Guidance

Decision making guidance for pilot sites in Scotland (Welsh version)

Updated 5 December 2023

Rhaglen Beilot Datganoli Gwneud Penderfyniadau ar Gyfer Plant: Canllawiau ynghylch gwneud penderfyniadau ar gyfer Safleoedd Peilot yn yr Alban

1.1 Sylwch fod yr Atodiad hwn yn berthnasol i bob Safle Peilot yn yr Alban. Mae canllawiau ar wahân yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr.

1.2 Mae’r Atodiad hwn yn darparu canllawiau manwl i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y Rhaglen Beilot Datganoli Gwneud Penderfyniadau. Mae’n disodli Atodiad E i Gaethwasiaeth Fodern: Canllawiau Statudol ar gyfer Cymru a Lloegr (o dan a49 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015) a Chanllawiau Anstatudol ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon at ddiben gwneud penderfyniadau o fewn y Peilot.

1.3 Bydd diffiniadau o wahanol fathau o droseddau masnachu mewn pobl (caethwasiaeth, caethwasanaeth a llafur dan orfodol neu orfodol) yn aros fel y’u cynhwysir yn Neddf Masnachu mewn Pobl a Chamfanteisio (Yr Alban) 2015 a chyfeirir ato ymhellach yn y Canllawiau Rhyngasiantaethol ar Fasnachu a Chamfanteisio 2019 (Pwyllgor Amddiffyn Plant Glasgow).

Termau Diffiniedig

1.4 Yn y canllawiau hyn, defnyddir y termau diffiniedig dilynol yn ychwanegol at y termau diffiniedig a nodir yn Caethwasiaeth Fodern: Canllawiau Statudol ar gyfer Cymru a Lloegr (o dan a49 Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015) a Chanllawiau Anstatudol ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.

  • Mae’r Rhaglen Beilot Datganoli Gwneud Penderfyniadau ar gyfer Plant (y ‘Rhaglen Beilot’) yn cyfeirio at y deg Safle Peilot sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch plant a allai ddioddef caethwasiaeth fodern fel y’i diffinnir yn y ddogfen hon. Bydd y rhaglen yn rhedeg am 12 mis.

  • Mae Safle Peilot yn cyfeirio at bartneriaid Pwyllgor Amddiffyn Plant Glasgow.
  • Mae plentyn yn cyfeirio at blentyn neu berson ifanc o dan 18 oed.
  • Mae Canllawiau Cenedlaethol Amddiffyn Plant yn cyfeirio at y Canllawiau Cenedlaethol ar gyfer Amddiffyn Plant yn yr Alban 2014.
  • Mae Trafodaeth Atgyfeirio Cychwynnol (IRD) yn gyfarfod amddiffyn plant a gynullwyd o dan ganllawiau amddiffyn plant cenedlaethol a lleol yn yr Alban. Mae’r cyfarfod amlasiantaethol hwn yn pennu’r angen am unrhyw fesurau amddiffyn plant neu les plant.
  • Mae cynhadledd Cefnogi ac Amddiffyn Pobl Ifanc (PPPI) yn gyfarfod amddiffyn plant a gynullir o dan weithdrefnau Cefnogi ac Amddiffyn Pobl Ifanc lle mae cynllun y plentyn yn cael ei ddatblygu a’i weithredu.
  • Cyfeirir at fasnachu a chamfanteisio mewn pobl yn hytrach na therminoleg ‘caethwasiaeth fodern’ yn unol â Deddf Masnachu mewn Pobl a Chamfanteisio ar Bobl (Yr Alban) 2015.
  • Mae GIRFEC yn cyfeirio at Gwneud pethau’n Iawn i bob plentyn sy’n ddull cenedlaethol o sicrhau cynllunio cyson ac i gymryd camau priodol i gefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn yr Alban Model Ymarfer Cenedlaethol GIRFEC.

Polisi a gweithdrefnau trosfwaol

1.5 Dyma’r polisïau a gweithdrefnau trosfwaol y bydd y Rhaglen Beilot yn gweithio o’u mewn i gynnig asesiad cadarn o amgylchiadau’r plentyn neu’r person ifanc:

Asesu dibynadwyedd, hygrededd a thystiolaeth arall yn ystod y broses i wneud penderfyniadau

1.6 Mae angen i Safleoedd Peilot asesu a yw adroddiad dioddefwr posibl o fasnachu mewn pobl a chamfanteisio yn gredadwy wrth wneud penderfyniad Seiliau Rhesymol a Seiliau Terfynol.

1.7 Dylid dilyn arfer da wrth weithio gyda dioddefwyr sydd wedi profi trawma. Gweler y Canllawiau Rhyngasiantaethol ar Fasnachu Plant a Chamfanteisio ar Blant 2019 i gael rhagor o wybodaeth am ymarfer sy’n seiliedig ar drawma. Nid yw’r angen i ystyried yr effaith y mae trawma yn debygol o’i chael ar allu’r unigolyn i gofio digwyddiadau yn dileu’r angen i asesu’r holl wybodaeth yn feirniadol ac yn wrthrychol wrth ystyried hygrededd achos.

Asesu hygrededd

1.8 Mae gan Safleoedd Peilot yr hawl i ystyried hygrededd fel rhan o’u proses gwneud penderfyniadau ar y cam Seiliau Rhesymol a Seiliau Terfynol. Pan fydd Safleoedd Peilot yn asesu hygrededdadroddiad, rhaid iddynt ystyried hygrededd allanol a mewnol y ffeithiau perthnasol.

1.9 Os ydynt yn cyd-fynd â’r diffiniad o fasnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth, caethwasanaeth, a llafur dan orfod neu lafur gorfodol, bod tystiolaeth ategol ddibynadwy ac mae’r adroddiad yn gredadwy i’r safon profi gofynnol, dylai’r Safle Peilot gydnabod bod y person wedi dioddef masnachu mewn pobl.

Amgylchiadau lliniaru

1.10 Mae’n bwysig i’r Safle Peilot asesu’r holl wybodaeth yn feirniadol ac yn wrthrychol pan fydd y Safle Peilot yn ystyried hygrededd achos, ond mae hefyd yn hanfodol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ddeall y rhesymau lliniaru pam mae dioddefwr posibl masnachu mewn pobl yn anghydlynol, anghyson neu’n oedi wrth roi manylion ffeithiau perthnasol.

1.11 Drwy gydol y broses hon mae’n bwysig cofio bod dioddefwyr masnachu mewn pobl wedi bod trwy drawma, ac y gallai hyn effeithio ar y wybodaeth a ddarperir ganddynt. Oherwydd trawma, gall fod rhesymau dilys pam fod adroddiad dioddefwr posib yn anghyson neu’n brin o fanylion. Dylai’r Safle Peilot roi ystyriaeth i unrhyw ffactorau perthnasol a nodir yn yr adran ganllawiau ar Fasnachu Plant a Chamfanteisio ar Blant Glasgow, sy’n amlinellu rhai o’r heriau y gallai dioddefwyr eu hwynebu wrth ddarparu adroddiad clir a chyson o’u profiadau. Dylai’r Safle Peilot ystyried y rhesymau hyn wrth ystyried hygrededd honiad.

1.12 Rhaid i’r Safle Peilot gadw’r canlynol mewn cof ynghylch y plentyn:

  • bregusrwydd ychwanegol
  • cam datblygiadol
  • meithrin perthynas amhriodol posibl gan y masnachwyr a’r ecsbloetwyr

Perthnasedd

1.13 Wrth asesu hygrededd, dylai’r Safle Peilot asesu ffeithiau perthnasol digwyddiadau’r gorffennol a’r presennol (ffeithiau perthnasol yw’r rhai sy’n ddifrifol ac yn arwyddocaol eu natur) a all awgrymu bod person yn ddioddefwr masnachu mewn pobl. Yn gyffredinol, mae’n ddiangen, ac weithiau’n wrthgynhyrchiol, i ganolbwyntio ar fân ffeithiau neu ffeithiau ymylol nad ydynt yn berthnasol i’r honiad.

1.14 Dylai’r Safle Peilot asesu’r ffeithiau perthnasol yn seiliedig ar y dilynol:

  • a ydynt yn gydlynol ac yn gyson ag unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig neu lafar yn y gorffennol?
  • pa mor dda y mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn cyd-fynd ac a yw’n gwrth-ddweud ei hun?
  • a ydynt yn gyson â honiadau a wneir gan dystion ac unrhyw dystiolaeth ddogfennol a gyflwynwyd i gefnogi’r honliad neu a gasglwyd yn ystod eich ymchwiliadau/asesiad?

1.15 Lle nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi honiad bod y plentyn yn ddioddefwr masnachu mewn pobl (er enghraifft pan fo’r achos yn brin o fanylion allweddol, megis pwy y camfanteisiodd arnynt neu lle digwyddodd y camfanteisio) mae gan staff y Safle Peilot hawl i gwestiynu a yw’r trothwy Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol yn cael ei fodloni. Fodd bynnag, os bodlonir y trothwy Seiliau Rhesymol, rhaid i Safleoedd Peilot hefyd ystyried a ydynt yn gallu gwneud penderfyniad Seiliau Terfynol cadarnhaol ar sail y dystiolaeth sydd ar gael iddynt, neu a oes angen rhagor o wybodaeth arnynt cyn gwneud penderfyniad Seiliau Terfynol.

Lefel y Manylder

1.16 Mae lefel y manylder y mae dioddefwr posibl yn cyflwyno ei honiad â hi yn ffactor pan yw’r Safle Peilot yn asesu hygrededd. Mae’n rhesymol tybio y bydd dioddefwr sy’n rhoi disgrifiad o’i brofiad masnachu mewn pobl ac ecsbloetio yn fwy mynegiannol ac yn fwy tebygol o gynnwys manylion synhwyraidd (er enghraifft yr hyn y mae wedi’i weld, ei glywed, ei deimlo neu ei feddwl am ddigwyddiad) na rhywun nad yw wedi cael y profiad hwn. Fodd bynnag, gall rhai unigolion sydd wedi’u trawmateiddio ei chael yn anodd mynegi profiadau gofidus ar lafar, gallant ymddangos yn ddideimlad neu wedi’u datgysylltu oddi wrth eu geiriau neu ddangos ymatebion eraill sy’n gysylltiedig â thrawma.

1.17 Lle nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi bod yr unigolyn yn ddioddefwr masnachu mewn pobl, mae gan y Safle Peilot hawl i gwestiynu a yw’r trothwy Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol yn cael ei fodloni.

Cysondeb

1.18 Mae hefyd yn rhesymol tybio y bydd dioddefwr posibl sydd wedi profi digwyddiad yn gallu adrodd yr elfennau canolog mewn modd gweddol gyson. Gallai anallu dioddefwr posibl i aros yn gyson drwy gydol ei adroddiadau ysgrifenedig a llafar o ddigwyddiadau’r gorffennol a’r presennol arwain y Safle Peilot i gwestiynu ei adroddiad. Fodd bynnag, cyn i’r Safle Peilot ddod i gasgliad negyddol, dylent ystyried a ydynt yn gallu cyrchu gwybodaeth bellach a allai egluro anghysondebau yn yr hawliad gan gynnwys a ddylid rhoi cyfle i’r Ymatebwr Cyntaf wneud sylwadau.

1.19 Oherwydd trawma masnachu mewn pobl ac ecsbloetio gall fod rhesymau dilys pam mae disgrifiad dioddefwr posibl yn anghyson neu’n brin o fanylion. Dylai’r Safle Peilot ystyried unrhyw dystiolaeth o amgylchiadau lliniaru a allai egluro’r anghysondeb.

Ystyried rhywedd a diwylliant

1.20 Dylai Safleoedd Peilot wybod sut i ystyried materion rhywedd a diwylliannol wrth ystyried hygrededd.

1.21 Mae’n bwysig deall bod gofid yn cyflwyno’n wahanol mewn diwylliannau gwahanol a bod dealltwriaeth ddiwylliannol o lawer o sefyllfaoedd yn amrywio.

1.22 Wrth wneud penderfyniadau Seiliau Rhesymol a Seiliau Terfynol rhaid i’r Safle Peilot ystyried sefyllfa unigol ac amgylchiadau personol y person ac ystyried materion diwylliannol neu rywedd.

1.23 Gall unigolion o’r un wlad wreiddiol gael profiadau gwahanol oherwydd eu hunaniaeth ddiwylliannol, ethnig, rhywedd a rhywiol. Er enghraifft, efallai na fydd menywod yn gallu datgelu manylion perthnasol oherwydd normau diwylliannol a chymdeithasol.

Asesu masnachu mewn pobl a chamfanteisio ar bobl

1.24 Wrth nodi masnachu mewn pobl a chamfanteisio ar bobl, bydd y Safle Peilot yn cynnal asesiad amlasiantaethol yn ystod y camau Seiliau Rhesymol a Seiliau Terfynol, gan ystyried yr holl wybodaeth yn unol â’r gweithdrefnau a’r canllawiau a nodir uchod. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth a gyflwynir gan blentyn neu berson ifanc. Bydd unrhyw ymgysylltiad â phlentyn neu berson ifanc yn cael ei wneud gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar drawma a bydd unrhyw asesiad yn ystyried effaith trawma fel y nodir yn Adran 4 o ganllawiau rhyngasiantaethol 2019 (cymorth ac ymyrraeth wedi’i lywio gan drawma).

1.25 Bydd y Safle Peilot yn dilyn egwyddorion GIRFEC. GIRFEC yw fframwaith cenedlaethol yr Alban sy’n cefnogi lles a diogelwch plant trwy asesiad cyfannol o anghenion y plentyn.

Perthnasedd posibilrwydd erlyn cyflawnwyr

1.26 Mae angen i’r Safle Peilot fod yn ymwybodol o sut y gallai erlyn cyflawnwyr effeithio ar benderfyniadau Seiliau Rhesymol a Therfynol masnachu mewn pobl.

1.27 Pan yw’r Safle Peilot yn penderfynu a oes Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol bod person yn ddioddefwr masnachu mewn pobl, efallai y bydd ei benderfyniad yn cael ei ddylanwadu gan a yw’r ecsbloetiwr honedig yn cael ei erlyn. Nid yw penderfyniad y Safle Peilot yn dibynnu ar:

  • ymchwiliad troseddol yn digwydd
  • a yw’r plentyn neu’r person ifanc yn cydweithredu ag ymchwiliad troseddol

1.28 Mae’r broses adnabod dioddefwyr yn annibynnol ar unrhyw achosion troseddol yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol am fasnachu mewn pobl a chamfanteisio ar bobl. Mae’r safon profi troseddol “y tu hwnt i amheuaeth resymol” yn uwch na’r prawf Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol.

1.29 Rhaid i’r Safle Peilot fod yn ymwybodol y gallai unrhyw wybodaeth a gofnodwyd fel rhan o benderfyniad Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol gael ei datgelu yn ystod erlyniad neu Gais Gwrthrych am Wybodaeth.

Safbwyntiau gweithwyr proffesiynol yn ystod y broses o wneud penderfyniadau

1.30 Yr Heddlu, Gwaith Cymdeithasol ac Iechyd yw’r prif benderfynwyr mewn penderfyniadau Seiliau Rhesymol a Therfynol.

1.31 Lle mae’r penderfyniad Seiliau Rhesymol yn gadarnhaol, ond nid yw’r Safle Peilot yn credu y gall wneud penderfyniad Seiliau Terfynol cadarnhaol ar yr un pryd, er enghraifft, oherwydd diffyg tystiolaeth, bydd y Safle Peilot yn trefnu ail gyfarfod (Cynhadledd Achos Cymorth a Diogelu Pobl Ifanc) i wneud y penderfyniad Seiliau Terfynol o fewn 45 diwrnod calendr i’r cyfarfod cychwynnol.

1.32 Os oes angen ail gyfarfod, dylai penderfynwyr y Safle Peilot ystyried pa dystiolaeth fydd ei hangen i’w galluogi i wneud y penderfyniad Seiliau Terfynol yn yr ail gyfarfod a sicrhau y gwneir pob ymdrech i gael y dystiolaeth honno. Lle mae’r Safle Peilot yn ymwybodol y bydd gwybodaeth berthnasol bellach ar gael yn ddiweddarach e.e. asesiad meddygol neu adroddiad gan yr heddlu, dylai’r safle sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu ar gyfer yr ail gyfarfod.

1.33 Bydd y penderfyniad Seiliau Terfynol yn cael ei wneud wrthymgynghori â’r holl weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â chymorth a gofal y plentyn/person ifanc sy’n bresennol yn yr YPSPCC.

1.34 Bydd y gynhadledd Cefnogi ac Amddiffyn Pobl Ifanc (YPSP) yn cynnwys, lle bo’n briodol, y Gwarcheidwad Masnachu Plant Annibynnol a fydd yn cymryd rhan lawn yn y cyfarfod. Mae Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban yn darparu cymorth annibynnol arbenigol trwy warcheidwad i blant a phobl ifanc sydd yn, neu a allai fod wedi cael eu masnachu, neu sydd mewn perygl o gael eu masnachu, nad oes gan neb yn y DU hawliau na chyfrifoldebau rhiant drostynt. Mae’r gwarcheidwad yn helpu’r plant a’r bobl ifanc hyn i lywio’r prosesau mewnfudo a lles. Lle bo’n briodol, bydd y gwarcheidwad yn mynychu cynhadledd Cefnogi ac Amddiffyn Pobl Ifanc (YPSP) ac yn cymryd rhan lawn yn y cyfarfod i rannu gwybodaeth, ond gan nad yw’n wasanaeth statudol ni ddylai gymryd rhan yn y penderfyniad terfynol.

Pwysau i’w rhoi ar adroddiadau arbenigwyr

1.35 Gall dioddefwyr posibl masnachu mewn pobl ddibynnu ar dystiolaeth ddogfennol i gefnogi eu honiad yn y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM).

1.36 Bydd profiad a chymwysterau’r unigolyn sy’n darparu’r dystiolaeth ategol a’r ffynonellau a ddefnyddir yn berthnasol wrth ystyried faint o bwysau i’w roi ar adroddiad arbenigwr a rhaid ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau ei hun.

1.37 Nid yw tystiolaeth arbenigol yn pennu a yw’r prawf Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol wedi’i fodloni ond dylid ei hystyried wrth ddod i gasgliad ynghylch a oes rhesymau pam y bodlonir neu na fodlonir y prawf Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol. Nid oes gofyniad i dderbyn asesiad arbenigwr; dylid ystyried unrhyw asesiad arbenigol gyda’r holl wybodaeth arall.

1.38 Mae’n bosibl na fydd gan yr unigolyn sy’n ysgrifennu’r adroddiad fynediad at yr ystod lawn o wybodaeth sydd ar gael i’r Safle Peilot a rhaid ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth ddogfennol, wrth wneud penderfyniad Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol.

1.39 Pan fydd adroddiad arbenigwr yn cael ei ystyried wrth asesu hawliad o dan yr NRM, a bod gwybodaeth arall ar gael, dylid ystyried yr holl wybodaeth ac adroddiadau perthnasol. Os oes sawl adroddiad gan arbenigwyr, rhaid ystyried pob un. Ni ddylai penderfyniad ddibynnu ar adroddiad arbenigwr yn unig heb ystyried yr holl wybodaeth berthnasol.

1.40 Ni ddylai penderfyniad ddibynnu ar adroddiad arbenigwr yn unig lle mae gwybodaeth berthnasol arall ar gael. Dylai’r Safle Peilot ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael, a dylid ystyried adroddiad arbenigol a’i bwysoli’n briodol ochr yn ochr â thystiolaeth arall.

1.41 Lle mae dioddefwr posibl yn dibynnu ar dystiolaeth feddygol, dylai fod oddi wrth weithiwr proffesiynol meddygol neu iechyd sy’n gymwys yn y maes priodol, gan gynnwys gwybodaeth megis y cyflwr corfforol neu feddyliol perthnasol, pryd mae’r cyflwr hwnnw wedi’i ddiagnosio, a pham y mae’r cyflwr hwnnw neu unrhyw driniaeth sy’n ymwneud ag ef yn berthnasol i fasnachu mewn pobl a chamfanteisio ar bobl.

1.42 Ni fydd y Safle Peilot yn gwneud penderfyniad ar genedligrwydd dioddefwr posibl. Pwrpas yr NRM yw nodi a chefnogi dioddefwyr masnachu mewn pobl. Fodd bynnag, bydd y Safle Peilot yn ystyried tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau i alluogi asesiad cyfannol o achos dioddefwr posibl a allai gynnwys ystyried cenedligrwydd honedig y dioddefwr posibl at ddibenion ei achos a’r honiadau ei fod yn ddioddefwr.

1.43 Rhaid i unrhyw dystiolaeth a gyflenwir allu cael ei dilysu gan y Safle Peilot lle mae’n briodol.

Tystiolaeth annigonol

1.44 Lle nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi honiad bod yr unigolyn yn ddioddefwr masnachu mewn pobl, mae gan Safleoedd Peilot hawl i gwestiynu a yw’r trothwy Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol yn cael ei fodloni.

1.45 Dylai penderfynwyr mewn Safleoedd Peilot ystyried pa wybodaeth sydd ganddynt a allai fod yn berthnasol i benderfyniad a sicrhau ei bod yn cael ei rhannu â phenderfynwyr eraill mewn cyfarfod amlasiantaethol i sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei hystyried.

Asesu dioddefwyr a gafodd eu hecsbloetio dramor neu honiadau hanesyddol

1.46 Er bod rhaid i ddioddefwr fod yn gorfforol yn y DU er mwyn mynd i mewn i’r NRM, nid yw’r ffaith bod dioddefwr wedi cael ei ecsbloetio y tu allan i’r DU yn atal y Safle Peilot rhag gwneud penderfyniad.

1.47 Dylai plentyn sy’n dweud ei fod wedi dioddef masnachu mewn pobl dramor gael ei asesu ar yr un sail â phlentyn sy’n datgan ei fod wedi dioddef masnachu mewn pobl yn y DU. Er y gallent fod ymhell oddi wrth eu sefyllfa o fasnachu mewn pobl, efallai eu bod yn dal i fod wedi cael eu hecsbloetio ac felly gellir eu hystyried yn ddioddefwr masnachu mewn pobl. Gallant hefyd gael eu trawmateiddio gan eu profiad hyd yn oed mewn achosion hanesyddol.

1.48 Mae’n bosibl bod rhywun wedi cael ei ecsbloetio beth amser yn ôl ac mae’r sefyllfa o gamfanteisio bellach ar ben. Cyfeirir at y senarios hyn yn aml fel honiadau hanesyddol oherwydd efallai y cânt eu hatgyfeirio i’r NRM ymhell ar ôl i’r camfanteisio ddod i ben. Dylai’r Safle Peilot wneud penderfyniad o hyd ynghylch a yw’r person yn ddioddefwr masnachu mewn pobl os caiff yr achos ei atgyfeirio i’r NRM ac os yw o fewn cwmpas y peilot, gan nad yw penderfyniadau’r NRM yn asesiad o niwed yn y dyfodol ond yn ganfyddiad ffeithiol ôl-weithredol ynghylch a yw’r unigolyn yn ddioddefwr masnachu mewn pobl. Mae’n werth nodi y bydd cynhadledd YPSP hefyd yn ystyried risg o niwed yn y dyfodol.

1.49 Rhaid i’r Safle Peilot gynnig yr un gymorth a’r un amddiffyniad i ddioddefwyr posibl honiadau hanesyddol ag y mae i ddioddefwyr masnachu mewn pobl tra bod eu hachos yn cael ei ystyried o fewn yr NRM.

Sut y gwneir atgyfeiriad

1.50 Mae masnachu mewn pobl a chamfanteisio ar bobl yn fater amddiffyn plant a bydd gweithdrefnau amddiffyn plant yn cael blaenoriaeth mewn unrhyw atgyfeiriad yn unol â Chanllawiau Amddiffyn Plant Cenedlaethol.

1.51 Pan nodir dioddefwr posibl o fasnachu mewn pobl, bydd gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol yn hysbysu SCA ac yn cysylltu â Police Scotland a’r Gwasanaethau Iechyd i drefnu IRD. Bydd yr SCA hefyd yn cael eu hysbysu o ganlyniad yr IRD a allai fod yn:

  • dim angen gweithredu pellach mewn perthynas â masnachu mewn pobl
  • Penderfyniad Seiliau Rhesymol

1.52 Lle mai Police Scotland yw’r asiantaeth atgyfeirio, bydd yn cyflwyno atgyfeiriad i’r Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol a bydd unrhyw gynlluniau diogelwch o dan weithdrefnau amddiffyn plant yn cael eu cytuno. Bydd Police Scotland ar yr un pryd yn hysbysu’r SCA a’r Uned Genedlaethol Masnachu Pobl.

1.53 Lle mai Police Scotland yw’r Ymatebwr Cyntaf, bydd yr atgyfeiriad yn nodi a yw’r plentyn o bosibl yn destun achos troseddol ac unrhyw amserlen y mae Penderfyniad Seiliau Terfynol yn ofynnol ynddi ar gyfer y system cyfiawnder troseddol.

1.54 Pan yw Ymatebwr Cyntaf yn credu bod plentyn yn ddioddefwr posibl masnachu mewn pobl, bydd yn cyflwyno atgyfeiriad i’r SCA, a fydd yn cofnodi’r atgyfeiriad. Bydd yr atgyfeiriad hwn yn cael ei rannu gyda’r Safle Peilot fel y bo’n briodol.

Dilysu a chydnabod atgyfeiriad

1.55 Bydd staff yn yr SCA yn dilysu atgyfeiriad NRM. Y broses y bydd staff yr SCA yn ei dilyn yw:

  • Gwirio a yw’r atgyfeiriad yn ddyblyg neu’n cyfeirio at achos presennol.

  • Gwirio bod digon o wybodaeth wedi’i chynnwys yn yr atgyfeiriad. Os na, bydd staff yr SCA yn cysylltu’n gyflym â’r Sefydliad Ymatebwyr Cyntaf am ragor o wybodaeth ac unrhyw asiantaethau eraill sy’n gysylltiedig â’r manylion a ddarparwyd fel rhan o’r atgyfeiriad.

  • Os oes gan y dioddefwr posibl unrhyw hanes mewnfudo ar Gronfa Ddata Gwybodaeth Achosion y Swyddfa Gartref (CID), gwirio ei fod wedi’i nodi fel un ag amod arbennig ‘Dioddefwr Posibl Masnachu mewn Pobl’. Os na, bydd yr SCA yn ychwanegu hyn at y cofnod ac yn codi rhwystr rhag cael ei ddileu os nad yw hyn eisoes yn ei le.

  • Gwirio a yw’r atgyfeiriad yn gymwys i fod yn rhan o’r Rhaglen Beilot; a yw’r cyfrifoldeb am ddiogelu’r plentyn yn disgyn i un o’r Awdurdodau Lleol sy’n ymwneud â’r Rhaglen Beilot ac a yw’r plentyn yn fwy na 100 diwrnod o’i ben-blwydd yn 18 oed.

Yn ogystal ag atgyfeirio’r achos i’r Safle Peilot; bydd yr SCA yn cydnabod ei fod wedi derbyn y ffurflen atgyfeirio drwy anfon hysbysiad cydnabod at:

  • Yr Ymatebwr Cyntaf
  • Police Scotland
  • Gweithiwr Cymdeithasol. Os nad oes gweithiwr cymdeithasol wedi’i restru ar y ffurflen atgyfeirio mewn achos sy’n ymwneud â dioddefwr posibl sy’n blentyn, bydd yr SCA yn cysylltu â’r Awdurdod Lleol perthnasol
  • Uned Genedlaethol Masnachu Pobl Police Scotland
  • Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban mewn achosion sy’n ymwneud â phlant lle mae’r ddarpariaeth hon ar gael a bod yr SCA wedi’i hysbysu o’u rhan. Bydd yr SCA yn sicrhau bod yr holl ddiweddariadau perthnasol ar gronfeydd data SCA yn cael eu gwneud.

Gwneud penderfyniad

1.56 Mae’r adran hon yn nodi’r broses y bydd y Safle Peilot yn ei dilyn wrth wneud penderfyniad Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol.

1.57 Mae angen i’r Safle Peilot asesu a yw’r holl wybodaeth sydd ar gael yn bodloni’r diffiniad o fasnachu mewn pobl a chamfanteisio ar bobl wrth wneud penderfyniad Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol. Wrth gynnal asesiad, bydd y Safle Peilot yn ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael i gefnogi gwneud penderfyniadau’n wrthrychol. Bydd dadansoddiad o’r wybodaeth a’r dystiolaeth sydd ar gael i’r Safle Peilot yn ei asesiad yn llywio penderfyniad bod plentyn yn ddioddefwr posibl masnachu mewn pobl.

1.58 Wrth gynnal yr asesiad, bydd y Safle Peilot yn cydnabod bod dioddefwyr masnachu mewn pobl wedi bod trwy drawma a allai effeithio ar y wybodaeth a ddarperir ganddynt. Bydd y Safle Peilot yn cymryd i ystyriaeth adroddiadau anghyson o fewn cyd-destun ymarfer sy’n seiliedig ar drawma.

Amserlen ar gyfer penderfyniadau

1.59 Bydd y Safle Peilot yn cynnull IRD wrth dderbyn atgyfeiriad lle bydd Gwaith Cymdeithasol, Police Scotland, y GIG (ac Addysg lle bo’n briodol ac yn unol â Chanllawiau’r IRD) yn gwneud y Penderfyniad Seiliau Rhesymol.

1.60 Os oes digon o wybodaeth, gall yr IRD hefyd wneud penderfyniad Seiliau Terfynol cadarnhaol ar yr un pryd ag y gwneir y penderfyniad Seiliau Rhesymol.

1.61 Lle mae’r penderfyniad Seiliau Rhesymol yn gadarnhaol, ond nad oes gan yr IRD ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad Seiliau Terfynol cadarnhaol, bydd yr IRD yn argymell bod Cynhadledd YPSP yn cael ei threfnu i ystyried y penderfyniad Seiliau Terfynol o fewn 45 diwrnod calendr i’r IRD.

1.62 Lle mae digon o dystiolaeth i gefnogi penderfyniad, bydd y Safle Peilot yn hysbysu’r SCA o’r penderfyniad. Bydd yr SCA wedyn yn cynghori pob parti perthnasol. Lle nad oes digon o dystiolaeth i wneud penderfyniad, dylai cyfranogwyr y gynhadledd gytuno pa dystiolaeth bellach sydd ei hangen a’r camau sydd eu hangen i’w chael.

1.63 Os yw’r plentyn yn destun achos troseddol, dylai’r Safle Peilot ystyried achos y plentyn fel mater o frys a, lle bo modd, yn unol ag amserlenni’r System Cyfiawnder Troseddol. Bydd y Safle Pelot yn hysbysu’r SCA cyn gynted ag y gwneir y penderfyniad. Bydd yr SCA yn hysbysu pawb a chanddynt fuddiant. Fodd bynnag, dim ond pan fydd digon o wybodaeth ar gael i wneud hynny y dylid gwneud penderfyniad.

1.64 Gallai’r Safle Peilot dderbyn cais i oedi cyn gwneud penderfyniad Seiliau Terfynol; er enghraifft, hyd nes y gall parti a chanddo fuddiant gyflwyno gwybodaeth bellach y bernir ei bod yn berthnasol i achos. Dylai’r Safle Peilot ystyried amgylchiadau’r cais, a oes angen y wybodaeth ychwanegol ar gyfer y penderfyniad, ac felly a yw’n briodol aros yn hytrach na bwrw ymlaen â phenderfyniad. Os yw’r plentyn yn destun achos troseddol posibl, yna dylai amserlenni’r system cyfiawnder troseddol fod yn rhan o’r ystyriaeth o’r cais i oedi. Mae’n rhaid i’r Safle Peilot drafod y cais gyda’r SCA, sy’n gorfod hysbysu’r dioddefwr o ganlyniad y cais i oedi a rhoi rhesymau os caiff y cais ei wrthod.

Safon profi ar gyfer penderfyniad Seiliau Rhesymol

1.65 Pan yw’r Safle Peilot yn cael atgyfeiriad, rhaid iddo benderfynu a yw’n rhesymol, ar sail y wybodaeth sydd ar gael, i gredu bod person yn ddioddefwr masnachu mewn pobl, caethwasanaeth a llafur dan orfod neu orfodol.

1.66 Y prawf y mae’n rhaid i’r peilot ei weithredu yw a yw’r datganiad isod yn wir –

‘Rwy’n amau ond ni allaf brofi’ bod y person yn ddioddefwr masnachu mewn pobl neu (caethwasiaeth, caethwasanaeth, neu lafur dan orfod neu orfodol)’

neu

a fyddai person rhesymol, o ystyried y wybodaeth sydd ym meddwl y penderfynwr, yn meddwl bod Seiliau Rhesymol i gredu bod yr unigolyn yn ddioddefwr masnachu mewn pobl (neu gaethwasiaeth, caethwasanaeth, neu lafur dan orfod neu orfodol)

1.67 Efallai na fydd yn glir i’r Safle Peilot i ddechrau a yw dioddefwr posibl wedi bod yn destun masnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth, caethwasanaeth, a llafur dan orfod neu orfodol. Er mwyn dod i benderfyniad Seiliau Rhesymol cadarnhaol mae angen i’r Safle Peilot asesu ar y wybodaeth sydd ar gael ei bod yn rhesymol credu bod person yn ddioddefwr masnachu mewn pobl. Ar y cam Seiliau Rhesymol, nid oes angen i’r Safle Peilot wahaniaethu pa fath o gamfanteisio y maent wedi’i brofi.

1.68 Ni fyddai amheuaeth resymol yn cael ei bodloni fel arfer ar sail honiad di-sail yn unig, heb i’r dilynol fod yn ddibynadwy, yn gredadwy, yn fanwl gywir ac yn gyfredol:

  • cudd-wybodaeth neu wybodaeth
  • tystiolaeth o ryw ymddygiad penodol gan y person dan sylw

1.69 Mae gan y penderfyniad Seiliau Rhesymol ganlyniadau sylweddol i’r dioddefwr posibl o ran amddiffyniad a chymorth (a’r posibilrwydd o aros ymhellach yn y DU os yw’n destun rheolaeth fewnfudo). Mae’n bwysig bod y penderfyniad o’r safon uchaf posibl a’i fod yn cymryd yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ystyriaeth wrth wneud y penderfyniad, gan gynnwys barn arbenigol y rhai sy’n ymwneud â’r unigolyn. Dylid ystyried y wybodaeth ddilynol pan fydd ar gael:

  • cyfeirio at y dangosyddion masnachu mewn pobl a chamfanteisio ar bobl yn yr atgyfeiriad
  • cudd-wybodaeth neu wybodaeth gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys tystiolaeth wrthrychol o’r wlad wreiddiol
  • gwybodaeth gan Ymatebwyr Cyntaf, sefydliadau cymorth, gwasanaethau cymdeithasol a phobl sy’n ymwneud â chynorthwyo’r dioddefwr
  • tystiolaeth o ryw ymddygiad penodol gan y person dan sylw
  • gwybodaeth sydd ar gael i bartneriaid diogelu lleol sy’n ymwneud â’r broses gwneud penderfyniadau
  • gwybodaeth a ddarperir gan y Swyddfa Gartref, er enghraifft, mewn perthynas â chais am loches
  • unrhyw wybodaeth berthnasol arall sydd ar gael i’r Safle Peilot

1.70 Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr ac efallai y bydd gwybodaeth ychwanegol sy’n berthnasol. Lle mae cudd-wybodaeth, gwybodaeth neu dystiolaeth ddibynadwy, gredadwy, manwl gywir a chyfredol yn bresennol ac yn berthnasol, rhaid ei hystyried wrth ddod i benderfyniad Seiliau Rhesymol.

1.71 Os yw person yn ddioddefwr masnachu mewn pobl yna mae’n ddioddefwr trosedd. Nid oes angen i ddioddefwr gydweithredu ag achos troseddol er mwyn cael penderfyniad Seiliau Rhesymol. Gall y Safle Peilot archwilio gwybodaeth am y drosedd honedig fel rhan o’r asesiad Seiliau Rhesymol. Ni ddylai absenoldeb gwybodaeth o’r fath gael ei gymryd fel arwydd nad yw rhywun yn ddioddefwr oherwydd gall fod amrywiaeth o resymau pam na ellir cael gwybodaeth gan Police Scotland, er enghraifft, os digwyddodd camfanteisio dramor.

1.72 Nid oes angen profi bod trosedd wedi digwydd, nac i ymchwiliad troseddol parhaus gael ei gynnal i ganfod bod unigolyn yn ddioddefwr masnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth, caethwasanaeth, a llafur dan orfodol neu orfodol.

1.73 Rhaid i Safleoedd Peilot gofio nad yw’n bosibl i blentyn roi caniatâd gwybodus i gymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol neu gamfanteisiol arall, ac ni allant ychwaith roi caniatâd i gael ei gam-drin neu ei fasnachu. Felly nid oes angen i’r penderfynwr ystyried ym mha fodd y cawsant eu masnachu (megis twyll, grym neu orfodaeth), fel y byddent mewn achosion masnachu mewn oedolion, gan nad yw’n bosibl i blentyn gydsynio i hyn. Wrth ystyried achosion, dylai Safleoedd Peilot gadw’r dilynol mewn cof ynghylch y plentyn:

  • bregusrwydd ychwanegol
  • cam datblygiadol
  • meithrin perthynas amhriodol posibl gan y cyfawnwr

1.74 Dylai Safleoedd Peilot sicrhau bod yr unigolion perthnasol o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Plant yn ymwybodol o’r achos ac wedi cael y cyfle i gyfrannu gwybodaeth os nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â’r broses gwneud penderfyniadau.

Safon profi ar gyfer penderfyniad Seiliau Terfynol

1.75 Ar y cam penderfynu Seiliau Terfynol, rhaid i’r penderfynwr ystyried, ‘yn ôl pwysau tebygolrwydd’, a oes digon o wybodaeth i benderfynu a yw’r unigolyn yn ddioddefwr masnachu mewn pobl.

Yn ôl ‘pwysau tebygolrwydd’, mae’r person hwn yn ddioddefwr masnachu mewn pobl neu (caethwasiaeth, caethwasanaeth neu lafur dan orfodol neu orfodol)

1.76 Mae ‘cydbwysedd tebygolrwydd’ yn ei hanfod yn golygu, yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael, fod masnachu mewn pobl yn fwy tebygol na pheidio o fod wedi digwydd. Nid yw’r safon profi hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Safle Peilot fod yn sicr bod y digwyddiad wedi digwydd.

1.77 Wrth ddod i’w penderfyniad rhaid i’r Safle Peilot bwyso a mesur y tebygolrwydd drwy ystyried yr holl broses masnachu mewn pobl a chamfanteisio ar bobl a’r camau gweithredu gwahanol a rhyngberthynol y mae angen eu cymryd. I wneud eu penderfyniad, rhaid iddynt bwyso a mesur cryfder y wybodaeth a gyflwynir gan gynnwys hygrededd y wybodaeth a defnyddio synnwyr cyffredin a rhesymeg yn seiliedig ar amgylchiadau penodol pob achos, i ffurfio barn ynghylch hygrededd y wybodaeth a gyflwynir.

1.78 Efallai na fydd digon o wybodaeth yn Ffurflen Atgyfeirio’r NRM a’r wybodaeth sydd ar gael i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn i Safle Peilot wneud penderfyniad Seiliau Terfynol ar yr un pryd â phenderfyniad Seiliau Rhesymol.

1.79 Os na all y Safle Peilot wneud penderfyniad Seiliau Terfynol o fewn 45 diwrnod ar y dystiolaeth sydd ar gael, dylai drefnu ail gyfarfod dim hwyrach na 45 diwrnod ar ôl y cyfarfod lle gwnaed y penderfyniad sail resymol ac ystyried pa dystiolaeth y bydd ei hangen I wneud y penderfyniad Seiliau Terfynol. Gall hyn gynnwys gofyn am ragor o wybodaeth gan:

  • Sefydliad yr Ymatebwr Cyntaf
  • Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban
  • Unrhyw sefydliad arall y gwyddys bod ganddo wybodaeth berthnasol

1.80 Bydd y Safle Peilot yn ceisio gwybodaeth gan ddarparwyr cymorth eraill neu bobl eraill sy’n ymwneud â chynorthwyo’r plentyn/person ifanc lle bo’n briodol. Mewn achosion lle mae’n debygol y bydd yr unigolyn yn cael penderfyniad Seiliau Terfynol negyddol, dylai’r Safle Peilot sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi’i hystyried.

1.81 Mae’n bosibl na fydd rhai o’r dangosyddion ar y ffurflen atgyfeirio yn amlwg ar y cyswllt cychwynnol ond gallent ddod yn glir yn ddiweddarach, er enghraifft yn ystod unrhyw gyfweliadau dilynol â chyfieithydd ar y pryd a/neu mewn lleoliad diogel. Dylai’r Safle Peilot fod yn ymwybodol o unrhyw broses barhaus a allai ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

1.82 Rhaid i’r Safle Peilot hefyd ystyried unrhyw adroddiadau arbenigol a gyflwynir, yn arbennig adroddiadau gan ymarferwyr iechyd cymwys.

1.83 Dylai’r Safle Peilot hefyd ystyried gwybodaeth wrthrychol am wlad wreiddiol a gwybodaeth gyhoeddedig arall o ffynhonnell y gellir ymddiried ynddi sy’n ymwneud â phatrymau hysbys masnachu mewn pobl a chamfanteisio ar bobl neu batrymau sy’n dod i’r amlwg.

1.84 Os oes gan y Safle Peilot ddigon o dystiolaeth i wneud penderfyniad Seiliau Terfynol cadarnhaol ar yr un pryd ag y mae’n gwneud penderfyniad Seiliau Rhesymol cadarnhaol, dylai wneud hynny ar unwaith. Bydd y plentyn yn parhau i gael Cyfnod Adfer o 90 diwrnod calendr o ddyddiad y penderfyniad Seiliau Rhesymol. Gweler Caethwasiaeth Fodern: Canllawiau Statudol ar gyfer Cymru a Lloegr (o dan a49 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015) a Chanllawiau Anstatudol ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon am ragor o wybodaeth am y Cyfnod Adfer.

1.85 Rhaid i Safleoedd Peilot gofio nad yw’n bosibl i blentyn roi caniatâd gwybodus i gymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol neu gamfanteisiol eraill, ac ni allant ychwaith roi caniatâd i gael ei gam-drin neu ei fasnachu. Nid oes angen i’r penderfynwr ystyried ym mha fodd y cawsant eu masnachu (megis twyll, grym neu orfodaeth), fel y byddent mewn achosion masnachu mewn oedolion, gan nad yw’n bosibl i blentyn gydsynio i hyn.

1.86 Bydd y cynllun peilot yn dilyn egwyddorion a fframwaith GIRFEC i sicrhau asesiad cyfannol o’r plentyn neu’r person ifanc.

Cofnodi penderfyniad

1.87 Fel rhan o’r broses gwneud penderfyniadau, bydd Safleoedd Peilot yn cwblhau’r templed cofnodi ac yn dychwelyd hwn, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth y dibynnir arni i ddod i’r penderfyniad, i’r SCA. Dylid gwneud hyn ar gyfer penderfyniadau Seiliau Rhesymol a Seiliau Terfynol. Lle gwneir y ddau benderfyniad yn yr un cyfarfod, dim ond un templed sydd ei angen. Lle bo’n briodol, dylai’r Safle Peilot nodi lle nad oes modd datgelu gwybodaeth mewn Cais Gwrthrych am Wybodaeth.

1.88 Bydd penderfyniadau cynhadledd YPSP yn cael eu cynnwys yn y llythyr penderfyniad 24 awr (sef fframwaith cynllun y plentyn a luniwyd ar ddiwedd cynhadledd. Ni fydd y llythyr penderfyniad 24 awr yn cynnwys unrhyw benderfyniadau Seiliau Rhesymol na Seiliau Terfynol gan y bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi gan yr SCA Bydd cynllun y plentyn yn cynnwys unrhyw ymyriadau a chamau gweithredu sydd eu hangen i ddiwallu anghenion diogelwch a lles y plentyn Bydd yr YPSP yn gwneud penderfyniadau NRM Seiliau Rhesymol a Seiliau Terfynol a bydd y rhain yn cael eu gwneud fel rhan o’r Rhaglen Beilot, gan gydnabod nad yw’r gallu i wneud penderfyniadau NRM yn swyddogaeth ddirprwyedig gyfredol i GCC.

1.89 Bydd yr SCA yn cofnodi canlyniad y penderfyniad ar gronfeydd data priodol y Swyddfa Gartref ac yn cyhoeddi unrhyw lythyrau penderfyniad gofynnol neu gyfathrebiadau eraill.

Paneli Sicrwydd Amlasiantaethol (MAAPs)

1.90 Bydd y broses MAAPs yn parhau i fod yn berthnasol i benderfyniadau Seiliau Terfynol negyddol a wneir gan Safleoedd Peilot. Ceir manylion llawn am hyn yn Atodiad E gwreiddiol Caethwasiaeth Fodern: Canllawiau Statudol ar gyfer Cymru a Lloegr (o dan a49 Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015) a Chanllawiau Anstatudol ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Camau gweithredu ar gyfer yr Awdurdod Cymwys Unigol yn dilyn penderfyniad Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (Seiliau Rhesymol a/neu Derfynol)

1.91 Am gyfnod y Rhaglen Beilot, bydd yr SCA yn parhau i gyhoeddi penderfyniadau sy’n ymwneud â’r NRM unwaith y bydd yr holl brosesau priodol wedi’u cwblhau, e.e. Mae MAAPs wedi adolygu penderfyniad Seiliau Terfynol negyddol.

1.92 Ym mhob achos NRM, pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud, rhaid i’r SCA gymryd y camau dilynol

Cam Gweithredu 1: Cofnodi’r penderfyniad

1.93 Rhaid i’r SCA ddiweddaru cofnodion yr SCA pan fydd unrhyw un o’r dilynol yn digwydd:

  • Penderfyniad Seiliau Rhesymol Cadarnhaol neu Negyddol wedi’i wneud
  • Penderfyniad Seiliau Rhesymol Cadarnhaol a Seiliau Terfynol cadarnhaol wedi’u gwneud
  • Penderfyniad Seiliau Terfynol Cadarnhaol neu Negyddol wedi’i wneud
  • Mae panel MAAP wedi adolygu penderfyniad Seiliau Terfynol Negyddol
  • Gofynnir am ailystyriaeth
  • Mae penderfyniad yn cael ei atal neu ei dynnu’n ôl

1.94 Ym mhob achos bydd yr SCA yn cofnodi canlyniad penderfyniadau’r Rhaglen Beilot a’r dystiolaeth y dibynnwyd arni gan ddefnyddio’r templed adrodd.

1.95 Dylai’r SCA gwblhau’r llythyr penderfyniad priodol ar gyfer canlyniad yr achos.

1.96 Ar gyfer penderfyniad negyddol, mae’n rhaid i’r SCA gynnwys copi o’i gofnod ystyried yn rhoi manylion llawn yr hyn y mae wedi’i ystyried, os yw’n credu bod bylchau yn y wybodaeth ac yn egluro ei benderfyniad.

1.97 Dylid anfon unrhyw lythyr penderfyniad gan yr SCA i’r gweithiwr cymdeithasol penodedig a fydd yn ei rannu â’r partïon perthnasol gan gynnwys y plentyn/person ifanc a Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban lle bo’n briodol.

1.98 Rhaid i’r SCA beidio â chyflwyno llythyr penderfyniad na phapurau masnachu mewn pobl eraill i blentyn o dan unrhyw amgylchiadau. Rhaid cyflwyno pob papur masnachu mewn pobl i gynrychiolydd penodedig y plentyn neu’r Awdurdod Lleol, yn ogystal â, lle mae’n briodol, Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban.

Cam Gweithredu 2: Hysbysu asiantaethau perthnasol eraill am y penderfyniad

1.99 Rhaid i’r SCA hysbysu’r dilynol o’u penderfyniad:

  • Yr Ymatebwr Cyntaf a / neu Sefydliad Ymatebwr Cyntaf (ym mhob achos)
  • Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol
  • Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban lle bo’n briodol

1.100 Dylai’r SCA ddiweddaru cronfeydd data’r Swyddfa Gartref fel y bo’n briodol (e.e. math o achos atgyfeiriad NRM, amod arbennig, rhwystr tynnu), [missing text]

1.101 Dylai’r SCA ddiweddaru Police Scotland yn dilyn penderfyniad Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol. Am ragor o wybodaeth gweler Rhannu gwybodaeth rhwng yr SCA a’r heddlu.

Cam Gweithredu 3: Hysbysu gorfodi’r gyfraith (lle mae achos troseddol yn gysylltiedig)

1.102 Os yw’r unigolyn yn destun achos troseddol, rhaid i’r SCA gysylltu â Police Scotland cyn gynted ag y gwneir penderfyniad yr NRM.

1.103 Rhaid i’r SCA sicrhau bod Uned Genedlaethol Masnachu Pobl Police Scotland yn cael ei hysbysu o benderfyniad yr NRM cyn gynted ag y byddant yn ei wneud. Gwneir hyn trwy anfon copi o’r llythyr hysbysu neu gysylltu â nhw trwy e-bost neu dros y ffôn fel y bo’n briodol. Bydd yr Uned Genedlaethol Masnachu Pobl yn diweddaru Uned Masnachu Pobl Adran G.

1.104 Bydd Police Scotland yn hysbysu’r Gwasanaeth Procuradur Ffisgal yn yr Alban am benderfyniad yr NRM cyn gynted ag y byddant yn ei dderbyn.

1.105 Bydd Swyddfa’r Goron a’r Gwasanaeth Procuradur Ffisgal yn cymhwyso Cyfarwyddiadau’r Arglwydd Adfocad i erlynwyr wrth ystyried erlyn dioddefwyr masnachu mewn pobl er mwyn sicrhau nad yw plant sy’n ddioddefwyr masnachu mewn pobl a allai fod wedi cyflawni troseddau, o ganlyniad i’w hecsbloetio, yn cael eu herlyn. Ceir rhagor o wybodaeth yn Adran 8 o Ddeddf Masnachu mewn Pobl a Chamfanteisio ar Bobl (Yr Alban) 2015 a Chyfarwyddiadau’r Arglwydd Adfocad i Erlynwyr wrth ystyried Erlyn Dioddefwyr Masnachu Pobl a Chamfanteisio ar Bobl.

Camau ar gyfer yr Awdurdod Cymwys Unigol pan yw penderfyniad Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol yn cael ei atal

1.106 Bydd camau gweithredu ar gyfer yr SCA mewn achos a ataliwyd yn parhau fel y nodir yn Atodiad E gwreiddiol Caethwasiaeth Fodern: Canllawiau Statudol ar gyfer Cymru a Lloegr (o dan a49 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015) a Chanllawiau Anstatudol ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.

1.107 Bydd yr SCA a’r Safle Peilot yn cytuno ar gamau gweithredu priodol fesul achos os ydynt yn credu y gallai fod angen atal achos. Os bydd unrhyw un o’r dilynol yn digwydd, disgwylir i Safle Peilot hysbysu’r SCA cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl:

  • mae’r plentyn yn marw, yn mynd ar goll, neu’n cael ei arestio
  • mae newid yn yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn
  • mae dyddiad treial troseddol wedi’i osod cyn y dyddiad penderfyniad disgwyliedig

1.108 Bydd y Safle Peilot yn hysbysu’r SCA os daw’n ymwybodol o unrhyw reswm arall pam y gallai fod angen atal penderfyniad.

Camau ar gyfer yr Awdurdod Cymwys Unigol mewn achosion mewnfudo byw yn dilyn penderfyniad Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol

1.109 Bydd camau gweithredu ar gyfer yr SCA mewn perthynas ag achosion mewnfudo yn parhau fel y nodir yn Atodiad E gwreiddiol Caethwasiaeth Fodern: Canllawiau Statudol ar gyfer Cymru a Lloegr (o dan a49 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015) a Chanllawiau Anstatudol ar gyfer yr Alban a’r Gogledd. Iwerddon.

Cofnod achos Awdurdod Cymwys Unigol

1.110 Rhaid i staff SCA gadw cofnod achos SCA.

1.111 Pan ddaw achosion masnachu mewn pobl a chamfanteisio ar bobl i ben, rhaid i bob cofnod achos SCA gynnwys y dilynol o leiaf:

  • Ffurflen atgyfeirio Ymatebwr Cyntaf
  • Llythyr(au) penderfyniad)
  • Templedi Penderfyniadau o Safleoedd Peilot a thystiolaeth ategol
  • [lle mae penderfyniad Seiliau Terfynol yn negyddol] cofnod o’r penderfyniad MAAP lle bo’n berthnasol
  • manylion atgyfeiriadau at sefydliadau perthnasol eraill, e.e. heddlu / Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban

Datgelu gwybodaeth i’r dioddefwr a cheisiadau hawl mynediad

1.112 Bydd Safleoedd Peilot yn broseswyr data at ddibenion data NRM. Oherwydd hynny, os codir cais hawl mynediad gyda Safle Peilot, dylid hysbysu’r SCA fel rheolydd data.

1.113 Bydd canlyniad penderfyniadau Seiliau Rhesymol a Seiliau Terfynol bob amser yn cael ei ddatgelu i ddioddefwyr (neu gynrychiolydd priodol ar gyfer y plentyn) fel mater o drefn.

1.114 Gall dioddefwyr ofyn am fynediad i’r wybodaeth a gedwir amdanynt gan yr SCA, fel rheolydd data, yn unol ag Erthygl 15 o’r GDPR. Dylid cyflwyno ceisiadau am wybodaeth yn ysgrifenedig. Mae templedi i helpu i ofyn am y wybodaeth hon ar gael gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yma.

Mae adran 15 o Ddeddf Diogelu Data (DPA) 2015 yn caniatáu ar gyfer esemptiadau rhag ceisiadau hawl mynediad fel y nodir yn Atodlen 2 DPA 2015. Mae’r esemptiadau hyn yn cynnwys ar gyfer 2(1)(a) atal trosedd, a 2( 1)(b) dal neu erlyn troseddwyr. Felly, lle mae gwybodaeth sensitif yn y ffurflen atgyfeirio neu’r cofnod penderfyniad, dylid golygu hyn cyn rhyddhau’r cofnodion. Mae enghreifftiau o wybodaeth sensitif na chaiff ei rhyddhau o bosibl yn cynnwys:

  • gwybodaeth am yr heddlu neu ymchwiliadau eraill gan orfodi’r gyfraith
  • gwybodaeth am ddioddefwyr eraill

Ceisiadau Tribiwnlys

1.115 Bydd camau gweithredu ar gyfer yr Awdurdod Cymwys Unigol (SCA) mewn perthynas ag achosion Ceisiadau Tribiwnlys yn parhau fel y nodir yn Atodiad E gwreiddiol Caethwasiaeth Fodern: Canllawiau Statudol ar gyfer Cymru a Lloegr (o dan a49 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015) a Chanllawiau Anstatudol ar gyfer yr Alban a’r Gogledd. Iwerddon.

Penderfyniad o Ailystyried Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol

1.116 Gall unigolyn, neu rywun sy’n gweithredu ar ei ran, ofyn am ailystyried penderfyniad Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol negyddol os daw tystiolaeth ychwanegol i’r amlwg a fyddai’n berthnasol i ganlyniad achos, neu os oes pryderon penodol nad yw penderfyniad a wnaed. yn unol â chanllawiau.

1.117 Os bydd y Safle Peilot yn cael cais am ailystyriaeth, dylid hysbysu’r SCA cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl. Bydd yr SCA yn hysbysu’r Peilot perthnasol os bydd yr SCA yn derbyn cais am ailystyriaeth yn ymwneud â phenderfyniad a wnaed gan Safle Peilot.

1.118 Bydd yr SCA a’r Safle Peilot yn trafod rhinweddau’r cais am ailystyriaeth, ond yr SCA fydd â’r penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid ailystyried yr achos.

1.119 Os bydd yr SCA yn penderfynu y dylid ailystyried achos, bydd yr SCA yn penderfynu ai’r Safle Peilot neu’r SCA sydd yn y sefyllfa orau i ailystyried y penderfyniad.

1.120 Mae manylion llawn y cais am ailystyriaeth wedi’u nodi yn Atodiad E gwreiddiol.

Hawliadau amhriodol a threfn gyhoeddus

1.121 Ni fydd y Cyfnod Adfer yn cael ei barchu os yw naill ai:

  • seiliau trefn gyhoeddus yn ei atal
  • canfyddir bod statws dioddefwr wedi’i hawlio’n amhriodol

1.122 Os yw Safle Peilot yn credu bod hawliad wedi’i wneud yn amhriodol neu fod pryderon trefn gyhoeddus ynghylch dioddefwr, dylai’r Safle Peilot hysbysu’r SCA am unrhyw bryderon.

1.123 Lle mae’r SCA yn penderfynu bod tystiolaeth gadarn, wrthrychol bod honiad amhriodol wedi’i wneud, cyn gynted ag y daw hyn yn hysbys, rhaid i’r SCA:

  • cyhoeddi penderfyniad Seiliau Terfynol negyddol
  • cwtogi ar unrhyw Gyfnod Adfer sy’n weddill a hysbysu’r uned fewnfudo briodol er mwyn iddynt ystyried gweithredu fel y bo’n briodol (os oes gan y person unrhyw ganiatâd sy’n weddill oherwydd cais mewnfudo arall gall hyn barhau oni cheir ei fod wedi’i hawlio’n amhriodol hefyd)

1.124 Os nad yw’r dystiolaeth o hawliad amhriodol yn gadarn a gwrthrychol fel y’i pennir gan yr SCA, rhaid i’r Safle Peilot ddilyn prosesau safonol a dilyn y Cyfnod Adfer llawn.

1.125 Mae’n bosibl hefyd y gallai unigolyn a honnodd yn wreiddiol ei fod yn ddioddefwr masnachu pobl fod yn gysylltiedig â masnachu pobl eraill. Rhaid atgyfeirio’r achosion hyn ar unwaith at yr heddlu neu dîm ymchwiliadau troseddol Gorfodi Mewnfudo y Swyddfa Gartref ar gyfer camau priodol.

Dirymu Penderfyniad Seiliau Terfynol

1.126 Lle mae’r SCA neu Safle Peilot wedi gwneud penderfyniad Seiliau Terfynol cadarnhaol, ond bod gwybodaeth yn dod i’r amlwg yn ddiweddarach sy’n awgrymu bod y penderfyniad yn ddiffygiol, dylai’r SCA ystyried a yw dirymu’n briodol.

1.127 Lle mae’r penderfyniad wedi’i wneud gan Safle Peilot, bydd yr SCA yn trafod eu pryderon â’r Safle Peilot a wnaeth y penderfyniad i benderfynu a yw dirymu’n briodol. Mater i’r SCA fydd gwneud y penderfyniad terfynol, ond ni fydd hyn yn digwydd cyn i bryderon gael eu trafod gyda’r Safle Peilot.

1.128 Os penderfynir ei bod yn briodol dirymu’r penderfyniad Seiliau Terfynol, rhaid i weithiwr achos yr SCA ysgrifennu at yr unigolyn dan sylw, neu at gynrychiolydd priodol. Os nad yw’n bosibl cysylltu’n uniongyrchol â’r unigolyn dan sylw mewn ffordd briodol, dylai’r SCA gysylltu â’i gynrychiolydd cyfreithiol (os yw’n hysbys) a/neu ei ddarparwr cymorth diweddaraf o dan y Contract Gofal Dioddefwr (lle y’i defnyddir), neu ddarparwyr cymorth cyfatebol. yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, i geisio adennill cyswllt.

1.129 Os yw’r unigolyn wedi cael cyfnod o Ganiatâd yn ôl Disgresiwn, rhaid i’r SCA hysbysu’r tîm mewnfudo priodol er mwyn iddo ystyried a yw cwtogi’r caniatâd hwn yn briodol.

Tynnu’n ôl o’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol

1.130 Ni chaiff plant dynnu eu hunain yn ôl o’r NRM. Ni all plentyn gael ei dynnu’n ôl o’r NRM oni bai ei fod er lles gorau’r plentyn fel y penderfynir gan Wasanaethau Diogelu Plant yr Awdurdod Lleol cyfrifol. Os bydd yr SCA yn derbyn cais gan Awdurdod Lleol neu lysgenhadaeth, er enghraifft, yn ceisio tynnu plentyn yn ôl o’r NRM, dylid atgyfeirio’r achos at yr Uned Caethwasiaeth Fodern am gyngor.