Ffurflen

TWE: car a ddarperir at ddefnydd preifat cyflogai (P46(Car))

Os ydych yn gyflogwr, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein neu ffurflen bost i roi gwybod i CThEM eich bod wedi darparu, neu dynnu yn ôl, car at ddefnydd preifat cyflogai.

Dogfennau

Rhoi gwybod gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein (mewngofnodi drwy ddefnyddio Porth y Llywodraeth)

Car a ddarperir at ddefnydd preifat cyflogai neu gyfarwyddwr (P46(Car))

Manylion

Os ydych yn gyflogwr, rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM (CThEM) eich bod wedi darparu, neu dynnu yn ôl, buddiannau car ar gyfer cyfarwyddwr neu gyflogai. Gallwch naill ai:

  • defnyddio TWE ar-lein
  • defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
  • llenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEM

Er mwyn rhoi gwybod ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni.

Os ydych yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, byddwch yn cael cyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i wirio cynnydd eich ffurflen. Er mwyn rhoi gwybod i CThEM, bydd angen y canlynol arnoch - eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) neu Rif Cofrestru TAW yn eich Cyfrif Treth Busnes. Gallwch ychwanegu hwn o hafan eich cyfrif.

Ceir diesel sy’n cydymffurfio â safon Ewro 6d (a elwir hefyd yn Allyriadau Gyrru Gwirioneddol 2 (RDE2)) ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020.

I roi gwybod am gar cwmni diesel sy’n bodloni safon Ewro 6d, dewiswch ‘Math o Danwydd F’.

Ar gyfer 2019 i 2020, bydd gwybodaeth ar gael gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) er mwyn eich galluogi i wybod a yw car yn bodloni safon Ewro 6d drwy ei Gwasanaeth Ymholiadau Cerbydau ar-lein ar gyfer ceir a gynhyrchwyd ar ôl mis Medi 2018. Yn yr un modd, mae gwybodaeth safon Ewro 6d ar gael ar y ffurflen V5C ar gyfer ceir a gofrestrwyd o 1 Medi 2018 ymlaen.

O 2020 i 2021 Os oes gan gar ffigur CO2 sy’n 1-50g/km, bydd yn rhaid i chi roi milltiroedd allyriadau sero’r car. Dyma’r pellter mwyaf mewn milltiroedd y mae’n bosibl gyrru’r car yn y modd trydan heb ailwefru’r batri.

Dylai cyflogeion gysylltu â’u cyflogwr i gael y ffigur milltiroedd allyriadau sero.

Gall cyflogwyr gael yr wybodaeth hon gan y cwmni ceir ar brydles neu gan ddarparwr y fflyd.

Os ydych yn berchen ar y cerbyd, gallwch ddod o hyd i’r ffigur milltiroedd allyriadau sero ar Dystysgrif Cydymffurfio eich cerbyd.

Cyn i chi ddechrau llenwi’r ffurflen bost

Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.

Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn llawn cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly dylech gasglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau’i llenwi.

Ffurflenni ac arweiniad perthynol

480: Treuliau a buddiannau - canllaw treth
Arweiniad ynglŷn â’r gyfraith sy’n ymwneud â threuliau, taliadau a buddiannau a dderbynnir gan gyfarwyddwyr a chyflogeion.

Cyhoeddwyd ar 12 September 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 April 2022 + show all updates
  1. A new version of the P46(Car) postal form has been added to be used from 6 April 2022.

  2. A new version of the form has been added to be used from 6 April 2021.

  3. A new version of the form has been added to be used from 6 April 2020.

  4. Information about where to find the zero emission mileage figure has been added.

  5. From 2020 to 2021 if a car has a CO2 figure of 1-50g/km you'll need to provide the car's zero emission mileage.

  6. Car fuel type information and postal form updated for the 2019 to 2020 tax year.

  7. Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2018 to 2019 and updated with information for RDE2 (also known as Euro 6d) compliant diesel cars for tax year 2018 to 2019.

  8. A new version of the form is now available.

  9. An online service is now available.

  10. Added translation

  11. The 2015 to 2016 form has been added to this page.

  12. First published.