Canllawiau

Rheoli meddyginiaeth a monitro cyflwr iechyd: newidiadau i gyfraith PIP rhwng 28 Tachwedd 2016 a 15 Mawrth 2017

Diweddarwyd 4 April 2022

1. Cefndir

Wrth wneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol (PIP), mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ystyried eich gallu i reoli meddyginiaeth a monitro cyflwr iechyd.

2. Newid i gyfraith PIP

O 28 Tachwedd 2016 bu newid yn y ffordd yr ydym yn asesu’r angen am oruchwyliaeth, anogaeth neu gymorth i reoli meddyginiaeth a monitro cyflwr iechyd. Newidiwyd y gyfraith eto ar 16 Mawrth 2017.

Bydd DWP nawr yn edrych a oedd angen goruchwyliaeth, anogaeth neu gymorth arnoch i reoli meddyginiaeth a monitro cyflwr iechyd rhwng 28 Tachwedd 2016 a 15 Mawrth 2017 yn unig.

3. Beth mae hyn yn ei olygu i chi

Rydym yn edrych ar hawliadau PIP sydd, yn ein barn ni, yn fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y newid hwn ac yn gymwys i gael mwy o gefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys edrych eto ar rai hawliadau y gwnaethom benderfynu arnynt ar neu ar ôl 28 Tachwedd 2016 a chyn 16 Mawrth 2017 lle na wnaethom ddyfarnu PIP.

Ni fyddwn yn edrych eto ar hawliadau os dyfarnwyd cyfradd uwch rhan bywyd bob dydd i PIP:

  • yn barhaus ers 28 Tachwedd 2016
  • o ddechrau eich cais os gwnaethoch hawlio PIP ar ôl 28 Tachwedd

Os penderfynwn y dylech gael mwy o PIP yna bydd eich dyfarniad fel arfer yn cael ei ôl-ddyddio i 28 Tachwedd 2016, neu os gwnaethoch hawlio PIP ar ôl 28 Tachwedd 2016 wedi’i ôl-ddyddio i’r dyddiad y gwnaethoch ddechrau cael PIP.

Dim ond tan 15 Mawrth 2017 y gellir talu PIP ychwanegol gan fod cyfraith PIP wedi newid ar 16 Mawrth 2017.

Nid ydym yn bwriadu eich gwahodd i asesiad wyneb yn wyneb fel rhan o’r adolygiad hwn.

Mae’r newid i sut mae rheoli meddyginiaeth a monitro cyflwr iechyd yn cael ei ystyried yn ganlyniad i ddyfarniad Uwch Dribiwnlys. Newidiodd y dyfarniad hwn hefyd gyfraith PIP ar gyfer diet arbennig fel therapi o 28 Tachwedd. 2016.

4. Help gyda PIP

Gallwch gysylltu â sefydliad cymorth lleol neu Cyngor ar Bopeth i gael help i ddeall PIP.