Guidance

Decision making guidance for pilot sites in England and Wales (Welsh version)

Updated 5 December 2023

Rhaglen Beilot Datganoli Gwneud Penderfyniadau ar gyfer Plant - Canllawiau gwneud penderfyniadau ar gyfer Safleoedd Peilot yng Nghymru a Lloegr

1.1. Sylwch fod yr Atodiad hwn yn berthnasol i bob Safle Peilot ledled Cymru a Lloegr. Mae canllawiau ar wahân yn berthnasol yn yr Alban.

1.2. Mae’r Atodiad hwn yn rhoi canllawiau manwl i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y Rhaglen Beilot Datganoli Gwneud Penderfyniadau ar gyfer Plant. Mae’n disodli Atodiad E i Ganllawiau Statudol Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 at ddibenion gwneud penderfyniadau o fewn y Rhaglen Beilot Datganoli Gwneud Penderfyniadau ar gyfer Plant.

1.3. Mae diffiniadau o wahanol fathau o gaethwasiaeth fodern (masnachu mewn pobl, caethwasiaeth, caethwasanaeth, a llafur dan orfod a/neu orfodol) yn parhau i gael eu nodi yn Atodiad B i Ganllawiau Statudol Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ac nid ydynt wedi newid at ddibenion y Rhaglen Beilot.

Termau Diffiniedig

1.4. Yn y canllawiau hyn, defnyddir y termau diffiniedig dilynol yn ychwanegol at y termau diffiniedig a nodir yng Nghanllawiau Statudol Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015:

  • mae Rhaglen Beilot Datganoli Gwneud Penderfyniadau ar gyfer Plant (y ‘Rhaglen Beilot’) yn cyfeirio at y deg Safle Peilot sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch plant a allai ddioddef caethwasiaeth fodern fel y’i diffinnir yn y ddogfen hon. Bydd y rhaglen yn rhedeg am 12 mis

  • mae Safleoedd Peilot yn cyfeirio at yr awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan yn y Rhaglen Beilot a’u partneriaid diogelu

Asesu hygrededd a thystiolaeth arall yn ystod y broses gwneud benderfyniadau

1.5. Mae angen i Safleoedd Peilot asesu a yw disgrifiad dioddefwr posibl o gaethwasiaeth fodern yn gredadwy wrth wneud penderfyniad Seiliau Rhesymol a Seiliau Terfynol.

1.6. Dylid dilyn arfer da wrth weithio gyda dioddefwyr sydd wedi profi trawma. Gweler yr adran ar Weithio gyda phobl agored i niwed am ragor o wybodaeth. Fodd bynnag, nid yw’r angen i ystyried yr effaith y mae trawma yn debygol o’i chael ar allu’r unigolyn i gofio digwyddiadau yn dileu’r angen i asesu’r holl wybodaeth yn feirniadol ac yn wrthrychol wrth ystyried hygrededd achos.

Asesu hygrededd

1.7. Mae gan Safleoedd Peilot yr hawl i ystyried hygrededd fel rhan o’u proses gwneud penderfyniadau ar y cam Seiliau Rhesymol a’r cam Seiliau Terfynol. Pan fydd Safleoedd Peilot yn asesu hygrededd datganiad, rhaid iddynt ystyried hygrededd allanol a mewnol y ffeithiau perthnasol.

1.8. Os ydynt yn cyd-fynd â’r diffiniad o fasnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth, caethwasanaeth, a llafur dan orfod neu lafur gorfodol, os oes tystiolaeth ategol ddibynadwy ac os yw’r datganiad yn gredadwy i’r safon ofynnol o brawf, dylai’r Safle Peilot gydnabod bod y person wedi dioddef caethwasiaeth fodern.

Amgylchiadau lliniaru

1.9. Mae’n bwysig i’r Safle Peilot asesu’r holl wybodaeth yn feirniadol ac yn wrthrychol pan yw’r Safle Peilot yn ystyried hygrededd achos, ond mae hefyd yn hanfodol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ddeall y rhesymau lliniarol pam fod dioddefwr posibl caethwasiaeth fodern yn ddigyswllt, anghyson neu’n oedi wrth roi manylion ynghylch ffeithiau perthnasol.

1.10. Drwy gydol y broses hon mae’n bwysig cofio bod dioddefwyr caethwasiaeth fodern wedi bod trwy drawma, ac y gallai hyn effeithio ar y wybodaeth a ddarperir ganddynt. Oherwydd trawma caethwasiaeth fodern, gall fod rhesymau dilys pam fod datganiad dioddefwr posibl yn anghyson neu’n brin o fanylion. Dylai Safleoedd Peilot roi ystyriaeth i unrhyw ffactorau perthnasol a nodir yn yr adran Gweithio gyda phobl agored i niwed wrth wneud penderfyniad gan fod yr adran hon yn amlinellu rhai o’r heriau y gallai dioddefwyr eu hwynebu wrth ddarparu disgrifiad clir a chyson o’u profiadau. Dylai’r Safle Peilot ystyried y rhesymau hyn wrth ystyried hygrededd honiad.

1.11. Rhaid i’r Safle Peilot gadw’r dilynol mewn cof ynghylch y plentyn:

  • bregusrwydd ychwanegol

  • cam datblygiadol

  • meithrin perthynas amhriodol posibl gan y masnachwyr a’r ecsbloetwyr

Perthnasedd

1.12. Wrth asesu hygrededd dylai’r Safle Peilot asesu ffeithiau perthnasol digwyddiadau’r gorffennol a’r presennol (ffeithiau perthnasol yw’r rhai sy’n ddifrifol ac yn arwyddocaol eu natur) a all awgrymu bod person yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern. Yn gyffredinol, mae’n ddiangen, ac weithiau’n wrthgynhyrchiol, i ganolbwyntio ar fân ffeithiau neu ffeithiau ymylol nad ydynt yn berthnasol i’r honiad.

1.13. Dylai’r Safle Peilot asesu’r ffeithiau perthnasol yn seiliedig ar y dilynol:

  • a ydynt yn gydlynol ac yn gyson ag unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig neu lafar yn y gorffennol?

  • pa mor dda y mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn cyd-fynd ac a yw’n gwrth-ddweud ei hun?

  • a ydynt yn gyson â honiadau a wneir gan dystion ac unrhyw dystiolaeth ddogfennol a gyflwynwyd i gefnogi’r honiad neu a gasglwyd yn ystod eich ymchwiliadau?

1.14. Lle nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi honiad bod yr unigolyn yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern (er enghraifft, pan fo’r achos yn brin o fanylion allweddol, megis pwy y camfanteisiodd arnynt neu lle digwyddodd y camfanteisio) mae gan staff y Safle Peilot hawl i gwestiynu a yw’r trothwy Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol yn cael ei fodloni. Fodd bynnag, os bodlonir y trothwy Seiliau Rhesymol, rhaid i Safleoedd Peilot hefyd ystyried a ydynt yn gallu gwneud penderfyniad Seiliau Terfynol cadarnhaol ar sail y dystiolaeth sydd ar gael iddynt, neu a oes angen rhagor o wybodaeth arnynt cyn gwneud penderfyniad Seiliau Terfynol.

Lefel y Manylder

1.15. Mae lefel y manylder y mae dioddefwr posibl yn cyflwyno ei honiad yn ffactor pan yw’r Safle Peilot yn asesu hygrededd. Mae’n rhesymol tybio y bydd dioddefwr sy’n rhoi disgrifiad o’i brofiad o gaethwasiaeth fodern yn fwy mynegiannol ac yn fwy tebygol o gynnwys manylion synhwyraidd (er enghraifft yr hyn y mae wedi’i weld, ei glywed, ei deimlo neu ei feddwl am ddigwyddiad) na rhywun nad yw wedi cael y profiad hwn. Fodd bynnag, gall rhai unigolion sydd wedi’u trawmateiddio ei chael yn anodd mynegi profiadau gofidus ar lafar, gallant ymddangos yn ddideimlad neu wedi’u datgysylltu oddi wrth eu geiriau neu ddangos ymatebion eraill sy’n gysylltiedig â thrawma.

1.16. Lle nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi honiad bod yr unigolyn yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern mae gan y Safle Peilot hawl i gwestiynu a yw’r trothwy Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol yn cael ei fodloni.

Cysondeb

1.17. Mae hefyd yn rhesymol tybio y bydd dioddefwr posibl sydd wedi profi digwyddiad yn gallu adrodd yr elfennau canolog mewn modd gweddol gyson. Gall anallu dioddefwr posibl i aros yn gyson trwy gydol ei ddatganiadau ysgrifenedig a llafar o ddigwyddiadau’r gorffennol a’r presennol arwain y Safle Peilot i beidio â chredu ei honiad. Fodd bynnag, cyn i’r Safle Peilot ddod i gasgliad negyddol, dylent ystyried a ydynt yn gallu cyrchu gwybodaeth bellach a allai egluro anghysondebau yn yr honiad gan gynnwys a ddylid rhoi cyfle i’r Ymatebwr Cyntaf wneud sylwadau.

1.18. Oherwydd trawma caethwasiaeth fodern, gall fod rhesymau dilys pam fod disgrifiad dioddefwr posibl yn anghyson neu’n brin o fanylion. Dylai’r Safle Peilot ystyried unrhyw dystiolaeth o amgylchiadau lliniaru a allai egluro’r anghysondeb.

Ystyried rhywedd a diwylliant

1.19. Dylai Safleoedd Peilot wybod sut i ystyried materion rhywedd a diwylliannol wrth ystyried hygrededd.

1.20. Mae’n bwysig deall bod gofid yn cyflwyno’n wahanol mewn diwylliannau gwahanol a bod dealltwriaeth ddiwylliannol o lawer o sefyllfaoedd yn amrywio.

1.21. Wrth wneud penderfyniadau Seiliau Rhesymol a Seiliau Terfynol rhaid i’r Safle Peilot ystyried sefyllfa unigol ac amgylchiadau personol y person ac ystyried materion diwylliannol neu rywedd.

1.22. Gall unigolion o’r un wlad wreiddiol gael profiadau gwahanol oherwydd eu hunaniaeth ddiwylliannol, ethnig, rhywedd a rhywiol. Er enghraifft, efallai na fydd menywod yn gallu datgelu manylion perthnasol oherwydd normau diwylliannol a chymdeithasol.

Perthnasedd posibilrwydd erlyn ecsbloetwyr

1.23. Mae angen i Safleoedd Peilot wybod sut y gallai erlyn eu hecsbloetwyr effeithio ar benderfyniadau Seiliau Rhesymol a Seiliau Terfynol ar ddioddefwyr caethwasiaeth fodern.

1.24. Pan yw’r Safle Peilot yn penderfynu a oes Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol bod person yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern, efallai y bydd ei benderfyniad yn cael ei ddylanwadu gan a yw’r ecsbloetiwr honedig yn cael ei erlyn. Fodd bynnag, ni ddylai penderfyniad y Safle Peilot fod yn ddibynnol ar:

  • ymchwiliad troseddol yn digwydd

  • a yw’r dioddefwr yn cydweithredu mewn unrhyw achos troseddol

1.25. Mae’r broses adnabod dioddefwyr yn annibynnol ar unrhyw achosion troseddol yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol am gaethwasiaeth fodern. Mae’r safon profi troseddol, hynny yw ‘y tu hwnt i amheuaeth resymol’, yn uwch na’r prawf Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol.

1.26. Rhaid i’r Safleoedd Peilot fod yn ymwybodol y gallai unrhyw wybodaeth a gofnodwyd fel rhan o benderfyniad Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol gael ei datgelu yn ystod erlyniad neu Gais Gwrthrych am Wybodaeth.

Safbwyntiau arbenigwyr eraill yn ystod y broses gwneud penderfyniadau gan y safle Peilot

1.27. Gall penderfyniad Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol gael ei ddylanwadu gan farn arbenigwyr. Dylai Safleoedd Peilot sicrhau bod arbenigwyr sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau yn rhannu gwybodaeth berthnasol fel y bo’n briodol ac yn ystyried safbwyntiau arbenigwyr eraill nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â gwneud penderfyniadau pan ydynt ar gael. Gallai’r arbenigwyr hyn gynnwys arbenigwyr meddygol cymwys, ICTGs neu Gydlynwyr Ymarfer Rhanbarthol ICTG, Gwasanaeth Gwarcheidwad Annibynnol Gogledd Iwerddon, Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban, yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol ac arbenigwyr eraill Awdurdodau Lleol, a darparwyr cymorth.

1.28. Rhaid i Safleoedd Peilot roi sylw dyledus i adroddiadau a safbwyntiau Gweithwyr Uniongyrchol ICTG neu’r Cydlynydd Ymarfer Rhanbarthol ICTG (lle y’u penodwyd)[footnote 1]. Oherwydd eu hannibyniaeth ni all yr asiantaethau hyn ymwneud yn uniongyrchol â gwneud penderfyniadau ond rhaid eu gwahodd a rhoi’r cyfle iddynt gymryd rhan ym mhob cyfarfod a thrafodaeth sy’n ymwneud â’r plentyn ac sy’n effeithio arno

1.29. Mae’n bosibl bod y sefydliadau hyn wedi treulio’r amser mwyaf gyda’r dioddefwr posibl ac wedi sefydlu rhywfaint o ymddiriedaeth. Efallai na fydd dioddefwyr yn ymddiried yn yr heddlu neu swyddogion mewnfudo neu efallai y byddant yn eu hofni. Efallai na fyddant felly yn fodlon darparu datganiadau i orfodi’r gyfraith. Mewn amgylchiadau o’r fath efallai y bydd sefydliadau anllywodraethol yn gallu darparu rhagor o wybodaeth am sefyllfa’r unigolyn a rhaid i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ystyried unrhyw dystiolaeth ategol o’r fath. Rhaid i’r Safleoedd Peilot hefyd ystyried unrhyw adroddiadau arbenigol a gyflwynir, yn arbennig y rheini gan ymarferwyr iechyd cymwys.

Pwysau i’w rhoi ar adroddiadau arbenigwyr

1.30. Gall dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern ddibynnu ar dystiolaeth ddogfennol i gefnogi eu honiad yn yr NRM.

1.31. Bydd profiad a chymwysterau’r unigolyn sy’n darparu’r dystiolaeth ategol a’r ffynonellau a ddefnyddir yn berthnasol wrth ystyried faint o bwysau i’w roi ar adroddiad arbenigol a rhaid ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau.

1.32. Nid yw tystiolaeth arbenigol yn pennu a yw’r prawf Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol wedi’i fodloni ond dylid ei hystyried wrth ddod i gasgliad ynghylch a oes rhesymau pam y bodlonir neu na fodlonir y prawf Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol. Nid oes unrhyw ofyniad i dderbyn asesiad gan arbenigwr bod person yn ddioddefwr neu beidio. Rhaid ystyried unrhyw asesiad arbenigol yn ei gyfanrwydd gyda’r holl dystiolaeth arall.

1.33. Mae’n bosibl na fydd gan yr unigolyn sy’n ysgrifennu’r adroddiad fynediad i’r ystod lawn o wybodaeth sydd ar gael i’r Safle Peilot a rhaid ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth ddogfennol, wrth wneud penderfyniad Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol.

1.34. Pan fydd adroddiad arbenigwr yn cael ei ystyried wrth asesu honiad o dan yr NRM, a bod gwybodaeth arall ar gael, dylid ystyried yr holl wybodaeth ac adroddiadau perthnasol. Os oes sawl adroddiad gan arbenigwyr, rhaid ystyried pob un. Ni ddylai penderfyniad ddibynnu ar adroddiad arbenigwr yn unig heb ystyried yr holl wybodaeth berthnasol.

1.35. Ni ddylai penderfyniad ddibynnu ar adroddiad arbenigwr yn unig lle mae gwybodaeth berthnasol arall ar gael. Dylai’r Safle Peilot ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael, a dylid ystyried adroddiad arbenigol a’i bwysoli’n briodol ochr yn ochr â thystiolaeth arall.

1.36. Lle mae dioddefwr posibl caethwasiaeth fodern yn dibynnu ar dystiolaeth feddygol, dylai fod oddi wrth weithiwr meddygol proffesiynol sy’n gymwys yn y maes priodol gan gynnwys gwybodaeth megis y cyflwr corfforol neu feddyliol perthnasol, pryd mae’r cyflwr hwnnw wedi’i ddiagnosio a pham mae’r cyflwr hwnnw neu unrhyw driniaeth sy’n ymwneud â hi yn berthnasol i gaethwasiaeth fodern.

1.37. Ni fydd y Safle Peilot yn penderfynu ar genedligrwydd dioddefwr posibl. Pwrpas yr NRM yw nodi a chefnogi dioddefwyr caethwasiaeth fodern. Fodd bynnag, bydd y Safle Peilot yn ystyried tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau ac yn asesu hygrededd achos dioddefwr posibl a all gynnwys ystyried cenedligrwydd honedig y dioddefwr posibl at ddibenion ei achos a’r honiadau ei fod yn ddioddefwr.

1.38. Rhaid i unrhyw dystiolaeth a gyflenwir allu cael ei dilysu gan y Safle Peilot lle mae’n briodol.

Tystiolaeth annigonol

1.39. Lle nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi honiad bod yr unigolyn yn ddioddefwr masnachu mewn pobl, mae gan Safleoedd Peilot hawl i gwestiynu a yw’r trothwy Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol yn cael ei fodloni.

1.40. Dylai penderfynwyr mewn Safleoedd Peilot ystyried pa wybodaeth sydd ganddynt a allai fod yn berthnasol i benderfyniad a sicrhau ei bod yn cael ei rhannu â phenderfynwyr eraill mewn cyfarfod amlasiantaethol i sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei hystyried.

Asesu dioddefwyr a gafodd eu hecsbloetio dramor neu honiadau hanesyddol

1.41. Er bod rhaid i ddioddefwr fod yn gorfforol yn y DU er mwyn mynd i mewn i’r NRM, nid yw’r ffaith bod dioddefwr wedi cael ei ecsbloetio y tu allan i’r DU yn atal y Safle Peilot rhag gwneud penderfyniad.

1.42. Dylai plentyn sy’n dweud ei fod wedi dioddef caethwasiaeth fodern dramor gael ei asesu ar yr un sail â phlentyn sy’n datgan ei fod wedi dioddef caethwasiaeth fodern yn y DU.

1.43. Er y gallent fod ymhell oddi wrth eu sefyllfa o gaethwasiaeth fodern, mae’n bosibl eu bod wedi dioddef camfanteisio o hyd ac felly’n cael eu hystyried yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern. Gallent hefyd fod wedi’u trawmateiddio gan eu profiad hyd yn oed mewn achosion hanesyddol.

1.44. Yn yr un modd, efallai fod plentyn wedi cael ei ecsbloetio beth amser yn ôl ac mae’r sefyllfa ecsbloetio bellach ar ben. Cyfeirir at y senarios hyn yn aml fel honiadau hanesyddol oherwydd efallai y cânt eu hatgyfeirio at yr NRM ymhell ar ôl i’r camfanteisio ddod i ben. Dylai’r Safle Peilot wneud penderfyniad o hyd ynghylch a yw’r plentyn yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern os caiff yr achos ei atgyfeirio i’r NRM ac o fewn cwmpas y peilot, gan nad yw penderfyniadau’r NRM yn asesiad o niwed yn y dyfodol ond yn ganfyddiad ffeithiol ynghylch a yw’r unigolyn yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern.

1.45. Rhaid i’r Safle Peilot gynnig y cymorth a’r amddiffyniad i ddioddefwyr posibl honiadau hanesyddol a estynnir i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern tra bod eu hachos caethwasiaeth fodern yn cael ei ystyried o fewn yr NRM.

Sut y gwneir atgyfeiriad

1.46. Pan yw Ymatebwr Cyntaf yn credu bod plentyn yn ddioddefwr posibl caethwasiaeth fodern, bydd yn cyflwyno atgyfeiriad i’r Awdurdod Cymwys Unigol (SCA), a fydd yn cofnodi’r atgyfeiriad. Bydd yr atgyfeiriad hwn yn cael ei rannu gyda’r Safle Peilot fel y bo’n briodol.

Dilysu a chydnabod atgyfeiriad

1.47. Bydd staff yn yr SCA yn dilysu atgyfeiriad NRM. Y broses y bydd staff yr SCA yn ei dilyn yw:

  • gwirio a yw’r atgyfeiriad yn ddyblyg neu’n cyfeirio at achos presennol

  • gwirio bod digon o wybodaeth wedi’i chynnwys yn yr atgyfeiriad. Os na, bydd staff yr SCA yn cysylltu’n gyflym â’r Sefydliad Ymatebwyr Cyntaf am ragor o wybodaeth ac unrhyw asiantaethau eraill sy’n gysylltiedig â’r manylion a ddarparwyd fel rhan o’r atgyfeiriad

  • os oes gan y dioddefwr posibl unrhyw hanes mewnfudo ar Gronfa Ddata Gwybodaeth Achosion y Swyddfa Gartref (CID), gwirio ei fod wedi’i nodi fel un ag amod arbennig ‘Dioddefwr Posibl Masnachu mewn Pobl’. Os na, bydd yr SCA yn ychwanegu hyn at y cofnod ac yn codi rhwystr rhag cael ei ddileu os nad yw hyn eisoes yn ei le

  • gwirio a yw’r atgyfeiriad yn gymwys i fod yn rhan o’r Rhaglen Beilot; a yw’r cyfrifoldeb am ddiogelu’r plentyn yn disgyn i un o’r Awdurdodau Lleol sy’n ymwneud â’r Rhaglen Beilot ac a yw’r plentyn yn fwy na 100 diwrnod o’i ben-blwydd yn 18 oed

  • yn ogystal ag atgyfeirio’r achos i’r Safle Peilot, bydd yr SCA yn cydnabod ei fod wedi derbyn y ffurflen atgyfeirio drwy anfon hysbysiad cydnabod at:

    • yr Ymatebwr Cyntaf

    • y Gweithiwr Cymdeithasol. Os nad oes gweithiwr cymdeithasol wedi’i restru ar y ffurflen atgyfeirio mewn achos sy’n ymwneud â phlentyn a allai fod yn ddioddefwr, bydd yr SCA yn cysylltu â Gwasanaeth Diogelu Plant yr Awdurdod Lleol perthnasol yng Nghymru a Lloegr, y gwasanaeth Awdurdod Lleol cyfatebol yn yr Alban, neu Dimau Diogelu Plant o fewn Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon

    • yr heddlu perthnasol (neu Uned Genedlaethol Masnachu Pobl Heddlu’r Alban)

    • y Gwarcheidwad Annibynnol Masnachu Plant yng Nghymru a Lloegr, Gwasanaeth Gwarcheidwad Annibynnol Gogledd Iwerddon neu Wasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban mewn achosion sy’n ymwneud â phlant lle mae’r ddarpariaeth hon ar gael ac mae’r SCA wedi’u hysbysu am eu rhan

  • bydd yr SCA yn sicrhau bod yr holl ddiweddariadau perthnasol ar gronfeydd data SCA yn cael eu gwneud

Gwneud penderfyniad

1.48. Mae’r adran hon yn nodi’r broses y bydd Safleoedd Peilot yn ei dilyn wrth wneud penderfyniad Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol.

Amserlen ar gyfer penderfyniadau

1.49. Y disgwyl yw y bydd y Safleoedd Peilot yn gwneud penderfyniad Seiliau Rhesymol o fewn 45 diwrnod calendr i’r atgyfeiriad NRM gael ei dderbyn gan y Safle Peilot.

1.50. Lle mae digon o wybodaeth, gall Safleoedd Peilot hefyd wneud penderfyniad Seiliau Terfynol cadarnhaol yn yr un cyfarfod amlasiantaethol lle gwneir y penderfyniad Seiliau Rhesymol.

1.51. Lle mae’r penderfyniad Seiliau Rhesymol yn gadarnhaol, ond nad yw’r Safle Peilot yn credu y gall wneud penderfyniad Seiliau Terfynol cadarnhaol ar yr un pryd, er enghraifft, oherwydd diffyg tystiolaeth, bydd y Safle Peilot yn trefnu ail gyfarfod i wneud y penderfyniad seiliau terfynol o fewn 45 diwrnod calendr i’r cyfarfod cychwynnol.

1.52. Os oes angen ail gyfarfod, dylai penderfynwyr y Safle Peilot ystyried pa dystiolaeth fydd ei hangen i’w galluogi i wneud y penderfyniad Seiliau Terfynol yn yr ail gyfarfod a sicrhau y gwneir pob ymdrech i gael y dystiolaeth honno. Lle mae’r Safle Peilot yn ymwybodol y bydd gwybodaeth berthnasol bellach ar gael yn ddiweddarach e.e. asesiad meddygol neu adroddiad gan yr heddlu, dylai’r safle sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu ar gyfer yr ail gyfarfod.

1.53. Fel y mae’r SCA yn ei wneud ag achosion sy’n ymwneud ag oedolyn, os yw’r plentyn yn destun achos troseddol, dylai’r Safle Peilot ystyried achos y plentyn fel mater o frys a hysbysu’r SCA cyn gynted ag y gwneir y penderfyniad, a fydd yn hysbysu’r holl bartïon a chanddynt fuddiant. Fodd bynnag, dim ond pan fydd digon o wybodaeth ar gael i wneud hynny y dylid gwneud penderfyniad.

1.54. Efallai y bydd y Safle Peilot yn cael cais i oedi cyn gwneud penderfyniad Seiliau Terfynol; er enghraifft, hyd nes y gall parti a chanddynt fuddiant gyflwyno gwybodaeth bellach y maent yn ei hystyried yn berthnasol i achos. Dylai’r Safle Peilot ystyried amgylchiadau’r cais, a oes angen y wybodaeth ychwanegol ar gyfer y penderfyniad, ac felly a yw’n briodol aros yn hytrach na bwrw ymlaen â phenderfyniad. Dylai’r Safle Peilot drafod y cais gyda’r SCA a rhaid iddo hysbysu’r dioddefwr, neu gynrychiolydd priodol, o ganlyniad y cais i oedi a rhoi rhesymau os caiff y cais ei wrthod.

Safon profi ar gyfer penderfyniad Seiliau Rhesymol

1.55. Pan yw’r Safle Peilot yn cael atgyfeiriad, rhaid iddo benderfynu a yw’n rhesymol credu, ar sail y wybodaeth sydd ar gael, fod person yn ddioddefwr masnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth, caethwasanaeth a llafur dan orfodol neu orfodol.

1.56. Y prawf y mae’n rhaid i’r Safle Peilot ei weithredu yw a yw’r datganiad isod yn wir:

‘Rwy’n amau ond ni allaf brofi’ bod y person yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern (masnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth, caethwasanaeth, neu lafur dan orfodol neu orfodol)’

  • neu

  • a fyddai person rhesymol, o ystyried y wybodaeth sydd ym meddwl y penderfynwr, yn meddwl bod Seiliau Rhesymol i gredu bod yr unigolyn yn ddioddefwr masnachu mewn pobl (neu gaethwasiaeth, caethwasanaeth, neu lafur dan orfod neu orfodol)

1.57. Efallai na fydd yn glir i’r Safle Peilot i ddechrau a yw dioddefwr posibl wedi bod yn destun masnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth, caethwasanaeth, a llafur dan orfod neu orfodol. Er mwyn dod i benderfyniad Seiliau Rhesymol cadarnhaol y cyfan sydd ei angen ar y Safle Peilot yw penderfynu, ar sail y wybodaeth sydd ar gael, ei bod yn rhesymol credu bod person yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern; nid oes angen i’r Safle Peilot wahaniaethu ar y cam Seiliau Rhesymol pa fath o gaethwasiaeth fodern y maent wedi’i brofi.

1.58. Ni fyddai amheuaeth resymol yn cael ei bodloni fel arfer ar sail honiad di-sail yn unig, heb i’r dilynol fod yn ddibynadwy, yn gredadwy, yn fanwl gywir ac yn gyfredol:

  • cudd-wybodaeth neu wybodaeth

  • tystiolaeth o ryw ymddygiad penodol gan y person dan sylw

1.59. Mae gan y penderfyniad Seiliau Rhesymol ganlyniadau sylweddol i’r dioddefwr posibl o ran amddiffyniad a chefnogaeth (a’r posibilrwydd o aros ymhellach yn y DU os yw’n destun rheolaeth fewnfudo). Mae’n bwysig bod y penderfyniad o’r safon uchaf posibl a’i fod yn cymryd yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ystyriaeth wrth wneud y penderfyniad, gan gynnwys barn arbenigol y rhai sy’n ymwneud â’r unigolyn. Dylid ystyried y wybodaeth ddilynol pan fydd ar gael:

  • cyfeirio at ddangosyddion caethwasiaeth fodern yn yr atgyfeiriad

  • cudd-wybodaeth neu wybodaeth gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys tystiolaeth wrthrychol o’r wlad wreiddiol

  • gwybodaeth gan Ymatebwyr Cyntaf, sefydliadau cymorth, gwasanaethau cymdeithasol a phobl sy’n ymwneud â chynorthwyo’r dioddefwr • tystiolaeth o ryw ymddygiad penodol gan y person dan sylw

  • gwybodaeth sydd ar gael i bartneriaid diogelu lleol sy’n ymwneud â’r broses gwneud penderfyniadau

  • gwybodaeth a ddarperir gan y Swyddfa Gartref, er enghraifft, mewn perthynas â chais am loches

  • unrhyw wybodaeth berthnasol arall sydd ar gael i’r Safle Peilot

1.60. Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr ac efallai y bydd gwybodaeth ychwanegol sy’n berthnasol. Lle mae cudd-wybodaeth, gwybodaeth neu dystiolaeth ddibynadwy, gredadwy, manwl gywir a chyfredol yn bresennol ac yn berthnasol, rhaid ei hystyried wrth ddod i benderfyniad Seiliau Rhesymol.

1.61. Os yw person yn ddioddefwr masnachu mewn pobl yna mae’n ddioddefwr trosedd. Nid oes angen i ddioddefwr gydweithredu ag achos troseddol er mwyn cael penderfyniad Seiliau Rhesymol. Gall y Safleoedd Peilot archwilio gwybodaeth am y drosedd honedig wrth ymgynghori ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith fel rhan o’r asesiad Seiliau Rhesymol. Ni ddylai absenoldeb gwybodaeth o’r fath gael ei gymryd fel arwydd nad yw rhywun yn ddioddefwr oherwydd gall fod amrywiaeth o resymau pam na ellir cael gwybodaeth gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith, er enghraifft, os digwyddodd camfanteisio dramor.

1.62. Nid oes angen profi bod trosedd wedi digwydd, nac i ymchwiliad troseddol parhaus gael ei gynnal i ganfod bod unigolyn yn ddioddefwr masnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth, caethwasanaeth, a llafur dan orfod neu orfodol.

1.63. Rhaid i Safleoedd Peilot gofio nad yw’n bosibl i blentyn roi caniatâd gwybodus i gymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol neu gamfanteisiol, ac ni allant ychwaith roi caniatâd i gael ei gam-drin neu ei fasnachu, ac felly nid oes angen i’r penderfynwyr ystyried y modd a ddefnyddiwyd i gamfanteisio wrth ystyried a yw achos yn bodloni’r diffiniad o fasnachu mewn pobl. Wrth ystyried achosion, dylai Safleoedd Peilot gadw’r dilynol mewn cof ynghylch y plentyn:

  • bregusrwydd ychwanegol

  • cam datblygiadol

  • meithrin perthynas amhriodol posibl gan y cyfawnwr

1.64. Dylai Safleoedd Peilot sicrhau bod yr unigolion perthnasol o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Plant yn ymwybodol o’r achos ac wedi cael y cyfle i gyfrannu gwybodaeth os nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â’r broses gwneud penderfyniadau.

Safon profi ar gyfer penderfyniad Seiliau Terfynol

1.65. Ar y cam penderfynu Seiliau Terfynol, rhaid i’r SCA ystyried, ‘yn ôl pwysau tebygolrwydd’, a oes digon o wybodaeth i benderfynu a yw’r unigolyn yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern.

1.66. Mae ‘yn ôl pwysau tebygolrwydd’ yn ei hanfod yn golygu, yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael, fod caethwasiaeth fodern yn fwy tebygol na pheidio o fod wedi digwydd. Nid yw’r safon profi hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Safle Peilot fod yn sicr bod y digwyddiad wedi digwydd.

1.67. Wrth ddod i’w penderfyniad rhaid i’r safle peilot bwyso a mesur y pwysau tebygolrwydd drwy ystyried yr holl broses caethwasiaeth fodern a’r camau gweithredu gwahanol a rhyngberthynol y mae angen eu cymryd. I wneud eu penderfyniad, rhaid iddynt bwyso a mesur cryfder y dystiolaeth a gyflwynir, gan gynnwys hygrededd yr honiad, a defnyddio synnwyr cyffredin a rhesymeg yn seiliedig ar amgylchiadau penodol pob achos.

1.68. Efallai na fydd digon o wybodaeth yn Ffurflen Atgyfeirio’r NRM a’r wybodaeth sydd ar gael i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn i Safle Peilot wneud penderfyniad Seiliau Terfynol ar yr un pryd â phenderfyniad Seiliau Rhesymol.

1.69. Os na all y Safle Peilot wneud penderfyniad Seiliau Terfynol o fewn 45 diwrnod ar y dystiolaeth sydd ar gael, dylai drefnu ail gyfarfod dim hwyrach na 45 diwrnod ar ôl y cyfarfod lle gwnaed y penderfyniad Seiliau Rhesymol ac ystyried pa dystiolaeth y bydd ei hangen i gymryd y penderfyniad Penderfyniad Seiliau Terfynol. Gall hyn gynnwys gofyn am ragor o wybodaeth gan:

  • sefydliad yr Ymatebwr Cyntaf

  • ICTG (lle y’i penodwyd), Gwasanaeth Gwarcheidwad Annibynnol Gogledd Iwerddon, neu Wasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban

  • Unrhyw sefydliad arall y gwyddys bod ganddo wybodaeth berthnasol

1.70. Gall y Safle Peilot hefyd geisio gwybodaeth gan ddarparwyr cymorth eraill neu bobl eraill sy’n ymwneud â chynorthwyo’r dioddefwr lle bo’n briodol. Mewn achosion lle mae’n debygol y bydd yr unigolyn yn cael penderfyniad Seiliau Terfynol negyddol, dylai’r Safle Peilot sicrhau bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi’u gofyn.

1.71. Mae’n bosibl na fydd rhai o’r dangosyddion ar y ffurflen atgyfeirio yn amlwg ar y cyswllt cychwynnol ond gallent ddod yn glir yn ddiweddarach, er enghraifft yn ystod unrhyw gyfweliadau dilynol â chyfieithydd ar y pryd a/neu mewn lleoliad diogel (er enghraifft mewn gorsaf heddlu). Dylai’r Safle Peilot fod yn ymwybodol o unrhyw broses barhaus a allai ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

1.72. Rhaid i’r Safle Peilot hefyd ystyried unrhyw adroddiadau arbenigol a gyflwynir, yn arbennig adroddiadau gan ymarferwyr iechyd cymwys. Gweler Barn arbenigwyr yn ystod y broses NRM.

1.73. Dylai’r Safle Peilot hefyd ystyried gwybodaeth wrthrychol am wlad wreiddiol a gwybodaeth gyhoeddedig arall o ffynhonnell y gellir ymddiried ynddi sy’n ymwneud â phatrymau caethwasiaeth fodern hysbys neu batrymau sy’n dod i’r amlwg.

1.74. Os oes gan y Safle Peilot ddigon o dystiolaeth i wneud penderfyniad Seiliau Terfynol cadarnhaol ar yr un pryd ag mae’n gwneud penderfyniad Seiliau Rhesymol cadarnhaol, dylai wneud hynny ar unwaith. Bydd y plentyn yn parhau i gael Cyfnod Adfer o 45 diwrnod calendr (90 diwrnod yn yr Alban) o ddyddiad y penderfyniad Seiliau Rhesymol. Gweler Canllawiau Statudol Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 am ragor o wybodaeth am y Cyfnod Adfer.

1.75. Rhaid i Safleoedd Peilot gofio nad yw’n bosibl i blentyn roi caniatâd gwybodus i gymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol neu gamfanteisiol arall, ac ni allant roi caniatâd i gael ei gam-drin neu ei fasnachu, felly nid oes angen i’r penderfynwyr ystyried y modd a ddefnyddir ar gyfer y camfanteisio wrth ystyried a yw achos yn bodloni’r diffiniad o fasnachu mewn pobl.

1.76. Rhaid i Safleoedd Peilot hefyd gadw’r dilynol mewn cof ynghylch y plentyn:

  • bregusrwydd ychwanegol

  • cam datblygiadol

  • meithrin perthynas amhriodol posibl gan y cyfawnwr

1.77. Dylai Safleoedd Peilot sicrhau bod yr unigolion perthnasol o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Plant yn ymwybodol o’r achos ac wedi cael y cyfle i gyfrannu gwybodaeth os nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â’r broses gwneud penderfyniadau.

Cofnodi penderfyniad

1.78. Fel rhan o’r broses benderfynu, bydd Safleoedd Peilot yn cwblhau’r templed cofnodi ac yn dychwelyd hwn, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth y dibynnir arni i ddod i’r penderfyniad, i’r SCA. Dylid gwneud hyn ar gyfer penderfyniadau Seiliau Rhesymol a Seiliau Terfynol. Lle gwneir y ddau benderfyniad yn yr un cyfarfod, dim ond un templed sydd ei angen. Lle bo’n briodol, dylai’r Safle Peilot nodi lle nad oes modd datgelu gwybodaeth mewn Cais Gwrthrych am Wybodaeth.

1.79. Bydd yr SCA yn nodi canlyniad y penderfyniad ar gronfeydd data priodol y Swyddfa Gartref ac yn cyhoeddi unrhyw lythyrau ynghlych penderfyniad neu gyfathrebiadau eraill sydd ei hangen.

Paneli Sicrwydd Amlasiantaethol (MAAPs)

1.80. Bydd y broses MAAPs yn parhau i fod yn berthnasol i benderfyniadau Seiliau Terfynol negyddol a wneir gan Safleoedd Peilot. Ceir manylion llawn am hyn yn Atodiad E gwreiddiol canllawiau statudol Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015.

Camau gweithredu ar gyfer yr Awdurdod Cymwys Unigol yn dilyn penderfyniad Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (Seiliau Rhesymol a/neu Derfynol)

1.81. Yn ystod y Rhaglen Beilot, bydd yr SCA yn parhau i wneud penderfyniadau unwaith y bydd yr holl brosesau priodol wedi’u cwblhau; e.e. Mae MAAPs wedi adolygu penderfyniad Seiliau Terfynol negyddol.

1.82. Mae’r adran hon yn nodi’r camau y bydd angen i’r SCA eu cymryd yn dilyn penderfyniad Seiliau Rhesymol a/neu Seiliau Terfynol. Ym mhob achos NRM, pan wneir penderfyniad rhaid i’r SCA gymryd y camau dilynol:

Cam Gweithredu 1: Cofnodi’r penderfyniad

1.83. Rhaid i’r SCA ddiweddaru cofnodion yr SCA pan fydd unrhyw un o’r dilynol yn digwydd:

  • penderfyniad Seiliau Rhesymol Cadarnhaol wedi’i wneud

  • penderfyniad Seiliau Rhesymol Negyddol wedi’i wneud

  • penderfyniad Seiliau Rhesymol a Therfynol Cadarnhaol wedi’i wneud

  • penderfyniad Seiliau Terfynol Cadarnhaol wedi’i wneud

  • penderfyniad Seiliau Terfynol Negyddol wedi’i wneud

  • mae panel MAAP wedi adolygu penderfyniad Seiliau Terfynol Negyddol

  • gofynnir am ailystyriaeth

  • mae penderfyniad yn cael ei atal neu ei dynnu’n ôl

1.84. Ym mhob achos bydd yr SCA yn cofnodi canlyniad penderfyniadau’r Safleoedd Peilot a’r dystiolaeth y dibynnir arni gan ddefnyddio’r templed adrodd.

Cam Gweithredu 2: Hysbysu asiantaethau perthnasol o’r penderfyniad

1.85. Dylai’r SCA gwblhau’r llythyr penderfyniad priodol ar gyfer canlyniad yr achos.

1.86. Ar gyfer penderfyniad negyddol, rhaid i’r SCA gynnwys copi o gofnod yr ystyriaeth yn darparu manylion llawn yr hyn y maent wedi’i ystyried ac yn egluro’r penderfyniad.

1.87. Dylid anfon y llythyr at y gweithiwr cymorth perthnasol yn yr Awdurdod Lleol, a’r ICTG os yw ar gael, Gwasanaeth Gwarcheidwad Annibynnol Gogledd Iwerddon, neu Wasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban.

1.88. Rhaid i’r SCA beidio â chyflwyno llythyr penderfyniad na phapurau caethwasiaeth fodern eraill i blentyn o dan unrhyw amgylchiadau. Rhaid cyflwyno’r holl bapurau caethwasiaeth fodern i gynrychiolydd penodedig y plentyn neu’r Awdurdod Lleol a’r ICTG os yw ar gael, Gwasanaeth Gwarcheidwad Annibynnol Gogledd Iwerddon, neu Wasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban.

1.89. Rhaid i’r SCA hysbysu’r dilynol o’u penderfyniad:

  • Ymatebwyr Cyntaf a/neu Sefydliad Ymatebwyr Cyntaf (ym mhob achos)

  • yr Awdurdod Lleol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban

  • yr ICTG (lle y’i penodwyd), Gwasanaeth Gwarcheidwad Annibynnol Gogledd Iwerddon, neu Wasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban

1.90. Dylai’r SCA ddiweddaru cronfeydd data’r Swyddfa Gartref fel y bo’n briodol (e.e. math o achos atgyfeiriad NRM, amod arbennig, rhwystr rhag symud).

1.91. Dylai’r SCA ddiweddaru’r heddlu yn dilyn penderfyniad Seiliau Rhesymol neu benderfyniad Seiliau Terfynol. Am ragor o wybodaeth gweler Rhannu gwybodaeth rhwng yr SCA a’r heddlu.

Cam Gweithredu 3: Hysbysu gorfodi’r gyfraith (lle mae achos troseddol yn gysylltiedig)

1.92. Os yw’r unigolyn yn destun achos troseddol rhaid i’r SCA gysylltu â’r heddlu cyn gynted ag y gwneir penderfyniad yr NRM.

1.93. Rhaid i’r SCA sicrhau bod yr heddlu (neu Uned Genedlaethol Masnachu Pobl Heddlu’r Alban) yn cael gwybod am benderfyniad yr NRM cyn gynted ag y byddant yn ei wneud. Gwneir hyn drwy anfon copi o’r llythyr hysbysu at yr heddlu neu drwy gysylltu â nhw drwy e-bost neu dros y ffôn fel y bo’n briodol.

1.94. Yn gyffredinol, rhaid i’r SCA ofyn i’r heddlu hysbysu unrhyw erlynwyr perthnasol (Gwasanaeth Erlyn y Goron, Swyddfa’r Goron a Gwasanaeth Procuradur Ffisgal yn yr Alban, neu’r Gwasanaeth Erlyn yng Ngogledd Iwerddon) o benderfyniad yr NRM cyn gynted ag y bydd y penderfyniad yn barod i’w gyflwyno.

1.95. I gael rhagor o wybodaeth gweler yr amddiffyniad adran (Atodiad H).

Camau gweithredu ar gyfer yr Awdurdod Cymwys Unigol pan fydd penderfyniad Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol yn cael ei atal

1.96. Bydd camau gweithredu ar gyfer yr SCA mewn achos a ohiriwyd yn parhau fel y nodir yn Atodiad E gwreiddiol Canllawiau Statudol Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015.

1.97. Bydd yr SCA a’r Safle Peilot yn cytuno ar gamau gweithredu priodol fesul achos os ydynt yn credu y gallai fod angen atal achos. Os bydd unrhyw un o’r dilynol yn digwydd, rhaid i Safle Peilot hysbysu’r SCA cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl:

  • mae’r plentyn yn marw, yn mynd ar goll, neu’n cael ei arestio

  • vmae newid yn yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn

  • mae dyddiad treial troseddol wedi’i osod cyn dyddiad disgwyliedig y penderfyniad

1.98. Rhaid i Safleoedd Peilot hysbysu’r SCA os ydynt yn dod yn ymwybodol o unrhyw reswm arall pam y gallai fod angen atal penderfyniad.

Camau ar gyfer yr Awdurdod Cymwys Unigol mewn achosion mewnfudo byw yn dilyn penderfyniad Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol

1.99. Bydd camau gweithredu ar gyfer yr SCA mewn perthynas ag achosion mewnfudo yn parhau fel y nodir yn Atodiad E gwreiddiol Canllawiau Statudol Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015.

Cofnod achos Awdurdod Cymwys Unigol

1.100. Rhaid i staff SCA gadw cofnod achos SCA.

1.101. Pan ddaw achosion o gaethwasiaeth fodern i ben, rhaid i holl gofnodion achos yr SCA gynnwys, o leiaf:

  • Ffurflen atgyfeirio Ymatebwr Cyntaf

  • Llythyr(au) penderfyniad

  • Cofnod Penderfyniad y Safle Peilot o Safleoedd Peilot a thystiolaeth ategol

  • [lle mae penderfyniad Seiliau Terfynol yn negyddol] cofnod o benderfyniad MAAP lle mae’n berthnasol

  • manylion atgyfeiriadau at sefydliadau perthnasol eraill, e.e. yr heddlu / ICTG

Datgelu gwybodaeth i’r dioddefwr a cheisiadau hawl mynediad

1.102. Bydd Safleoedd Peilot yn broseswyr data at ddibenion data NRM. Oherwydd hynny, os codir cais hawl mynediad gyda Safle Peilot, dylid hysbysu’r SCA fel y rheolydd data.

1.103. Bydd canlyniad penderfyniadau Seiliau Rhesymol a Seiliau Terfynol bob amser yn cael ei ddatgelu i ddioddefwyr (neu gynrychiolydd priodol fel sy’n fwyaf priodol ar gyfer y plentyn) fel mater o drefn.

1.104. Gall dioddefwyr ofyn am fynediad i’r wybodaeth a gedwir amdanynt gan yr SCA, fel rheolydd data, yn unol ag Erthygl 15 o’r GDPR. Dylid cyflwyno ceisiadau am wybodaeth yn ysgrifenedig. Mae templedi i helpu i ofyn am y wybodaeth hon ar gael gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yma.

1.105. Mae Adran 15 o Ddeddf Diogelu Data (DPA) 2015 yn caniatáu esemptiadau rhag ceisiadau hawl mynediad fel y nodir yn Atodlen 2 DPA 2015. Mae’r esemptiadau hyn yn cynnwys ar gyfer 2(1)(a) atal trosedd, a 2(1)(b) dal neu erlyn troseddwyr. Felly, lle mae gwybodaeth sensitif yn y ffurflen atgyfeirio neu’r cofnod penderfyniad, dylid golygu hyn cyn rhyddhau’r cofnodion. Ymhlith yr enghreifftiau o wybodaeth sensitif na chaiff ei rhyddhau mae:

  • gwybodaeth am ymchwiliadau heddlu neu ymchwiliadau eraill gorfodi’r gyfraith

  • gwybodaeth am ddioddefwyr eraill

Ceisiadau gan Dribiwnlysoedd

1.106. Bydd camau gweithredu ar gyfer yr SCA mewn perthynas ag achosion Ceisiadau gan Dribiwnlysoedd yn parhau fel y nodir yn Atodiad E gwreiddiol Canllawiau Statudol Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015.

Ailystyriaeth o Benderfyniad Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol

1.107. Gall unigolyn, neu rywun sy’n gweithredu ar ei ran, ofyn am ailystyriaeth o benderfyniad Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol negyddol os daw tystiolaeth ychwanegol i’r amlwg a fyddai’n berthnasol i ganlyniad achos, neu os oes pryderon penodol nad yw penderfyniad wedi’i wneud yn unol â chanllawiau.

1.108. Os bydd y Safle Peilot yn cael cais am ailystyriaeth, dylid hysbysu’r SCA cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl. Bydd yr SCA yn hysbysu’r Safle Peilot perthnasol os bydd yr SCA yn derbyn cais am ailystyriaeth yn ymwneud â phenderfyniad y mae Safle Peilot wedi’i wneud.

1.109. Bydd yr SCA a’r Safle Peilot yn trafod rhinweddau’r cais am ailystyriaeth, ond yr SCA fydd â’r penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid ailystyried yr achos.

1.110. Os bydd yr SCA yn penderfynu y dylid ailystyried achos, bydd yr SCA yn penderfynu ai’r Safle Peilot neu’r SCA sydd yn y sefyllfa orau i ailystyried y penderfyniad.

1.111. Mae manylion llawn y cais am ailystyriaeth wedi’u nodi yn yr Atodiad E gwreiddiol.

Honiadau amhriodol a threfn gyhoeddus

1.112. Ni fydd y Cyfnod Adfer yn cael ei dilyn os:

  • yw seiliau trefn gyhoeddus yn ei atal neu

  • os canfyddir bod statws dioddefwr wedi’i hawlio’n amhriodol

1.113. Os yw Safle Peilot yn credu bod honiad wedi’i wneud yn amhriodol neu fod pryderon trefn gyhoeddus ynghylch dioddefwr, dylai’r Safle Peilot hysbysu’r SCA o unrhyw bryderon.

1.114. Lle mae’r SCA yn penderfynu bod tystiolaeth gadarn, wrthrychol bod honiad amhriodol wedi’i wneud, cyn gynted ag y daw hyn yn hysbys, rhaid i’r SCA:

  • cyhoeddi penderfyniad Seiliau Terfynol negyddol

  • cwtogi ar unrhyw Gyfnod Adfer sy’n weddill a hysbysu’r uned fewnfudo briodol er mwyn iddynt ystyried gweithredu fel y bo’n briodol (os oes gan y person unrhyw wyliau sy’n weddill oherwydd cais mewnfudo arall gall hyn barhau oni cheir ei fod wedi’i hawlio’n amhriodol hefyd).

1.115. Os nad yw’r dystiolaeth o honiad amhriodol yn gadarn a gwrthrychol fel y’i pennir gan yr SCA, rhaid i’r Safle Peilot ddilyn prosesau safonol a chadw at y Cyfnod Adfer llawn.

1.116. Mae’n bosibl hefyd y gallai unigolyn a honnodd i ddechrau ei fod yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern fod yn rhan o orfodi caethwasiaeth fodern ar bobl eraill. Rhaid atgyfeirio’r achosion hyn ar unwaith at yr heddlu neu dîm ymchwiliadau troseddol Gorfodi Mewnfudo y Swyddfa Gartref ar gyfer camau priodol.

Dirymu Penderfyniad Seiliau Terfynol

1.117. Lle mae’r SCA neu Safle Peilot wedi gwneud penderfyniad Seiliau Terfynol cadarnhaol, ond bod gwybodaeth yn dod i’r amlwg yn ddiweddarach sy’n awgrymu bod y penderfyniad yn ddiffygiol, dylai’r SCA ystyried a yw dirymu’n briodol.

1.118. Lle mae’r penderfyniad wedi’i wneud gan Safle Peilot, bydd yr SCA yn trafod eu pryderon gyda’r Safle Peilot a wnaeth y penderfyniad i bennu a yw dirymu yn briodol. Mater i’r SCA fydd gwneud y penderfyniad terfynol, ond ni fydd hyn yn digwydd cyn i bryderon gael eu trafod gyda’r Safle Peilot.

1.119. Os penderfynir ei bod yn briodol dirymu penderfyniad Seiliau Terfynol, rhaid i weithiwr achos yr SCA ysgrifennu at yr unigolyn dan sylw, neu at gynrychiolydd priodol. Os nad yw’n bosibl cysylltu’n uniongyrchol â’r unigolyn dan sylw mewn ffordd briodol, dylai’r SCA gysylltu â’i gynrychiolydd cyfreithiol (os yw’n hysbys) a/neu ei ddarparwr cymorth diweddaraf o dan y Contract Gofal Dioddefwr (lle y’i defnyddir), neu ddarparwyr gymorth cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, i geisio adennill cysylltiad.

1.120. Os yw’r unigolyn wedi cael cyfnod o Ganiatâd yn ôl Disgresiwn, rhaid i’r SCA hysbysu’r tîm mewnfudo priodol er mwyn iddo ystyried a yw cwtogi’r caniatâd hwn yn briodol.

Tynnu’n ôl o’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol

1.121. Gall oedolyn benderfynu ei fod am adael yr NRM cyn iddo dderbyn penderfyniad Seiliau Rhesymol neu Seiliau Terfynol. Weithiau mae’r oedolion hynny’n gadael y DU drwy ddychweliad gwirfoddol, neu weithiau bydd oedolion yn dewis tynnu caniatâd yn ôl am resymau eraill.

1.122. Os bydd oedolyn yn gadael y DU cyn cael penderfyniad Seiliau Rhesymol gan yr NRM gall yr SCA drin hwn fel achos a dynnwyd yn ôl. Dylai’r SCA hysbysu’r sefydliadau dilynol bod yr unigolyn wedi tynnu’n ôl:

  • Ymatebwr Cyntaf

  • y darparwr cymorth VCC (lle mae’r dioddefwr mewn cymorth VCC) neu ddarparwyr cymorth cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban

  • yr heddlu sy’n ymchwilio lle mae’n berthnasol (neu Uned Genedlaethol Masnachu Pobl Heddlu’r Alban)

  • Gwasanaethau Diogelu Oedolion (lle y’u defnyddir yn achos oedolion)

1.123. Os yw oedolyn yn dymuno tynnu’n ôl o’r NRM ar ôl derbyn penderfyniad Seiliau Rhesymol cadarnhaol (neu os yw yn y DU ac yn dymuno tynnu’n ôl cyn cael y penderfyniad hwn) dylai ysgrifennu at yr SCA yn mynegi ei ddymuniad i dynnu caniatâd yn ôl neu ddefnyddio caniatâd i dynnu’n ôl o’r ffurflen templed NRM.

1.124. Dylai’r SCA hysbysu’r sefydliadau a restrir uchod am y penderfyniad i dynnu’n ôl. Ni fydd person sy’n tynnu’n ôl o’r NRM yn cael unrhyw benderfyniadau neu gymorth pellach gan yr NRM ac ystyrir bod ei achos wedi’i gwblhau. Nid yw hyn yn atal person rhag cael ei ail-atgyfeirio at yr NRM yn y dyfodol.

1.125. Ni chaiff plant dynnu eu hunain yn ôl o’r NRM. Ni all plentyn gael ei dynnu’n ôl o’r NRM oni bai ei fod er lles gorau’r plentyn fel y penderfynir gan Wasanaethau Diogelu Plant yr Awdurdod Lleol cyfrifol. Os bydd yr SCA yn derbyn cais gan Awdurdod Lleol neu lysgenhadaeth, er enghraifft, yn ceisio tynnu plentyn o’r NRM, dylid atgyfeirio’r achos at yr Uned Caethwasiaeth Fodern am gyngor.

1.126. Weithiau nid yw oedolyn wedi tynnu’n ôl o’r NRM ac nid yw wedi hysbysu’r SCA ei fod wedi gadael y DU ond mae gan yr SCA dystiolaeth gref bod oedolyn wedi gadael y DU ac nid oes tystiolaeth ei fod yn bwriadu dychwelyd ar hyn o bryd. Er enghraifft, gallant gael eu hysbysu gan ddarparwr cymorth bod yr oedolyn wedi gadael y DU heb unrhyw dystiolaeth ei fod yn bwriadu dychwelyd.

1.127. Yn y sefyllfa hon, dylai’r SCA symud ymlaen i wneud unrhyw benderfyniadau NRM sydd heb eu penderfynu yn yr achos oni bai nad oes digon o dystiolaeth i wneud hynny. Er ei bod yn bosibl nad yw’r dioddefwr yn ceisio cymorth gan yr NRM mwyach, bydd gwneud penderfyniad yn caniatáu i ystadegau gael eu casglu ar faint o gaethwasiaeth fodern sydd yn y DU a gallai gynorthwyo ag erlyniadau troseddol parhaus yn ogystal â hawliadau sifil a allai gael eu cyflwyno gan y dioddefwr yn y dyfodol. Os na ellir hysbysu’r dioddefwr o’i benderfyniad gan nad yw bellach yn y DU, dylai’r SCA hysbysu’r sefydliadau a restrir uchod ac unrhyw bartïon perthnasol eraill lle mae’n briodol.

  1. Gellir dod o hyd i wybodaeth am Safleoedd Mabwysiadwyr Cynnar ICTG yma