Guidance

Devolving child decision making pilot programme: general guidance (Welsh version)

Updated 5 December 2023

Datganoli’r Rhaglen Beilot Gwneud Penderfyniadau ar gyfer Plant – Canllawiau Cyffredinol

Fersiwn 1.0

Cyhoeddwyd 14 Mehefin 2021

Cyflwyniad

Y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM) yw fframwaith y DU ar gyfer nodi dioddefwyr caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl.[footnote 1] Mae’r Awdurdod Cymwys Sengl (SCA) yn y Swyddfa Gartref yn ystyried achosion o bob dioddefwr posibl a atgyfeiriwyd at yr NRM gan Sefydliadau Ymatebwyr Cyntaf ac yn gweithredu proses gwneud penderfyniadau â dau gam i benderfynu a yw unigolyn yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern. Bydd yr SCA yn gwneud penderfyniad Seiliau Rhesymol i benderfynu a yw’n ‘amau ond yn methu â phrofi’ bod unigolyn yn ddioddefwr posibl caethwasiaeth fodern. Dylid gwneud y penderfyniad hwn o fewn 5 diwrnod gwaith o atgyfeirio, lle bo modd. Bydd yr SCA yn mynd ymlaen i wneud penderfyniad Seiliau Terfynol heb fod yn gynt na 45 diwrnod calendr ar ôl y penderfyniad seiliau rhesymol, i benderfynu a oes ‘yn ôl pwysau tebygolrwydd’ sail ddigonol i benderfynu bod yr unigolyn yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern.

Yn 2019, atgyfeiriwyd 10,627 o ddioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern at yr NRM; cynnydd o 52% ers 2018, ac roedd 4,550 o’r atgyfeiriadau hyn (43%) ar gyfer unigolion a honnodd iddynt gael eu hecsbloetio fel plant dan oed. Mae proffil plant sy’n ddioddefwyr yn newid, a phlant cenedlaethol y DU yw’r grŵp sy’n tyfu gyflymaf yn yr NRM yng Nghymru a Lloegr, wedi’i ysgogi’n rhannol gan weithgarwch llinellau cyffuriau.

Darperir cymorth i blant sy’n ddioddefwyr caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl, ac eithrio’r gwasanaeth Gwarcheidwad Masnachu Plant Annibynnol[footnote 2] a Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban,[footnote 3] gan awdurdodau lleol ac asiantaethau partner o dan rwymedigaethau statudol presennol [footnote 4] ac fe’i darperir ni waeth beth fo’u cenedligrwydd neu statws mewnfudo.

Yng Nghymru a Lloegr mae gan bartneriaid diogelu lleol – awdurdodau lleol, yr heddlu a grwpiau comisiynu clinigol – ddyletswydd i gydweithio i ddiogelu a hyrwyddo lles plant gan gynnwys plant sy’n ddioddefwyr caethwasiaeth fodern. Yn yr Alban, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i gydweithio â phartneriaid amlasiantaethol - yr heddlu a gweithwyr iechyd proffesiynol - i gefnogi a gofalu am ddioddefwyr sy’n blant oherwydd masnachu mewn pobl a chamfanteisio drwy brosesau amddiffyn plant [footnote 5] a’r dull Gwneud Pethau’n Iawn i Bob Plentyn [footnote 6] i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc.

O ystyried mai partneriaid diogelu lleol yw’r prif ddarparwyr cymorth i blant, rydym yn ceisio deall drwy’r rhaglen beilot hon manteision dull lleol, amlasiantaethol o nodi plant sy’n ddioddefwyr caethwasiaeth fodern, y cyfeirir ati yma fel y ‘Rhaglen Beilot’.

Pwrpas y Rhaglen Beilot

Mae’r Rhaglen Beilot yn rhan o Raglen Trawsnewid ehangach o weithgarwch i nodi opsiynau cynaliadwy tymor hwy ar gyfer yr NRM. Pwrpas y Rhaglen Beilot yw profi a yw penderfynu a yw plentyn yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern o fewn strwythurau diogelu presennol yn fodel mwy priodol ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch caethwasiaeth fodern i blant. Bydd y dull hwn yn galluogi penderfyniadau ynghylch a yw plentyn yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern i gael eu gwneud gan y rhai sy’n ymwneud â’u gofal a sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn cyd-fynd yn agos â darparu cymorth lleol sy’n seiliedig ar anghenion ac unrhyw ymateb gorfodi’r gyfraith.

Cwmpas y Rhaglen Beilot

Mae ardaloedd peilot wedi’u nodi drwy broses gystadleuol, a oedd yn agored i bob awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am ofal cymdeithasol plant. Cynlluniwyd y gystadleuaeth i sicrhau bod ystod amrywiol o feysydd ar draws y DU yn cael eu dewis i fod yn rhan o’r rhaglen beilot, gan ein galluogi i brofi’r model mewn gwahanol leoliadau. Mae hyn yn cynnwys yr Alban sy’n gweithredu gyda deddfwriaeth ddatganoledig a dyletswyddau statudol ynghylch lles plant, amddiffyn a masnachu mewn pobl; yn ogystal â chael system cyfiawnder troseddol wahanol mewn perthynas ag erlyn achosion masnachu mewn pobl. Croesawyd ceisiadau gan naill ai awdurdodau lleol unigol neu awdurdodau lleol yn gweithredu gyda’i gilydd fel consortiwm.

Mae’r deg safle dilynol wedi’u dewis i gymryd rhan yn y peilot trwy gystadleuaeth deg ac agored:

Lleoliad Safle
Lloegr Cyngor Dinas Hull
Lloegr Bwrdeistref Barking a Dagenham yn Llundain
Lloegr Bwrdeistref Islington yn Llundain a Bwrdeistref Camden yn Llundain
Lloegr Gogledd Swydd Lincoln a Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln
Lloegr Cyngor Sir Gogledd Swydd Efrog a Dinas Efrog
Lloegr Bwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea a Bwrdeistref Westminster
Lloegr Cyngor Solihull
Yr Alban Cyngor Dinas Glasgow
Cymru Cyngor Caerdydd
Cymru Cyngor Dinas Casnewydd a Thorfaen, Blaenau Gwent, Trefynwy a Chaerffili

Bydd y Rhaglen Beilot yn agored i bob plentyn yn yr ardaloedd peilot sydd fwy na 100 diwrnod i ffwrdd o’u pen-blwydd yn 18 oed lle mae’r cyfrifoldeb diogelu yn disgyn i un o’r awdurdodau lleol a restrir uchod. Bydd plant sydd o fewn 100 diwrnod i’w pen-blwydd yn 18 oed yn parhau i gael penderfyniadau gan yr SCA. Diben y cyfnod hwn o 100 diwrnod yw sicrhau bod penderfyniadau’n gyflawn cyn pen-blwydd plentyn yn 18 oed. Ac eithrio mewn achosion eithriadol, dylai penderfyniadau fod yn gyflawn o fewn 90 diwrnod. Mae hyblygrwydd i ardaloedd peilot hysbysu’r SCA os yw penderfyniad yn mynd i gymryd mwy na 90 diwrnod oherwydd nad oes tystiolaeth ar gael.

Cytunir ar ddyddiadau cychwyn unigol gyda safleoedd peilot ar sail eu parodrwydd i fynd yn fyw. Disgwylir i bob safle fod yn gwneud penderfyniadau erbyn diwedd Mehefin 2021 fan bellaf. Bydd y Rhaglen Beilot yn weithredol am 12 mis.

Gofynion a gwneud penderfyniadau

Rydym yn awyddus i ddarparu cymaint o hyblygrwydd â phosibl yn y modd y mae’r cynlluniau peilot yn gweithredu. Fodd bynnag, mae rhai elfennau a fydd yn gyffredin i wneud penderfyniadau ar draws yr holl safleoedd peilot er mwyn sicrhau cysondeb ac aliniad â chanllawiau cyhoeddedig. Bydd y broses o wneud penderfyniadau yn dilyn yr un broses ac yn cael ei gwneud yn unol â’r un diffiniadau a throthwyon ag a nodir yn Caethwasiaeth Fodern: canllawiau statudol ar gyfer Cymru a Lloegr (o dan a49 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015) a chanllawiau anstatudol ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon Pennod 7 ac Atodiad E. Mae manylion ynghylch sut y bydd hyn yn gweithredu wedi’u nodi yng Nghanllawiau Gwneud Penderfyniadau Datganoli’r Rhaglen Beilot ar gyfer Plant ar gyfer Safleoedd Peilot. Mae’r canllawiau hyn ar gael [yma]. Mae elfennau allweddol y rhaglen beilot fel sy’n dilyn:

  • Ym mhob achos, bydd plant yn parhau i gael eu diogelu a’u cefnogi’n briodol yn unol â’r gofynion statudol cyfredol ni waeth pa gam y maent ynddo yn y broses gwneud penderfyniadau.[footnote 7]

  • Bydd y penderfyniadau Seiliau Rhesymol a Seiliau Terfynol yn cael eu cymryd trwy strwythur amlasiantaethol mewn un neu fwy o gyfarfodydd, gyda chynrychiolaeth o’r tri phartner diogelu - yr awdurdod lleol, iechyd a’r heddlu - o leiaf. Ni ddylai cadeirydd y strwythur amlasiantaethol fod yn weithiwr cymdeithasol arweiniol sy’n ymwneud ag achos plentyn er mwyn sicrhau bod y gweithiwr cymdeithasol yn gallu cynrychioli barn y plentyn ac osgoi unrhyw wrthddrawiad buddiannau.

  • Lle mae’r Rhaglen Beilot mewn ardal lle mae’r gwasanaeth Gwarcheidwad Masnachu Plant Annibynnol (ICTG), Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban neu ddarpariaeth statudol gyfatebol yn cael ei gyflwyno, dylid ceisio barn yr ICTG neu Warcheidiad yr Alban cyn gwneud penderfyniad Seiliau Terfynol a dylid eu gwahodd i rannu gwybodaeth a mynychu unrhyw gyfarfodydd perthnasol. Gan eu bod yn annibynnol, ni ddylai’r ICTG na Gwarcheidiad yr Alban gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.[footnote 8]

  • Dylid gwneud penderfyniad Seiliau Rhesymol ddim hwyrach na 45 diwrnod o’r dyddiad y mae’r safle peilot yn derbyn yr atgyfeiriad. Gellir gwneud penderfyniad Seiliau Terfynol cadarnhaol hefyd yn yr un cyfarfod os oes digon o dystiolaeth i wneud hynny.

  • Os bydd safle peilot yn ystyried bod y dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer y cyfarfod amlasiantaethol cyntaf yn annigonol ar gyfer gwneud penderfyniad cadarnhaol yn yr un cyfarfod, yna dylid cynnal ail gyfarfod i wneud y penderfyniad Seiliau Terfynol heb fod yn hwyrach na 45 diwrnod ar ôl y cyfarfod cyntaf (90 diwrnod i gyd).

  • Ni ddylid gwneud penderfyniad Seiliau Terfynol negyddol mewn cyfarfod cychwynnol os daethpwyd i Seiliau Rhesymol cadarnhaol. Yn lle hynny, dylid trefnu ail gyfarfod i wneud y penderfyniad Seiliau Terfynol er mwyn caniatáu i dystiolaeth bellach ddod i’r amlwg neu gael ei chasglu.

  • Lle mae’r strwythur amlasiantaethol wedi ystyried y dystiolaeth i wneud penderfyniad Seiliau Terfynol ac yn asesu nad oes digon o dystiolaeth i wneud penderfyniad cadarnhaol, rhaid iddynt hysbysu’r Swyddfa Gartref o’r asesiad hwnnw a darparu dyddiad ar gyfer cyfarfod dilynol heb fod yn hwyrach na 45 diwrnod ar ôl y cyfarfod cychwynnol hwnnw.

  • Bydd plant yn parhau i gael Cyfnod Adfer, fel y nodir yng Nghanllawiau Statudol Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, ar ôl penderfyniad Seiliau Rhesymol cadarnhaol, ond ni fydd cyfnod isaf o amser y mae’n ofynnol i awdurdod lleol aros cyn gwneud penderfyniad terfynol cadarnhaol lle maent yn teimlo bod ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad cadarnhaol cyfoes. Lle na ellir gwneud penderfyniad Seiliau Rhesymol a Seiliau Terfynol yn yr un cyfarfod, bydd y safle peilot yn ceisio gwneud penderfyniad Seiliau Terfynol o fewn 45 diwrnod ar ôl i benderfyniad Seiliau Rhesymol cadarnhaol gael ei wneud.

  • Rhaid i’r safleoedd peilot roi gwybod i’r SCA am ganlyniadau penderfyniad Seiliau Rhesymol a/neu Seiliau Terfynol, a byddant yn coladu’r wybodaeth berthnasol sy’n ofynnol gan yr SCA i:

    • ddiweddaru cronfeydd data perthnasol y Swyddfa Gartref
    • anfon llythyrau penderfyniad a
    • chyhoeddi ystadegau chwarterol y llywodraeth mewn perthynas â phlant sy’n ddioddefwyr caethwasiaeth fodern

Bydd yr holl ddata a rennir rhwng y Swyddfa Gartref a safleoedd peilot yn cael eu hanfon trwy borth trosglwyddo data diogel y Swyddfa Gartref, MOVEit.[footnote 9]

Cymorth a sicrwydd ansawdd

Bydd y Swyddfa Gartref yn cynnig pecyn cymorth i’r safleoedd peilot drwy gydol y Rhaglen Beilot a fydd yn cynnwys cyllid, hyfforddiant ac arbenigedd technegol. Bydd y rhaglen yn destun gwerthusiad trwyadl sy’n cael ei oruchwylio gan banel gwerthuso a gadeirir yn annibynnol.

Un o’r ffyrdd y bydd y Swyddfa Gartref yn sicrhau bod safon a chysondeb penderfyniadau’n cael eu cynnal yw trwy hyfforddiant cadarn. Mae’n bwysig nad yw lleoliad y plentyn yn cael unrhyw effaith ar ansawdd y penderfyniad y mae’n ei dderbyn, ac felly bydd yn ofynnol i’r unigolion sy’n cymryd rhan yn y penderfyniadau gael yr hyfforddiant priodol.

Bydd y Swyddfa Gartref yn sicrhau ansawdd rhai o’r penderfyniadau a wneir gan safleoedd peilot. Bydd y dull a ddefnyddir yn hyblyg ac yn dibynnu ar berfformiad. Fel rhan o sicrwydd ansawdd, efallai y bydd y Swyddfa Gartref yn ei gwneud yn ofynnol i’r Safle Peilot adolygu penderfyniad a/neu gasglu gwybodaeth bellach er mwyn gallu adolygu penderfyniad. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi esboniad o’r rheswm pam nad yw’r penderfyniad wedi pasio sicrwydd ansawdd a bydd gan y Safle Peilot ddeg diwrnod gwaith i ymateb i’r Swyddfa Gartref a nodi sut y bydd yn adolygu ac yn diwygio’r penderfyniad.

Bydd pob penderfyniad Seiliau Terfynol negyddol yn parhau i gael ei adolygu gan Baneli Sicrwydd Amlasiantaethol

I gael rhagor o wybodaeth am y safleoedd peilot cysylltwch â: childmspilots@homeoffice.gov.uk.

  1. Mae’r term ‘Caethwasiaeth Fodern’ yn derm ymbarél a ddefnyddir yng Nghymru a Lloegr i gyfeirio at droseddau masnachu mewn pobl, caethwasiaeth, caethwasanaeth a llafur dan orfod neu orfodol. Mae’r term yn ymwneud â’r troseddau y darperir ar eu cyfer yn Neddf Caethwasiaeth Fodern 2015, a Deddf Masnachu mewn Pobl a Chamfanteisio (Yr Alban) 2015. 

  2. Yng Nghymru a Lloegr, gwnaeth Adran 48 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ddarpariaeth ar gyfer Gwarcheidwaid Masnachu Plant Annibynnol yng Nghymru a Lloegr, a’u rôl yw darparu cymorth annibynnol arbenigol ar gyfer plant sy’n cael eu masnachu, ac eirioli ar ran y plentyn er mwyn sicrhau yr adlewyrchir eu budd gorau mewn penderfyniadau a wneir gan awdurdodau cyhoeddus. Mae canllawiau ar gael Interim guidance for Independent Child Trafficking Guardians

  3. Yn yr Alban, mae gan blant a phobl ifanc sydd yn, neu a allai fod wedi cael eu masnachu, neu sydd mewn perygl o gael eu masnachu, nad oes gan neb yn y DU hawliau neu gyfrifoldebau rhiant amdanynt, hawl i gael cymorth eiriolaeth annibynnol gan warcheidwad o Wasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban. 

  4. Mae’r dyletswyddau statudol ar gyfer awdurdodau lleol yn yr Alban wedi’u nodi mewn nifer o statudau, gan gynnwys Social Work (Scotland) Act 1968 (legislation.gov.uk); Children (Scotland) Act 1995 (legislation.gov.uk); Children and Young People (Scotland) Act 2014 (legislation.gov.uk); oll fel y cyfeiriwyd atynt yn National Guidance for Child Protection in Scotland 2014 (www.gov.scot). Human Trafficking and Exploitation (Scotland) Act 2015 (legislation.gov.uk) yw’r ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymwneud ag ymatebion a chymorth i ddioddefwyr ac erlyn cyflawnwyr masnachu mewn pobl. 

  5. Mae’r National Guidance for Child Protection in Scotland 2014 (www.gov.scot) yn ganllawiau anstatudol sy’n darparu fframwaith i asiantaethau ac ymarferwyr ar lefel leol gytuno ar brosesau ar gyfer cydweithio i ddiogelu a hybu lles plant ac mae’n adnodd i ymarferwyr ar feysydd ymarfer penodol a materion allweddol ym maes amddiffyn plant. 

  6. Gwneud pethau’n iawn i bob plentyn (GIRFEC) yw polisi Llywodraeth yr Alban sydd â’r nod o gefnogi plant a theuluoedd drwy sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth cywir, ar yr adeg gywir, gan y bobl iawn. Nod y dull GIRFEC yw cefnogi plant a phobl ifanc fel y gallant dyfu i fyny gan deimlo eu bod yn cael eu caru, yn ddiogel ac yn cael eu parchu ac yn gallu gwireddu eu llawn botensial. 

  7. Yn yr Alban bydd y Rhaglen Beilot yn gweithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth ddatganoledig sy’n bodoli eisoes a’r darpariaethau deddfwriaethol ynghylch amddiffyn, diogelu plant a phrosesau cyfiawnder troseddol fydd yn dal i fod yn gymwys fel yr amlinellir yn National Guidance for Child Protection in Scotland 2014 (www.gov.scot)

  8. Yng Nghymru a Lloegr mae hyn yn unol â chanllawiau cyhoeddedig sydd yn biod yn rhaid gwahodd naill ai Gweithiwr Uniongyrchol yr ICTG neu Gydlynydd Ymarfer Rhanbarthol yr ICTG a’u darparu â’r cyfle i gyfrannu o bob cyfarfod a thrafodaeth sydd yn berthnasol i ac yn effeithio ar y plentyn. 

  9. Bydd canllawiau pellach ar MOVEit yn cael eu darparu i Safleoedd Peilot ynghyd â hyfforddiant priodol cyn i’r rhaglen beilot gychwyn.