yn cael eu harchebu.
Byddant yn cael eu hanfon atoch i’w rhoi ar ddeunydd pacio’ch cynnyrch fepio.
Bydd Toll Cynhyrchion Fepio’n ddyledus pan fydd y cynhyrchion yn cael eu rhyddhau i’r DU.
Gall cynrychiolydd y DU wneud cais am gymeradwyaeth i ymuno â Chynllun Stamp y Doll Fepio o 1 Ebrill 2026 ymlaen, gall gymryd hyd at 45 diwrnod gwaith i ni gynnal ein gwiriadau.
Bydd y canlynol yn wir am eich cynrychiolydd yn y DU:
- bydd yn gyfrifol yn gyfreithiol ac yn ariannol am y stampiau
- gallai gael dirwyon mawr os byddant yn mynd ar goll
- efallai y bydd yn rhaid iddo ddarparu gwarant ariannol pan fyddant yn gwneud cais am y cynllun
Os penderfynwch beidio â phenodi cynrychiolydd o’r DU, bydd yn rhaid i fewnforiwr y nwyddau sicrhau bod ganddynt ffordd arall o roi’r stampiau’r doll fepio ar eich cynhyrchion yn y DU, cyn iddynt adael rheolaeth tollau neu ohiriad tollau.
Os ydych chi’n geidwad warws tollau neu ecséis sydd eisoes wedi’i gymeradwyo gan CThEF
O 1 Hydref 2026 ymlaen, y tu allan i gyfleusterau a storfeydd gweithgynhyrchu, dim ond warysau tollau neu ecséis sydd wedi’u cymeradwyo gan CThEF ac sy’n cael eu rhedeg gan warysau awdurdodedig fydd yn cael storio cynhyrchion fepio sydd o dan ohiriad tollau.
Os ydych chi eisoes yn geidwad warws awdurdodedig, bydd angen i chi ofyn i ni am ddiwygiad i’ch cymeradwyaeth i storio cynhyrchion fepio drwy gyflwyno’r ffurflen berthnasol i wneud cais am awdurdodiad (bydd y ffurflen ar gael o 1 Ebrill 2026 ymlaen).
Gall gymryd hyd at 45 diwrnod gwaith i ni wneud ein holl wiriadau.
Dylech wneud cais cyn gynted â phosibl i wneud yn siŵr bod gennych y gymeradwyaeth angenrheidiol cyn 1 Hydref 2026.
Os ydych chi’n bwriadu atodi stampiau’r doll fepio i’r cynhyrchion fepio rydych chi’n eu storio, bydd angen i chi ofyn i ni am ddiwygiad i’ch cymeradwyaeth gan ddefnyddio’r ffurflen berthnasol (bydd y ffurflen ar gael o 1 Ebrill 2026).
Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo, byddwch yn gallu archebu stampiau’r doll fepio trwy’r Cynllun Stampiau’r Doll Fepio.
Mae’n rhaid i bob cynnyrch rydych chi’n ei ryddhau o ohiriad tollau gael stamp y doll fepio.
Pan fyddwch chi’n archebu’r stampiau’r doll fepio, dim ond am gost y stampiau’r doll fepio y byddwch chi’n talu, nid y Doll Cynhyrchion Fepio.
Bydd Toll Cynhyrchion Fepio yn cael ei thalu ar ôl cyflwyno datganiad ar-lein. Dysgwch ragor yn yr adrannau canlynol:
- ‘Cyflwyno datganiadau’
- ‘Pryd i dalu’r Doll Cynhyrchion’
Gwneud cais am gymeradwyaeth i fod yn geidwad warws tollau neu ecséis
Os nad ydych chi’n wneuthurwr cynhyrchion fepio yn y DU ac rydych am storio cynhyrchion fepio sydd o dan ohiriad tollau, bydd angen i chi wneud cais i CThEF i gael caniatâd i ddod yn geidwad warws awdurdodedig.
Bydd angen cymeradwyo safle eich warws hefyd.
Dysgwch sut i wneud cais i weithredu warws tollau (yn agor tudalen Saesneg) a’r gwahanol fathau o warysau.
Gwneud taliadau
Mae’n rhaid i chi dalu’r Doll Cynhyrchion Fepio drwy lenwi’r ffurflen berthnasol naill ai:
- yn syth pan fyddwch chi’n tynnu’r cynhyrchion o warws tollau neu ecséis
- ar y 29ain diwrnod o’r mis os oes gennych gyfrif gohirio tollau (yn agor tudalen Saesneg)
Cynhyrchion fepio nad ydynt yn cael eu cadw mewn warws tollau neu ecséis
O 1 Hydref 2026 ymlaen, dim ond safleoedd a gymeradwywyd gan CThEF fydd yn cael storio cynhyrchion fepio a weithgynhyrchwyd neu a fewnforiwyd ar ôl y dyddiad hwn os nad yw’r doll wedi’i thalu wrth y ffin ar ddatganiad tollau.
Os ydych am storio’ch cynhyrchion fepio mewn warws ar ôl y dyddiad hwn heb dalu toll, mae’n rhaid i chi wirio bod gan y warws ganiatâd gennym i storio cynhyrchion fepio.
Mewnforio cynhyrchion fepio
Os ydych chi’n mewnforio cynhyrchion fepio i’r DU, mae’n rhaid i chi dalu’r Doll Cynhyrchion Fepio pan fyddant yn cyrraedd.
Byddwch yn talu Toll Cynhyrchion Fepio trwy’ch Datganiad Tollau.
Mae’n rhaid i bob cynnyrch fepio rydych chi’n ei fewnforio i’r DU gael stamp toll fepio ynghlwm cyn iddynt gyrraedd, oni bai eu bod nhw’n dechrau gohiriad tollau.
Gallwch dalu’r Doll Cynhyrchion Fepio’n ddiweddarach os caiff eich cynhyrchion eu danfon i warws neu safle gwneuthurwr a gymeradwywyd gan CThEF at y diben hwn. Yn y rhan fwyaf o achosion, warws ecséis neu dollau fydd hwn.
Os oes gennych EORI (Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd), eisoes, nid oes angen un newydd arnoch i barhau i fewnforio cynhyrchion fepio.
Gwerthu cynhyrchion fepio trwy gyfanwerthu neu fanwerthu yn y DU
Nid oes angen caniatâd arnoch gan CThEF i werthu cynhyrchion fepio yn y DU.
Oni bai eich bod yn cynhyrchu neu’n storio cynhyrchion fepio sydd o dan ohiriad tollau, nid oes angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth gan CThEF.
Dylai’r doll fod wedi’i thalu gan y busnes a ryddhaodd y cynhyrchion fepio o ohiriad tollau neu a’u mewnforiodd.
O 1 Ebrill 2027 ymlaen, bydd yn drosedd gwerthu cynhyrchion fepio heb stamp toll fepio oni bai eu bod o dan ohiriad tollau. Bydd hyn yn arwain at ddirwy fawr a dedfrydau carchar posibl yn yr achosion mwyaf difrifol. Bydd CThEF hefyd yn gallu atafaelu unrhyw stoc gyfreithlon a geir gyda’r nwyddau heb eu stampio.
Gellir atafaelu unrhyw nwyddau a geir heb stamp toll fepio. Yn unol â’n dull o weithredu ar gyfer y Doll Cynnyrch Tybaco, bydd gennym hefyd bwerau i symud cynhyrchion cyfreithlon o safleoedd y canfyddir eu bod yn meddu ar gynhyrchion heb eu stampio y tu allan i gyfnod gohiriad tollau.
Cydymffurfio a chosbau
Mae CThEF yn defnyddio cosbau i atal pobl rhag torri’r rheolau ac i fod yn deg i’r rhai sy’n gwneud y peth iawn. Nid ydym yn defnyddio cosbau fel dull o godi refeniw.
Byddwn yn defnyddio pwerau cydymffurfio a gorfodaeth tebyg ar gyfer Toll Cynhyrchion Fepio i’r rhai sydd eisoes ar waith ar gyfer trethi a thollau eraill. Er enghraifft, mae’n rhaid i fusnesau roi gwybodaeth a dogfennau i ni a all helpu i gyfrifo’r lefel gywir o doll.
Byddwn hefyd yn gallu herio’r wybodaeth a roddwch yn eich datganiadau a gwirio am rwymedigaeth ychwanegol lle bo angen.
Bydd y llywodraeth yn sicrhau bod y pwerau ymchwilio sifil a throseddol angenrheidiol ar gael i fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio. Bydd unrhyw benderfyniad i erlyn yn cael ei wneud gan awdurdodau erlyn y DU drwy’r gweithdrefnau presennol.
Bydd troseddau eraill yn cynnwys meddu, gwerthu, mewnforio neu gludo cynhyrchion fepio heb stamp toll fepio. Bydd ymyrryd, ffugio neu atodi stampiau ffug, yn ogystal â methu â chydymffurfio â rheolau stampiau’r doll fepio hefyd yn erbyn y gyfraith.
Bydd unrhyw nwyddau a geir heb stamp y doll fepio’n agored i gael eu hatafaelu ac yn unol â dull CThEF ar gyfer Toll Cynnyrch Tybaco, bydd gennym bwerau hefyd i gael gwared ar gynhyrchion fepio cyfreithlon o safleoedd a geir mewn meddiant o gynhyrchion heb stamp y tu allan i ohiriad tollau.
Lle bydd diffyg cydymffurfio dro ar ôl tro neu ar raddfa fawr, byddwn yn gallu atal busnesau rhag prynu stampiau toll fepio.
Bydd y troseddau a’r cosbau hyn yn berthnasol i bob cynnyrch sy’n agored i Doll Cynhyrchion Fepio o 1 Hydref 2026 ymlaen.
Bydd y cosbau a’r troseddau hefyd yn berthnasol i stoc nad yw’n agored i stamp y doll Fepio yn dilyn diwedd y cyfnod gras ar 1 Ebrill 2027.
Camau nesaf a gwybodaeth gyswllt
Mae CThEF yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol o fewn y diwydiant fepio i ddeall sut y bydd y Doll Cynhyrchion Fepio yn effeithio arnynt.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Doll Cynhyrchion Fepio ac yn darparu arweiniad manwl.
Gallwch anfon e-bost at: vapingproductsduty@hmrc.gov.uk i roi gwybod i ni am y canlynol:
- os hoffech chi gael yr wybodaeth hon mewn fformat amgen
- y cwestiynau yr hoffech gael atebion iddynt am Doll Cynhyrchion Fepio a’r Cynllun Stampiau’r Doll Fepio
- os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr trafod toll fepio i gael diweddariadau yn y dyfodol