Guidance
Hysbysiad Preifatrwydd Cwsmer yn Gymraeg: Rhestr Termau Technegol
Updated 11 November 2025
Applies to England and Wales
| Term | Diffiniad |
|---|---|
| MHCLG | Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol |
| ICO | Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth |
| GDPR y DU | Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y Deyrnas Unedig |
| ALl | Awdurdod Lleol |
| Data Personol | Unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn byw adnabyddedig neu adnabyddadwy (testun data), fel enw, cyfeiriad, e-bost, neu rif adnabod. |
| Testun Data | Unigolyn y mae ei ddata personol yn cael ei brosesu. Mae’r gyfraith diogelu data yn berthnasol i unigolion byw yn unig. |
| Data Categori Arbennig | Data personol sensitif y mae angen ei ddiogelu’n ychwanegol, gan gynnwys data sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol, aelodaeth ag undeb llafur, data genetig neu fiometrig, iechyd, bywyd rhywiol, neu gyfeiriadedd rhywiol. |
| Data Biometrig | Data personol yn ymwneud â nodweddion corfforol, ffisiolegol, neu ymddygiadol, sy’n caniatáu ar gyfer adnabod unigolyn (e.e., delweddau wyneb, olion bysedd). |
| Prosesu | Unrhyw weithred a gyflawnir ar ddata personol, gan gynnwys casglu, cofnodi, trefnu, storio, newid, adalw, defnyddio, datgelu, dileu, neu ddinistrio. |
| Rheolydd (Rheolydd Data) | Y sefydliad sy’n pennu’r dibenion a’r dulliau ar gyfer prosesu data personol. Mae’n gyfrifol am gydymffurfio â’r gyfraith diogelu data. |
| Prosesydd Data | Unigolyn neu sefydliad sy’n prosesu data personol ar ran y rheolydd, yn unol â’i gyfarwyddiadau. |
| Sail Gyfreithlon | Y sail gyfreithiol dros brosesu data personol, fel yr amlinellir yn Erthygl 6 GDPR y DU (e.e., cydsyniad, rhwymedigaeth gyfreithiol, tasg gyhoeddus, buddiannau dilys). |
| Cydsyniad | Arwydd penodol a diamwys o ddymuniadau testun data, a roddir yn rhydd ac ar sail gwybodaeth, sy’n dangos ei fod yn cytuno â phrosesu ei ddata personol. |
| Tor Diogelwch Data (Tor Diogelwch Data Personol) | Tor diogelwch sy’n arwain at ddinistrio, colli neu newid data personol, ei ddatgelu heb awdurdod neu gael mynediad ato yn ddamweiniol neu’n anghyfreithlon. |
| Amgryptio | Y broses o drosi gwybodaeth neu ddata yn god er mwyn atal mynediad heb ei awdurdodi. |
| Hawliau Unigol | Hawliau a roddir i destunau data o dan GDPR y DU, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad, cywiro, dileu, cyfyngu, gwrthwynebu, a chludadwyedd data. |
| Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR) | Cais gan destun data i gael at ei ddata personol a ddelir gan reolydd. |
| Trydydd Parti | Unrhyw unigolyn neu sefydliad heblaw am destun y data, y rheolydd, neu’r prosesydd. |