Guidance

Customer Privacy Notice in Welsh

Updated 21 February 2024

Applies to England and Wales

Diben yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod data personol ein cwsmeriaid yn cael ei drin yn unol â’r egwyddorion a amlinellir mewn deddfau diogelu data.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn adlewyrchu gofynion Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y Deyrnas Unedig a Deddf Diogelu Data 2018, ac yn ymdrin â phob math o Waith Achos yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Cymru a Lloegr. Ar 1 Hydref 2021, bydd y cyfrifoldeb am waith yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru yn trosglwyddo i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cael ei ategu gan drosglwyddo cofnodion cwsmeriaid, a phan fydd y newid hwn wedi digwydd bydd data cwsmeriaid yn cael ei drin yn unol â pholisïau trin data a phreifatrwydd Llywodraeth Cymru.

Mae’n rhoi gwybod i chi ynghylch:

  • Manylion penodol yr arferion trin data personol yn yr Arolygiaeth Gynllunio a’r hyn y gallwch ddisgwyl i’r Arolygiaeth Gynllunio ei wneud â’r wybodaeth y mae’n ei chasglu.
  • Pa wybodaeth bersonol rydym ni’n ei chasglu, sut rydym ni’n ei chasglu, ei defnyddio, ei storio, ei rhannu a’i gwaredu.
  • Gwybodaeth bersonol a ddarperir yn rhan o holl Waith Achos yr Arolygiaeth Gynllunio y gallwch ei gwneud, neu wneud sylwadau arni, neu a ddarperir gan Adrannau a Sefydliadau eraill y Llywodraeth gan ddefnyddio unrhyw un o Wefannau’r Arolygiaeth Gynllunio neu ddulliau eraill.
  • ut rydym yn prosesu unrhyw wybodaeth bersonol, gan gynnwys data categori arbennig rydych wedi’i ddarparu i ni’n wirfoddol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chi neu wybodaeth unrhyw unigolyn trydydd parti arall y gallech fod wedi’i darparu drwy ein gwefannau yn ymwneud ag Apeliadau Cynllunio, Cynlluniau Lleol, Atodlenni Ardoll Seilwaith Cymunedol, Strategaeth Datblygu Gofodol, Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPs) a Phrosiectau Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS).

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ymdrin ag ystod o wahanol fathau o waith achos a gyflwynir trwy’r gwefannau isod ac amrywiaeth o ddulliau eraill e.e. post, trosglwyddiad digidol ac e-bost.

  • mae’r Porth Gwaith Achos Apeliadau a’r gwasanaeth penderfyniadau apeliadau a chynllunio yn ymdrin ag ystod o Apeliadau Cynllunio a Gorfodi (fel y cofnodir yn Atodiad A)
  • Y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol (fel y cofnodir yn Atodiad A)
  • Mae’r wefan Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn ymdrin â Cheisiadau ac Archwiliadau (fel y cofnodir yn Atodiad B).
  • O ran gwaith achos arbenigol penodol, bydd yr Arolygiaeth yn cyhoeddi dogfennau ar y wefan GOV.UK.

Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am sut rydym yn prosesu gwybodaeth bersonol wrth ymdrin â chwynion.

Gallai’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn gael ei ddiweddaru a/neu ei ailgyhoeddi unrhyw bryd, a byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddiweddariadau o’r fath trwy wefan GOV.UK a gwefan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Yn unol â’n disgresiwn, fe allem roi gwybod i chi trwy ddarparu hysbysiad ‘mewn union bryd’ i ymdrin ag unrhyw weithgareddau prosesu ychwanegol na chrybwyllir yn y ddogfen hon.

Diffiniad o Ddata Personol

Mae GDPR y Deyrnas Unedig a Deddf Diogelu Data 2018 yn berthnasol i brosesu data personol sy’n ymwneud ag unigolyn (testun data) adnabyddedig neu adnabyddadwy y mae’r data personol yn ymwneud ag ef:

  • Pan ellir adnabod testun y data yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’r wybodaeth honno ar y cyd â gwybodaeth arall.
  • Yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy ddulliau awtomataidd, prosesu heblaw trwy ddulliau awtomataidd ddata personol sy’n ffurfio rhan o system ffeilio, neu y bwriedir iddo ffurfio rhan o system ffeilio.
  • Mae data personol dim ond yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â bod dynol y gellir eu hadnabod neu sy’n adnabyddadwy, yn uniongyrchol o’r wybodaeth dan sylw
  • Gallai gwybodaeth am unigolion sy’n gweithredu fel unig fasnachwyr, cyflogeion, partneriaid a chyfarwyddwyr cwmni lle y gellir eu hadnabod yn unigol, ac mae’r wybodaeth yn ymwneud â nhw fel unigolyn, fod yn gyfystyr â data personol.

Nid yw’n cynnwys:

  • Achosion lle mae hunaniaeth cyfranogwyr wedi cael ei dileu (data dienw).
  • Gwybodaeth am unigolyn sydd wedi marw.
  • Cwmnïau neu Awdurdodau Cyhoeddus

Mae “categorïau arbennig” o ddata personol (a adwaenwyd fel “data personol sensitif” o dan y gyfraith diogelu data flaenorol). Mae’r rhain yn fwy sensitif eu natur ac mae’n rhaid eu trin mewn ffordd benodol o dan y ddeddfwriaeth.

Ymrwymiad polisi i fod yn agored ac yn dryloyw

Un o werthoedd sylfaenol yr Arolygiaeth Gynllunio yw ein hymrwymiad i fod yn agored ac yn dryloyw mewn perthynas â’n rôl statudol wrth brosesu a phenderfynu ar waith achos cynllunio a’r holl waith achos arall cysylltiedig.

Mewn llawer o achosion, yn enwedig prosesau cynllunio, ceir rhwymedigaethau sy’n mynnu ein bod yn rhannu’r wybodaeth a gawn ac, mewn rhai achosion, ein bod yn sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i’r cyhoedd. Rydym yn rhagdybio’n gyffredinol o blaid datgelu, ond bydd penderfyniadau unigol yn ystyried ein rhwymedigaethau statudol, gan gynnwys o dan ddeddfwriaeth diogelu data.

Rheolwr Data

Yr Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau (DLUHC) yw’r Rheolwr Data at ddibenion diogelu data (mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn “Asiantaeth Weithredol” o’r DLUHC). Cyfeiriad yr Adran yw:

Fry Building,
2 Marsham Street,
Llundain
SW1P 4DF

a’n Rhif Cofrestru ICO yw Z7123035.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gyfrifol am benderfynu sut rydym yn casglu, storio a phrosesu eich gwybodaeth bersonol. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn esbonio’n syml sut rydym yn casglu, defnyddio a rhannu eich data.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi penodi Uwch Reolwr Diogelu Data i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr Hysbysiad

Preifatrwydd hwn neu sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol, neu’n credu nad ydym wedi cydymffurfio â’ch hawliau fel testun data, cysylltwch â’r Uwch Reolwr Diogelu Data:

Temple Quay House,
2 The Square,
Temple Quay,
Bryste
BS1 6PN

Mae cydymffurfiaeth yr Arolygiaeth Gynllunio â diogelu data yn cael ei goruchwylio’n ffurfiol gan Swyddog Diogelu Data’r DLUHC. Cewch gysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Adran:

DLUHC Data Protection Officer,
Ground Floor,
Fry Building,
Marsham Street,
Llundain
SW1P 4DF

Sut i gwyno am brosesu’ch gwybodaeth

Pan fyddwn yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol, byddwn yn cydymffurfio â’r Ddeddfwriaeth/Rheoliadau Diogelu Data.

Os credwch nad ydym wedi cydymffurfio â’ch hawliau fel testun data, neu ein rhwymedigaethau, ac rydych yn anfodlon â’r ffordd y mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn neu sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni ar dataprotection@planninginspectorate.gov.uk

Hefyd, i gael cyngor annibynnol ar faterion diogelu data, cewch uwchgyfeirio unrhyw gŵyn unrhyw bryd at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (awdurdod goruchwyliol y Deyrnas Unedig ar gyfer materion Diogelu Data). Gweler isod y cyfeiriad post, y rhif ffôn a dolen i’r wefan:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane, Wilmslow
Swydd Gaerlleon
SK9 5AF

Rhif llinell ffôn gymorth: 0303 123 1113

https://ico.org.uk/

1. Pwy ydym ni?

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn asiantaeth weithredol, a noddir gan yr Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau (DLUHC).

  • O dan ddeddfwriaeth diogelu data, rydym yn gweithredu trwy ein noddwr ac mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gyfrifol am benderfynu sut rydym yn casglu, storio a phrosesu’ch gwybodaeth bersonol.
  • Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ymdrin â phob agwedd ar apeliadau cynllunio, ceisiadau cynllunio seilwaith cenedlaethol, archwiliadau o gynlluniau lleol ac unrhyw waith achos arall sy’n gysylltiedig â chynllunio a gwaith achos arbenigol.
  • Cynhelir y rhain gan yr Arolygiaeth Gynllunio neu ar ran yr Ysgrifenyddion Gwladol perthnasol yn Lloegr.
  • Ar gyfer Atodlenni Ardoll Seilwaith Cymunedol (CILs), penodir ein Harolygwyr gan yr Awdurdod Codi Tâl i archwilio ei Atodlen Codi Tâl.

2. Sut rydym yn casglu gwybodaeth bersonol?

  • Byddwch wedi rhoi gwybodaeth i ni’n uniongyrchol os byddwch yn gwneud neu’n cymryd rhan mewn apêl gynllunio, cais neu archwiliad yn rhan o’n prosesau cynllunio.
  • Fe allech hefyd roi gwybodaeth categori arbennig i ni’n uniongyrchol os ydych yn rhoi gwybodaeth am eich amgylchiadau personol (a allai hefyd gynnwys gwybodaeth categori personol ac arbennig am destunau data eraill) yr ydych eisiau iddi gael ei hystyried yn y prosesau cynllunio.
  • Fel arfer, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol (ALlau) roi gwybodaeth berthnasol i ni am yr achos e.e. o ran apêl gynllunio, byddant yn anfon y cynrychiolaethau a gawsant yn ystod y cam cais cynllunio atom.
  • O ran Cynlluniau Lleol, bydd ALlau yn cyflwyno gwybodaeth i ni ynglŷn â’u cynllun lleol arfaethedig neu atodlen CIL, gan gynnwys y cynrychiolaethau a gawsant ynglŷn â nhw.
  • Yn ystod yr archwiliad, bydd yr Arolygydd hefyd yn clywed cynrychiolaethau llafar gan y partïon ac yn ystyried unrhyw gynrychiolaethau ysgrifenedig ychwanegol a dderbynnir yn ystod yr archwiliad hwnnw.
  • Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) yn darparu swyddog rhaglen i gefnogi’r Arolygydd, a bydd cynrychiolaethau’n cael eu cyfnewid rhwng yr ALl a’r cyfranogwyr eraill yn yr archwiliad a’r Arolygydd trwy’r swyddog rhaglen.
  • Mae adrannau ac asiantaethau eraill y Llywodraeth yn darparu gwybodaeth berthnasol.
  • Trwy ein cyfryngau cymdeithasol neu ein gwefannau, e.e. data cysylltiad a anfonir i’n gweinydd gwe gan eich porwr pan fyddwch yn cysylltu â’n gwefan.
  • drwy ffurflen gyswllt
  • Pan fyddwch yn dymuno mynychu un o weminarau’r Arolygiaeth Gynllunio.
  • Pan fyddwch wedi gwneud cwyn neu ymholiad i’r sefydliad.
  • Pan fyddwch wedi gwneud cais i’r sefydliad am gael gweld gwybodaeth.
  • Pan fyddwch yn dymuno mynychu, neu wedi mynychu, digwyddiad cynllunio, ymchwiliad neu wrandawiad yn bersonol neu mewn digwyddiad rhithwir neu rithwir cyfunol. Cesglir gwybodaeth benodol ar gyfer Digwyddiadau Rhithwir a Digwyddiadau Cyfunol (gweler pwynt 15 isod am fanylion llawn).

3. Pam rydym ni’n prosesu’ch gwybodaeth bersonol?

Mae’r wybodaeth a roddir i ni yn cael ei defnyddio i benderfynu ar apeliadau, gorchmynion, ceisiadau ac archwiliadau, achosion apeliadau cynllunio, ceisiadau, ac archwiliadau. Mae telerau ac amodau’r Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) yn darparu gwybodaeth ar wahân am sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol y gallem ei chasglu a’r mathau o ddata personol y gallem eu casglu wrth gyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddfwriaeth Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a deddfwriaeth arall sy’n ymwneud â gwaith achos arall a restrir yn Atodiad A (Gwaith Achos Lloegr). Mae telerau ac amodau’r ACP yn darparu gwybodaeth ar wahân am sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol os byddwch yn cofrestru ar gyfer cyfrif ACP (darperir dolen isod ym Mhwynt 17).

Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP)

Mae’r wybodaeth a roddir i ni trwy’r ACP yn cael ei defnyddio i brosesu achosion Apeliadau Cynllunio a Gorfodi.

  • Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn rhoi arweiniad ar wneud a chymryd rhan mewn mathau o waith achos a chyfeiriadau at y rheolau gweithdrefnol statudol sy’n berthnasol.
  • Yn unol â’r rheolau statudol, mae copi o gynrychiolaethau gwaith achos fel arfer yn cael ei roi i’r apelydd/ymgeisydd, yr awdurdod lleol (ALl) a phartïon statudol eraill i’r achos.
  • Mae hefyd yn ofynnol i’r ALl sicrhau bod cynrychiolaethau’r gwaith achos ar gael i unrhyw un sy’n dymuno eu gweld.
  • Gan eu bod yn rhoi cyd-destun i’ch cynrychiolaeth ac yn caniatáu i’r achos gael ei gynnal yn effeithiol e.e. yn caniatáu i bartïon â safbwyntiau tebyg adnabod ei gilydd a chytuno i gyflwyno safbwyntiau ar y cyd mewn unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad), mae’r cynrychiolaethau a gawn fel arfer yn cael eu cyfnewid rhwng y partïon heb olygu cynnwys na gwybodaeth gyswllt, ar yr amod bod yr Arolygiaeth Gynllunio o’r farn bod hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur.
  • Gall y wybodaeth a roddir yn wirfoddol gynnwys gwybodaeth bersonol am unigolion eraill yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac fe allai gynnwys gwybodaeth categori arbennig e.e. gwybodaeth feddygol am bartïon eraill (gweler y paragraff ynghylch Data Categori Arbennig i gael rhagor o wybodaeth). Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn prosesu data o’r fath dim ond pan ellir ei gyfiawnhau a phan fydd ganddi sail gyfreithiol briodol i wneud hynny.
  • Sylwer na fyddwn yn derbyn cynrychiolaethau dienw na chyfrinachol, ond cewch wneud sylwadau ar achos a gofyn i’ch hunaniaeth beidio â chael ei datgelu.
  • Os byddwch yn gofyn am hyn, bydd eich cynrychiolaeth yn cael ei chopïo i’r partïon a’i rhoi i’r Arolygydd heb eich enw a’ch manylion cyswllt, ac mae’n bosibl y bydd yr Arolygydd yn rhoi llai o bwys i’ch cynrychiolaeth o ganlyniad.
  • Os na fyddwch eisiau cael eich adnabod o’ch cynrychiolaeth, dylech osgoi cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.

Bydd yr Arolygydd a benodwyd yn ystyried y wybodaeth a roddwyd yn y cynrychiolaethau ac yn gwneud ei benderfyniad. Bydd ei hysbysiad o benderfyniad yn rhoi’r canlyniad ar gyfer yr achos a’i resymau drosto.

Y wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi ar yr ACP

Rydym yn cyhoeddi crynodeb o fanylion achosion rydym yn eu prosesu ar y Porth Gwaith Achos Apeliadau.

  • Enw’r apelydd/ymgeisydd a chyfeiriad y safle.
  • Rydym hefyd yn cyhoeddi’r penderfyniad Terfynol.
  • Mae gennym bolisi golygu ac rydym yn dileu rhifau ffôn personol, cyfeiriadau e-bost a llofnodion, yn ogystal â gwybodaeth categori arbennig (fel gwybodaeth am iechyd unigolyn).
  • Os oes gennych bryderon am gyhoeddi eich gwybodaeth, dylech eu trafod gyda’r Swyddog Achos yn y lle cyntaf cyn cyflwyno eich cynrychiolaeth.
  • Fodd bynnag, os oes gennych bryderon pellach ynglŷn â phrosesu neu drin eich data personol, cysylltwch ag Uwch Reolwr Diogelu Data yr Arolygiaeth Gynllunio.
  • Er efallai na fyddwn yn cyhoeddi pob dogfen neu bob achos, mae gennym rwymedigaeth statudol i anfon copi o gynrychiolaethau at y partïon perthnasol. Mae’n ofynnol i’r ALl sicrhau eu bod ar gael i unrhyw un a allai ddymuno eu gweld, felly fe allech ddymuno cysylltu â’r ALl hefyd i gadarnhau pa wybodaeth y mae’n ei chyhoeddi.

Gwefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPs)

Mae’r wybodaeth a roddir ar gyfer NSIPs yn cael ei defnyddio i helpu i archwilio ceisiadau o dan broses Deddf Cynllunio 2008.

Mae’n rhoi gwybodaeth am y math o wybodaeth bersonol y gallai’r Arolygiaeth Gynllunio ei chasglu wrth gyflawni ein dyletswyddau a’n cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cynllunio 2008.

Mae’n bwysig nodi bod gan yr Arolygiaeth Gynllunio swyddogaethau a dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Cynllunio 2008 a’i rheolau a’i rheoliadau gweithdrefnol sy’n mynnu ein bod yn:

  • Sicrhau bod mathau penodol o ddogfennau a gwybodaeth ar gael yn eang i gyfranogwyr eraill, a allai gynnwys gwybodaeth bersonol, gan gynnwys sicrhau bod y rhain ar gael i’r cyhoedd.
  • Rydym yn gwneud hyn trwy gyhoeddi dogfennau a gwybodaeth ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.
  • Os oes gennych ymholiadau neu bryderon penodol ynglŷn â phrosesu eich data personol yn y modd hwn, cysylltwch â’r swyddog achos perthnasol yn y lle cyntaf i drafod yr arweiniad a’ch pryderon.
  • Yn unol â Rheol 21 Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010, mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio sicrhau bod yr holl Gynrychiolaethau Perthnasol, Cynrychiolaethau Ysgrifenedig a dogfennau eraill a gyflwynir mewn perthynas ag archwilio cais ar gael i’r cyhoedd.
  • O dan adran 39 Deddf Cynllunio 2008, mae hefyd yn ofynnol i ni sicrhau bod y dogfennau sy’n ffurfio pob cais am ganiatâd datblygu ar gael i’r cyhoedd. Yn y ddau achos, gwneir hyn trwy gyhoeddi’r dogfennau hyn ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.
  • O dan adran 51 Deddf Cynllunio 2008, mae hefyd yn ofynnol i ni gyhoeddi unrhyw gyngor a roddir gennym ynghylch gwneud cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu; a gwneud cynrychiolaeth ynglŷn â chais am Orchymyn Caniatâd Datblygu.
  • Bydd yr Awdurdod Archwilio yn ystyried y wybodaeth a roddir ym mhob cynrychiolaeth yn ystod ei archwiliad ac wrth baratoi ei Adroddiad Argymhelliad.
  • Anfonir yr adroddiad hwn at yr Ysgrifennydd Gwladol, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar geisiadau o dan Ddeddf Cynllunio 2008.
  • Sylwer na fyddwn yn derbyn cynrychiolaethau dienw na chyfrinachol.

Y wybodaeth a gyhoeddwn ar-lein

O dan Ddeddf Cynllunio 2008 a’r rheolau a’r rheoliadau gweithdrefnol statudol, mae’n ofynnol i ni gyhoeddi:

  • Dogfennau cais
  • Cynrychiolaethau Perthnasol, Cynrychiolaethau Ysgrifenedig, a dogfennau eraill ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.
  • Bydd y cofnodion cyhoeddedig hyn yn cynnwys enw’r unigolyn sydd wedi cyflwyno’r ddogfen.
  • Yr Arolygydd neu’r Arolygwyr a benodwyd i archwilio cais.
  • Cyn cyhoeddi’r rhan fwyaf o ddogfennau, rydym yn golygu (neu’n ‘tywyllu’) manylion personol penodol, e.e. rhifau ffôn; cyfeiriadau; cyfeiriadau e-bost; llofnodion a gwybodaeth bersonol sensitif (data categori arbennig).
  • Rydym hefyd yn golygu unrhyw gynnwys yr ystyriwn y gallai fod yn enllibus.
  • Ni fyddwn yn golygu unrhyw wybodaeth bersonol mewn dogfennau a gynhyrchwyd gan ymgeiswyr lle y byddai hyn yn atal archwilio cais yn effeithiol e.e. yn atal yr Arolygiaeth Gynllunio rhag cyflawni ei thasg gyhoeddus. Er enghraifft, mae rhai dogfennau sy’n cael eu cyhoeddi (e.e. y Llyfr Cyfeirio) yn cynnwys enwau a chyfeiriadau Partïon â Buddiant oherwydd byddai’r Datblygiad Arfaethedig yn effeithio ar dir neu hawliau’r Partïon â Buddiant hynny.
  • Rydym hefyd yn cyhoeddi Adroddiad Argymhelliad yr Awdurdod Cynllunio a phenderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, fel arfer heb eu golygu ond yn ddarostyngedig i’n rhwymedigaeth diogelu data, y gallai’r ddau gynnwys gwybodaeth bersonol.

Warws Data Gwybodaeth Reoli

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn defnyddio warws data i gefnogi cynhyrchu gwybodaeth ddadansoddi a gwybodaeth reoli. Defnyddir hwn i helpu cyflenwi gwasanaethau mwy effeithlon i’n cwsmeriaid. Mae’r data a ddefnyddir yn cynnwys gwybodaeth a gesglir wrth ymdrin â gwaith achos, a bydd yn cynnwys data personol. Lle bynnag y bo modd, dim ond data cyfanredol wedi’i anonymeiddio y byddwn yn ei ddefnyddio, fel na ellir adnabod unrhyw unigolyn ohono. Lle nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn cymhwyso lleihau data a ffugenwi i brosesu’r data hwn fel y bo’n briodol, a dim ond nifer gyfyngedig o staff yr Arolygiaeth Gynllunio fydd â mynediad i’r data.

Profi a Datblygu Systemau a Chynhyrchion

Weithiau gall yr Arolygiaeth Gynllunio ddefnyddio eich data personol er mwyn helpu i brofi a datblygu ein systemau a’n cynhyrchion. Mae hyn er mwyn gwella eich profiad ac ansawdd ein gwasanaethau. Lle bynnag y bo’n bosibl, byddwn yn defnyddio data personol dienw neu fathau eraill o ddata personol anadnabyddadwy at y dibenion hyn.

4. O dan ba Sail Gyfreithiol rydym yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol?

Mae angen i ni brosesu’ch gwybodaeth bersonol er mwyn i ni allu hwyluso’r broses gynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, Deddf Cynllunio 2008, ac amryw ddeddfwriaethau eraill e.e. Deddf Priffyrdd 1980, ar gyfer holl waith achos yr Arolygiaeth Gynllunio.

Amlinellir y seiliau cyfreithlon ar gyfer prosesu yn Erthygl 6 GDPR y Deyrnas Unedig. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn defnyddio’r seiliau cyfreithlon a fanylir yn:

Erthygl 6(1)(a) Lle mae’r cwsmer wedi rhoi ei ganiatâd i brosesu ei ddata personol at ddiben penodedig.

Erthygl 6(1)(c) Ar gyfer prosesu cynrychiolaethau ysgrifenedig a dogfennau, y sail gyfreithlon sy’n ymwneud â phrosesu sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ddarostyngedig iddi.

Erthygl 6(1)(e) Ar gyfer prosesu sy’n ofynnol i gyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Erthygl 9(2)(g) Ar gyfer prosesu Data Categori Arbennig, y sail gyfreithlon yw pan fydd prosesu categorïau arbennig o ddata personol yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd. Mae hefyd yn ymwneud â’n tasg gyhoeddus a diogelu eich hawliau sylfaenol, ac Atodlen 1 rhan 2(6) DPA2018 sy’n ymwneud â dibenion statudol a llywodraeth.

5. Pa ddata personol rydym ni’n ei brosesu?

Rydym yn casglu a phrosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch, gan gynnwys:

  • Unrhyw a phob math o wybodaeth bersonol a roddoch i ni’n wirfoddol yn rhan o un neu fwy o’r prosesau canlynol: Apêl Gynllunio, Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP), Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS), a gwaith achos arbenigol.
  • Gall y wybodaeth gynnwys gwybodaeth bersonol am unigolion eraill yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac fe all gynnwys data categori arbennig e.e. gwybodaeth feddygol am bartïon eraill (gweler y paragraff isod ynghylch Data Categori Arbennig i gael rhagor o wybodaeth).
  • O ran Cynlluniau Lleol, Strategaethau Datblygu Gofodol (SDS) a CILs, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn derbyn unrhyw wybodaeth bersonol a gynhwysir mewn unrhyw ddogfen a anfonir atom mewn cysylltiad â’r archwiliad o’r Cynllun Lleol, yr SDS neu’r atodlen CIL gan yr ALl neu’r swyddog rhaglen a benodwyd gan yr ALl. Mae ein Canllaw Gweithdrefnol ar Archwiliadau Cynllun Lleol yn egluro bod angen i Arolygwyr wybod enw unrhyw unigolyn sy’n gwneud cynrychiolaeth yn unig er mwyn ystyried y gynrychiolaeth honno. Gallai’r ALl, sef y rheolwr, olygu gwybodaeth bersonol arall a roddir i ni trwy’r swyddog rhaglen, neu beidio; bydd hefyd yn mynnu cael cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a/neu rif ffôn unrhyw unigolyn sy’n gwneud cynrychiolaethau ynglŷn â’r cynllun/atodlen CIL er mwyn gweinyddu’r archwiliad.
  • Eich enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn (yn gyffredinol ac os yw’n gyfranogwr mewn digwyddiad rhithwir sy’n ymuno trwy ffôn symudol neu ffôn tirlinell)
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cyfeiriad IP
  • Enw arddangos
  • Hunanddelwedd - Os rhennir fideo.
  • Gohebiaeth ar ffurf electronig a chopi caled
  • Dogfennau cais
  • Cyflwyniadau ysgrifenedig a wnaed gan Bartïon â Buddiant ac eraill sy’n ymwneud â phroses yr apêl gynllunio
  • Bydd fideo, sain a ffrwd fyw o ddigwyddiadau rhithwir yr Arolygiaeth Gynllunio yn cael eu cyhoeddi ar y wefan berthnasol.
  • Nodiadau ysgrifenedig
  • Copïau caled o wybodaeth
  • Gwybodaeth a roddwyd gan adrannau a sefydliadau eraill y Llywodraeth

Data Categori Arbennig

Data categori arbennig a ddiffinnir yn Erthygl 9 y GDPR fel data personol yw:

  • Hiliol neu darddiad ethnig
  • Safbwyntiau gwleidyddol
  • Credoau crefyddol neu athronyddol
  • Aelodaeth o undeb llafur
  • Data genetig
  • Data biometrig at ddiben adnabod bod dynol yn unigryw
  • Data yn ymwneud ag iechyd neu
  • Ddata yn ymwneud â bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol bod dynol

Nid yw hyn yn cynnwys data personol am honiadau, achosion neu euogfarnau troseddol, gan fod rheolau ar wahân yn berthnasol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau ar wahân y Comisiynydd Gwybodaeth ar ddata troseddau.

  • Ni fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gofyn am ddata categori arbennig fel mater o drefn yn rhan o’n gweithgareddau prosesu. Fodd bynnag, fe allai gael ei ddarparu yn rhan o’r broses. Pan fyddwch yn cyflwyno data categori arbennig, gwnewch yn siŵr ei fod yn angenrheidiol ac yn berthnasol i’r achos.
  • Ar gyfer rhai achosion, efallai y bydd angen i ni gasglu rhywfaint o ddata categori arbennig i’r graddau bod hyn yn berthnasol i’r achos. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys neu ymwneud â gwybodaeth am statws (cefndir teuluol, perthnasoedd a dibynyddion), busnes a bywoliaeth, yn ogystal â llety, iechyd a/neu anghenion addysgol.
  • Gall y wybodaeth a roddir yn wirfoddol gynnwys gwybodaeth bersonol am unigolion eraill yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac fe all gynnwys gwybodaeth categori arbennig e.e. gwybodaeth feddygol am bartïon eraill. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn prosesu data o’r fath dim ond pan ellir ei gyfiawnhau a phan fydd ganddi sail gyfreithiol briodol i wneud hynny. Gwnewch yn siŵr ei bod yn angenrheidiol ac yn berthnasol i’r achos pan fyddwch yn ei rhoi i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Efallai y byddwn yn prosesu ac yn storio categorïau arbennig o wybodaeth bersonol fwy sensitif sy’n ymwneud ag unrhyw unigolyn a roddir yn wirfoddol gennych chi yn rhan o’r holl broses gwaith achos cynllunio rydych eisiau iddi gael ei hystyried e.e. gwybodaeth feddygol yn ymwneud â chi eich hun, aelod o’r teulu ac, mewn rhai achosion, plentyn. Gallai’r wybodaeth bersonol a roddir gael ei dal ar system gyfrifiadurol, neu ar gofnod papur fel mewn ffeil ffisegol.

6. Beth yw canlyniadau peidio â darparu gwybodaeth?

  • Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sy’n ofynnol i ni i ddilysu eich achos, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ei ystyried. Byddwn fel arfer yn rhoi gwybod i chi os bydd hyn yn wir.
  • Nid oes rhwymedigaeth statudol ar bartïon â buddiant i gymryd rhan mewn achos.
  • Os ydych yn apelydd/asiant nad yw’n rhoi’r wybodaeth statudol sy’n angenrheidiol i ddilysu eich achos o fewn y cyfnodau amser penodedig, ni fyddwn yn gallu ystyried eich achos ac fe allai gael ei ystyried yn annilys.
  • Os ydych yn ymgeisydd nad yw’n rhoi’r wybodaeth statudol sy’n angenrheidiol i ystyried eich cais, efallai na fyddwn yn gallu derbyn eich cais i’w Archwilio o dan adran 55 Deddf Cynllunio 2008.
  • O ran Cynlluniau Lleol, mae’n ofynnol i’r Arolygydd archwilio p’un a yw’r cynllun yn gadarn ac yn cydymffurfio’n gyfreithiol ac, wrth wneud hynny, mae’n rhaid iddo ystyried unrhyw gynrychiolaethau a dogfennau eraill a gyflwynwyd gan yr ALl.
  • Dylai’r rhai hynny sy’n cymryd rhan mewn archwiliad o gynllun lleol nodi y bydd yr ACLl yn sicrhau bod eu cynrychiolaethau ‘ar gael’ yn unol â’r Rheoliadau, gan gynnwys eu cyhoeddi ar wefan yr ACLl. Fel Rheolwr Data, caiff yr ALl olygu rhywfaint neu’r cyfan o’r wybodaeth bersonol a gynhwysir mewn cynrychiolaethau a dogfennau eraill y sicrheir eu bod ‘ar gael’, neu beidio. Er mwyn sicrhau archwiliad agored a theg, mae’n bwysig bod yr Arolygydd a’r holl gyfranogwyr eraill ym mhroses yr archwiliad yn gwybod pwy sydd wedi gwneud cynrychiolaethau ynglŷn â’r cynllun a chynnwys y cynrychiolaethau hynny.
  • Nid oes rhwymedigaeth statudol ar barti â buddiant i gymryd rhan mewn archwiliad o gynllun lleol na darparu unrhyw wybodaeth benodol os yw’n dewis peidio â gwneud hynny.
  • Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sy’n ofynnol i ni i ddilysu eich achos, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ei ystyried. Byddwn fel arfer yn rhoi gwybod i chi os bydd hyn yn wir.
  • Nid oes rhwymedigaeth statudol ar bartïon â buddiant i gymryd rhan mewn achos.
  • Os ydych yn apelydd/asiant nad yw’n rhoi’r wybodaeth statudol sy’n angenrheidiol i ddilysu eich achos o fewn y cyfnodau amser penodedig, ni fyddwn yn gallu ystyried eich achos ac fe allai gael ei ystyried yn annilys.
  • Os ydych yn ymgeisydd nad yw’n rhoi’r wybodaeth statudol sy’n angenrheidiol i ystyried eich cais, efallai na fyddwn yn gallu derbyn eich cais i’w Archwilio o dan adran 55 Deddf Cynllunio 2008.
  • O ran Cynlluniau Lleol, mae’n ofynnol i’r Arolygydd archwilio p’un a yw’r cynllun yn gadarn ac yn cydymffurfio’n gyfreithiol ac, wrth wneud hynny, mae’n rhaid iddo ystyried unrhyw gynrychiolaethau a dogfennau eraill a gyflwynwyd gan yr ALl.
  • Dylai’r rhai hynny sy’n cymryd rhan mewn archwiliad o gynllun lleol nodi y bydd yr ACLl yn sicrhau bod eu cynrychiolaethau ‘ar gael’ yn unol â’r Rheoliadau, gan gynnwys eu cyhoeddi ar wefan yr ACLl. Fel Rheolwr Data, caiff yr ALl olygu rhywfaint neu’r cyfan o’r wybodaeth bersonol a gynhwysir mewn cynrychiolaethau a dogfennau eraill y sicrheir eu bod ‘ar gael’, neu beidio. Er mwyn sicrhau archwiliad agored a theg, mae’n bwysig bod yr Arolygydd a’r holl gyfranogwyr eraill ym mhroses yr archwiliad yn gwybod pwy sydd wedi gwneud cynrychiolaethau ynglŷn â’r cynllun a chynnwys y cynrychiolaethau hynny.
  • Nid oes rhwymedigaeth statudol ar barti â buddiant i gymryd rhan mewn archwiliad o gynllun lleol na darparu unrhyw wybodaeth benodol os yw’n dewis peidio â gwneud hynny.

7. Gwybodaeth am Blant

Nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio yn darparu gwasanaethau’n uniongyrchol i blant nac yn casglu eu gwybodaeth bersonol yn rhagweithiol. Fodd bynnag, weithiau rhoddir gwybodaeth i ni am blant yn wirfoddol yn rhan o’r prosesau apeliadau, ceisiadau, gorchmynion ac archwiliadau. Gall hyn gynnwys data categori arbennig a roddir mewn cynrychiolaethau o bob agwedd ar waith achos.

8. Am ba mor hir rydym ni’n cadw’ch data personol?

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol am gyhyd ag sy’n angenrheidiol i ddarparu ein gwasanaethau a chyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol yn unig. Mae gennym bolisïau a gweithdrefnau penodol ynglŷn â rheoli a chadw cofnodion, fel bod gwybodaeth bersonol yn cael ei hadolygu a’i dileu ar ôl cyfnod rhesymol gan ddilyn y meini prawf canlynol:

  • Y diben neu’r gweithgarwch busnes sy’n golygu bod angen prosesu eich gwybodaeth.
  • P’un a oes gennym unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i barhau i brosesu’ch gwybodaeth.
  • P’un a oes gennym unrhyw sail gyfreithiol o dan y gyfraith diogelu data i barhau i brosesu’ch gwybodaeth (e.e. Tasg Gyhoeddus).
  • Unrhyw arferion sector cytunedig perthnasol yn ymwneud â pha mor hir y dylid cadw gwybodaeth.
  • I amddiffyn yn erbyn heriau cyfreithiol a rheoliadol.

9. Gyda phwy rydym ni’n rhannu eich data?

Yn unol â’r rheolau statudol a’r canllawiau perthnasol, mae copi o gynrychiolaethau gwaith achos fel arfer yn cael ei anfon at :

  • Apelyddion/Ymgeiswyr
  • Partïon â buddiant
  • Awdurdodau lleol
  • Mae awdurdodau lleol hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y cynrychiolaethau gwaith achos ar gael i unrhyw un sy’n dymuno eu gweld.
  • Swyddogion Rhaglen allanol
  • Aelodau’r cyhoedd (byd-eang) pan fyddant wedi’u cyhoeddi ar ein gwefannau
  • Prif bartïon eraill (Yn cynnwys grwpiau rheol 6)
  • Partïon statudol eraill i’r achos
  • Partïon statudol eraill fel rheoleiddwyr allanol.
  • Rydym yn rhoi eich gwybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol neu Weinidog perthnasol Cymru sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ar y ceisiadau a’r apeliadau a archwiliwn trwy’r canlynol:
  • Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol
  • Yr Adran Drafnidiaeth
  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
  • Yr Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau
  • Er mwyn bod yn deg i bartïon eraill sydd â buddiant mewn achos, mae angen i ni rannu’ch cynrychiolaethau fel y nodwyd uchod. Mae hefyd yn rhoi cyd-destun ac yn caniatáu ar gyfer cynnal ein prosesau gwaith achos yn effeithiol, e.e. yn caniatáu i bartïon sydd â safbwyntiau tebyg i adnabod ei gilydd a chytuno ar gyflwyno safbwyntiau ar y cyd mewn unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad, felly mae’r cynrychiolaethau a gawn yn cael eu cyfnewid rhwng y partïon, ar yr amod bod yr Arolygiaeth Gynllunio o’r farn bod hyn yn angenrheidiol ac yn gymesur, heb olygu’r cynnwys na’r wybodaeth gyswllt. Byddwn yn trin eich gwybodaeth yn gyfrinachol os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny, ond dylech fod yn ymwybodol y gallai’r Arolygydd roi llai o bwys i’ch cynrychiolaeth oherwydd hynny.

Bydd yr Arolygydd neu’r unigolyn a benodwyd yn ystyried y wybodaeth a roddwyd yn y cynrychiolaethau ac yn gwneud ei benderfyniad. Bydd ei hysbysiad o benderfyniad yn rhoi canlyniad yr achos a’i resymau drosto.

Fel arall, pan fydd ein hadrannau noddi, sef DLUHC a Llywodraeth Cymru ac adrannau a sefydliadau eraill y Llywodraeth, yn gyfrifol am benderfynu ar yr achos, bydd yr Arolygydd yn llunio adroddiad argymhelliad. Bydd adroddiad yr Arolygydd a’r cynrychiolaethau’n cael eu darparu iddynt.

Mewn rhai amgylchiadau, fel o dan orchymyn llys, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i rannu gwybodaeth. Efallai y bydd angen i ni rannu’ch gwybodaeth bersonol â’r canlynol hefyd:

  • Asiantaethau ac adrannau eraill y llywodraeth a gweision sifil
  • Ein cynrychiolwyr cyfreithiol ni neu gynrychiolwyr cyfreithiol eraill
  • Archwilwyr, a
  • Rheoleiddwyr, neu i gydymffurfio â’r gyfraith fel arall.

Mae’n bosibl y defnyddiwn ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti i brosesu gwybodaeth (gweler Atodiad B am restr lawn) ar ein rhan mewn perthynas â’n gwaith achos e.e. darparu gwasanaethau technoleg gwybodaeth). Pan fyddwn yn gwneud hynny, bydd contractau’n cael eu llunio i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu yn unol â’n cyfarwyddiadau ni yn unig (oni bai ei bod yn ofynnol fel arall yn ôl y gyfraith), a bod mesurau priodol ar waith i sicrhau diogelwch gwybodaeth.

Yn ogystal, mae’n ofynnol i ni, o dan Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus 1958 (fel y’i diwygiwyd), drosglwyddo cofnodion i’r Archifau Cenedlaethol i’w cadw’n barhaol. Gallai rhai o’r cofnodion hyn gynnwys data personol ein cwsmeriaid.

Pwy fydd yn gallu cael at eich data?

Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i gadw’ch data’n ddiogel. Rydym wedi sefydlu systemau a phrosesau i atal mynediad at eich data neu ddatgelu eich data heb awdurdod e.e. rydym yn diogelu eich data gan ddefnyddio lefelau amrywiol o amgryptio, ac mae rheolaethau mynediad perthnasol ar waith i reoli a thrin eich gwybodaeth bersonol yn effeithiol.

Pan ddefnyddir darparwyr gwasanaeth trydydd parti, sefydlir contractau a/neu drwyddedau i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu yn unol â’n cyfarwyddiadau ni yn unig (oni bai ei bod yn ofynnol fel arall yn ôl y gyfraith), a bod mesurau priodol ar waith i sicrhau diogelwch y wybodaeth honno.

Pan fyddwch yn gwneud apêl/cais neu’n cyflwyno sylwadau ar unrhyw ran o’n gwaith achos, dylech gofio bod gofynion statudol arnom, mewn rhai achosion, i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael yn ehangach.

Bydd hyn fel arfer yn cael ei amlinellu yn ein canllawiau, ond os oes gennych ymholiadau neu bryderon penodol ynglŷn ag achos penodol, cysylltwch â’r swyddog achos a fydd yn trafod y mater gydag Uwch Reolwr Diogelu Data yr Arolygiaeth Gynllunio, os bydd angen.

10. A ydym ni’n defnyddio unrhyw brosesyddion data?

Ydym - rhoddir rhestr o’n prosesyddion data presennol yn Atodiad C.

11. Eich hawliau mewn perthynas â phrosesu

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau ynglŷn â phrosesu eich data personol. Mae’r hawliau sydd ar gael i chi yn dibynnu ar y rheswm pam rydym yn prosesu’ch gwybodaeth. Nid oes rhaid i chi dalu am arfer eich hawliau. Rhoddir mis i ni ymateb i chi.

Eich hawliau o dan y GDPR yw’r hawl:

  • I gael gwybod
  • I gael mynediad
  • I gywiro
  • I ddileu
  • I gyfyngu ar brosesu
  • I gludadwyedd data
  • I wrthwynebu
  • Hawliau yn ymwneud â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio. (Nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio yn gwneud penderfyniadau awtomataidd nac yn proffilio).

Nid yw pob un o’r hawliau hyn yn absoliwt, sy’n golygu efallai y byddant yn berthnasol mewn rhai sefyllfaoedd yn unig ac fe allent fod yn ddarostyngedig i eithriadau ac esemptiadau cyfreithiol.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar wefan yr ICO trwy ddilyn y ddolen isod: https://ico.org.uk/global/privacy-notice/your-data-protection-rights/

12. Arolygon Adborth Cwsmeriaid a Marchnata

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn cynnal arolygon cwsmeriaid o bryd i’w gilydd i geisio’ch barn am y gwasanaethau a ddarparwyd gennym. Gwneir hyn i’n helpu i wella’r gwasanaethau a ddarparwn i chi a’ch profiad fel cwsmer.

  • Mae’r rhan fwyaf o gwestiynau arolwg yn gofyn am ymatebion meintiol, ond efallai y bydd rhai blychau testun rhydd yn cael eu cynnwys.
  • PEIDIWCH â rhannu gwybodaeth adnabyddadwy amdanoch eich hun yn y blychau hyn os ydych eisiau aros yn ddienw.
  • Mewn achosion lle nad yw’r arolygon yn ddienw, bydd hyn yn cael ei fynegi’n glir yn nogfennau’r arolwg a roddir i chi.
  • Mae’r data ar gael i staff yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n gyfrifol am gynnal a gweinyddu’r arolwg yn unig.

Rydym hefyd yn casglu, defnyddio a rhannu data cyfanredol, fel data ystadegol a demograffig, yn fewnol a chydag adrannau eraill y llywodraeth. Gallai data cyfanredol ddeillio o’ch data personol ond nid yw’n cael ei ystyried yn ddata personol yn ôl y gyfraith gan nad yw’r data hwn yn eich adnabod yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cydgrynhoi’r data arolwg a gasglwyd i gynnal ymchwil y farchnad ac ymchwil ystadegol. Fodd bynnag, os byddwn yn cyfuno neu’n cysylltu data cyfanredol fel y gellir eich adnabod ohono’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, byddwn yn trin y data cyfunol fel data personol a fydd yn cael ei ddefnyddio yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Pan fydd yn briodol, byddwn hefyd yn darparu hysbysiad preifatrwydd ‘mewn union bryd’ ynglŷn ag arolygon penodol fel y bo’r angen.

Efallai y defnyddiwn eich manylion cyswllt o bryd i’w gilydd i roi gwybod i chi am wasanaethau newydd a gynigir gan yr Arolygiaeth Gynllunio i wella profiad cwsmeriaid a darparu gwasanaeth mwy effeithlon. Gallwch arfer eich hawl i beidio â derbyn unrhyw ddeunydd marchnata gennym unrhyw bryd. Fodd bynnag, ni fyddwn byth yn gwerthu nac yn trosglwyddo’ch data personol fel arall i unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata.

12A. ysgu a Datblygu

Gall yr Arolygiaeth Gynllunio o bryd i’w gilydd gynhyrchu deunyddiau hyfforddi, yn seiliedig ar enghreifftiau gwaith achos hanesyddol, i gefnogi dysgu a datblygiad proffesiynol ei staff. Mae hyn yn angenrheidiol at ddiben gwelliant parhaus a fydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon ac o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid. Lle bynnag y bo’n bosibl ffugenw neu ddienbyd bydd deunydd gwaith achos yn cael ei ddefnyddio at y diben hwn oni bai ei fod yn anymarferol i wneud hynny.

13. Ymchwil Defnyddwyr

Mewn achosion pan fyddwn yn cynnal ymchwil defnyddwyr, byddwn yn cael eich caniatâd, sy’n golygu prosesu eich data pan fyddwn wedi cael eich caniatâd penodol, gwybodus a diamwys a roddwyd yn wirfoddol. Gallwch dynnu’ch caniatâd yn ôl unrhyw bryd pan fyddwn yn dibynnu ar ganiatâd i brosesu’ch data personol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a wnaed cyn i chi dynnu’ch caniatâd yn ôl.

  • Mae’r rhan fwyaf o gwestiynau arolwg yn gofyn am ymatebion meintiol; fodd bynnag, efallai y bydd rhai blychau testun rhydd yn cael eu cynnwys.
  • PEIDIWCH â rhannu gwybodaeth adnabyddadwy amdanoch eich hun yn y blychau hyn os ydych eisiau aros yn ddienw..
  • Weithiau, byddwn yn defnyddio trydydd parti i ddarparu cyfranogwyr yn yr ymchwil a gynhelir gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Yn yr achosion hyn, rhoddir eu gwybodaeth breifatrwydd i chi mewn perthynas â’r broses recriwtio honno.
  • Mae pob arolwg ymchwil defnyddwyr yn cael ei gynnal gan staff yr Arolygiaeth Gynllunio neu drydydd partïon sy’n gweithio ar ran yr Arolygiaeth Gynllunio, a rhoddir hysbysiad preifatrwydd i chi yn rhan o broses yr arolwg ymchwil defnyddwyr.

Rydym hefyd yn casglu, defnyddio a rhannu data cyfanredol, fel data ystadegol a demograffig, yn fewnol a chydag adrannau eraill y llywodraeth. Gallai data cyfanredol ddeillio o’ch data personol ond nid yw’n cael ei ystyried yn ddata personol yn ôl y gyfraith gan nad yw’r data hwn yn eich adnabod yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cydgrynhoi’r data arolwg a gasglwyd i gynnal ymchwil y farchnad ac ymchwil ystadegol. Fodd bynnag, os byddwn yn cyfuno neu’n cysylltu data cyfanredol fel y gellir eich adnabod ohono’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, byddwn yn trin y data cyfunol fel data personol a fydd yn cael ei ddefnyddio yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Pan fydd yn briodol, byddwn hefyd yn darparu hysbysiad preifatrwydd ‘mewn union bryd’ ynglŷn ag arolygon penodol.

14. Hygyrchedd

A ninnau’n awdurdod cyhoeddus a darparwr gwasanaethau i’r cyhoedd, mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnom i gydymffurfio â Rheoliadau Hygyrchedd (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018. Mae’n rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i wneud hyn.

Yn unol â’r rheoliadau hyn, rydym wedi cyhoeddi datganiad hygyrchedd ar ein gwefannau sy’n esbonio lefel ein cydymffurfiaeth.

15. Beth yw Digwyddiadau Rhithwir a Digwyddiadau Cyfunol?

Nid yw Digwyddiadau Rhithwir a Chyfunol yn wahanol i weithdrefnau arferol o ran eu diben. Bydd yr Arolygydd yn parhau i edrych ar y dystiolaeth a gyflwynir, a bydd partïon â buddiant yn parhau i rannu eu safbwyntiau.

Mewn digwyddiad rhithwir, ni fydd pobl yn bresennol yn bersonol. Mae’r holl fynychwyr yn cymryd rhan yn rhithwir, naill ai trwy fideo-gynadledda neu dros y ffôn.

Mewn digwyddiad cyfunol, fe allai fod cyfuniad o bobl sy’n bresennol yn bersonol (mewn un lleoliad neu fwy) yn ogystal ag elfen rithwir (lle gall cyfranogwyr ymuno naill ai trwy fieogynadledda neu dros y ffôn). Nid oes angen i’r ddwy elfen ddigwydd ar yr un pryd; fe allent gael eu cynnal ar amseroedd gwahanol ar yr amod bod y trafodion yn cael eu darlledu ac ar gael i’r rhai nad ydynt yn gallu cymryd rhan yn un o’r digwyddiadau

Pa wybodaeth bersonol fydd yn cael ei chasglu mewn digwyddiadau rhithwir a chyfunol?

Sut caiff ei chasglu?

  • Gofynnir am gyfeiriad e-bost yn y gwahoddiad i’r digwyddiad.
  • Rhifau ffôn - Os yw’r cyfranogwr yn ymuno dros y ffôn, byddai’r holl gyfranogwyr yn gallu gweld ei rif ffôn (gall yr unigolyn guddio hyn trwy ddiffodd y nodwedd Adnabod Galwr, a adwaenir yn gyffredinol fel deialu 141, gan felly ddangos rhif ar hap).
  • Cyfeiriad IP - Bydd cysylltiadau â Microsoft Teams yn cipio cyfeiriad IP y cyfranogwr.
  • Enw arddangos - Cesglir hwn o fanylion ymuno’r cyfranogwr.
  • Hunanddelwedd - Cesglir hwn pan fydd y cyfranogwr yn troi ei gamera ymlaen.

Pa fetadata fydd yn cael ei gasglu wrth ymuno

  • Cyfeiriad IP, gwybodaeth cyfrif ymuno (cyfeiriad e-bost)
  • Math o borwr (os defnyddir porwr yn hytrach na rhaglen Teams)

Ble y caiff ei storio?

  • Cyfeiriadau e-bost
  • Rhifau ffôn
  • Enw arddangos a hunanddelwedd (cânt eu storio yn yr ystafell gyfarfod rithwir, o fewn Exchange Online, MS Stream (Recordio Fideo).
  • Fe’i trosglwyddir i system rheoli achos fewnol, fel y bo’n briodol.
  • Cyfeiriad IP a metadata (cânt eu storio yn y Log Archwilio).

Cwcis

  • Nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio yn defnyddio unrhyw ran o’n technoleg neu’n dulliau storio ein hunain i greu a chyflwyno na chasglu cwcis neu ddadansoddeg tagiau gwe.
  • Mae cwcis yn cael eu casglu gan Microsoft, ac ymdrinnir â hynny yn ei Ddatganiad Preifatrwydd yma.  

Recordio / Ffrydio’n Fyw Digwyddiadau a gynhelir gan yr Arolygiaeth Gynllunio

  • Weithiau, bydd yn ofynnol i’r Arolygiaeth Gynllunio recordio digwyddiad neu ei ffrydio’n fyw, yn enwedig os yw o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd, ac i sicrhau bod y broses yn deg a bod pobl yn gallu bod yn rhan ohoni.
  • Bydd y recordiadau’n cael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant ac ymwybyddiaeth yn y lle cyntaf, yn ogystal ag ar gyfer ymateb i heriau posibl.
  • Bydd unrhyw ffrydiau byw yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu bod yn rhan o’r broses. Defnyddir meddalwedd a gymeradwywyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio i ffrydio i amgylchedd cyflwyno cymeradwy’r Arolygiaeth Gynllunio (YouTube ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn ymwneud â Seilwaith Cenedlaethol neu’r Porth Seilwaith Cenedlaethol).
  • Yr Arolygiaeth Gynllunio yw’r unig Reolwr Data ar gyfer y recordiadau/ffrydiau byw hyn.

Recordiadau Trydydd Parti o Ddigwyddiadau nad ydynt yn cael eu cynnal gan yr Arolygiaeth Gynllunio

  • Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gweithio gydag Awdurdodau Cynllunio Lleol a phartïon eraill.
  • Os bydd y partïon hyn yn recordio’r digwyddiadau/gwrandawiadau hyn neu eu ffrydio’n fyw, byddant yn sôn am hyn yn eu Hysbysiad Preifatrwydd.
  • Gall yr Arolygiaeth Gynllunio gael copi o unrhyw recordiad o’r fath i’w brosesu, a fydd yn cael ei reoli o fewn cytundebau rhannu data perthnasol ar gyfer Rheolwyr ar y Cyd. Fodd bynnag, y trydydd partïon fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am y recordiadau/ffrydio byw.
  • Caiff unigolion neu sefydliadau heblaw am yr Arolygiaeth Gynllunio neu’r ALl recordio’r sesiynau gwrandawiad a/neu eu ffrydio’n fyw.
  • Yn yr achos hwn, ni fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ymwneud ag unrhyw agwedd ar y recordiad neu’r ffrwd fyw.
  • Gall yr Arolygiaeth Gynllunio gael copi o unrhyw allbwn, ond y rheolwr data fydd yr unigolyn neu’r sefydliad a drefnodd y recordiad/ffrwd fyw.

Recordiadau/Ffrydio Byw gan Sefydliadau Nad Ydynt yn Gysylltiedig â’r

  • Caiff ymgeiswyr/apelyddion drefnu recordiad a/neu ffrwd fyw o rai digwyddiadau.
  • Yn yr achos hwn, ni fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ymwneud ag unrhyw agwedd ar y recordiad neu’r ffrwd fyw.
  • Gall yr Arolygiaeth Gynllunio gael copi o unrhyw allbwn, ond y Rheolwr Data fydd y sawl a drefnodd y recordiad/ffrwd fyw.

16. Cofrestru i fynychu un o weminarau’r Arolygiaeth Gynllunio

  • Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol gennych pan fyddwch yn cofrestru i wylio un o’n gweminarau.
  • Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau y gallwch ymuno â’r weminar ac i ddarparu gwybodaeth ddilynol ynglŷn â’r weminar, fel cyfarwyddiadau ymuno neu werthuso ar ôl y digwyddiad.
  • Diben unrhyw gwestiynau ychwanegol a ofynnwn yw taflu goleuni ar bwnc y weminar. Gallai’r wybodaeth hon gael ei chyflwyno yn ystod y weminar a’i defnyddio i wella ein gwasanaethau.
  • Efallai y byddwn yn dweud eich enw yn ystod y weminar os ydych wedi cyflwyno cwestiynau i’w gofyn o flaen llaw.
  • Defnyddiwn Microsoft Forms i gasglu’r wybodaeth y mae arnom ei hangen i’ch cofrestru fel mynychwr, a Microsoft Teams i gynnal y weminar.
  • Mae’r cynnwys yn Microsoft Forms, yn ogystal â gwybodaeth am ddefnyddwyr, yn aros o fewn ein rheolaeth uniongyrchol fel gweinyddwr a defnyddiwr.
  • Mae Microsoft yn prosesu data ar ran cwsmeriaid i ddarparu’r gwasanaeth y gofynnwyd amdano, fel yr amlinellir yn ei Delerau Gwasanaethau Ar-lein.

Pa ddata rydym ni’n ei gasglu a sut rydym ni’n ei gasglu?

Pan fyddwch yn cofrestru i gymryd rhan yn un o’n gweminarau, gofynnwn i chi am y wybodaeth ganlynol:

  • Enw llawn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Sefydliad
  • Teitl swydd

Pan fyddwch yn ymuno â’r weminar, byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol:

  • Rhif ffôn – os byddwch yn ymuno dros y ffôn, byddai’r holl gyfranogwyr yn gallu gweld eich rhif ffôn (gallwch guddio hyn trwy ddiffodd y nodwedd Adnabod Galwr, a adwaenir yn gyffredinol fel deialu 141, gan felly ddangos rhif ar hap). Bydd rhifau ffôn yn cael eu cuddio yn y recordiad cyhoeddedig.
  • Cyfeiriad IP - bydd cysylltiadau â Microsoft Teams yn cipio cyfeiriad IP y cyfranogwr.
  • Enw arddangos - cesglir hwn o fanylion ymuno’r cyfranogwr.
  • Math o borwr – os defnyddir porwr yn hytrach na rhaglen Teams
  • Hunanddelwedd (os rhennir fideo)
  • Sain (os defnyddir microffon)

Pa ddata arall rydym ni’n ei gasglu?

  • Efallai y gofynnwn gwestiynau ychwanegol i chi, nad ydynt yn bersonol, ynglŷn â phwnc y weminar.

Ble bydd eich data’n cael ei storio?

  • Bydd cyfeiriadau e-bost, rhifau ffôn, enw arddangos a hunanddelwedd yn cael eu storio yn yr ystafell gyfarfod rithwir, o fewn Exchange Online ac MS Stream (Recordio Fideo).
  • Bydd eich cyfeiriad IP a metadata yn cael eu storio yn y Log Archwilio.
  • Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw am fwy na mis ar ôl y weminar nac yn cael ei rhannu ag unrhyw drydydd partïon. Bydd y weminar yn cael ei chynnal ar Microsoft Teams.

Yn ystod gweminar, gallwch ffrydio’ch fideo a’ch sain.

  • Os nad ydych eisiau i bobl allu eich gweld na’ch clywed, gallwch ddiffodd eich camera a/neu ddistewi eich microffon.
  • Bwriadwn wneud recordiad o’r weminar i’w gyhoeddi ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
  • Efallai y bydd aelodau o’r wasg yn bresennol yn ystod gweminar ac fe allent ddewis defnyddio elfennau o’r weminar fyw neu’r recordiad at eu dibenion newyddiadurol eu hunain ar ôl y digwyddiad.
  • Mae swyddogaeth sgwrsio ar gael ym Microsoft Teams. Bydd unrhyw sylwadau a wnewch yn ystod gweminar yn gallu cael eu gweld gan gyfranogwyr yn ystod ac ar ôl y digwyddiad. Ni fydd modd gweld sylwadau a wnaed wrth sgwrsio yn y recordiad.

A ydym ni’n defnyddio unrhyw brosesyddion data ar gyfer Gweminarau?

  • Rydym yn defnyddio Microsoft Teams i gyflwyno ein gweminarau a’n digwyddiadau darlledu byw.
  • Rydym yn defnyddio YouTube i gyhoeddi recordiadau o rai digwyddiadau.

17. Gweithgareddau cyfathrebu

Casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol

 Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol, gan gynnwys manylion cyswllt (megis cyfeiriadau e-bost, rhifau ffôn), ac unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i’n gweithgareddau cyfathrebu. Cesglir y wybodaeth hon at ddibenion cyfathrebu, ymgysylltu ac i roi diweddariadau a gwybodaeth berthnasol i chi am ein gwasanaethau, newyddion, digwyddiadau a gweithgareddau.

Defnyddio gwybodaeth bersonol

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd at y dibenion canlynol:

  • I ymgysylltu â chi trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac ymateb i’ch ymholiadau neu sylwadau.
  • Monitro a dadansoddi rhyngweithiadau cyfryngau cymdeithasol i wella ein gwasanaethau a’n cyfathrebu.
  • I anfon cyfathrebiadau marchnata, cylchlythyrau, neu wybodaeth am ddigwyddiadau neu wasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi.
  • Rheoli a chymedroli cofnodion ar ein gwefan allanol.
  • Ymateb i ymholiadau’r cyfryngau a hwyluso cyfathrebu â’r wasg.
  • Rheoli a chynnal ein cronfa ddata ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Eich hawliau

Yn ogystal â’r hawliau a grybwyllir yn adran 11, gallwch optio allan o dderbyn cyfathrebiadau marchnata ar unrhyw adeg drwy ddilyn y ddolen dad-danysgrifio yn ein e-byst neu drwy gysylltu â ni’n uniongyrchol.

18. Cofrestru am Gyfrif ar gyfer y Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP)

18.1 ACP users must create an account with us in order to submit appeals or any representations.

Mae’n rhaid i ddefnyddwyr yr ACP greu cyfrif gyda ni er mwyn cyflwyno apeliadau neu unrhyw gynrychiolaethau. Bydd cofrestru gyda ni yn eich galluogi i ddefnyddio ein hystod lawn o wasanaethau apeliadau, gan gynnwys tudalen hafan bersonol.

Hefyd, y ffordd orau o wneud sylwadau ar achos presennol yw cofrestru gyda ni yn gyntaf, gan fod hynny’n hwyluso’r broses o olrhain achosion a chyflwyno sylwadau.

Cyfleuster Mewngofnodi fel Gwestai ar yr ACP

Mae gennym gyfleuster mewngofnodi fel gwestai os ydych eisiau cyflwyno sylwadau heb greu cyfrif; chwiliwch am eich achos a chliciwch ar y botwm ‘Cyflwyno Cynrychiolaeth’.

Rhoddir isod ddolen i delerau ac amodau’r ACP www.gov.uk/guidance/appeals-casework-portal-documentation

18.2 Nid oes angen i’r rhai sy’n cymryd rhan mewn Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPs) greu cyfrif i gael at wybodaeth ar y wefan.

  • Os hoffech gofrestru buddiant mewn unrhyw NSIP, bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru.
  • Os hoffech gael gwybod am gynnydd parhaus cais, gallwch danysgrifio i wasanaeth hysbysiadau e-bost.
  • Mae’r ffurflen gofrestru a’r ffurflen gais am hysbysiadau e-bost wedi’u lleoli ar dudalen berthnasol/tudalennau perthnasol y cais NSIP.

Rhoddir isod ddolen i delerau ac amodau NSIP https://infrastructure.planninginspectorate.gov.uk/cy/help-2/terms-and-conditions/

Porth Cyflwyniadau Seilwaith Cenedlaethol

Bellach, gall Partïon â Buddiant wneud cyflwyniadau ysgrifenedig i archwiliadau trwy’r wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Os nad yw Partïon â Buddiant yn dymuno defnyddio’r porth i wneud cyflwyniadau ysgrifenedig, neu os na allant ei ddefnyddio, gallant wneud cyflwyniadau yn y modd traddodiadol trwy anfon neges e-bost at fewnflwch e-bost y prosiect perthnasol.

Bydd unrhyw ddiwygiadau i brosesu data personol yn cael eu hadlewyrchu mewn fersiwn wedi’i diweddaru o’n Hysbysiad Preifatrwydd i Gwsmeriaid.

19. Cwcis

Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â gwefannau’r Arolygiaeth Gynllunio. Fe’u defnyddir yn gyffredin i alluogi gwefannau i weithio, neu i weithio’n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchenogion y safle.

20. Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI), Ceisiadau Mynediad at Ddata gan y Testun (SAR) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR)

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gorff cyhoeddus ac mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnom i ymateb i geisiadau a wneir o dan y deddfwriaethau hyn. Weithiau, bydd hyn yn golygu y gallai eich data personol gael ei ddefnyddio i ymateb i’r ceisiadau hyn. Os ydych yn ymgeisydd sy’n gwneud cais am wybodaeth o dan un o’r cyfundrefnau mynediad hyn, byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth i gydymffurfio â chais o’r fath. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth er mwyn gohebu â chi ac er mwyn anfon ein hymateb. Os byddwch yn gwneud cais am eich data personol eich hun (cais mynediad at ddata gan y testun), efallai y bydd angen i ni gael tystiolaeth hefyd i gadarnhau pwy ydych.

21. Atodiad A – Mathau o Waith Achos a gynhelir gan yr Arolygiaeth Gynllunio – Lloegr

Rhestr lawn o Apeliadau, Ceisiadau, Archwiliadau a Gorchmynion y mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn ymdrin â nhw: pob math o Waith Achos yr Arolygiaeth Gynllunio.

Darperir /Ar Gael trwy’r Wefan a Dulliau Eraill Math o Waith Achos Diben Prosesu
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) ac E-bost/Post/Partïon Allanol Apeliadau Hysbysiad Gorfodi Adeilad Rhestredig
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) ac E-bost/Post/Partïon Allanol Apeliadau Hysbysiad Gorfodi Ardal Gadwraeth
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) Apeliadau Hysbysiad Gorfodi
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) ac E-bost/Post/Partïon Allanol Apeliadau Gorfodi Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) ac E-bost/Post/Partïon Allanol Apeliadau Cynllunio - Dirwyn Hysbyseb i Ben
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) Apeliadau Cynllunio - Apêl Hysbyseb
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) Apeliadau A78 Cynllunio - Gwasanaeth Apeliadau Masnachol (CAS)
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP), Gwasanaeth apelio penderfyniad cynllunio ac E-bost/Post/Partïon Allanol Apeliadau A78 Cynllunio - Gwasanaeth Apeliadau gan Ddeiliaid Tai (HAS)
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) ac E-bost/Post/Partïon Allanol Apeliadau A78 Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) ac E-bost/Post/Partïon Allanol Apeliadau A78 Cynllunio - Cytundeb Adran 106
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) ac E-bost/Post/Partïon Allanol Apeliadau Cynllunio – Apêl Caniatâd Adeilad Rhestredig a Chaniatâd Ardal Gadwraeth
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) ac E-bost/Post/Partïon Allanol Apeliadau Apeliadau Barnu’n Annilys
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP), Gwasanaeth apelio penderfyniad cynllunio ac E-bost/Post/Partïon Allanol Apeliadau A78 Apêl Gynllunio (pob gweithdrefn)
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) ac E-bost/Post/Partïon Allanol Apeliadau Hysbysiadau Prynu Arbenigol
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) ac E-bost/Post/Partïon Allanol Apeliadau Apeliadau System Ddraenio Gynaliadwy (SUDS)
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) ac E-bost/Post/Partïon Allanol Apeliadau Proses sgrinio TCPA
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) ac E-bost/Post/Partïon Allanol Apeliadau Proses adolygu EIA TCPA
Porth Gwaith Achos Apeliadau (ACP) ac E-bost/Post/Partïon Allanol Ceisiadau yn ystod Proses Brosesu’r Arolygiaeth Penderfyniadau ar Gostau
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau Gwrychoedd Uchel Arbenigol
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau Gorchymyn Cadw Coed Arbenigol
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau Hysbysiadau Ailblannu Coed Arbenigol
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau Apêl Drafnidiaeth HS2
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau Apeliadau SoDdGA
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau Tir Halogedig
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau Trwyddedu Morol
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau Rheoli Gwastraff
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau Tynnu Dŵr
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau Apeliadau Sylweddau Peryglus
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau Apeliadau Hysbysiad
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau Gwrychoedd Arbenigol
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau Apeliadau Cyfyngiad
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau Hawliau Tramwy Arbenigol - Atodlen 14
E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisiadau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (Adran 62A)
Gwefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol (NIP) ac E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisiadau Cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO)
Gwefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol (NIP) ac E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisiadau Uniongyrchol i’r Ysgrifennydd Gwladol (SoS) Cais i wneud Newid Ansylweddol/Sylweddol i Orchmynion Caniatâd Datblygu (DCO)
Gwefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol (NIP) ac E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisiadau Prosesau Trawsffiniol Deddf Cynllunio 2008
Gwefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol (NIP) ac E-bost/Post/ Partïon Allanol Gwneud Cais neu Gwneud Sylw ynglŷn â DCO Cyngor a51 y Ddeddf Cynllunio
E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisiadau Tir Comin Arbenigol o dan y deddfwriaethau isod: Deddf Tiroedd Comin 2006: Adran 16, Deddf Tiroedd Comin 2006: Adran 38, Deddf Tiroedd Comin 2006: Rhan 1, Deddf Caffael Tir 1981: Adran 19 ac Atodlen 1, Deddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1971: Adran 23, Gorchymyn Parciau a Mannau Agored Llundain Fwyaf 1967, Cymeradwyo Cyfraddau’r Ardoll Tir Comin, Adran 15 Mesur Plwyfi Newydd 1943, Adran 193 Deddf Cyfraith Eiddo 1925, Cynlluniau rheoli o dan Ddeddf Tiroedd Comin 1899, Adran 9 Deddf Cefn Gwlad 1968, Deddfau Cau Tir, Amryw Ddeddfau lleol a Deddfau Cadarnhau Gorchymyn Dros Dro (sy’n cynnwys gosod ardrethi stint)
E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisiadau Hawliau Tramwy Arbenigol - Cyfeiriadau Atodlen 14
E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisiadau Ceisiadau A36
(Deddf Trydan 1989)
E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisuadau - Argymhellion Trwyddedau Sychder
E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisiadau am Gostau ar gyfer Gwaith Achos a Dynnwyd yn Ôl Penderfyniadau ar Gostau
E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisiadau (Apeliadau) Cynllunio - Cais Cynllunio a Alwyd i Mewn
E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisiadau Fforddfreintiau Angenrheidiol Arbenigol a Thocio Coed
E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisiadau Tynnu Dŵr
E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisiadau Deddf Cynllunio 2008 Proses Gwmpasu
E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisiadau Deddf Cynllunio 2008 Proses sgrinio
E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisiadau Deddf Cynllunio 2008 (Adran 52) - Cael gwybodaeth am fuddiannau mewn tir
E-bost/Post/ Partïon Allanol Ceisiadau Deddf Cynllunio 2008 (Adran 53) - Hawliau Mynediad
E-bost/Post/ Partïon Allanol Archwiliadau Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr
E-bost/Post/ Partïon Allanol/Trosglwyddiad Digidol Archwiliadau Cynlluniau Lleol
E-bost/Post/ Partïon Allanol/Trosglwyddiad Digidol Archwiliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL)
E-bost/Post/ Partïon Allanol/Trosglwyddiad Digidol Archwiliadau Strategaeth Datblygu Gofodol
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Gorchmynion Diwygio Harbwr
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Gorchmynion Sychder
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Gorchmynion y Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Gorchmynion y Ddeddf Priffyrdd
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl)
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Gorchmynion Cau Bwrdeistrefi Llundain Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl)
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Gorchmynion Tollau Fferïau a Phontydd
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Gorchmynion Llwybrau Beiciau
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Gorchmynion Cau
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) yr Adran Drafnidiaeth (DfT)
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Gorchmynion Ffyrdd Ymyl
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Adolygiad o Hen Ganiatadau Mwynau (ROMPs) a Mwynau ad-hoc
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Hysbysebion - Achosion Ysgrifennydd Gwladol (SoS)
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Addasu a Dirymu Caniatâd Cynllunio
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Gorchmynion Prynu Gorfodol (CPO) yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS)
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Gorchmynion Prynu Gorfodol (CPO) yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau
E-bost/Post/ Partïon Allanol Gorchmynion Gorchmynion Hawliau Tramwy o dan y Deddfwriaethau isod: Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Deddf Priffyrdd 1980, Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Deddf Caffael Tir 1981
E-bost/Post/ Partïon Allanol Adroddiadau Mynediad i’r Arfordir Mynediad i’r Arfordir
E-bost/Post/ Partïon Allanol Archwiliadau, Gorchmynion a Cheisiadau Amrywiol Ceisiadau Ad-hoc gan  Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)
E-bost/Post/ Partïon Allanol Archwiliadau, Gorchmynion a Cheisiadau Amrywiol Ceisiadau Ad-hoc gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT)
E-bost/Post/ Partïon Allanol Archwiliadau, Gorchmynion a Cheisiadau Amrywiol Yr Adran Drafnidiaeth (DfT) Meysydd Awyr
E-bost/Post/ Partïon Allanol Apeliadau, Gorchmynion a Cheisiadau Amrywiol Ceisiadau Ad-hoc gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau

22. Atodiad C – Rhestr o Brosesyddion Data

Prosesydd Data Diben
GoPro GoPro Platfform ar gyfer Prosesu Apeliadau Cynllunio
UK.Gov Notify Cyfathrebu â Phartïon Allanol
Google Analytics Monitro Gweithgarwch ar y We
ICS - TFL Arolwg Cwsmeriaid
System Gwybodaeth Reoli (IMS) Storfa system ganolog
Sales Agility Datrysiad Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS)
Cwmnïau Clyweledol Darparu Gwasanaethau Ffrydio
Microsoft Rhaglenni M365
You Tube Ffrydio Digwyddiadau
Cyflenwr Cyfieithiadau Gwasanaethau Cyfieithu
Cyflenwr Gwasanaeth a Rennir Cyflenwr Gwasanaeth a Rennir Taliadau Allanol yr Arolygiaeth Gynllunio
Siart System Amserlennu
Smart Survey Adborth gan Ddefnyddwyr Apeliadau