Corporate report

Police Covenant annual report 2023 - Welsh (accessible)

Updated 24 May 2023

Adroddiad Cyfamod yr Heddlu 2023

Adroddiad Blynyddol

Cyflwynwyd gerbron y Senedd yn unol ag Adran 1(1) Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022

Mai 2023

© Hawlfraint y Goron 2023

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored oni nodir fel arall. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3.

Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliad yr hawlfraint dan sylw.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/official-documents.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn atom yn policecovenantsecretariat@homeoffice.gov.uk

ISBN 978-1-5286-4080-0

E 02903373 05/23

Crynodeb Gweithredol

Yng nghyfarfod cyntaf Bwrdd Trosolwg Cyfamod yr Heddlu, cytunwyd ar un ar ddeg o flaenoriaethau o fewn y paramedrau a gyflwynir yn Neddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022. Mae’r Cyfamod yn canolbwyntio’n bennaf ar sicrhau iechyd a lles aelodau a chyn-aelodau gweithlu’r heddlu, eu diogelwch corfforol a’r gefnogaeth sydd ei hangen ar eu teuluoedd. Wrth ystyried yr effaith ar weithlu’r heddlu, rhoddwyd ystyriaeth hefyd i Heddlu Trafnidiaeth Prydain, y Gwnstabliaeth Niwclear Sifil, Heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol hefyd, yn ogystal â sylwadau gan adrannau eraill y llywodraeth a sefydliadau plismona eraill.

Drwy’r arweinwyr ar gyfer pob blaenoriaeth, y Swyddfa Gartref, yr heddlu a’n hasiantaethau partner, mae’r Cyfamod wedi llywio a bydd yn parhau i lywio gwaith i wella iechyd, diogelwch a lles gweithlu’r heddlu. O ganlyniad i’r gwaith sydd wedi’i gyflawni yn awr, mae swyddogion newydd yn derbyn hyfforddiant ar wydnwch iechyd meddwl, bydd aelodau’r gweithlu sy’n dioddef ymosodiadau yn derbyn cefnogaeth briodol, a bydd yr heddlu’n cael eu dwyn i gyfrif cyn hir o ran eu perfformiad safonau iechyd galwedigaethol. Wrth adeiladu ar lwyddiannau’r flwyddyn ddiwethaf, a gyflwynir yn yr adroddiad hwn, bydd y Cyfamod yn parhau i gynyddu’r lefelau o gymorth a gynigir i’r gweithlu yn ogystal â thorri tir newydd wrth ddarparu cymorth i’r rhai sydd wedi gadael yr heddlu a theuluoedd swyddogion a staff.

Blaenoriaethau a Gwblhawyd

O’r un ar ddeg o flaenoriaethau gwreiddiol, mae tair ohonynt wedi’u cwblhau erbyn hyn a’u cymeradwyo gan y Bwrdd Trosolwg. Mae’r gwaith yn y Cyfamod i ystyried y materion a godwyd yn yr Adolygiad Diogelwch Swyddogion a Staff wedi’u cyflawni yn sgil newidiadau i ddeddfwriaeth ynghylch ymosodiadau ar weithwyr y gwasanaethau brys a gyflwynwyd gan Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022. Mae’r ffrwd waith i gefnogi’r heddlu i weithredu Ymgyrch Hampshire sy’n gysylltiedig ag ymosodiadau yn erbyn swyddogion a staff wedi’i gweithredu hefyd, ac mae’r broses o gasglu data ar yr ymosodiadau hyn yn rhan allweddol o arferion cofnodi erbyn hyn. Y trydydd maes gwaith a’r un olaf a gwblhawyd yw cynnwys hyfforddiant iechyd meddwl i swyddogion newydd yn yr hyfforddiant cychwynnol, fel rhan o’r Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu (PEQF) a ddatblygwyd gan y Coleg Plismona.

Blaenoriaethau ar Waith

Gwnaed cynnydd amlwg yn y naw blaenoriaeth sy’n weddill yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn dilyn gwaith yr Adolygiad Rheng Flaen, mae gwaith yn mynd rhagddo ar nodi a mynd i’r afael â straenyddion sefydliadol er mwyn helpu i leihau galw diangen ar swyddogion a staff. Er mwyn cadw golwg ar gynnydd y gwaith hwn, bydd Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) yn adolygu lles ac iechyd galwedigaethol yn eu rhaglen archwilio PEEL flynyddol eleni (2023).

Mae’r Cyfamod, am y tro cyntaf, wedi dechrau asesu anghenion teuluoedd yr heddlu. Mae’r Coleg Plismona wedi comisiynu ymchwil i anghenion aelodau teuluoedd a disgwylir iddynt ddechrau adrodd yn ffurfiol ar hyn yn ystod gwanwyn 2023.

Er mwyn i bawb sydd wedi’u cwmpasu gan y Cyfamod fod yn ymwybodol o’r hyn a gynigir iddyn nhw, mae’r Swyddfa Gartref a’r Coleg Plismona wedi dechrau gweithredu cynllun cyfathrebu er mwyn esbonio’r gwaith sy’n ei ategu a pha fuddion diriaethol a ddarperir ganddo. Mae hyn wedi cynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid ar frandio a negeseuon er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd cynulleidfa eang wrth i’r Cyfamod ddatblygu. Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, ar ran yr holl Brif Gwnstabliaid, wedi addo’n gyhoeddus hefyd i gefnogi nodau a chanlyniadau’r Cyfamod, gan gadarnhau ei ymrwymiad yng Ngwobrau Dewrder yr Heddlu ym mis Gorffennaf 2022.

Mae Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr (PFEW), Cymdeithas Uwch-arolygwyr yr Heddlu (PSA) ac Unsain, mewn partneriaeth â’r Prif Gwnstabl Chris Rowley, Gwasanaeth Cenedlaethol Lles yr Heddlu (NPWS), Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) ac aelodau eraill y Bwrdd Trosolwg yn gweithio i nodi unrhyw fylchau yn y blaenoriaethau presennol ar gyfer materion sy’n gysylltiedig â’r Cyfamod, sydd y tu allan i’w gwmpas ar hyn o bryd. Drwy adroddiad a gyflwynwyd i’r Bwrdd Trosolwg yn Ionawr 2023, mae’r Cymdeithasau Staff a chyrff plismona eraill wedi dechrau gweithio ar awgrymiadau ar sut y gallai’r Cyfamod wella bywydau eu haelodau ac i bwysleisio materion cysylltiedig sy’n derbyn sylw drwy fframweithiau y tu hwnt i’r Cyfamod.

Mae’r angen i fynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig ag iechyd corfforol ac iechyd meddwl gweithlu’r heddlu yn elfen allweddol o’r gwaith parhaus. I’r perwyl hwn, mae’r Coleg Plismona wedi dechrau’r broses recriwtio ar gyfer Prif Swyddog Meddygol ar gyfer plismona. Yn y cyfamser, mae’r Athro John Harrison yn cyflawni’r swydd ar sail interim, hyd nes y penodir deiliad parhaol i’r swydd ym mis Ebrill 2023. Crëwyd Grŵp Llywodraethiant Glinigol, gyda chefnogaeth arbenigwyr meddygol, gwyddonol a pholisi, i gefnogi’r Prif Swyddog Meddygol (CMO) a gwneud cynnydd ar waith ar safonau iechyd galwedigaethol ac atal hunanladdiad.

Cynhaliwyd Hyfforddiant i Ymarferwyr Cyffredinol hefyd ar anghenion penodol cleifion o weithlu’r heddlu a bwriedir cynnal sesiynau hyfforddiant pellach yn 2023 a 2024.

Mae’r dirwedd anrhydeddau a chofebion wedi’i hadolygu i sicrhau bod gweithlu’r heddlu yn derbyn cydnabyddiaeth ddigonol ac yn cael eu gwobrwyo am eu rôl yn diogelu’r cyhoedd. Mae’r Swyddfa Gartref wedi cwblhau prosiect ymchwil i nodi beth mae heddluoedd yn ei wneud ym maes anrhydeddau a medalau. Mae gwaith pellach ar y gweill i gynyddu’r defnydd o’r system anrhydeddau a chymryd camau i wella’r broses fforffediad i warchod rhag unrhyw risg o ddifrïo gwerth medalau ac anrhydeddau. Bydd y Swyddfa Gartref, ym mis Hydref 2023, hefyd yn ystyried cynigion i wella’r strwythur gwobrau ar gyfer staff yr heddlu, gan gynnwys ystyried a ddylid creu medalau ffurfiol newydd.

Blaenoriaethau Newydd

Er mwyn addasu i anghenion gweithlu’r heddlu wrth iddo newid ac amgylchiadau newidiol gwaith yr heddlu, mae angen i’r Cyfamod barhau i nodi meysydd gwaith newydd a blaenoriaethau newydd. Ar gyfer 2023/24, mae’r Bwrdd Trosolwg wedi cytuno ar dri maes gwaith newydd:

  • Nodi a chyflwyno pecyn o fesurau ar gyfer unigolion sydd wedi gadael gweithlu’r heddlu;
  • Cwmpas y gefnogaeth bresennol sydd ar gael mewn cysylltiad â llwybrau gofal iechyd ar gyfer gweithlu’r heddlu drwy Ymgysylltiad pellach â’r GIG; ac

  • Ystyried materion ehangach ynglŷn â diogelwch ochr ffordd swyddogion a staff yr heddlu a chynnig opsiynau anneddfwriaethol er mwyn gwella diogelwch.

Bydd y Bwrdd Trosolwg yn parhau i adolygu’r holl flaenoriaethau ar hyd y flwyddyn er mwyn ystyried unrhyw bwyntiau pellach i’w hychwanegu, neu’r posibilrwydd o gyfuno blaenoriaethau.

Blaenoriaethau a Gwblhawyd

Adolygiad o Ddiogelwch Swyddogion a Staff

Crynodeb o’r flaenoriaeth

Ystyried argymhellion yr Adolygiad Diogelwch Swyddogion a Staff (OSSR) ar ymosodiadau gan ddefnyddio cerbyd a phryderon ynghylch poeri a dod i gysylltiad â firysau a gludir yn y gwaed.

Y cynnydd hyd yma:

Yn 2019, comisiynodd y Coleg Plismona a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) adolygiad llawn o ddiogelwch swyddogion a staff. Comisiynwyd yr adolygiad hwn mewn ymateb i bryderon ynglŷn â’r cynnydd mewn ymosodiadau a thrais yn erbyn swyddogion. Roedd y gwaith hwn, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2020, yn seiliedig ar y safbwyntiau a gasglwyd gan 40,000 a mwy o swyddogion a staff mewn arolwg cenedlaethol ar ddiogelwch. Nododd nifer o argymhellion ac mae dau o’r rhain wedi’u hystyried yn y maes gwaith hwn o Gyfamod yr Heddlu ([mae’r canlyniadau llawn a’r argymhellion ar gael drwy’r ddolen hon] (https://news.npcc.police.uk/releases/npcc-and-college-of-policing-pledge-to-improve-officer-and-staff-safety-following-largest-ever-survey-of-police-workforce)). Trafodir Argymhelliad 2.1 o’r Adolygiad Diogelwch Swyddogion a Staff (OSSR) er mwyn mynd i’r afael ag ymosodiadau yn erbyn swyddogion a staff o dan flaenoriaeth ar wahân.

Roedd Argymhelliad 3.5 OSSR yn argymell creu trosedd newydd yn benodol i gwmpasu’r defnydd o gerbyd mewn ymosodiadau ar swyddogion yr heddlu. Datblygodd tîm prosiect OSSR y rhesymeg dros y newid arfaethedig hwn, gan gynnwys 26 o enghreifftiau o ymosodiadau o bob rhan o’r wlad, a buont yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i weld a oedd deddfwriaethau presennol yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau hyn yn ddigonol. Er eu bod i gyd yn cytuno bod y gweithredoedd hyn yn erchyll, roedd y Llywodraeth a thîm prosiect OSSR yn fodlon bod y math hwn o drosedd wedi’i gwmpasu’n ddigonol gan ddeddfwriaethau presennol. Bydd tîm prosiect OSSR yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn darparu rhagor o enghreifftiau o’r math hwn o drosedd sy’n digwydd, gan ganolbwyntio ar y canlyniadau cyfiawnder troseddol er mwyn sicrhau bod y gyfraith yn cael ei gweithredu’n drylwyr.

Roedd Argymhelliad 9.2 OSSR yn argymell dau gam gweithredu gwahanol mewn cysylltiad ag ymosodiadau ar swyddogion. Roedd Rhan 1 yn ceisio creu ffactor newydd o feiusrwydd ar gyfer y drosedd o ‘ymosod ar weithiwr y gwasanaethau brys’ pan fydd bygythiad neu fwriad i drosglwyddo afiechyd. Cymeradwywyd hyn gan y Llywodraeth a’r Cyngor Dedfrydu ac mae wedi’i gynnwys yn y canllawiau dedfrydu ar gyfer Deddf Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) 2018, o dan Adran 1 ymosod a churo cyffredin.

Roedd Rhan 2 yn gysylltiedig â gorfodi troseddwr i ddarparu sampl gwaed i ddiystyru yn y pen draw unrhyw risg bod clefyd wedi’i drosglwyddo. Ar ôl ystyried yn ofalus yr effaith ar y swyddogion dan sylw ac ar hawliau unigol y troseddwr, cytunwyd nad oes unrhyw sail resymegol ddigonol dros orfodi troseddwr i ddarparu sampl gwaed. Er mwyn gwella diogelwch, cyfeiriodd arweinydd perthnasol y NPCC y Prif Gwnstabliaid at daflen Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr (PFEW), a gynhyrchwyd i ategu canllawiau Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar Firysau a Gludir yn y Gwaed.

Gwaith arfaethedig:

Bydd cynnydd ar yr argymhellion hyn yn cael eu monitro ar sail barhaus gan Fwrdd Trosolwg a Grŵp Cyflenwi Cyfamod yr Heddlu.

Cynllun Ymosodiadau

Crynodeb o’r flaenoriaeth

Mae’r Cyfamod yn cynnwys y gofyniad i’r holl heddluoedd roi’r cynllun ymosodiadau ar waith erbyn Mawrth 2022 a gallu adrodd ar gynnydd yn flynyddol. Y Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu i ystyried cyflwyno datrysiad casglu data Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitan (MPS) ar gyfer Operation Hampshire neu datrysiad amgen addas.

Y cynnydd hyd yma:

Er bod ymosodiadau ar swyddogion a staff yr heddlu yn droseddau o dan Ddeddf Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) 2018, ac y gellir derbyn cosb o hyd at 2 flynedd o garchar amdanynt, nid yw’r digwyddiadau hyn bob amser wedi’u herlid a’u cosbi mor drylwyr ag y dylent fod. Mae’n bwysig esbonio’n glir na ddylid byth ystyried bod y profiadau hyn yn ‘rhan o’r swydd’.

Er mwyn unioni hyn a mynd i’r afael ag argymhelliad 2.1 yn OSSR, mae heddluoedd wedi mabwysiadu cynllun ymchwilio saith pwynt y PFEW ar gyfer delio ag ymosodiadau ar yr heddlu ac maent wedi dechrau casglu data manwl er mwyn dechrau asesu maint y broblem. Anogir swyddogion a staff i adrodd ar unrhyw ymosodiadau a brofir ganddynt ac y gallant ddisgwyl cael eu trin yn yr un ffordd ag aelod o’r cyhoedd sydd wedi profi ymosodiad. Mae Ymgyrch Hampshire, prosiect cenedlaethol sy’n darparu ymateb cynhwysfawr i ymosodiadau ar yr heddlu, yn newid y diwylliant er mwyn cefnogi ein swyddogion a’n staff drwy ystyried yr effaith ac ymateb yn unol ag anghenion yr unigolyn.

Mae’r 365 PowerApp, sydd ar gael i holl ardaloedd yr heddlu ers Mawrth 2022, yn darparu platfform unigol ar gyfer casglu data cenedlaethol ac mae wedi’i dreialu’n llwyddiannus yn Ninas Llundain. Mae Cam 1 yr Ap ar gael yn awr yng Nghyfeiriadur Gwasanaeth Digidol yr Heddlu (PDS). Mae PDS a Gwasanaeth Lles Cenedlaethol yr Heddlu (NPWS) (yn y Coleg Plismona) wedi cynnal tri gweithdy cyflwyno ym mis Mawrth 2022 gyda 80 a mwy o gynrychiolwyr o’r heddlu.

Mae nifer o heddluoedd eisoes yn cofnodi data ymosodiadau, felly gallai gymryd rhywfaint o amser i drosi i’r 365 PowerApp. Ni chafwyd cadarnhad hyd yma pa mor aml y bydd ceisiadau am ddata cenedlaethol yn cael eu dosbarthu i’r heddlu a phwy fydd yn derbyn perchnogaeth dros y data a gasglwyd. Mae arweinydd cam 2 OSSR yn datblygu hyn, ac yn paratoi papur a fydd yn gwneud argymhellion i Gyngor y Prif Gwnstabliaid. Wedi hynny bydd cam 2 yn cael ei ariannu gan Wasanaeth Cenedlaethol Lles yr Heddlu gyda marwolaeth, anaf difrifol, hunanladdiad a Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau (RIDDOR) wedi’u hymgorffori.

Mae cyfres o gwestiynau wedi’u llunio ar gyfer y cais am ddata, mewn cysylltiad ag ymosodiadau Ymgyrch Hampshire. Cyflwynwyd y cais hwn er mwyn cael gafael ar ddata sylfaenol ar gyfer y 12 mis rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022. Bydd y canlyniad o hyn yn ein galluogi i asesu lefelau cofnodi presennol a nodi lle mae angen cymorth ychwanegol ar yr heddlu cyn cytuno ar unrhyw fanylion ychwanegol yn y Gofyniad Data Blynyddol.

Fel rhan o’u rhaglen dreigl o arolygiadau blynyddol ar gyfer 2023, bydd HMICFRS yn ystyried a yw heddlu yn darparu ystod dda o fesurau lles ataliol a chefnogol, gan gynnwys cymorth ychwanegol i’r rhai mewn rolau risg uchel a’r rhai sy’n profi digwyddiadau a allai fod yn rhai trawmatig.

Gwaith arfaethedig:

Er y cofnodwyd bod hyn wedi’i gwblhau yn awr, bydd HMICFRS, y Swyddfa Gartref a’r Coleg Plismona yn monitro’r cynnydd ar y flaenoriaeth hon yn weithredol. Bydd y flaenoriaeth yn cael ei hail-agor pe byddai materion pellach yn cael eu nodi.

Cymorth Iechyd Meddwl Cyn-lleoli

Crynodeb o’r flaenoriaeth

Datblygu’r cymorth iechyd meddwl cyn-lleoli a roddir i weithlu’r heddlu, yn arbennig yn dilyn y pandemig COVID-19 a’r effaith y bydd hyn wedi’i chael ar weithlu’r heddlu.

Y cynnydd hyd yma:

Mae’r hyfforddiant ‘Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl yng Ngwasanaeth yr Heddlu’ ar gyfer dechreuwyr newydd wedi’i gynnwys yn fframwaith hyfforddiant yr heddlu erbyn hyn. Mae’r cyrsiau hyn, ochr yn ochr â hyfforddiant diweddaru i gyflogeion, rheolwyr ac arweinwyr presennol, yn galluogi swyddogion a staff i adnabod arwyddion a symptomau materion iechyd meddwl eu hunain ac eraill ac i ddeall y llwybrau cyfeirio. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu gwelliant o’r gwaelod i fyny yn ymateb y gweithlu i drawma cydweithwyr a bydd yn helpu i leihau’r stigma sy’n cael ei gysylltu’n rhy aml â materion iechyd meddwl. Bydd hyn yn cyd-fynd â datblygiad dull o’r brig i lawr i feithrin diwylliant o lesiant ehangach yn yr heddlu.

Cyflwynwyd hyfforddiant iechyd meddwl yn y Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona (PEQF) newydd fel rhan o’r cwricwlwm ehangach gyda gwiriadau mewn grym i sicrhau eu bod yn cael eu darparu’n gywir. Mae’r cydweithrediad rhwng darparwyr academaidd a’r heddlu yn sicrhau bod ganddynt rwymedigaeth i gyflenwi’r hyfforddiant a rhannu lle maent wedi mapio hyn yn eu rhaglenni drwy’r paneli asesu.

Ochr yn ochr â’r gwaith arall cyn lleoli, mae’r Coleg Plismona wedi ymgorffori gwersi lles a gwydnwch o’r Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Rheng Flaen (FLLDP) yn y cwricwlwm Cwnstabl Tiwtor, yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot FLLDP. Mae hyn yn sicrhau bod y rhai â rolau allweddol yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o swyddogion yn cael eu hannog hefyd i fod yn hawdd mynd atynt ac yn wybodus ynglŷn â materion iechyd meddwl y gweithlu.

Mae’r Coleg wedi ymgysylltu â’r gymuned Addysg Uwch mewn digwyddiad arfer da ym mis Mawrth 2022 er mwyn nodi a rhannu arfer da yn y maes hwn. Mae’r Coleg hefyd wedi cynnal digwyddiadau gwybodaeth ac arfer da i hyrwyddo’r rhyngweithiad rhwng y PEQF a Chyfamod yr Heddlu, pwysigrwydd lles, gwydnwch a chefnogaeth. Yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd bod y digwyddiadau hyn wedi bod yn llwyddiant, bwriedir cynnal sesiynau ymgysylltu pellach ar gyfer 2023/24.

Gwaith arfaethedig:

Bydd union natur yr hyfforddiant yn parhau i gael ei adolygu er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn parhau i fod yn effeithiol. Bydd gwaith pellach o dan flaenoriaethau eraill yn canolbwyntio ar hyfforddiant iechyd meddwl a chefnogaeth ar gyfer cohortau eraill sydd wedi’u cwmpasu gan y Cyfamod.

Blaenoriaethau ar Waith

Straenyddion Sefydliadol

Crynodeb o’r flaenoriaeth

Mae’r Cyfamod yn cydnabod yr angen i fynd i’r afael â’r materion systemig sy’n effeithio ar y gweithlu, gyda chyfeiriad penodol at y data a gasglwyd yn yr Adolygiad Rheng Flaen. Dylid gwneud gwaith i gofnodi’r rhwystrau hyn at gyflawni gwaith ystyrlon o dan y teitl ‘Straenyddion Sefydliadol Mewnol / Allanol’ mewn cydweithrediad ag arweinwyr perthnasol yr heddlu yn y Swyddfa Gartref. Ar ôl eu nodi gellir eu cyfleu i Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) i’w cynnwys ym meini prawf arolygu PEEL.

Y cynnydd hyd yma:

Mae’r Adolygiad Rheng Flaen yn fenter gan y Swyddfa Gartref a lansiwyd ym mis Mai 2018. Cafodd yr Adolygiad ei ddylunio i gasglu syniadau ar gyfer gwelliannau a newid yn uniongyrchol o’r rheng flaen - o reng cwnstabl i rengoedd uwch-arolygwyr, staff yr heddlu, swyddogion cymorth cymunedol ac aelodau’r gwnstabliaeth arbennig.

Un o’r materion allweddol a nodwyd oedd yr angen i fynd i’r afael â’r pwysau ychwanegol a roddir ar swyddogion a staff nad oedd yn uniongyrchol berthnasol i’w rôl gyda’r heddlu. Gall y pwysau ychwanegol hwn, a elwir yn ‘straenyddion sefydliadol’ at ddibenion Cyfamod yr Heddlu, greu mwy o straen yn y gweithle, lleihau cynhyrchiant ac arwain at lai o foddhad gyda’u swydd.

Mae’r Gwasanaeth Cenedlaethol Lles yr Heddlu (NPWS) wedi sefydlu rhaglen Lleihau Straen Gwella Gwasanaethau (SISR) 12-18 mis arloesol iawn a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2022. Bydd y rhaglen yn nodi datrysiadau technoleg a data y profwyd eu bod yn gwella gwasanaeth ac yn dileu straenyddion ychwanegol diangen. Gwahoddir grŵp o uwch arweinwyr sy’n cynrychioli holl ardaloedd yr heddlu i ddysgu am botensial y prosiectau, y mae llawer ohonynt eisoes yn cael eu defnyddio gan yr heddlu neu mewn sectorau eraill. Er enghraifft, mae rhai o grantiau ymchwil y Prif Gynghorydd Gwyddonol yn cyflwyno cyfle posibl i rannu’r hyn a ddysgwyd a chyflymu’r broses o’u mabwysiadu’n ehangach.

Fel rhan o PEEL 2023, bydd HMICFRS, sy’n eistedd ar Fwrdd Trosolwg Cyfamod yr Heddlu, yn edrych ar y graddau y mae’r heddluoedd yn mynd i’r afael ag ysgogwyr straenyddion rhwystrol, gan gynnwys i ba raddau y mae’r heddluoedd yn llwyddo i ystyried lles mewn penderfyniadau rheoli galw.

Gwaith arfaethedig:

Sefydlwyd ffrwd waith newydd yn NPWS er mwyn cyflymu syniadau arloesol erbyn Tachwedd 2023, sy’n mynd i’r afael yn benodol â straenyddion ychwanegol diangen ym maes plismona. Bydd y gwaith hwn, sy’n bwysig er mwyn gwella boddhad swydd swyddogion a staff a barn y cyhoedd am blismona, yn cysylltu â gwaith ehangach NPCC ar ofynion gweithredol.

Gwahoddir y cohort Uwch Arweinwyr, sy’n cynrychioli holl ardaloedd yr heddlu, i gymryd rhan yn rhaglen SISR 2023. Bydd hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Modiwl 1 - Darparu’r amser a chwblhau 8 awr o waith cyn y cwrs (Ebrill 2023).
  • Modiwl 2 – Mynychu’r rhaglen hyfforddiant preswyl ar Gampws y Brifysgol Agored yn Milton Keynes (Dydd Mawrth 25ain Ebrill i ddydd Gwener 28ain Ebrill 2023).
  • Modiwl 3 - Defnyddio’r hyn a ddysgwyd ar brosiect/mater ymarferol.
  • Modiwl 4 - Mynychu’r rhaglen hyfforddiant preswyl ar Gampws y Brifysgol Agored yn Milton Keynes (Dydd Mercher 4ydd a dydd Iau 5ed Hydref 2023).
  • Cwblhau Gwerthusiad o’r rhaglen (Rhag 2023).

Yn dilyn cam gweithredu a godwyd gan y Bwrdd Trosolwg, mae NPWS wedi cysylltu â’r rhai sy’n gweithio ar yr Adolygiad Gweithredol o Gynhyrchiant Plismona a byddant yn archwilio ffyrdd i ymgorffori’r Cyfamod.

Safonau Iechyd Galwedigaethol

Crynodeb o’r flaenoriaeth

Gofynnir i HMICFRS gynnwys safonau iechyd galwedigaethol yng nghonglfaen cyfreithlondeb PEEL, sy’n ei gwneud yn ofynnol i heddluoedd gwblhau hunan-asesiad erbyn mis Mawrth 2021 a nodi cynllun i gyflawni’r safonau sylfaenol erbyn mis Mawrth 2022.

Y cynnydd hyd yma:

Mae angen gwneud gwelliannau sylweddol i’r ddarpariaeth bresennol o iechyd galwedigaethol yr heddlu ac ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau gweithlu iachach a mwy brwdfrydig. Mae gweithluoedd eraill y sector cyhoeddus hefyd yn flaenoriaeth iechyd galwedigaethol hefyd am yr un rhesymau.

Mae HMICFRS wedi cytuno i ddatblygu eu Fframwaith Asesu PEEL a byddant yn cynyddu amlygrwydd eu cwestiynau archwilio ynghylch safonau iechyd galwedigaethol o’r gwanwyn yn 2023. Cyn i’r rhaglen arolygu ddechrau, mae NPWS wedi cymryd camau i gynorthwyo timau iechyd galwedigaethol i wneud gwelliannau. Cynhaliodd NPWS weithdy 3 diwrnod ym mis Tachwedd 2022, a fynychwyd gan 30 a mwy o heddluoedd, a chyflwynodd y tîm clinigol gyngor a chefnogaeth fanwl i’r timau Iechyd Galwedigaethol. Nod y gweithdy hwn oedd darparu arweiniad arbenigol ar y safonau a rhannu arfer da yr heddluoedd hynny sydd eisoes yn cydymffurfio â hwy.

Roedd y flaenoriaeth hon yn cysylltu hefyd â’r ffrwd waith blaenoriaeth newydd ‘Ymgysylltiad y GIG’ sy’n cael ei datblygu gan NPWS a’r Prif Swyddog Meddygol.

Gwaith arfaethedig:

Bydd arolygiadau HMICFRS o fis Ebrill 2023 yn ceisio canfod a yw gwasanaethau iechyd galwedigaethol yr heddlu yn darparu cefnogaeth ac ymyriadau sy’n gwella lles swyddogion a staff.

Mae heddluoedd Cymru, o dan arweiniad y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan, yn ystyried gwaith pellach yn awr gyda’u partneriaid yn GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth NPWS. Mae heddluoedd Cymru wedi cwblhau achos busnes fel tystiolaeth o’r angen am gymorth gan y GIG, gan dynnu ar ddata o asesiadau sylfaenol Iechyd Galwedigaethol, Arolwg Cenedlaethol Lles a Chynhwysiant yr Heddlu, fframweithiau Hunanasesu Golau Glas NPWS a gwaith ymchwil perthnasol arall. Mae hyn yn nwylo bwrdd partneriaeth yr heddlu yn awr a gallai gyflwyno glasbrint ar gyfer heddluoedd yn Lloegr maes o law. Rydym yn disgwyl i’r NPWS gwblhau pecyn offer comisiynu gyda chymorth hyfforddiant cysylltiedig erbyn mis Rhagfyr 2023.

Model Cymorth i Deuluoedd

Crynodeb o’r flaenoriaeth

Y NPCC i gomisiynu adolygiad i ganfod beth yw model cymorth da i deuluoedd, gan dynnu ar arfer da sefydledig a gwaith ymchwil o sectorau eraill a phartneriaid rhyngwladol. Ar ôl cytuno ar hyn, bydd angen i heddluoedd gyflwyno strwythurau cymorth pwrpasol yn lleol i’w seilwaith lleol.

Y cynnydd hyd yma:

Mae’r Brifysgol Agored a Choleg Kings Llundain yn cynnal gwaith ymchwil ar hyn o bryd i anghenion teuluoedd yr heddlu. Nodau allweddol yr astudiaeth hon yw:

  • Archwilio gyda theuluoedd yr heddlu y dylanwad y mae gwaith yr heddlu yn ei gael ar les teuluoedd, gan gynnwys gwydnwch, ymdopi a ffynonellau cymorth.
  • Deall sut mae straen gwaith yn dylanwadu ar weithrediad a dynameg teulu ymhlith teuluoedd yr heddlu;
  • Nodi meysydd allweddol o angen yn nhermau cymorth i deuluoedd.

Mae’r ymchwil ar gam datblygedig ar hyn o bryd a bydd yn adrodd yn ôl ar y canfyddiadau i’r NPWS yn ystod y gwanwyn yn 2023. Bydd Cam 1 yr ymchwil, a fydd yn helpu i nodi anghenion penodol ar gyfer teuluoedd, yn helpu i fod yn sail i ddiweddariad ar y flaenoriaeth hon yng nghyfarfod y Bwrdd Trosolwg yn y dyfodol. Bydd Cam 2 yr ymchwil, sy’n mynd rhagddo, yn canolbwyntio’n hytrach ar ymgysylltu’n uniongyrchol â theuluoedd i ddeall eu profiad bywyd a sut y gellir helpu’r unigolion hyn drwy’r Cyfamod.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi ymgysylltu’n uniongyrchol gyda theuluoedd swyddogion a staff hefyd drwy gyfres o gyfarfodydd a drefnwyd gan y Gweinidog Plismona. Roedd y trafodaethau hyn yn ystyried materion a godwyd ynglŷn ag effeithiau gwaith shifft ar fywydau teuluoedd ac effaith y gall y prosesau cwynion a disgyblu ei chael ar y teulu estynedig. Mae’r arsylwadau hyn wedi’u bwydo i mewn i’r model cymorth sy’n cael ei ddatblygu gan y NPWS.

Mae’r NPWS wedi dechrau cynnig gwasanaeth cwnsela profedigaeth i’r heddlu a’u teuluoedd ym mis Ionawr 2023, drwy wasanaeth ‘JustB’ Gofal Hosbis Gogledd Swydd Efrog, sydd â phrofiad helaeth yn y maes hwn. Mae’r gwasanaeth ar gael i aelodau teulu agos swyddogion sy’n gwasanaethu a staff sydd eisoes wedi cyflawni hunanladdiad neu sydd wedi’u lladd ar ddyletswydd. Mae hefyd ar gael i gydweithwyr agos, pe byddai’n ddefnyddiol iddynt. Gellir atgyfeirio teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan brofedigaeth at ddarpariaeth tymor hwy y tu allan i’r heddlu pe byddai hynny’n briodol.

Gwaith arfaethedig:

Ochr yn ochr â’r ymchwil ar ‘anghenion’, mae’r NPWS yn y broses o benodi ymchwilwyr addas i gynnal ymchwiliadau pellach i’r ddarpariaeth bresennol. Mae’r gwaith yn cael ei arwain gan gydlynydd penodedig teuluoedd a’r rhai sy’n gadael yr heddlu yn y NPWS Bydd y gwaith ymchwil hwn, sy’n debyg i’r gwaith a gwblhawyd ar gwnsela profedigaeth, yn ceisio nodi beth sydd ar gael i deuluoedd, beth yw lefel yr ymgysylltiad â hyn, pa mor llwyddiannus yw’r ddarpariaeth ac a oes unrhyw fylchau. Bydd y gwaith hwn, ynghyd â’r ymchwil ar ‘anghenion’, yn darparu darlun cyflawn ar gyfer y cam nesaf o waith ar y flaenoriaeth hon.

Ers mis Ionawr 2023, mae’r NPWS wedi creu cyfres o ofynion hefyd ar gyfer datblygu cyfres o gynnyrch digidol yn unol ag arfer da rhyngwladol. Mae’r NPWS wedi derbyn cydnabyddiaeth fel arweinydd strategol ar gyfer y ffrwd waith teuluoedd ac mae’r cynnyrch digidol yn cael eu datblygu yn awr.

Cynhelir gwaith hefyd i ystyried galluogi i deuluoedd gael mynediad at y Rhaglenni Cymorth i Gyflogeion sydd ar gael mewn rhai ardaloedd yr heddlu yn awr.

Cyfathrebu’r Cyfamod

Crynodeb o’r flaenoriaeth

Rhoddir ystyriaeth i gynnwys y rhaglenni cysylltiedig fel rhan o gynllun cyfathrebu y cyfamod er mwyn i’r gweithlu weld tystiolaeth o gamau gweithredu a theimlo’n hyderus yr un pryd bod materion i’w trafod yn derbyn sylw.

Y cynnydd hyd yma:

Wrth lansio’r Cyfamod, roedd y rhaglen gyfathrebu yn canolbwyntio’n helaeth ar ddau brif faes gwaith: cynyddu ymwybyddiaeth o’r Cyfamod ac arddangos cefnogaeth i’r Cyfamod o fewn yr heddlu.

Er mwyn gwneud hyn, fe ddatblygodd tîm cyfathrebu’r Swyddfa Gartref frand Cyfamod yr Heddlu ym mis Gorffennaf 2022, ochr yn ochr â deunyddiau cyfathrebu wedi’u targedu a grëwyd ar gyfer gweithlu’r heddlu er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r Cyfamod.

Cwblhaodd yr NPCC, a fu’n gweithio’n agos gyda’r Swyddfa Gartref a rhanddeiliaid eraill Addewid[footnote 1] ar 14 Gorffennaf 2022. Roedd y datganiad hwn, y cytunwyd arno gan brif swyddogion yr holl heddluoedd sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr, yn nodi’n glir fwriad pob ardal yr heddlu i weithredu’r argymhellion y Cyfamod ac i aros yn driw i’w ddiben wrth gefnogi eu swyddogion, eu staff a’u teuluoedd.

Gwaith arfaethedig:

Mae gwaith wedi dechrau ar Gam dau y cynllun cyfathrebu a bydd yn cynnwys ffocws ar gynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o gynigion penodol o dan y Cyfamod. Bydd fideos sy’n trafod gwaith cymorth cyfoedion yn cael eu creu ym mis Mehefin 2023 a byddant yn canolbwyntio ar bwysleisio buddiannau sgyrsiau gyda chydweithwyr i iechyd meddwl.

Yn ogystal, yn 2023, bydd y Swyddfa Gartref yn dechrau datblygu mentrau i wella ymwybyddiaeth leol heddluoedd o’r Cyfamod. Gwneir hyn drwy ddefnyddio posteri a thaflenni, a fydd yn darparu gwybodaeth bellach am y Cyfamod, ac yn cael eu dosbarthu i orsafoedd yr heddlu ac ar dudalennau’r fewnrwyd i staff a swyddogion allu eu gweld a chael mynediad rhwydd atynt.

Bydd cyfathrebu ehangach hefyd yn cael ei ddatblygu erbyn mis Medi 2023, lle bo’n briodol, mewn partneriaeth â’r NPWS a’r GIG i wella ymgysylltiad ar yr agweddau o’r Cyfamod sydd eisoes wedi’u cyflawni sy’n ymwneud ag iechyd corfforol a meddyliol..

Wrth i’r gwaith ar flaenoriaethau eraill fynd rhagddo, gan gynnwys ar deuluoedd a phenodi Prif Swyddog Meddygol, datblygir dulliau cyfathrebu ehangach erbyn Tachwedd 2023, er mwyn sicrhau bod gweithlu’r heddlu a’u teuluoedd yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt, a’u bod yn gallu cael mynediad ato.

Ymgysylltu â’r Gweithlu

Crynodeb o’r flaenoriaeth

Mae yna ystod o faterion sydd y tu hwnt i gylch gwaith y Cyfamod, ond er hynny, mae ganddynt gysylltiad â’r materion hynny o fewn cwmpas gweithlu’r heddlu a’r effaith arnyn nhw a’u teuluoedd. Gallai’r rhain gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i, gydnabyddiaeth ariannol, amrywiaeth a chynhwysiant a delio â materion ymddygiad yr heddlu. Dylid creu crynodeb o’r materion allweddol a godwyd gan gymdeithasau ac undebau staff er mwyn sicrhau eu bod wedi’u nodi’n glir ac yn weladwy i’r gweithlu.

Y cynnydd hyd yma:

Gwahoddir Cymdeithasau Staff i fynychu cyfarfodydd gwirio misol Grŵp Cyflenwi Cyfamod yr Heddlu (PCDG) a chyfarfodydd chwarterol PCDG.

Bu i’r NPWS gynnal cyfarfod Bord Gron y Cyfamod ar 29 Medi 2022 gyda Chymdeithasau Staff ac undebau i geisio eu barn ar weithgareddau presennol ac arfaethedig y Cyfamod ar y flaenoriaeth hon. Cyflwynwyd papur a oedd yn pwysleisio’r pynciau a drafodwyd yn y cyfarfod bord gron i’r Bwrdd Trosolwg ym mis Ionawr 2023.

Gwaith arfaethedig:

Trefnwyd trafodaeth bord gron gan y Cymdeithasau Staff ym mis Medi 2022, a oedd yn esbonio ac yn ehangu ar y ffrydiau gwaith y mae eu haelodau’n awyddus i’r Cyfamod eu cynnwys, yn ogystal ag adolygu sefyllfa’r ffrydiau gwaith presennol yr ystyriwyd nad oeddent yn gwneud cynnydd cyson ledled y wlad. Yn dilyn yr awgrymiadau a wnaed yn y cyfarfodydd bord gron hyn, bydd y cyrff sy’n gysylltiedig â’r Cyfamod yn parhau i asesu cynnydd ac a fyddant yn mabwysiadu argymhellion penodol a wneir o dan y flaenoriaeth hon ai peidio. Wrth i’r prif gymdeithasau staff fwydo’r canfyddiadau hyn yn ôl i’r Bwrdd Trosolwg o’r drafodaeth bord gron, bydd y PSA yn parhau i ymgysylltu â chymdeithasau i fonitro cynnydd y gweithlu gyda chanlyniadau mesuradwy. Bydd y Bwrdd Trosolwg a PCDG yn derbyn gwybodaeth reolaidd ar ddatblygiadau diweddaraf y gweithgaredd hwn.

Prif Swyddog Meddygol

Crynodeb o’r flaenoriaeth

Penodi Prif Swyddog Meddygol – dylai’r Bwrdd Trosolwg ystyried y buddiannau o benodi Prif Swyddog Meddygol amser llawn ar gyfer plismona yng Nghymru a Lloegr a gweithio gyda’r Coleg i ddatblygu manyleb rôl os byddant yn credu bod angen hyn.

Y cynnydd hyd yma:

Cytunodd Bwrdd Trosolwg Cyfamod yr Heddlu ym mis Ionawr 2022 ar gynigion i greu Grŵp Meddygol yr Heddlu, a elwir yn Grŵp Llywodraethiant Glinigol (CGG) yn awr, o dan arweiniad Prif Swyddog Meddygol. Mae’r Swyddfa Gartref a’r NPWS wedi cydweithio i greu swydd-ddisgrifiad ar gyfer y Prif Swyddog Meddygol a Chylch Gorchwyl ar gyfer CGG a fydd yn cefnogi’r rôl Prif Swyddog Meddygol (CMO). Penodwyd CMO dros dro ym mis Mawrth 2022 er mwyn cynorthwyo gyda chynnydd y gwaith perthnasol .

Cynhaliwyd cyfarfod y CGG ar 29 Mawrth 2022 i drafod y Cylch Gorchwyl drafft a swydd-ddisgrifiad y CMO. Ymunodd arbenigwyr o’r sector yn y cyfarfod, gan gynnwys Cynghorwyr Nyrsio Iechyd Galwedigaethol i Wasanaeth yr Heddlu (OHNAPS), Cynghorydd Gwyddonol yr Heddlu Paul Taylor, arweinwyr Adnoddau Dynol yr heddlu, y Swyddfa Gartref ac arweinwyr clinigol y NPWS.

Mae’r Swyddfa Gartref a’r NPWS wedi diweddaru’r dogfennau yn seiliedig ar adborth y grŵp ac wedi ail-ddosbarthu safbwyntiau pellach. Bydd y NPWS a’r Swyddfa Gartref yn defnyddio’r wybodaeth hon i hysbysu’r swydd-ddisgrifiad a chwblhau’r opsiynau recriwtio a’r costau.

Mae’r Coleg Plismona yn cynnal y broses o benodi Prif Swyddog Meddygol yn awr ac mae’r NPWS wedi penodi Prif Swyddog dros dro, yr Athro John Harrison, gyda chefnogaeth rheoli rhaglen ac arbenigedd clinigol ar gyfer creu’r cynllun cyflenwi. Cynhaliwyd tri chyfarfod y CGG i gynhyrchu’r cynllun ar y cyd. Mae llythyr yn cael ei baratoi gan y Prif Gwnstabl Pam Kelly, fel arweinydd perthnasol y NPCC, ar gyfer pob Prif Gwnstabl, a fydd yn esbonio rôl a mandad y Prif Swyddog Meddygol a fydd yn adrodd i Bwyllgor Cydlynu’r Gweithlu.

Gwaith arfaethedig:

Mae’r Coleg Plimsona yn cynnal y broses o recriwtio a phenodi Prif Swyddog Meddygol parhaol erbyn Ebrill 2023.

Cynhaliwyd tri chyfarfod y CGG i gynhyrchu’r cynllun ar y cyd, a bwriedir cynnal cyfarfodydd pellach yn ystod y flwyddyn i ddod. Pan fydd CMO wedi’i benodi, byddant yn gwneud penderfyniad ar gyfansoddiad ac amlder y cyfarfod.

Un o flaenoriaethau cychwynnol y CMO fydd i wella’r ddarpariaeth iechyd galwedigaethol drwy annog cyflwyniad Safonau Iechyd Galwedigaethol Sylfaenol, Pellach ac Uwch yn holl ardaloedd yr heddlu. Mae hyn yn cysylltu â blaenoriaethau ar Safonau Iechyd Galwedigaethol (gweler tudalen 16) ac Ymgysylltiad y GIG (tudalen 26).

Yn eu capasiti fel cadeirydd y CGG, bydd y CMO yn arwain ffrydiau gwaith Atal Hunanladdiad ac Ôl-ymyriadau, adolygiad o’r safonau meddygol ar gyfer recriwtiaid newydd, ymddeol oherwydd salwch ac Ymgysylltiad â’r GIG (gweler tudalen 26).

Hyfforddiant ar gyfer Ymarferwyr Cyffredinol

Crynodeb o’r flaenoriaeth

Datblygu hyfforddiant i Ymarferwyr Cyffredinol ar rôl yr heddlu, yn debyg i hyfforddiant cyn-filwyr i Ymarferwyr Cyffredinol.

Y cynnydd hyd yma:

Fel porthgeidwaid yn y GIG, mae gan ymarferwyr cyffredinol rôl hollbwysig yn hwyluso mynediad at gymorth priodol i’r heddlu yn y GIG. Felly, mae’n hollbwysig bod ymarferwyr cyffredinol yn derbyn hyfforddiant ar anghenion penodol gweithlu’r heddlu a’r effeithiau y gall rolau plismona eu cael.

Mewn cydweithrediad â Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, (RCGP), rhyddhawyd tri gweminar ac maent ar gael i ymarferwyr. Mae’r gweminarau “Five minutes to change your practice”, “Mental Health and PTDSD” a “Fitness for driving” ar gael ar wefan y Coleg.

Gwaith arfaethedig:

Bydd y NPWS hefyd yn ystyried archwilio canllawiau a chyngor pellach erbyn Ebrill 2023 er mwyn ehangu’r gwaith y tu hwnt i’r cohort cychwynnol o ymarferwyr cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys gwaith pellach gyda’r RCGP i ddatblygu arferion achrededig “Cyfeillgar i’r Heddlu’, yn debyg i fodel Cyfamod y Lluoedd Arfog, a chreu fframwaith ar gyfer nyrsys ym maes Ymarfer Cyffredinol drwy fyrddau comisiynu annibynnol a’r Coleg Nyrsio Brenhinol.

Yn ogystal â’r gwaith ymarfer cyffredinol, bydd ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (e.e. y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain, ac yn y blaen) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a’r Coleg Meddygol Meddygaeth Frys yn helpu i ddatblygu llwybrau gofal sy’n canolbwyntio ar yr heddlu ar gyfer mannau triniaeth eraill.

Yn gysylltiedig â’r gwaith hwn bydd cynhyrchu canllawiau yn 2024/25 i gynyddu ymwybyddiaeth swyddogion a staff o sut i gael y gorau o’r GIG. Bydd hyn yn sicrhau bod gweithlu’r heddlu mewn sefyllfa dda i wneud y gorau o’r wybodaeth y mae’r Cyfamod yn ei meithrin o fewn y gymuned feddygol.

Anrhydeddau a Chofebion

Crynodeb o’r flaenoriaeth

Adolygiad o’r tirwedd anrhydeddau, medalau a chofebion er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud y defnydd gorau o wobrau presennol a nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth hefyd.

Y cynnydd hyd yma:

Nododd trafodaethau cychwynnol gyda rhanddeiliaid fod y dirwedd cofebion yn gymhleth iawn gyda llawer o feysydd i’w tynnu ynghyd. Mae creu Cofeb Genedlaethol yr Heddlu yn y Goedardd wedi dod yn ganolbwynt i gofebion yr heddlu. Ariannwyd y Gofeb hon gan elusennau’r Heddlu a rhanddeiliaid eraill. Erys meysydd gwaith nad ydynt wedi cael sylw o ran cydnabod swyddogion a staff sy’n colli eu bywydau. Bydd y meysydd gwaith hyn yn cael eu hasesu ac yn cael sylw yn ystod 2023.

Yn ystod Haf 2022, cynhaliodd y Swyddfa Gartref adolygiad tystiolaeth cyflym ar ddefnydd yr heddlu o fedalau ac anrhydeddau gwobrwyo er mwyn gallu asesu’n well y nifer sy’n manteisio ar wobrau cenedlaethol

Holwyd arweinwyr yn y Swyddfa Gartref, NPCC, HMICFRS, PFEW a oeddent yn credu bod unrhyw faterion neu rwystrau yn y prosesau medalau ac anrhydeddau a pha welliannau y gellir eu gwneud er mwyn galluogi’r heddlu i gydnabod swyddogion yn rhwydd. Anfonwyd holiadur casglu data meintiol ac ansoddol at bob un o’r 43 ardal yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, er mwyn casglu data am fan yr heddluoedd am y prosesau medalau ac anrhydeddau a’u defnydd o’r systemau. Dychwelodd 31 o’r 43 ardal yr heddlu ddata at y Swyddfa Gartref.

Roedd y data yn amlygu rhai gwahaniaethau arwyddocaol rhwng y prosesu a ddefnyddiwyd gan heddluoedd i nodi a rhoi enwau pobl ymlaen ar gyfer gwobrau. Gwelwyd gwahaniaethau sylweddol hefyd yn y nifer o unigolion sy’n cael eu rhoi ymlaen gan heddluoedd i dderbyn anrhydeddau, a gall hyn olygu nad yw gwaith rhai unigolion yn derbyn cydnabyddiaeth briodol. Mae canfyddiadau eraill o’r adolygiad tystiolaeth cyflym yn cynnwys diffyg canllawiau canolog, defnydd anghyson o gynigion hyfforddiant y Swyddfa Gartref, data a gwaith monitro gwael o swyddogion sy’n derbyn medalau ac anrhydeddau, diffyg anrhydeddau perthnasol ar gyfer staff yr heddlu ac absenoldebau dull gweithredu cenedlaethol ar fforffedu medalau ac anrhydeddau.

Gwaith arfaethedig:

O’r gwaith hwn rydym wedi nodi meysydd gwaith pellach:

  • Prosesau cydnabyddiaeth ffurfiol i staff, gan gynnwys medalau ac anrhydeddau perthnasol
  • Cynyddu dealltwriaeth yr heddlu o enwebiadau
  • Fforffediad

Bydd y Gweithgor Anrhydeddau a Gwobrau yn trafod canolbwyntio eu gwaith ar yr adolygiad yn eu cyfarfod nesaf, a gynhelir yn ystod haf 2023.

Rhoddwyd blaenoriaeth i elfen Anrhydeddau’r gwaith hwn yn 2022. Bydd y maes hwn yn parhau i gael ei ddatblygu, er y bydd ffocws cynyddol ar Gofebion er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n colli eu bywydau yn derbyn cydnabyddiaeth yn y ffordd briodol.

Blaenoriaethau Newydd

Cymorth i’r Rhai sy’n Gadael yr Heddlu

Crynodeb o’r flaenoriaeth

Cwmpasu opsiynau ar gyfer model cymorth i’r rhai sy’n gadael plismona, gan gynnwys swyddogion wedi ymddeol a staff. Nodi lle y dylid ymestyn ffrydiau gwaith presennol o dan y Cyfamod i’r rhai sy’n gadael yr heddlu.

Y cynnydd hyd yma:

Cynhaliwyd trafodaeth bord gron gyda swyddogion sydd wedi ymddeol ac aelodau Cymdeithas Genedlaethol Swyddogion yr Heddlu sydd wedi Ymddeol ar 5 Gorffennaf 2022, o dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Plismona. Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar yr heriau meddyliol a chorfforol sylweddol y mae’r rhai sy’n gadael yr heddlu wedi gorfod eu hwynebu, a hynny’n aml iawn gyda chefnogaeth gyfyngedig gan eu heddlu blaenorol neu’r teulu heddlu ehangach, ac ar y profiadau gwahanol a gafodd y rhai sydd wedi gadael yr heddlu pan wnaethant adael y gwasanaeth. Canlyniad y drafodaeth bord gron hon oedd bod angen gwneud gwaith pellach ac y byddai blaenoriaeth newydd yng Nghyfamod yr Heddlu yn helpu i hwyluso hyn.

Gwaith arfaethedig:

Mae gwaith i ddilyn hyn yn cael ei drafod yn y Grŵp Cyflenwi a bwriedir gwneud gwaith manwl pellach ar gasglu tystiolaeth yn ddiweddarach yn 2023. Mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys sefydlu pecyn pontio cynhwysfawr neu ‘lwybr hedfan’ i’w ddefnyddio gan heddluoedd pan fydd swyddogion a staff yn gadael yr heddlu. Rhoddir ystyriaeth hefyd i sut y gellir cyflwyno system debyg i’r ‘porth cyn-filwyr’ gan y Lluoedd Arfog ar gyfer yr heddlu, ac sy’n cynnwys yr hyfforddiant sgiliau a’r gwaith paratoi seicolegol angenrheidiol.

Mae grymoedd o fewn a thu allan i’r Swyddfa Gartref wedi codi’r mater o ‘ddatymgysylltu’ aelodau eu gweithlu. Yn seiliedig ar eu tystiolaeth, maent yn ystyried darparu hyfforddiant ymarferol a sesiynau cynghori, yn ogystal â gwasanaethau seicolegol a chwnsela i’r rhai sy’n gadael yr heddlu er mwyn helpu i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl yr heddlu. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau sy’n cynnwys paratoi CV, hyfforddiant cyfweliadau swydd, hyfforddiant TG a chyngor ariannol er mwyn helpu gyda’r newid diwylliant o adael a darparu cymorth parhaus ar gyfer materion seicolegol sy’n codi ar ôl iddynt adael (er enghraifft mae’n bosibl nad yw Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) yn amlwg tan rai blynyddoedd ar ôl i ddigwyddiad ddigwydd). Mae’r NPWS wedi sicrhau’r bwrdd y bydd y cynnyrch hwn yn barod i’w ddosbarthu i’r heddlu o fis Medi 2023.

Ymgysylltu â’r GIG

Crynodeb o’r flaenoriaeth

Ymchwilio i’r cymorth sydd ar waith ar hyn o bryd mewn cysylltiad â llwybrau gofal iechyd i weithlu’r heddlu. Bydd hyn yn helpu i nodi unrhyw fylchau ar draws nifer o faterion iechyd a lles ac yn sefydlu cynnig ar gyfer sicrhau bod cymorth cyson ar gael yn genedlaethol.

Y cynnydd hyd yma:

Mae’r Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan (Heddlu De Cymru), GIG Cymru a Llywodraeth Cymru wedi dechrau cydweithio ar ‘Bartneriaeth Blismona i Gymru’ er mwyn datblygu model comisiynu i gyflawni anghenion heddluoedd. Mae Grŵp Prif Swyddog Cymru wedi dechrau datblygu model asesu anghenion iechyd yn awr i’w ddefnyddio ar draws pedair ardal yr heddlu yng Nghymru.

Mae’r gwaith hwn yn cael ei ffurfioli yn awr ac, fel y cytunwyd yn PCDG ar 29 Tachwedd 2022, sefydlwyd gweithgor newydd sy’n cynnwys y NPWS, y Prif Swyddog Meddygol, y Swyddfa Gartref a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i drafod ymgysylltiad â’r union broses ar gyfer ffurfioli unrhyw drefniadau.

Gwaith arfaethedig:

Bydd heddluoedd Cymru yn ymgysylltu mewn gwaith pellach gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu prosiect braenaru. Bydd y NPWS yn cefnogi hyn ac yn rhannu’r elfennau gwerthfawr a ddysgwyd er mwyn hysbysu dull gweithredu GIG Lloegr. Bydd y gwaith hwn yn barhaus, a bydd y CGG a’r Prif Swyddog Meddygol yn chwarae rhan hanfodol wrth siapio ac arwain y gwaith hwn.

Drwy ymgysylltu â GIG Lloegr a Gwelliant Cymru, bydd y NPWS yn ceisio cynhyrchu cefnogaeth i gomisiynu gwaith gofal iechyd wedi’i hysbysu gan yr heddlu yn y system gofal iechyd yn 2024. Bydd hyn yn cynnwys datblygu pecyn offer i gefnogi’r gwaith o gomisiynu gofal iechyd wedi’i hysbysu gan yr heddlu yn lleol o dan arweiniad y Prif Gwnstabl yn seiliedig ar asesiad o anghenion iechyd, drwy Bartneriaethau Iechyd Integredig (Lloegr) neu Fyrddau Iechyd (Cymru).

Diogelwch Ochr Ffordd Swyddogion a Staff

Crynodeb o’r flaenoriaeth

Diogelwch ochr ffordd swyddogion a staff - ystyried materion ehangach yn ymwneud â diogelwch swyddogion yr heddlu a staff ar ochr y ffordd a chynnig opsiynau i wella diogelwch (anneddfwriaethol). Gwneir hyn ochr yn ochr ag ymgysylltu â Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) mewn perthynas â chyhuddo o ymosodiadau (wrth ddefnyddio cerbyd fel arf).

Y cynnydd hyd yma:

Roedd Adolygiad Swyddogion a Staff (OSSR) y NPCC yn cynnwys argymhelliad i newid y ddeddfwriaeth i atal troseddwr rhag defnyddio cerbyd yn fwriadol, bygwth neu geisio defnyddio cerbyd i dargedu aelodau o weithlu’r heddlu. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi adolygu’r ddeddfwriaeth yn erbyn esiamplau a ddarparwyd gan y NPCC ac ystyriwyd bod deddfwriaeth ddigonol eisoes mewn grym. Rhoddir ystyriaeth yn awr i ganfod a ellir diwygio’r canllawiau erlyn i adlewyrchu pryderon a fynegwyd ynglŷn ag achosion o bobl yn gyrru’n fwriadol at swyddogion a’u hanafu.

Gwaith arfaethedig:

Mae’r Cyngor Dedfrydu yn y broses o adolygu ei ganllawiau dedfrydu ar gyfer troseddau traffig ffyrdd ac, fel rhan o hyn, bydd yn ystyried pa ddedfrydau ddylai fod ar gael pe bai cyhuddiadau’n cael eu dwyn mewn achosion lle mae cerbydau wedi’u defnyddio i dargedu aelodau o weithlu’r heddlu. Bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron i’w hannog i wneud newidiadau a fydd yn cydnabod difrifoldeb troseddau sy’n ymwneud â defnyddio cerbyd yn erbyn swyddog heddlu i gynyddu diogelwch swyddogion a staff ar ochr y ffordd. Nod Gwasanaeth Erlyn y Goron yw cyhoeddi’r canllawiau cyn diwedd mis Mawrth 2023.

Adolygiad o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth

Mae Adrannau’r Llywodraeth sy’n gysylltiedig â gweithredu Cyfamod yr Heddlu wedi cytuno ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth sy’n cyflwyno’r broses o gasglu data ar gyfer yr adroddiad blynyddol, sy’n gysylltiedig â phrofiadau arbenigol Heddlu Trafnidiaeth Prydain, y Gwnstabliaeth Niwclear Sifil a Heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Ymgynghorir â’r Llywodraethau Datganoledig drwy’r broses hon.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth llofnodedig ar gael yma:

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cyfamod yr Heddlu (MoU) - GOV.UK (www.gov.uk)

Ar ôl creu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn, caiff ei adolygu’n flynyddol i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i’r diben. Bydd unrhyw newidiadau a wneir i’r ddogfen yn cael eu nodi yn yr atodiad hwn mewn adroddiadau blynyddol yn y dyfodol.

Atodiad A: Llywodraeth Cymru

Cyflenwi Cyfamod yr Heddlu yng Nghymru

Yng Nghymru rydym yn datblygu Cyfamod yr Heddlu mewn dull unigryw, sy’n ystyried cyfrifoldeb datganoledig Llywodraeth Cymru dros y Gwasanaethau Tân ac Achub. Mae’r dull hwn hefyd yn adlewyrchu’r ffaith bod llawer o’r gwasanaethau sy’n gysylltiedig â chyflawni’r Cyfamod, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a thai hefyd wedi’u datganoli i Gymru.

Yn y cyd-destun hwn, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i archwilio’r cyfle i ddatblygu Cyfamod ehangach ar gyfer y Gwasanaethau Brys yng Nghymru. Gallai hyn gwmpasu plismona, y gwasanaethau tân ac achub a’r gwasanaethau gofal iechyd brys.

Yn dilyn cyfarfodydd cychwynnol rhwng Llywodraeth Cymru a Plismona Cymru, a thrafodaeth yng nghyfarfod Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru, mae gwaith yn mynd rhagddo ar y Cyfamod yn awr drwy’r Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys (JESG), sy’n cynnwys Prif Swyddogion o’r holl wasanaethau brys yng Nghymru. Bydd cynnydd yn cael ei fonitro’n fisol yng nghyfarfodydd JESG ac adroddir yn ôl ar y trafodaethau i Fwrdd Partneriaeth Plismona Cymru. Adroddir ar y cynnydd hefyd mewn Adroddiadau Blynyddol yn y dyfodol.

Yn unol â Chyfamod y Lluosedd Arfog, bydd y dull gweithredu ar gyfer Cyfamod yr Heddlu a Chyfamod Gwasanaethau Brys yng Nghymru yn canolbwyntio ar fynediad cyfartal at wasanaethau a sicrhau nad yw staff, cyn aelodau o staff a’u teuluoedd o dan anfantais. Mae’r Cyfamod hefyd yn darparu cyfle i adlewyrchu ar gyfrifoldebau presennol cyflogwyr dros iechyd a lles eu staff, a’u helpu i gyflawni’r cyfrifoldebau hynny mor effeithiol â phosibl.

Bydd angen amser a ffocws wrth ddatblygu Cyfamod newydd i Gymru. Ar y cam hwn, mae Llywodraeth Cymru, Plismona Cymru a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru yn cydweithio i ganfod beth fyddai’r Cyfamod yn ei olygu i’w gwasanaethau ac i’r staff a allai elwa ohono.

Atodiad B: Dolenni Perthnasol

Deddfwriaeth Cyfamod yr Heddlu

Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (legislation.gov.uk)

Tudalennau Gwe / Dolenni Cyfamod yr Heddlu

Cyfamod yr Heddlu - GOV.UK (www.gov.uk)

Addewid Cyfamod yr Heddlu

Addewid Cyfamod yr Heddlu - GOV.UK (www.gov.uk)

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU)

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cyfamod yr Heddlu (MoU) - GOV.UK (www.gov.uk)

Gwasanaeth Cenedlaethol Lles yr Heddlu (NPWS)

Gwasanaeth Cenedlaethol Lles yr Heddlu - Oscar Kilo

Lles - Y Coleg Plismona

Adolygiad Cynhyrchiant

Adolygiad wedi’i arwain gan NPCC: cynhyrchiant gweithredol plismona – GOV (www.gov.uk)

Opsiynau Cymorth sydd ar gael

Pecynnau offer ac ymgyrchoedd - Oscar Kilo

Canfod Help - Oscar Kilo

Elusennau a gwasanaethau’r Heddlu - Oscar Kilo

Elusennau’r Heddlu yn y DU

Help Ar Gyfer – Gofal Heddlu y DU

Call4Backup – Elusen Cymorth Cymheiriaid Heddlu’r DU

Hafan - Thin Blue Line UK

Canolfannau Triniaeth yr Heddlu

Hafan – Adsefydliad Flint House yr Heddlu

Elusen Blant yr Heddlu (thepolicechildrenscharity.org)

Backup Buddy UK – Yr Ap Cymorth Iechyd Meddwl i’r Heddlu

Care of Police Survivors – Cymorth i Deuluoedd mewn Profedigaeth - COPS UK (ukcops.org)

Hafan – Ymddiriedolaeth Goffa’r Heddlu

Atodiad C: Rhestr o Acronymau

  • AOEW: Deddf Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys 2018

  • CMO: Prif Swyddog Meddygol

  • CGG: Grŵp Llywodraethiant Glinigol

  • CPOSA: Cymdeithas Staff Prif Swyddogion yr Heddlu

  • CPS: Gwasanaeth Erlyn y Goron

  • FLLDP: Rhaglen Datblygu Arweinwyr Rheng Flaen

  • GP: Ymarferwyr Cyffredinol

  • HMICFRS: Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EF

  • JESG: Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys

  • MoU: Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth

  • MPS: Gwasanaeth Heddlu Metropolitan

  • MoJ: Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

  • NHS: Gwasanaeth Iechyd Gwladol

  • NPCC: Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu

  • NPWS: Gwasanaeth Cenedlaethol Lles yr Heddlu (sef Oscar Kilo)

  • OH: Iechyd Galwedigaethol

  • OHNAPS: Cynghorwyr Nyrsio Iechyd Galwedigaethol i Wasanaeth yr Heddlu

  • OSSR: Adolygiad Diogelwch Swyddogion a Staff

  • PEEL: Effeithiolrwydd, Effeithlonrwydd a Chyfreithlondeb yr Heddlu

  • PCDG: Grŵp Cyflenwi Cyfamod yr Heddlu

  • PDS: Gwasanaeth Digidol yr Heddlu

  • PFEW: Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr

  • PSA: Cymdeithas Uwcharolygwyr yr Heddlu

  • PEQF: Fframwaith Addysg a Chymwysterau Plismona

  • PTSD: Anhwylder Straen Ôl-drawmatig

  • RIDDOR: Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus

  • RCGP: Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

  • SISR: Lleihau Straen i Wella Gwasanaeth

Atodiad D: Cefndir Cyfamod yr Heddlu

Mae Cyfamod yr Heddlu yn addewid i wneud mwy fel gwlad i gynorthwyo’r rhai sy’n gwasanaethu’r wlad hon ac yn benodol cydnabod dewrder, ymrwymiad ac aberthau’r rhai sy’n gweithio neu sydd wedi gweithio i’r heddlu.

Ceisia’r Cyfamod sicrhau nad yw aelodau neu gyn-aelodau gweithlu’r heddlu yng Nghymru a Lloegr o dan anfantais o ganlyniad i weithio i’r heddlu.

Mae’r Cyfamod yn gydnabyddiaeth gan y llywodraeth, plismona a’r gymdeithas gyfan, sy’n cydnabod yr aberthau a wnaed gan y rhai sy’n gweithio neu sydd wedi gweithio i’n heddluoedd.

Bwriedir i’r Cyfamod sicrhau nad yw swyddogion, staff, gwirfoddolwyr a’u teuluoedd o dan anfantais o ganlyniad i’w gwasanaeth yn yr heddlu a cheisio lliniaru’r effaith y gallai hyn ei chael ar fywyd bob dydd.

Yn ymarferol, bydd y Cyfamod yn:

  • gosod dyletswydd gyfreithiol ar y llywodraeth i adrodd i’r Senedd yn flynyddol ar faterion sy’n gysylltiedig â lles, llesiant a chymorth yr heddlu
  • ceisio gwella’r profiad o weithio i bobl sy’n gweithio i’r heddlu
  • helpu i sicrhau proses adael ddidrafferth i’r rhai sy’n gadael yr heddlu
  • darparu cymorth i deuluoedd y rhai sy’n gweithio i’r heddlu

Ym mis Gorffennaf 2022, daeth prif swyddogion o bob ardal yr heddlu yng Nghymru a Lloegr at ei gilydd i gytuno ar ‘Addewid Cyfamod yr Heddlu’. Mae’r addewid hwn yn cadarnhau eu cymorth parhaus i nodau’r Cyfamod a’r gwaith cysylltiedig.

“Fel Prif Gwnstabl / Comisiynydd rwy’n llwyr gefnogi egwyddorion a phwrpas Cyfamod yr Heddlu. Am y tro cyntaf yn hanes plismona mae gennym gyfle i greu ymrwymiad cenedlaethol a fydd yn rhoi blaenoriaeth gychwynnol i ddiogelwch corfforol, iechyd a lles y rhai sy’n gweithio ym maes plismona a hefyd, ymhen amser, cymorth i’w teuluoedd. Bydd blaenoriaethau’r Cyfamod bob amser yn cael eu llywio gan leisiau’r gweithlu yn ogystal ag ymchwil a byddaf yn parhau i chwarae fy rhan i sicrhau bod y blaenoriaethau’n cael eu trosi’n newid ystyrlon ar lefel yr heddlu. Yn bwysig, bydd y Cyfamod yn rhoi cyfle i ni rannu heriau plismona’n ehangach ar draws y Llywodraeth fel y gallwn feithrin cefnogaeth a chydnabyddiaeth i gyfraniad hollbwysig swyddogion a staff yr heddlu wrth iddynt weithio’n ddiflino i’n cadw’n ddiogel”.