Statutory guidance

PACE Code C 2019 (Welsh accessible version)

Updated 20 December 2023

Deddf Yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) COD C

Diwygiedig

Cod ymarfer ar gyfer cadw, trin a holi pobl gan swyddogion yr heddlu

Cychwyniad - Trefniadau

Trosiannol Mae’r cod yma yn berthnasol i bobl a gedwir gan yr heddlu ar ôl 00:00 ar 21 Awst 2019 hyd yn oed os yw eu cyfnod cadw wedi cychwyn cyn yr adeg hynny.

1 Cyffredinol

1.0 Rhaid i’r pwerau a gweithdrefnau yn y Cod hwn gael eu defnyddio’n deg, yn gyfrifol, gyda pharch tuag at y bobl y maent yn berthnasol iddynt a heb wahaniaethu anghyfreithlon. Dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, adran 149 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus), rhaid i heddluoedd, wrth gyflawni eu swyddogaethau dalu sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiadau eraill a waherddir o dan y Ddeddf, i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r sawl nad ydyw, a meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheiny nad ydynt. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i swyddogion yr heddlu wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu erlid unrhyw unigolyn ar sail ‘nodweddion gwarchodedig’ oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, wrth ddefnyddio eu pwerau. Gweler Nodiadau 1A ac 1AA.

1.1 Rhaid delio â phob person yn y ddalfa yn brydlon, a’u rhyddhau cyn gynted ag y gwelir nad oes angen eu cadw mwyach.

1.1A Rhaid i swyddog y ddalfa gyflawni swyddogaethau’r cod yma cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol. Ni ystyrir bod swyddog y ddalfa yn torri amodau’r cod yma os oes modd cyfiawnhau’r oedi ac os cymerir camau rhesymol i atal unrhyw oedi diangen. Bydd y cofnod cadw yn dangos lle bu oedi a’r rheswm am hynny. Gweler Nodyn 1H.

1.2 Mae’n rhaid i’r Cod Ymarfer fod ar gael yn hwylus ym mhob swyddfa’r heddlu ar gyfer dibenion ymgynghori gan:

  • swyddogion yr heddlu
  • staff yr heddlu
  • pobl yn y ddalfa
  • y cyhoedd

1.3 Mae darpariaethau’r Cod yma:

  • yn cynnwys yr Atodiadau
  • ond nid ydynt yn cynnwys y Nodiadau Arweiniad. sy’n rhoi arweiniad i swyddogion heddlu ac eraill ynghylch ei gymhwyso a’i ddehongli

1.4 Os ar unrhyw adeg bod gan swyddog unrhyw reswm i amau bod person o unrhyw oedran yn agored i niwed (gweler paragraff 1.13(d)) yn absenoldeb tystiolaeth glir i chwalu’r amheuaeth honno, bydd y person hwnnw’n cael ei drin felly at ddibenion y Cod hwn ac i sefydlu a all unrhyw reswm o’r fath fodoli mewn perthynas â pherson yr amheuir ei fod wedi cyflawni trosedd (gweler paragraff 10.1 a Nodyn 10A), bydd swyddog y ddalfa yn achos person sy’n cael ei gadw, neu’r swyddog sy’n ymchwilio i’r drosedd yn achos person nad yw wedi’i arestio neu ei gadw, yn cymryd, neu’n cyfarwyddo cymryd, (gweler paragraff 3.5 a Nodyn 3F) y camau a ganlyn:

  • (a) rhaid gwneud ymholiadau rhesymol i ganfod pa wybodaeth sydd ar gael sy’n berthnasol i unrhyw un o’r ffactorau a ddisgrifir ym mharagraff 1.13 (d) fel rhai sy’n awgrymu y gallai’r person fod yn agored i niwed;

  • (b) rhaid gwneud cofnod yn disgrifio a yw’n ymddangos bod unrhyw un o’r ffactorau hynny’n gymwys ac yn darparu unrhyw reswm i amau y gallai’r person fod yn agored i niwed neu (yn ôl y galw) ddim yn agored i niwed; a

  • (c) bydd y cofnod a grybwyllir yn is-baragraff (b) ar gael i’w ystyried gan swyddogion heddlu, staff yr heddlu ac unrhyw rai eraill sydd, yn unol â darpariaethau’r Cod hwn neu unrhyw God arall , angen neu sydd â hawl i gyfathrebu â’r person dan sylw. Byddai hyn yn cynnwys unrhyw gyfreithiwr, oedolyn priodol a gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ac mae’n arbennig o berthnasol i gyfathrebu dros y ffôn neu trwy ddolen fyw (gweler paragraffau 12.9A (cyfweliadau), 13.12 (cyfieithu ar y pryd), a 15.3C, 15.11A, 15.11B, 15.11C a 15.11D (adolygu ac ymestyn cyfnod cadw)). Gweler Nodiadau 1G, 1GA, 1 GB a 1GC.

1.5 Os yw’n ymddangos bod unrhyw un dan 18 oed, yna bydd, yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth eglur ei fod yn hŷn, yn cael ei drin fel person ifanc ar ddibenion y Cod yma ac unrhyw God arall. Nodyn 1H.

1.5A Heb ei ddefnyddio.

1.6 Os bydd rhywun yn ymddangos i fod yn ddall, gyda nam difrifol ar ei olwg, yn fyddar, yn methu darllen neu siarad neu gydag anhawster llafar oherwydd nam ar ei leferydd, bydd yn cael ei drin felly i ddibenion y Cod hwn yn absenoldeb tystiolaeth glir i’r gwrthwyneb.

1.7 Mae ‘yr oedolyn priodol’ yn golygu, yn achos:

(a) person ifanc:

  • (i) rhiant, gwarchodwr neu, os yw’r person ifanc yng ngofal awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol, person sy’n cynrychioli’r awdurdod neu sefydliad hwnnw (gweler Nodyn 1B);
  • (ii) gweithiwr cymdeithasol o awdurdod lleol (gweler Nodyn 1C);
  • (iii) os nad yw’n un o’r rhain, dylai fod yn oedolyn cyfrifol 18 oed neu hŷn nad yw:
    • yn swyddog yr heddlu;
    • wedi ei gyflogi gan yr heddlu;
    • dan gyfarwyddyd neu reolaeth prif swyddog heddlu; neu
    • yn berson sy’n darparu gwasanaethau dan drefniadau cytundebol (ond heb gael ei gyflogi gan brif swyddog heddlu), i gynorthwyo’r heddlu hwnnw parthed cyflawni ei swyddogaethau prif swyddog, p’un a yw ar ddyletswydd ar y pryd neu beidio. Gweler Nodyn 1F.

(b) person sy’n agored i niwed (gweler paragraff 1.4 a Nodyn 1D):

  • (i) perthynas, gwarcheidwad neu berson cyfrifol arall sy’n gyfrifol am eu gofal neu eu gwarchodaeth;
  • (ii) rhywun sydd â phrofiad o ddelio gyda phobl sy’n agored i niwed, ond nad yw:
    • yn swyddog yr heddlu;
    • wedi ei gyflogi gan yr heddlu;
    • dan gyfarwyddyd neu reolaeth prif swyddog heddlu;
    • yn berson sy’n darparu gwasanaethau dan drefniadau cytundebol (ond heb gael ei gyflogi gan brif swyddog heddlu), i gynorthwyo’r heddlu hwnnw parthed cyflawni ei swyddogaethau prif swyddog, p’un a yw ar ddyletswydd ar y pryd neu beidio;
  • (iii) os nad yw’n un o’r rhain, dylai fod yn oedolyn cyfrifol arall 18 oed neu hŷn ar wahân i’r sawl a ddisgrifir yn y pwyntiau bwled yn is-baragraff (b)(ii) uchod. Gweler Nodyn 1F

1.7A Rôl yr oedolyn priodol yw diogelu hawliau a lles pobl ifanc a phobl sy’n agored i niwed (gweler paragraffau 1.4 ac 1.5) y mae darpariaethau’r Cod hwn ac unrhyw God Ymarfer arall yn berthnasol iddynt. Am y rheswm hwn, mae disgwyl i’r oedolyn priodol, ymysg pethau eraill, i:

  • gefnogi, cynghori a chynorthwyo pobl ifanc pan, yn unol â’r Cod hwn neu unrhyw God Ymarfer arall, y rhoddir neu y gofynnir iddynt ddarparu gwybodaeth neu gymryd rhan mewn unrhyw weithdrefn;
  • arsylwi a yw’r heddlu’n gweithredu’n gywir ac yn deg i barchu eu hawliau a’u haeddiannau, a hysbysu swyddog o reng arolygydd neu uwch os ydynt o’r farn nad ydyn nhw;
  • cynorthwyo nhw i gyfathrebu â’r heddlu wrth barchu eu hawl i ddweud dim oni bai eu bod eisiau gwneud hynny fel y nodir yn nhelerau’r rhybudd (gweler paragraffau 10.5 a 10.6);
  • helpu nhw i ddeall eu hawliau a sicrhau bod yr hawliau hynny’n cael eu gwarchod a’u parchu (gweler paragraffau 3.15, 3.17, 6.5A, ac 11.17).

1.8 Rôl yr oedolyn priodol yw diogelu hawliau a lles pobl ifanc a phobl sy’n agored i niwed (gweler paragraffau 1.4 ac 1.5) y mae darpariaethau’r Cod hwn ac unrhyw God Ymarfer arall yn berthnasol iddynt. Am y rheswm hwn, mae disgwyl i’r oedolyn priodol, ymysg pethau eraill, i:

  • gefnogi, cynghori a chynorthwyo pobl ifanc pan, yn unol â’r Cod hwn neu unrhyw God Ymarfer arall, y rhoddir neu y gofynnir iddynt ddarparu gwybodaeth neu gymryd rhan mewn unrhyw weithdrefn;
  • arsylwi a yw’r heddlu’n gweithredu’n gywir ac yn deg i barchu eu hawliau a’u haeddiannau, a hysbysu swyddog o reng arolygydd neu uwch os ydynt o’r farn nad ydyn nhw;
  • cynorthwyo nhw i gyfathrebu â’r heddlu wrth barchu eu hawl i ddweud dim oni bai eu bod eisiau gwneud hynny fel y nodir yn nhelerau’r rhybudd (gweler paragraffau 10.5 a 10.6);
  • helpu nhw i ddeall eu hawliau a sicrhau bod yr hawliau hynny’n cael eu gwarchod a’u parchu (gweler paragraffau 3.15, 3.17, 6.5A, ac 11.17). 1.8 Os yw’r Cod yma yn nodi bod angen rhoi gwybodaeth arbennig i berson, nid yw’n ofynnol ei rhoi iddynt ar y pryd os nad ydynt yn gallu deall yr hyn a ddywedir wrthynt, os ydynt yn dreisgar neu os gallent fynd yn dreisgar, neu os oes angen sylw meddygol brys arnynt, ond rhaid rhoi’r wybodaeth iddynt cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.

1.9 Mae cyfeiriadau at swyddog y ddalfa yn cynnwys unrhyw swyddog heddlu sydd, yn y cyfnod hwn, yn cyflawni swyddogaeth swyddog y ddalfa.

1.9A Pan fo’r Cod yma yn gofyn am awdurdod neu gytundeb ymlaen llaw gan swyddog o safle arolygydd neu uwch-arolygydd o leiaf, fe all rhingyll neu brif arolygydd a awdurdodwyd i gyflawni swyddogaethau’r safle uwch o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE), adran 107 roi’r awdurdod hwnnw.

1.10 Yn amodol i baragraff 1.12, mae’r Cod yma’n berthnasol i bobl a gedwir yn y ddalfa mewn gorsafoedd heddlu yng Nghymru a Lloegr, os cawsant eu harestio neu beidio, ac i’r rhai a ddygwyd i orsaf yr heddlu er mwyn darparu man diogel iddynt o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, adrannau 135 a 136, fel fel y diwygiwyd gan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 (gweler paragraff 3.16). Mae Adran 15 yn ymwneud â phobl a gedwir gan yr heddlu yn unig, e.e. y rhai a ddygwyd i orsaf yr heddlu ar ôl eu harestio neu’r rhai a arestiwyd yng ngorsaf yr heddlu am drosedd ar ôl mynd yno’n wirfoddol.

1.11 Nid oes unrhyw ran o’r Cod hwn yn berthnasol i berson a gedwir:

(a) os yw Cod H PACE yn berthnasol iddo oherwydd:

  • eu bod yn cael eu cadw yn dilyn arést dan adran 41 Deddf Terfysgaeth 2000 (TACT) a heb eu cyhuddo; neu
  • rhoddwyd awdurdodiad dan adran 22 Deddf Gwrthderfysgaeth 2008 (CTACT) (cwestiynu rhai a amheuir o derfysgaeth wedi cyhuddo) i’w cyfweld.

(b) os yw’r Cod Ymarfer a gyhoeddwyd dan baragraff 6 Atodlen 14 y TACT yn berthnasol iddynt am eu bod wedi eu cadw ar gyfer archwiliad dan Atodlen 7 y TACT.

1.12 Nid yw’r Cod hwn yn berthnasol i bobl yn y ddalfa:

(i) a arestiwyd gan swyddogion dan y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, adran 136(2) ar warantau a gyhoeddwyd yn yr Alban, neu a arestiwyd neu a gadwyd heb warant dan adran 137(2) gan swyddogion o heddluedd yn yr Alban. Yn yr achosion hyn, mae pwerau a dyletswyddau’r heddlu a hawliau’r person yn ystod ei gyfnod mewn gorsaf heddlu yng Nghymru neu Loegr, yr un fath ag y maent yn yr Alban;

(ii) a arestiwyd o dan y Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999, adran 142(3) er mwyn cymryd olion eu bysedd;

(iii) y mae eu cadw wedi ei awdurdodi dan Atodlenni 2 neu 3 Deddf Mewnfudo 1971 neu adran 62 y Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002;

(iv) sy’n garcharorion y dyfarnwyd eu bod yn euog neu sy’n aros prawf, a gedwir yng nghelloedd yr heddlu ar ran Gwasanaeth y Carchardai o dan y Ddeddf Carcharu (Darpariaethau Dros Dro) 1980;

(v) Heb ei ddefnyddio.

(vi) a gedwir i’w harchwilio dan bwerau atal ac archwilio ac eithrio’r rhai sy’n ofynnol gan God A.

Rhaid ystyried mai’r darpariaethau ar gyfer cadw a thrin pobl yn adrannau 8 a 9 yw’r safonau isaf posibl wrth drin pobl o’r fath sy’n cael eu cadw.

1.13 Yn y Cod hwn:

(a) golyga ‘person dynodedig’ rywun ar wahân i swyddog heddlu, sydd â phwerau a dyletswyddau penodedig swyddogion heddlu a roddwyd iddynt neu a orfodwyd arnynt trwy ddynodiad dan adran 38 neu 39 Deddf Diwygio’r Heddlu 2002;

(b) mae unrhyw gyfeiriad at swyddog heddlu yn cynnwys person dynodedig sy’n gweithredu wrth ymarfer neu gyflawni’r pwerau a’r dyletswyddau a roddwyd iddynt neu a orfodwyd arnynt gan eu dynodiad;

(c) os oes amheuaeth ynghylch a ddylid trin y person fel, neu barhau i drin y person fel, gwryw neu fenyw yn achos:

  • (i) cyflawni neu arsylwi chwiliad neu weithdrefn arall y mae’r Cod hwn yn berthnasol rhaid iddo gael ei wneud gan berson o’r un rhyw â’r sawl sy’n cael ei gadw; neu
  • (ii) unrhyw weithdrefn arall sy’n ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd neu i roi gwybodaeth sy’n dibynnu ar a yw’r person i gael ei drin fel gwryw neu fenyw; yna dylid sefydlu rhyw’r sawl sy’n cael ei gadw a’r partïon eraill sy’n berthnasol a’i gofnodi yn unol ag Atodiad L y Cod hwn.

(d) mae ‘agored i niwed’ yn cyfeirio at unrhyw berson sydd, oherwydd ei gyflwr iechyd meddwl neu anhwylder meddyliol (gweler Nodiadau 1G a 1GB):

  • (i) efallai yn cael anhawster deall neu gyfathrebu’n effeithiol am oblygiadau llawn unrhyw weithdrefnau a phrosesau sy’n gysylltiedig:
    • â’u harestio a’u cadw; neu (yn ôl y digwydd)
    • mae eu presenoldeb gwirfoddol mewn gorsaf heddlu eu presenoldeb yn rhywle arall (gweler paragraff 3.21), at ddibenion cyfweliad gwirfoddol; acarfer eu
    • hawliau a’u haeddiannau.
  • (ii) nid yw’n ymddangos fod y person yn deall arwyddocâd yr hyn a ddywedir wrthynt, y cwestiynau a ofynnir iddynt neu eu hatebion:
  • (iii) mae’n ymddangos bod y person yn arbennig o dueddol o:
    • fynd yn ddryslyd ac yn aneglur ynghylch eu sefyllfa;
    • darparu gwybodaeth a allai fod yn annibynadwy, yn gamarweiniol neu’n arwain at rywun i’w hamau nhw, heb wybod na bwriadu gwneud hynny;
    • derbyn neu weithredu ar awgrymiadau gan eraill heb fod yn ymwybodol o hynny neu heb dymuno gwneud hynny; neu
    • cytuno’n barod i awgrymiadau neu gynigion heb unrhyw brotest na chwestiwn.

(e) mae ‘Dolen Fyw’ yn golygu:

  • (i) at ddiben paragraff 12.9A; trefniant sy’n galluogi i’r swyddog cyfweld nad yw’n bresennol yng ngorsaf yr heddlu lle mae’r sawl sy’n cael ei gadw, weld a chlywed, a chael ei weld a’i glywed gan y sawl sy’n cael ei gadw, cyfreithiwr y sawl sy’n cael ei gadw, yr oedolyn priodol, y cyfieithydd ar y pryd (fel sy’n berthnasol) a’r swyddog sy’n gyfrifol am yr unigolyn yn y ddalfa (gweler Note 1N).
  • (ii) at ddiben paragraff 15.9A; trefniant sy’n galluogi i’r swyddog adolygu nad yw’n bresennol yng ngorsaf yr heddlu lle mae’r sawl sy’n cael ei gadw, weld a chlywed, a chael ei weld a’i glywed gan y sawl sy’n cael ei gadw, cyfreithiwr y sawl sy’n cael ei gadw, yr oedolyn priodol, y cyfieithydd ar y pryd (fel sy’n berthnasol) a’r swyddog sy’n gyfrifol am yr unigolyn yn y ddalfa (gweler Note 1N). Mae’r defnydd o ddolen fyw ar gyfer penderfyniadau ynghylch cadw yn y ddalfa dan adran 45A PACE yn ddarostyngedig i gyflwyno rheoliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
  • (iii) at ddiben paragraff 15.11A; trefniant sy’n galluogi i’r swyddog awdurdodi nad yw’n bresennol yng ngorsaf yr heddlu lle mae’r sawl sy’n cael ei gadw, weld a chlywed, a chael ei weld a’i glywed gan y sawl sy’n cael ei gadw, cyfreithiwr y sawl sy’n cael ei gadw, yr oedolyn priodol, y cyfieithydd ar y pryd (fel sy’n berthnasol) a’r swyddog sy’n gyfrifol am yr unigolyn yn y ddalfa (gweler Note 1N).
  • (iv) at ddiben paragraff 15.11C; trefniant sy’n galluogi i’r sawl sy’n cael ei gadw pan nad yw’n bresennol yn y llys lle mae’r gwrandawiad yn cael ei gynnal, weld a chlywed, a chael ei weld a’i glywed gan y llys yn ystod y gwrandawiad (gweler Nodyn 1N).

Nodyn: rhaid i Uwch Swyddogion fod yn fodlon bod y ddolen fyw a ddefnyddir yn eu hardal heddlu at y dibenion uchod yn darparu ar gyfer cyfathrebu cywir a diogel rhwng y sawl sy’n cael ei gadw, cyfreithiwr y sawl sy’n cael eu cadw, yr oedolyn priodol a’r cyfieithydd ar y pryd (fel sy’n berthnasol). Mae hyn yn cynnwys sicrhau, ar unrhyw adeg y mae’r ddolen fyw yn cael ei defnyddio: na all person weld, clywed na chael mynediad at unrhyw gyfathrebiadau o’r fath oni bai ei fod wedi’i awdurdodi neu ei ganiatáu gan swyddog y ddalfa neu, yn achos cyfweliad, y cyfwelydd a bod cyfrinachedd unrhyw ymgynghoriad preifat rhwng y sawl sydd dan amheuaeth a’i gyfreithiwr ac oedolyn priodol yn cael ei gynnal fel sy’n berthnasol.

1.14 Caniateir i bersonau dynodedig ddefnyddio grym rhesymol fel a ganlyn:

(a) wrth arfer pŵer a roddwyd iddynt sy’n caniatáu i swyddog o’r heddlu, wrth arfer y pŵer hwnnw, i ddefnyddio grym rhesymol, mae gan berson dynodedig yr un hawl i ddefnyddio; ac

(b) ar adegau eraill wrth gyflawni dyletswyddau a roddwyd neu a osodwyd arnynt sydd hefyd yn caniatáu iddynt ddefnyddio grym rhesymol, er enghraifft:

  • pan fônt mewn gorsaf heddlu yn cyflawni dyletswydd i gadw’r rhai sydd yn y ddalfa y maent yn gyfrifol amdanynt dan reolaeth ac i gynorthwyo unrhyw swyddog heddlu neu berson dynodedig arall i gadw unrhyw un a gedwir yn y ddalfa dan reolaeth ac i’w atal rhag dianc;
  • wrth sicrhau, neu gynorthwyo unrhyw swyddog heddlu neu berson dynodedig arall i sicrhau, cadw person mewn gorsaf heddlu;
  • wrth hebrwng, neu gynorthwyo unrhyw swyddog heddlu neu berson dynodedig arall i hebrwng, y sawl sy’n cael ei gadw o fewn gorsaf heddlu;
  • i’r diben o achub bywyd neu aelod o’r corff; neu
  • i atal difrod difrifol i eiddo.

1.15 Nid oes dim yn y Cod yma yn atal swyddog y ddalfa, neu swyddog heddlu neu berson penodedig (gweler paragraff 1.13(a)) arall y rhoddwyd gwarchodaeth o’r sawl sy’n cael ei gadw iddo, rhag caniatáu i berson arall (gweler (a) a (b) isod) rhag cynnal gweithdrefnau neu dasgau unigol yn yr orsaf heddlu, os yw’r gyfraith yn caniatáu hynny. Fodd bynnag, mae’r swyddog neu berson penodedig sydd wedi derbyn cystodaeth yn dal yn gyfrifol am sicrhau bod y trefniadau a’r tasgau’n cael eu cyflawni’n gywir, yn unol â’r Codau Ymarfer (gweler paragraff 3.5 a Nodyn 3F). Rhaid i’r person arall sy’n cael cyflawni’r gweithdrefnau neu dasgau fod yn rhywun sydd ar y pryd:

(a) dan gyfarwyddyd neu reolaeth prif swyddog heddlu neu’r heddlu sy’n gyfrifol am orsaf heddlu dan sylw; neu

(b) yn darparu gwasanaethau dan drefniadau cytundebol (ond heb gael ei gyflogi gan brif swyddog heddlu), i gynorthwyo heddlu parthed cyflawni ei swyddogaethau prif swyddog.

1.16 Rhaid i unigolion penodedig ac eraill a grybwyllir yn is-baragraffau (a) a (b) paragraff 1.15 dalu sylw dyledus i unrhyw ddarpariaethau perthnasol yn y Codau Ymarfer.

1.17 Mewn unrhyw ddarpariaeth yn hyn neu unrhyw God arall sy’n caniatáu neu’n gofyn i swyddogion heddlu neu staff heddlu wneud cofnod yn ei lyfr cofnod, bydd y cyfeiriad at lyfr cofnod yn cynnwys unrhyw lyfr adrodd swyddogol neu ddyfais cofnodi electronig a ddosbarthwyd iddynt sy’n galluogi gwneud y cofnod dan sylw yn unol â’r ddarpariaeth honno. Mae cofnod yn hyn ac unrhyw God arall i gofnodion ysgrifenedig, ffurflenni a llofnodion yn cynnwys cofnodion a ffurflenni electronig a chadarnhad electronig sy’n nodi’r sawl sy’n gwneud y cofnod neu’n llenwi’r ffurflen. Rhaid i brif swyddogion fod yn fodlon ynghylch cywirdeb a diogelwch y dyfeisiau, cofnodion a ffurflenni y mae’r paragraff hwn yn berthnasol iddynt, a bod defnydd o’r dyfeisiau, cofnodion a ffurflenni hynny yn bodloni deddfwriaeth diogelu data perthnasol.

Nodiadau Arweiniad

1A Er bod rhai rhannau o’r Cod yma yn ymwneud yn benodol â phobl yn y ddalfa mewn gorsafoedd heddlu, ni ddylid trin person sy’n mynd i orsaf heddlu neu leoliad arall yn wirfoddol er mwyn cynorthwyo gydag ymchwiliad, gyda llai o ystyriaeth mewn unrhyw fodd, e.e. dylid cynnig lluniaeth iddynt neu ganiatáu iddynt gael lluniaeth ar adegau priodol, a dylent gael yr hawl ddiamod i gael cyngor cyfreithiol neu gyfathrebu ag unrhyw un arall tu allan i’r orsaf heddlu. neu leoliad arall (gweler paragraffau 3.21 a 3.22.

1AA Ym mharagraff 1.0, dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, adran 149, y ‘nodweddion gwarchodedig perthnasol’ yw oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd/ cred a rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Am ragor o arweiniad a chyngor manwl ar y Ddeddf Cydraddoldeb.

1B Ni ddylai person, gan gynnwys rhiant neu warcheidwad, gael ei ystyried yn oedolyn os:

  • yw:
    • dan amheuaeth o fod yn gysylltiedig â’r drosedd;
    • y dioddefwr;
    • yn dyst;
    • yn ymwneud â’r ymchwiliad.
  • wedi derbyn cyfaddefiadau cyn mynychu er mwyn gweithredu fel oedolyn priodol. Sylwer: Os yw rhiant person ifanc wedi dieithrio o’r person ifanc, ni ddylid gofyn iddo weithredu fel yr oedolyn priodol os yw’r person ifanc yn gwrthwynebu’n benodol iddo fod yn bresennol.

1C Os yw person ifanc yn cyfaddef i weithiwr cymdeithasol neu aelod o dîm troseddu ieuenctid ei fod wedi cyflawni trosedd, neu’n gwneud hynny yn ei bresenoldeb, ar wahân i’r amser mae’r person hwnnw yn oedolyn priodol ar gyfer y person ifanc, dylid penodi oedolyn priodol er mwyn sicrhau tegwch.

1D Yn achos rhywun sy’n agored i niwed efallai y bydd hi’n fwy boddhaol i’r oedolyn fod yn rhywun sydd â phrofiad o ofalu amdanynt neu a hyfforddwyd i wneud hynny, yn hytrach na pherthynas nad yw â chymwysterau o’r fath. Ond os yw’n well gan person gael perthynas yno na rhywun dieithr sydd â gwell cymwysterau, neu os yw’n gwrthwynebu person penodol, dylid parchu ei ddymuniadau os yw hynny’n ymarferol.

1E Pan ofynnir i oedolyn priodol fynychu gorsaf yr heddlu, dylid rhoi’r cyfle bob amser i’r sawl sy’n cael ei gadw ymgynghori â chyfreithiwr yn breifat yn absenoldeb yr oedolyn priodol os yw’n dymuno gwneud hynny. Nid yw oedolyn priodol yn destun braint gyfreithiol.

1F Rhaid i oedolyn priodol nad yw’n rhiant neu’n warcheidwad yn achos person ifanc, neu berthynas, gwarcheidwad neu ofalwr yn achos person sy’n agored i niwed, fod yn annibynnol o’r heddlu gan eu rôl nhw yw diogelu hawliau’r person sy’n cael ei gadw. Yn ychwanegol, ni chaiff cyfreithiwr neu ymwelydd annibynnol â’r ddalfa sy’n bresennol yng ngorsaf yr heddlu yn rhinwedd ei swydd, weithredu fel yr oedolyn priodol.

1G Galloedolyn fod yn agored i niwed o ganlyniad i gyflwr iechyd meddwl neu anhwylder meddyliol. Yn yr un modd, os nad oes gan unigolyn unrhyw gyflwr neu anhwylder o’r fath, neu na wyddys fod ganddo ef, nid yw’n golygu nad yw’n agored i niwed at ddibenion y Cod hwn. Felly mae’n bwysig bod swyddog y ddalfa yn achos person sy’n cael ei gadw neu’r swyddog sy’n ymchwilio i’r drosedd yn achos person nad yw wedi’i arestio neu ei gadw, fel sy’n briodol, yn ystyried, ar sail achos wrth achos a oes unrhyw un o’r ffactorau a ddisgrifir ym mharagraff 1.13(d) a allai fod yn berthnasol i’r person dan sylw. Wrth wneud hynny, rhaid i’r swyddog ystyried amgylchiadau penodol yr unigolyn a sut y gallai natur yr ymchwiliad effeithio arnynt a chofio y bydd angen oedolyn priodol bob amser ar bobl ifanc, oherwydd eu hoedran.

1GA At ddibenion paragraff 1.4 (a), mae enghreifftiau o wybodaeth berthnasol a allai fod ar gael yn cynnwys:

  • ymddygiad yr oedolyn neu’r person ifanc;
  • iechyd meddwl a gallu’r oedolyn neu’r person ifanc;
  • yr hyn y mae’r oedolyn neu’r person ifanc yn ei ddweud amdanynt eu hunain;
  • gwybodaeth gan deulu a ffrindiau’r oedolyn neu’r person ifanc;
  • gwybodaeth gan swyddogion a staff yr heddlu a gwybodaeth o gofnodion yr heddlu;
  • gwybodaeth gan iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys gwasanaethau cyswllt a dargyfeirio) a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n adnabod, neu wedi cael cyswllt blaenorol â’r unigolyn ac a allai gyfrannu at asesu ei angen am gymorth a chefnogaeth gan oedolyn priodol. Mae hyn yn cynnwys cysylltiadau ac asesiadau a drefnir gan yr heddlu neu ar gais yr unigolyn neu (fel sy’n berthnasol) eu hoedolyn priodol neu gyfreithiwr.

1GB Mae Cod Ymarfer Deddf Iechyd Meddwl 1983 ar dudalen 26 yn disgrifio’r ystod o gyflyrau a gydnabyddir yn glinigol a all gael eu hystyried yn anhwylder meddwl at ddibenion paragraff 1.13 (d). Mae’r Cod wedi’i gyhoeddi yma.

1GC Pan fydd person o dan ddylanwad diod a/neu gyffuriau, ni fwriedir iddo gael ei drin fel rhywun sy’n agored i niwed ac sydd angen oedolyn priodol at ddiben paragraff 1.4 oni bai bod gwybodaeth arall yn awgrymu bod unrhyw un o’r ffactorau a ddisgrifir ym mharagraff 1.13(d) yn berthnasol i’r person hwnnw. Pan fydd y person wedi gwella o effeithiau diod a/neu gyffuriau, dylid ei ailasesu yn unol â pharagraff 1.4. Gweler paragraff 15.4A mewn perthynas â dolen fyw.

1H Diben paragraff 1.1A yw delio â’r oedi a allai ddigwydd wrth brosesu’r sawl sy’n cael ei gadw, e.e.:

  • os dygir nifer fawr o bobl dan amheuaeth i’r orsaf ar yr un pryd er mwyn eu cadw yn y ddalfa;
  • os yw’r holl ystafelloedd cyfweld yn cael eu defnyddio;
  • os ceir trafferthion wrth gysylltu ag oedolyn priodol, cyfreithiwr neu gyfieithydd.

1I Rhaid i swyddog y ddalfa atgoffa’r oedolyn priodol a’r sawl sy’n cael ei gadw o’r hawl i gael cyngor cyfreithiol, a chofnodi unrhyw resymau dros ei wrthod, yn unol ag adran 6.

1J Heb ei ddefnyddio.

1K Nid yw’r Cod yma yn effeithio ar yr egwyddor bod gan bob dinesydd ddyletswydd i helpu swyddogion yr heddlu i atal troseddu a chanfod troseddwyr. Dyletswydd ddinesig yn hytrach na chyfreithiol yw hyn; ond lle mae swyddogion yr heddlu yn ceisio darganfod a gyflawnwyd trosedd, neu pwy a’i cyflawnodd, mae ganddynt hawl i holi unrhyw berson y maent o’r farn y gallai roi gwybodaeth ddefnyddiol, yn amodol ar y cyfyngiadau a osodwyd gan y Cod yma. Nid yw datganiad gan berson nad yw’n barod i ateb yn newid yr hawl yma.

1L Mae paragraff 1.5 yn adlewyrchu’r diffiniad statudol o ‘berson ifanc a arestiwyd’ yn adran 37(15) PACE. Cafodd yr adran hon ei haddasu gan adran 42 y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 a ddaeth i rym ar 26 Hydref 2015, ac mae’n cynnwys unrhyw un sy’n ymddangos i fod dan 18 oed. Mae’r diffiniad hwn yn berthnasol i ddibenion darpariaethau cadw a mechnïaeth yn adrannau 34 i 51 PACE. Yn weithredol o 3 Ebrill 2017, mae diwygiadau a wnaed gan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau o dan 18 oed gael eu trin fel pobl ifanc at ddibenion holl ddarpariaethau eraill PACE a’r Codau.

1M Heb ei ddefnyddio.

1N At bwrpas darpariaethau PACE sy’n caniatáu defnyddio dolen fyw, dylid diystyru unrhyw nam ar olwg neu glyw’r sawl sy’n cael ei gadw. Mae hyn yn golygu, os oes nam ar olwg neu glyw’r sawl sy’n cael ei gadw, byddai’r trefniadau y byddai eu hangen i sicrhau cyfathrebu effeithiol pe bai pawb yn bresennol yn gorfforol yn yr un lleoliad, er enghraifft, defnyddio iaith arwyddion, yn berthnasol i’r trefniadau dolen fyw.

2 Cofnodion cadw

2.1A Pan fydd person:

  • yn cael ei gymryd i orsaf heddlu ar ôl ei arestio;
  • yn cael ei arestio yng ngorsaf yr heddlu ar ôl mynd yno’n wirfoddol; neu
  • yn mynychu gorsaf heddlu i ateb mechnïaeth.

dylai ymddangos gerbron swyddog y ddalfa cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl ar ôl iddynt gyrraedd yr orsaf neu, os yw hynny’n bosibl, yn dilyn ei arestio ar ôl mynd i’r orsaf heddlu’n wirfoddol. Mae hyn yn berthnasol i orsafoedd heddlu dynodedig a gorsafoedd heddlu heb eu dynodi. Mae unigolyn yn cael ei ystyried i fod “mewn gorsaf heddlu” i’r dibenion hyn os yw o fewn ffiniau unrhyw adeilad neu iard gaeedig sy’n ffurfio rhan o’r orsaf heddlu honno.

2.1 Rhaid cychwyn cofnod cadw ar wahân cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol, ar gyfer pob person sy’n ei ddwyn i orsaf heddlu ar ôl ei arestio, neu sy’n cael ei arestio yn yr orsaf ar ôl mynd yno’n wirfoddol neu’n mynychu gorsaf heddlu wrth ateb mechnïaeth stryd. Rhaid cofnodi’r holl wybodaeth a gofnodir dan y Cod yma cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol yn y cofnod cadw, oni bai y nodir fel arall. Nid yw unrhyw recordiad sain neu fideo a wneir yn y ddalfa yn rhan o’r cofnod cadw.

2.2 Os oes unrhyw weithred yn gofyn am weithred swyddog o statws arbennig, yn unol â pharagraff 2.6A, rhaid nodi ei enw a statws yn y cofnod cadw.

2.3 Mae swyddog y ddalfa’n gyfrifol am ba mor gyflawn a chywir yw’r cofnod cadw, ac am sicrhau bod y cofnod neu gopi o’r cofnod yn cael ei drosglwyddo gyda’r sawl sy’n cael ei gadw os caiff ei drosglwyddo i orsaf heddlu arall. Bydd y cofnod yn nodi:

  • amser y trosglwyddo a’r rheswm dros drosglwyddo;
  • yr amser y bydd person yn cael ei ryddhau.

2.3A Os bydd person yn cael ei arestio a’i ddwyn i swyddfa heddlu o ganlyniad i chwiliad wrth arfer pŵer stopio a chwilio y mae Cod A PACE (Stopio a chwilio) neu’r ‘cod pwerau chwilio’ a gyhoeddir dan TACT yn berthnasol, mae’r swyddog sy’n cyflawni’r chwiliad yn gyfrifol am sicrhau y gwneir cofnod o’r stopio a chwilio hwnnw yn rhan o gofnod dalfa y person. Yna mae’n rhaid i’r swyddog y ddalfa sicrhau y gofynnir i’r person os yw eisiau copi o’r cofnod chwilio ac os yw, ei fod yn cael copi cyn gynted ag sy’n ymarferol. Mae hawl y person i gopi o’r cofnod chwilio a wneir yn rhan o’i gofnod dalfa yn ychwanegol i, ac nid yw’n effeithio ar, ei hawl i gopi o’i gofnod dalfa neu unrhyw ddarpariaethau eraill o adran 2 (Cofnodion dalfa) y Cod hwn. (Gweler Cod A paragraff 4.2B a’r cod pwerau chwilio TACT paragraff 5.3.5).

2.4 Rhaid caniatáu i gyfreithiwr neu oedolyn priodol edrych ar gofnod cadw cyfan y sawl sy’n ei gadw cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol ar ôl iddo gyrraedd yr orsaf ac ar unrhyw adeg arall pan fo’r person yn cael ei gadw. Mae hyn yn cynnwys y cofnodion penodol canlynol yn ymwneud â’r rhesymau dros arestio a chadw’r sawl sy’n cael ei gadw a’r drosedd dan sylw y mae paragraff 3.1(b) yn cyfeirio ati:

  • (a) Mae’r wybodaeth ynghylch yr amgylchiadau a’r rhesymau dros arestio’r sawl sy’n cael ei gadw wedi eu cofnodi yn y cofnod dalfa yn unol â pharagraff 4.3 Cod G. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw droseddau pellach y cafodd y sawl sy’n cael ei gadw ei arestio amdanynt tra yn y ddalfa;
  • (b) Y cofnod o’r sail ar gyfer pob awdurdodiad i gadw’r unigolyn yn y ddalfa. Mae’r awdurdodiadau y mae hyn yn berthnasol iddynt yr un rhai â’r rhai a ddisgrifir yn eitemau (i)(a) i (d) yn y tabl ym mharagraff 2 Atodiad M y Cod hwn.

Mae mynediad i’r cofnodion yn is-baragraffau (a) a (b) yn atodol i’r gofynion ym mharagraffau 3.4(b), 11.1A, 15.0, 15,7A(c) ac 16.7A i ddarparu dogfennau a deunyddiau penodol ac i ddarparu gwybodaeth ynghylch y drosedd a’r rhesymau dros arestio a chadw.

Rhaid cytuno ar fynediad at y cofnod dalfa i ddibenion y paragraff hwn a’i drefnu gyda swyddog y ddalfa ac ni ddylai ymyrryd yn afresymol ar ddyletswyddau swyddog y ddalfa. Gwneir cofnod pan ganiateir mynediad o’r fath ac os yw’n cynnwys y cofnodion a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) a (b) uchod.

2.4A Pan fo’r sawl sy’n cael ei gadw yn gadael dalfa’r heddlu neu pan fydd yn cael ei ddwyn i’r llys, fe all ef/hi, ei gynrychiolydd cyfreithiol neu’r oedolyn priodol ofyn am gopi o’r cofnod cadw cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol. Mae’r hawl hwn yn ddilys am 12 mis ar ôl ei ryddhau.

2.5 Fe all y sawl sy’n cael ei gadw, yr oedolyn priodol neu’r cynrychiolydd cyfreithiol archwilio’r cofnod cadw gwreiddiol ar ôl i’r sawl sy’n cael ei gadw gael ei ryddhau, ar yr amod ei fod yn rhoi rhybudd o’i gais. Bydd unrhyw chwiliad o’r fath yn cael ei nodi yn y cofnod cadw.

2.6 Yn amodol i baragraff

2.6A, rhaid nodi amser ar gyfer pob cofnod mewn cofnodion cadw a’u llofnodi gan y sawl sy’n eu gwneud. Nodir amser unrhyw gofnodion cyfrifiadurol, a manylion y sawl sy’n cofnodi. 2.6A Nid oes dim yn y Cod yma yn gofyn am gofnodi neu ddatgelu pwy yw’r swyddogion heddlu neu staff eraill:

  • (a) Heb ei ddefnyddio.
  • (b) os oes gan y swyddog neu’r staff le rhesymol i gredu y gallai cofnodi neu ddatgelu ei enw ei roi mewn perygl.

Mewn achosion o’r fath, dylent ddefnyddio’u gwarant neu rifau adnabod eraill ac enw’r orsaf heddlu. Gweler Nodyn 2A.

2.7 Rhaid cofnodi’r ffaith ac amser unrhyw achos pan fo’r sawl sy’n cael ei gadw yn gwrthod llofnodi cofnod cadw pan ofynnir iddo wneud hynny yn unol â’r Cod yma.

Nodyn Arweiniad

2A Diben paragraff 2.6A(b) yw amddiffyn rhai sydd wedi ymwneud ag ymchwiliadau i droseddau cyfundrefnol difrifol neu arestio pobl sydd dan amheuaeth sy’n dreisgar iawn lle mae yno wybodaeth ddibynadwy y gallai’r sawl a arestiwyd, neu ei gymdeithion, fygwth neu achosi niwed i’r rhai dan sylw. Lle ceir amheuaeth, dylid ymgynghori gyda swyddog o safle arolygydd neu uwch.

3 Gweithredu cychwynnol

(A) Pobl sy’n cael eu cadw - y drefn arferol

3.1 Pan fydd person yn cael ei gymryd i orsaf yr heddlu ar ôl cael ei arestio, neu pan fydd yn cael ei arestio yn yr orsaf ar ôl mynd yno’n wirfoddol, rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau bod y person hwnnw yn cael ei hysbysu’n eglur ynghylch:

(a) yr hawliau parhaus canlynol, y gellir eu hymarfer ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod yn y ddalfa:

  • (i) yr hawl i ymgynghori â chyfreithiwr yn breifat a bod cyngor cyfreithiol annibynnol ar gael fel yn adran 6;
  • (ii) ei hawl i hysbysu rhywun ei fod wedi cael ei arestio fel nodir yn adran 5;
  • (iii) yr hawl i weld y Codau Ymarfer hyn (gweler Nodyn 3D); ac
  • (iv) os yn berthnasol, ei hawl i ddehongli a chyfieithu (gweler paragraff 3.12) a’i hawl i gyfathrebu gyda’i Uchel Gomisiwn, Llysgenhadaeth neu Gonswliaeth (gweler paragraff 3.12A).

(b) ei hawl i gael ei hysbysu ynghylch y drosedd ac (fel y gallai fod yn wir) unrhyw droseddau pellach y mae’n cael eu harestio amdanynt tra yn y ddalfa a pham ei fod wedi ei arestio a chadw yn unol â pharagraffau 2.4, 3.4(a) a 11.1A y Cod hwn a pharagraff 3.3 Cod G.

3.2 Yn ogystal, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r sawl sy’n cael ei gadw, yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(a) i’w ganiatáu i arfer ei hawliau trwy sefydlu:

  • (i) ei hawliau dan baragraff 3.1, paragraff 3.12 a 3.12A;
  • (ii) y trefniadau er mwyn cael cyngor cyfreithiol, gweler adran 6;
  • (iii) ei hawl i gael copi o’r cofnod cadw fel ym mharagraff 2.4A;
  • (iv) ei hawl i beidio dweud dim fel y sefydlir yn y rhybudd yn yr amodau a ddisgrifir yn adran 10;
  • (v) ei hawl i gael mynediad at ddeunyddiau a dogfennau sy’n allweddol i herio cyfreithlondeb ei arestio a chadw am unrhyw drosedd yn effeithiol ac (fel y gallai fod yn wir) unrhyw droseddau pellach y mae’n cael eu harestio ar eu cyfer tra yn y ddalfa, yn unol â pharagraffau 3.4(b), 15.0, 15.7A(c) a 16.7A y Cod hwn;
  • (vi) uchafswm y cyfnod ble gellir ei gadw yn nalfa’r heddlu heb ei gyhuddo, ac wedi hynny y bydd angen adolygu ei gadw a rhyddhau;
  • (vii) ei hawl i gymorth meddygol yn unol ag adran 9 y Cod hwn;
  • (viii) ei hawl, os yw’n cael ei erlyn, i gael mynediad at y dystiolaeth yn yr achos cyn ei dreial yn unol â’r Ddeddf Gweithdrefn Droseddol ac Ymchwiliadau 1996, Canllawiau’r Atwrnai Cyffredinol ar Ddatgeliad, cyfraith gwlad a’r Rheolau Gweithdrefnau Troseddol; ac

(b) yn sefydlu’n gryno ei hawliau eraill tra yn y ddalfa trwy:

  • (i) grybwyll:
    • darpariaethau yn ymwneud â chyflawni cyfweliadau;
    • yr amgylchiadau pan ddylai oedolyn priodol fod ar gael i gynorthwyo’r sawl sy’n cael ei gadw a’i hawliau statudol i gyflwyno sylwadau pryd bynnag fydd yr angen am ei gadw yn cael ei adolygu;
  • (ii) restru’r hawliau yn y Cod hwn, parthed;
    • safonau cysur corfforol rhesymol;
    • bwyd a diod digonol;
    • mynediad at doiledau a chyfleusterau ymolchi, dillad, sylw meddygol, ac ymarfer pan fo’n ymarferol;
    • anghenion personol sy’n ymwneud ag iechyd, hylendid a lles ynghylch darparu cynhyrchion mislif ac unrhyw gynnyrch iechyd, hylendid a lles eraill sydd eu hangen gan y sawl sy’n cael ei gadw a siarad am y rhain yn breifat i aelod o staff y ddalfa (gweler paragraffau 9.3A a 9.3B).

Gweler Nodyn 3A.

3.2A Rhaid rhoi cyfle i’r sawl sy’n cael ei gadw ddarllen yr hysbysiad ac fe ofynnir iddo neu iddi lofnodi’r cofnod cadw i gydnabod derbyn yr hysbysiad. Rhaid cofnodi gwrthodiad i lofnod ar y cofnod cadw.

3.3 Heb ei ddefnyddio.

3.3A Dylid hefyd darparu fersiwn darluniadol ‘hawdd ei darllen’ os ar gael (gweler Nodyn 3A).

3.4

(a) Bydd swyddog y ddalfa yn gwneud y canlynol:

  • cofnodi’r trosedd(au) y cafodd y sawl sy’n cael ei gadw eu harestio amdanynt a’r rheswm neu resymau dros arestio yng nghofnod y ddalfa. Gweler paragraff 10.3 a Cod G paragraffau 2.2 a 4.3;
  • nodi ar y cofnod cadw unrhyw sylwadau a wneir gan y sawl sy’n cael ei gadw mewn perthynas â disgrifiad y swyddog arestio, ond ni fydd yn gofyn am sylwadau. Os nad yw’r swyddog arestio yn gorfforol bresennol pan ddygir y sawl sy’n cael ei gadw i orsaf yr heddlu, yna mae’n rhaid i adroddiad y swyddog arestio fod ar gael i swyddog y ddalfa naill ai trwy drosglwyddiad o bellter neu trwy drydydd parti ar ran y swyddog arestio. Os bydd swyddog y ddalfa yn awdurdodi cadw rhywun, yn amodol i baragraff 1.8, rhaid i’r swyddog hwnnw gofnodi’r sail dros gadw ym mhresenoldeb y sawl sy’n cael ei gadw ac ar yr un pryd, ei hysbysu o’r sail. Rhaid hysbysu’r sawl i’w cadw o’r sail dros gadw cyn ei holi am unrhyw drosedd;
  • nodi unrhyw sylwadau a wneir gan y sawl sy’n cael ei gadw ynghylch y penderfyniad i’w gadw, ond nid fydd yn gofyn am sylwadau;
  • ni fydd yn gofyn cwestiynau penodol i’r sawl sy’n cael ei gadw ynghylch ei ran mewn unrhyw drosedd, nac am unrhyw sylwadau a wneir ganddo wrth ymateb i ddisgrifiad y swyddog arestio o’r penderfyniad i’w gadw. Mae trafodaeth o’r fath yn debygol o gael ei hystyried yn gyfweliad dan amodau paragraff 11.1A ac felly bydd angen cymryd y camau diogel cysylltiedig yn adran 11.

Sylwer: Mae’r is-baragraff hwn hefyd yn berthnasol i unrhyw droseddau pellach a sail dros gadw a allai ddod i’r amlwg tra bydd yr unigolyn wedi ei gadw.

Gweler paragraff paragraff 11.13 parthed sylwadau na wahoddwyd.

(b) Rhaid i ddogfennau a deunyddiau sy’n allweddol i herio cyfreithlondeb arést a chadw’r sawl sy’n cael ei gadw yn effeithiol fod ar gael i’r sawl sy’n cael ei gadw neu ei gyfreithiwr. Bydd dogfennau a deunyddiau yn “allweddol” i’r diben hwn os gallant danseilio’r rhesymau a’r sail sy’n golygu fod arestio a chadw’r sawl sy’n cael ei gadw yn angenrheidiol. Mae’r penderfyniad ynghylch a oes rhaid darparu dogfennau neu ddeunyddiau penodol i’r diben i’r gofyniad hwn felly yn nwylo swyddog y ddalfa sy’n penderfynu os yw cadw yn angenrheidiol, mewn ymgynghoriad gyda’r swyddog ymchwilio sydd â dealltwriaeth o’r dogfennau a deunyddiau mewn achos penodol i allu hysbysu’r penderfyniad hwnnw. Dylid gwneud nodyn yng nghofnod cadw’r sawl sy’n cael ei gadw o’r ffaith fod dogfennau neu ddeunyddiau wedi eu darparu dan yr is-baragraff hwn a phryd. Dylai’r swyddog ymchwilio wneud nodyn ar wahân o beth a ddarperir a sut mae wedi ei ddarparu mewn achos penodol. Mae’r is-baragraff yma hefyd yn berthnasol (gydag addasiadau) i ddibenion adrannau 15 (Adolygiadau ac estyniadau i gadw) ac 16 (Cyhuddo personau sydd wedi eu cadw). Gweler Nodyn 3ZA a pharagraffau 15.0 ac 16.7A.

3.5 Bydd swyddog y ddalfa neu staff arall y ddalfa dan gyfarwyddyd swyddog y ddalfa yn:

(a) gofyn i’r sawl sy’n cael ei gadw a hoffai, ar yr adeg yma:

  • (i) gael cyngor cyfreithiol, gweler paragraff 6.5;
  • (ii) hysbysu rhywun ei fod yn cael ei gadw, gweler adran 5;

(b) gofyn i’r sawl sy’n cael ei gadw lofnodi’r cofnod cadw er mwyn cadarnhau ei benderfyniadau parthed (a);

(c) benderfynu a yw’r sawl sy’n cael ei gadw:

  • (i) angen, neu a allai fod angen, triniaeth neu sylw feddygol, gweler adran 9;
  • (ii) yn berson ifanc a/neu yn agored i niwed ac felly angen oedolyn priodol (gweler paragraffau 1.4, 1.5 a 3.15);
  • (iia) yn dymuno siarad yn breifat ag aelod o staff y ddalfa a all fod o’r un rhyw am unrhyw fater sy’n ymwneud â’u hanghenion personol sy’n ymwneud ag iechyd, hylendid a lles (gweler paragraff 9.3A);
  • (iii) angen:help i archwilio dogfennau (gweler paragraff 3.20);
    • cyfieithydd (gweler paragraff 3.12 a Nodyn 13B).

(ca) os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn fenyw 18 oed neu’n hŷn, gofynnwch a oes angen unrhyw gynhyrchion mislif arnynt neu a ydynt yn debygol o fod eu hangen tra’u bod yn y ddalfa (gweler paragraff 9.3B). Yn achos merched o dan 18 oed, gweler paragraff 3.20A;

(d) cofnodwch y penderfyniad a’r camau a gymerwyd fel sy’n berthnasol yn achos (c) a (ca). Ble mae unrhyw ddyletswyddau dan y paragraff hwn wedi eu cyflawni gan staff y ddalfa dan gyfarwyddyd swyddog y ddalfa, unwaith y bydd yn ymarferol, bydd y canlyniadau yn cael eu hadrodd i swyddog y ddalfa sy’n gyfrifol yn gyffredinol am ofal a thriniaeth y sawl sy’n cael ei gadw a sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Cod hwn. Gweler Nodyn 3F.

3.6 Wrth bennu’r anghenion a nodir ym mharagraff 3.5(c), mae swyddog y ddalfa yn gyfrifol am gychwyn asesiad er mwyn ystyried a yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn debygol o beri risgiau penodol i staff y ddalfa, unrhyw unigolyn a allai ddod i gysylltiad â’r sawl sy’n cael ei gadw (e.e. cynghorwyr cyfreithiol, staff meddygol) neu iddo’i un. Dylai’r asesiad risg yma gynnwys cymryd camau rhesymol i sefydlu hunaniaeth y sawl sy’n cael ei gadw ac i gael gwybodaeth ynghylch y sawl sy’n cael ei gadw sy’n berthnasol i’w gadw’n ddiogel, ei ddiogelwch a lles a risgiau i eraill. Dylai asesiadau o’r fath felly gynnwys chwiliad ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu bob amser, y dylid ei wneud cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol, er mwyn nodi unrhyw risgiau a amlygir mewn perthynas â’r sawl sy’n cael ei gadw. Er mai cyfrifoldeb swyddog y ddalfa yw asesiadau o’r fath yn bennaf, efallai y bydd angen ymgynghori a chynnwys eraill, e.e. y swyddog arestio neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol, gweler paragraff 9.13. Dylid hefyd gwirio cofnodion eraill a gedwir gan neu ar ran yr heddlu ac awdurdodau gorfodi’r gyfraith eraill y Deyrnas Unedig a allai ddarparu gwybodaeth berthnasol i ddal y sawl sy’n cael ei gadw’n ddiogel, ei ddiogelwch a’i les a risg eraill a chadarnhau ei hunaniaeth. Rhaid cofnodi’r rhesymau dros ohirio cychwyn neu gwblhau’r asesiad.

3.7 Dylai Prif Swyddogion sicrhau yr ymgorfforir trefniadau er mwyn sicrhau’r asesiadau risg effeithiol a chywir sy’n ofynnol o dan baragraff 3.6 ar gyfer pob un sy’n cael ei gadw mewn gorsaf heddlu yn eu hardal.

3.8 Rhaid i asesiadau risg ddilyn proses strwythuredig sy’n diffinio’n eglur y categorïau risg i’w hystyried, a rhaid cynnwys y canlyniadau yng nghofnod cadw’r sawl sy’n cael ei gadw. Mae swyddog y ddalfa yn gyfrifol am sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am gyfnod y person yn y ddalfa yn cael eu briffio’n briodol am y risgiau. Os na nodir unrhyw risgiau penodol yn yr asesiad, dylid nodi hynny yn y cofnod cadw. Gweler Nodyn 3E a pharagraff 9.14.

3.8A Nid oes angen dangos na darparu cynnwys unrhyw asesiad risg nac unrhyw ddadansoddiad o’r lefel o risg yn ymwneud â chadw’r person i’r sawl sy’n cael ei gadw nac unrhyw un yn gweithio ar ran y sawl sy’n cael ei gadw. Ond ni ddylid dal gwybodaeth yn ôl gan unrhyw un yn gweithredu ar ran y sawl sy’n cael ei gadw, er enghraifft, oedolyn priodol, cyfreithiwr neu gyfieithydd, os gallai gwneud hynny achosi risg i’r person hwnnw.

3.9 Mae swyddog y ddalfa yn gyfrifol am ymgorffori’r ymateb i unrhyw asesiad risg penodol, e.e.:

  • lleihau’r cyfleoedd i’r person niweidio’i hun;
  • galw gweithiwr gofal iechyd proffesiynol;
  • cynyddu lefelau monitro neu arsylwi;
  • lleihau’r risg i’r rhai sy’n dod i gysylltiad â’r sawl sy’n cael ei gadw. Gweler Nodyn 3E.

3.10 Mae asesu risg yn broses barhaus a rhaid adolygu asesiadau bob amser os bydd yr amgylchiadau’n newid.

3.11 Os gosodwyd camerâu fideo yn ardal y ddalfa, dylid gosod hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n nodi y defnyddir camerâu. Gwrthodir unrhyw gais i ddiffodd camerâu fideo.

(B) Pobl sy’n cael eu cadw - grwpiau arbennig

3.12 Os yw’n ymddangos bod y sawl sy’n cael ei gadw yn rhywun nad yw’n siarad neu ddeall Saesneg neu sydd â nam ar ei glyw neu leferydd, rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau:

(a) heb unrhyw oedi, y gwneir trefniadau (gweler paragraff 13.1ZA) i’r sawl sy’n cael ei gadw gael cymorth cyfieithydd yn y camau gweithredu dan baragraffau 3.1 i 3.5. Os ymddengys bod gan y sawl sy’n cael ei gadw nam ar ei glyw neu leferydd, mae’r cyfeiriad at ‘gyfieithydd’ yn cynnwys cymorth priodol sy’n angenrheidiol i gydymffurfio gyda pharagraffau 3.1 i 3.5. Gweler paragraff 13.1C os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yng Nghymru. Gweler adran 13 a Nodyn 13B;

(b) yn ogystal i’r hawliau parhaus a sefydlir ym mharagraff 3.1(a)(i) i (iv), mae’r sawl sy’n cael ei gadw yn cael gwybod yn glir am ei hawl i gyfieithiad;

(c) fod y rhybudd ysgrifenedig a roddir i’r sawl sy’n cael ei gadw yn unol â pharagraff 3.2 mewn iaith mae’r sawl sy’n cael ei gadw yn ei deall ac yn cynnwys yr hawl i gyfieithiad ynghyd â gwybodaeth am y darpariaethau yn adran 13 ac Atodiad M, sy’n esbonio sut mae’r hawl yn berthnasol (gweler Nodyn 3A); ac

(d) os nad yw’r cyfieithiad o’r hysbysiad ar gael, y rhoddir yr wybodaeth yn yr hysbysiad ar lafar trwy gyfieithydd ac y darperir cyfieithiad ysgrifenedig heb unrhyw oedi gormodol.

3.12A Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn ddinesydd o wlad Cymanwlad annibynnol neu’n wladolyn gwlad dramor, yn cynnwys Gweriniaeth Iwerddon, rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau yn ogystal â’r hawliau parhaus a sefydlir ym mharagraff 3.1(a)(i) i (iv), ei fod yn cael gwybod cyn gynted ag sy’n ymarferol am ei hawl i gyfathrebu gyda’i Uwch Gomisiwn, Llysgenhadaeth neu Gonswl a sefydlir yn adran 7. Rhaid cynnwys yr hawl yma yn yr hysbysiad ysgrifenedig a roddir i’r sawl sy’n cael ei gadw yn unol â pharagraff 3.2.

3.13 Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn berson ifanc, rhaid i swyddog y ddalfa ddod i wybod pwy sy’n gyfrifol am ei les, os yw hynny’n ymarferol. Gall y person hwnnw:

  • fod:
    • y rhiant neu warcheidwad;
    • os yw’r person ifanc yng ngofal awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol, neu fel arall yn cael gofal dan Ddeddf Plant 1989, fod yn berson a benodwyd gan yr awdurdod neu’r sefydliad hwnnw i fod yn gyfrifol am les y person ifanc;
    • fod yn unrhyw un arall sy’n gyfrifol am les y person ifanc am y tro.
  • rhaid ei hysbysu cyn gynted ag y bo’n ymarferol bod y person ifanc wedi cael ei arestio, y rheswm dros ei arestio a’r rheswm dros ei gadw. Mae’r hawl hon yn ychwanegol i hawl y person ifanc yn adran 5 i beidio â chael ei gadw heb allu cysylltu â neb. Gweler Nodyn 3C.

3.14 Os yw’n hysbys bod person ifanc yn destun gorchymyn llys lle rhoddir unrhyw gyfrifoldeb statudol i berson neu sefydliad dros ei oruchwylio neu ei fonitro fel arall, rhaid cymryd camau rhesymol hefyd i hysbysu’r person neu’r sefydliad hwnnw (y ‘swyddog cyfrifol’). Fel arfer, bydd y swyddog cyfrifol yn aelod o Dîm Troseddu Ieuenctid, ac eithrio mewn gorchymyn cyrffyw sy’n ymwneud â monitro electronig, pan mai’r contractwr sy’n darparu’r gwasanaeth monitro fydd y swyddog cyfrifol fel arfer.

3.15 Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn berson ifanc neu’n berson sy’n agored i niwed, rhaid i swyddog y ddalfa, cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol , sicrhau bod

  • y sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei hysbysu o’r penderfyniad bod angen oedolyn priodol a’r rheswm dros y penderfyniad hwnnw (gweler paragraff 3.5 (c) (ii) a;
  • bod y sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei hysbysu:
    • o ddyletswyddau’r oedolyn priodol fel y disgrifir ym mharagraff 1.7A; ac
    • y gall ymgynghori’n breifat â’r oedolyn priodol ar unrhyw adeg.
  • bod yr oedolyn priodol, a all, yn achos person ifanc, fod yn berson sy’n gyfrifol am ei les, fel ym mharagraff 3.13, yn cael ei hysbysu o:
    • y rheswm dros ei gadw;
    • ei leoliad; a
  • bod presenoldeb yr oedolyn priodol yn yr orsaf heddlu i weld y sawl sy’n cael eu cadw yn cael ei sicrhau.

3.16 Mae’n hollbwysig bod person sy’n cael ei gadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, adran 135 neu 136, yn cael ei asesu cyn gynted gynted â phosibl o fewn y cyfnod cadw a ganiateir a bennir yn y Ddeddf honno. Gellir defnyddio gorsaf heddlu fel man diogel dim ond yn unol â Rheoliadau Deddf Iechyd Meddwl 1983 (Mannau Diogel) 2017. Os w’r asesiad hwnnw yn digwydd yn yr orsaf heddlu, dylid galw am weithiwr iechyd meddwl cymeradwy ac ymarferwr meddygol cofrestredig i ddod i’r orsaf cyn gynted ag y bo modd er mwyn ei gyflawni. Gweler Nodyn 9D. Nid oes gan yr oedolyn priodol unrhyw rôl yn yr asesiad ac nid oes angen ei bresenoldeb. Ar ôl asesu’r sawl sy’n cael ei gadw a gwneud trefniadau addas ar gyfer triniaeth neu ofal, ni ellir ei gadw o dan adran 135 neu 136 mwyach. Rhaid rhyddhau’r sawl sy’n cael ei gadw yn syth os daw ymarferwr meddygol cofrestredig i’r casgliad nad oes anhwylder meddwl arno yn ôl ystyr y Ddeddf, ar ôl ei archwilio.

3.17 Os yw’r oedolyn priodol:

  • eisoes yng ngorsaf yr heddlu, rhaid cydymffurfio â pharagraffau 3.1 i 3.5 ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol;
  • ddim yn yr orsaf ar adeg cydymffurfio â’r darpariaethau hyn, rhaid cydymffurfio â’r darpariaethau unwaith eto ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol pan fydd yn cyrraedd,

a rhoi copi o’r hysbysiad i’r sawl sy’n cael ei gadw yn unol â pharagraff 3.2, i’r oedolyn priodol hefyd.

3.17A Rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau, ar yr adeg y rhoddir copi o’r rhybudd i’r oedolyn priodol, neu cyn gynted ag sy’n ymarferol wedi hynny, bod yr oedolyn priodol yn cael gwybod am ddyletswyddau’r oedolyn priodol fel y disgrifir ym mharagraff 1.7 A.

3.18 Heb ei ddefnyddio.

3.19 Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw, neu’r oedolyn priodol ar ran y sawl sy’n cael ei gadw, yn gofyn am alw cyfreithiwr i roi cyngor cyfreithiol, bydd darpariaethau adran 6 yn berthnasol. (gweler paragraff 6.5A a Nodyn 3H).

3.20 Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn ddall, os oes nam difrifol ar ei olwg neu os nad yw’n gallu darllen, bydd swyddog y ddalfa yn sicrhau bod ei gyfreithiwr, perthynas iddo, ei oedolyn priodol neu unrhyw un arall sy’n debygol o gymryd diddordeb ynddo ac nad yw’n ymwneud â’r ymchwiliad, ar gael i helpu i archwilio unrhyw ddogfennau. Pan fo’r Cod yn gofyn am ganiatâd ysgrifenedig neu lofnod, gellir gofyn i’r un sy’n cynorthwyo i lofnodi yn lle hynny, os yw’n well gan y sawl sy’n cael ei gadw i hynny ddigwydd. Nid yw’r paragraff hwn yn gofyn am alw oedolyn priodol yn unswydd i gynorthwyo wrth archwilio a llofnodi dogfennau ar gyfer person nad yw’n berson ifanc, ac nad yw’n agored i niwed (gweler paragraff 3.15 a Nodyn 13C).

3.20A Mae’r Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933, adran 31, yn ei gwneud yn ofynnol i wneud trefniadau i sicrhau fod merch dan 18 oed, sy’n cael ei chadw mewn gorsaf heddlu, dan ofal menyw. Rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau bod y fenyw y mae’r ferch dan ei gofal, yn gwneud yr ymholiadau ac yn darparu’r wybodaeth am anghenion personol sy’n ymwneud â’i hiechyd, hylendid a lles a ddisgrifir ym mharagraff 9.3A a chynhyrchion mislif a ddisgrifir ym mharagraff 9.3B. Gweler Nodyn 3G. Mae adran hefyd yn gofyn am wneud trefniadau i atal unrhyw un dan 18 oed, tra’n cael ei gadw mewn gorsaf heddlu, rhag ymwneud ag oedolyn wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd, oni bai fod yr oedolyn yn berthynas neu fod yr oedolyn wedi ei gyhuddo o’r un drosedd â’r person dan 18 oed.

(C) Pobl yn y ddalfa - Dogfennaeth

3.20B Cofnodir y rhesymau dros gadw person, pan fo’r person dan sylw yn bresennol os yw hynny’n ymarferol. Gweler paragraff 1.8.

3.20C Bydd unrhyw gamau a gymerir dan baragraffau 3.12 i 3.20A yn cael eu cofnodi.

(D) Personau sy’n mynychu gorsaf heddlu neu fan arall yn wirfoddol

3.21 Gall unrhyw un sy’n mynychu gorsaf heddlu neu leoliad arall (gweler paragraff 3.22 a Nodyn 3I) yn wirfoddol er mwyn cynorthwyo mewn ymchwiliad, adael os yw’n dymuno, os nad yw’n cael ei arestio. Gweler Nodiadau 1A a 1K. Dim ond os bydd yn angenrheidiol ei arestio dan amheuaeth o gyflawni trosedd yn unol â chod G y gellir atal y person rhag gadael yn ôl ei ewyllys. Gweler Cod G Nodyn 2G.

Camau gweithredu os bydd angen arestio

(a) Os yn ystod presenoldeb gwirfoddol unigolyn mewn gorsaf heddlu neu leoliad arall y penderfynir am unrhyw reswm bod angen ei arestio, rhaid:

  • ei hysbysu ar unwaith ei fod yn cael ei arestio a’r seiliau a rhesymau fel sy’n ofynnol gan Cod G, ac
  • ei ddwyn gerbron swyddog y ddalfa yn yr orsaf heddlu ble mae wedi ei arestio neu (fel sy’n gallu digwydd) yn swyddfa’r heddlu ble mae’n cael ei ddwyn wedi ei arestio rhywle arall. Yna mae’r swyddog y ddalfa yn gyfrifol am sicrhau yr agorir cofnod dalfa a’i fod yn cael ei hysbysu o’i hawliau yn yr un ffordd â’r rhai eraill a gedwir fel sy’n ofynnol gan y Cod hwn.

Gwybodaeth sydd i’w rhoi wrth drefnu cyfweliad gwirfoddol:

(b) Os nad oes angen arestio’r sawl sydd dan amheuaeth, ond mae’n cael rhybudd fel sy’n ofynnol gan adran 10, bydd y person sydd, ar ôl disgrifio natur ac amgylchiadau’r drosedd a amheuir, yn rhoi’r rhybudd ar yr un pryd, yn ei hysbysu nad yw wedi cael ei arestio ac nad oes rhaid iddo aros yn yr orsaf heddlu neu leoliad arall (gweler paragraff 3.22 a Nodyn 3I). Nid yw’r hawliau a’r mesurau diogelwch sy’n berthnasol i gynnal a recordio cyfweliadau â phobl dan amheuaeth yn cael eu lleihau dim ond oherwydd bod y cyfweliad yn cael ei drefnu ar sail wirfoddol. At ddibenion trefnu cyfweliad gwirfoddol (gweler Cod G, Nodyn 2F), mae dyletswydd y cyfwelydd yn adlewyrchu dyletswydd swyddog y ddalfa mewn perthynas â phobl dan amheuaeth sy’n cael eu cadw. O ganlyniad:

  • (i) bydd y gofyniad ym mharagraff 3.5 (c) (ii) i benderfynu a oes angen oedolyn priodol ar berson dan amheuaeth yn y ddalfa, cymorth i wirio dogfennaeth neu gyfieithydd ar y pryd yr un mor berthnasol i berson sydd heb ei arestio; a
  • (ii) rhaid peidio â gofyn i’r sawl sydd dan amheuaeth roi ei ganiatâd gwybodus i gael ei gyfweld tan ar ôl iddo gael gwybod am yr hawliau a’r mesurau diogelwch sy’n berthnasol i gyfweliadau gwirfoddol. Nodir y rhain ym mharagraff

3.21A ac mae’r cyfwelydd yn gyfrifol am sicrhau bod y sawl sydd dan amheuaeth yn cael gwybod am ei hawliau a’r mesurau diogelwch ac am esbonio’r hawliau a’r mesurau diogelwch hyn. 3.21A Rhaid i’r cyfwelydd hysbysu’r sawl sydd dan amheuaeth mai diben y cyfweliad gwirfoddol yw ei holi i gael tystiolaeth am ei gysylltiad neu gysylltiad amheus â’r drosedd(au) a ddisgrifiwyd pan gafodd ei rybuddio a phan gafodd wybod nad oedd yn cael ei arestio. Yna bydd y cyfwelydd yn hysbysu’r sawl sydd dan amheuaeth y bydd y materion canlynol yn berthnasol os yw’n cytuno i’r cyfweliad gwirfoddol:

(a) Ei hawl i gael gwybodaeth am y drosedd(au) dan sylw trwy ddarparu digon o wybodaeth i’w galluogi i ddeall natur unrhyw drosedd(au) a pham ei fod dan amheuaeth. Mae hyn er mwyn caniatáu arfer hawliau’r amddiffyniad yn effeithiol fel sy’n ofynnol o dan baragraff 11.1A. Mae’n berthnasol pa un a ydynt yn gofyn am gyngor cyfreithiol ai peidio ac yn cynnwys unrhyw droseddau pellach sy’n dod i’r amlwg ac a nodir yn ystod y cyfweliad gwirfoddol y mae’r rhybudd yn berthnasol iddo.

(b) Ei hawl i gyngor cyfreithiol am ddim (gweler Nodyn 3J) trwy:

  • (i) egluro y gallant gael cyngor cyfreithiol annibynnol ac am ddim os ydynt yn dymuno, a bod hyn yn cynnwys yr hawl i siarad â chyfreithiwr dros y ffôn ac i gael y cyfreithiwr yn bresennol yn ystod y cyfweliad;
  • (ii) holi a yw eisiau cyngor cyfreithiol a chofnodi ei ateb; a
  • (iii) os yw’r person yn gofyn am gyngor, sicrhau ei ddarpariaeth cyn y cyfweliad trwy gysylltu â Chanolfan Alwadau’r Cyfreithwyr Amddiffyn ac egluro y bydd amser a lleoliad y cyfweliad yn cael eu trefnu i’w galluogi i gael cyngor ac y bydd y cyfweliad yn cael ei ohirio nes ei fod wedi cael y cyngor oni bai, yn unol â pharagraff 6.6 (c) (Cyfreithiwr enwebedig ddim ar gael a chyfreithiwr ar ddyletswydd wedi’i wrthod) neu baragraff 6.6 (d) (Newid meddwl), mae swyddog o safle arolygydd neu’n uwch yn cytuno i’r cyfweliad fynd yn ei flaen; neu
  • (iv) os yw’r person yn gwrthod arfer yr hawl, gofyn iddo pam a chofnodi unrhyw resymau a roddir (gweler Nodyn 6K).

Nodyn: Wrth esbonio’r hawl i gyngor cyfreithiol a’r trefniadau, rhaid i’r cyfwelydd ofalu i beidio â nodi, ac eithrio wrth ateb cwestiwn uniongyrchol, y gallai’r amser a gymerir i drefnu a chwblhau’r cyfweliad gwirfoddol gael ei leihau os:

  • nad yw’r unigolyn sydd dan amheuaeth yn gofyn am gyngor cyfreithiol neu os nad yw eisiau cyfreithiwr yn bresennol pan fydd yn cael ei gyfweld; neu
  • os yw’r unigolyn sydd dan amheuaeth wedi gofyn am gyngor cyfreithiol neu (fel y gallai ddigwydd) wedi gofyn i gyfreithiwr fod yn bresennol pan fydd yn cael ei gyfweld ond yn newid ei feddwl ac yn cytuno i gael ei gyfweld heb aros am gyfreithiwr.

(c) Hawl yr unigolyn, os yn unol â pharagraff 3.5(c)(ii) mae’r cyfwelydd yn penderfynu:

  • (i) ei fod yn berson ifanc neu’n agored i niwed; neu
  • (ii) ei fod angen cymorth i archwilio dogfennau (gweler paragraff 3.20);

i gael yr oedolyn priodol yn bresennol neu (fel y gallai ddigwydd) i gael y cymorth angenrheidiol i wirio dogfennau; ac y bydd y cyfweliad yn cael ei ohirio nes bod yr oedolyn priodol yn bresennol neu fod y cymorth angenrheidiol yn cael ei sicrhau.

(d) Os yw’r unigolyn yn berson ifanc neu’n agored i niwed ac nad yw’n dymuno cael cyngor cyfreithiol, yna mae gan yr oedolyn priodol yr hawl i ofyn i gyfreithiwr fod yn bresennol pe bai hynny er budd y person a rhaid ei hysbysu o hynny. Yn yr achos hwn, rhaid cymryd camau ar unwaith i sicrhau darpariaeth cyngor os bydd yr oedolyn priodol yn gofyn amdano yn yr un modd â phan ofynnir amdano gan yr unigolyn (gweler is-baragraff (b)(iii)). Fodd bynnag, ni ellir gorfodi’r person sy’n cael ei gadw i weld cyfreithiwr os yw’n bendant nad yw am wneud hynny (gweler paragraffau 3.19 a 6.5A).

(e) Ei hawl i gael cyfieithydd ar y pryd, os yn unol â, pharagraffau 3.5 (c) (ii) a 3.12, mae’r cyfwelydd yn penderfynu ei fod angen cyfieithydd ar y pryd ac os yw angen cyfieithydd ar y pryd, wneud y trefniadau angenrheidiol yn unol â pharagraff 13.1ZA ac y bydd y cyfweliad yn cael ei oedi i wneud y trefniadau hynny.

(f) Bydd y cyfweliad hwnnw yn cael ei drefnu ar amser ac mewn lleoliad (gweler paragraff 3.22 a Nodyn 3I) sy’n galluogi:

  • (i) parchu hawliau’r sawl sydd dan amheuaeth, a ddisgrifir uchod, yn llawn; a’r
  • (ii) cyfweliad llawn i’w recordio gan ddefnyddio dyfais recordio awdurdodedig yn unol â Cod E (Cod Ymarfer ar Recordio cyfweliadau sain gyda phobl dan amheuaeth) neu (fel y gallai ddigwydd) Cod F (Cod Ymarfer ar Recordio cyfweliadau gyda phobl dan amheuaeth yn weledol gyda sain); a

(g) Mae eu cytundeb i gymryd rhan yn y cyfweliad hefyd yn dynodi eu cytundeb i’r cyfweliad hwnnw gael ei sain recordio neu (yn ôl fel y digwydd) wedi’i recordio’n weledol gyda sain.

3.21B Nid yw’r cyfwelydd yn darparu gwybodaeth ffeithiol a ddisgrifir ym mharagraff 3.21A ac, os gofynnir iddo gan y sawl sydd dan amheuaeth, nid yw gwybodaeth bellach o’r fath yn gyfystyr â chyfweliad at ddiben y Cod hwn a phan ddarperir y wybodaeth honno:

(a) rhaid i’r cyfwelydd atgoffa’r sawl sydd dan amheuaeth am y rhybudd fel sy’n ofynnol yn adran 10 ond rhaid iddo beidio â gwahodd sylw am y drosedd na gofyn cwestiynau penodol i’r sawl sydd dan amheuaeth ynghylch ei ran mewn unrhyw drosedd, nac mewn perthynas ag unrhyw sylwadau y gall ei wneud pan roddir y wybodaeth iddo. Mae trafodaeth o’r fath yn debygol o gael ei hystyried yn gyfweliad dan amodau paragraff 11.1A ac felly bydd angen cymryd y trefniadau diogelu cysylltiedig yn adran 11.

(b) Rhaid i unrhyw sylw y mae’r sawl sydd dan amheuaeth yn ei wneud pan roddir y wybodaeth iddo a allai fod yn berthnasol i’r drosedd, gael ei chofnodi a’i thrin yn unol â pharagraff 11.13.

(c) Rhaid rhoi hysbysiad i’r sawl sydd dan amheuaeth yn crynhoi’r materion a ddisgrifir ym mharagraff 3.21A ac sy’n cynnwys y trefniadau ar gyfer cael cyngor cyfreithiol. Os nad oes hysbysiad penodol ar gael, gellir defnyddio’r hysbysiad a roddir i bobl dan amheuaeth sy’n cael eu cadw gyda chyfeiriadau at ofynion sy’n benodol i gadw unigolion gyda gwybodaeth wedi’i golygu.

(d) Ar gyfer pobl ifanc a phobl sy’n agored i niwed sydd dan amheuaeth (gweler paragraffau 1.4 a 1.5):

  • (i) rhaid darparu’r wybodaeth neu (yn ôl fel y digwydd) ei ddarparu eto, ynghyd â’r hysbysiad, ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol;
  • (ii) Os rhoddir rhybudd yn absenoldeb yr oedolyn priodol, rhaid ailadrodd y rhybudd ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol (gweler paragraph 10.12);
  • (iii) rhaid rhoi gwybod i’r unigolyn sydd dan amheuaeth o’r penderfyniad bod angen oedolyn priodol a’r rheswm dros y penderfyniad hwnnw (gweler paragraff 3.5 (c) (ii);
  • (iv) rhoddir gwybod i’r unigolyn sydd dan amheuaeth a’r oedolyn priodol:
    • bod dyletswyddau’r oedolyn priodol yn cynnwys rhoi cyngor a chymorth yn unol â pharagraffau 1.7A a 11.17; a
    • y gallant ymgynghori’n breifat ar unrhyw adeg.
  • (v) rhaid gofyn i’r unigolyn sydd dan amheuaeth am ei gytundeb gwybodus i gael ei gyfweld yn wirfoddol a chael ei gytundeb ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol ac yn achos unigolyn ifanc, mae angen cytundeb rhiant neu warcheidwad yr unigolyn ifanc hefyd.

3.22 Os yw’r lleoliad arall a grybwyllir ym mharagraff 3.21 yn unrhyw le neu eiddo ble mae’r cyfwelydd angen cydsyniad gwybodus yr unigolyn sydd dan amheuaeth a/neu’r preswylydd (os yw’n wahanol) i aros, er enghraifft, cartref yr unigolyn sydd dan amheuaeth (gweler Nodyn 3I), yna mae’r cyfeiriadau sy’n datgan ‘nad oes rhaid i’r person aros’ ac y gall ‘adael yn ôl ei ddymuniad’ yn golygu y gall yr unigolyn sydd dan amheuaeth a/neu’r preswylydd (os yw’n wahanol) hefyd dynnu ei gydsyniad yn ôl a gofyn i’r cyfwelydd adael.

Dechau’r cyfweliad gwirfoddol - cyffredinol

3.22A Cyn gofyn unrhyw gwestiynau i’r sawl sydd dan amheuaeth am ei ran yn y drosedd yr amheuir ei bod wedi’i chyflawni, rhaid i’r swyddog sy’n cyfweld ofyn iddo gadarnhau ei fod yn cytuno i’r cyfweliad fynd yn ei flaen. Cofnodir y cadarnhad hwn yng nghofnod y cyfweliad a wneir yn unol ag adran 11 o’r Cod hwn (cofnod ysgrifenedig) neu God E neu God F.

Dogfennaeth

3.22B Bydd unrhyw gamau a gymerir dan baragraffau 3.21A i 3.21B yn cael eu cofnodi. Bydd y cofnod yn cynnwys y dyddiad a’r lle y cymerwyd y camau, pwy oedd yn bresennol ac unrhyw beth a ddywedwyd wrth yr unigolyn sydd dan amheuaeth neu ganddo neu’r rhai sy’n bresennol neu ganddynt.

3.23 Heb ei ddefnyddio.

3.24 Heb ei ddefnyddio.

(E) Personau sy’n ateb mechnïaeth stryd

3.25 Pan fo rhywun yn ateb mechnïaeth stryd, dylai swyddog y ddalfa gysylltu unrhyw ddogfennau a ddelir mewn perthynas â’r arestiad gyda chofnod y ddalfa. Cofnodir unrhyw gamau pellach ar gofnod y ddalfa yn unol â pharagraffau 3.20B a 3.20C uchod.

(F) Gofynion ar gyfer hysbysu rhai a amheuir o hawliau penodol

3.26 Mae darpariaethau’r adran hon yn nodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei rhoi i rai a amheuir sydd wedi derbyn rhybudd yn unol ag adran 10 y Cod hwn yn ôl a ydynt wedi eu harestio a chadw neu beidio. Mae’n cynnwys gwybodaeth sy’n ofynnol dan Gyfarwyddeb yr UE 2012/13 ar yr hawl i wybodaeth mewn achosion troseddol. Os gwneir cwyn gan neu ar ran unigolyn o’r fath a amheuir nad yw’r wybodaeth a (fel y gall ddigwydd) mynediad at y cofnodion a dogfennau wedi eu darparu fel sy’n ofynnol, bydd y mater yn cael ei adrodd i arolygydd i ddelio â nhw fel cwyn i ddibenion paragraff 9.2, neu baragraff 12.9 os gwneir yr her yn ystod cyfweliad. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft:

(a) yn achos sawl a amheuir sydd wedi ei gadw:

  • peidio ei hysbysu o’i hawliau (gweler paragraff 3.1);
  • peidio rhoi copi iddo o’r Hysbysiad (gweler paragraff 3.2(a));
  • peidio darparu cyfle iddo ddarllen yr hysbysiad (gweler paragraff 3.2A);
  • peidio darparu’r wybodaeth ofynnol (gweler paragraffau 3.2(a), 3.12(b) a 3.12A;
  • peidio caniatáu mynediad i gofnod y ddalfa (gweler paragraff 2.4);
  • peidio darparu cyfieithiad o’r Hysbysiad (gweler paragraff 3.12(c) a (d)); a

(b) yn achos y sawl a amheuir nad yw wedi ei gadw:

  • paragraffau 3.21(b) i 3.21B).

Nodiadau Arweiniad

3ZA I ddibenion paragraffau paragraffau 3.4(b) a 15.0:

(a) Mae swyddogion ymchwilio yn gyfrifol am ddod ag unrhyw ddogfennau a deunyddiau yn eu meddiant neu dan eu rheolaeth i sylw’r swyddog sy’n gyfrifol am awdurdodi cadw’r sawl a amheuir neu (fel allai fod yn berthnasol) barhau i gadw (cyn neu wedi cyhuddo), sy’n ymddangos i danseilio’r angen i gadw’r sawl a amheuir yn y ddalfa. Yn unol â Rhan IV PACE, bydd y swyddog hwn naill ai yn swyddog y ddalfa, y swyddog sy’n adolygu’r angen i gadw cyn neu wedi cyhuddo (PACE, adran 40), neu’r swyddog sy’n ystyried yr angen i ymestyn y cyfnod dal heb rybudd o 24 i 36 awr (PACE, adran 42) sy’n gyfrifol am bennu pa rai, os o gwbl, o’r dogfennau a deunyddiau hyn allai danseilio’r angen i gadw’r sawl a amheuir ac y mae’n rhaid felly eu darparu i’r sawl a amheuir neu ei gyfreithiwr.

(b) mae’r modd y bydd dogfennau a deunyddiau yn ‘cael eu darparu’, yn fater ar gyfer y swyddog ymchwilio i’w bennu ar sail fesul achos, ac wedi ystyried natur a maint y dogfennau a’r deunyddiau dan sylw. Er enghraifft, efallai y byddant yn cael eu darparu trwy gyflenwi copi neu ganiatáu mynediad dan oruchwyliaeth i’w gweld. Fodd bynnag, ar gyfer mynediad i weld yn unig, bydd angen arddangos y caniateir digon o amser i’r sawl a amheuir a’r cyfreithiwr weld ac ystyried y dogfennau a’r deunyddiau dan sylw.

3A Ar gyfer mynediad i hysbysiadau sydd ar gael ar hyn o bryd, yn cynnwys fersiynau ‘hawdd i’w darllen’.

3B Heb ei ddefnyddio.

3C Os yw’r person ifanc yng ngofal awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol, ond yn byw gyda’i rieni neu oedolion eraill sy’n gyfrifol am ei les, er nad oes ymrwymiad cyfreithiol i’w hysbysu, fel arfer dylid cysylltu â hwy, yn ogystal â’r awdurdod neu’r sefydliad, oni bai y ceir amheuaeth eu bod yn gysylltiedig â’r drosedd dan sylw. Hyd yn oed os nad yw’r person ifanc yn byw gyda’i rieni, dylid ystyried eu hysbysu.

3D Nid yw’r hawl i weld y Codau Ymarfer yn rhoi hawl i’r person dan sylw ohirio unrhyw gamau ymchwilio neu weinyddu angenrheidiol am gyfnod afresymol wrth iddo wneud hynny. Mae enghreifftiau o gamau nad oes angen gohirio afresymol cyn eu gweithredu yn cynnwys:

  • trefniadau sy’n gofyn am ddarparu samplau anadl, samplau gwaed neu samplau dŵr o dan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 neu Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992;
  • archwilio’r sawl sy’n cael ei gadw yng ngorsaf yr heddlu;
  • cymryd olion bysedd, olion esgidiau neu samplau nad ydynt yn rhai personol heb ganiatâd at ddibenion cael tystiolaeth.

3E Mae Arfer Proffesiynol Awdurdodedig Cadw a Dalfa (APP) a gynhyrchir gan y Coleg Plismona yn rhoi arweiniad mwy manwl ar asesiadau risg ac yn nodi meysydd risg allweddol y dylid eu hystyried bob amser. Gweler Cylchlythyr 34/2007 y Swyddfa Gartref (Diogelwch cyfreithwyr a chynrychiolwyr prawf mewn gorsafoedd heddlu).

3F Rhaid i swyddog y ddalfa neu unrhyw swyddog arall sydd, yn unol â’r cod hwn, yn caniatáu neu’n cyfarwyddo cyflawni unrhyw dasg neu weithred parthed gofal, triniaeth a hawliau’r sawl sy’n cael ei gadw gan unrhyw swyddog neu berson arall fod yn fodlon fod y swyddog neu berson yn addas, hyfforddedig a chymwys i gyflawni’r dasg neu weithred dan sylw.

3G Cyhoeddwyd arweiniad i swyddogion yr heddlu a staff yr heddlu ar weithrediad adran 31 Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 gan y Coleg Plismona ac mae ar gael.

3H Diben y darpariaethau ym mharagraffau 3.19 a 6.5A yw amddiffyn hawliau pobl ifanc a phobl sy’n agored i niwed nad ydynt efallai yn deall arwyddocâd yr hyn a ddywedir wrthynt. Dylid rhoi cyfle bob amser iddynt, pan alwir am oedolyn priodol i’r orsaf heddlu, i ymgynghori â chyfreithiwr yn breifat yn absenoldeb yr oedolyn priodol os yw’n dymuno gwneud hynny.

3I Dylai cyfwelydd nad yw’n siŵr, neu sydd ag unrhyw amheuaeth, a yw lle neu leoliad sydd ddim yn orsaf heddlu yn addas ar gyfer cynnal cyfweliad gwirfoddol, yn enwedig yn achos person ifanc neu berson sy’n agored i niwed, ymgynghori â swyddog o safle rhingyll neu’n uwch i gael cyngor. Mae’r Coleg Plismona yn datblygu canllawiau manwl ar gyfer swyddogion heddlu a staff ynghylch cynnal a chofnodi cyfweliadau gwirfoddol. Mae’n dilyn adolygiad o faterion gweithredol sy’n codi pan fydd angen trefnu cyfweliadau gwirfoddol. Y nod yw sicrhau bod y mesurau diogelwch ym mharagraffau 3.21 i 3.22B yn cael eu gweithredu’n effeithiol, yn enwedig o ran hawliau pobl sydd dan amheuaeth, lleoliad y cyfweliad a’r oruchwyliaeth.

3J Ar gyfer cyfweliadau gwirfoddol a gynhelir gan ymchwilwyr nad ydynt yn swyddogion heddlu, mae’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn trafod darparu cyngor cyfreithiol ym mharagraff 9.54 o’r Fanyleb Contract Trosedd Safonol 2017. Ac mae’r rheolau yn golygu y byddai’n rhaid i gyfwelydd nad yw’n swyddog heddlu nad oes ganddo bŵer statudol i arestio, hysbysu’r sawl sydd dan amheuaeth fod ganddo hawl i ofyn am gyngor cyfreithiol os yw’n dymuno, ond mater iddo ef ei drefnu gyda’r cyfreithiwr fyddai talu.

4 Eiddo’r sawl sy’n cael ei gadw

(A) Gweithredu

4.1 Mae swyddog y ddalfa yn gyfrifol am:

(a) ganfod pa eiddo:

  • (i) sydd gan y sawl sy’n cael ei gadw pan fydd yn cyrraedd gorsaf yr heddlu, p’un a yw:
    • wedi cael ei arestio neu gadw eilwaith er mwyn ateb mechnïaeth;
    • wedi ei ymrwymo i gael ei gadw yn y carchar dan orchymyn neu ddedfryd llys;
    • yn bresennol yn yr orsaf heddlu er mwyn cael ei gyflwyno i’r llys o gyfnod yn y ddalfa mewn carchar;
    • yn cael ei drosglwyddo o gael ei gadw mewn gorsaf arall neu yn yr ysbyty;
    • yn cael ei gadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, adran 135 neu 136;
    • yn cael ei gadw yng ngofal yr heddlu ar awdurdod llys.
  • (ii) y gallai’r sawl sy’n cael ei gadw fod wedi ei sicrhau at ddiben anghyfreithiol neu niweidiol yn ystod ei gyfnod yn y ddalfa;

(b) diogelu unrhyw eiddo sy’n cael ei gymryd oddi ar y sawl sy’n cael ei gadw, sy’n aros yng ngorsaf yr heddlu.

Fe all swyddog y ddalfa archwilio’r sawl sy’n cael ei gadw neu awdurdodi iddo gael ei archwilio i‘r graddau y mae’n eu hystyried yn angenrheidiol, ar yr amod bod unrhyw chwiliad o rannau personol y corff neu sy’n golygu tynnu mwy nag un haen o ddillad allanol, yn cael ei wneud yn unol ag Atodiad A yn unig. Rhaid i swyddog o’r un rhyw â‘r sawl sy’n cael ei gadw gyflawni’r chwiliad. Gweler Nodyn 4A ac Atodiad L.

4.2 Yn ddarostyngedig i baragraff 4.3A, gall unigolion sy’n cael eu cadw, gadw dillad ac eiddo personol ar eu cyfrifoldeb eu hunain, oni bai fod swyddog y ddalfa o’r farn y gallent eu defnyddio i niweidio’u hunain neu eraill, ymyrryd â thystiolaeth, difrodi eiddo, trefnu ffordd o ddianc neu os oes eu hangen fel tystiolaeth. Os digwydd hyn, gall swyddog y ddalfa gadw unrhyw eitemau o’r fath os bydd yn ystyried bod angen gwneud hyn, a rhaid iddo hysbysu’r sawl sy’n cael ei gadw o’i resymau dros wneud hyn.

4.3 Meddiannau personol yw’r eitemau hynny y gallai’r sawl sy’n cael ei gadw fod eu hangen, eu defnyddio neu gyfeirio atynt yn gyfreithiol yn ystod ei gyfnod yn y ddalfa, ond nid ydynt yn cynnwys arian ac eitemau eraill o werth.

4.3A At ddibenion paragraff 4.2, bydd y cyfeiriad at ddillad ac eiddo personol yn cael ei drin fel pe bai’n cynnwys cynhyrchion mislif ac unrhyw gynhyrchion iechyd, hylendid a lles eraill sydd eu hangen gan y sawl sy’n cael ei gadw (gweler paragraffau 9.3A a 9.3B) a rhaid i benderfyniad i ddal unrhyw gynhyrchion o’r fath yn ôl fod yn destun asesiad risg penodol pellach.

(B) Dogfennaeth

4.4 Mater i swyddog y ddalfa yw pennu a ddylid cofnodi’r eiddo naill ai sydd gan y sawl sy’n cael ei gadw adeg ei arestio neu a gymerwyd oddi arno wrth ei arestio. Nid yw’n ofynnol cadw unrhyw gofnod a wneir fel rhan o gofnod y ddalfa ond fe ddylid nodi yng nghofnod y ddalfa lle gellir dod o hyd i gofnod o’r fath a bydd y cofnod hwnnw yn cael ei drin fel rhan o gofnod y dalfa i ddibenion hyn ac unrhyw God Ymarfer arall (gweler paragraffau 2.4, 2.4A a 2.5). Lle bynnag y gwneir cofnod caniateir i’r sawl sy’n cael ei gadw archwilio a llofnodi bod y cofnod eiddo yn gywir. Cofnodir unrhyw achos o wrthod llofnodi.

4.5 Os na chaniateir i’r sawl sy’n cael ei gadw, gadw unrhyw ddilledyn neu feddiannau personol, rhaid cofnodi’r rheswm dros hynny.

Nodiadau Arweiniad

4A Mae PACE, Adran 54(1) a pharagraff 4.1 yn mynnu bod y sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei chwilio pan fydd hi’n amlwg y bydd gan swyddog y ddalfa ddyletswyddau parhaus mewn perthynas â’r person hwnnw, neu pan fo ymddygiad neu drosedd y sawl sy’n cael ei gadw yn golygu bod rhestr eiddo yn briodol. Nid ydynt yn mynnu bod pob un sy’n cael ei gadw yn cael ei chwilio, e.e. os yw hi’n amlwg y cedwir y person am gyfnod byr ac na fydd yn cael ei roi mewn cell, gall swyddog y ddalfa benderfynu peidio ei chwilio. Mewn achos o’r fath, nodir ‘ni chwiliwyd’ yn y cofnod cadw, ni fydd paragraff 4.4 yn berthnasol, ac estynnir gwahoddiad i’r sawl sy’n cael ei gadw i lofnodi’r cofnod. Os bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn gwrthod, bydd yn rhaid i swyddog y ddalfa weld pa eiddo sydd ganddo yn unol â pharagraff 4.1.

4B Nid yw paragraff 4.4 yn mynnu bod swyddog y ddalfa yn cofnodi eiddo a oedd gan y sawl sy’n cael ei gadw pan gafodd ei arestio os nad yw hi’n ymarferol ei ddwyn i orsaf yr heddlu oherwydd ei natur, ei faint neu’r nifer ohonynt.

4C Nid yw paragraff 4.4 yn mynnu y dylid cofnodi’r eitemau dillad y mae’r person yn eu gwisgo, oni bai y bydd swyddog y ddalfa yn eu cadw fel nodir ym mharagraff 4.2.

5 Hawl i beidio cael ei gadw heb allu cysylltu â neb

(A) Gweithredu

5.1 Yn amodol i baragraff 5.7B, gall unrhyw berson sy’n cael ei arestio a’i gadw yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu neu mewn adeilad arall, ofyn bod person y mae’n ei adnabod neu sy’n debygol o gymryd diddordeb yn ei les, yn cael ei hysbysu ynghylch ei leoliad cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol. Os na ellir cysylltu â’r person dan sylw, fe all y sawl sy’n cael ei gadw ddewis hyd at ddau berson arall. Os na ellir cysylltu â hwy, gall yr un sy’n gyfrifol am ei gadw neu am yr ymchwiliad ganiatáu ymdrechion pellach nes i’r wybodaeth gael ei chyfleu. Gweler Nodiadau 5C a 5D.

5.2 Yr unig adeg y gellir oedi wrth weithredu’r hawl uchod ar gyfer pob person a enwebir yw dan yr amodau a nodir yn Atodiad B.

5.3 Gellir gweithredu’r hawl uchod bob tro y dygir y sawl sy’n cael ei gadw i orsaf heddlu arall.

5.4 Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn cytuno, fe all dderbyn ymweliadau yn ôl doethineb swyddog y ddalfa gan deulu, ffrindiau neu eraill sy’n debygol o fod â diddordeb yn ei les, neu y mae gan y sawl sy’n cael ei gadw ddiddordeb yn eu lles. Gweler Nodyn 5B.

5.5 Os bydd cyfaill, perthynas neu berson sydd â diddordeb yn lles y sawl sy’n cael ei gadw, yn gofyn ymhle y mae’n cael ei gadw, rhoddir yr wybodaeth yma iddynt os bydd y sawl sydd dan amheuaeth yn cytuno ac os nad yw Atodiad B yn berthnasol. Gweler Nodyn 5D.

5.6 Rhoddir deunydd ysgrifennu i’r sawl sy’n cael ei gadw os bydd yn gofyn amdanynt, ac fe ganiateir iddo ffonio un person am gyfnod rhesymol o amser, gweler Nodiadau 5A a 5E. Gellir gwrthod neu ohirio un o’r breintiau hyn, neu’r ddau ohonynt, os yw swyddog o safle arolygydd neu uwch o’r farn y gallai anfon llythyr neu ffonio rhywun arwain at un o’r canlyniadau yn:

  • (a) Atodiad B paragraffau 1 a 2 ac os yw’r sawl sy’n cael ei gadw mewn cysylltiad â throsedd dditiadwy;
  • (b) Heb ei ddefnyddio.

Nid oes unrhyw ran o’r paragraff hwn yn caniatáu cyfyngu neu wrthod yr hawliau ym mharagraffau 5.1 a 6.1.

5.7 Cyn anfon unrhyw lythyr neu neges, neu cyn y gwneir unrhyw alwad ffôn, hysbysir y sawl sy’n cael ei gadw y gellir darllen neu wrando ar unrhyw beth a nodir ganddo mewn llythyr, galwad neu neges (ac eithrio unrhyw gyfathrebu gyda chyfreithiwr), ac y gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth. Gellir terfynu galwad ffôn os yw’r fraint yn cael ei chamddefnyddio. Gall swyddog y ddalfa benderfynu defnyddio arian cyhoeddus i dalu’r costau neu beidio.

5.7A Dylai unrhyw oedi neu atal hawliau yn yr adran hon fod yn gymesur ac ni ddylai barhau am fwy nag sydd angen.

5.7B Yn achos unigolyn yn nalfa’r heddlu ar gyfer dibenion a chyfnodau penodol yn unol â chyfarwyddyd dan y Ddeddf Troseddau (Dedfrydau) 1997, Atodlen 1 (cynyrchiadau o’r carchar ac ati), bydd arfer yr hawliau yn yr adran hon yn destun unrhyw amodau atodol a ddynodwyd yn y gyfarwyddeb hon i’r diben o reoleiddio cyswllt a chyfathrebiad y sawl sy’n cael ei gadw gydag eraill tra’i fod yn y ddalfa gyda’r heddlu. Gweler Nodyn 5F.

(B) Dogfennaeth

5.8 Rhaid gwneud cofnod o’r canlynol:

  • (a) unrhyw gais a wneir dan yr adran hon a’r camau a gymerwyd;
  • (b) llythyron, negeseuon neu alwadau ffôn a wnaethpwyd neu a gafwyd neu unrhyw ymweliad a gafwyd;
  • (c) unrhyw achos pan fo’r sawl sy’n cael ei gadw yn gwrthod caniatáu i’r heddlu roi gwybodaeth amdano i ymholwr o’r tu allan. Rhaid gofyn i’r sawl sy’n cael ei gadw lofnodi’r cofnod a rhaid cofnodi unrhyw achos o wrthod gwneud hynny.

Nodiadau Arweiniad

5A Gall person ofyn am gyfieithydd i ddehongli galwad ffôn neu gyfieithu llythyr.

5B Yn ôl disgresiwn swyddog y ddalfa ac yn amodol i gydsyniad y sawl sy’n cael ei gadw, dylid caniatáu ymweliadau pan fo modd, os oes digon o bersonél ar gael i oruchwylio’r ymweliad ac os na amherir ar yr ymchwiliad mewn unrhyw ffordd.

5C Os nad yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn gwybod am unrhyw un i gysylltu â nhw am gyngor neu gymorth, neu os nad yw’n gallu cysylltu â chyfaill neu berthynas, dylai swyddog y ddalfa ystyried unrhyw gyrff gwirfoddol lleol neu sefydliadau eraill a allai helpu. Mae paragraff 6.1 yn berthnasol os oes angen cyngor cyfreithiol.

5D Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd hi’n briodol defnyddio’r ffôn i ddatgelu gwybodaeth o dan baragraffau 5.1 a 5.5.

5E Mae’r alwad ffôn ym mharagraff 5.6 yn ychwanegol i unrhyw gyfathrebu o dan baragraffau 5.1 a 6.1.

5F Mae’r Cyfarwyddyd Gwasanaeth Carchardai 26/2012 (Cynhyrchu Carcharorion ar Gais Asiantaethau gorfodi’r Gyfraith Gwarantedig) yn rhoi canllaw a chyfarwyddiadau manwl ar gyfer swyddogion yr heddlu a Llywodraethwyr a Chyfarwyddwyr Carchardai parthed ceisiadau i drosglwyddo carcharorion i ddalfa’r heddlu a’u cystodaeth a thriniaeth ddiogel tra yn nalfa’r heddlu.

6 Yr hawl i gyngor cyfreithiol

(A) Gweithredu

6.1 Oni bai fod Atodiad B yn berthnasol, rhaid hysbysu pob un sy’n cael ei gadw, y gall ymgynghori a chyfathrebu’n breifat gyda chyfreithiwr ar ben ei hun, trwy ysgrifennu ato neu dros y ffôn, a bod cyngor cyfreithiol annibynnol ar gael yn rhad ac am ddim. Gweler paragraff 3.1, Nodiadau 1I, 6B a 6J

6.2 Heb ei ddefnyddio.

6.3 Rhaid arddangos poster sy’n hysbysebu’r hawl i gael cyngor cyfreithiol mewn rhywle amlwg yn y man cyhuddo ym mhob gorsaf heddlu. Gweler Nodyn 6H.

6.4 Ni ddylai unrhyw swyddog heddlu wneud unrhyw beth neu ddweud unrhyw beth ar unrhyw adeg gyda’r bwriad o berswadio unrhyw berson sydd â hawl i gyngor cyfreithiol yn unol â’r Cod hwn, p’un a yw wedi cael ei arestio ac yn cael ei gadw, rhag gofyn am gyngor cyfreithiol. Gweler Nodyn 6ZA.

6.5 Yr unig adeg y gellir gohirio’r hawl i gael cyngor cyfreithiol yw mewn amgylchiadau fel nodir yn Atodiad B. Pan ofynnir am gyngor cyfreithiol, ac os na fydd Atodiad B yn berthnasol, rhaid i swyddog y ddalfa weithredu’n ddi-oed er mwyn sicrhau y darperir cyngor o’r fath. Os bydd gan y sawl sy’n cael ei gadw hawl i siarad â chyfreithiwr yn bersonol ond ei fod yn gwrthod yr hawl, dylai’r swyddog nodi bod yr hawl yn cynnwys yr hawl i siarad gyda chyfreithiwr dros y ffôn. Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn parhau i wrthod arfer ei hawl, neu os yw’r sawl sy’n cael ei gadw y mae ei hawl i gyngor cyfreithiol yn gyfyngedig i gyngor ffôn gan y Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (CDS) Uniongyrchol (gweler Nodyn 6B) yn gwrthod arfer yr hawl hwnnw, dylai’r swyddog ofyn iddo pam y mae’n gwneud hynny, a chofnodi unrhyw resymau yn y cofnod cadw neu’r cofnod y cyfweliad pan fo hynny’n briodol. Rhaid atgoffa unigolion o’u hawl i gael cyngor cyfreithiol fel nodir ym mharagraffau 3.5, 11.2, 15.4, 16.4, 16.5, 2B Atodiad A, 3 Atodiad K a 5 Atodiad M y Cod hwn a Chod D, paragraffau 3.17(ii) a 6.3. Unwaith y bydd hi’n amlwg nad yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn dymuno siarad gyda chyfreithiwr yn unigol neu dros y ffôn, dylid rhoi’r gorau i ofyn iddo am ei resymau. Gweler Nodyn 6K.

6.5A Yn achos person sy’n ifanc neu berson sy’n agored i niwed, dylai oedolyn priodol ystyried a oes angen cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr. Os yw’r person o’r fath sydd wedi ei gadw yn nodi ei fod yn dymuno arfer yr hawl i gyngor cyfreithiol, dylid cymryd camau priodol a pheidio oedi nes bydd yr oedolyn priodol yn cyrraedd. Os yw’r person ifanc yn nodi nad yw’n dymuno cael cyngor cyfreithiol, yna mae gan yr oedolyn priodol yr hawl i ofyn i gyfreithiwr fod yn bresennol pe bai hynny er budd y person. a rhaid ei hysbysu o hynny. Yn yr achos hwn, rhaid cymryd camau ar unwaith i sicrhau darpariaeth cyngor os bydd yr oedolyn priodol yn gofyn amdano yn yr un modd â phan ofynnir amdano gan yr unigolyn. Fodd bynnag, ni ellir gorfodi’r person sy’n cael ei gadw i weld cyfreithiwr os yw’n bendant nad yw am wneud hynny.

6.6 Ni ellir cyfweld unrhyw un sy’n cael ei gadw, sy’n dymuno cael cyngor cyfreithiol, neu ni ellir parhau i’w gyfweld, nes iddo gael cyngor o’r fath oni bai fod:

(a) Atodiad B yn berthnasol, pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn Atodiad C yn berthnasol oherwydd nad yw’r sawl sy’n cael ei gadw wedi cael cyfle i ymgynghori â chyfreithiwr; neu

(b) gan swyddog o safle uwch-arolygydd neu uwch amheuon rhesymol dros gredu:

(i) y gallai’r oedi dilynol:

  • arwain at ymyrryd neu niweidio tystiolaeth sy’n gysylltiedig â throsedd;
  • arwain at ymyrryd â phobl eraill, neu beri niwed corfforol iddynt;
  • arwain at golledion difrifol o ran eiddo, neu ddifrod difrifol i eiddo;
  • arwain at rybuddio pobl eraill sydd dan amheuaeth o fod wedi cyflawni trosedd ond nad ydynt wedi cael eu harestio am ei gyflawni eto;
  • atal y gwaith o adennill eiddo a gafwyd o ganlyniad i gomisiynu trosedd. Gweler Nodyn 6A

(ii) y gallai aros dyfodiad cyfreithiwr, gan gynnwys cyfreithiwr ar ddyletswydd, y cysylltwyd ag ef ac sydd wedi cytuno mynychu, arwain at oedi afresymol ym mhroses yr ymchwiliad.

Sylwer: Yn yr achosion hyn, bydd y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn Atodiad C yn berthnasol oherwydd nad yw’r sawl sy’n cael ei gadw wedi cael cyfle i ymgynghori â chyfreithiwr.

(c) bod y cyfreithiwr a enwebwyd neu a ddewiswyd o restr gan y sawl sy’n cael ei gadw:

  • (i) yn rhywun na ellir cysylltu ag ef;
  • (ii) wedi dweud o’r blaen nad yw’n dymuno cysylltu ag ef; neu
  • (iii) ar ôl cysylltu ag ef, mae wedi gwrthod â mynychu; ac
    • mae’r sawl sy’n cael ei gadw wedi cael ei hysbysu am y Cynllun Cyfreithiwr ar Ddyletswydd ond mae wedi gwrthod gofyn am y cyfreithiwr ar ddyletswydd;
    • yn yr amgylchiadau hyn, gellir cychwyn y cyfweliad neu barhau â’r cyfweliad heb oedi pellach, ar yr amod bod swyddog o safle arolygydd neu uwch, wedi cytuno y dylai’r cyfweliad fynd yn ei flaen.

Sylwer: Ni fydd y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn Atodiad C yn berthnasol oherwydd mae’r sawl sy’n cael ei gadw wedi cael cyfle i ymgynghori â’r cyfreithiwr ar ddyletswydd;

(d) bod y sawl sy’n cael ei gadw yn newid ei feddwl ynghylch cael cyngor cyfreithiol neu (fel gallai ddigwydd) am fod eisiau cyfreithiwr yn bresennol yn y cyfweliad ac yn datgan nad yw bellach eisiau siarad â chyfreithiwr. Yn yr amgylchiadau hyn, gellir cychwyn neu barhau â’r cyfweliad heb oedi ar yr amod:

  • (i) bod swyddog o safle arolygydd neu uwch:
    • wedi siarad gyda’r sawl sy’n cael ei gadw am y rhesymau dros newid ei feddwl (gweler Nodyn 6K), ac
    • yn gwneud, neu’n cyfarwyddo gwneud, ymdrechion rhesymol i bennu’r amser y disgwylir i’r cyfreithiwr gyrraedd ac i hysbysu’r cyfreithiwr fod y sawl a amheuir wedi datgan ei fod eisiau newid ei feddwl a’r rheswm (os rhoddwyd);
  • (ii) yn cofnodi rheswm y sawl sy’n cael ei gadw dros newid ei feddwl (os rhoddwyd) a chanlyniad y gweithredu yn (i) yng nghofnod y ddalfa;
  • (iii) fod y sawl sy’n cael ei gadw, wedi cael hysbysiad o ganlyniad y weithred yn (i) uchod, yn cadarnhau yn ysgrifenedig ei fod eisiau i’r cyfweliad fwrw ymlaen heb siarad gyda na siarad ymhellach gyda chyfreithiwr neu (fel y gallai fod yn wir) heb gyfreithiwr yn bresennol ac nid yw eisiau aros am gyfreithiwr trwy lofnodi cofnod i ddatgan hyn yng nghofnod y ddalfa;
  • (iv) fod swyddog o reng arolygydd neu uwch yn fodlon ei bod yn briodol i’r cyfweliad fwrw ymlaen dan yr amgylchiadau hyn ac:
    • mae’n rhoi awdurdod i’r cyfweliad fwrw ymlaen ac, os nad yw’r awdurdod wedi ei gofnodi yng nghofnod y ddalfa, rhaid i’r swyddog sicrhau fod cofnod y ddalfa yn dangos dyddiad ac amser yr awdurdodiad a ble y’i cofnodwyd, ac
    • yn cymryd, neu gyfarwyddo cymryd, camau rhesymol i hysbysu’r cyfreithiwr y rhoddwyd awdurdod a’r amser pan ddisgwylir i’r cyfweliad gychwyn ac yn cofnodi neu’n achosi i greu cofnod o ganlyniad y weithred hon yng nghofnod y ddalfa.
  • (v) Pan fydd y cyfweliad yn cychwyn a’r cyfwelydd yn atgoffa’r sawl a amheuir o’i hawl i gyngor cyfreithiol (gweler paragraff 11.2, Cod E paragraff 4.5 a Chod F paragraff 4.5), yna bydd y cyfwelydd yn sicrhau y cofnodir y canlynol yn y cofnod cyfweliad ysgrifenedig neu yn y cofnod cyfweliad a wneir yn unol â Chod E neu F:
    • cadarnhad bod y sawl sy’n cael ei gadw wedi newid ei feddwl ynghylch cael cyngor cyfreithiol neu (fel gallai ddigwydd) am fod eisiau cyfreithiwr yn bresennol a’r rhesymau dros hyn os y’i rhoddir;
    • y ffaith y rhoddwyd awdurdod i’r cyfweliad fwrw ymlaen ac, yn amodol i baragraff 2.6A, enw’r swyddog awdurdodi;
    • os bydd y cyfreithiwr yn cyrraedd yr orsaf cyn cwblhau’r cyfweliad, bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei hysbysu heb oedi ac fe gymerir egwyl i ganiatáu iddo siarad â’i gyfreithiwr os yw eisiau, oni bai fod paragraff 6.6(a) yn berthnasol, ac
    • ar unrhyw adeg yn ystod y cyfweliad, efallai y bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn gofyn eto am gyngor cyfreithiol ac os yw’n gwneud hyn, cymerir egwyl i ganiatáu iddo siarad â’r cyfreithiwr, oni bai fod paragraff 6.6(a), (b), neu (c) yn berthnasol.

Sylwer: Yn yr amgylchiadau hyn, ni fydd y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn Atodiad C yn berthnasol oherwydd bod y sawl sy’n cael ei gadw wedi cael cyfle i ymgynghori â chyfreithiwr os yw’n dymuno.

6.7 Os bydd paragraff 6.6(a) yn berthnasol, ble mae’r rheswm dros awdurdodi’r oedi yn peidio â bod yn berthnasol mwyach, ni ellir cael unrhyw oedi pellach wrth ganiatáu arfer yr hawl yn absenoldeb awdurdodiad pellach oni bai fod paragraff 6.6(b), (c) neu (d) yn berthnasol. Os bydd paragraff 6.6(b)(i) yn berthnasol, ar ôl cael digon o wybodaeth er mwyn osgoi’r risg, rhaid i’r cwestiynu ddod i ben nes i’r sawl sy’n cael ei gadw gael cyngor cyfreithiol, oni bai fod paragraff 6.6(a), (b)(ii), (c) neu (d) yn berthnasol.

6.8 Bydd y sawl sy’n cael ei gadw, sydd wedi cael caniatâd i ymgynghori â chyfreithiwr, yn cael yr hawl i ofyn i’r cyfreithiwr fod yn bresennol wrth gael ei gyfweld, ond bai fod un o’r eithriadau ym mharagraff 6.6 yn berthnasol.

6.9 Yr unig adeg y gellir gofyn i’r cyfreithiwr adael y cyfweliad yw os bydd ei ymddygiad yn golygu nad yw’r cyfwelydd yn gallu holi’r sawl sydd dan amheuaeth yn briodol. Gweler Nodiadau 6D a 6E.

6.10 Os yw’r cyfwelydd o’r farn bod cyfreithiwr yn ymddwyn yn y fath ffordd, bydd yn atal y cyfweliad ac yn ymgynghori â swyddog nad yw ei safle yn is na safle uwch-arolygydd, os oes un ar gael, ac fel arall, swyddog nad yw ei safle yn is na safle arolygydd, nad yw’n gysylltiedig â’r ymchwiliad. Ar ôl siarad â’r cyfreithiwr, bydd y swyddog yr ymgynghorwyd ag ef, yn penderfynu a ddylai’r cyfweliad barhau ym mhresenoldeb y cyfreithiwr hwnnw. Os bydd yn penderfynu na ddylai’r cyfweliad barhau, rhoddir cyfle i’r sawl sydd dan amheuaeth ymgynghori â chyfreithiwr arall cyn i’r cyfweliad fynd yn ei flaen, a rhoddir cyfle i’r cyfreithiwr hwnnw fynychu’r cyfweliad. Gweler Nodyn 6E.

6.11 Mae gofyn i gyfreithiwr adael cyfweliad yn gam difrifol ac os bydd yn digwydd, bydd y swyddog o safle uwch-arolygydd neu uwch a wnaeth y penderfyniad yn ystyried a ddylid hysbysu Cymdeithas y Cyfreithwyr am y digwyddiad. Os bydd swyddog o safle is nag uwch-arolygydd wedi penderfynu y dylai’r cyfreithiwr adael y cyfweliad, rhaid adrodd y ffeithiau i swyddog o safle uwch-arolygydd neu uwch, a fydd yn ystyried yn yr un modd a fyddai’n briodol hysbysu Cymdeithas y Cyfreithwyr. Pan fo’r cyfreithiwr dan sylw yn gyfreithiwr ar ddyletswydd, dylid anfon adroddiad at yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ac i’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol.

6.12 Ystyr ‘cyfreithiwr’ yn y cod hwn yw:

  • cyfreithiwr sydd â thystysgrif weithredol gyfredol;
  • cynrychiolydd wedi’i achredu neu ar gyfnod prawf, sydd ar gofrestr y cynrychiolwyr a gedwir gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol.

6.12A Bydd cynrychiolydd wedi’i achredu neu ar ei gyfnod prawf a anfonwyd i orsaf yr heddlu er mwyn rhoi cyngor gan, ac ar ran, cyfreithiwr at y diben hwn, oni bai fod swyddog o safle arolygydd neu uwch o’r farn y bydd ymweliad o’r fath yn amharu ar yr ymchwiliad, gan roi cyfarwyddyd fel arall. Nid yw amharu ar yr ymchwiliad yn cynnwys rhoi cyngor cyfreithiol priodol i’r sawl sy’n cael ei gadw, fel nodir yn Nodyn 6D. Ar ôl iddo gyrraedd gorsaf yr heddlu, bydd paragraffau 6.6 i 6.10 yn berthnasol.

6.13 Wrth weithredu yn ôl ei ddisgresiwn dan baragraff 6.12A, dylai’r swyddog ystyried yn arbennig: - a yw: - hunaniaeth a statws y cynrychiolydd heb ei achredu neu sydd ar ei gyfnod prawf wedi cael eu nodi’n foddhaol; - cymeriad y cynrychiolydd yn addas i roi cyngor cyfreithiol, e.e. nid yw person sydd â chofnod troseddol yn debygol o fod yn addas oni bai fod y gollfarn yn ymwneud â mân drosedd ac na chafodd ei gyflawni’n ddiweddar. - unrhyw faterion eraill mewn unrhyw lythyr awdurdodi ysgrifenedig a ddarparwyd gan y cyfreithiwr y mae’r person yn mynychu gorsaf yr heddlu ar ei ran. Gweler Nodyn 6F.

6.14 Os bydd yr arolygydd yn gwrthod mynediad i gynrychiolydd wedi’i achredu neu sydd ar gyfnod prawf, neu os gwneir penderfyniad sy’n golygu nad yw person o’r fath yn cael aros yn y cyfweliad, rhaid i’r arolygydd hysbysu’r cyfreithiwr yr oedd y cynrychiolydd yn gweithredu ar ei ran, o hyn, a rhoi’r cyfle iddo wneud trefniadau amgen. Rhaid hysbysu’r sawl sy’n cael ei gadw a nodi hyn yn y cofnod cadw.

6.15 Os bydd cyfreithiwr yn cyrraedd yr orsaf er mwyn gweld person penodol, rhaid hysbysu’r person hwnnw, oni bai fod Atodiad B yn berthnasol, os yw’n cael ei gyfweld neu beidio, a dylid gofyn iddo a hoffai weld y cyfreithiwr. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw’r sawl sy’n cael ei gadw wedi gwrthod cyngor cyfreithiol neu, ar ôl gofyn amdano, wedi cytuno i gael ei gyfweld heb gael cyngor. Rhaid nodi presenoldeb y cyfreithiwr a phenderfyniad y sawl sy’n cael ei gadw yn y cyfnod cadw.

(B) Dogfennaeth

6.16 Dylid cofnodi unrhyw gais am gyngor cyfreithiol a’r camau i’w cymryd.

6.17 Os bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn gofyn am gyngor cyfreithiol ac mae cyfweliad wedi cychwyn naill ai yn absenoldeb cyfreithiwr neu ei gynrychiolydd, neu os bu’n rhaid iddo adael y cyfweliad, yna cofnodir hynny yng nghofnod y cyfweliad.

Nodiadau Arweiniad

6ZA Ni fydd unrhyw swyddog yr heddlu na staff yr heddlu yn awgrymu i unrhyw un a amheuir, ac eithrio i gyfarwyddo cwestiwn, y gellir lleihau’r cyfnod y mae’n debygol o gael ei gadw, neu os nad yw’n cael ei gadw, yr amser a gymerir i gwblhau’r cyfweliad:

  • os nad yw’n gofyn am gyngor cyfreithiol neu os nad yw eisiau cyfreithiwr yn bresennol pan fydd yn cael ei gyfweld; neu
  • os yw wedi gofyn am gyngor cyfreithiol neu (fel gallai fod yr achos) wedi gofyn i gyfreithiwr fod yn bresennol pan fydd yn cael ei gyfweld ond yn newid ei feddwl ac yn cytuno i gael ei gyfweld heb aros am gyfreithiwr.

6A Wrth ystyried a yw paragraff 6.6(b) yn berthnasol, dylai’r swyddog, os yw hynny’n ymarferol, ofyn i’r cyfreithiwr amcangyfrif faint o amser y bydd hi’n cymryd iddo gyrraedd yr orsaf a pherthnasu hyn gyda’r amser a ganiateir i gadw’r sawl sy’n cael ei gadw, yr amser o’r dydd (h.y. a yw’r cyfnod gorffwys o dan baragraff 12.2 ar fin cychwyn) a gofynion ymchwiliadau eraill. Os yw’r cyfreithiwr ar ei ffordd neu’n mynd i gychwyn yn syth, ni fydd yn briodol fel arfer i gychwyn cyfweliad cyn iddo gyrraedd. Os yw’n ymddangos yn angenrheidiol cychwyn cyfweliad cyn i’r cyfreithiwr gyrraedd, dylid rhoi syniad iddo o ba mor hir y gallai’r heddlu aros cyn bod 6.6(b) yn berthnasol er mwyn sicrhau bod cyfle i wneud trefniadau i rywun arall ddarparu cyngor cyfreithiol.

6B Mae gan y sawl sy’n cael ei gadw hawl i gyngor cyfreithiol am ddim ac i gael ei gynrychioli gan gyfreithiwr. Mae’r Nodyn Arweiniad hwn yn esbonio’r trefniadau sy’n galluogi rhai sy’n cael eu cadw i gael cyngor cyfreithiol. Mae amlinelliad o’r cytundebau hyn hefyd wedi ei gynnwys yn yr Hysbysiad o Hawliau a roddir i rai sy’n cael eu cadw yn unol â pharagraff 3.2. Mae’r trefniadau hyn hefyd yn berthnasol, gydag addasiadau priodol, i rai sy’n mynychu gorsaf heddlu neu leoliad arall (gweler paragraff 3.22 a Nodiadau 3I a 3J) yn wirfoddol sy’n cael eu rhybuddio cyn cael eu cyfweld. Gweler paragraff 3.21.

Pan fydd y sawl sy’n cael ei gadw yn gofyn am gyngor cyfreithiol am ddim, rhaid hysbysu’r Ganolfan Alwadau Cyfreithwyr yr Amddiffyn (DSCC) o’r cais.

Bydd cyngor cyfreithiol am ddim wedi ei gyfyngu i gyngor dros y ffôn gan CDS Direct os yw’r sawl sy’n cael ei gadw:

  • yn cael ei gadw am drosedd nad yw’n garcharadwy;
  • wedi ei arestio ar warant mainc am fethu ag ymddangos ac yn cael ei gadw i’w gynhyrchu yn y llys (ac eithrio ble mae gan y cyfreithiwr dystiolaeth ddogfennol glir ar gael a fyddai’n arwain at ryddhau’r cleient o’r ddalfa);
  • wedi ei arestio am yfed a gyrru (gyrru/yn gyfrifol gyda gormodedd o alcohol, methu darparu sbesimen, gyrru/yn gyfrifol tra nad yw’n ffit oherwydd diod), neu
  • wedi ei gadw parthed torri amodau mechnïaeth yr heddlu neu’r llys

oni bai fod un neu fwy o’r eithriadau’n berthnasol, ac os felly dylai’r DSCC drefnu i gyngor gael ei roi gan gyfreithiwr yng ngorsaf yr heddlu, er enghraifft:

  • mae’r heddlu eisiau cyfweld y sawl sy’n cael ei gadw neu gynnal ymarfer adnabod gyda llygad-dyst;
  • mae’r sawl sy’n cael ei gadw angen oedolyn priodol;
  • ni all y sawl sy’n cael ei gadw gyfathrebu dros y ffôn;
  • mae’r sawl sy’n cael ei gadw yn cyhuddo’r heddlu o gamymddwyn difrifol;
  • mae’r ymchwiliad yn cynnwys trosedd arall nad yw wedi ei chynnwys yn y rhestr,
  • mae’r cyfreithiwr sydd i’w benodi eisoes yng ngorsaf yr heddlu.

Pan fydd cyngor am ddim wedi ei gyfyngu i gyngor dros y ffôn, gall y sawl sy’n cael ei gadw ofyn am gyngor am ddim gan gyfreithiwr mae’n adnabod neu os nad yw’n adnabod cyfreithiwr neu os na ellir cysylltu â’r cyfreithiwr mae’n adnabod, gan y cyfreithiwr ar ddyletswydd.

I drefnu cyngor cyfreithiol am ddim, dylai’r heddlu ffonio’r DSCC. Bydd y ganolfan alwadau yn penderfynu a ddylid cyfyngu cyngor cyfreithiol i gyngor dros y ffôn gan CDS Direct, neu a ddylai cyfreithiwr y mae’r sawl sy’n cael ei gadw yn ei adnabod neu gyfreithiwr ar ddyletswydd siarad gyda’r sawl sy’n cael ei gadw.

Pan fydd y sawl sy’n cael ei gadw eisiau talu am gyngor cyfreithiol ei hun:

  • bydd y DSCC yn cysylltu â chyfreithiwr o’u dewis ar ei ran;
  • pan fydd cyngor cyfreithiol am ddim ar gael dros y ffôn yn unig gan CDS Direct, bydd yn dal i allu siarad â chyfreithiwr o’i ddewis ar y ffôn am gyngor, ond ni fyddai’r cyfreithiwr yn cael ei dalu trwy gymorth cyfreithiol yn talu amdanynt ac fe all ofyn i’r unigolyn dalu am y cyngor;
  • dylid rhoi cyfle iddo ymgynghori gyda chyfreithiwr penodol neu gyfreithiwr arall o gwmni’r cyfreithiwr hwnnw. Os na fydd y cyfreithiwr ar gael, gall ddewis hyd at ddau arall. Os na fydd yr ymdrechion hyn yn llwyddo, gall swyddog y ddalfa ganiatáu ymdrechion pellach hyd nes cysylltir â chyfreithiwr a bod y cyfreithiwr hwnnw yn cytuno darparu cyngor cyfreithiol;
  • mae ganddo hawl i ymgynghoriad preifat gyda chyfreithiwr o’i ddewis ar y ffôn neu gall y cyfreithiwr benderfynu dod i’w weld yng ngorsaf yr heddlu;
  • Os na ellir cysylltu â’r cyfreithiwr y mae wedi ei ddewis, efallai y bydd y DSCC yn dal i gael galwad i drefnu cyngor cyfreithiol am ddim.

Ar wahân i gyflawni’r dyletswyddau angenrheidiol i weithredu’r trefniadau hyn, ni ddylai swyddog gynghori’r sawl sydd dan amheuaeth ynghylch unrhyw gwmni o gyfreithwyr arbennig.

6B1 Heb ei ddefnyddio.

6B2 Heb ei ddefnyddio.

6C Heb ei ddefnyddio.

6D Unig rôl y cyfreithiwr yng ngorsaf yr heddlu yw amddiffyn a hybu hawliau cyfreithiol ei gleient. Ar brydiau, efallai y bydd hyn yn golygu rhoi cyngor sy’n golygu bod cleient yn osgoi rhoi tystiolaeth sy’n cryfhau achos yr erlyniad. Gall y cyfreithiwr ymyrryd er mwyn gofyn am fanylion, herio cwestiwn amhriodol a ofynnir i’w gleient neu’r ffordd y gofynnir y cwestiwn, cynghori ei gleient i beidio ag ateb cwestiynau arbennig, neu os yw’n dymuno, rhoi cyngor cyfreithiol pellach i’w gleient. Mae paragraff 6.9 yn berthnasol yn unig os yw dull gweithredu neu ymddygiad y cyfreithiwr yn atal neu’n rhwystro cwestiynau cywir rhag cael eu gofyn i’r sawl sydd dan amheuaeth mewn ffordd afresymol neu gofnodi ymateb y sawl sydd dan amheuaeth. Mae enghreifftiau o ymddygiad annerbyniol yn cynnwys ateb cwestiynau ar ran y sawl sydd dan amheuaeth neu ddarparu atebion ysgrifenedig er mwyn i’r sawl sydd dan amheuaeth eu dyfynnu.

6E Rhaid i swyddog sy’n penderfynu gwahardd cyfreithiwr fod mewn sefyllfa i fodloni’r llys bod y penderfyniad a wnaethpwyd yn gywir. I wneud hyn, efallai y bydd angen iddo fod yn dyst i’r hyn sy’n digwydd.

6F Os yw swyddog o safle arolygydd o leiaf o’r farn bod cyfreithiwr arbennig neu gwmni penodol o gyfreithwyr dro ar ôl tro yn anfon cynrychiolwyr ar eu cyfnod prawf, nad ydynt yn addas i ddarparu cyngor cyfreithiol, dylai hysbysu swyddog o safle uwch-arolygydd o leiaf, a allai ddymuno trafod y mater gyda Sefydliad Rheoleiddio’r Cyfreithwyr.

6G Yn amodol i gyfyngiadau Atodiad B, gall cyfreithiwr gynghori mwy nag un cleient mewn ymchwiliad os yw’n dymuno. Mae unrhyw wrthdaro o ran buddiannau yn fater i’r cyfreithiwr dan ei god ymddygiad proffesiynol. Os, fodd bynnag, y gallai aros am un cyfreithiwr i roi cyngor i un cleient, arwain at oedi afresymol wrth geisio cyfweld un arall, gallai darpariaethau paragraff 6.6(b) fod yn berthnasol.

6H Yn ogystal â phoster yn Saesneg, dylid dangos poster neu bosteri sy’n cynnwys cyfieithiadau Cymraeg, y prif ieithoedd ethnig lleiafrifol a’r prif ieithoedd Ewropeaidd ble bynnag y byddent o gymorth a phan fo hynny’n ymarferol.

6I Heb ei ddefnyddio.

6J Pan fo’r sawl sy‘n cael ei gadw yn ymarfer ei hawl i gael cyngor cyfreithiol trwy ymgynghori neu gyfathrebu gyda chyfreithiwr, rhaid caniatáu iddo wneud hynny’n breifat. Mae’r hawl hon i ymgynghori neu gyfathrebu yn breifat yn hawl sylfaenol. Os cyfaddawdir ar y gofyniad ynghylch preifatrwydd oherwydd y gallai rhywun arall glywed, gwrando neu ddarllen yr hyn a ddywedir neu’r hyn a ysgrifennir gan y sawl sy’n cael ei gadw neu gan y cyfreithiwr, at ddiben rhoi a chael cyngor cyfreithiol, heb ganiatâd y sawl sy’n cael ei gadw, bydd yr hawl hon wedi cael ei gwadu. Pan fo’r sawl sy’n cael ei gadw yn dewis siarad gyda chyfreithiwr dros y ffôn, dylid rhoi cyfle iddo wneud hynny yn breifat oni bai fod hynny’n anymarferol oherwydd cynllun y man cadw neu leoliad y ffonau. Fodd bynnag, fel arfer disgwylir i’r cyfleusterau fod ar gael ym mhob gorsaf heddlu, oni bai eu bod yn cael eu defnyddio, er mwyn galluogi unigolion yn y ddalfa i siarad â chyfreithiwr yn breifat naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.

6K Nid oes rhaid i’r sawl sy’n cael ei gadw roi rhesymau dros wrthod cyngor cyfreithiol ac ni ddylid ceisio’i ddarbwyllo i wneud hynny.

7 Dinasyddion gwledydd annibynnol y Gymanwlad neu wledydd tramor

(A) Gweithredu

7.1 Gall unrhyw ddinesydd o un o wledydd annibynnol y Gymanwlad neu unrhyw ddinesydd gwlad dramor, gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon, gyfathrebu â’r Uchel Gomisiwn, y Llysgenhadaeth neu’r Gonswliaeth briodol ar unrhyw adeg. Rhaid hysbysu’r sawl sy’n cael ei gadw cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol o’r hawl hon a gofyn a yw’n dymuno i rywun gysylltu â’i Uchel Gomisiwn, ei Lysgenhadaeth neu ei Gonswliaeth, i’w hysbysu o’i leoliad a’r rhesymau dros ei gadw. Dylid ymateb i gais o’r fath cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol. Gweler Nodyn 7A.

7.2 Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn ddinesydd gwlad y ceir cytundeb neu gonfensiwn consylaidd dwyochrog gyda hi, sy’n gofyn, yn unol â pharagraff 7.4, am hysbysu’r Uchel Gomisiwn, Llysgenhadaeth neu Gonswliaeth briodol adeg arestio rhywun o’r wlad honno cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol, yna rhaid hysbysu’r sawl sy’n cael ei gadw o hyn p’un a yw’n gofyn amdano neu beidio. Gellir cael rhestr o’r gwledydd ble mae’r gofyniad hwn yn berthnasol ar hyn o bryd a manylion cyswllt yr Uchel Gomisiynau, Llysgenadaethau neu Gonsyliaethau perthnasol gan Gyfarwyddfa Gonsylaidd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) fel a ganlyn:

7.3 Gall swyddogion consylaidd ymweld â’u dinasyddion yn ystod eu cyfnod yn y ddalfa er mwyn siarad â hwy ac, os oes angen, trefnu cyngor cyfreithiol ar eu cyfer. Cynhelir ymweliadau o’r fath allan o glyw swyddog yr heddlu.

7.4 Er gwaethaf darpariaethau confensiynau consylaidd, os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn hawlio ei fod yn ffoadur neu wedi ymgeisio neu’n bwriadu ymgeisio am loches, rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau yr hysbysir Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) (Asiantaeth Ffiniau’r DU gynt) cyn gynted ag sy’n ymarferol o’r hawliad. Yna bydd UKVI yn penderfynu os yw cydymffurfiad gyda’r rhwymedigaethau rhyngwladol perthnasol yn gofyn am anfon hysbysiad o’r arést a bydd yn hysbysu swyddog y ddalfa pa gamau gweithredu sydd angen i’r heddlu gymryd.

(B) Dogfennaeth

7.5 Gwneir cofnod:

  • pan hysbysir y sawl sy’n cael ei gadw o’i hawliau dan yr adran hon ac unrhyw ofyniad ym mharagraff 7.2;
  • o unrhyw gyfathrebu gydag Uchel Gomisiwn, Llysgenhadaeth neu Gonswliaeth, ac
  • o unrhyw gyfathrebu gydag UKVI ynghylch hawliad sawl sy’n cael ei gadw i fod yn ffoadur neu i geisio lloches a’r camau dilynol a gymerwyd gan yr heddlu.

Nodyn Arweiniad

7A Ni ellir ymyrryd ag ymarfer yr hawliau yn yr adran hon, er bod Atodiad B yn berthnasol.

8 Amodau cadw

(A) Gweithredu

8.1 Cyn belled ag y bod hynny’n ymarferol, ni ddylid cadw mwy nag un person ym mhob cell. Gweler Nodyn 8C.

8.2 Rhaid sicrhau bod y celloedd a ddefnyddir yn cael eu gwresogi, eu glanhau a’u hawyru’n ddigonol. Rhaid eu goleuo’n ddigonol a rhaid gwanhau’r golau yn gyson â diogelwch, er mwyn galluogi pobl sy’n cael ei gadw dros nos i gysgu. Ni ddefnyddir unrhyw gyfyngiadau ychwanegol mewn cell sydd dan glo oni bai fod yn rhaid gwneud hynny, ac wedyn dim ond offer cyfyngu a gymeradwywyd gan y prif swyddog a ganiateir, sy’n rhesymol ac yn angenrheidiol dan yr amgylchiadau, gan ystyried ymddygiad y sawl sy’n cael ei gadw ac er mwyn ceisio sicrhau ei ddiogelwch a diogelwch eraill. Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn fyddar, neu’n berson sy’n agored i niwed,, rhaid cymryd gofal arbennig wrth benderfynu a ddylid defnyddio unrhyw fath o gyfyngiadau a gymeradwywyd.

8.3 Bydd blancedi, matresi, gobennydd a dillad gwely arall a gyflenwir o ansawdd rhesymol ac mewn cyflwr glân a glanweithiol. Gweler Nodyn 8A.

8.4 Rhaid darparu mynediad i gyfleusterau toiled ac ymolchi. Rhaid i hyn ystyried urddas y sawl sy’n cael ei gadw. Gweler Nodyn 8D.

8.5 Os oes angen diosg dillad y sawl sy’n cael ei gadw at ddibenion ymchwilio, am resymau hylendid, iechyd neu lanhau, rhaid eu tynnu gan roi sylw priodol i urddas, sensitifrwydd a bregusrwydd y sawl sy’n cael ei gadw a darperir dillad glân, cyffyrddus ac o safon resymol yn eu lle. Ni ellir cyfweld y sawl sy’n cael ei gadw oni bai ei fod wedi cael cynnig dillad digonol.

8.6 Dylid cynnig o leiaf dau bryd ysgafn ac un prif bryd mewn unrhyw gyfnod 24 awr. Gweler Nodyn 8B. Dylid darparu diod gyda phrydau a rhwng prydau os gwneir cais rhesymol amdanynt. Pan fo angen, gofynnir am gyngor y gweithiwr iechyd proffesiynol priodol, gweler Nodyn 9A, ynghylch materion meddygol a diet. Cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol, bydd y prydau a ddarperir yn cynnig diet amrywiol, gan fodloni unrhyw anghenion diet penodol, neu gredoau crefyddol a allai fod gan y sawl sy’n cael ei gadw. Yn ôl disgresiwn swyddog y ddalfa, gall teulu neu gyfeillion y sawl sy‘n cael ei gadw ddarparu prydau iddo, a thalu amdanynt. Gweler Nodyn 8A.

8.7 Cynigir cyfnodau byr o ymarfer corff yn yr awyr agored bob dydd, os yw hynny’n ymarferol.

8.8 Ni ddylid rhoi person ifanc mewn cell heddlu oni bai nad oes unrhyw safle diogel arall ar gael ac os yw swyddog y ddalfa o’r farn nad yw hi’n ymarferol ei oruchwylio os nad yw’n cael ei roi mewn cell, neu fod cell yn rhoi lle mwy cyffyrddus iddo na man diogel arall yn yr orsaf. Ni ellir rhoi person ifanc mewn cell gydag oedolyn sy’n cael ei gadw.

(B) Dogfennaeth

8.9 Rhaid gwneud cofnod o ddillad a phrydau a gynigir.

8.10 Os rhoddir person ifanc mewn cell, rhaid cofnodi’r rheswm dros wneud hynny.

8.11 Cofnodir y defnydd o unrhyw gyfyngiadau ar y sawl sy’n cael ei gadw tra’i fod mewn cell, y rhesymau dros wneud hynny ac, os yw hynny’n briodol, y trefniadau i oruchwylio’r sawl sy’n cael ei gadw ymhellach ar ôl ei gyfyngu. Gweler paragraff 3.9.

Nodiadau Arweiniad

8A Mae’r ddarpariaeth ym mharagraff 8.3 ac 8.6 yn arbennig o bwysig yn achos unigolyn sy’n debygol o gael ei gadw am gyfnod estynedig. Wrth benderfynu a ddylid caniatáu i deuluoedd neu gyfeillion ddarparu prydau, mae gan swyddog y ddalfa’r hawl i ystyried y risg o eitemau’n cael eu cuddio mewn unrhyw fwyd neu becyn, a dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swyddog o dan ddeddfwriaeth trin bwyd.

8B Cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol, dylid cynnig prydau ar adegau prydau penodol, neu ar adegau eraill sy’n ystyried pryd gafodd y sawl sy’n cael ei gadw bryd o fwyd ddiwethaf.

8C Mae Arfer Proffesiynol Awdurdodedig Cadw a Dalfa (APP) a gynhyrchir gan y Coleg Plismona yn rhoi arweiniad mwy manwl ar faterion yn ymwneud â gofal iechyd a thriniaeth y sawl sy’n cael ei gadw a materion fforensig cysylltiedig y dylid eu darllen ar y cyd ag adrannau 8 a 9 y Cod hwn.

8D Mewn celloedd sy’n destun monitro CCTV, dylid sicrhau preifatrwydd yn ardal y toiled trwy unrhyw fodd priodol a dylid sicrhau bod y rhai sy’n cael eu cadw yn ymwybodol o hyn pan gânt eu rhoi yn y gell. Os yw unigolyn sy’n cael ei gadw neu oedolyn priodol ar ei ran, yn mynegi amheuon ynghylch effeithiolrwydd y modd a ddefnyddir, dylid cymryd camau rhesymol i dawelu’r amheuon hynny, er enghraifft, trwy egluro neu ddangos y modd a ddefnyddir.

9 Gofal a thriniaeth pobl sy’n cael eu cadw

(A) Cyffredinol

9.1 Nid oes unrhyw beth yn yr adran hon yn atal yr heddlu rhag galw ar weithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol i archwilio’r sawl sy’n cael ei gadw, at ddibenion cael tystiolaeth yn ymwneud ag unrhyw drosedd y mae’r sawl sy’n cael ei gadw dan amheuaeth o fod yn gysylltiedig ag ef. Gweler Nodiadau 9A a 8C.

9.2 Os gwneir cwyn gan y sawl sy’n cael ei gadw, neu ar ei ran, ynghylch ei driniaeth ers iddo gael ei arestio, neu os yw’n dod i’r amlwg y gallai’r sawl sy’n cael ei gadw fod wedi cael ei drin yn anghywir, rhaid paratoi adroddiad cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol, i swyddog o safle arolygydd neu uwch, nad yw’n ymwneud â’r ymchwiliad. Os yw’r mater yn ymwneud ag achos posibl o ymosod, neu’r posibilrwydd y defnyddiwyd grym afresymol neu ddiangen, rhaid galw am weithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.

9.3 Yn unol â pharagraff 9.6 yn achos pobl y mae Rheoliadau Deddf Iechyd Meddwl 1983 (Mannau Diogel) 2017 yn berthnasol iddynt, dylid ymweld â’r sawl sy’n cael ei gadw o leiaf unwaith bob hanner awr. Os na nodir unrhyw risg y gellir fod wedi ei ragweld mewn asesiad risg, gweler paragraffau 3.6 i 3.10, nid oes angen deffro person sy’n cysgu. Dylai’r rhai yr amheuir eu bod yn feddw neu dan ddylanwad cyffuriau, neu wedi llyncu cyffuriau, gweler Nodyn 9CA, neu y mae lefel eu hymwybyddiaeth yn destun pryder, yn amodol i unrhyw gyfarwyddiadau clinigol a roddwyd gan y gweithiwr gofal iechyd priodol, gweler paragraff 9.13:

  • gael ymweld â nhw a’u deffro o leiaf bob hanner awr;
  • gael asesu eu cyflwr fel y nodir yn Atodiad ;
  • a threfnu triniaeth glinigol ar eu cyfer os yw hynny’n briodol.

Gweler Nodiadau 9B, 9C a 9H

9.3A Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyrraedd yr orsaf heddlu, rhaid i’r sawl sy’n cael ei gadw gael cyfle i siarad yn breifat ag aelod o staff y ddalfa sydd os ydynt yn dymuno, o’r un rhyw â nhw (gweler paragraff 1.13 (c)), am unrhyw fater sy’n ymwneud ag anghenion personol y sawl sy’n cael ei gadw sy’n gysylltiedig â’i iechyd, hylendid a lles a allai effeithio arno neu achosi pryder iddo tra mae yn y ddalfa. Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn dymuno manteisio ar y cyfle hwn, bydd y trefniadau angenrheidiol yn cael eu gwneud cyn gynted ag sy’n ymarferol. Yn achos person ifanc neu berson sy’n agored i niwed, rhaid i’r oedolyn priodol fod yn rhan o’r drafodaeth yn unol â pharagraff 3.17 ac yn achos merch o dan 18 oed, gweler paragraff 3.20A (gweler Nodyn 9CB).

9.3B Gofynnir, yn breifat os yw’n bosibl, ac ar y cyfle cyntaf i bob benyw dros 18 oed neu hŷn, a oes angen neu a ydynt yn debygol o fod angen unrhyw gynhyrchion mislif tra byddant yn y ddalfa. Rhaid dweud wrthyn nhw y byddan nhw’n cael eu darparu yn rhad ac am ddim a bod cynhyrchion glân ar gael. Yn ôl disgresiwn swyddog y ddalfa, gall teulu neu gyfeillion y sawl sy’n cael ei gadw darparu cynhyrchion mislif, a thalu amdanynt (gweler Nodyn 9CC). Yn achos merched o dan 18 oed, gweler paragraff 3.20A;

9.4 Pan wneir trefniadau i sicrhau sylw clinigol ar gyfer y sawl sy’n cael ei gadw, rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau y darperir yr holl wybodaeth berthnasol a allai gynorthwyo wrth drin cyflwr y sawl sy’n cael ei gadw i’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyfrifol. Mae hyn yn berthnasol os yw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn am wybodaeth o‘r fath neu beidio. Rhaid i unrhyw swyddog neu staff heddlu sydd â’r wybodaeth berthnasol hysbysu swyddog y ddalfa cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.

(B) Sylw a thriniaeth glinigol

9.5 Rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau bod y sawl sy’n cael ei gadw yn cael sylw clinigol priodol cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol os:

  • (a) yw hi’n ymddangos bod y person yn dioddef salwch corfforol; neu
  • (b) os yw wedi ei anafu; neu
  • (c) os yw’n ymddangos ei fod yn dioddef anhwylder meddwl; neu
  • (d) os yw’n ymddangos bod angen sylw clinigol arno.

9.5A Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os nad yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn gofyn am sylw clinigol ac os yw wedi cael sylw clinigol mewn rhywle arall eisoes neu beidio. Os yw’n ymddangos bod angen sylw brys arno, e.e. fel nodir yn Atodiad H, rhaid galw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd ar gael neu ambiwlans yn syth.

9.5B Mae’n rhaid i swyddog y ddalfa hefyd ystyried yr angen am sylw clinigol fel nodwyd yn Nodyn 9C mewn perthynas â rhai sy’n dioddef effeithiau alcohol a chyffuriau.

9.6 Nid diben Paragraff 9.5 yw atal neu ohirio trosglwyddo person a gedwir o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, adran 135 a 136, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017, i’r ysbyty os oes angen. Gweler Nodyn 9D. Pan fydd asesiad o dan y Ddeddf honno i gael ei gynnal mewn gorsaf heddlu (gweler paragraff 3.16) rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau hefyd yn unol â Rheoliadau Deddf Iechyd Meddwl 1983 (Mannau Diogel) 2017, bod gweithiwr iechyd proffesiynol yn bresennol ac ar gael i’r unigolyn trwy gydol y cyfnod y caiff ei gadw yng ngorsaf yr heddlu a bod y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwirio lles y sawl sy’n cael ei gadw o leiaf unwaith bob trideg munud a bod unrhyw gamau priodol ar gyfer gofal a thriniaeth y sawl sy’n cael ei gadw yn cael eu cymryd.

9.7 Os yw hi’n ymddangos i swyddog y ddalfa ei bod hi’n bosibl bod person sy’n cyrraedd yr orsaf ar ôl cael ei arestio, yn dioddef clefyd neu gyflwr heintus, neu os oes rhywun yn dweud hynny wrth swyddog y ddalfa, rhaid iddo gymryd camau rhesymol i ddiogelu iechyd y sawl sy’n cael ei gadw ac eraill yn yr orsaf. Wrth benderfynu pa gamau i’w cymryd, rhaid gofyn am gyngor gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol. Gweler Nodyn 9E. Mae gan swyddog y ddalfa’r disgresiwn i gadw’r person a’i eiddo ar wahân nes y ceir cyfarwyddiadau clinigol.

9.8 Os bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn gofyn am archwiliad clinigol, rhaid galw ar weithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol er mwyn asesu anghenion clinigol y sawl sy’n cael ei gadw. Os na ellir darparu cynllun gofal priodol a diogel, rhaid gofyn am gyngor gweithiwr gofal iechyd priodol. Gall y sawl sy’n cael ei gadw ddewis ymarferwr meddygol i’w archwilio hefyd, a thalu amdano.

9.9 Os oes rhaid i’r sawl sy’n cael ei gadw gymryd neu ddefnyddio unrhyw feddyginiaeth er mwyn cydymffurfio â chyfarwyddiadau clinigol a roddwyd iddo cyn ei ddwyn i’r ddalfa, rhaid i swyddog y ddalfa ymgynghori â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol cyn defnyddio’r feddyginiaeth. Yn unol â chyfyngiadau paragraff 9.10, mae swyddog y ddalfa yn gyfrifol am gadw unrhyw feddyginiaeth yn ddiogel ac am sicrhau bod y sawl sy’n cael ei gadw yn cael cyfle i gymryd neu ddefnyddio meddyginiaeth a ragnodwyd neu a gymeradwywyd. Nodir unrhyw ymgynghori o’r fath, a’i ganlyniad, yn y cofnod cadw.

9.10 Ni chaniateir i unrhyw swyddog heddlu roi cyffuriau a reolir a roddwyd ar bresgripsiwn meddygol, neu oruchwylio’r person yn eu rhoi iddo’i hun, fel y mathau a’r ffurfiau a restrir yn Rheoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, Atodlen 2 neu 3. Yr unig adeg y gall y sawl sy’n cael ei gadw roi cyffuriau o’r fath iddo’i hun yw dan oruchwyliaeth yr ymarferwr meddygol cofrestredig sy’n awdurdodi y gellir eu defnyddio. Gall swyddog y ddalfa oruchwylio hunan weinyddu, neu awdurdodi staff eraill y ddalfa i oruchwylio hunan weinyddu, cyffuriau a restrir yn Atodlen 4 neu 5 os yw’r swyddog wedi ymgynghori â’r gweithiwr gofal iechyd priodol sy’n awdurdodi y gellir eu defnyddio, a’u bod ill dau yn fodlon na fydd hunan weinyddu yn amlygu’r sawl sy’n cael ei gadw, swyddogion yr heddlu nac unrhyw un arall, mewn perygl o gael niwed neu anaf.

9.11 Pan fo gweithiwyr gofal iechyd proffesiynol priodol yn rhoi neu’n awdurdodi defnyddio cyffuriau neu feddyginiaethau eraill, neu’n goruchwylio unigolion yn eu cymryd eu hunain neu’n ymgynghori â swyddog y ddalfa ynghylch caniatáu hunan weinyddu o gyffuriau a restrir yn Atodlen 4 neu 5, rhaid i hyn gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth bresennol ynghylch meddyginiaethau a chwmpas ymarfer fel y pennwyd gan eu corff statudol rheoleiddiol perthnasol.

9.12 Os oes gan y sawl sy’n cael ei gadw feddyginiaeth yn ymwneud â chyflwr ar y galon, diabetes, epilepsi neu gyflwr sy’n gallu bod yr un mor ddifrifol, neu os yw’n honni bod angen meddyginiaeth o’r fath arno, rhaid cael cyngor y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol, hyd yn oed os na fydd paragraff 9.5 o bosib yn berthnasol.

9.13 Pan elwir ar y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol yn unol â’r adran hon i archwilio neu drin y sawl sy’n cael ei gadw, bydd swyddog y ddalfa yn gofyn ei farn am:

  • unrhyw beryglon neu broblemau y bydd angen i’r heddlu eu hystyried wrth wneud penderfyniadau ynghylch parhau i gadw’r person;
  • pryd i gynnal cyfweliad os yw hynny’n berthnasol; ac
  • yr angen am fesurau diogelwch.

9.14 Pan roddir cyfarwyddiadau clinigol gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol, ar lafar neu ar bapur, ac os oes gan swyddog y ddalfa unrhyw amheuon neu os yw’n ansicr ynghylch unrhyw agwedd ar y cyfarwyddiadau, bydd swyddog y ddalfa yn gofyn am eglurhad. Mae’n arbennig o bwysig bod y cyfarwyddiadau ynghylch amlder ymweliadau yn eglur, yn fanwl ac yn gallu cael eu gweithredu. Gweler Nodyn 9F.

(C) Dogfennaeth

9.15 Rhaid cofnodi’r canlynol yn y cofnod cadw:

  • (a) y trefniadau a wnaed i archwilio’r person gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol o dan baragraff 9.2 ac unrhyw gŵyn a adroddir dan y paragraff hwnnw ynghyd ag unrhyw sylwadau perthnasol gan swyddog y ddalfa;
  • (b) unrhyw drefniadau a wneir yn unol â pharagraff 9.5;
  • (c) unrhyw gais am archwiliad clinigol o dan baragraff 9.8 ac unrhyw drefniadau a wnaethpwyd mewn ymateb i hyn;
  • (d) yr anaf, salwch, cyflwr neu’r rheswm arall a olygodd bod angen gwneud y trefniadau yn (a) i (c); Gweler Nodyn 9G.
  • (e) unrhyw gyfarwyddiadau a chyngor clinigol, gan gynnwys unrhyw esboniadau pellach a roddir i’r heddlu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol ynghylch gofal a thriniaeth y sawl sy’n cael ei gadw, yn ymwneud ag unrhyw un o’r trefniadau a wnaethpwyd yn (a) i (c); Gweler Nodiadau 9E a 9F.
  • (f) os yn berthnasol, yr ymateb a gafwyd wrth geisio deffro person trwy ddefnyddio’r drefn yn Atodiad H. Gweler Nodyn 9H.

9.16 Os na fydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cofnodi ei ganfyddiadau clinigol yn y cofnod cadw, rhaid i’r cofnod ddangos lle y cânt eu cofnodi. Gweler Nodyn 9G. Fodd bynnag, rhaid cofnodi gwybodaeth sy’n angenrheidiol ar gyfer staff cadw. er mwyn sicrhau gofal a lles parhaus y sawl sy’n cael ei gadw, yn agored yn y cofnod cadw gweler paragraff 3.8 ac Atodiad G, paragraff 7.

9.17 Yn amodol i ofynion Adran 4, bydd y cofnod cadw yn cynnwys:

  • cofnod o’r holl feddyginiaeth a oedd gan y sawl sy’n cael ei gadw pan gyrhaeddodd orsaf yr heddlu;
  • nodyn o unrhyw feddyginiaeth o’r fath y mae’n honni bod ei hangen, ond nad oes ganddo.

Nodiadau Arweiniad

9A Mae ‘gweithiwr gofal iechyd proffesiynol’ yn golygu person sydd â chymwysterau clinigol ac sy’n gweithio yng nghwmpas ymarfer a bennwyd gan ei gorff proffesiynol perthnasol. Mae penderfynu a yw gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ‘briodol’ neu beidio yn dibynnu ar amgylchiadau’r dyletswyddau a gyflawnir ganddo ar y pryd.

9B Ble bynnag fo’n bosibl, dylid ymweld ag unigolion ifanc ac unigolion sy’n agored i niwed yn fwy cyson yn ystod eu cyfnod cadw.

9C Gallai person sy’n ymddangos yn feddw neu sy’n ymddwyn yn annormal fod yn dioddef o salwch, effeithiau cyffuriau neu wedi cael ei anafu, yn enwedig anaf i’r pen nad yw’n amlwg. Gallai person sydd angen neu sy’n ddibynnol ar gyffuriau arbennig, gan gynnwys alcohol, brofi effeithiau niweidiol o fewn cyfnod byr, o beidio â chael ei gyflenwad o gyffuriau. Dan yr amgylchiadau hyn, pan geir unrhyw amheuaeth, dylai’r heddlu ymateb ar fyrder trwy alw gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol neu ambiwlans. Nid yw paragraff 9.5 yn berthnasol i salwch na mân anafiadau nad oes angen rhoi sylw iddynt. Fodd bynnag, rhaid cofnodi pob salwch neu anaf o’r fath yn y cofnod cadw a rhaid datrys unrhyw amheuaeth trwy alw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol.

9CA Byddai Paragraff 9.3 yn berthnasol i berson yn nalfa’r heddlu trwy orchymyn llys ynadon o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988, adran 152 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyffuriau 2005, adran 8) i hwyluso canfod tystiolaeth ar ôl cael ei gyhuddo o fod ym meddiant cyffuriau neu gyflenwi cyffuriau ac amheuaeth o fod wedi llyncu cyffuriau. Yn achos anghenion gofal iechyd rhywun sydd wedi llyncu cyffuriau, dylai swyddog y ddalfa, yn amodol ar unrhyw gyfarwyddiadau clinigol, ystyried yr angen i ddeffro’r unigolyn bob hanner awr. Nid yw hyn yn dileu’r angen i ymweld yn rheolaidd â’r sawl sy’n cael ei gadw yn ei gell.

9CB Mae materion sy’n ymwneud ag anghenion personol y mae paragraff 9.3A yn berthnasol iddynt yn cynnwys unrhyw ofyniad am gynhyrchion mislif ac anymataliaeth ac offer colostomi, lle na nodwyd yr anghenion hyn o’r blaen (gweler paragraff 3.5 (c)). Mae hefyd yn galluogi menywod sy’n oedolion i siarad yn breifat â swyddog benywaidd am eu gofynion ar gyfer cynhyrchion mislif os ydynt yn gwrthod ymateb i’r ymholiad mwy uniongyrchol a ragwelir o dan baragraff 9.3B. Dylid hwyluso’r cyswllt hwn ar unrhyw adeg, lle bo hynny’n bosibl.

9CC Mae Arweiniad manwl ar gyfer swyddogion heddlu a staff ynghylch menywod sy’n cael eu mislif yn nalfa’r heddlu wedi’u cynnwys yn Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig (APP) y Coleg Plismona (APP).

9D Ac eithrio fel y caniateir o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Mannau Diogel) Rheoliadau 2017, ni ddylid defnyddio gorsaf heddlu fel man diogel i bobl sy’n cael eu cadw o dan adran 135 neu 136 o’r Ddeddf honno. Mae Pennod 16 o God Ymarfer Deddf Iechyd Meddwl 1983 (fel y’i diwygiwyd) yn rhoi canllaw mwy manwl ynghylch trefnu asesiadau dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a throsglwyddo rhai sy’n cael eu cadw o orsafoedd heddlu i fannau diogel eraill. Cyhoeddwyd canllawiau ychwanegol mewn perthynas â’r diwygiadau a wnaed i’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn 2017.

9E Mae’n bwysig parchu hawl person i breifatrwydd a rhaid cadw gwybodaeth am ei iechyd yn gyfrinachol a’i ddatgelu ar ôl cael ei ganiatâd neu’n unol â chyngor clinigol pan fo angen amddiffyn iechyd y sawl sy’n cael ei gadw neu iechyd eraill sy’n ymwneud ag ef.

9F Dylai swyddog y ddalfa geisio egluro cyfarwyddiadau bod angen arsylwi neu oruchwylio’r sawl sy’n cael ei gadw yn gyson, a dylai ofyn i’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol esbonio’n union pa gamau y mae angen eu cymryd er mwyn ymgorffori cyfarwyddiadau o’r fath.

9G Nid yw paragraffau 9.15 a 9.16 yn gofyn am gofnodi unrhyw wybodaeth am achos unrhyw anaf, salwch neu gyflwr yn y cofnod cadw os yw’n ymddangos ei fod yn gallu darparu tystiolaeth am drosedd.

9H Diben cofnodi ymatebion person wrth geisio’i ddeffro trwy ddefnyddio’r drefn yn Atodiad H yw galluogi nodi unrhyw newid yn lefel ymwybyddiaeth y person, a threfnu triniaeth glinigol os yw hynny’n briodol.

10 Rhybuddion

(A) Pryd y mae’n rhaid rhoi rhybudd

10.1 Rhaid rhoi rhybudd i berson pan fydd sail i amau ei fod wedi cyflawni trosedd, gweler Nodyn 10A, cyn ei holi ynghylch trosedd, neu ofyn cwestiynau pellach iddo os yw’r atebion yn sail i’w amau, os gellir defnyddio atebion neu ddistawrwydd y sawl sydd dan amheuaeth, (h.y. methu neu wrthod ag ateb neu ateb yn foddhaol) fel tystiolaeth mewn llys wrth erlyn. Ni fydd angen rhoi rhybudd i berson os oes angen gofyn y cwestiynau at ddibenion angenrheidiol eraill, e.e.:

  • (a) i sefydlu pwy yw neu berchnogaeth unrhyw gerbyd yn unig;
  • (b) er mwyn cael gwybodaeth yn unol ag unrhyw ofyniad statudol perthnasol, gweler paragraff 10.9;
  • (c) i hybu chwiliad cywir ac effeithiol, e.e. i bennu’r angen i chwilio wrth arfer pwerau stopio a chwilio neu i geisio cydweithrediad wrth gyflawni chwiliad; neu
  • (d) er mwyn dilysu cofnod ysgrifenedig fel nodir ym mharagraff 11.13.
  • (e) Heb ei ddefnyddio.

10.2 Pan fo person na chafodd ei arestio yn cael ei rybuddio gyntaf, neu ei atgoffa ei fod dan rybudd, rhaid hysbysu’r person hwnnw hefyd ar yr un pryd nad yw wedi cael ei arestio a rhaid ei hysbysu o ddarpariaethau paragraff 3.21 i 3.21B sy’n esbonio bod angen iddo gytuno i gael ei gyfweld, sut y gall gael cyngor cyfreithiol yn ddibynnol ar os yw mewn gorsaf heddlu neu rywle arall a hawliau eraill sy’n berthnasol i gyfweliad gwirfoddol. Gweler Nodyn 10C.

10.3 Rhaid hysbysu person sy’n cael ei arestio, neu ei arestio ymhellach, ar yr adeg honno, neu os nad, cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi hynny, ei fod wedi cael ei arestio a’r rhesymau dros ei arestio, gweler paragraff 3.4, Nodyn 10B a Chod G, paragraffau 2.2 a 4.3.

10.4 Fel sy’n ofynnol yn Cod G, adran 3, rhaid rhoi rhybudd i berson sy’n cael ei arestio, neu ei arestio ymhellach, oni bai:

  • (a) nad yw hi’n ymarferol gwneud hynny oherwydd ei gyflwr neu ymddygiad ar y pryd;
  • (b) fod rhybudd eisoes wedi’i rhoi iddo cyn ei arestio fel nodir ym mharagraff 10.1.

(B) Amodau’r rhybuddion

10.5 Dylai’r rhybudd, y mae’n rhaid ei roi:

  • (a) wrth arestio rhywun; neu
  • (b) ar bob achlysur arall cyn cyhuddo rhywun neu ei hysbysu y gallai gael ei erlyn, gweler adran 16,

oni bai fod y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol, gweler Atodiad C, ddilyn y ffurf ganlynol:

“You do not have to say anything. But it may harm your defence if you do not mention when questioned something which you later rely on in Court. Anything you do say may be given in evidence.”

Ble mae’n briodol i ddefnyddio’r Gymraeg, gall cwnstabl ddarparu’r rhybudd yn uniongyrchol yn Gymraeg yn y termau canlynol:

“Does dim rhaid i chi ddweud dim byd. Ond gall niweidio eich amddiffyniad os na fyddwch chi’n sôn, wrth gael eich holi, am rywbeth y byddwch chi’n dibynnu arno nes ymlaen yn y Llys. Gall unrhyw beth yr ydych yn ei ddweud gael ei roi fel tystiolaeth.”

Gweler Nodyn 10G

10.6 Mae Atodiad C, paragraff 2 yn nodi termau amgen y rhybudd i’w roi pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol.

10.7 Nid yw achosion o wyro ychydig ar eiriad unrhyw rybudd a roddir yn unol â’r Cod yma, yn golygu y torrir y Cod yma, ar yr amod bod ystyr y rhybudd perthnasol wedi’i ddiogelu. Gweler Nodyn 10D.

10.8 Ar ôl unrhyw doriad wrth holi rhywun ar ôl rhoi rhybudd iddo, rhaid sicrhau bod y person a holir yn ymwybodol ei fod yn parhau i fod dan rybudd. Os ceir unrhyw amheuaeth, rhaid rhoi’r rhybudd perthnasol unwaith eto yn llawn ar ôl i’r cyfweliad ailgychwyn. Gweler Nodyn 10E.

10.9 Os bydd unigolyn, er ei fod wedi cael ei rybuddio, yn parhau i fethu â chydweithredu neu ateb cwestiynau penodol a allai effeithio ar y ffordd y bydd yn cael ei drin, dylid hysbysu’r person o unrhyw oblygiadau perthnasol, ac na effeithir ar y goblygiadau hynny gan y rhybudd. Mae enghreifftiau’n cynnwys pan fo person yn gwrthod darparu:

  • ei enw a’i gyfeiriad wrth ei gyhuddo, a allai olygu y bydd yn rhaid ei gadw;
  • manylion a gwybodaeth yn unol â gofyniad statudol, e.e. o dan Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988, a allai olygu trosedd neu olygu y gellir arestio’r person ymhellach.

(C) Rhybuddion arbennig dan y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, adrannau 36 a 37

10.10 Pan fo’r sawl sydd dan amheuaeth yn cael ei gyfweld mewn gorsaf heddlu neu fan cadw awdurdodedig ar ôl ei arestio, ac yn methu ag ateb neu’n gwrthod ateb cwestiynau penodol, neu ateb yn foddhaol ar ôl rhoi rhybudd digonol, gweler Nodyn 10F, gall llys neu reithgor ddod i gasgliadau sy’n briodol o dan y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, adrannau 36 a 37. Yr unig adeg y gellir dod i gasgliadau o’r fath yw:

  • (a) pan na fydd y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd, gweler Atodiad C, yn berthnasol; ac
  • (b) os yw’r sawl sydd dan amheuaeth yn cael ei arestio gan heddwas ac yn methu esbonio neu’n gwrthod esbonio unrhyw wrthrychau, marciau neu sylweddau, neu farciau ar wrthrychau o’r fath a ganfuwyd:
    • arno’n bersonol;
    • yn neu ar ei ddillad neu ei esgidiau;
    • yn ei feddiant fel arall; neu
    • yn y man lle cafodd ei arestio;
  • (c) pan fydd heddwas wedi dod o hyd i’r sawl sydd dan amheuaeth mewn man neu oddeutu’r un adeg pryd yr honnwyd y cyflawnwyd y drosedd y cafodd ei arestio yn ei gylch, ac os yw’r sawl sydd dan amheuaeth yn methu neu’n gwrthod esbonio’i bresenoldeb yno.

Pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol, efallai y gofynnir i’r sawl sydd dan amheuaeth roi cyfrif am unrhyw un o’r materion yn (b) neu (c) ond ni fydd y rhybudd arbennig a ddisgrifiwyd ym mharagraff 10.11 yn berthnasol ac ni ddylid ei roi.

10.11 Er mwyn ffurfio casgliad pan fo’r sawl sydd dan amheuaeth yn methu neu’n gwrthod ateb cwestiwn ynghylch un o’r materion hyn neu’n methu neu wrthod â’i ateb yn foddhaol, rhaid hysbysu’r sawl sydd dan amheuaeth, mewn iaith gyffredin:

  • (a) o ba drosedd yr ymchwilir iddo;
  • (b) o ba ffaith y gofynnir iddo ei hesbonio;
  • (c) y gallai’r ffaith hon fod oherwydd iddo gymryd rhan wrth gomisiynu’r drosedd;
  • (d) y gallai llys ddod i gasgliad priodol os yw’n methu neu’n gwrthod esbonio’r ffaith hon; a
  • (e) bod cofnod yn cael ei baratoi o’r cyfweliad ac y gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth pe bai achos yn deillio o’r mater.

(D) Pobl ifanc a phobl sy’n agored i niwed

10.11A Ni ddylid rhoi’r wybodaeth sy’n ofynnol ym mharagraff 10.11 i rywun dan amheuaeth os yw’n berson ifanc neu’n berson sy’n agored i niwed oni bai bod yr oedolyn priodol yn bresennol.

10.12 Os rhoddir rhybudd i berson ifanc neu berson sy’n agored i niwed, yn absenoldeb yr oedolyn priodol, rhaid ailadrodd y rhybudd ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol.

10.12A Heb ei ddefnyddio.

(E) Dogfennaeth

10.13 Gwneir cofnod pan roddir rhybudd dan yr adran hon, naill ai yn llyfr poced y cyfwelydd neu yng nghofnod y cyfweliad.

Nodiadau Arweiniad

10A Rhaid bod peth sail resymol a gwrthrychol dros amau rhywun, yn seiliedig ar ffeithiau hysbys neu wybodaeth sy’n berthnasol i’r tebygolrwydd bod y drosedd wedi cael ei chyflawni a bod y person a holir, wedi’i gyflawni.

10B Rhaid rhoi digon o wybodaeth i berson sy’n cael ei arestio er mwyn ei alluogi i ddeall y cyfyngwyd ar ei ryddid a’r rheswm dros ei arestio, e.e. pan fo person yn cael ei arestio dan amheuaeth o gyflawni trosedd, rhaid ei hysbysu ynghylch natur y drosedd yr amheuir iddo’i chyflawni, pryd a ble y’i cyflawnwyd. Rhaid hysbysu’r sawl sydd dan amheuaeth hefyd o’r rheswm neu’r rhesymau pam fod arestio yn angenrheidiol. Dylid osgoi iaith annelwig neu dechnegol.

10C Nid yw’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau oherwydd distawrwydd, gweler Atodiad C, paragraff 1, yn berthnasol ar gyfer person nad yw wedi cael ei gadw ac felly, na ellir ei atal rhag gofyn am gyngor cyfreithiol os yw’n dymuno gwneud hynny, gweler paragraff 3.21.

10D Os yw’n ymddangos nad yw person yn deall y rhybudd, rhaid i ‘r un sy’n ei roi ei esbonio yn ei eiriau ei hun.

10E Efallai y bydd angen dangos i’r llys na ddigwyddodd unrhyw beth yn ystod egwyl cyfweliad neu rhwng cyfweliadau a ddylanwadodd ar dystiolaeth a gofnodwyd y sawl sydd dan amheuaeth. Ar ôl egwyl mewn cyfweliad neu ar ddechrau cyfweliad dilynol, dylai’r swyddog cyfweld roi crynodeb o’r rheswm dros yr egwyl a chadarnhau hynny gyda’r sawl sydd dan amheuaeth.

10F Mae Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, adrannau 36 a 37, yn berthnasol i unigolion dan amheuaeth a arestiwyd gan gwnstabl neu swyddog Cyllid a Thollau yn unig, ac y rhoddir y rhybudd perthnasol iddynt gan yr heddlu neu’r swyddog Cyllid a Thollau sy’n eu harestio, neu sy ‘n ymchwilio i’r drosedd. Nid ydynt yn berthnasol i unrhyw gyfweliadau gyda’r rhai nad ydynt wedi cael eu harestio.

10G Nid oes unrhyw ran o’r Cod yma yn mynnu y dylid rhoi rhybudd neu ailadrodd rhybudd wrth hysbysu rhywun nad yw wedi cael ei arestio, y gellir ei erlyn am drosedd. Fodd bynnag, ni fydd llys barn yn gallu dod i unrhyw gasgliadau dan y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, adran 34, os na roddwyd rhybudd i’r person.

11 Cyfweliadau - cyffredinol

(A) Gweithredu

11.1A Ystyr cyfweliad yw’r drefn o gwestiynu person ynghylch ei ymwneud neu amheuaeth o ymwneud â throsedd neu droseddau, y mae’n rhaid ei gynnal ar ôl rhoi rhybudd i’r person, yn unol â pharagraff 10.1. Cyn cyfweld rhywun, rhaid rhoi digon o wybodaeth i’r unigolyn ac, os yw wedi ei gynrychioli, ei gyfreithiwr, i’w galluogi i ddeall natur trosedd o’r fath, a pham ei fod dan amheuaeth o’i chyflawni (gweler paragraffau 3.4(a) a 10.3), er mwyn caniatáu ar gyfer ymarfer effeithiol o hawliau’r amddiffyn. Fodd bynnag, tra bod yn rhaid i’r wybodaeth fod yn ddigonol i’r person ddeall natur unrhyw drosedd (gweler Nodyn 11ZA), nid yw hyn yn gofyn am ddatgelu manylion ar adeg ble gallai beryglu’r ymchwiliad troseddol. Felly’r swyddog ymchwilio sydd â dealltwriaeth ddigonol o’r achos sydd i wneud y penderfyniad ynghylch beth ddylid ei ddatgelu i ddiben y gofyniad hwn. Bydd y swyddog sy’n datgelu’r wybodaeth yn gwneud cofnod o’r wybodaeth a ddatgelwyd a phryd y’i datgelwyd. Gellir gwneud y cofnod hwn yng nghofnod y cyfweliad, yn llyfr adrodd y swyddog neu ar ffurflen arall a ddarperir i’r diben hwn. Nid yw gweithdrefnau dan y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, adran 7 na’r Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992, adran 31 yn cyfateb i gyfweld i ddiben y cod yma.

11.1 Ar ôl penderfynu arestio person dan amheuaeth, ni ddylid ei gyfweld ynghylch y drosedd dan sylw mewn unrhyw le ar wahân i orsaf heddlu neu le cadw arall a awdurdodwyd, ac eithrio lle gallai’r oedi dilynol fod yn debygol o:

  • (a) arwain at:
    • ymyrryd neu niweidio tystiolaeth sy’n gysylltiedig â throsedd;
    • ymyrryd â phobl eraill, neu achosi niwed corfforol iddynt; neu
    • golled neu ddifrod difrifol i eiddo;
  • (b) arwain at hysbysu pobl eraill sydd dan amheuaeth o gyflawni trosedd, ond nad ydynt wedi cael eu harestio am y drosedd hyd yma; neu
  • (c) amharu ar y gwaith o adennill eiddo a gafwyd o ganlyniad i gomisiynu trosedd.

O dan unrhyw un o’r amgylchiadau hyn, bydd y cyfweliad yn dod i ben unwaith y mae’r risg perthnasol wedi’i osgoi neu unwaith y gofynnir y cwestiynau angenrheidiol er mwyn ceisio osgoi’r risg hwnnw.

11.2 Yn union cyn cychwyn neu ailgychwyn unrhyw gyfweliad mewn gorsaf heddlu neu fan cadw arall awdurdodedig, dylai’r cyfwelydd atgoffa’r sawl sydd dan amheuaeth o’i hawl i gael cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim ac y gellir gohirio’r cyfweliad er mwyn iddo gael cyngor cyfreithiol, oni bai fod un o’r eithriadau ym mharagraff 6.6 yn berthnasol. Y cyfwelydd sy’n gyfrifol am sicrhau y cofnodir yr holl achosion o atgoffa yng nghofnod y cyfweliad.

11.3 Heb ei ddefnyddio.

11.4 Ar ddechrau cyfweliad, bydd y cyfwelydd, ar ôl rhybuddio’r sawl sydd dan amheuaeth, gweler adran 10, yn sôn wrtho am unrhyw ddatganiad neu ddistawrwydd arwyddocaol a ddigwyddodd ym mhresenoldeb ac yng nghlyw swyddog yr heddlu neu staff heddlu eraill cyn dechrau’r cyfweliad ac na soniwyd wrth y sawl sydd dan amheuaeth amdano yn ystod y cyfweliad blaenorol. Gweler Nodyn 11A. Bydd y cyfwelydd yn gofyn i’r sawl sydd dan amheuaeth a yw’n cadarnhau neu’n gwadu’r datganiad neu’r distawrwydd blaenorol hwnnw ac a yw’n dymuno ychwanegu unrhyw beth.

11.4A Ystyr datganiad arwyddocaol yw datganiad y mae’n ymddangos y gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y sawl sydd dan amheuaeth, yn arbennig, cyfaddefiad uniongyrchol ei fod yn euog. Ystyr distawrwydd arwyddocaol yw methu neu wrthod ateb cwestiwn neu fethu neu wrthod ateb cwestiwn yn foddhaol ar ôl rhybuddio rhywun, a allai arwain, gan ystyried y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd, gweler Atodiad C, at gasgliad dan y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, Rhan III.

11.5 Ni fydd unrhyw gyfwelydd yn ceisio cael atebion neu gael datganiad yn uniongyrchol trwy ormesu rhywun. Ac eithrio sefyllfa mharagraff 10.9, ni fydd unrhyw gyfwelydd yn nodi, oni bai ei fod yn ateb cwestiwn uniongyrchol, y camau y bydd yr heddlu’n eu cymryd os bydd y person a holir yn ateb cwestiynau, yn gwneud datganiad neu’n gwrthod gwneud yr un o’r ddau. Os yw’r person yn gofyn yn uniongyrchol pa gamau a gymerir os bydd yn ateb cwestiynau, gwneud datganiad neu’n gwrthod gwneud yr un o’r ddau, fe all y cyfwelydd ddweud wrtho pa gamau y mae’r heddlu yn bwriadu eu cymryd ar yr amod bod y camau hynny’n briodol ac yn gyfiawn.

11.6 Rhaid i gyfweliad neu gyfweliad pellach gyda pherson ynghylch trosedd nad yw’r person hwnnw wedi cael ei gyhuddo o’i gyflawni, neu nad yw wedi cael gwybod y gallai gael ei erlyn yn ei gylch, ddod i ben:

  • (a) pan fo’r swyddog sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad wedi’i fodloni bod yr holl gwestiynau y mae’n eu hystyried sy’n berthnasol er mwyn cael gwybodaeth gywir a dibynadwy am y drosedd, wedi eu gofyn i’r sawl sydd dan amheuaeth. Mae hyn yn cynnwys rhoi’r cyfle i’r sawl sydd dan amheuaeth roi esboniad diniwed a gofyn cwestiynau er mwyn profi bod yr esboniad yn gywir a dibynadwy, e.e. er mwyn dileu unrhyw amwysedd neu egluro’r hyn a ddywedodd y sawl sydd dan amheuaeth;
  • (b) pan fo’r swyddog sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad wedi ystyried unrhyw dystiolaeth arall sydd ar gael; a
  • (c) pan fo’r swyddog sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad, neu yn achos person dan amheuaeth sy’n cael ei gadw, swyddog y ddalfa, gweler paragraff 16.1, o’r farn resymol bod digon o dystiolaeth i sicrhau cyfle realistig o gollfarnu’r person o gyflawni’r drosedd yma. Gweler Nodyn 11B.

Nid yw’r paragraff hwn yn atal swyddogion mewn achosion refeniw neu sy’n gweithredu dan ddarpariaethau atafaelu Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988 neu’r Ddeddf Masnachu Cyffuriau 1994, rhag gwahodd unigolion dan amheuaeth i lenwi cofnod holi ac ateb ffurfiol ar ôl i’r cyfweliad ddod i ben.

(B) Cofnodion cyfweld

11.7

  • (a) Rhaid gwneud cofnod cywir o bob cyfweliad, os cynhelir y cyfweliad mewn gorsaf heddlu neu beidio.
  • (b) Rhaid i’r cofnod nodi lleoliad y cyfweliad, yr amser y mae’n cychwyn ac yn dod i ben, unrhyw doriad yn ystod y cyfweliad ac, yn unol â pharagraff 2.6A, enwau’r holl rai sy’n bresennol; a rhaid ei wneud ar y ffurflenni a ddarperir at y diben hwn neu yn llyfr poced y cyfwelydd neu’n unol â Chodau Ymarfer E neu F.
  • (c) Rhaid gwneud a chwblhau unrhyw gofnod ysgrifenedig yn ystod y cyfweliad, oni bai na fyddai hyn yn ymarferol neu y byddai’n amharu ar y cyfweliad, ac mae’n rhaid iddo fod naill ai’n gofnod gair am air o’r hyn a ddwedwyd neu, os nad yw hynny’n bosibl, cofnod o’r cyfweliad sy’n rhoi crynodeb digonol a chywir ohono.

11.8 Os na wneir cofnod ysgrifenedig yn ystod y cyfweliad, rhaid ei wneud cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl ei gwblhau.

11.9 Rhaid i’r un sy’n paratoi’r cofnodion cyfweld ysgrifenedig nodi’r amser a’u llofnodi.

11.10 Os na chwblheir cofnod ysgrifenedig yn ystod y cyfweliad, rhaid cofnodi’r rheswm dros hyn yng nghofnod y cyfweliad.

11.11 Oni bai fod hynny’n anymarferol, rhoddir cyfle i’r un a gyfwelir ddarllen cofnod y cyfweliad a llofnodi ei fod yn gywir, neu nodi sut mae’n ystyried ei fod yn anghywir. Os nad yw’r un a gyfwelwyd yn gallu darllen neu os yw’n gwrthod darllen y cofnod neu ei lofnodi, bydd yr uwch gyfwelydd yn ei ddarllen iddo ac yn gofyn a hoffai lofnodi ei fod yn gywir neu farcio neu nodi sut y mae’n anghywir yn ei farn ef. Bydd y cyfwelydd yn nodi’r hyn a ddigwyddodd yng nghofnod y cyfweliad. Gweler Nodyn 11E.

11.12 Os yw’r oedolyn priodol neu gyfreithiwr y person yn bresennol yn ystod y cyfweliad, dylid rhoi’r cyfle iddynt ddarllen a llofnodi cofnod y cyfweliad neu unrhyw ddatganiad ysgrifenedig a gofnodwyd yn ystod y cyfweliad hefyd.

11.13 Gwneir cofnod ysgrifenedig o unrhyw sylwadau a wnaed gan y sawl sydd dan amheuaeth, gan gynnwys sylwadau na ofynnwyd amdanynt, sydd y tu allan i gyd-destun cyfweliad ond a allai fod yn berthnasol i’r drosedd. Rhaid i’r un a wnaeth gofnod o’r fath nodi’r amser a llofnodi’r cofnod. Pan fo hynny’n ymarferol, rhoddir cyfle i’r sawl sydd dan amheuaeth ddarllen y cofnod hwnnw a llofnodi ei fod yn gywir neu nodi ym mha ffordd y mae’n ystyried fod y cofnod yn anghywir. Gweler Nodyn 11E.

11.14 Rhaid cofnodi unrhyw achos o wrthod llofnodi cofnod y cyfweliad pan ofynnir i rywun wneud hynny, yn unol â’r Cod yma.

(C) Pobl ifanc a phobl sy’n agored i niwed

11.15 Ni ddylid cyfweld person ifanc neu berson sy’n agored i niwed, am ei ymwneud neu amheuaeth o ymwneud â throsedd neu droseddau, neu ofyn iddo ddarparu neu lofnodi datganiad ysgrifenedig ar ôl ei rybuddio neu mewn cofnod cyfweliad, os na fydd yr oedolyn priodol yn bresennol, oni bai fod paragraffau 11.1 neu 11.18 i 11.20 yn berthnasol. Gweler Nodyn 11C.

11.16 Yr unig adeg y gellir cyfweld pobl ifanc yn y man ble y’i haddysgir yw mewn amgylchiadau arbennig a phan fo’r pennaeth neu’r person a enwebwyd ar eu cyfer yn cytuno. Dylid gwneud pob ymdrech i hysbysu’r rhiant(rhieni) neu’r person arall sy’n gyfrifol am les y person ifanc a’r oedolyn priodol, os yw hwn yn berson gwahanol, bod yr heddlu yn dymuno cyfweld y person ifanc, a dylid caniatáu amser rhesymol er mwyn galluogi’r oedolyn priodol i fynychu’r cyfweliad. Os byddai aros am yr oedolyn priodol yn golygu oedi afresymol, ac oni bai fod y person ifanc dan amheuaeth o gyflawni trosedd yn erbyn y sefydliad addysgol, gall y pennaeth neu’r un a enwebwyd, weithredu fel yr oedolyn priodol at ddibenion y cyfweliad.

11.17 Os bydd unrhyw oedolyn priodol yn bresennol yn ystod cyfweliad, fe’i hysbysir:

  • na ddisgwylir iddo arsylwi yn unig; ac
  • mai diben ei bresenoldeb yw:
    • cynghori’r person a gyfwelir;
    • arsylwi a gynhelir y cyfweliad yn gywir ac yn deg; a
    • hwyluso cyfathrebu gyda’r person a gyfwelir.
    • Gweler paragraff 1.7A

11.17A Efallai y bydd gofyn i’r oedolyn priodol adael y cyfweliad os yw ei ymddygiad yn golygu nad yw’r cyfwelydd yn gallu cyflwyno cwestiynau’n briodol i’r sawl a amheuir. Bydd hyn yn cynnwys sefyllfaoedd ble mae dull neu ymddygiad yr oedolyn priodol yn atal neu’n rhwystro’n afresymol gyflwyno cwestiynau priodol i’r sawl a amheuir neu gofnodi ymatebion y sawl a amheuir (gweler Nodyn 11F). Os yw’r cyfwelydd o’r farn bod oedolyn priodol yn ymddwyn yn y fath ffordd, bydd yn atal y cyfweliad ac yn ymgynghori â swyddog nad yw ei safle yn is na safle uwch-arolygydd, os oes un ar gael, ac fel arall, swyddog nad yw ei safle yn is na safle arolygydd, nad yw’n gysylltiedig â’r ymchwiliad. Wedi siarad gyda’r oedolyn priodol, rhaid i’r swyddog yr ymgynghorir ag o atgoffa’r oedolyn nad yw ei rôl dan baragraff 11.17 yn caniatáu iddo rwystro cwestiynu priodol a rhoi cyfle i’r oedolyn ymateb. Yna bydd y swyddog yr ymgynghorwyd ag o yn penderfynu os dylai’r cyfweliad barhau heb bresenoldeb yr oedolyn priodol hwnnw. Os yw’n penderfynu y dylai, yna mae’n rhaid dod o hyd i oedolyn priodol arall cyn i’r cyfweliad barhau, oni bai fod darpariaethau paragraff 11.18 isod yn berthnasol.

(D) Rhaid sydd dan amheuaeth sy’n agored i niwed - cyfweliadau brys mewn gorsafoedd heddlu

11.18 Ni cheir cyfweld yr unigolion canlynol oni bai fod swyddog o safle uwch-arolygydd neu uwch o’r farn y byddai oedi yn arwain at y goblygiadau a nodir ym mharagraff 11.1(a) i (c), a’i fod yn fodlon na fyddai’r cyfweliad yn niweidio cyflwr corfforol neu feddyliol y person yn sylweddol (gweler Atodiad G):

  • (a) cyfweliad gyda pherson ifanc wedi ei gadw neu berson sy’n agored i niwed os nad yw’r oedolyn priodol yn bresennol yn y cyfweliad (gweler Nodyn 11C);
  • (b) cyfweliad gydag unrhyw un ac eithrio’r rhai a ddisgrifiwyd yn (a) y mae’n ymddangos yn ystod y cyfweliad, nad yw’n gallu:
    • gwerthfawrogi arwyddocâd cwestiynau a’u hatebion; neu
    • ddeall yr hyn sy’n digwydd oherwydd effeithiau diod, cyffuriau neu unrhyw salwch, anhwylder neu gyflwr;
  • (c) cyfweliad, ble nad oes cyfieithydd wedi ei drefnu, gyda pherson y mae swyddog y ddalfa wedi pennu i fod angen cyfieithydd (gweler paragraffau 3.5(c)(ii) a 3.12) a gynhelir gyda’r cyfwelydd yn siarad iaith y sawl a amheuir ei hun neu (fel allai fod yn wir) fel arall yn sefydlu cyfathrebiad effeithiol sy’n ddigonol i holi ac ateb y cwestiynau angenrheidiol er mwyn osgoi’r goblygiadau. Gweler paragraffau 13.2 ac 13.5.

11.19 Ni all y cyfweliadau hyn barhau unwaith y ceir digon o wybodaeth er mwyn osgoi’r goblygiadau ym mharagraff 11.1(a) i (c).

11.20 Gwneir cofnod o sail unrhyw benderfyniad i gyfweld person o dan baragraff 11.18.

(E) Cynnal a chofnodi Cyfweliadau mewn gorsafoedd heddlu - defnyddio dolen fyw

11.21 Pan fydd rhywun sydd dan amheuaeth sy’n cael ei gadw gan yr heddlu yn cael ei gyfweld gan ddefnyddio dolen fyw gan swyddog heddlu sydd ddim yn yr orsaf heddlu lle mae’r sawl sy’n cael ei gadw, mae darpariaethau’r adran hon sy’n llywodraethu cynnal a gwneud cofnod ysgrifenedig o’r cyfweliad hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff 12.9B o’r Cod hwn.

(F) Tystion

11.22 Nid yw darpariaethau’r Cod hwn a Chodau E ac F sy’n arwain y gwaith o gynnal a recordio’r cyfweliadau, yn berthnasol i gyfweliadau gyda, neu gymryd datganiadau gan dystion.

Nodiadau Arweiniad

11ZA Mae’r gofyniad ym mharagraff 11.1A i’r sawl a amheuir gael digon o wybodaeth ynghylch y drosedd yn berthnasol cyn y cyfweliad a p’un a yw wedi ei gynrychioli’n gyfreithiol neu beidio. Bydd beth sy’n ddigonol yn ddibynnol ar amgylchiadau’r achos, ond dylai fel arfer gynnwys, fel isafswm, disgrifiad o’r ffeithiau yn ymwneud â’r drosedd dan amheuaeth sy’n hysbys i’r swyddog, yn cynnwys yr amser a lle dan sylw. Nod hyn yw osgoi drysu’r rhai a amheuir neu fod yn aneglur ynghylch beth yr honnir y maent wedi ei wneud ac i helpu rhywun a amheuir sy’n ddiniwed i glirio’r mater yn gyflymach.

11A Nid yw paragraff 11.4 yn atal y cyfwelydd rhag sôn wrth berson dan amheuaeth am unrhyw ddistawrwydd neu ddatganiad arwyddocaol yn nes ymlaen neu mewn cyfweliad pellach.

11B Mae Cod Ymarfer Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996, paragraff 3.5 yn nodi ‘Wrth gynnal ymchwiliad, dylai’r ymchwilydd fwrw ymlaen â phob ymholiad rhesymol, os yw’r rhain yn awgrymu bod y sawl sydd dan amheuaeth yn euog neu beidio. Bydd yr hyn a fydd yn rhesymol yn dibynnu ar yr amgylchiadau arbennig.’ Dylai pob cyfwelydd gofio hyn wrth benderfynu pa gwestiynau i’w holi mewn cyfweliad.

11C Er bod pobl ifanc neu bobl sy’n agored i niwed, yn aml yn gallu darparu tystiolaeth ddibynadwy mewn amgylchiadau arbennig, gallant fod yn fwy tebygol o ddarparu gwybodaeth a allai fod yn annibynadwy, yn gamarweiniol neu’n arwain at rywun i’w hamau nhw, heb wybod na bwriadu gwneud hynny. Dylid cymryd gofal arbennig bob amser wrth holi person o’r fath, a dylai’r unigolyn priodol fod yn gysylltiedig â’r broses os ceir unrhyw amheuaeth ynghylch oedran, cyflwr meddyliol neu allu meddyliol y person dan sylw. Oherwydd risg tystiolaeth annibynadwy, mae’n bwysig hefyd cadarnhau unrhyw ffeithiau a gyfaddefir pan fo modd. Oherwydd y risgiau, y bwriedir i bresenoldeb yr oedolyn priodol eu lleihau, dylai swyddogion o safle uwch-arolygydd neu uwch arfer eu disgresiwn dan baragraff 11.18(a) i awdurdodi dechrau cyfweliad yn absenoldeb yr oedolyn priodol dim ond mewn achosion eithriadol, os bydd angen osgoi un neu fwy o’r risgiau penodedig ym mharagraff 11.1.

11D Ni ddylid arestio person ifanc yn y man lle’i haddysgir ac eithrio lle nad oes modd osgoi hyn. Pan fo person ifanc yn cael ei arestio yn y man lle’i haddysgir, rhaid hysbysu’r pennaeth neu’r un a enwebwyd ganddo.

11E Bydd datganiadau arwyddocaol a ddisgrifiwyd ym mharagraff 11.4 bob amser yn berthnasol i’r drosedd ac mae’n rhaid eu cofnodi. Pan fo’r sawl sydd dan amheuaeth yn cytuno darllen cofnodion cyfweliadau a sylwadau eraill a llofnodi eu bod yn gywir, dylid gofyn iddo gymeradwyo’r cofnod trwy nodi, e.e. ‘Rwy’n cytuno bod hwn yn gofnod cywir o’r hyn a ddywedwyd’ ac ychwanegu ei lofnod. Os na fydd y sawl sydd dan amheuaeth yn cytuno â’r cofnod, dylai’r cyfwelydd gofnodi manylion unrhyw anghytundeb a gofyn i’r sawl sydd dan amheuaeth i ddarllen y manylion hyn a’u llofnodi er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchiad cywir o’r anghytundeb. Dylid cofnodi unrhyw achos o wrthod llofnodi.

11F Gall yr oedolyn priodol ymyrryd os yw’n ystyried bod hyn yn angenrheidiol i helpu’r sawl sydd dan amheuaeth i ddeall unrhyw gwestiwn a holwyd ac i helpu’r sawl sydd dan amheuaeth i ateb unrhyw gwestiwn. Mae paragraff 11.17A yn berthnasol yn unig os yw dull gweithredu neu ymddygiad yr oedolyn priodol yn atal neu’n rhwystro cwestiynau cywir rhag cael eu gofyn i’r sawl sydd dan amheuaeth mewn ffordd afresymol neu gofnodi ymateb y sawl sydd dan amheuaeth. Mae enghreifftiau o ymddygiad annerbyniol yn cynnwys ateb cwestiynau ar ran y sawl sydd dan amheuaeth neu ddarparu atebion ysgrifenedig er mwyn i’r sawl sydd dan amheuaeth eu dyfynnu. Rhaid i swyddog sy’n penderfynu gwahardd oedolyn priodol fod mewn sefyllfa i fodloni’r llys bod y penderfyniad a wnaethpwyd yn gywir. Er mwyn gwneud hyn, efallai y bydd angen bod yn dyst i’r hyn sy’n digwydd a rhoi cyfle i gyfreithiwr y sawl sydd dan amheuaeth (os oes ganddo un) a oedd yn dyst i’r hyn a ddigwyddodd i roi sylw.

12 Cyfweliadau mewn gorsafoedd heddlu

(A) Gweithredu

Pan fydd cyfwelydd a’r sawl sydd dan amheuaeth yn bresennol yn yr un orsaf heddlu

12.1 Os yw swyddog yr heddlu yn dymuno cyfweld neu wneud ymholiadau sy’n gofyn am bresenoldeb y sawl sy’n cael ei gadw, mae swyddog y ddalfa yn gyfrifol am benderfynu a ddylid trosglwyddo’r sawl sy’n cael ei gadw, i ofal y swyddog. Mae swyddog ymchwilio sy’n derbyn cystodaeth o’r sawl sy’n cael ei gadw yn dod yn gyfrifol am ofal a chystodaeth ddiogel y sawl sy’n cael ei gadw i ddibenion y Cod hwn nes y bydd yn dychwelyd y sawl sy’n cael ei gadw i swyddog y ddalfa ble mae’n rhaid adrodd ar y modd y cydymffurfiodd â’r Cod tra’i fod yn gyfrifol am y sawl sy’n cael ei gadw.

12.2 Ac eithrio’r amgylchiadau a nodir isod, rhaid neilltuo cyfnod parhaus o 8 awr o leiaf mewn unrhyw gyfnod 24 awr, er mwyn i’r sawl sy’n cael ei gadw orffwys, a lle na fydd yn cael ei holi, ei orfodi i deithio a lle na fydd tarfu arno oherwydd yr ymchwiliad dan sylw. Dylai’r cyfnod hwn fod yn ystod y nos fel arfer neu ar unrhyw adeg briodol arall sy’n ystyried pryd y mae’r sawl sy’n cael ei gadw wedi cysgu neu orffwys ddiwethaf. Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei arestio mewn gorsaf heddlu ar ôl mynd yno’n wirfoddol, bydd y cyfnod o 24 awr yn cychwyn o’r adeg y cafodd ei arestio ac nid yr adeg y cyrhaeddwyd gorsaf yr heddlu. Ni ellir ymyrryd ar y cyfnod na’i ohirio, ac eithrio lle:

  • (a) ceir sail resymol i gredu y byddai peidio â gohirio neu ymyrryd ar y cyfnod yn:
    • (i) peri risg i bobl gael eu niweidio neu golled neu niwed difrifol i eiddo;
    • (ii) oedi’r cam o ryddhau’r person o’r ddalfa yn ddiangen; neu
    • (iii) niweidio canlyniad yr ymchwiliad fel arall;
  • (b) bydd y sawl sy’n cael ei gadw, ei oedolyn priodol neu ei gynrychiolydd cyfreithiol yn gofyn i hynny ddigwydd;
  • (c) bydd angen gohirio neu ymyrryd er mwyn:
    • (i) cydymffurfio â’r ymrwymiadau a’r dyletswyddau cyfreithiol sy’n codi dan adan 15; neu
    • (ii) cymryd y camau angenrheidiol dan adran 9 neu’n unol â chyngor meddygol.

Os amharir ar y cyfnod yn unol ag (a), rhaid caniatáu cyfnod newydd. Nid oes angen caniatáu cyfnod newydd pan amharir dan (b) ac (c).

12.3 Cyn cyfweld y sawl sy’n cael ei gadw, bydd swyddog y ddalfa, ar ôl ymgynghori gyda’r swyddog sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol priodol yn ôl yr angen, yn asesu a yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn ddigon da i’w gyfweld. Mae hyn yn golygu pennu ac ystyried y risg i gyflwr corfforol a meddyliol y sawl sy’n cael ei gadw o gynnal y cyfweliad a phennu pa gamau diogelu y mae angen eu cymryd er mwyn galluogi i’r cyfweliad gael ei gynnal. Gweler Atodiad G. Ni fydd swyddog y ddalfa yn caniatáu i’r sawl sy’n cael ei gadw gael ei gyfweld os yw o’r farn y byddai’n peri niwed sylweddol i gyflwr corfforol neu feddyliol y sawl sy’n cael ei gadw. Bydd rhai dan amheuaeth sy’n agored i niwed a restrir ym mharagraff 11.18 yn cael eu trin fel unigolion y ceir ychydig risg iddynt yn ystod cyfweliad bob amser, ac ni ellir cyfweld yr unigolion hyn ac eithrio yn unol â pharagraffau 11.18 i 11.20.

12.4 Cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol, dylid cynnal cyfweliadau mewn ystafelloedd cyfweld wedi’u gwresogi, eu goleuo a’u hawyru’n ddigonol.

12.5 Gall sawl sydd dan amheuaeth yr awdurdodwyd ei gadw heb eu cyhuddo dan PACE oherwydd bod angen ei gadw er mwyn eu cyfweld a chael tystiolaeth o’r drosedd y cafodd ei arestio am ei gyflawni, ddewis peidio ag ateb cwestiynau, ond nid oes angen i’r heddlu gael caniatâd neu gytundeb y sawl sydd dan amheuaeth i gael ei gyfweld at y diben hwn. Os bydd y sawl sydd dan amheuaeth yn cymryd camau i atal ei hun rhag cael ei holi neu gael ei holi ymhellach, e.e. trwy wrthod gadael ei gell neu wrthod mynd i ystafell gyfweld addas neu geisio gadael yr ystafell gyfweld, dylid ei hysbysu nad oes angen cael ei ganiatâd neu ei gytundeb i gynnal y cyfweliad. Rhoddir rhybudd i’r sawl sydd dan amheuaeth fel yn adran 10, ac fe’i hysbysir y gellir cynnal y cyfweliad yn y gell pe bai’n methu neu’n gwrthod cydweithredu, ac y gellir defnyddio’r ffaith ei fod wedi methu neu wrthod cydweithredu, fel tystiolaeth. Yna, estynnir gwahoddiad i’r sawl sydd dan amheuaeth gydweithredu a mynd i’r ystafell gyfweld. Os yw’r unigolyn yn gwrthod a bod y swyddog y ddalfa o’r farn, am resymau rhesymol, na ddylid gohirio’r cyfweliad, mae gan swyddog y ddalfa ddisgresiwn i gyfarwyddo bod y cyfweliad yn cael ei gynnal mewn cell.

12.6 Ni fydd yn rhaid i’r bobl a holir neu’r rhai sy’n gwneud datganiadau i sefyll ar eu traed.

12.7 Cyn cychwyn y cyfweliad, bydd pob cyfwelydd, yn unol â pharagraff 2.6A, yn nodi pwy ydyw ac unrhyw bersonau eraill sy’n bresennol i’r sawl sy’n cael ei gyfweld.

12.8 Dylid trefnu egwyl yn ystod cyfweliadau ar adegau prydau bwyd neu ar adegau eraill sy’n ystyried pryd y mae’r un a gyfwelir wedi bwyta ddiwethaf. Darperir egwyl fer am luniaeth oddeutu bob dwy awr, ond fe all y cyfwelydd ohirio egwyl yn ôl ei ddisgresiwn os ceir sail resymol i gredu y byddai hynny’n:

  • (i) golygu:
    • risg o niwed i bobl;
    • golled neu ddifrod difrifol i eiddo;
  • (ii) golygu gohirio rhyddhau’r sawl sy’n cael ei gadw yn ddiangen; neu
  • (iii) yn niweidio canlyniad yr ymchwiliad fel arall.

Gweler Nodyn 12B

12.9 Os gwneir cwyn gan neu ar ran yr un a gyfwelir yn ystod y cyfweliad ynghylch darpariaethau’r Cod yma, neu os bydd yn dod i sylw’r cyfwelydd y gallai’r sawl sy’n cael ei gyfweld fod wedi ei drin yn amhriodol, dylai’r cyfwelydd:

  • (i) gofnodi’r mater yng nghofnod y cyfweliad; ac
  • (ii) hysbysu swyddog y ddalfa, sydd wedyn yn gyfrifol am ddelio â’r gŵyn yn unol ag adran 9.

Nid yw’r cyfwelydd yn bresennol yn yr un orsaf â’r sawl sydd yn y ddalfa - y defnydd o ddolen fyw

12.9A Mae diwygiadau i PACE, adran 39, yn caniatáu i berson sy’n cael ei gadw gan yr heddlu gael ei gyfweld gan ddefnyddio dolen fyw (gweler paragraff 1.13(e)(i)) gan swyddog heddlu nad yw yn yr orsaf heddlu lle mae’r person yn cael ei gadw. Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (a) i (f) isod, mae swyddog y ddalfa yn gyfrifol am benderfynu ar sail achosion unigol a yw unigolyn sy’n cael ei gadw mewn cyflwr i’w gyfweld (gweler paragraff 12.3) ac a ddylid ei drosglwyddo i gystodaeth gorfforol swyddog nad yw’n rhan o’r ymchwiliad, at ddibenion galluogi swyddog arall sy’n ymchwilio i’r drosedd honedig ac sydd ddim yn yr orsaf heddlu lle mae’r person yn cael ei gadw, i gyfweld y sawl sy’n cael ei gadw trwy ddolen fyw (gweler Nodyn 12ZA).

(a) Rhaid i swyddog y ddalfa fod yn fodlon bod y ddolen fyw sy’n cael ei defnyddio yn darparu ar gyfer cyfathrebu cywir a diogel gyda’r sawl sydd dan amheuaeth. Bydd darpariaethau paragraff 13.13 yn gymwys i gyfathrebu rhwng y swyddog cyfweld, y sawl sydd dan amheuaeth ac unrhyw un arall y mae ei bresenoldeb yn y cyfweliad neu, (fel y gallai fod yn wir) sydd â mynediad at unrhyw gyfathrebu rhwng y sawl sydd dan amheuaeth a’r cyfwelydd, wedi’i awdurdodi gan swyddog y ddalfa neu’r swyddog cyfweld.

(b) Rhaid i bob penderfyniad ystyried oed, rhyw a bregusrwydd y sawl sydd dan amheuaeth, natur ac amgylchiadau’r drosedd a’r ymchwiliad a’r effaith ar y sawl sydd dan amheuaeth o gynnal y cyfweliad trwy ddefnyddio dolen fyw. Oherwydd hyn, rhaid i swyddog y ddalfa ystyried a yw gallu’r sawl sydd dan amheuaeth i gyfathrebu’n hyderus ac effeithiol at y diben o gyfweliad yn debygol o fod wedi ei effeithio’n andwyol neu wedi’i danseilio fel arall os nad yw’r swyddog cyfweld yn gorfforol bresennol ac y defnyddir dolen fyw (gweler Nodyn 12ZB). Er y gallai sawl a amheuir ble mae angen oedolyn priodol fod yn fwy tebygol o gael ei effeithio’n andwyol fel y disgrifiwyd, mae’n bwysig nodi y gall person nad yw angen oedolyn priodol hefyd gael ei effeithio’n andwyol os yw’n cael ei gyfweld trwy ddolen fyw.

(c) Os yw swyddog y ddalfa’n fodlon na fyddai cyfweld y sawl sy’n cael ei gadw trwy ddolen fyw’n effeithio’n andwyol nac yn tanseilio na chyfyngu ar allu’r sawl sydd dan amheuaeth fel arall i gyfathrebu’n hyderus ac yn effeithiol at ddiben y cyfweliad, rhaid i’r swyddog hysbysu’r sawl sydd dan amheuaeth, ei gyfreithiwr ac (os yw’n berthnasol) yr oedolyn priodol. Ar yr un pryd, rhaid esbonio gweithrediad y ddolen fyw a’i harddangos iddo (gweler Nodyn 12ZC), rhaid ei gynghori o rwymedigaethau’r prif swyddog parthed diogelwch cyfathrebiadau dolen fyw dan baragraff 13.13 a rhaid gofyn a yw eisiau cyflwyno sylwadau na ddylid defnyddio dolen fyw os yw eisiau mwy o wybodaeth ynghylch gweithrediad y trefniadau. Rhaid hefyd ei hysbysu ar unrhyw adeg ble defnyddir dolen fyw, y gall gyflwyno sylwadau i swyddog y ddalfa neu’r cyfwelydd y dylid stopio ei weithredu ac y dylid trefnu presenoldeb corfforol y cyfwelydd.

Bydd angen awdurdod arolygydd

(d) Os:

cyflwynir sylwadau na ddylid defnyddio dolen fyw i gynnal y cyfweliad, neu ar unrhyw adeg y mae’n cael ei defnyddio i gynnal cyfweliad, y dylai ei gweithrediad ddod i ben ar unrhyw adeg, ac y dylid trefnu presenoldeb corfforol y cyfwelydd; a ni all swyddog y ddalfa mewn ymgynghoriad â’r cyfwelydd leddfu’r pryderon a godwyd; yna ni chaniateir defnyddio’r dolen fyw, neu (yn ôl fel y digwydd) barhau i’w defnyddio, oni bai ei fod wedi’i awdurdodi’n ysgrifenedig gan swyddog o safle arolygydd neu uwch yn unol ag is-baragraff (e).

(e) Gellir rhoi awdurdod os yw’r swyddog yn fodlon bod cyfweld y sawl sy’n cael ei gadw trwy ddolen fyw yn angenrheidiol ac yn gyfiawn. Wrth wneud y penderfyniad hwn, rhaid i’r swyddog ystyried:

  • (i) amgylchiadau’r sawl a amheuir;
  • (ii) natur a difrifoldeb y drosedd;
  • (iii) gofynion yr ymchwiliad, yn cynnwys ei effaith debygol ar y sawl a amheuir a’r dioddefwr (dioddefwyr);
  • (iv) y sylwadau a wnaethpwyd gan y sawl a amheuir, ei gyfreithiwr ac (os yn berthnasol) yr oedolyn priodol na ddylid defnyddio dolen fyw (gweler is-baragraff b)
  • (v) effaith ar yr ymchwiliad o wneud trefniadau ar gyfer presenoldeb corfforol y cyfwelydd (gweler Nodyn 12ZD); a
  • (vi) y perygl os nad yw’r cyfwelydd yn gorfforol bresennol, y gallai tystiolaeth a gaffaelwyd yn defnyddio cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw gael ei heithrio mewn achosion troseddol dilynol; ac
  • (vii) yr effaith debygol ar y sawl a amheuir a’r ymchwiliad o unrhyw oedi dilynol i drefnu i’r cyfwelydd fod yn gorfforol bresennol gyda’r sawl a amheuir.

(f) Mae’r swyddog sy’n cael cystodaeth o’r sawl sy’n cael ei gadw a’r cyfwelydd yn dod yn gyfrifol am ofal, triniaeth a chystodaeth ddiogel y sawl sy’n cael ei gadw at ddibenion y Cod hwn nes bod y sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei ddychwelyd

12.9B Pan fydd unigolyn sy’n cael ei gadw mewn gorsaf heddlu yn cael ei gyfweld gan ddefnyddio dolen fyw yn unol â pharagraff 12.9A, bydd y swyddog sy’n cael cystodaeth o’r unigolyn yng ngorsaf yr heddlu a’r cyfwelydd nad yw’n bresennol yng ngorsaf yr heddlu, yn cymryd drosodd y cyfrifoldeb am sicrhau cydymffurfiaeth â darpariaethau adrannau 11 a 12 o’r Cod hwn, neu God E (sain recordio) neu God F (recordio clyweledol-gweledol) sy’n llywodraethu cynnal a recordio’r cyfweliad hwnnw. Yn yr amgylchiadau hyn:

  • (a) rhaid i’r cyfwelydd nad yw yng ngorsaf yr heddlu lle mae’r unigolyn yn cael ei gadw gyfarwyddo’r swyddog sydd â cystodaeth gorfforol o’r unigolyn yng ngorsaf yr heddlu, i gymryd y camau sy’n ofynnol gan y darpariaethau hynny ac y byddai’n ofynnol i’r cyfwelydd eu cymryd pe byddai yn bresennol yng ngorsaf yr heddlu.
  • (b) rhaid i’r swyddog sydd â chystodaeth gorfforol o’r sawl sy’n cael ei gadw yng ngorsaf yr heddlu gymryd y camau sy’n ofynnol gan y darpariaethau hynny ac y byddai’n ofynnol i’r cyfwelydd eu cymryd fel arall pe bai’n bresennol yng ngorsaf yr heddlu. Mae hyn yn berthnasol pa un a yw’r cyfwelydd wedi cyfarwyddo’r swyddog felly ai peidio ond mewn achos o’r fath, rhaid i’r swyddog hysbysu’r cyfwelydd o’r camau a gymerwyd.
  • (c) yn ystod cwrs y cyfweliad, caiff y swyddogion yn (a) a (b) ymgynghori â’i gilydd yn ôl yr angen i egluro unrhyw gamau sydd i’w cymryd ac i osgoi unrhyw gamddealltwriaeth. Rhaid i ymgynghoriadau o’r fath, os yng nghlyw’r sawl sydd dan amheuaeth ac unrhyw berson arall sy’n bresennol gyda’r sawl sydd dan amheuaeth (er enghraifft, cyfreithiwr, oedolyn priodol neu gyfieithydd ar y pryd) gael eu cofnodi yng nghofnod y cyfweliad.

(B) Dogfennaeth

12.10 Rhaid gwneud cofnod o’r:

  • amser pan na fydd y sawl sy’n cael ei gadw yng ngofal swyddog y ddalfa, a’r rheswm dros hynny
  • y rheswm dros wrthod rhyddhau’r sawl sy’n cael ei gadw o’r ddalfa.

12.11 Gwneir cofnod o’r canlynol:

  • (a) o’r rhesymau pam nad oedd hi’n ymarferol defnyddio ystafell gyfweld;
  • (b) unrhyw gamau a gymerir fel nodir ym mharagraff 12.5; ac
  • (c) y camau gweithredu, penderfyniadau, awdurdodiadau sylwadau a chanlyniadau yn deillio o ofynion paragraffau 12.9A a 12.9B.

Gwneir y cofnod yn y cofnod cadw neu gofnod y cyfweliad am gamau a gymerir pan gedwir cofnod y cyfweliad, gyda chyfeiriad byr ynghylch hyn yn y cofnod cadw.

12.12 Rhaid cofnodi unrhyw benderfyniad i ohirio egwyl ystod cyfweliad, ynghyd â’r rhesymau dros wneud hyn, yng nghofnod y cyfweliad.

12.13 Ysgrifennir pob datganiad ysgrifenedig a wneir mewn gorsaf heddlu dan rybudd ar y ffurflenni a ddarparwyd at y diben hwn.

12.14 Ysgrifennir pob datganiad ysgrifenedig a wneir dan rybudd yn unol ag Atodiad D. Cyn y bydd rhywun yn gwneud datganiad ysgrifenedig ar ôl ei rybuddio mewn gorsaf heddlu, fe’i hatgoffir am ei hawl i gael cyngor cyfreithiol. Gweler Nodyn 12A.

Nodiadau Arweiniad

12ZA Ystyr ‘’dolen fyw’ yw trefniant lle gall y swyddog cyfweld nad yw yng ngorsaf yr heddlu weld a chlywed, a chael ei weld a’i glywed gan y sawl sy’n cael ei gadw, cyfreithiwr y sawl sy’n cael ei gadw, unrhyw oedolyn priodol sy’n bresennol a’r swyddog sydd â chystodaeth o’r sawl sy’n cael ei gadw. Gweler paragraffau 13.12 i 13.14 ac Atodiad N ar gyfer cais i gyfieithu trwy ddolen fyw.

12ZB Wrth ystyried a yw’r defnydd o’r ddolen fyw yn briodol mewn achos penodol, dylai swyddog y ddalfa, mewn ymgynghoriad â’r cyfwelydd, wneud asesiad o allu’r sawl sy’n cael ei gadw i ddeall a chymryd rhan yn y broses gyfweld a gwneud cofnod o’r canlyniad. Os yw’r sawl sydd dan amheuaeth wedi gofyn am gyngor cyfreithiol, dylai ei gyfreithiwr fod yn rhan o’r asesiad ac yn achos person ifanc neu berson sy’n agored i niwed, dylai’r oedolyn priodol fod yn rhan o’r asesiad.

12ZC Bwriedir i’r esboniad ac arddangosiad o gyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw helpu’r sawl a amheuir, y cyfreithiwr a’r oedolyn priodol i wneud penderfyniad gwybodus ac i leddfu unrhyw bryderon sydd ganddynt.

12ZD Bydd ffactorau sy’n effeithio ar y trefniadau i’r cyfwelydd fod yn bresennol yn gorfforol yn cynnwys lleoliad yr orsaf heddlu lle byddai’r cyfweliad yn cael ei gynnal ac argaeledd cyfwelydd sydd â gwybodaeth ddigonol am yr ymchwiliad a all fynd i’r orsaf honno a chynnal y cyfweliad.

12A Fel arfer, nid oes angen gofyn am ddatganiad ysgrifenedig os cafodd y cyfweliad ei gofnodi yn ysgrifenedig a’r cofnod wedi’i lofnodi yn unol â pharagraff 11.11 neu os cafodd recordiad sain neu weledol ei wneud o’r cyfweliad yn unol â Chod E neu F. Fel arfer, dylai datganiadau dan rybudd gael eu cymryd dan yr amgylchiadau os bydd y person yn dymuno hynny yn benodol. Fodd bynnag, gellir gofyn i rywun a hoffai wneud datganiad o’r fath.

12B Fel arfer, dylai cyfnodau egwyl i gael bwyd fod o leiaf 45 munud o hyd, a dylai egwyl fyrrach ar ôl dwy awr fod o leiaf 15 munud o hyd. Os bydd y cyfwelydd yn gohirio egwyl yn unol â pharagraff 12.8 ac yn ymestyn y cyfweliad, dylid darparu egwyl hirach. Os ceir cyfweliad byr, ac os ystyrir cynnal cyfweliad byr arall, gellir gostwng hyd yr egwyl os ceir sail resymol i gredu bod angen gwneud hyn oherwydd y goblygiadau ym mharagraffau 12.8(i) i (iii).

13 Cyfieithwyr

(A) Cyffredinol

13.1 Mae prif swyddogion yn gyfrifol am sicrhau y gwneir trefniadau priodol (gweler paragraff 13.1ZA) i ddarparu cyfieithwyr annibynnol sydd â chymwysterau addas i weithredu fel dehonglwyr ac i ddarparu cyfieithiadau o ddogfennau allweddol ar gyfer:

  • (a) rhai sydd dan amheuaeth sydd wedi eu cadw, yn unol â pharagraff 3.5(c)(ii), y mae swyddog y ddalfa wedi pennu eu bod angen cyfieithydd, a
  • (b) rhai a amheuir nad ydynt wedi eu harestio ond sydd wedi eu rhybuddio fel yn adran 10 sydd, yn unol â pharagraff 3.21(b), ym marn y cyfwelydd angen cyfieithydd. Yn yr achosion hyn, mae cyfrifoldebau swyddog y ddalfa, os yn briodol, wedi eu neilltuo i’r cyfwelydd. Dylai cyfwelydd sydd ag unrhyw amheuon ynghylch p’un ai a pha drefniadau y dylid eu gwneud ar gyfer cyfieithydd neu sut ddylid rhoi darpariaethau’r adran hon ar waith ar gyfer sawl a amheuir nad yw wedi ei arestio ofyn am gyngor gan swyddog o reng rhingyll neu uwch.

Os oes gan y sawl a amheuir nam ar ei glyw neu leferydd, dylai cyfeiriadau at ‘gyfieithydd’ a ‘chyfieithiad’ yn y Cod hwn gynnwys trefniadau ar gyfer cymorth priodol sy’n angenrheidiol i sefydlu cyfathrebu effeithiol gyda’r unigolyn hwnnw. Gweler paragraff 13.1C isod os yw’r person yng Nghymru.

13.1ZA Golyga cyfeiriadau ym mharagraff 13.1 uchod ac mewn rhannau eraill o’r Cod hwn (gweler paragraffau 3.12(a), 13.2, 13.2A, 13.5, 13.6, 13.9, 13.10, 13.10A, 13.10D ac 13.11 isod ac mewn unrhyw God arall at wneud trefniadau i gyfieithydd gynorthwyo sawl a amheuir wneud trefniadau i’r cyfieithydd fod yn gorfforol bresennol yn yr un lleoliad â’r sawl a amheuir oni bai fod y darpariaethau ym mharagraff 13.12 isod, a Rhan 1 o Atodiad N, yn caniatáu ar gyfer defnyddio cyfieithu trwy ddolen fyw.

13.1A Rhaid i’r trefniadau gydymffurfio gyda’r gofynion isafswm a sefydlir yng Nghyfarwyddeb 2010/64/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 20 Hydref 2010 ar yr hawl i gyfieithiad mewn achosion troseddol (gweler Nodyn 13A). Mae darpariaethau’r Cod hwn yn gweithredu’r gofynion ar gyfer y rhai y mae’r Cod hwn yn berthnasol iddynt. Mae’r gofynion hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Y dylai’r trefniadau a wnaed a safon y cyfieithu ar y pryd a’r cyfieithiad a ddarperir fod yn ddigonol i ‘ddiogelu tegwch yr achos, yn benodol trwy sicrhau fod gan y personau a amheuir neu a gyhuddir ddealltwriaeth o’r achosion yn eu herbyn ac y gallant arfer eu hawl i amddiffyn’. Mae’r term hwn a ddefnyddir gan y Gyfarwyddeb yn golygu bod yn rhaid i’r sawl a amheuir allu deall ei sefyllfa a gallu cyfathrebu’n effeithiol gyda swyddogion yr heddlu, cyfwelwyr, cyfreithwyr ac oedolion priodol fel y darperir ar ei gyfer gan y Cod yma ac unrhyw God arall yn yr un modd â rhywun a amheuir sy’n gallu siarad a deall Saesneg ac nad oes ganddo nam ar ei glyw na lleferydd ac felly na fyddai angen cyfieithydd. 13.12 Gweler paragraffau i 13.14 ac Atodiad N ar gyfer cais i gyfieithu trwy gyswllt byw.
  • Darparu cyfieithiad ysgrifenedig o’r holl ddogfennau a ystyrir i fod yn allweddol i’r unigolyn arfer ei hawl i amddiffyn ac i ‘ddiogelu tegwch yr achos’ fel y disgrifiwyd uchod. I ddibenion y cod hwn, mae hyn yn cynnwys unrhyw benderfyniad i awdurdodi cadw rhywun a manylion unrhyw drosedd(au) y mae’r unigolyn wedi ei gyhuddo ohonynt neu y mae wedi cael gwybod y bydd yn cael ei erlyn amdanynt, gweler Atodiad M.
  • Gweithdrefnau i helpu pennu:
    • os yw sawl a amheuir yn siarad a deall Saesneg ac angen cymorth cyfieithydd, gweler paragraff 13.1 a Nodiadau 13B ac 13C; ac
    • a ddylid trefnu cyfieithydd arall neu ddarparu cyfieithiad arall pan fydd sawl a amheuir yn cwyno ynghylch safon y naill neu’r llall, gweler paragraffau 13.10A ac 13.10C.

13.1B Dylid gwneud pob ymdrech rhesymol i sicrhau bod y sawl a amheuir yn deall y bydd cyfieithu ar y pryd a chyfieithiad ar gael ar gost i’r cyhoedd.

13.1C Parthed personau yng Nghymru, nid oes unrhyw beth yn y Cod hwn nac unrhyw God arall yn effeithio ar weithrediad Cynlluniau Iaith Gymraeg a gynhyrchwyd gan gomisiynwyr yr heddlu a throseddu yng Nghymru yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Gweler paragraffau 3.12 ac 13.1.

(B) Cyfweld rhai a amheuir - ieithoedd tramor

13.2 Oni bai fod paragraffau 11.1 neu 11.18(c) yn berthnasol, ni ddylid cyfweld unigolyn a amheuir sydd i ddibenion y Cod hwn angen cyfieithydd ar y pryd oherwydd nad yw’n ymddangos i fod yn gallu siarad na deall Saesneg (gweler paragraffau 3.5(c)(ii) a 3.12) oni bai y gwneir trefniadau i berson sy’n medru cyfieithu gynorthwyo’r sawl a amheuir i ddeall a chyfathrebu.

13.2A Os cyfwelir rhywun sy’n berson ifanc neu’n berson sy’n agored i niwed ac nad yw’r person sy’n gweithredu fel oedolyn priodol yn ymddangos i fod yn gallu siarad neu ddeall Saesneg, rhaid gwneud trefniadau i gyfieithydd gynorthwyo gyda chyfathrebu rhwng y person, yr oedolyn priodol a’r cyfwelydd, oni bai fod y cyfweliad yn un brys a bod paragraffau 11.1 neu 11.18(c) yn berthnasol.

13.3 Pan wneir cofnod ysgrifenedig o’r cyfweliad (gweler paragraff 11.7), bydd y cyfwelydd yn sicrhau bod y cyfieithydd ar y pryd yn gwneud nodyn o’r cyfweliad ar y pryd yn iaith y person i’w ddefnyddio os bydd y cyfieithydd ar y pryd yn cael ei alw i roi tystiolaeth, a bydd yn ardystio i’w gywirdeb. Dylai’r cyfwelydd ganiatáu digon o amser i’r cyfieithydd ar y pryd nodi pob cwestiwn ac ateb wedi gofyn, rhoi a chyfieithu pob un. Dylid caniatáu i’r person ddarllen y cofnod neu gael ei ddarllen iddo neu iddi a’i lofnodi i fod yn gywir neu i ddynodi’r agweddau mae’n ystyried i fod yn anghywir. Os gwneir cofnod sain neu weledol o’r cyfweliad, bydd y trefniadau yng Nghod E neu F yn berthnasol. Gweler paragraffau 13.12 i 13.14 ac Atodiad N ar gyfer cais i gyfieithu trwy gyswllt byw.

13.4 Yn achos person yn gwneud datganiad dan rybudd (gweler Atodiad D) i swyddog yr heddlu neu staff heddlu arall mewn iaith ar wahân i Saesneg:

  • (a) bydd y cyfieithydd ar y pryd yn cofnodi’r datganiad yn yr iaith y’i gwneir;
  • (b) bydd y person yn cael ei wahodd i’w lofnodi;
  • (c) dylid gwneud cyfieithiad Saesneg swyddogol maes o law. Gweler paragraffau 13.12 i 13.14 ac Atodiad N ar gyfer cais i gyfieithu trwy gyswllt byw.

(C) Cyfweld pobl fyddar a phobl sydd ag anawsterau lleferydd

13.5 Oni bai fod paragraffau 11.1 neu 11.18(c) (cyfweliadau brys) yn berthnasol ni ddylid cyfweld unigolyn a amheuir sydd i ddibenion y Cod hwn angen cyfieithydd ar y pryd neu gymorth priodol arall i alluogi cyfathrebiad effeithiol gydag ef neu hi oherwydd ei fod yn ymddangos i fod â nam ar y clyw neu leferydd (gweler paragraffau 3.5(c)(ii) a 3.12) heb wneud trefniadau i ddarparu person annibynnol sy’n gallu cyfieithu neu ddarparu cymorth priodol arall.

13.6 Dylid hefyd trefnu cyfieithydd os cyfwelir person ifanc neu berson sy’n agored i niwed ac yr ymddengys fod gan y person sy’n bresennol fel yr oedolyn priodol nam ar y clyw neu leferydd, oni bai fod y cyfweliad yn un brys ac mae paragraffau 11.1 neu 11.18(c) yn berthnasol.

13.7 Os gwneir cofnod ysgrifenedig o’r cyfweliad, bydd y cyfwelydd yn sicrhau bod y cyfieithydd ar y pryd yn cael darllen y cofnod ac ardystio i’w gywirdeb os bydd y cyfieithydd yn cael ei alw i roi tystiolaeth. Os gwneir recordiad sain neu weledol, mae’r trefniadau yng Nghod E neu F yn berthnasol.

Gweler paragraffau 13.12 i 13.14 ac Atodiad N ar gyfer cais i gyfieithu trwy gyswllt byw.

(D) Rheolau ychwanegol ar gyfer pobl a gedwir

13.8 Heb ei ddefnyddio.

13.9 Os yw paragraff 6.1 yn berthnasol ac nad yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn gallu cyfathrebu gyda’r cyfreithiwr oherwydd anawsterau iaith, clyw neu leferydd, rhaid gwneud trefniadau ar gyfer cyfieithydd ar y pryd i alluogi cyfathrebu. Ni ellir defnyddio swyddog yr heddlu nac unrhyw staff arall yr heddlu i’r diben hwn.

13.10 Wedi i swyddog y ddalfa bennu bod y sawl sy’n cael ei gadw angen cyfieithydd (gweler paragraff 3.5(c)(ii)) ac yn dilyn y gweithredu cychwynnol ym mharagraffau 3.1 to 3.5, rhaid hefyd gwneud trefniadau i gyfieithydd:

  • esbonio’r sail a’r rhesymau dros unrhyw awdurdodiad dros barhau i’w gadw, cyn neu wedi cyhuddiad ac unrhyw wybodaeth ynghylch yr awdurdodiad a roddwyd iddynt gan y swyddog awdurdodi sydd wedi ei gofnodi yng nghofnod y ddalfa. Gweler paragraffau 15.3, 15.4 ac 15.16(a) a (b);
  • ddarparu dehongliad yn y llys ynadon i glywed cais am warant cadw pellach neu unrhyw estyniad neu estyniad pellach o warant o’r fath i esbonio unrhyw sail neu resymau dros y cais ac unrhyw wybodaeth ynghylch yr awdurdodiad dros gadw ymhellach a roddwyd gan y llys (gweler PACE, adrannau 43 a 44 a pharagraffau 15.2 ac 15.16(c)); a
  • esbonio unrhyw drosedd y mae’r sawl sy’n cael ei gadw wedi ei gyhuddo ohono neu y mae wedi ei hysbysu y gallai gael ei erlyn amdano ac unrhyw wybodaeth arall ynghylch y drosedd a roddwyd gan neu ar ran swyddog y ddalfa, gweler paragraffau 16.1 ac 16.3.

13.10A Os bydd sawl sy’n cael ei gadw yn cwyno nad yw’n fodlon gyda safon y cyfieithiad, mae swyddog y ddalfa neu (yn ôl y digwydd) y cyfieithydd, yn gyfrifol am benderfynu a ddylid gwneud trefniadau ar gyfer cyfieithydd arall yn unol â’r gweithdrefnau a sefydlwyd yn y trefniadau a wnaethpwyd gan y prif swyddog, gweler paragraff 13.1A.

(E) Cyfieithiadau o ddogfennau allweddol

13.10B Bydd cyfieithiadau ysgrifenedig, cyfieithiadau llafar a chrynodebau llafar o ddogfennau allweddol mewn iaith mae’r sawl sy’n cael ei gadw yn ei deall yn cael eu darparu yn unol ag Atodiad M (Cyfieithiadau o ddogfennau a chofnodion).

13.10C Os bydd sawl sy’n cael ei gadw yn anfodlon gydag ansawdd y cyfieithiad, mae swyddog y ddalfa neu (fel all fod yr achos) y cyfwelydd, yn gyfrifol am benderfynu os dylid darparu cyfieithiad pellach yn unol â gweithdrefnau a sefydlwyd yn y trefniadau a wnaed gan y prif swyddog, gweler paragraff 13.1A.

(F) Penderfyniadau i beidio darparu cyfieithu ar y pryd a chyfieithiadau.

13.10D Os bydd sawl a amheuir yn herio penderfyniad:

  • a wnaed gan swyddog y ddalfa neu (fel all fod yr achos) gan y cyfwelydd, yn unol â’r Cod hwn (gweler paragraffau 3.5(c)(ii) ac 3.21(b)) nad yw angen cyfieithydd ar y pryd, neu
  • a wnaed yn unol â pharagraffau 13.10A, 13.10B neu 13.10C i beidio gwneud trefniadau i ddarparu gwahanol gyfieithydd neu gyfieithiad arall neu i beidio cyfieithu dogfen a geisiwyd,

bydd y mater yn cael ei adrodd i sylw arolygydd i’w drin fel cwyn i ddibenion paragraff 9.2 neu baragraff 12.9 os cyflwynir her yn ystod cyfweliad.

(G) Dogfennaeth

13.11 Rhaid cofnodi’r canlynol yng nghofnod y ddalfa neu, fel sy’n berthnasol, gofnod y cyfweliad:

  • (a) Camau a gymerwyd i drefnu cyfieithydd ar y pryd, yn cynnwys y gofynion cyswllt byw yn Atodiad N fel fo’n berthnasol;
  • (b) Camau a gymerwyd pan na fydd sawl a gedwir yn fodlon ynghylch y safonau cyfieithu ar y pryd neu gyfieithu a ddarparwyd, gweler paragraffau 13.10A ac 13.10C;
  • (c) Pan gynhelir cyfweliad brys yn unol â pharagraff 13.2 neu 13.5 yn absenoldeb cyfieithydd ar y pryd;
  • (d) Pan fydd sawl sy’n cael ei gadw wedi ei gynorthwyo gan gyfieithydd ar y pryd i’r diben o ddarparu neu gael gwybodaeth neu gael ei gyfweld;
  • (e) Camau a gymerwyd yn unol ag Atodiad M pan:
    • ddarperir cyfieithiad ysgrifenedig o ddogfen allweddol;
    • darperir cyfieithiad llafar neu grynodeb llafar o ddogfen allweddol yn hytrach na chyfieithiad ysgrifenedig a rhesymau’r swyddog sy’n awdurdodi pam na fyddai hyn yn peryglu tegwch yr achos (gweler Atodiad M, paragraff 3);
    • mae sawl a amheuir yn ildio ei hawl i gyfieithiad o ddogfen allweddol (gweler Atodiad M, paragraff 4);
    • pan wrthodir sylwadau fod dogfen nad yw wedi ei chynnwys yn y tabl yn allweddol ac y dylid darparu cyfieithiad a’r rheswm dros wrthod (gweler Atodiad M, paragraff 8).

(H) Cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw

13.12 Yn yr adran hon ac yn Atodiad N, mae ‘cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw’ yn golygu trefniant i alluogi cyfathrebu rhwng y sawl a amheuir a chyfieithydd nad yw’n gorfforol bresennol gyda’r sawl a amheuir. Rhaid i’r trefniant sicrhau bod unrhyw beth y bydd unrhyw un yn ei ddweud ym mhresenoldeb ac o fewn clyw i’r sawl a amheuir yn gallu cael ei gyfieithu yn yr un modd â phetai’r cyfieithydd yn gorfforol bresennol ar y pryd. Rhaid i’r cyfathrebu fod yn defnyddio dull sain a gweledol i ddibenion cyfweliad, ac i bob diben arall gall fod naill ai; trwy fodd sain a gweledol, neu trwy fodd sain yn unig, fel a ganlyn:

(a) Cyfathrebiad sain a gweledol

Mae hyn yn berthnasol i ddibenion cyfweliad a gynhelir ac sydd wedi ei recordio yn unol â Chod E (Recordio sain) neu God F (Recordio gweledol) ac yn ystod y cyfweliad, rhaid i’r cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw alluogi:

  • (i) y sawl a amheuir, y cyfwelydd, cyfreithiwr, oedolyn priodol ac unrhyw un arall sy’n gorfforol bresennol gyda’r sawl a amheuir ar unrhyw adeg yn ystod y cyfweliad a chyfieithydd nad yw’n gorfforol bresennol, i weld a chlywed ei gilydd; ac
  • (ii) i’r cyfweliad gael ei gyflawni a recordio yn unol â darpariaethau Codau C, E ac F, yn amodol i’r addasiadau yn Rhan 2 Atodiad N.

(b) Cyfathrebu sain a gweledol neu sain heb weledol.

Mae hyn yn berthnasol i gyfathrebu i ddibenion unrhyw ddarpariaeth o’r Cod hwn neu unrhyw God fel y disgrifiwyd yn (a), sy’n gofyn neu’n caniatáu i wybodaeth gael ei rhoi i, ceisio gan, neu ddarparu gan sawl a amheuir, naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig, a ddylai gynnwys cyfathrebu rhwng y sawl a amheuir a’i gyfreithiwr ac/neu oedolyn priodol ac, ar gyfer yr achosion hyn, rhaid i gyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw:

  • (i) alluogi’r sawl a amheuir, y person sy’n rhoi neu geisio’r wybodaeth honno, unrhyw berson arall sy’n gorfforol bresennol gyda’r sawl a amheuir ar y pryd a chyfieithydd nad yw’n bresennol, i naill ai weld a chlywed ei gilydd, neu i glywed heb weld ei gilydd (er enghraifft, trwy ddefnyddio ffôn); a
  • (ii) galluogi i’r wybodaeth honno gael ei rhoi i, ceisio gan, neu ddarparu gan y sawl a amheuir yn unol â darpariaethau’r Cod hwn neu unrhyw God arall sy’n berthnasol i’r wybodaeth honno, fel yr addaswyd i ddibenion y ddolen fyw, gan Ran 2 Atodiad N.

13.12A Golyga’r gofyniad yn is-baragraffau 13.12(a)(ii) a (b)(ii), y dylai cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw alluogi cydymffurfiad gyda darpariaethau perthnasol Codau C, E ac F, bod yn rhaid i’r trefniadau ddarparu ar gyfer unrhyw gofnod ysgrifenedig neu electronig o’r hyn mae’r sawl a amheuir yn ei ddweud yn ei iaith ei hun a wneir gan y cyfieithydd, er mwyn cael ei drosglwyddo’n ddiogel heb oedi fel bod y sawl a amheuir yn gallu darllen, gwirio ac, os yn briodol, lofnodi neu gadarnhau fel arall fod y cofnod yn gywir neu wneud addasiadau i’r cofnod.

13.13 Rhaid i brif swyddogion fod yn fodlon fod y cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw a ddefnyddir yn ardal eu heddlu ar gyfer dibenion paragraffau 3.12(a) a (b), yn darparu ar gyfer cyfathrebu cywir a diogel gyda’r sawl a amheuir. Mae hyn yn cynnwys sicrhau ar unrhyw adeg pan fydd cyfieithu trwy ddolen fyw yn cael ei defnyddio: na all unigolyn weld, clywed na fel arall gael mynediad at unrhyw gyfathrebu rhwng y sawl a amheuir a’r cyfieithydd neu gyfathrebu gyda’r sawl a amheuir neu’r cyfieithydd oni bai ei fod wedi ei awdurdodi neu ganiatáu gan swyddog y ddalfa neu, yn achos cyfweliad, y cyfwelydd ac fel fo’n berthnasol, y cynhelir cyfrinachedd unrhyw ymgynghoriad preifat rhwng sawl a amheuir a’i gyfreithiwr ac oedolyn priodol (gweler paragraffau 13.2A, 13.6 a 13.9). Gweler Atodiad N paragraff 4.

Nodiadau Arweiniad

13A Mae gan brif swyddogion hawl i ddewis wrth bennu’r unigolion neu sefydliadau a ddefnyddiant i ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd neu gyfieithu i’w heddluoedd ar yr amod eu bod yn gydnaws gyda gofynion y Gyfarwyddeb. Un enghraifft y gallai prif swyddogion ei ystyried yw trefniadau masnachol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer gwasanaethau cyfieithu ar y pryd a chyfieithu.

13B Gall gweithdrefn i bennu os yw person angen cyfieithydd ar y pryd gynnwys gwasanaeth cyfieithu dros y ffôn neu ddefnyddio cardiau awgrym neu gymhorthion gweledol tebyg sy’n galluogi’r sawl sy’n cael ei gadw i nodi ei allu i siarad a deall Saesneg a’i ddewis o iaith. Gellid cadarnhau hyn trwy gyfieithydd a fyddai hefyd yn asesu i ba raddau y gall y person siarad a deall Saesneg.

13C Dylid hefyd sicrhau gweithdrefn i bennu a yw unigolyn a amheuir sydd angen cyfieithydd angen cymorth yn unol â pharagraff 3.20 i’w helpu i wirio ac, os yn berthnasol, lofnodi unrhyw ddogfennaeth.

14 Cwestiynu - cyfyngiadau arbennig

14.1 Os bydd person yn cael ei arestio gan un heddlu ar ran un arall ac nad yw’r cyfnod cadw cyfreithlon parthed y drosedd honno wedi cychwyn eto yn unol â PACE, adran 41, ni ellir gofyn unrhyw gwestiynau iddo ynghylch y drosedd tra’i fod yn teithio rhwng yr heddluoedd ac eithrio i gadarnhau unrhyw ddatganiad gwirfoddol a wneir.

14.2 Os bydd person yn cael ei gadw gan yr heddlu mewn ysbyty, ni ellir ei holi heb gytundeb meddyg cyfrifol. Gweler Nodyn 14A.

Nodyn Arweiniad

14A Os holir rhywun yn yr ysbyty o dan baragraff 14.2, neu ar y ffordd i’r ysbyty neu o’r ysbyty, bydd y cyfnod holi dan sylw yn cyfrannu at gyfanswm y cyfnod cadw a ganiateir.

15 Adolygu ac ymestyn cyfnod cadw

(A) Unigolion a gedwir dan PACE

15.0 Mae’r gofyniad ym mharagraff 3.4(b) y dylid darparu dogfennau a deunyddiau sy’n allweddol i herio cyfreithlondeb arestio a chadw’r sawl a amheuir i’r sawl a amheuir neu ei gyfreithiwr, yn berthnasol i ddibenion yr adran hon fel a ganlyn:

  • (a) Mae’r swyddog sy’n adolygu’r angen i gadw heb gyhuddiad (PACE, adran 40), neu (yn ôl y digwydd) swyddog sy’n ystyried yr angen i ymestyn cadw heb gyhuddo o 24 i 36 awr (PACE, adran 42), yn gyfrifol, mewn ymgynghoriad â’r swyddog ymchwilio, am benderfynu pa ddogfennau a deunyddiau sy’n allweddol ac y mae’n rhaid eu darparu.
  • (b) Pan fydd paragraff 15.7A yn berthnasol (cais am warant i gadw ymhellach neu i ymestyn warant o’r fath), mae’r swyddog sy’n gwneud y cais yn gyfrifol am benderfynu pa ddogfennau a deunyddiau sy’n allweddol ac y mae’n rhaid eu darparu cyn y gwrandawiad. Gweler Nodyn 3ZA.

15.1 O dan PACE, adran 40 y swyddog adolygu sy’n gyfrifol am bennu o dro i dro os yw cyfnod cadw person, cyn neu ar ôl ei gyhuddo, yn parhau i fod yn angenrheidiol. Bydd y gofyniad hwn yn parhau trwy gydol y cyfnod cadw ac eithrio pan ddefnyddir ffôn neu ddolen fyw yn unol â pharagraffau 15.9 i 15.11C, rhaid i’r swyddog adolygu fod yn bresennol yn yr orsaf heddlu lle y cedwir y sawl sy’n cael ei gadw. Gweler Nodiadau 15A a 15B.

15.2 Dan PACE, adran 42, gall swyddog o safle uwch-arolygydd neu uwch, sy’n gyfrifol am yr orsaf sy’n cadw’r sawl sy’n cael ei gadw, roi awdurdod ar unrhyw adeg ar ôl yr ail adolygiad i ymestyn y cyfnod hiraf posibl y gellir cadw’r person heb ei gyhuddo am hyd at 12 awr. Ar wahân i pan ddefnyddir dolen fyw fel ym mharagraff 15.11A, rhaid i’r uwch-arolygydd fod yn bresennol yn yr orsaf lle mae’r unigolyn yn cael ei gadw. Dim ond llys ynadon all awdurdodi ymestyn y cyfnod cadw heb gyhuddiad yn unol â PACE, adrannau 43 a 44 ac oni bai bod y llys wedi rhoi cyfarwyddyd dolen fyw fel ym mharagraff 15.11B, rhaid i’r sawl sy’n cael ei gadw gael ei ddwyn gerbron y llys ar gyfer y gwrandawiad. . Gweler Nodiadau 15C, 15D a 15E.

15.2A Mae awdurdodiad dan adran 42(1) PACE fel y’i diwygiwyd yn ymestyn y cyfnod hiraf posibl y gellir cadw rhywun am droseddau ditiadwy o 24 awr i 36 awr. Bydd cadw person ifanc neu berson sy’n agored i niwed am gyfnod hirach na 24 awr yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos ac ar y canlynol parthed y person:

  • (a) natur arbennig o fregus;
  • (b) y gofyniad cyfreithiol i ddarparu cyfle ar gyfer cyflwyniadau cyn dod i benderfyniad ynghylch ymestyn y cyfnod cadw;
  • (c) yr angen i ymgynghori ac ystyried barn unrhyw oedolyn priodol; ac
  • (d) unrhyw ddewisiadau amgen i gadw gan yr heddlu.

15.3 Cyn penderfynu a ddylid awdurdodi parhau i gadw, bydd y swyddog sy’n gyfrifol dan baragraff 15.1 neu 15.2 yn rhoi cyfle i wneud cyflwyniadau ynghylch y cyfnod cadw i’r canlynol:

  • (a) y sawl sy’n cael ei gadw, oni bai yn achos adolygiad fel y nodir ym mharagraff 15.1, fod y sawl sy’n cael ei gadw yn cysgu;
  • (b) cyfreithiwr y sawl sy’n cael ei gadw os yw ar gael ar y pryd; ac
  • (c) yr oedolyn priodol os yw ar gael ar y pryd.

Gweler Nodyn 15CA

15.3A Gall unigolion eraill sydd â diddordeb yn lles y sawl sy’n cael ei gadw wneud cyflwyniadau yn ôl disgresiwn y swyddog awdurdodi.

15.3B Yn amodol i baragraff 15.10, gellir gwneud y cyflwyniadau ar lafar yn bersonol, neu dros y ffôn neu ar bapur. Gall y swyddog awdurdodi, fodd bynnag, wrthod â gwrando ar gyflwyniadau llafar gan sawl sy’n cael ei gadw os yw’r swyddog o’r farn nad yw’n gymwys i wneud cyflwyniadau oherwydd ei gyflwr neu ymddygiad. Gweler Nodyn 15C.

15.3C Mater i’r swyddog adolygu yw penderfynu a ddylid cynnal yr adolygiad wyneb yn wyneb neu dros y ffôn neu trwy ddolen fyw (gweler paragraff 1.13(e)(ii)) yn fater i’r swyddog adolygu. Wrth bennu’r ffurf y dylid cynnal yr adolygiad, mae’n rhaid i’r swyddog adolygu roi ystyriaeth lawn i anghenion y sawl sydd yn y ddalfa. Dylid ystyried y budd o gynnal adolygiad wyneb yn wyneb bob tro, ar sail amgylchiadau unigol pob achos gan roi ystyriaeth benodol ychwanegol os yw’r person:

  • (a) yn berson ifanc (ac oed y person ifanc); neu
  • (b) yn berson sy’n agored i niwed;
  • (c) angen sylw meddygol am rywbeth mwy na mân salwch arferol; neu
  • (d) os oes yna faterion cyflwyniadol neu gymunedol ynghylch cadw’r person. Gweler paragraff 1.4(c)

15.4 Cyn cynnal adolygiad neu bennu a ddylid ymestyn y cyfnod cadw hiraf posibl heb gyhuddo, rhaid i’r swyddog sy’n gyfrifol sicrhau yr atgoffir y sawl sy’n cael ei gadw, o’i hawl i gael cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim, gweler paragraff 6.5, ac eithrio yn achos adolygiad pan fo’r person yn cysgu. Wrth benderfynu a ddylid ymestyn yr uchafswm cyfnod cadw heb gyhuddiad, dylid tynnu sylw hefyd, at ddibenion paragraff 15.2, ni fydd yr uwch-arolygydd neu (yn ôl fel y digwydd) y llys, sy’n gyfrifol am awdurdodi unrhyw estyniad o’r fath yn gallu defnyddio dolen fyw oni bai bod y sawl sy’n cael ei gadw wedi cael cyngor cyfreithiol ar ddefnyddio’r ddolen fyw (gweler paragraffau 15.11A(ii) a 15.11C(ii)) a rhoi caniatâd i’w defnyddio (gweler paragraffau 15.11A(iii) a 15.11C(iii). Rhaid hefyd rhoi gwybodaeth i’r sawl sy’n cael ei gadw am sut mae’r ddolen fyw yn cael ei defnyddio.

15.4A Yn dilyn adrannau 45ZA a 45ZB o PACE, pan roddir yr atgoffad a’r wybodaeth sy’n ymwneud â chyngor cyfreithiol ac am ddefnyddio’r ddolen fyw ac y gofynnir am gydsyniad y sawl sy’n cael ei gadw, mae angen presenoldeb yr oedolyn priodol os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn berson ifanc (gweler paragraff 1.5) neu’n oedolyn sy’n agored i niwed am ei fod yn berson 18 oed neu hŷn sydd, oherwydd anhwylder meddwl a sefydlwyd yn unol â pharagraffau 1.4 a 1.13(d) neu am unrhyw reswm arall (gweler paragraff 15.4B), ei chael yn anodd deall pwrpas:

  • (a) awdurdodiad o dan adran 42 o PACE neu unrhyw beth sy’n digwydd mewn cysylltiad â phenderfynu a ddylid rhoi awdurdodiad (gweler paragraffau 15.2 a 15.2A); neu
  • (b) gwrandawiad llys o dan adran 43 neu 44 o PACE neu’r hyn sy’n digwydd yn y gwrandawiad (gweler paragraffau 15.2 a 15.7A).

15.4B At ddibenion defnyddio dolen fyw yn unol ag adrannau 45ZA a 45ZB o PACE i awdurdodi cadw heb gyhuddiad (gweler paragraffau 15.11A ac 15.11C), y cyfeiriad at ‘unrhyw reswm arall’ yn ymestyn i anawsterau wrth ddeall y dibenion a grybwyllir ym mharagraff 15.4A a allai godi pe bai’r unigolyn yn digwydd bod o dan ddylanwad diod neu gyffuriau ar yr adeg y mae’r ddolen fyw i gael ei defnyddio. Fodd bynnag nid yw hyn yn berthnasol at ddibenion paragraffau 1.4 a 1.13(d) (gweler Nodyn 1GC).

15.5 Os, wedi ystyried unrhyw gyflwyniadau, bydd y swyddog adolygu dan baragraff 15.1 yn penderfynu cadw’r sawl sy’n cael ei gadw yn y ddalfa neu os bydd yr uwch-arolygydd dan baragraff 15.2 yn ymestyn y cyfnod uchafswm ar gyfer cadw heb gyhuddiad, yna bydd unrhyw sylw a wneir gan y sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei gofnodi. Os bydd hynny’n berthnasol, hysbysir y swyddog sy’n gyfrifol o’r sylw cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol. Gweler hefyd paragraffau 11.4 ac 11.13.

15.6 Ni chaiff unrhyw swyddog ofyn cwestiynau penodol i’r sawl sy’n cael ei gadw:

  • ynghylch ei ymwneud ag unrhyw drosedd; neu
  • ynghylch unrhyw sylwadau a wneir ganddo:
    • wrth iddo gael y cyfle i wneud cyflwyniadau; neu
    • wrth ymateb i benderfyniad i’w gadw neu ymestyn y cyfnod hiraf posibl y gellir ei gadw.

Gallai digwyddiad o’r fath gyfateb i gyfweliad dan amodau paragraff 11.1A a byddai felly’n destun y camau diogelu cysylltiedig a nodwyd yn adran 11 ac, yn achos rhywun a gyhuddwyd, paragraff 16.5](#sixtfiv). Gweler hefyd paragraff 11.13.

15.7 Rhaid hysbysu sawl sy’n cael ei gadw sy’n cysgu yn ystod adolygiad, gweler paragraff 15.1,ac yr awdurdodwyd y gellir parhau i’w gadw, o’r penderfyniad a’r rheswm dros hynny cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol ar ôl iddo ddeffro.

15.7A Pan wneir cais i lys ynadon dan PACE, adran 43 am warant i gadw ymhellach neu i ymestyn cadw heb gyhuddiad ar gyfer person a arestiwyd ar gyfer trosedd dditiadwy, neu dan adran 44, i ymestyn neu ymestyn ymhellach y warant honno, parthed y sawl sy’n cael ei gadw:

  • (a) rhaid, oni bai bod y llys wedi rhoi cyfarwyddyd dolen fyw fel ym mharagraff 15.11C, ddod â’r unigolyn i’r llys ar gyfer gwrandawiad y cais (gweler Nodyn 15D);
  • (b) mae ganddo hawl i gynrychiolaeth gyfreithiol os yw’n dymuno, ac os felly ni all Atodiad B fod yn berthnasol; ac
  • (c) rhaid iddo gael copi o’r wybodaeth sy’n cefnogi’r cais ac sy’n datgan:
    • (i) natur y drosedd y mae’r person y mae’r cais yn berthnasol iddo wedi ei arestio am ei chyflawni;
    • (ii) natur cyffredinol y dystiolaeth oedd yn sail i arestio’r person;
    • (iii) pa ymholiadau a wnaethpwyd ynghylch y drosedd a pha ymholiadau pellach a gynigir;
    • (iv) y rhesymau dros gredu bod angen ei gadw ymhellach i ddibenion ymholiadau pellach;

Sylwer: Dim ond os oes gan y llys sail resymol dros gredu fod yna sail resymol dros gadw rhywun ymhellach y bydd cadw person ymhellach yn angenrheidiol i ddibenion casglu tystiolaeth o drosedd dditiadwy y mae’r person wedi ei arestio ar ei gyfer a bod yr ymchwiliad yn cael ei gyflawni yn ddiwyd ac yn gyflym.

Gweler paragraff 15.0(b).

15.8 Heb ei ddefnyddio.

(B) Adolygu cyfnod cadw dros y ffôn neu drwy ddefnyddio dolen fyw (adran 40A a 45A)

15.9 Mae PACE, adran 40A yn nodi nad oes angen i’r swyddog sy’n gyfrifol dan adran 40 am adolygu cyfnod cadw person nad yw wedi cael ei gyhuddo, fynychu gorsaf yr heddlu sy’n cadw’r person, a’i fod yn gallu cynnal yr adolygiad dros y ffôn.

15.9A Mae darpariaethau PACE, adran 45A(2) yn datgan nad oes rhaid i’r swyddog sy’n gyfrifol dan adran 40 am adolygu cadw person na chafodd ei gyhuddo, fynychu’r orsaf heddlu sy’n cadw’r person ac fe all gynnal yr adolygiad trwy gyfrwng dolen fyw. Gweler paragraff 1.13(e) (ii).

15.9B Ni chaniateir adolygiad dros y ffôn lle ceir cyfleusterau ar gyfer adolygu trwy ddefnyddio dolen fyw a lle mae’n ymarferol i’w defnyddio.

15.9C Fe all y swyddog adolygu benderfynu ar unrhyw adeg y dylid dirwyn yr adolygiad dros y ffôn neu trwy ddolen fyw i ben ac y cynhelir yr adolygiad wyneb yn wyneb. Dylid nodi’r rheswm am hynny yng nghofnod y ddalfa. Gweler Nodyn 15F.

15.10 Pan gynhelir adolygiad dros y ffôn neu trwy ddolen fyw, bydd y swyddog adolygu yn gofyn i swyddog yn yr orsaf sy’n cadw’r person i gyflawni ymrwymiadau’r swyddog hwnnw dan PACE adran 40 neu’r Cod yma trwy:

  • (a) baratoi unrhyw gofnod sy’n ymwneud â’r adolygiad yng nghofnod cadw’r sawl sy’n cael ei gadw;
  • (b) os yw hynny’n berthnasol, gwneud cofnod yn (a) ym mhresenoldeb y sawl sy’n cael ei gadw; a
  • (c) ar gyfer adolygiad dros y ffôn, rhoi gwybodaeth i’r sawl sy’n cael ei gadw ynghylch yr adolygiad.

15.11 Pan gynhelir adolygiad dros y ffôn neu trwy ddolen fyw, bodlonir y gofyniad ym mharagraff 15.3:

  • (a) os oes cyfleusterau’n bodoli i drosglwyddo cyflwyniadau ysgrifenedig i’r swyddog adolygu yn syth, e.e. ffacs neu neges e-bost, trwy roi’r cyfle i’r sawl sy’n cael ei gadw wneud cyflwyniadau:
    • (i) ar lafar dros y ffôn neu (yn ôl y digwydd) trwy ddefnyddio dolen fyw; neu
    • (ii) ar bapur trwy ddefnyddio’r cyfleusterau ar gyfer trosglwyddiad uniongyrchol sylwadau ysgrifenedig; ac
  • (b) ym mhob achos arall, trwy roi’r cyfle i’r sawl sy’n gwneud cyflwyniadau, i wneud ei gyflwyniadau ar lafar dros y ffôn neu trwy ddefnyddio dolen fyw.

(C) Awdurdodiad i ymestyn y cyfnod cadw gan ddefnyddio dolen fyw (adrannau 45ZA a 45ZB)

15.11A At ddibenion paragraffau 15.2 a 15.2A, gall uwcharolygydd nad yw’n bresennol yn yr orsaf yr heddlu lle mae’r sawl sy’n cael ei gadw ond sydd hefo mynediad i ddolen fyw (gweler paragraff 1.13(e)(iii)), ddefnyddio’r ddolen fyw honno, i roi awdurdod i ymestyn yr uchafswm cyfnod cadw a ganiateir cyn cyhuddo, os, a dim ond os, bodlonir yr amodau canlynol:

  • (i) mae swyddog y ddalfa o’r farn bod defnyddio’r ddolen fyw yn briodol (gweler Nodyn 15H);
  • (ii) mae’r sawl sy’n cael ei gadw wedi gofyn am, ac wedi cael, cyngor cyfreithiol ar ddefnyddio’r ddolen fyw (gweler paragraff 15.4).
  • (iii) mae’r sawl sy’n cael ei gadw wedi rhoi ei ganiatâd i’r ddolen fyw gael ei defnyddio (gweler paragraff 15.11D)

15.11B Pan ddefnyddir dolen fyw:

(a) rhaid i’r uwch-arolygydd awdurdodi, mewn perthynas ag unrhyw gofnod sy’n gysylltiedig â’r awdurdodiad y mae’n ofynnol i’r swyddog awdurdodi ei wneud o dan PACE, adran 42 a’r Cod hwn, ei gwneud yn ofynnol i swyddog yn yr orsaf sy’n cadw’r sawl dan sylw wneud y cofnod hwnnw yng nghofnod dalfa’r sawl sy’n cael ei gadw;

(b) bydd y gofyniad ym mharagraff 15.3 (rhoi cyfle i gyflwyno sylwadau) yn cael ei fodloni:

  • (i) os oes cyfleusterau’n bodoli i drosglwyddo sylwadau ysgrifenedig i’r swyddog awdurdodi yn syth, e.e. ffacs neu neges e-bost, trwy ganiatáu i’r rhai sy’n cael cyfle i wneud sylwadau, i wneud eu sylwadau:
    • yn ysgrifenedig trwy’r cyfleusterau hynny neu
    • ar lafar trwy ddefnyddio dolen fyw; neu
  • (ii) ym mhob achos arall, trwy roi’r cyfle i’r sawl sy’n cyflwyno sylwadau, i gyflwyno ei sylwadau ar lafar trwy ddefnyddio dolen fyw.

(c) Gall y swyddog awdurdodi benderfynu ar unrhyw adeg i derfynu’r ddolen fyw a mynd i’r orsaf heddlu lle mae’r unigolyn yn cael ei gadw i gyflawni’r weithdrefn wyneb yn wyneb. Dylid nodi’r rheswm am hynny yng nghofnod y ddalfa.

15.11C At ddibenion paragraff 15.7A a gwrandawiad mewn llys ynadon i ystyried cais dan PACE, adran 43 am warant cadw bellach i ymestyn y cyfnod cadw heb gyhuddiad person a arestiwyd am drosedd dditiadwy, neu o dan PACE, adran 44, i ymestyn neu ymestyn y warant honno ymhellach, caiff y llys ynadon roi cyfarwyddyd i ddolen fyw (gweler paragraff 1.13(e)(iv)) gael ei defnyddio at ddibenion y gwrandawiad os, a dim ond os, yw’r amodau canlynol wedi’u bodloni:

  • (i) mae swyddog y ddalfa o’r farn bod defnyddio’r ddolen fyw at ddiben y gwrandawiad yn briodol (gweler Nodyn 15H);
  • (ii) mae’r sawl sy’n cael ei gadw wedi gofyn am, ac wedi cael, cyngor cyfreithiol ar ddefnyddio’r ddolen fyw (gweler paragraff 15.4).
  • (iii) mae’r sawl sy’n cael ei gadw wedi rhoi ei ganiatâd i’r ddolen fyw gael ei defnyddio (gweler paragraff 15.11D); a
  • (iv) nid yw’n groes i fuddiannau cyfiawnder i roi’r cyfarwyddyd.

15.11D Mae cyfeiriadau ym mharagraffau 15.11A(iii) a 15.11C(iii) i gydsyniad y sawl sy’n cael ei gadw yn golygu:

  • (a) cydsyniad yr unigolyn sy’n cael ei gadw, os yw’r unigolyn hwnnw yn 18 oed neu’n hŷn;
  • (b) os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn 14 oed ac o dan 18 oed, cydsyniad y sawl sy’n cael ei gadw a’i riant neu warcheidwad; a
  • (c) os yw’r sawl sy’n cael ei gadw o dan 14 oed, cydsyniad ei riant neu warcheidwad.

15.11E Bydd y cydsyniad a ddisgrifir ym mharagraff 15.11D yn ddilys dim ond os:

  • (i) yn achos unigolyn 18 oed neu hŷn sy’n oedolyn sy’n agored i niwed fel y disgrifir ym mharagraff 15.4A), bod gwybodaeth am sut y defnyddir y ddolen fyw a’r atgoffad am ei hawl i gyngor cyfreithiol y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 15.4 a’u cydsyniad yn cael eu rhoi ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol; ac
  • (ii) yn achos person ifanc:
    • os rhoddir gwybodaeth am sut y defnyddir y ddolen fyw a’r atgoffad am ei hawl i gyngor cyfreithiol a gyfeirir ato ym mharagraff 15.4 ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol (a all fod yn rhiant neu warcheidwad iddo neu beidio); a
    • os yw’r person ifanc yn 14 oed neu’n hŷn, rhoddir ei gydsyniad ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol (a all fod yn rhiant neu’n warcheidwad iddo neu beidio).

Sylwer: Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw o dan 14 oed, mae cydsyniad ei riant neu warcheidwad yn ddigonol ynddo’i hun (gweler Nodyn 15I).

(D) Dogfennaeth

15.12 Y swyddog sy’n gyfrifol am sicrhau y nodir yr holl achosion o atgoffa a wneir dan baragraff 15.4 yn y cofnod cadw.

15.13 Cofnodir sail, a graddau, unrhyw oedi a geir wrth gynnal adolygiad.

15.14 Pan gynhelir adolygiad dros y ffôn neu trwy ddefnyddio cyfleusterau fideogynadledda, gwneir cofnod:

  • (a) o’r rheswm pam na wnaeth y swyddog adolygu fynychu’r orsaf a oedd yn cadw’r person;
  • (b) o leoliad y swyddog adolygu;
  • (c) y dulliau y gwnaethpwyd cyflwyniadau, ar lafar neu ar bapur, i’r swyddog adolygu, gweler paragraff 15.11.

15.15 Cedwir unrhyw gyflwyniadau ysgrifenedig.

15.16 Cyn gynted ag y bydd hynny’n ymarferol, gwneir cofnod o:

  • (a) ganlyniad pob adolygiad cyfnod cadw cyn neu wedi cyhuddo, ac os bydd paragraff 15.7 yn berthnasol, yr adeg yr hysbyswyd y person a chan bwy;
  • (b) canlyniad unrhyw benderfyniad dan PACE, adran 42 gan uwch-arolygydd p’un ai i ymestyn yr uchafswm cyfnod cadw heb gyhuddo tu hwnt i 24 awr o’r amser perthnasol. Os rhoddir awdurdod, bydd y cofnod yn nodi nifer yr oriau a’r munudau yr ymestynnir y cyfnod cadw neu ei ymestyn ymhellach.
  • (c) canlyniad pob cais dan PACE, adran 43, am warant neu estyniad pellach neu dan adran 44, am estyniad neu estyniad pellach o’r warant honno. Os rhoddir gwarant i gadw rhywun ymhellach dan adran 43 neu ymestyn neu ymestyn ymhellach dan 44, bydd y cofnod yn nodi’r cyfnod cadw a awdurdodwyd gan y warant a’r dyddiad a’r amser y’i rhoddwyd neu (yn ôl y digwydd) y cyfnod yr ymestynnir y warant ar ei gyfer neu ei ymestyn ymhellach.

Sylwer: Nid yw unrhyw gyfnod ble mae person yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth yn cyfrif tuag at yr uchafswm cyfnod cadw heb gyhuddiad a ganiateir dan PACE, adrannau 41 i 44.

Nodiadau Arweiniad

15A Ystyr swyddog adolygu at ddibenion:

  • PACE, adrannau 40, 40A a 45A yn achos person a arestiwyd ond na gyhuddwyd, yw swyddog o safle arolygydd o leiaf ond nad yw’n ymwneud â’r ymchwiliad yn uniongyrchol ac, os yw person wedi cael ei arestio a’i gyhuddo, swyddog y ddalfa.

15B Dylid parhau i adolygu’r cyfnod y cedwir unigolion yn y ddalfa gan yr heddlu, nad ydynt yn rhwym i’r gofyniad adolygu statudol ym mharagraff 15.1, o dro i dro fel mater o arfer da. Gellir cynnal adolygiadau o’r fath gan swyddog o safle rhingyll neu uwch. Diben adolygiadau o’r fath yw sicrhau bod y pŵer arbennig a ddefnyddir i gadw sawl sy’n cael ei gadw, yn parhau i fod yn berthnasol, y cydymffurfir ag unrhyw amodau cysylltiedig a sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd i ddelio ag unrhyw newidiadau. Mae hyn yn cynnwys rhyddhau’r sawl sy’n cael ei gadw’n fuan pan na fydd y pŵer yn berthnasol mwyach, neu ei drosglwyddo os yw’r pŵer yn nodi bod angen mynd â’r sawl sy’n cael ei gadw i rywle arall cyn gynted ag y gwneir y trefniadau angenrheidiol. Mae enghreifftiau’n cynnwys unigolion:

  • (a) a arestiwyd dan warant oherwydd eu bod wedi methu cydymffurfio â’u mechnïaeth i ymddangos mewn llys;
  • (b) a arestiwyd dan Ddeddf Mechnïaeth 1976, adran 7(3) am dorri amod mechnïaeth a roddir iddo ar ôl ei gyhuddo;
  • (c) a gedwir yn y ddalfa gan yr heddlu at ddibenion ac am gyfnodau penodol dan Ddeddf Trosedd (Dedfrydau) 1997, Atodlen 1;
  • (d) a ddedfrydir, neu garcharorion remand, a gedwir mewn gorsafoedd heddlu ar ran y Gwasanaeth Carchardai o dan Ddeddf Carcharu (Darpariaethau Dros Dro) 1980, adran 6;
  • (e) a gedwir er mwyn eu hatal rhag tor-heddwch;
  • (f) a gedwir mewn gorsafoedd heddlu ar ran Gorfodi Mewnfudo (Gwasanaeth Mewnfudo’r DU gynt);
  • (g) a gedwir trwy orchymyn llys ynadon o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988, adran 152 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyffuriau 2005, adran 8) i hwyluso canfod tystiolaeth ar ôl cael eu cyhuddo o fod ym meddiant cyffuriau neu gyflenwi cyffuriau ac amheuaeth o fod wedi llyncu cyffuriau.

Mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980, adran 128 yn ei gwneud yn ofynnol yn statudol i adolygu’r cyfnod y cedwir unigolion yn y ddalfa gan yr heddlu trwy orchymyn llys. Diben hyn yw sicrhau bod y sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei ddwyn yn ôl i’r llys erbyn diwedd y cyfnod a awdurdodwyd gan y llys, neu pan fo’r angen i’r heddlu i’w gadw yn dod i ben, p’un bynnag sy’n dod yn gyntaf.

15C Yn achos adolygu cyfnod cadw, ond nid ei ymestyn, ni fydd angen deffro’r sawl sy’n cael ei gadw ar gyfer yr adolygiad. Fodd bynnag, os yw hi’n debygol y bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn cysgu, e.e. yn ystod cyfnod gorffwys a ganiateir fel nodir ym mharagraff 12.2, ar yr adeg hwyraf y caniateir cynnal adolygiad neu awdurdodiad i ymestyn y cyfnod cadw, dylai’r swyddog ddod â’r drefn ymlaen er mwyn galluogi’r sawl sy’n cael ei gadw i wneud cyflwyniadau, os yw’r ymrwymiadau cyfreithiol a’r cyfyngiadau amser yn caniatáu hynny. Rhaid i berson sy’n cael ei gadw nad yw’n cysgu yn ystod yr adolygiad, fod yn bresennol pan gofnodir sail y penderfyniad i barhau i’w gadw, a rhaid ei hysbysu ar yr un pryd o’r sail hwn oni bai fod y swyddog adolygu o’r farn nad yw’r person yn gallu deall yr hyn a ddywedir, os yw’n dreisgar neu’n debygol o fod yn dreisgar neu os oes angen sylw meddygol brys arno.

15CA Ym mharagraff 15.3(b) ac (c), mae ‘ar gael’ yn cynnwys gallu cysylltu mewn pryd i’w alluogi i wneud cyflwyniadau o bell dros y ffôn neu trwy fodd electronig arall neu’n bersonol trwy fynychu’r orsaf. Dylid felly wneud pob ymdrech rhesymol i roi rhybudd digonol i’r cyfreithiwr a’r oedolyn priodol o’r amser pan ddisgwylir gwneud y penderfyniad fel eu bod yn gallu bod ar gael eu hunain.

15D Dylid gwneud cais i Lys Ynadon dan PACE, adran 43 neu 44 am warant i gadw rhywun am gyfnod hwy neu ei ymestyn cyfnod cadw, rhwng 10am a 9pm, ac os oes modd, yn ystod oriau arferol y llys. Fel arfer, ni fydd hi’n ymarferol trefnu i lys eistedd yn arbennig y tu allan i’r oriau rhwng 10am a 9pm. Os yw hi’n ymddangos y bydd angen trefnu gwrandawiad arbennig y tu allan i oriau arferol y llys ond rhwng 10am a 9pm, dylid rhoi rhybudd i glerc yr ynadon a’i hysbysu o’r posibilrwydd hwn, yn ystod eisteddiad llys os yn bosib.

15E Ym mharagraff 15.2, mae’r swyddog sy’n gyfrifol am yr orsaf sy’n cadw’r sawl sy’n cael ei gadw, yn cynnwys uwch-arolygydd neu rywun o statws uwch sydd, yn unol â pholisi gweithrediadol ei awdurdod heddlu neu reoliadau’r heddlu, yn gyfrifol am hyn dros dro pan nad yw’r deiliad tymor hir a benodwyd, ar ddyletswydd neu ar gael fel arall.

15F Nid yw darpariaethau PACE, adran 40A, sy’n caniatáu adolygiadau dros y ffôn, yn berthnasol er mwyn adolygu cyfnod cadw ar ôl cyhuddo gan swyddog y ddalfa. Pan nad oes angen defnyddio dolen fyw,, maent yn caniatáu defnyddio ffôn i gyflawni adolygiad o gadw cyn cyhuddo.

15G Heb ei ddefnyddio.

15H Wrth ystyried a yw’r defnydd o’r ddolen fyw yn briodol yn achos person ifanc neu berson sy’n agored i niwed, dylai swyddog y ddalfa a’r uwch-arolygydd ystyried gallu’r sawl sy’n cael ei gadw i ddeall diben yr awdurdodiad (yn ôl fel y digwydd) y gwrandawiad llys, a bod yn fodlon bod y sawl sydd dan amheuaeth yn gallu cymryd rhan yn effeithiol yn y broses (gweler paragraff 1.4(c)). Dylai’r oedolyn priodol gael ei gynnwys bob amser.

15I At ddibenion paragraffau 15.11D a 15.11E, caiff y caniatâd sy’n ofynnol gan riant neu warcheidwad, ar gyfer person ifanc sydd yng ngofal awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol, gael ei roi gan yr awdurdod neu’r sefydliad hwnnw. Yn achos person ifanc, nid oes dim ym mharagraff 15.11D a 15.11E yn gofyn i riant, gwarcheidwad neu gynrychiolydd awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol fod yn bresennol gyda’r person ifanc i roi ei ganiatâd, oni bai ei fod yn gweithredu fel yr oedolyn priodol. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod rhiant, gwarcheidwad neu gynrychiolydd awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol nad yw’n bresennol yn cael ei hysbysu’n llawn cyn gofyn iddo gydsynio. Rhaid iddo gael yr un wybodaeth â’r wybodaeth a roddir i’r person ifanc a’r oedolyn priodol yn unol â pharagraff 15.11E. Rhaid iddo gael cyfle hefyd i siarad â’r person ifanc a’r oedolyn priodol os yw’n dymuno hynny. Cyn belled â bod y caniatâd yn seiliedig ar wybodaeth lawn ac nad ydyw yn cael ei dynnu’n ôl, gellir ei gael ar unrhyw adeg cyn defnyddio’r ddolen fyw.

16 Cyhuddo unigolion a gedwir

(A) Gweithredu

16.1 Pan fo gan swyddog sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad sail resymol dros gredu nad oes digon o dystiolaeth i sicrhau ei bod yn realistig disgwyl collfarnu rhywun o gyflawni trosedd (gweler paragraff 11.6), bydd yn cysylltu’n ddi-oed â swyddog y ddalfa, ac yn unol â’r amod canlynol, yn ei hysbysu ynghylch pwy fydd yn gyfrifol am ystyried a ddylid cyhuddo’r sawl sy’n cael ei gadw neu beidio. Gweler Nodiadau 11B ac 16A. Pan gedwir person oherwydd mwy nag un trosedd, caniateir oedi cyn hysbysu swyddog y ddalfa hyd nes bodlonir yr amodau uchod ar gyfer yr holl droseddau, ond gweler paragraff 11.6. Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn berson ifanc, neu’n berson sy’n agored i niwed, bydd unrhyw gamau dilynol yn cael eu cymryd ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol os yw’n bresennol ar y pryd.

Gweler Nodiadau 16B ac 16C.

16.1A Lle mae arweiniad a gyhoeddwyd gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus dan adran 37A yn weithredol, mae’n rhaid i swyddog y ddalfa gydymffurfio â’r Arweiniad hynny wrth ystyried sut i weithredu wrth ddelio gyda’r sawl sy’n cael ei gadw. Gweler Nodiadau 16AA ac 16AB.

16.1B Lle bydd swyddog y ddalfa wrth gydymffurfio ag Arweiniad y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn penderfynu y dylid cyfeirio’r achos ar unwaith at Wasanaeth Erlyn y Goron er mwyn gwneud penderfyniad cyhuddo, dylid ymgynghori gydag Erlynydd y Goron cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib. Os nad yw Erlynydd y Goron yn gallu gwneud penderfyniad cyhuddo ar y wybodaeth sydd ar gael ar y pryd, gellir rhyddhau’r sawl sy’n cael ei gadw yn ddigyhuddiad ac ar fechnïaeth (gydag amodau os oes angen) dan adran 37(7)(a). Mewn amgylchiadau o’r fath, dylid hysbysu’r sawl sy’n cael ei gadw ei fod yn cael ei ryddhau er mwyn galluogi’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus i wneud penderfyniad dan adran 37B.

16.2 Pan gyhuddir y sawl sy’n cael ei gadw neu pan y’i hysbysir y gall gael ei erlyn am drosedd, gweler Nodyn 16B, oni bai fod y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn bodoli, gweler Atodiad C, rhoddir y rhybudd canlynol iddo:

‘You do not have to say anything. But it may harm your defence if you do not mention now something which you later rely on in court. Anything you do say may be given in evidence.’

Ble mae’n briodol i ddefnyddio’r Gymraeg, gall cwnstabl ddarparu’r rhybudd yn uniongyrchol yn Gymraeg yn y termau canlynol:

‘Does dim rhaid i chi ddweud dim byd. Ond gall niweidio eich amddiffyniad os na fyddwch chi’n sôn, yn awr, am rywbeth y byddwch chi’n dibynnu arno nes ymlaen yn y llys. Gall unrhyw beth yr ydych yn ei ddweud gael ei roi fel tystiolaeth.’

Mae Atodiad C, paragraff 2 yn nodi termau amgen y rhybudd i’w roi pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol.

16.3 Pan gyhuddir sawl sy’n cael ei gadw rhoddir rhybudd ysgrifenedig iddo yn nodi manylion y drosedd ac, yn unol â pharagraff 2.6A, enw’r swyddog a chyfeirnod yr achos. Cyn belled ag y bo modd, nodir manylion y cyhuddiad mewn ffordd syml, ond bydd yn dangos hefyd yr union drosedd yn ôl y gyfraith y cyhuddir y sawl sy’n cael ei gadw ohoni. Bydd yr hysbysiad yn dechrau fel hyn:

‘You are charged with the offence(s) shown below.’ Ac yna’r rhybudd.

Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn berson ifanc, os oes ganddo anhwylder meddwl neu os yw fel arall yn agored i niwed yn feddyliol, dylid rhoi’r rhybudd i’r oedolyn priodol hefyd.

16.4 Os, ar ôl cyhuddo’r sawl sy’n cael ei gadw neu ar ôl ei hysbysu y gellid ei erlyn am gyflawni trosedd bydd swyddog yn dymuno dweud wrtho am unrhyw ddatganiad ysgrifenedig neu gyfweliad gyda pherson arall yn ymwneud â throsedd o’r fath, bydd y sawl sy’n cael ei gadw naill ai’n cael gwir gopi o’r datganiad ysgrifenedig neu tynnir ei sylw at gynnwys cofnod y cyfweliad. Ni wneir unrhyw beth i geisio cael ei ymateb na’i sylwadau ac eithrio er mwyn:

  • (a) rhybuddio’r sawl sy’n cael ei gadw, ‘You do not have to say anything, but anything you do say may be given in evidence.’; Ble mae’n briodol i ddefnyddio’r Gymraeg, rhoddir rhybudd i’r sawl sy’n cael ei gadw yn defnyddio’r canlynol: ‘Does dim rhaid i chi ddweud dim byd, ond gall unrhyw beth yr ydych yn ei ddweud gael ei roi fel tystiolaeth.’ ac
  • (b) atgoffa’r sawl sy’n cael ei gadw ynghylch ei hawl i gael cyngor cyfreithiol.

16.4A Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw:

  • yn methu darllen, gellir darllen y ddogfen iddo;
  • yn berson ifanc, gydag anhwylder meddwl neu os yw fel arall yn agored i niwed yn feddyliol, rhoddir copi i’r oedolyn priodol hefyd, neu tynnir ei sylw at gofnod y cyfweliad.

16.5 Ni ellir cyfweld y sawl sy’n cael ei gadw am drosedd ar ôl ei gyhuddo o’i gyflawni, neu ei hysbysu y gellir ei erlyn am ei gyflawni, oni bai fod angen cynnal y cyfweliad:

  • er mwyn atal neu leihau’r niwed neu golled i rywun arall, neu’r cyhoedd
  • er mwyn dileu unrhyw amwysedd yn yr ateb neu’r datganiad blaenorol
  • er budd cyfiawnder i’r sawl sy’n cael ei gadw, ac i gael cyfle i roi ei sylwadau ar yr wybodaeth yma, iddo gael gweld gwybodaeth yn ymwneud â’r drosedd sydd wedi ymddangos ers iddo gael ei gyhuddo neu ei hysbysu y gallai gael ei erlyn

Cyn cynnal unrhyw gyfweliad o’r fath, bydd y cyfwelydd yn:

  • (a) rhybuddio’r sawl sy’n cael ei gadw, ‘You do not have to say anything, but anything you do say may be given in evidence.’ Ble mae’n briodol i ddefnyddio’r Gymraeg, gall y cyfwelydd rybuddio’r sawl sy’n cael ei gadw: ‘Does dim rhaid i chi ddweud dim byd, ond gall unrhyw beth yr ydych yn ei ddweud gael ei roi fel tystiolaeth.’
  • (b) atgoffa’r sawl sy’n cael ei gadw ynghylch ei hawl i gael cyngor cyfreithiol.

Gweler Nodyn 16B

16.6 Rhaid cydymffurfio â darpariaethau paragraffau 16.2 i 16.5 ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol os yw eisoes yng ngorsaf yr heddlu. Os nad yw yng ngorsaf yr heddlu, rhaid cydymffurfio â’r darpariaethau hyn eto yn ei bresenoldeb ar ôl iddo gyrraedd oni bai fod y sawl sy’n cael ei gadw wedi’i ryddhau. Gweler Nodyn 16C.

16.7 Pan gyhuddir person ifanc o gyflawni trosedd a phan fo swyddog y ddalfa yn awdurdodi y dylid parhau i’w gadw ar ôl ei gyhuddo, rhaid i swyddog y ddalfa geisio gwneud trefniadau i’r person ifanc gael ei ddwyn i ofal awdurdod lleol neu gael ei gadw tan iddo ymddangos yn y llys oni bai bod swyddog y ddalfa yn ardystio yn unol â PACE, adran 38(6):

  • (a) ar gyfer unrhyw berson ifanc; nad yw’n ymarferol i wneud hynny ac mae’n rhaid nodi’r rhesymau pam nad yw’n ymarferol yn y dystysgrif y mae’n rhaid ei chyflwyno i’r llys; neu
  • (b) yn achos person ifanc sy’n 12 oed o leiaf, nad oes llety diogel ar gael ac na fyddai llety arall yn ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd o niwed difrifol gan y person ifanc hwnnw. Gweler Nodyn 16D.

Sylwer: Dylai prif swyddogion sicrhau bod gweithrediad y darpariaethau hyn mewn gorsafoedd heddlu yn eu hardaloedd yn amodol i oruchwyliaeth a monitro gan swyddog o reng arolygydd neu uwch. Gweler Nodyn 16E.

16.7A Mae’r gofyniad ym mharagraff 3.4(b) y dylid darparu dogfennau a deunyddiau sy’n allweddol i herio cyfreithlondeb arestio a chadw’r sawl a amheuir yn effeithiol i’r sawl a amheuir ac, os yw wedi ei gynrychioli, ei gyfreithiwr, yn berthnasol i ddibenion yr adran hon ac i gadw person wedi cyhuddo. Mae hyn yn golygu bod swyddog y ddalfa sy’n gwneud penderfyniad mechnïaeth (PACE, adran 38) neu’n adolygu’r angen i gadw wedi cyhuddo (PACE, adran 40), yn gyfrifol am bennu pa ddogfennau neu ddeunyddiau, os o gwbl, sy’n allweddol ac y mae’n rhaid eu darparu i’r sawl sy’n cael ei gadw neu ei gyfreithiwr. Gweler Nodyn 3ZA.

(B) Dogfennaeth

16.8 Gwneir cofnod o unrhyw beth mae sawl sy’n cael ei gadw yn ei ddweud wrth ei gyhuddo.

16.9 Cofnodir unrhyw gwestiynau a ofynnir yn ystod cyfweliad ar ôl cyhuddo rhywun, a’r atebion a roddir yn ymwneud â’r drosedd, yn llawn yn ystod y cyfweliad, ar ffurflenni at y diben hwnnw, a llofnodir y cofnod gan y sawl sy’n cael ei gadw neu, os bydd yn gwrthod, gan y cyfwelydd ac unrhyw un arall sy’n bresennol. Os gwneir recordiad sain neu weledol o’r atebion, bydd y trefniadau yng Nghod E neu F yn berthnasol.

16.10 Os na wneir trefniadau i drosglwyddo person ifanc i ofal awdurdod lleol fel nodir ym mharagraff 16.7, rhaid i swyddog y ddalfa gofnodi’r rhesymau am hynny a llenwi tystysgrif i’w chyflwyno gerbron y llys gyda’r person ifanc. Gweler Nodyn 16D.

Nodiadau Arweiniad

16A Rhaid i swyddog y ddalfa ystyried dewisiadau amgen i erlyn dan Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998 sy’n berthnasol i bobl dan 18 oed, ac mewn arweiniad cenedlaethol ar rybuddio troseddwyr, ar gyfer pobl sy’n 18 oed a throsodd.

16AA Lle caiff person ei arestio dan ddarpariaethau Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 sy’n caniatáu ailbrofi person ar ôl ei gael yn ddieuog o drosedd difrifol sydd yn drosedd gymwys a bennwyd yn Atodlen 5 y Ddeddf honno ac nad yw’n atal erlyn pellach yn rhinwedd adran 75(3) y Ddeddf honno, yna fe addasir darpariaethau cadw PACE gan wneud swyddog o safle uwch-arolygydd neu uwch nad yw wedi ymwneud yn uniongyrchol â’r ymchwiliad yn gyfrifol am benderfynu a yw’r dystiolaeth yn ddigonol i gyhuddo’r person.

16AB Lle mae Arweiniad a gyhoeddir gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus dan adran 37B yn weithredol, mae hawl gan swyddog y ddalfa sy’n penderfynu yn unol â’r Arweiniad bod yno dystiolaeth ddigonol i gyhuddo’r sawl a gedwir, i gadw’r person hwnnw am ddim hirach na’r hyn sy’n rhesymol angenrheidiol i benderfynu sut y dylid trin y person hwnnw dan PACE, adran 37(7)(a) i (d), yn cynnwys ymgynghori gyda’r Erlynydd ar Ddyletswydd lle bo hynny’n briodol. Mae’r cyfnod yn ddarostyngedig i’r uchafswm cyfnod cadw cyn cyhuddo a bennwyd gan PACE, adrannau 41 i 44. Lle cyfeirir achos yn unol â’r Arweiniad at Wasanaeth Erlyn y Goron am benderfyniad, dylai swyddog y ddalfa sicrhau bod swyddog sy’n ymwneud â’r ymchwiliad yn anfon y wybodaeth a nodwyd yn yr Arweiniad at Wasanaeth Erlyn y Goron.

16B Nid yw rhoi rhybudd neu gyhoeddi’r Rhybudd o Fwriad i Erlyn sy’n ofynnol yn ôl Deddf Troseddwyr Traffig y Ffyrdd 1988, adran 1, yn golygu hysbysu’r sawl sy’n cael ei gadw y gellir ei erlyn am drosedd ac felly, nid yw’n rhwystro unrhyw holi pellach mewn perthynas â’r drosedd dan sylw.

16C Nid oes unrhyw bŵer dan PACE i gadw person a gohirio camau gweithredu o dan baragraffau 16.2 i 16.5 dim ond er mwyn aros i’r oedolyn priodol gyrraedd. Dylid felly wneud pob ymdrech rhesymol i roi rhybudd digonol i’r oedolyn priodol o’r amser pan ddisgwylir gweithredu’r penderfyniad (cyhuddo ac ati) er mwyn iddo allu bod yn bresennol. Os nad yw’r oedolyn priodol yn bresennol ar yr adeg honno, neu os na all fod, dylid rhyddhau’r sawl sy’n cael ei gadw ar fechnïaeth i ddychwelyd er mwyn gweithredu’r penderfyniad pan fydd yr oedolyn yn bresennol, oni bai bod swyddog y ddalfa yn pennu bod absenoldeb yr oedolyn priodol yn golygu nad yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn addas ar gyfer mechnïaeth i’r diben hwn. Ar ôl cyhuddo rhywun, ni ellir gwrthod mechnïaeth iddo, neu ohirio ei ryddhau ar fechnïaeth, dim ond oherwydd nad yw’r unigolyn priodol ar gael, oni bai bod absenoldeb yr oedolyn hwnnw yn rhoi sail angenrheidiol i swyddog y ddalfa awdurdodi cadw ar ôl cyhuddo o dan PACE, adran 38.

16D Ac eithrio’r amgylchiadau ym mharagraff 16.7, nid yw ymddygiad na natur y drosedd a gyflawnir gan berson ifanc, yn sail i swyddog y ddalfa benderfynu ei bod hi’n anymarferol trefnu trosglwyddo’r person ifanc i ofal awdurdod lleol. Mae diffyg ymarferoldeb yn ymwneud â gofynion trafnidiaeth a theithio a’r diffyg llety diogel a ddarperir i ddibenion cyfyngu rhyddid yn golygu ei bod yn anymarferol trosglwyddo’r person ifanc. Yn hytrach, dylid cymryd bod ‘anymarferol’ yn golygu bod amgylchiadau eithriadol yn golygu bod symud y plentyn yn amhosibl neu fod disgwyl i’r person ifanc fynd i’r llys mewn cyn lleied o amser fel y byddai’r trosglwyddiad yn ei amddifadu o orffwys neu’n achosi iddo fethu ymddangosiad llys. Pan fydd y rheswm dros beidio â throsglwyddo’r person ifanc yn ymddangosiad llys sydd ar ddigwydd, dylid cynnwys manylion yr amseroedd teithio ac amser yr ymddangosiad llys sy’n cyfiawnhau’r penderfyniad yn y dystysgrif. Ffactor yn unig yw’r ffaith a oes llety diogel ar gael ar gyfer person ifanc sy’n 12 oed neu hŷn, pan na fyddai safle awdurdod lleol yn ddigonol i amddiffyn y cyhoedd rhag niwed difrifol ganddo. Mae’r ymrwymiad i drosglwyddo person ifanc i safle awdurdod lleol yr un mor berthnasol i berson ifanc a gyhuddir yn ystod y dydd, ag ar gyfer person ifanc a gedwir dros nos, yn amodol â gofyniad i ddod â’r person ifanc gerbron llys dan PACE, adran 46.

16E Mae’r Concordat ar Blant yn y Ddalfa a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref yn 2017 yn darparu arweiniad manwl gyda’r nod o atal cadw plant mewn gorsafoedd heddlu yn dilyn cyhuddiad. Mae’r Concordat ar gael yma.

17 Profi unigolion am bresenoldeb cyffuriau Dosbarth A penodedig

(A) Gweithredu

17.1 Mae’r adran hon o Cod C yn berthnasol yn unig mewn gorsafoedd heddlu dethol mewn ardaloedd heddlu lle mae’r darpariaethau ar gyfer profi am gyffuriau o dan adran 63B PACE (fel y’i diwygiwyd gan adran 5 Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 ac adran 7 Deddf Cyffuriau 2005) mewn grym a lle mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi hysbysiad i’r prif swyddog heddlu perthnasol bod trefniadau ar gyfer cymryd samplau wedi cael eu gwneud. Bydd hysbysiad o’r fath yn cynnwys naill ai ardal heddlu gyfan neu orsafoedd penodol o fewn ardal heddlu. Mae’r hysbysiad yn nodi a yw’r profi yn berthnasol i’r rhai a arestiwyd neu a gyhuddwyd neu sydd o dan 18 oed yn ôl yr angen a gall profi ddigwydd yn unig yng nghyswllt y personau a nodwyd felly yn yr hysbysiad. Ni ellir profi oni bai bod yr hysbysiad perthnasol wedi ei roi a heb ei dynnu nôl. Gweler Nodyn 17F.

17.2 Gellir cymryd sampl o wrin neu sampl amhersonol gan berson sy’n cael ei gadw gan yr heddlu ar gyfer dibenion canfod a oes yno unrhyw gyffur Dosbarth A penodedig yn ei gorff dim ond os yw wedi ei ddwyn gerbron swyddog y ddalfa ac os yw:

  • (a) naill ai’r amod arestio, gweler paragraff 17.3, neu’r amod cyhuddo, gweler paragraff 17.4 wedi eu cyflawni;
  • (b) yr amod oed, gweler paragraff 17.5, wedi eu cyflawni;
  • (c) yr amod hysbysu wedi’i gyflawni mewn perthynas â’r amod arestio, yr amod cyhuddo, neu’r amod oed, fel sy’n briodol. (Mae’n rhaid darparu’n benodol ar gyfer profi ar gyhuddo a/neu arestio yn yr hysbysiad er mwyn i’r hawl fod yn gymwys. Ar ben hynny, mae’n rhaid i’r ffaith fod profi rhai dan 18 oed wedi’i awdurdodi gael ei ddarparu’n arbennig ar ei gyfer yn yr hysbysiad cyn i’r hawl i brofi unigolion o’r fath fod yn gymwys.). Gweler paragraff 17.1; a
  • (d) swyddog heddlu wedi gwneud cais i’r person dan sylw roi’r sampl (yr amod gwneud cais).

17.3 Mae’r amod arestio wedi’i gyflawni lle mae’r sawl sy’n cael ei gadw yn y ddalfa:

  • (a) wedi ei arestio am drosedd ysgogol, gweler Nodyn 17E, ond heb ei gyhuddo o’r trosedd hwnnw; neu
  • (b) wedi ei arestio am unrhyw drosedd arall ond heb ei gyhuddo o’r trosedd hwnnw a bod swyddog heddlu o safle arolygydd neu uwch, â sail resymol i amau bod ei gamddefnydd o unrhyw gyffur Dosbarth A penodol wedi achosi neu gyfrannu at y drosedd, wedi awdurdodi cymryd y sampl.

17.4 Mae’r amod cyhuddo wedi’i gwrdd lle mae’r sawl sy’n cael ei gadw yn y ddalfa:

  • (a) wedi ei gyhuddo o drosedd ysgogol, neu
  • (b) wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd arall, a bod swyddog heddlu o reng arolygydd neu uwch, â sail resymol i amau bod ei gamddefnydd o unrhyw gyffur Dosbarth A penodol gan y sawl sy’n cael ei gadw wedi achosi neu gyfrannu at y drosedd, wedi awdurdodi cymryd y sampl.

17.5 Mae’r amod oedran wedi’i gyflawni lle:

  • (a) yn achos sawl sy’n cael ei gadw yn y ddalfa a arestiwyd ond na chyhuddwyd fel ym mharagraff 17.3, os yw’n 18 oed neu’n hŷn;
  • (b) yn achos sawl sy’n cael ei gadw yn y ddalfa a gyhuddwyd fel ym mharagraff 17.4, os yw’n 14 oed neu’n hŷn.

17.6 Cyn gofyn am sampl gan y person dan sylw, mae’n rhaid i swyddog:

  • (a) ei hysbysu mai diben cymryd y sampl yw profi am gyffuriau dan PACE. Diben hyn yw canfod a oes cyffur Dosbarth A penodedig yn bresennol yn ei gorff;
  • (b) ei rybuddio os bydd, yn dilyn cais o’r fath, yn gwrthod heb reswm da â darparu sampl y gellir ei erlyn;
  • (c) lle awdurdodwyd cymryd sampl gan arolygydd neu uwch yn unol â pharagraff 17.3(b) neu 17.4(b) uchod, ei hysbysu bod awdurdod wedi’i roi a’r sail dros ganiatáu hynny;
  • (d) ei atgoffa o’r hawliau canlynol, y gellir eu gweithredu ar unrhyw adeg o’r cyfnod yn y ddalfa:
    • (i) yr hawl i roi gwybod i rywun arall ei fod wedi cael ei arestio [gweler adran 5];
    • (ii) yr hawl i ymgynghori’n breifat gyda chyfreithiwr a bod cyngor cyfreithiol am ddim ar gael [gweler adran 6]; a
    • (iii) yr hawl i gael gweld y Codau Ymarfer hyn [gweler adran 3].

17.7 Yn achos person nad yw wedi cyrraedd oed a bennir yn adran 63B(5A) PACE ni all—

  • (a) wneud cais am sampl dan baragraff 17.2(d) uchod;
  • (b) roi rhybudd a’r wybodaeth dan baragraff 17.6 uchod; a
  • (c) chymryd y sampl, ddigwydd ac eithrio ym mhresenoldeb oedolyn priodol. Gweler Nodyn 17G.

17.8 Gellir rhoi’r awdurdod gan swyddog o safle arolygydd neu uwch o fewn paragraff 17.3(b) neu 17.4(b) ar lafar neu yn ysgrifenedig, ond os yw’n cael ei roi ar lafar, mae’n rhaid ei gadarnhau yn ysgrifenedig cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib.

17.9 Os cymerir sampl gan y sawl sy’n cael ei gadw yn y ddalfa a gafodd ei arestio am drosedd ond heb ei gyhuddo fel ym mharagraff 17.3, ni ellir cymryd sampl pellach yn ystod yr un cyfnod didor o gael ei gadw. Os yn ystod yr un cyfnod y bydd yr amod cyhuddo yn cael ei gyflawni yng nghyswllt y person a gedwir yn y ddalfa, yna bydd y sampl a gymerwyd yn cael ei drin fel un a gymerwyd yn rhinwedd cyflawni â’r amod cyhuddo, gweler paragraff 17.4.

17.10 Gellir cadw rhywun a gedwir yn y ddalfa ac y cymerir sampl ganddo am hyd at chwe awr o adeg cyhuddo os yw swyddog y ddalfa o’r farn resymol bod cadw’r person hwnnw yn angenrheidiol er mwyn galluogi cymryd sampl. Lle mae’r amod arestio wedi’i gyflawni, gellir parhau i gadw rhywun a gedwir yn y ddalfa y mae swyddog y ddalfa wedi penderfynu ei ryddhau yn ddyhuddiad ar fechnïaeth, ond ni ellir gwneud hynny y tu hwnt i 24 awr o’r amser perthnasol (fel y’i diffiniwyd yn adran 41(2) of PACE), i alluogi cymryd sampl.

17.11 Yn achos sawl sy’n cael ei gadw, os bydd yr amod arést ond nid yr amod cyhuddo wedi’i gwrdd mewn perthynas ag ef, gweler paragraffau 17.3 ac 17.4, ac y dylid ei ryddhau cyn y gellid cymryd sampl, oni bai ei fod wedi parhau i gael ei gadw o ganlyniad i gael ei arestio am drosedd pellach nad yw’n cwrdd â’r amod arestio, gall sampl arall gael ei gymryd oddi wrtho unrhyw bryd o fewn 24 awr iddo gael ei arestio am y trosedd sy’n cwrdd â’r amod arestio.

(B) Dogfennaeth

17.12 Mae’n rhaid cofnodi’r canlynol yng nghofnod y ddalfa:

  • (a) yr awdurdodiad a’r sail dros amheuaeth os cymerir sampl yn dilyn awdurdodi hynny gan swyddog o safle arolygydd neu uwch;
  • (b) rhoi’r rhybudd o ganlyniadau methu darparu sampl;
  • (c) yr amser y rhoddwyd y sampl; ac
  • (d) amser y cyhuddiad neu, lle dibynnir ar yr amod arestio, ar adeg yr arestiad a, lle mae hynny’n berthnasol, y ffaith bod sampl wedi’i gymryd ar ôl yr arestiad ond cyn cyhuddo i’w drin fel un a gymerwyd yn rhinwedd yr amod cyhuddo, lle cafodd yr amod ei gyflawni yn yr un cyfnod o gadw di-dor. Gweler paragraff 17.9.

(C) Cyffredinol

17.13 Dim ond person a ragnodwyd sy’n cael cymryd sampl. Gweler Nodyn 17C.

17.14 Ni ellir defnyddio grym i gymryd unrhyw sampl ar gyfer dibenion profi am gyffuriau.

17.15 Mae gan y termau “cyffur Dosbarth A” a “camddefnyddio” yr un ystyron â’r hyn a geir yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971. Mae gan “penodol” (mewn perthynas â chyffur Dosbarth A) a “trosedd ysgogol” yr un ystyron â’r hyn a geir yn Rhan III Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000.

17.16 Gyda golwg ar unrhyw samplau a gymerir:

  • (a) ni ellir defnyddio sampl o’r fath ar gyfer unrhyw ddiben ac eithrio canfod a oes gan y person dan sylw gyffur Dosbarth A penodedig yn bresennol yn ei gorff; a
  • (b) gellir ei waredu fel gwastraff clinigol oni bai y bydd yn cael ei anfon ar gyfer dadansoddiad pellach mewn achosion ble dadleuir ynghylch y canlyniad ar y pwynt pan ddangosir y canlyniad, yn cynnwys ar y sail y cymerwyd meddyginiaeth, neu i ddibenion sicrwydd ansawdd.

(D) Asesiad o gamddefnyddio cyffuriau

17.17 Dan ddarpariaethau Rhan 3 Deddf Cyffuriau 2005, lle mae’r sawl sy’n cael ei gadw yn y ddalfa wedi profi’n bositif am gyffur Dosbarth A penodol o dan adran 63B PACE gall swyddog heddlu, ar unrhyw adeg cyn rhyddhau’r person o’r orsaf heddlu, osod gofyniad arno i fynychu asesiad cychwynnol o’i gamddefnydd o gyffuriau gan berson cymwys addas ac aros yno tan ddiwedd yr asesiad. Ble cyflwynir gofyniad o’r fath, rhaid i’r swyddog, ar yr un pryd, gyflwyno ail ofyniad ar y sawl sy’n cael ei gadw i fynychu ac aros ar gyfer asesiad dilynol. Rhaid i’r swyddog hysbysu’r sawl sy’n cael ei gadw na fydd yr ail ofyniad yn dal yn effeithiol os, yn yr asesiad cychwynnol, bydd yn cael ei hysbysu nad oes angen asesiad dilynol. Gellir gosod y gofyniad yma yn unig os:

  • (a) yw’r person wedi cyrraedd 18 oed
  • (b) rhoddwyd hysbysiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol i’r prif swyddog heddlu perthnasol bod trefniadau ar gyfer cynnal asesiadau cychwynnol a dilynol wedi eu gwneud ar gyfer y rhai y cymerwyd samplau ar gyfer profi oddi wrthynt yn yr orsaf heddlu lle mae’r person yn cael ei gadw yn y ddalfa.

17.18 Wrth osod gofyniad i fynychu asesiad cychwynnol ac asesiad dilynol mae’n rhaid i’r swyddog heddlu:

  • (a) hysbysu’r person o’r amser a’r lleoliad y cynhelir yr asesiad cychwynnol;
  • (b) esbonio y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadarnhau yn ysgrifenedig; a(c) rhybuddio’r person y gallai wynebu erlyniad os yw’n methu, heb reswm da, mynychu’r asesiad cychwynnol ac aros yno tan ddiwedd yr asesiad ac yn methu mynychu’r asesiad dilynol ac aros yno tan ddiwedd yr asesiad (os oes angen).

17.19 Lle mae swyddog heddlu wedi gosod gofyniad i fynychu asesiad cychwynnol yn unol â pharagraff 17.17, mae’n rhaid iddo, cyn rhyddhau’r person o’r ddalfa, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person sy’n:

  • (a) cadarnhau ei bod yn ofynnol iddo/iddi fynychu ac aros tan ddiwedd yr asesiad; a
  • (b) chadarnhau’r wybodaeth ac ailadrodd y rhybudd y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 17.18.

17.20 Mae’n rhaid cofnodi’r canlynol yng nghofnod y ddalfa:

  • (a) bod y gofyniad i fynychu asesiad cychwynnol ac asesiad dilynol wedi’i osod; a
  • (b) bod yr wybodaeth, esboniad, rhybudd a hysbysiad wedi ei roi yn unol â pharagraffau 17.17 ac 17.19.

17.21 Lle rhoddwyd hysbysiad yn unol â pharagraff 17.19, fe all swyddog heddlu roi hysbysiad ysgrifenedig pellach i’r person sy’n rhoi gwybod iddo/iddi am unrhyw newid yn amser neu leoliad yr asesiad cychwynnol ac sy’n ailadrodd y rhybudd y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 17.18(c).

17.22 Mae Rhan 3 Deddf Cyffuriau 2005 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion heddlu i ystyried unrhyw arweiniad a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yng nghyswllt y darpariaethau ar gyfer asesu.

Nodiadau Arweiniad

17A Wrth rybuddio person sy’n cael cais i ddarparu sampl wrin neu sampl amhersonol yn unol â pharagraff 17.6(b), gellir defnyddio’r ffurf ganlynol o eiriau:

“You do not have to provide a sample, but I must warn you that if you fail or refuse without good cause to do so, you will commit an offence for which you may be imprisoned, or fined, or both”.

Ble mae’n briodol i ddefnyddio’r Gymraeg, gellir defnyddio’r geiriau ar y ffurf ganlynol:

“Does dim rhaid i chi roi sampl, ond mae’n rhaid i mi eich rhybuddio y byddwch chi’n cyflawni trosedd os byddwch chi’n methu neu yn gwrthod gwneud hynny heb reswm da, ac y gellir, oherwydd hynny, eich carcharu, eich dirwyo, neu’r ddau.”

17B Mae’n rhaid i sampl fod yn ddigonol ac addas. Mae sampl digonol yn ddigonol o ran maint ac ansawdd i alluogi gwneud dadansoddiad profi am gyffuriau. Mae sampl addas yn un sydd o’i natur, yn addas ar gyfer math arbennig o ddadansoddiad cyffuriau.

17C Mae person a ragnodwyd ym mharagraff 17.13 yn golygu rhywun a ragnodwyd mewn rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 63B(6) Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 1984. [Mae’r rheoliadau ar hyn o bryd wedi eu cynnwys yn rheoliad OS 2001 Rhif 2645, Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 1984 Rheoliadau (Profi Personau sy’n Cael eu Cadw gan yr Heddlu am Gyffuriau) (Personau a Ragnodwyd) 2001.]

17D Ni ellir defnyddio samplau, na’r wybodaeth a geir ohonynt, wedi hynny wrth ymchwilio i unrhyw drosedd neu mewn tystiolaeth yn erbyn y personau y cymerwyd y samplau ganddynt.

17E Mae troseddau ysgogol yn cynnwys:

  1. Troseddau dan ddarpariaethau canlynol Deddf Dwyn 1968:
  • adran 1 (dwyn)
  • adran 8 (lladrad)
  • adran 9 (byrgleriaeth)
  • adran 10 (byrgleriaeth waethygedig)
  • adran 12 (cymryd cerbyd modur neu gerbyd teithio arall heb awdurdod)
  • adran 12A (cymryd cerbyd modur gwaethygedig)
  • adran 22 (trin nwyddau wedi eu dwyn)
  • adran 25 (mynd ag offer yn barod i ddwyn ac ati)

2. Troseddau dan ddarpariaethau canlynol Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, os cyflawnir trosedd mewn perthynas â chyffur Dosbarth A penodedig:–

  • adran 4 (cyfyngu ar gynhyrchu a chyflenwi cyffur rheoledig)
  • adran 5(2) (bod ym meddiant cyffur rheoledig)
  • adran 5(3) (bod ym meddiant cyffur rheoledig gyda’r bwriad o’i gyflenwi)

3. Troseddau dan ddarpariaethau canlynol Deddf Twyll 2006:

  • adran 1 (twyll)
  • adran 6 (meddiant ac ati o erthyglau i’w defnyddio i dwyllo)
  • adran 7 (gwneud neu gyflenwi erthyglau i’w defnyddio i dwyllo)

3A. Trosedd dan adran 1(1) Deddf Ymgeisiau Troseddol 1981 os y’i cyflawnir mewn perthynas â throsedd dan

(a) unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Dwyn 1968:

  • adran 1 (dwyn)
  • adran 8 (lladrad)
  • adran 9 (byrgleriaeth)
  • adran 22 (trin nwyddau wedi eu dwyn)

(b) adran 1 y Ddeddf Twyll 2006 (twyll)

4. Troseddau dan ddarpariaethau canlynol Deddf Crwydraeth 1824:

  • adran 3 (cardota)
  • adran 4 (cardota parhaus)

17F Mae’r pŵer i gymryd samplau yn ddarostyngedig i hysbysiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol bod trefniadau priodol ar gyfer cymryd samplau wedi’i wneud ar gyfer ardal yr heddlu gyfan neu ar gyfer yr orsaf heddlu benodol dan sylw pa un bynnag o’r canlynol a nodir yn yr hysbysiad:

  • (a) unigolion y mae’r amod arestio wedi’i gyflawni mewn perthynas â hwy;
  • (b) unigolion y mae’r amod cyhuddo wedi’i gyflawni mewn perthynas â hwy;
  • (c) unigolion nad ydynt eto yn 18 oed.

Sylwer: Bernir bod hysbysiad wedi’i roi at ddibenion yr amod cyhuddo mewn perthynas ag ardal heddlu, os oedd profi (ar gyhuddo) o dan adran 63B(2) PACE yn weithredol yn union cyn y daeth adran 7 Deddf Cyffuriau 2005 i rym; ac ar gyfer dibenion yr amod oedran, mewn perthynas ag ardal heddlu neu orsaf heddlu, os oedd hysbysiad bod trefniadau wedi eu gwneud ar gyfer cymryd samplau oddi wrth unigolion o dan 18 oed (rhai rhwng 14-17) wedi eu rhoi a heb eu tynnu yn ôl, yn union cyn y diwrnod hwnnw.

17G Mae oedolyn priodol ym mharagraff 17.7 yn golygu–

  • (a) rhiant neu warchodwr y person neu, os yw yng ngofal awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol, person sy’n cynrychioli’r awdurdod neu sefydliad hwnnw; neu
  • (b) gweithiwr cymdeithasol awdurdod lleol; neu
  • (c) os nad oes unrhyw berson sy’n dod o dan (a) neu (b) uchod ar gael, unrhyw berson cyfrifol 18 oed neu hŷn nad yw:
    • yn swyddog yr heddlu;
    • wedi ei gyflogi gan yr heddlu;
    • dan gyfarwyddyd neu reolaeth prif swyddog heddlu; neu
    • yn berson sy’n darparu gwasanaethau dan drefniadau cytundebol (ond heb gael ei gyflogi gan brif swyddog heddlu), i gynorthwyo’r heddlu hwnnw parthed cyflawni ei swyddogaethau prif swyddog;

p’un a yw ar ddyletswydd ar y pryd neu beidio.

Atodiad A

Noeth-chwiliadau ac archwiliadau personol

A Chwiliad personol

  1. Mae chwiliad personol yn cynnwys archwiliad corfforol o agorfeydd corff rhywun ac eithrio’r geg. Mae natur ymwthgar archwiliadau o’r fath yn golygu na ddylid byth ddibrisio’r risgiau gwirioneddol a’r risgiau posibl sy’n gysylltiedig ag archwiliadau personol.

(a) Gweithredu

2. Gellir archwilio agorfeydd y corff ac eithrio’r geg dim ond:

  • (a) os bydd swyddog o reng arolygydd neu uwch, â sail resymol i gredu bod y person wedi cuddio’r canlynol arno ei hun:
    • (i) unrhyw beth y gallai ei ddefnyddio i achosi niwed corfforol i’w hun neu eraill yn yr orsaf; neu
    • (ii) cyffuriau Dosbarth A y mae’n bwriadu eu cyflenwi i rywun arall neu eu hallforio; ac os oes gan y swyddog sail resymol i gredu mai chwiliad personol yw’r unig ffordd o dynnu’r eitemau hynny; ac
  • (b) os yw’r archwiliad yn digwydd dan baragraff 2(a)(ii) (archwiliad trosedd cyffuriau), lle cafwyd caniatâd priodol ysgrifenedig y sawl sy’n cael ei gadw.

2A. Cyn i’r chwiliad gychwyn mae’n rhaid i swyddog heddlu neu swyddog cadw dynodedig hysbysu’r sawl sy’n cael ei gadw:-

  • (a) bod awdurdod wedi’i roi i gynnal y chwiliad;
  • (b) ar ba sail yr awdurdodwyd y chwiliad a’r sail dros gredu na ellir tynnu’r eitem heb gynnal chwiliad personol.

2B. Cyn y gofynnir i’r sawl sy’n cael ei gadw i roi caniatâd priodol am chwiliad dan baragraff 2(a) (ii) (chwiliad yn gysylltiedig â throsedd cyffuriau), mae’n rhaid ei rybuddio os yw’n gwrthod heb achos da y gallai hynny niweidio ei achos pe bai’r achos yn dod gerbron llys, gweler Nodyn A6. Gellir rhoi’r rhybudd hwn gan swyddog heddlu neu aelod o staff yr heddlu. Yn achos pobl ifanc neu berson sy’n agored i niwed, rhaid i geisio a rhoi cydsyniad ddigwydd ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol. Dim ond os ceir cydsyniad rhiant neu warchodwr person ifanc hefyd y bydd cydsyniad y person ifanc yn ddilys, oni bai bod y person ifanc dan 14 oed, ac felly bydd cydsyniad y rhiant neu warchodwr yn unig yn ddigon. Mae’n rhaid atgoffa rhywun sy’n cael ei gadw sydd heb gynrychiolaeth gyfreithiol o’i hawl i gyngor cyfreithiol am ddim, gweler Cod C, paragraff 6.5, gan nodi hynny yng nghofnod y ddalfa.

3. Yr unig rai a all gyflawni chwiliad personol yw ymarferwr meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig, oni bai fod swyddog o safle arolygydd o leiaf, o’r farn nad yw hyn yn ymarferol a bod y chwiliad i’w gynnal dan baragraff 2(a)(i), lle gall swyddog heddlu gyflawni’r chwiliad. Gweler Nodiadau A1 i A5.

3A. Yr unig adeg y dylid ystyried unrhyw fwriad i gynnal chwiliad dan baragraff 2(a)(i) gan rywun nad yw’n ymarferwr meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig, yw pan nad oes dewis arall ar gael a phan fo’r swyddog awdurdodi yn fodlon bod y risg o adael i’r eitem barhau gyda’r sawl sy’n cael ei gadw, yn fwy na’r risg o’i dynnu oddi yno. Gweler Nodiadau A1 i A5.

4. Gellir cynnal chwiliad personol dan:

  • baragraff 2(a)(i) mewn ysbyty, meddygfa, adeilad meddygol arall neu orsaf heddlu yn unig;
  • paragraff 2(a)(ii) mewn ysbyty, meddygfa neu adeilad meddygol arall ac mae’n rhaid i ymarferwr meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig gynnal chwiliad o’r fath.

5. Rhaid cynnal chwiliad personol ar berson ifanc neu berson sy’n agored i niwed, mewn gorsaf heddlu ym mhresenoldeb oedolyn priodol o’r un rhyw (gweler Atodiad L), oni bai fod y sawl sy’n cael ei gadw yn gofyn yn benodol am oedolyn priodol o’r rhyw arall sydd ar gael yn hwylus. Yn achos person ifanc, gellir cynnal y chwiliad yn absenoldeb yr oedolyn priodol os yw’r person ifanc yn datgan ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol, nad yw’n dymuno i’r oedolyn priodol fod yn bresennol yn ystod y chwiliad a bod yr oedolyn priodol yn cytuno. Gwneir cofnod o benderfyniad y person ifanc ac fe’i llofnodir gan yr oedolyn priodol.

6. Pan gynhelir chwiliad personol dan baragraff 2(a)(i) gan swyddog heddlu, rhaid i’r swyddog fod o’r un rhyw â’r sawl sy’n cael ei gadw (gweler Atodiad L). Rhaid i o leiaf ddau berson, ac eithrio’r sawl sy’n cael ei gadw, fod yn bresennol yn ystod yr archwiliad. Yn unol â pharagraff 5, ni ddylai unrhyw un o’r rhyw arall nad yw’n ymarferwr meddygol neu’n nyrs, fod yn bresennol, ac ni fydd unrhyw un nad oes angen iddynt fod yno yn bresennol ychwaith. Rhaid cynnal y chwiliad gyda sylw priodol i urddas, sensitifrwydd a bregusrwydd y sawl sy’n cael ei gadw gan gynnwys yn benodol, ei anghenion iechyd, hylendid a lles y mae paragraffau 9.3A a 9.3B yn berthnasol.

(b) Dogfennaeth

7. Yn achos chwiliad personol, cofnodir y canlynol cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol, yng nghofnod y ddalfa’r sawl sy’n cael ei gadw:

  • (a) ar gyfer chwiliadau dan baragraffau 2(a)(i) a (ii);
    • yr awdurdodiad i gynnal y chwiliad;
    • y sail dros roi’r awdurdodiad;
    • y sail dros gredu na ellid tynnu’r eitem heb gynnal chwiliad personol;
    • pa rannau o gorff y sawl sy’n cael ei gadw a chwiliwyd;
    • pwy gynhaliodd y chwiliad;
    • pwy oedd yn bresennol;
    • y canlyniad.
  • (b) ar gyfer chwiliadau dan baragraff 2(a)(ii):
    • rhoi’r rhybudd sy’n ofynnol dan baragraff 2B;
    • y ffaith bod caniatâd priodol wedi’i roi neu (yn ôl y digwydd) ei wrthod, ac os gwrthodwyd caniatâd, y rheswm a roddwyd am hynny (os rhoddwyd un).

8. Os cynhelir chwiliad personol gan swyddog heddlu, rhaid cofnodi’r rheswm pam yr oedd hi’n anymarferol i ymarferwr meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig, ei gynnal.

B Noeth-chwiliad

9. Mae noeth-chwiliad yn golygu chwiliad lle bydd mwy na dillad allanol yn cael eu diosg. Yn y Cod yma, mae dillad allanol yn cynnwys esgidiau a hosanau.

(a) Gweithredu

10. Yr unig adeg y gellir cynnal noeth-chwiliad yw os bernir bod angen ei gynnal er mwyn cael gafael ar eitem na fyddai gan y sawl sy’n cael ei gadw hawl i’w gadw, a phan fo’r swyddog o’r farn resymol y gallai’r sawl sy’n cael ei gadw fod wedi cuddio eitem o’r fath. Ni chynhelir noeth-chwiliadau dan y drefn arferol os na cheir unrhyw reswm dros gredu bod eitemau wedi cael eu cuddio.

Cynnal noeth-chwiliadau

11. Pan gynhelir noeth-chwiliadau:

  • (a) rhaid i swyddog yr heddlu sy’n cynnal noeth-chwiliad fod o’r un rhyw â’r sawl sy’n cael ei gadw (gweler Atodiad L);
  • (b) cynhelir y noeth-chwiliad mewn man lle na all unrhyw un arall nad oes angen iddynt fod yn bresennol, nac unrhyw un o’r rhyw arall (gweler Atodiad L) ac eithrio oedolyn priodol y mae’r sawl sy’n cael ei gadw wedi gofyn yn benodol i fod yn bresennol, weld y sawl sy’n cael ei gadw;
  • (c) ac eithrio mewn achosion brys, pan fo risg o berygl difrifol i’r sawl sy’n cael ei gadw neu i eraill, pan fo noeth-chwiliad yn golygu y bydd rhannau preifat o’r corff yn y golwg, rhaid i o leiaf ddau berson fod yn bresennol ar wahân i’r sawl sy’n cael ei gadw, ac os yw’r person dan sylw yn berson ifanc neu’n berson sy’n agored i niwed, rhaid i un o’r oedolion fod yn oedolyn priodol y person dan sylw. Ac eithrio mewn achosion brys megis y rhai a nodir uchod, gellir cynnal chwiliad ar berson ifanc yn absenoldeb yr oedolyn priodol os yw’r person ifanc yn datgan ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol, nad yw’n dymuno i’r oedolyn priodol fod yn bresennol yn ystod y chwiliad a bod yr oedolyn priodol yn cytuno. Gwneir cofnod o benderfyniad y person ifanc ac fe’i llofnodir gan yr oedolyn priodol. Caniateir i fwy na dau berson fod yn bresennol, ac eithrio’r oedolyn priodol, yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol yn unig;
  • (d) rhaid cynnal y chwiliad gyda sylw priodol i urddas, sensitifrwydd a bregusrwydd y sawl sy’n cael ei gadw yn yr amgylchiadau hyn, gan gynnwys yn benodol, ei anghenion iechyd, hylendid a lles y mae paragraffau 9.3A a 9.3B yn berthnasol. Gwneir pob ymdrech resymol i sicrhau cydweithrediad y sawl sy’n cael ei gadw, i gynnal ei urddas a lleihau unrhyw embaras. Fel arfer, ni fydd yn rhaid i unigolion a gedwir ac y cynhelir chwiliad arnynt, ddiosg eu holl ddillad ar yr un pryd, e.e. dylid caniatáu i berson dynnu dillad o’r canol i fyny a’u hail wisgo, cyn diosg unrhyw ddillad pellach;
  • (e) efallai y bydd yn rhaid i’r sawl sy’n cael ei gadw ddal ei freichiau i fyny neu sefyll gyda’i goesau ar led a phlygu ymlaen os oes angen gwneud hynny i gynorthwyo’r chwiliad, er mwyn cynnal chwiliad gweledol o’r mannau cenhedlol a rhefrol, ar yr amod na chyffyrddir ag unrhyw un o agorfeydd y corff;
  • (f) os gwelir unrhyw eitemau, gofynnir i’r sawl sy’n cael ei gadw eu rhoi i’r heddlu. Os ceir unrhyw eitemau mewn unrhyw un o agorfeydd y corff, ac eithrio’r geg, ac os bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn gwrthod eu rhoi i’r heddlu, rhaid cynnal chwiliad personol er mwyn cael gafael arnynt, ac mae’n rhaid cynnal chwiliad personol o’r fath yn unol â Rhan A;
  • (g) cynhelir noeth-chwiliad mor gyflym ag y bo modd, gan roi’r cyfle i’r sawl sy’n cael ei gadw i wisgo cyn gynted ag y bydd y chwiliad wedi’i gwblhau.

(b) Dogfennaeth

12. Gwneir cofnod yn y cofnod cadw y cynhaliwyd noeth-chwiliad, gan gynnwys y rheswm pam yr ystyriwyd bod angen ei gynnal, y rhai oedd yn bresennol ac unrhyw ganlyniad.

Nodiadau Arweiniad

A1 Cyn awdurdodi unrhyw chwiliad personol, rhaid i’r swyddog awdurdodi wneud pob ymdrech rhesymol i berswadio’r sawl sy’n cael ei gadw, i roi’r eitem iddo heb orfod cynnal archwiliad. Os bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn cytuno, dylid gofyn i ymarferwr meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig i asesu’r risgiau cysylltiedig pan fo modd a bod yn bresennol, os oes angen er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n cael ei gadw.

A2 Os na fydd y sawl sy’n cael ei gadw yn cytuno rhoi’r eitem i’r swyddog heb orfod cynnal archwiliad, rhaid i’r swyddog awdurdodi adolygu’r holl ffactorau perthnasol yn ofalus cyn awdurdodi chwiliad personol. Yn arbennig, rhaid i’r swyddog ystyried a yw’r rhesymau dros gredu y gallai eitem fod wedi cael ei guddio yn rhesymol.

A3 Os rhoddir awdurdod i gynnal chwiliad dan baragraff 2(a)(i), ymgynghorir ag ymarferwr meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig lle bynnag y bo modd. Dylid rhagdybio y cynhelir y chwiliad gan ymarferwr meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig ac mae’n rhaid i’r swyddog awdurdodi wneud pob ymdrech rhesymol i ddarbwyllo’r sawl sy’n cael ei gadw i ganiatáu i’r ymarferwr meddygol neu’r nyrs i gynnal yr archwiliad.

A4 Yr unig adeg y dylid awdurdodi heddwas i gynnal chwiliad yw pan na fydd dewis arall a phan fo pob llwybr arall wedi methu. Dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i’r swyddog awdurdodi fod yn fodlon y gallai’r sawl sy’n cael ei gadw, ddefnyddio’r eitem ar gyfer un neu fwy o’r dibenion ym mharagraff 2(a)(i) neu fwy, a bod yr anaf corfforol a achosir, yn debygol o fod yn ddigon difrifol i gyfiawnhau awdurdodi heddwas i gynnal yr archwiliad.

A5 Os yw swyddog yn amau a ddylai awdurdodi chwiliad personol gan heddwas, dylai’r swyddog ofyn am gyngor swyddog o safle uwch-arolygydd neu uwch.

A6 Wrth rybuddio’r sawl sy’n cael ei gadw y gofynnir iddo am ei ganiatâd i chwiliad personol yn gysylltiedig â throsedd cyffuriau, fel ym mharagraff 2B, gellir defnyddio’r ffurf ganlynol o eiriau:

“You do not have to allow yourself to be searched, but I must warn you that if you refuse without good cause, your refusal may harm your case if it comes to trial.”

Ble mae’n briodol i ddefnyddio’r Gymraeg, gellir defnyddio’r geiriau ar y ffurf ganlynol:

“Nid oes rhaid i chi roi caniatâd i gael eich archwilio, ond mae’n rhaid i mi eich rhybuddio os gwrthodwch heb reswm da, y gallai eich penderfyniad i wrthod wneud niwed i’ch achos pe bai’n dod gerbron llys.”

Atodiad B

Oedi cyn rhoi gwybod am arestio a lleoliad neu ganiatáu mynediad at gyngor cyfreithiol

A Pobl a gedwir dan PACE

  1. Gellir gohirio ymarfer yr hawliau yn Adran 5 neu Adran 6, neu’r ddau, os yw’r person sy’n cael ei gadw gan yr heddlu yn y ddalfa, fel yn PACE, adran 118(2), mewn cysylltiad â throsedd dditiadwy, os nad yw wedi cael ei gyhuddo eto o gyflawni trosedd a bod gan swyddog o safle uwch-arolygydd neu uwch, neu safle arolygydd neu uwch yn unig ar gyfer yr hawliau yn Adran 5, sail resymol dros gredu y bydd eu hymarfer yn:
  • (i) arwain at:
    • ymyrryd â thystiolaeth sy’n ymwneud â throsedd dditiadwy, neu niweidio tystiolaeth o’r fath; neu
    • ymyrryd â phobl eraill, neu achosi niwed corfforol iddynt; neu (ii) arwain at hysbysu eraill yr amheuir iddynt gyflawni trosedd dditiadwy, ond nad ydynt wedi cael eu harestio hyd yma; neu
  • (iii) amharu ar y gwaith o adennill eiddo a gafwyd o ganlyniad i gomisiynu trosedd o’r fath.

2. Gellir oedi’r hawliau hyn hefyd os oes gan y swyddog sail resymol i gredu’r canlynol:

  • (i) bod y sawl a gadwyd am drosedd dditiadwy wedi ymelwa o’i ymddygiad troseddol (penderfynwyd yn unol â Rhan 2 Deddf Elw Troseddau 2002), a
  • (ii) bydd arfer y naill neu’r llall o’r hawliau hynny yn amharu ar adennill gwerth yr eiddo sy’n cyfateb i’r ymelwa hynny.

3. Yr unig adeg y gellir rhoi awdurdod i ohirio hawl sawl sy’n cael ei gadw i gysylltu â chyfreithiwr, yw pan fo gan y swyddog awdurdodi sail resymol dros gredu y bydd y cyfreithiwr y mae’r sawl sy’n cael ei gadw wedi’i ddewis i ymgynghori ag ef, yn trosglwyddo neges gan y sawl sy’n cael ei gadw, neu’n ymddwyn mewn unrhyw ffordd arall a fyddai’n arwain at unrhyw un o’r goblygiadau a nodir o dan baragraffau 1 neu 2 yn anfwriadol neu fel arall. Dan yr amgylchiadau hyn, rhaid rhoi’r cyfle i’r sawl sy’n cael ei gadw ddewis cyfreithiwr arall. Gweler Nodyn B3.

4. Os bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn dymuno gweld cyfreithiwr, ni ellir gwrthod mynediad at gyfreithiwr ar y sail y gallai gynghori’r sawl sy’n cael ei gadw i beidio ag ateb cwestiynau neu os gofynnwyd i’r cyfreithiwr fynychu gorsaf yr heddlu gan rywun arall yn gyntaf. Yn yr achos olaf, rhaid hysbysu’r sawl sy’n cael ei gadw, bod y cyfreithiwr wedi dod i orsaf yr heddlu ar gais rhywun arall, a rhaid gofyn iddo lofnodi’r cofnod cadw er mwyn nodi a yw’n dymuno gweld cyfreithiwr neu beidio.

5. Nid yw’r ffaith y gellir bodloni’r amodau dros oedi hysbysu rhywun ei fod yn cael ei arestio yn golygu yn awtomatig bod yr amodau dros oedi gael mynediad at gyngor cyfreithiol hefyd wedi cael eu bodloni.

6. Gellir gohirio’r hawliau hyn yn unig cyn belled ag y bo’r rhesymau’n bodoli ac nid am dros 36 awr mewn unrhyw achos ar ôl yr amser perthnasol fel nodir yn PACE, adran 41. Os na fydd y rhesymau’n bodoli mwyach yn ystod y cyfnod hwn, rhaid gofyn i’r sawl sy’n cael ei gadw cyn gynted ag y bo modd, a yw’n dymuno ymarfer y naill hawl neu’r llall, rhaid nodi hyn yn y cofnod cadw, a chymryd camau yn unol ag adran berthnasol y Cod.

7. Rhaid rhoi caniatâd i berson a gedwir i ymgynghori â chyfreithiwr am gyfnod rhesymol cyn unrhyw wrandawiad llys.

B Heb ei ddefnyddio

C Dogfennaeth

13. Cofnodir y sail dros weithredu dan yr Atodiad hwn a hysbysir y sawl sy’n cael ei gadw amdani cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.

14. Rhaid cofnodi unrhyw ateb a roddir gan y sawl sy’n cael ei gadw dan baragraffau 6 neu 11 a gofyn i’r sawl sy’n cael ei gadw gymeradwyo’r cofnod o ran a yw’n dymuno cael cyngor cyfreithiol ar yr adeg yma neu beidio.

D Rhybudd a rhybuddion arbennig

15. Pan gyfwelir person dan amheuaeth sy’n cael ei gadw mewn gorsaf heddlu yn ystod unrhyw gyfnod lle gohiriwyd mynediad at gyngor cyfreithiol dan yr Atodiad hwn, ni all y llys na’r rheithgor ddod i gasgliadau niweidiol am ddistawrwydd y person hwnnw.

Nodiadau Arweiniad

B1 Hyd yn oed os bydd Atodiad B yn berthnasol yn achos person ifanc, neu berson sy’n agored i niwed, dylid cymryd unrhyw gamau i hysbysu’r oedolyn priodol a’r person sy’n gyfrifol am les person ifanc os yw hwnnw’n rhywun gwahanol, fel nodir ym mharagraff 3.13 a 3.15.

B2 Yn achos dinasyddion gwledydd y Gymanwlad a dinasyddion gwledydd tramor, gweler Nodyn 7A.

B3 Mae penderfyniad i ohirio mynediad at gyfreithiwr penodol yn debygol o fod yn ddigwyddiad prin ac yn cael ei wneud pan ellir dangos bod y sawl sydd dan amheuaeth yn gallu camarwain y cyfreithiwr hwnnw a bod mwy na risg sylweddol y bydd y sawl sydd dan amheuaeth yn llwyddo i beri gwybodaeth i gael ei throsglwyddo a fydd yn arwain at un neu fwy o’r canlyniadau a nodwyd.

Atodiad C

Cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd a thelerau’r rhybudd pan fo’r cyfyngiad yn berthnasol

(a) Y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd

1. Mae Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, adrannau 34, 36 a 37 fel y’u diwygiwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999, adran 58, yn disgrifio’r amodau lle gellir dod i gasgliadau niweidiol pan fo person yn methu neu’n gwrthod dweud unrhyw beth am ei ymwneud â’r drosedd wrth gael ei gyfweld, ar ôl cael ei gyhuddo neu ei hysbysu y gallai gael ei erlyn. Mae’r darpariaethau hyn yn ddibynnol ar gyfyngiad blaenaf ynghylch gallu llys neu reithgor i ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd person. Mae’r cyfyngiad hwn yn berthnasol i:

(a) unrhyw un sy’n cael ei gadw mewn gorsaf heddlu, gweler Nodyn 10C sydd wedi, cyn cael ei gyfweld, gweler adran 11 neu gael ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn, gweler adran 16: - (i) gofyn am gyngor cyfreithiol, gweler adran 6, paragraff 6.1; - (ii) heb gael cyfle i ymgynghori â chyfreithiwr, gan gynnwys y cyfreithiwr ar ddyletswydd, fel nodir yn y Cod yma; ac - (iii) heb newid ei feddwl ynghylch cael cyngor cyfreithiol, gweler adran 6, paragraff 6.6(d).

Sylwer y bydd yr amod yn (ii) yn:

  • berthnasol pan fydd person sy’n cael ei gadw ac sydd wedi gofyn am gyngor cyfreithiol, yn cael ei gyfweld cyn siarad â chyfreithiwr fel nodir yn adran 6, paragraff 6.6(a) neu (b);
  • amherthnasol os bydd y person sy’n cael ei gadw yn penderfynu peidio gofyn am y cyfreithiwr ar ddyletswydd, gweler adran 6, paragraffau 6.6(c) a (d).

(b) unrhyw berson a gyhuddwyd o gyflawni trosedd, neu a hysbyswyd y gellir ei erlyn am gyflawni trosedd, sydd:

  • (i) wedi cael gwybod am ddatganiad ysgrifenedig a wnaethpwyd gan berson arall neu gynnwys cyfweliad gyda pherson arall sy’n berthnasol i’r drosedd dan sylw, gweler adran 16, paragraff 16.4;
  • (ii) yn cael ei gyfweld ynghylch y drosedd dan sylw, gweler adran 16, paragraff 16.5; neu
  • (iii) yn gwneud datganiad ysgrifenedig ynghylch y drosedd dan sylw, gweler Atodiad D paragraffau 4 a 9.

(b) Amodau’r rhybudd pan fo’r cyfyngiad yn berthnasol

2. Pan fo gofyniad i roi rhybudd yn codi ar adeg pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol, bydd y rhybudd fel a ganlyn:

‘You do not have to say anything, but anything you do say may be given in evidence.’

Ble mae’n briodol i ddefnyddio’r Gymraeg, gellir defnyddio’r rhybudd yn uniongyrchol yn Gymraeg yn y termau canlynol:

‘Does dim rhaid i chi ddweud dim byd, ond gall unrhyw beth yr ydych chi’n ei ddweud gael ei roi fel tystiolaeth.’

3. Pan fo’r cyfyngiad naill ai’n dechrau dod i rym neu’n gorffen bod yn berthnasol ar ôl rhoi rhybudd eisoes, defnyddir y termau priodol i ailrybuddio’r person. Esbonnir y sefyllfa sydd wedi newid ynghylch dod i gasgliadau niweidiol ac nad yw’r rhybudd blaenorol yn berthnasol mwyach, i’r sawl sy’n cael ei gadw, hefyd mewn iaith gyffredin. Gweler Nodyn C2.

Nodiadau Arweiniad

C1 Nid yw’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol i berson nad yw wedi cael ei gadw ac na ellir felly ei atal rhag gofyn am gyngor cyfreithiol os yw’n dymuno, gweler paragraffau 10.2 a 3.21.

C2 Awgrymir y canlynol fel fframwaith er mwyn helpu esbonio’r newidiadau yn y sefyllfa gyda golwg ar ddod i gasgliadau niweidiol os bydd y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd:

(a) yn cychwyn bod yn berthnasol: ‘Dyw’r rhybudd a gafodd ei roi i chi yn gynharach ddim yn berthnasol mwyach. Mae hyn oherwydd eich bod chi, ar ôl cael y rhybudd hwnnw:

  • (i) wedi gofyn am gael siarad gyda chyfreithiwr ond heb gael cyfle eto i siarad gyda chyfreithiwr. Gweler paragraff 1(a); neu
  • (ii) wedi cael eich cyhuddo o/wedi cael eich hysbysu y gellir eich erlyn. Gweler paragraff 1(b).

‘Mae hyn yn golygu o hyn ymlaen na ellir dod i gasgliadau niweidiol yn y llys ac na fydd eich amddiffyniad yn cael ei niweidio, dim ond oherwydd eich bod chi’n dewis peidio â dweud dim byd. Gwrandewch yn ofalus, os gwelwch yn dda, ar y rhybudd rwy’n mynd i’w roi i chi oherwydd hwn fydd yn berthnasol o hyn ymlaen. Byddwch chi’n gweld na fydd yn dweud dim byd am niwed yn cael ei wneud i’ch amddiffyniad.’

(b) yn peidio bod yn berthnasol cyn neu ar yr adeg y cyhuddir y person neu ei hysbysir y gellir ei erlyn, gweler paragraff 1(a);

‘Dyw’r rhybudd a gafodd ei roi i chi yn gynharach ddim yn berthnasol mwyach. Mae hyn oherwydd eich bod chi, ar ôl cael y rhybudd hwnnw, wedi cael cyfle i siarad gyda chyfreithiwr. Gwrandewch yn ofalus, os gwelwch yn dda, ar y rhybudd rwy’n mynd i’w roi i chi oherwydd hwn fydd yn berthnasol o hyn ymlaen. Mae’n esbonio sut y gall eich amddiffyniad gael ei effeithio os byddwch chi’n dewis peidio â dweud dim byd.’

Atodiad D

Datganiadau ysgrifenedig ar ôl rhoi rhybudd

(a) A ysgrifennir gan berson a rybuddiwyd

1. Estynnir gwahoddiad i berson ysgrifennu’r hyn y mae’n dymuno’i ddweud bob amser.

2. Gofynnir i berson nad yw wedi cael ei gyhuddo o unrhyw drosedd, neu ei hysbysu y gellir ei erlyn am unrhyw drosedd, y mae’r datganiad y mae’n dymuno’i ysgrifennu yn ymwneud â hi:

  • (a) oni bai y gwneir y datganiad ar adeg pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol, gweler Atodiad C, i ysgrifennu a llofnodi’r canlynol cyn ysgrifennu’r hyn y mae’n dymuno’i ddweud: ‘Rwy’n gwneud y datganiad hwn o’m gwirfodd. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd ond y gall niweidio fy amddiffyniad os na fyddaf yn sôn, wrth gael fy holi, am rywbeth y byddaf yn dibynnu arno nes ymlaen yn y llys. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’;
  • (b) os gwneir y datganiad ar adeg pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn bodoli, i ysgrifennu a llofnodi’r canlynol cyn ysgrifennu’r hyn y mae’n dymuno’i ddweud; ‘Rwy’n gwneud y datganiad hwn o’m gwirfodd. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’

3. Gofynnir i berson, pan yw’n cael ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn am unrhyw drosedd, a’i fod yn gofyn am gael gwneud datganiad sy’n ymwneud ag unrhyw drosedd o’r fath ac yn dymuno’i ysgrifennu:

  • (a) oni bai fod y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd, gweler Atodiad C, yn berthnasol pan gafodd ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn, i ysgrifennu a llofnodi’r canlynol cyn ysgrifennu’r hyn y mae’n dymuno’i ddweud: ‘Rwy’n gwneud y datganiad hwn o’m gwirfodd. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd ond y gall niweidio fy amddiffyniad os na fyddaf yn sôn, wrth gael fy holi, am rywbeth y byddaf yn dibynnu arno nes ymlaen yn y llys. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’;
  • (b) os oedd y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau oherwydd distawrwydd yn berthnasol pan gafodd ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn, i ysgrifennu a llofnodi’r canlynol cyn ysgrifennu’r hyn y mae’n dymuno’i ddweud: ‘Rwy’n gwneud y datganiad hwn o’m gwirfodd. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’

4. Pan fydd person, sydd eisoes wedi cael ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn am gyflawni unrhyw drosedd, yn gofyn am gael gwneud datganiad sy’n ymwneud ag unrhyw drosedd o’r fath ac yn dymuno’i ysgrifennu, gofynnir iddo ysgrifennu a llofnodi’r canlynol cyn ysgrifennu’r hyn y mae’n dymuno’i ddweud:

‘Rwy’n gwneud y datganiad hwn o’m gwirfodd. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’;

5. Caniateir i unrhyw berson sy’n ysgrifennu ei ddatganiad, wneud hynny heb anogaeth, ac eithrio lle gall swyddogion yr heddlu neu staff heddlu eraill ei hysbysu pa faterion sy’n faterol neu gwestiynu unrhyw amwysedd yn y datganiad.

(b) A ysgrifennir gan swyddog heddlu neu aelod arall o staff yr heddlu

6. Os bydd person yn dweud ei fod yn dymuno i rywun ysgrifennu’r datganiad ar ei ran, bydd swyddog heddlu neu aelod arall o staff yr heddlu yn ei ysgrifennu ar ei ran.

7. Os na chyhuddwyd y person, neu ei hysbysu y gellir ei erlyn am unrhyw drosedd y mae’r datganiad y mae’n dymuno’i wneud yn berthnasol iddo, cyn dechrau, gofynnir iddo lofnodi, neu wneud ei farc, ger y canlynol:

(a) oni bai fod y datganiad yn cael ei wneud ar adeg pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol, gweler Atodiad C:

‘Rwyf i, ………………………., yn dymuno gwneud datganiad. Rwyf am i rywun ysgrifennu’r hyn rwy’n ei ddweud. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd ond y gall niweidio fy amddiffyniad os na fyddaf yn sôn, wrth gael fy holi, am rywbeth y byddaf yn dibynnu arno nes ymlaen yn y llys. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’;

(b) os gwneir y datganiad ar adeg pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol:

‘Rwyf i, ………………………., yn dymuno gwneud datganiad. Rwyf am i rywun ysgrifennu’r hyn rwy’n ei ddweud. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’

8. Ar ôl ei gyhuddo, neu ei rybuddio y gellir ei erlyn am unrhyw drosedd o’r fath, os bydd y person yn gofyn am gael gwneud datganiad sy’n ymwneud ag unrhyw drosedd o’r fath, gofynnir iddo lofnodi, neu roi ei farc, ger y canlynol cyn cychwyn:

(a) oni bai fod y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol, gweler Atodiad C, pan gafodd ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn:

‘Rwyf i, ………………………., yn dymuno gwneud datganiad. Rwyf am i rywun ysgrifennu’r hyn rwy’n ei ddweud. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd ond y gall niweidio fy amddiffyniad os na fyddaf yn sôn, wrth gael fy holi, am rywbeth y byddaf yn dibynnu arno nes ymlaen yn y llys. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’;

(b) os yw’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol pan gafodd ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn:

‘Rwyf i, ………………………., yn dymuno gwneud datganiad. Rwyf am i rywun ysgrifennu’r hyn rwy’n ei ddweud. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’

9. Ar ôl ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn am unrhyw drosedd, os bydd person yn gofyn am gael gwneud datganiad sy’n ymwneud ag unrhyw drosedd o’r fath, gofynnir iddo lofnodi, neu wneud ei farc gerllaw’r canlynol cyn cychwyn:

‘Rwyf i, ………………………., yn dymuno gwneud datganiad. Rwyf am i rywun ysgrifennu’r hyn rwy’n ei ddweud. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’

10. Rhaid i’r person sy’n ysgrifennu datganiad nodi neu gofnodi’r union eiriau a ddywedir gan y person sy’n ei wneud ac ni ddylai ei olygu na’i aralleirio. Rhaid cofnodi unrhyw gwestiynau angenrheidiol, e.e. er mwyn ei wneud yn fwy dealladwy, a’r atebion a roddir, ar ffurflen y datganiad ar yr un pryd.

11. Ar ôl gorffen ysgrifennu datganiad, gofynnir i’r person a’i gwnaeth i’w ddarllen a gwneud unrhyw gywiriadau, addasiadau neu ychwanegiadau y mae’n dymuno eu gwneud. Ar ôl iddo orffen ei ddarllen, gofynnir iddo ysgrifennu a llofnodi neu wneud ei farc ar y dystysgrif ganlynol ar ddiwedd y datganiad:

‘Rwyf wedi darllen y datganiad uchod ac rwyf wedi gallu cywiro, newid neu ychwanegu unrhyw beth yr oeddwn yn dymuno. Mae’r datganiad hwn yn wir. Rwyf wedi ei wneud o’m gwirfodd.’

12. Os na all y person sy’n gwneud y datganiad ddarllen, neu os yw’n gwrthod ei ddarllen, neu ysgrifennu’r dystysgrif y soniwyd amdani uchod ar ei ddiwedd neu ei llofnodi, bydd y person a ysgrifennodd y datganiad yn ei ddarllen iddo ac yn gofyn iddo a hoffai gywiro, addasu neu ychwanegu unrhyw beth, a llofnodi neu roi ei farc ar y diwedd. Bydd y person sy’n ysgrifennu’r datganiad yn tystio ar y datganiad ei hun, yr hyn a ddigwyddodd.

Atodiad E

Crynodeb o’r darpariaethau ar gyfer pobl sy’n agored i niwed

  1. Os ar unrhyw adeg bod gan swyddog unrhyw reswm i amau bod person o unrhyw oedran yn agored i niwed (gweler paragraff 1.13(d)) yn absenoldeb tystiolaeth glir i chwalu’r amheuaeth honno, bydd y person hwnnw’n cael ei drin felly at ddibenion y Cod hwn ac i sefydlu a all unrhyw reswm o’r fath fodoli mewn perthynas â pherson yr amheuir ei fod wedi cyflawni trosedd (gweler paragraff 10.1 a Nodyn 10A), bydd swyddog y ddalfa yn achos person sy’n cael ei gadw, neu’r swyddog sy’n ymchwilio i’r drosedd yn achos person nad yw wedi’i arestio neu ei gadw, yn cymryd, neu’n cyfarwyddo cymryd, (gweler paragraff 3.5 a Nodyn 3F) y camau a ganlyn:
  • (a) rhaid gwneud ymholiadau rhesymol i ganfod pa wybodaeth sydd ar gael sy’n berthnasol i unrhyw un o’r ffactorau a ddisgrifir ym mharagraff 1.13 (d) fel rhai sy’n awgrymu y gallai’r person fod yn agored i niwed;
  • (b) rhaid gwneud cofnod yn disgrifio a yw’n ymddangos bod unrhyw un o’r ffactorau hynny’n gymwys ac yn darparu unrhyw reswm i amau y gallai’r person fod yn agored i niwed neu (yn ôl y galw) ddim yn agored i niwed; a
  • (c) bydd y cofnod a grybwyllir yn is-baragraff (b) ar gael i’w ystyried gan swyddogion heddlu, staff yr heddlu ac unrhyw rai eraill sydd, yn unol â darpariaethau’r Cod hwn neu unrhyw God arall, angen neu sydd â hawl i gyfathrebu â’r person dan sylw. Byddai hyn yn cynnwys unrhyw gyfreithiwr, oedolyn priodol a gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ac mae’n arbennig o berthnasol i gyfathrebu dros y ffôn neu trwy ddolen fyw (gweler paragraffau 12.9A (cyfweliadau), 13.12 (cyfieithu ar y pryd), a 15.3C, 15.11A, 15.11B, 15.11C a 15.11D (adolygu ac ymestyn cyfnod cadw)).

Gweler Nodiadau 1G, E5, E6 ac E7.

2. Yn achos person sydd ag anhwylder meddwl neu sy’n agored i niwed, mae’r ‘oedolyn priodol’ yn golygu:

  • (i) perthynas, gwarcheidwad neu berson arall sy’n gyfrifol am ei ofal neu ei warchod;
  • (ii) rhywun sydd â phrofiad o ddelio gyda phobl sy’n agored i niwed, ond nad yw:
    • yn swyddog yr heddlu;
    • wedi ei gyflogi gan yr heddlu;
    • dan gyfarwyddyd neu reolaeth prif swyddog heddlu;
    • yn berson sy’n darparu gwasanaethau dan drefniadau cytundebol (ond heb ei gyflogi gan brif swyddog heddlu), i gynorthwyo’r heddlu hwnnw parthed cyflawni ei swyddogaethau fel prif swyddog,
    • p’un a yw ar ddyletswydd ar y pryd neu beidio.
  • (iii) os nad yw’n un o’r rhain, dylai fod yn oedolyn cyfrifol arall sy’n 18 oed neu’n hŷn ar wahân i’r sawl a ddisgrifir yn y pwyntiau bwled yn is-baragraff (ii) uchod.

Gweler paragraff 1.7(b) a Nodyn 1D ac 1F.

2A Rôl yr oedolyn priodol yw diogelu hawliau a lles pobl ifanc a ‘phobl sy’n agored i niwed‘ (gweler paragraff 1) y mae darpariaethau’r Cod hwn ac unrhyw God Ymarfer arall yn berthnasol iddynt. Am y rheswm hwn, mae disgwyl i’r oedolyn priodol, ymysg pethau eraill, i:

  • gefnogi, cynghori a chynorthwyo pobl ifanc pan, yn unol â’r Cod hwn neu unrhyw God Ymarfer arall, y rhoddir neu y gofynnir iddynt ddarparu gwybodaeth neu gymryd rhan mewn unrhyw weithdrefn;
  • arsylwi a yw’r heddlu’n gweithredu’n gywir ac yn deg i barchu eu hawliau a’u haeddiannau, a hysbysu swyddog o reng arolygydd neu uwch os ydynt o’r farn nad ydyn nhw;
  • cynorthwyo nhw i gyfathrebu â’r heddlu wrth barchu eu hawl i ddweud dim oni bai eu bod eisiau gwneud hynny fel y nodir yn nhelerau’r rhybudd (gweler paragraffau 10.5 a 10.6); a
  • helpu nhw i ddeall eu hawliau a sicrhau bod yr hawilau hynny’n cael eu gwarchod a’u parchu (gweler paragraffau 3.15, 3.17, 6.5A ac 11.17)

Gweler paragraff 1.7A.

3. Os yw cadw person sy’n agored i niwed yn cael ei awdurdodi gan swyddog y ddalfa, rhaid i swyddog y ddalfa hysbysu’r oedolyn priodol o sail y penderfyniad i’w gadw a lleoliad y person cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol , a threfnu i’roedolyn priodol ddod i orsaf yr heddlu i weld y sawl sy’n cael ei gadw. Os:

  • yw’r oedolyn priodol eisoes yn yr orsaf pan roddir yr wybodaeth fel ym mharagraffau 3.1 i 3.5 rhaid rhoi’r wybodaeth tra bydd yno;
  • nad yw’r oedolyn priodol yn yr orsaf pan gydymffurfir â darpariaethau pharagraff 3.1 i 3.5 rhaid cydymffurfio â’r darpariaethau hyn unwaith eto yn ei bresenoldeb pan fydd yn cyrraedd.
  • Gweler paragraffau 3.15 i 3.17

4. Ar ôl ei hysbysu o’i hawl i gael cyngor cyfreithiol, os bydd yr oedolyn priodol yn ystyried y dylid cymryd cyngor cyfreithiol, bydd darpariaethau adran 6 yn berthnasol fel pe byddai’r person sy’n agored i niwed wedi gofyn am gyngor cyfreithiol. Gweler paragraffau 3.19, 6.5A a Nodyn E1.

5. Rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau y rhoddir sylw clinigol priodol i berson cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol os yw hi’n ymddangos bod y person yn dioddef anhwylder meddwl neu mewn achosion brys, ffonio’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol agosaf neu ambiwlans. Gweler Cod C paragraffau 3.16, 9.5 a 9.6 pan fydd person yn cael ei gadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, adrannau 135 a 136, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017.

6. Heb ei ddefnyddio..

7. Os rhoddir rhybudd i berson sy’n agored i niwed, yn absenoldeb yr oedolyn priodol, rhaid ailadrodd y rhybudd ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol. Gweler paragraff 10.12.

8. Ni ddylid cyfweld person sy’n agored i niwed,na gofyn iddo ddarparu neu lofnodi datganiad ysgrifenedig os na fydd yr oedolyn priodol yn bresennol, oni bai fod darpariaethau paragraffau 11.1 neu 11.18 i 11.20 yn berthnasol. Ni ellir holi ymhellach yn yr amgylchiadau hyn os na fydd oedolyn priodol yn bresennol unwaith y ceir gwybodaeth ddigonol i osgoi’r risg. Gwneir cofnod o sail unrhyw benderfyniad i ddechrau cyfweld yn yr amgylchiadau hyn. Gweler paragraffau 11.1, 11.15 ac 11.18 i 11.20.

9. Os yw’r oedolyn priodol yn bresennol mewn cyfweliad, fe’i hysbysir na ddisgwylir iddo arsylwi yn unig, ac mai diben ei bresenoldeb yw:

  • cynghori’r sawl a gyfwelir;
  • arsylwi a gynhelir y cyfweliad yn gywir ac yn deg neu beidio;
  • hwyluso cyfathrebu gyda’r sawl a gyfwelir.

Gweler paragraff 11.17

10. Os bydd swyddog adolygu neu uwch-arolygydd yn adolygu cyfnod cadw person sy’n agored i niwed, rhaid rhoi cyfle i’r oedolyn priodol, os yw ar gael ar y pryd, i wneud cyflwyniadau i’r swyddog ynghylch yr angen i barhau i’w gadw. Gweler paragraff 15.3.

11. Os bydd swyddog y ddalfa yn cyhuddo person neu sy’n agored i niwed, o gyflawni trosedd neu os yw’n cymryd unrhyw gamau priodol pan geir digon o dystiolaeth i erlyn, rhaid gwneud hyn ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol os yw yng ngorsaf yr heddlu. Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig sy’n cynnwys unrhyw gyhuddiad i’r oedolyn priodol hefyd. Gweler paragraffau 16.1 i 16.4A

12. Yr unig adeg y gellir cynnal chwiliad personol neu noeth-chwiliad o berson sydd yn agored i niwed, yw pan fydd yr oedolyn priodol o’r un rhyw yn bresennol, oni bai fod y sawl sy’n cael ei gadw yn gofyn yn benodol am bresenoldeb oedolyn arbennig o ryw wahanol. Gellir cynnal noeth-chwiliad yn absenoldeb oedolyn priodol mewn achosion o argyfwng yn unig pan geir risg o niwed difrifol i’r sawl sy’n cael ei gadw neu i eraill. Gweler Atodiad A, paragraffau 5 ac 11(c).

13. Rhaid cymryd gofal arbennig wrth benderfynu a ddylid defnyddio unrhyw fath arall o gyfyngiadau a gymeradwywyd ar berson sy’n agored i niwed, mewn cell wedi’i chloi. Gweler paragraff 8.2.

Nodiadau Arweiniad

E1 Diben y darpariaethau ym mharagraffau 3.19 a 6.5A yw amddiffyn hawliau person sy’n agored i niwed, nad yw’n deall arwyddocâd yr hyn a ddywedir wrtho. Dylid rhoi’r cyfle bob amser i berson sy’n agored i niwed, pan alwir am oedolyn priodol i’r orsaf heddlu, i ymgynghori â chyfreithiwr yn breifat yn absenoldeb yr oedolyn priodol os yw’n dymuno gwneud hynny.

E2 Er bod pobl sy’n agored i niwed, yn aml yn gallu darparu tystiolaeth ddibynadwy mewn amgylchiadau arbennig, gallant fod yn fwy tebygol o ddarparu gwybodaeth a allai fod yn annibynadwy, yn gamarweiniol neu’n arwain at rywun i’w hamau nhw, heb wybod na bod eisiau gwneud hynny. Dylid cymryd gofal arbennig bob amser wrth holi person o’r fath, a dylai’r unigolyn priodol fod yn gysylltiedig â’r broses os ceir unrhyw amheuaeth ynghylch cyflwr meddyliol neu allu meddyliol y person dan sylw. Oherwydd risg tystiolaeth annibynadwy, mae’n bwysig cadarnhau unrhyw ffeithiau a gyfaddefir pan fo modd.

E3 Oherwydd y risgiau y cyfeirir atynt yn Nodyn E2, y bwriedir i bresenoldeb yr oedolyn priodol eu lleihau, dylai swyddogion o safle uwch-arolygydd neu uwch arfer eu disgresiwn i awdurdodi dechrau cyfweliad yn absenoldeb yr oedolyn priodol dim ond mewn achosion eithriadol, os bydd angen osgoi un neu fwy o’r risgiau penodedig ym mharagraff 11.1. Gweler paragraffau 11.1 a 11.18 i 11.20.

E4 Pan fydd person yn cael ei gadw dan adran 136 Deddf Iechyd Meddwl 1983 ar gyfer asesiad, nid oes gan yr oedolyn priodol unrhyw ran yn y broses asesu ac nid yw ei bresenoldeb yn ofynnol.

E5 At ddibenion Atodiad E paragraff 1, mae enghreifftiau o wybodaeth berthnasol a allai fod ar gael yn cynnwys:

  • ymddygiad yr oedolyn neu’r person ifanc;
  • iechyd meddwl a gallu’r oedolyn neu’r person ifanc;
  • yr hyn y mae’r oedolyn neu’r person ifanc yn ei ddweud amdanynt eu hunain;
  • gwybodaeth gan deulu a ffrindiau’r oedolyn neu’r person ifanc;
  • gwybodaeth gan swyddogion a staff yr heddlu a gwybodaeth o gofnodion yr heddlu;
  • gwybodaeth gan iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys gwasanaethau cyswllt a dargyfeirio) a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n adnabod, neu wedi cael cyswllt blaenorol â’r unigolyn ac a allai gyfrannu at asesu ei angen am gymorth a chefnogaeth gan oedolyn priodol. Mae hyn yn cynnwys cysylltiadau ac asesiadau a drefnir gan yr heddlu neu ar gais yr unigolyn neu (fel sy’n berthnasol) eu hoedolyn priodol neu gyfreithiwr.

E6 Mae Cod Ymarfer Deddf Iechyd Meddwl 1983 ar dudalen 26 yn disgrifio’r ystod o gyflyrau a gydnabyddir yn glinigol a all gael eu hystyried yn anhwylder meddwl at ddibenion paragraff 1.13(d). Mae’r Cod wedi’i gyhoeddi yma.

E7 Pan fydd person o dan ddylanwad diod a/neu gyffuriau, ni fwriedir iddo gael ei drin fel rhywun sy’n agored i niwed ac sydd angen oedolyn priodol at ddiben Atodiad E - paragraff 1 oni bai bod gwybodaeth arall yn awgrymu bod unrhyw un o’r ffactorau a ddisgrifir ym mharagraff 1.13(d) yn berthnasol i’r person hwnnw. Pan fydd y person wedi gwella o effeithiau diod.

Atodiad F

Heb ei ddefnyddio

Atodiad G

A yw person mewn cyflwr i’w gyfweld

1. Mae’r Atodiad hwn yn cynnwys arweiniad cyffredinol i helpu swyddogion heddlu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i asesu a allai sawl sy’n cael ei gadw fod mewn risg yn ystod cyfweliad.

2. Gallai sawl sy’n cael ei gadw fod mewn risg mewn cyfweliad os ystyrir:

  • (a) y gallai cynnal y cyfweliad niweidio cyflwr corfforol neu feddyliol y sawl sy’n cael ei gadw, yn sylweddol;
  • (b) y gallai unrhyw beth a ddywedir gan y sawl sy’n cael ei gadw yn ystod y cyfweliad, ynghylch ei gyswllt neu ei gyswllt tybiedig â’r drosedd y mae’n cael ei gyfweld yn ei chylch, gael ei ystyried yn annibynadwy mewn achos llys dilynol oherwydd ei gyflwr corfforol neu feddyliol.

3. Wrth asesu a ddylid cyfweld y sawl sy’n cael ei gadw, rhaid ystyried y canlynol:

  • (a) sut allai cyflwr corfforol neu feddyliol y sawl sy’n cael ei gadw, effeithio ar ei allu i ddeall natur a diben y cyfweliad, deall yr hyn a ofynnir iddo a gwerthfawrogi arwyddocâd unrhyw atebion a roddir a gwneud penderfyniadau rhesymegol ynghylch a yw’n dymuno dweud unrhyw beth;
  • (b) y graddau y gellir effeithio ar atebion y sawl sy’n cael ei gadw gan ei gyflwr corfforol neu feddyliol, yn hytrach na chynrychioli esboniad rhesymegol a chywir o’i ymwneud â’r drosedd;
  • (c) sut y gallai natur y cyfweliad, a allai gynnwys cwestiynau arbennig o dreiddgar, effeithio ar y sawl sy’n cael ei gadw.

4. Mae’n hanfodol bod y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yr ymgynghorir ag ef yn ystyried gallu swyddogaethol y sawl sy’n cael ei gadw yn hytrach na dibynnu ar ddiagnosis meddygol yn unig, e.e. mae’n bosibl ei bod yn addas cyfweld person sydd â salwch meddwl difrifol.

5. Dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gynnig cyngor ar yr angen i oedolyn priodol fod yn bresennol, a fydd angen ailasesu a yw’r person mewn cyflwr i gael ei gyfweld os bydd y cyfweliad yn cael ei gynnal dros gyfnod penodol, ac a fydd angen barn arbenigol bellach.

6. Pan fydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn nodi risgiau, dylid gofyn iddo fesur y risgiau. Dylai hysbysu swyddog y ddalfa:

  • a yw cyflwr y person:
    • yn debygol o wella;
    • yn gofyn am driniaeth neu’n gallu cael ei wella gan driniaeth; a
  • nodi pa mor hir y gallai ei gymryd i welliant o’r fath ddigwydd.

7. Rôl y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yw ystyried y risgiau a chynghori swyddog y ddalfa o ganlyniad yr ystyriaeth honno. Dylid nodi penderfyniad y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ac unrhyw gyngor neu argymhellion a wneir, ar bapur, a dylai fod yn rhan o’r cofnod cadw.

8. Ar ôl i’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ddarparu’r wybodaeth honno, rhaid i swyddog y ddalfa benderfynu a ddylai ganiatáu i’r cyfweliad fynd yn ei flaen ac os dylid parhau â’r cyfweliad, penderfynu pa gamau diogelu y mae angen eu cymryd. Nid oes unrhyw beth i atal darparu camau diogel yn ychwanegol i’r rhai sy’n angenrheidiol o dan y Cod. Gallai enghraifft olygu gofyn i weithiwr gofal iechyd proffesiynol fod yn bresennol yn ystod y cyfweliad, yn ogystal â’r oedolyn priodol, er mwyn monitro cyflwr y person yn gyson a sut mae’r cyfweliad yn effeithio ar ei gyflwr.

Atodiad H

Person sy’n cael ei gadw: rhestr arsylwi

1. Os bydd y person sy’n cael ei gadw yn methu â bodloni unrhyw un o’r meini prawf canlynol, rhaid galw am weithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol neu ambiwlans.

2. Wrth asesu lefel ei ymateb corfforol, dylid ystyried:

Ymateb corfforol - a ellir ei ddeffro?

  • ewch i mewn i’r gell
  • dywedwch ei enw
  • ysgwydwch y person yn ysgafn

Ymateb i gwestiynau - a yw’n gallu rhoi atebion priodol i gwestiynau megis:

  • Beth yw eich enw?
  • Ble ydych chi’n byw?
  • Ble ydych chi’n credu ydych chi?

Ymateb i orchmynion - a yw’n gallu ymateb yn briodol i orchmynion megis:

  • Agorwch eich llygaid!
  • Codwch un fraich, a’r fraich arall nawr!

3. Cofiwch ystyried posibilrwydd neu bresenoldeb mathau eraill o salwch, anafiadau neu gyflyrau meddyliol, oherwydd efallai bod person sy’n gysglyd ac arogl alcohol arno, yn dioddef o’r canlynol hefyd:

  • Diabetes
  • Epilepsi
  • Anaf i’r pen
  • Dan ddylanwad cyffuriau neu wedi cymryd gorddos o gyffuriau
  • Strôc

Atodiad I

Heb ei ddefnyddio

Atodiad J

Heb ei ddefnyddio

Atodiad K

Sganiau uwchsain a phelydr-x

(a) Gweithredu

1. Mae PACE, adran 55A yn caniatáu tynnu llun pelydr-x neu sgan uwchsain (neu’r ddau) o rywun a gafodd ei arestio ac sydd yn nalfa’r heddlu os:

  • (a) awdurdodir hynny gan swyddog o reng arolygydd neu uwch sydd â sail resymol i gredu bod y sawl sy’n cael ei gadw:
    • (i) o bosib wedi llyncu cyffur Dosbarth A; ac
    • (ii) wedi bod ym meddiant cyffur Dosbarth A gyda’r bwriad o’i gyflenwi i rywun arall neu ei allforio; a
  • (b) bod y sawl sy’n cael ei gadw wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig priodol.

2. Cyn tynnu llun pelydr-x neu sgan uwchsain, mae’n rhaid i swyddog heddlu neu swyddog cadw dynodedig ddweud wrth y sawl sy’n cael ei gadw:-

  • (a) bod awdurdodiad wedi’i roi; ac
  • (b) y sail dros roi’r awdurdodiad.

3. Cyn y gofynnir i’r sawl sy’n cael ei gadw i roi caniatâd priodol am lun pelydr-x neu sgan uwchsain, mae’n rhaid ei rybuddio os yw’n gwrthod heb achos da y gallai hynny niweidio ei achos pe bai’r achos yn dod gerbron llys, gweler Nodiadau K1 a K2. Gellir rhoi’r rhybudd hwn gan swyddog heddlu neu aelod o staff yr heddlu. Yn achos pobl ifanc, a phobl sy’n agored i niwed, rhaid i geisio a rhoi cydsyniad ddigwydd ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol. Dim ond os ceir cydsyniad rhiant neu warchodwr person ifanc hefyd y bydd cydsyniad y person ifanc yn ddilys, oni bai bod y person ifanc dan 14 oed, ac felly bydd cydsyniad y rhiant neu warchodwr yn unig yn ddigon. Mae’n rhaid atgoffa rhywun sy’n cael ei gadw sydd heb gynrychiolaeth gyfreithiol o’i hawl i gyngor cyfreithiol am ddim, gweler Cod C, paragraff 6.5, gan nodi hynny yng nghofnod y ddalfa.

4. Gellir tynnu llun pelydr-x neu sgan uwchsain gan ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs cofrestredig yn unig, a gellir gwneud hynny mewn ysbyty, meddygfa neu eiddo meddygol arall yn unig.

(b) Dogfennaeth

5. Cofnodir y canlynol cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol yng nghofnod y ddalfa’r sawl sy’n cael ei gadw:

  • (a) yr awdurdodiad i dynnu llun pelydr-x neu sgan uwchsain (neu’r ddau);
  • (b) y sail dros awdurdodi;
  • (c) rhoi’r rhybudd sy’n ofynnol ym mharagraff 3; a’r
  • (d) y ffaith bod caniatâd priodol wedi’i roi neu (yn ôl y digwydd) ei wrthod, ac os gwrthodwyd caniatâd y rheswm a roddwyd am hynny (os rhoddwyd un); ac
  • (e) os bwriedir tynnu llun pelydr-x neu sgan uwchsain:
    • ymhle gwnaed hynny;
    • pwy wnaeth hynny;
    • pwy oedd yn bresennol;
    • y canlyniad.

6. Heb ei ddefnyddio.

Nodiadau Arweiniad

K1 Os rhoddir awdurdod i dynnu llun pelydr-x neu sgan uwchsain (neu’r ddau), dylid rhoi ystyriaeth i ofyn i ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig egluro i’r sawl sy’n cael ei gadw beth a olygir ac er mwyn lleihau unrhyw bryderon a allai fod gan y sawl sy’n cael ei gadw ynghylch effaith tynnu llun pelydr-x neu sgan uwchsain arno. Os na roddir caniatâd priodol, fe allai tystiolaeth o’r eglurhad, pe bai’r achos yn dod gerbron llys, fod yn berthnasol wrth bennu a oedd gan y sawl sy’n cael ei gadw reswm da dros wrthod.

K2 Wrth rybuddio’r sawl sy’n cael ei gadw y gofynnir iddo ganiatáu tynnu llun pelydr-x neu sgan uwchsain (neu’r ddau), fel ym mharagraff 3, gellir defnyddio’r ffurf ganlynol o eiriau:

“You do not have to allow an x-ray of you to be taken or an ultrasound scan to be carried out on you, but I must warn you that if you refuse without good cause, your refusal may harm your case if it comes to trial.”

Ble mae’n briodol i ddefnyddio’r Gymraeg, gellir defnyddio’r geiriau ar y ffurf ganlynol yn Gymraeg:

“Does dim rhaid i chi ganiatáu cymryd sgan uwchsain neu belydr-x (neu’r ddau) arnoch, ond mae’n rhaid i mi eich rhybuddio os byddwch chi’n gwrthod gwneud hynny heb reswm da, fe allai hynny niweidio eich achos pe bai’n dod gerbron llys.”

Atodiad L

Sefydlu rhyw personau i ddiben chwilio a rhai gweithdrefnau eraill penodol

1. Mae darpariaethau penodol y Cod yma a Chodau PACE eraill yn datgan yn eglur y dylid cyflawni chwiliadau gan, neu ym mhresenoldeb, personau o’r un rhyw â’r person sy’n destun y chwiliad neu weithdrefn arall neu ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd neu i roi gwybodaeth sy’n dibynnu a yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei drin fel gwryw neu fenyw. Gweler Nodyn L1.

2. Rhaid cynnal pob chwiliad, gweithdrefn a gofynion o’r fath gyda chwrteisi, ystyriaeth a pharch tuag at y person dan sylw. Dylai swyddogion yr heddlu ddangos sensitifrwydd penodol wrth ddelio ag unigolion trawsryweddol (yn cynnwys personau trawsrywiol) a thrawswisgwyr (gweler Nodiadau L2, L3 ac L4).

(a) Ystyriaeth

3. Yn ôl y gyfraith, rhywedd (ac felly hefyd rhyw) unigolyn yw ei rywedd fel y’i cofrestrwyd ar enedigaeth oni bai ei fod wedi derbyn Tystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC) dan y Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 (GRA), ac felly rhywedd y person yw ei rywedd caffaeledig. Mae hyn yn golygu os yw’r rywedd gaffaeledig yn rywedd gwrywaidd, mae rhyw’r person yna bellach yn ddyn, ac os yw’n rywedd benywaidd, mae rhywedd y person yna yn fenyw ac mae’n rhaid eu trin yn unol â’r rhywedd gaffaeledig.

4. Wrth benderfynu a ddylid trin y person dan sylw fel gwryw neu fenyw at ddibenion y chwiliadau, gweithdrefnau a’r gofynion hyn, dylid dilyn y dull canlynol sydd wedi’i gynllunio i gynnal ei urddas, lleihau embaras a sicrhau eu cydweithrediad:

  • (a) Ni ddylid gofyn i’r person os oes ganddo/ganddi GRC (gweler paragraff 8);
  • (b) Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch a ddylid trin y person fel gwryw neu fenyw, dylid delio â’r person fel o’r rhyw yna.
  • (c) Os ar unrhyw adeg (yn cynnwys yn ystod chwiliad neu wrth gyflawni gweithdrefn) mae yna amheuaeth ynghylch a ddylid trin y person fel, neu barhau i drin y person fel, gwryw neu fenyw:
    • (i) dylid gofyn i’r person pa ryw mae’n ystyried ei hun i fod. Os yw’n mynegi ffafriaeth i’w drin fel rhyw benodol, dylid gofyn iddo/iddi ddynodi a chadarnhau ei ddewis trwy lofnodi cofnod y ddalfa neu, os na agorwyd cofnod y ddalfa, y cofnod chwilio neu lyfr nodiadau’r swyddog. Yn ddarostyngedig i (ii) isod, dylid trin y person yn unol â’i ddewis ar wahân i’r gofynion i ddarparu gwybodaeth i’r person hwnnw am gynhyrchion mislif a’i anghenion personol sy’n ymwneud ag iechyd, hylendid a lles a ddisgrifir ym mharagraff 3.20A (os o dan 18 oed) a pharagraffau 9.3A a 9.3B (os ydynt yn 18 oed neu’n hŷn). Yn yr achosion hyn, dylid gofyn yn breifat i berson y mae ei ddewis wedi’i gadarnhau fel bod yn wrywaidd a yw’n dymuno siarad yn breifat ag aelod o staff y ddalfa o ryw o’i ddewis ynglŷn â darparu cynhyrchion mislif a’i anghenion personol, er gwaethaf ei ddewis wedi’i gadarnhau (gweler Nodyn L3A);
    • (ii) os oes sail i amau fod y dewis yn (i) yn adlewyrchu ffordd o fyw pennaf y person, er enghraifft, os yw’n gofyn i gael ei drin fel menyw ond mae dogfennau a gwybodaeth arall yn ei gwneud yn glir ei fod yn byw’n bennaf fel dyn, neu fel arall, dylid ei drin yn unol â beth sy’n ymddangos i fod ei ffordd o fyw pennaf ac nid y dewis a ffafrir;
    • (iii) Os yw’r person yn anfodlon i fynegi dewis fel yn (i) uchod, dylid gwneud ymdrech i bennu ei ffordd o fyw pennaf a’i drin yn unol â hynny. Er enghraifft, os ymddengys ei fod yn byw yn bennaf fel menyw, dylid ei drin fel menyw; ac eithrio o ran y gofynion i roi gwybodaeth i’r unigolyn hwnnw am gynhyrchion mislif a’i anghenion personol sy’n ymwneud ag iechyd, hylendid a lles a ddisgrifir ym mharagraff 3.20A (os o dan 18 oed) a pharagraffau 9.3A a 9.3B (os yw’n 18 oed neu hŷn). Yn yr achosion hyn, dylid gofyn yn breifat i berson y penderfynwyd bod ei ffordd o fyw yn wrywaidd yn bennaf a yw’n dymuno siarad yn breifat ag aelod o staff y ddalfa o ryw o’i ddewis ynglŷn â darparu cynhyrchion mislif a’i anghenion personol, er gwaethaf ei brif ffordd o fyw penodedig (gweler Nodyn L3A); neu
    • (iv) os nad oes yr un o’r uchod yn berthnasol, dylid delio â’r person yn ôl beth sy’n ymddangos yn rhesymol i fod ei ryw pan y’i cofrestrwyd ar enedigaeth.

5. Unwaith mae penderfyniad wedi ei wneud ynghylch dan ba rywedd y dylid trin unigolyn, dylai pob swyddog sy’n gyfrifol am y chwiliad, y weithdrefn neu ofyniad ble fo’n bosibl gael ei gynghori cyn i’r chwiliad neu weithdrefn ddechrau o unrhyw amheuon ynghylch rhywedd yr unigolyn a hysbysu’r unigolyn bod amheuon wedi’u codi. Mae hyn yn bwysig er mwyn cynnal urddas y person ac unrhyw swyddogion dan sylw.

(b) Dogfennaeth

6. Rhaid i rywedd y person fel y sefydlwyd dan baragraff 4(c)(i) i (iv) uchod gael ei gofnodi yng nghofnod dalfa’r person neu, os na agorwyd cofnod y ddalfa, ar y cofnod chwilio neu yn llyfr nodiadau’r swyddog.

7. Ble mae’r person yn dewis pa rywedd mae’n ystyried ei hun i fod dan baragraff 4(b)(i) ond, yn dilyn 4(b)(ii) nad yw’n cael ei drin yn unol â’i ddewis, rhaid cofnodi’r rheswm yn y cofnod chwilio, yn llyfr nodiadau’r swyddog neu, os yn berthnasol, yng nghofnod y ddalfa’r person.

(c) Datgelu gwybodaeth

8. Mae Adran 22 y Ddeddf Cydnabod Rhywedd yn diffinio unrhyw wybodaeth yn ymwneud â chais person am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd neu i rywedd llwyddiannus ymgeisydd cyn iddo fod ei rywedd caffaeledig fel ‘gwybodaeth warchodedig’. Ni ddylid darllen unrhyw beth yn yr Atodiad hwn i fod yn awdurdodi na chaniatáu i unrhyw swyddog yr heddlu nac unrhyw staff yr heddlu sydd wedi caffael gwybodaeth o’r fath wrth weithredu yn ei gapasiti swyddogol i ddatgelu gwybodaeth i unrhyw berson arall yn groes i’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd. Mae datgeliad yn cynnwys gwneud cofnod o ‘wybodaeth warchodedig’ sydd eisoes wedi ei ddarllen gan eraill.

Nodiadau Arweiniad

L1 Mae darpariaethau y mae paragraff 1 yn berthnasol iddi yn cynnwys:

  • Yng Nghod C; paragraffau 3.20A, 4.1 ac Atodiad A paragraffau 5, 6, ac 11 (chwiliadau, noeth-chwiliadau a chwiliadau personol o rai sy’n cael eu cadw dan adrannau 54 a 55 PACE) a 9.3B;
  • Yng Nghod A; paragraffau 2.8 a 3.6 a Nodyn 4;
  • Yng Nghod D; paragraff 5.5 a Nodyn 5F (chwiliadau, archwiliadau a thynnu lluniau o bersonau sy’n cael eu cadw dan adran 54A PACE) a pharagraff 6.9 (casglu samplau);
  • Yng Nghod H; paragraffau 3.21A, 4.1 ac Atodiad A paragraffau 6, 7 a 12 (chwiliadau, noethchwiliadau a chwiliadau personol dan adrannau 54 a 55 PACE o bersonau sy’n cael eu harestio dan adran 41 Deddf Terfysgaeth 2000).

L2 Er nad oes diffiniad cytunedig o drawsrywedd, yn gyffredinol fe’i defnyddir fel term hollgwmpasog i ddisgrifio pobl y mae eu hunaniaeth rhywedd (ymuniaethiad fel menyw, dyn, ddim y naill na’r llall neu’r ddau) yn wahanol i’r rhyw pan y’i cofrestrwyd ar enedigaeth. Mae’r term yn cynnwys, ond nid yw wedi ei gyfyngu i, bobl drawsrywiol.

L3 Mae trawsrywiol yn golygu person sy’n cynnig cyflawni, neu sydd yn cyflawni neu wedi cyflawni proses (neu ran o broses) i ddiben ailbennu rhywedd, sy’n nodwedd warchodedig dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (gweler paragraff 1.0), trwy newid priodweddau ffisiolegol neu arall ei ryw. Mae hyn yn cynnwys agweddau o rywedd megis gwisg a theitl. Byddai’n berthnasol i fenyw yn trosi i fod yn ddyn a dyn yn trosi i fod yn fenyw, yn ogystal ag i berson sydd ddim ond wedi cychwyn ar y broses o ailbennu rhywedd ac i berson sydd wedi cwblhau’r broses. Byddai’r ddau yn rhannu nodweddion ailbennu rhywedd gyda’r ddau gyda nodweddion un rhyw, ond gydag agweddau penodol o’r rhyw arall.

L3A Y rheswm dros yr eithriad yw addasu’r un dull rhyw/rhywedd ar gyfer chwilio i gydnabod anghenion posib unigolion trawsryweddol o ran cynhyrchion mislif ac anghenion personol eraill sy’n ymwneud ag iechyd, hylendid a lles a sicrhau nad ydynt yn cael eu hanwybyddu.

L4 Golyga trawswisgwr berson o un rhyw sy’n gwisgo mewn dillad person o’r rhyw arall. Fodd bynnag, nid yw trawswisgwr yn byw yn barhaol yn y rhyw groes i’w rhyw genedigaeth.

L5 Mae prif swyddogion yn gyfrifol am ddarparu arweiniad a chyfarwyddiadau gweithredol cyfatebol ar gyfer trefnu swyddogion a staff trawsryweddol dan eu cyfarwyddyd a rheolaeth i ddyletswyddau sy’n ymwneud â chyflawni, neu fod yn bresennol yn, unrhyw un o’r chwiliadau a gweithdrefnau a ddisgrifir ym mharagraff 1. Rhaid i’r arweiniad a chyfarwyddiadau gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac felly dylai gyd-fynd â’r ymagwedd yn yr Atodiad hwn.

Atodiad M

Dogfennau a chofnodion i’w cyfieithu

1. I ddibenion Cyfarwyddeb 2010/64/EU Senedd Ewrop a Chyngor yr 20 Hydref 2010 a’r Cod hwn, mae dogfennau allweddol yn cynnwys cofnodion y mae’n ofynnol eu gwneud yn unol â’r Cod yma sy’n berthnasol i benderfyniadau i amddifadu person o’i ryddid, i unrhyw gyhuddiad ac i unrhyw gofnod a ystyrir i fod yn angenrheidiol i alluogi sawl sy’n cael ei gadw i amddiffyn ei hun mewn achos troseddol ac i ddiogelu tegwch y gweithdrefnau. Nid oes rhaid cyfieithu rhannau o ddogfennau allweddol nad ydynt yn berthnasol. Gweler Nodyn M1

2. Mae’r tabl isod yn rhestru’r dogfennau a ystyrir i fod yn allweddol i ddibenion y Cod hwn ac y mae’n rhaid (yn destun paragraffau 3 i 7) creu a darparu cyfieithiadau ar eu cyfer. Gweler paragraffau 13.12 i 13.14 ac Atodiad N ar gyfer cais i gyfieithu trwy gyswllt byw.

Tabl o ddogfennau allweddol:

Dogfennau allweddol i ddibenion y cod hwn Pryd ddylid creu cyfieithiad Pryd ddylid darparu cyfieithiad
(i) Y sail ar gyfer pob un o’r awdurdodiadau canlynol i gadw’r person yn y ddalfa fel y’i disgrifir ac y cyfeirir atynt yng nghofnod y ddalfa

(a) Awdurdodiad i gadw cyn ac ar ôl cyflwyno cyhuddiad gan swyddog y ddalfa a gan y swyddog adolygu, gweler Cod C paragraffau 3.4 a 15.16(a).

(b) Awdurdodiad i ymestyn cadw heb gyhuddiad tu hwnt i 24 awr a roddir gan uwch-arolygydd, gweler Cod C paragraff 15.16(b).

(c) Warant o gadw pellach a gyhoeddwyd gan lys ynadon ac unrhyw estyniad(au) o’r warant, gweler Cod C paragraff 15.16(c).

(d) Awdurdod i gadw yn unol â’r cyfarwyddiadau mewn warant arestio a gyhoeddwyd mewn cysylltiad â gweithdrefnau troseddol yn cynnwys y llys yn cyhoeddi’r warant.
Cyn gynted ag sy’n ymarferol wedi cofnodi pob awdurdodiad yng nghofnod y ddalfa. Cyn gynted ag sy’n ymarferol wedi creu’r cyfieithiad, tra bod y person wedi ei gadw neu wedi ei ryddhad (gweler Nodyn M3).
(ii) Hysbysiad ysgrifenedig yn dangos manylion y drosedd a gyhuddir yn ofynnol dan God C paragraff 16.3 neu’r drosedd y mae’r sawl a amheuir wedi cael gwybod y gellir ei erlyn amdani. Cyn gynted ag sy’n ymarferol wedi cyhuddo’r person neu ei adrodd. Cyn gynted ag sy’n ymarferol wedi cyhuddo’r person neu ei adrodd.
(iii) Cofnodion ysgrifenedig cyfweliad: Cod C11.11, 13.3, 13.4 a Chod E4.7 Datganiadau ysgrifenedig ar ôl rhoi rhybudd: Cod C Atodiad D. I’w greu ar yr un pryd gan y cyfieithydd ar y pryd i’r person wirio a llofnodi. Cyn gynted ag sy’n ymarferol wedi cyhuddo’r person neu roi gwybod y bydd yn cael ei erlyn.

3. Gall swyddog y ddalfa awdurdodi darparu cyfieithiad llafar neu grynodeb llafar o ddogfennau (i) i (ii) yn y tabl (ond nid (iii)) (trwy gyfieithydd ar y pryd) yn hytrach na chyfieithiad ysgrifenedig. Gellir darparu cyfieithiad neu grynodeb llafar o’r fath dim ond os na fyddai’n rhagfarnu tegwch yr achos trwy effeithio’n andwyol mewn unrhyw ffordd neu danseilio neu gyfyngu gallu’r sawl a amheuir fel arall i ddeall ei sefyllfa ac i gyfathrebu’n effeithiol gyda swyddogion yr heddlu, cyfwelwyr, cyfreithwyr ac oedolion priodol parthed ei gadw ac i’r ymchwiliad o’r drosedd dan sylw ac i amddiffyn ei hun os bydd achos troseddol. Dylid ystyried maint a chymhlethdod yr wybodaeth yn y ddogfen ar bob adeg a rhoi ystyriaeth ychwanegol benodol os yw’r sawl dan amheuaeth yn agored i niwed neu os yw’n berson ifanc (gweler Cod C paragraff 1.5). Rhaid cofnodi’r rheswm dros y penderfyniad (gweler paragraff 13.11(e))

4. Yn amodol i baragraffau 5 i 7 isod, gall sawl a amheuir ildio ei hawl i gyfieithiad ysgrifenedig o’r dogfennau allweddol a ddisgrifir yn y tabl, ond dim ond os yw’n gwneud hynny’n wirfoddol wedi derbyn cyngor cyfreithiol neu gyda gwybodaeth lawn o’r goblygiadau ac yn cydsynio’n ddiamod ac yn llawn yn ysgrifenedig (gweler paragraff 13.11(e)).

5. Efallai y gofynnir i’r sawl a amheuir os yw’n dymuno ildio ei hawl i gyfieithiad ysgrifenedig a chyn rhoi ei gydsyniad, rhaid ei atgoffa o’i hawl i gyngor cyfreithiol a gofyn a yw eisiau siarad gyda chyfreithiwr.

6. Ni ddylai unrhyw swyddog yr heddlu na staff yr heddlu wneud unrhyw beth gyda’r bwriad o berswadio’r sawl a amheuir sydd â hawl i gyfieithiad ysgrifenedig o ddogfen allweddol i ildio’r hawl hwnnw. Gweler Nodiadau M2 ac M3.

7. I ddiben yr ildiad:

  • (a) bydd cydsyniad person sy’n agored i niwed ddim ond yn ddilys os crybwyllir yr wybodaeth ynghylch yr amgylchiadau ble gall ildio’r hawl a’r nodyn atgoffa ynghylch ei hawl i gyngor cyfreithiol ym mharagraffau 3 i 5 ac y rhoddir ei gydsyniad ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol.
  • (b) mae cydsyniad person ifanc yn ddilys dim ond os cafwyd cydsyniad ei riant neu warchodwr hefyd, oni bai fod y person ifanc dan 14 oed, ac yna bydd cydsyniad ei riant neu warchodwr yn ddigon ynddo’i hun ac mae’r wybodaeth a’r atgoffad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a) uchod ac y rhoddir eu cydsyniad ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol hefyd (a all fod yn rhiant neu warchodwr neu beidio).

8. Gall y sawl sy’n cael ei gadw, ei gyfreithiwr neu oedolyn priodol wneud cyflwyniadau i swyddog y ddalfa y dylid darparu dogfen nad yw wedi ei chynnwys yn y tabl ac y dylid darparu cyfieithiad. Gellir gwrthod y cais os yw’r swyddog yn fodlon nad yw’r cyfieithiad a geisiwyd yn allweddol i’r dibenion a ddisgrifiwyd ym mharagraff 1 uchod.

9. Os oes gan swyddog y ddalfa amheuon ynghylch

  • darparu cyfieithiad neu grynodeb llafar o ddogfen allweddol yn hytrach na chyfieithiad ysgrifenedig (gweler paragraff 3);
  • p’un a yw’r sawl a amheuir yn deall yn llawn y goblygiadau o ildio ei hawl i gyfieithiad ysgrifenedig o ddogfen allweddol (gweler paragraff 4), neu
  • ynghylch gwrthod darparu cyfieithiad o ddogfen a geisiwyd (gweler paragraff 7), dylai’r swyddog geisio cyngor gan arolygydd neu uwch.

Dogfennaeth

10. Bydd camau a gymerwyd yn unol â’r Atodiad hwn yn cael eu cofnodi yng nghofnod y ddalfa’r sawl sy’n cael ei gadw neu’r cofnod cyfweld fel fo’n briodol (gweler Cod C paragraff 13.11(e)).

Nodiadau Arweiniad

M1 Nid yw’n angenrheidiol datgelu gwybodaeth mewn unrhyw gyfieithiad sy’n gallu tanseilio neu effeithio’n andwyol mewn unrhyw ffordd arall ar unrhyw broses ymchwilio, er enghraifft, trwy alluogi’r sawl a amheuir i ffugio esboniad diniwed neu i gelu celwyddau rhag y cyfwelydd.

M2 Ni fydd unrhyw swyddog yr heddlu na staff yr heddlu yn awgrymu i unrhyw un a amheuir, ac eithrio i ateb cwestiwn uniongyrchol, os yw’r cyfnod y mae’n debygol o gael ei gadw neu, os nad yw wedi ei gadw, yr amser a gymer i gwblhau’r cyfweliad, yn debygol o leihau:

  • os nad yw’n gofyn am gyngor cyfreithiol cyn penderfynu a yw eisiau ildio ei hawl i gyfieithiad ysgrifenedig o ddogfen allweddol; neu
  • os yw’n penderfynu ildio ei hawl i gyfieithiad ysgrifenedig o ddogfen allweddol.

M3 Nid oes unrhyw bŵer dan PACE i gadw person nac i oedi ei ryddhau dim ond er mwyn creu a darparu cyfieithiad o unrhyw ddogfen allweddol.

Atodiad N

Cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw (para.13.12)

Rhan 1: Pan nad oes angen i gyfieithydd fod yn bresennol yn gorfforol.

  1. Mae Cyfarwyddeb UE 2010/64 (gweler paragraff 13.1), Erthygl 2(6) yn datgan “Ble fo’n briodol, gellir defnyddio technoleg cyfathrebu fel fideo-gynadledda, ffôn neu’r Rhyngrwyd, oni bai fod presenoldeb corfforol y cyfieithydd yn ofynnol er mwyn diogelu tegwch yr achos.” Mae’r Erthygl hon yn caniatáu, ond nid yw’n gofyn am ddefnyddio dolen fyw, ac mae darpariaethau canlynol yr Atodiad hwn yn pennu os yw defnyddio dolen fyw yn briodol mewn unrhyw achos penodol.

2. Rhaid gwneud penderfyniadau yn unol â’r Atodiad hwn nad yw presenoldeb corfforol y cyfieithydd yn ofynnol ac i ganiatáu cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw ar sail fesul achos. Rhaid i bob penderfyniad ystyried oed, rhywedd a bregusrwydd y sawl a amheuir, natur ac amgylchiadau’r drosedd a’r ymchwiliad a’r effaith ar y sawl a amheuir yn ôl y diben(ion) penodol y mae’r sawl a amheuir angen cymorth cyfieithydd a’r amser(au) pan fydd angen y cymorth hwnnw (gweler Nodyn N1). Oherwydd hyn, rhaid i swyddog y ddalfa yn achos sawl a amheuir sydd wedi ei gadw, neu yn achos sawl a amheuir nad yw wedi ei arestio, y cyfwelydd (yn amodol i baragraff 13.1(b)), ystyried a yw gallu’r sawl a amheuir penodol i gyfathrebu’n hyderus ac effeithiol i’r diben dan sylw (gweler paragraff 3) yn debygol o fod wedi ei effeithio’n andwyol neu danseilio fel arall os nad yw’r cyfieithydd yn gorfforol bresennol ac y defnyddir cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw. Er y gallai sawl a amheuir ble mae angen oedolyn priodol fod yn fwy tebygol o gael ei effeithio’n andwyol fel y disgrifiwyd, mae’n bwysig nodi y gall person nad yw angen oedolyn priodol hefyd gael ei effeithio’n andwyol trwy ddefnyddio cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw.

3. Mae enghreifftiau o’r dibenion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2 yn cynnwys:

(a) deall a gwerthfawrogi ei sefyllfa parthed unrhyw wybodaeth a roddir iddo, neu a geisir ganddo, yn unol â’r Cod hwn neu unrhyw God Ymarfer arall sydd, yn benodol, yn cynnwys:

  • y rhybudd (gweler paragraffau C10.1 a 10.12).
  • y rhybuddiad arbennig (gweler paragraffau 10.10 i 10.12).
  • gwybodaeth ynghylch y drosedd (gweler paragraffau 10.3, 11.1A a Nodyn 11ZA).
  • y sail a’r rhesymau dros gadw (gweler paragraffau 13.10 ac 13.10A).
  • cyfieithu dogfennau allweddol (gweler paragraff 13.10B ac Atodiad M).
  • eu hawliau (gweler paragraff 3.12 ac C3.21(b)).
  • chwiliadau personol ac nad ydynt yn bersonol o bersonau a gedwir mewn gorsafoedd heddlu.
  • darpariaethau a gweithdrefnau y mae Cod D (Adnabod) yn berthnasol iddynt yn ymwneud ag, er enghraifft, adnabod gan lygad-dyst, cymryd olion bysedd, samplau a lluniau.

(b) deall a cheisio eglurhad gan y cyfwelydd o gwestiynau a ofynnir yn ystod cyfweliad a gyflawnwyd ac a gofnodwyd yn unol â Chod E neu God F ac unrhyw beth arall a ddywedir gan y cyfwelydd ac ateb y cwestiynau.

(c) ymgynghori’n breifat gyda’i gyfreithiwr ac (os yn berthnasol) yr oedolyn priodol (gweler paragraffau 3.18, 13.2A, 13.6 ac 13.9):

  • (i) i helpu penderfynu a ddylai ateb cwestiynau a gyflwynwyd yn ystod cyfweliad; ac
  • (ii) ynghylch unrhyw fater arall yn ymwneud â’i gadw a thriniaeth tra yn y ddalfa.

(d) cyfathrebu gydag ymarferwyr ac eraill sydd â rhyw gyfrifoldeb ffurfiol dros, neu ddiddordeb mewn, iechyd a lles y sawl a amheuir. Mae enghreifftiau penodol yn cynnwys gweithwyr gofal iechyd priodol (gweler adran 9 y Cod hwn), Ymwelwyr Cystodaeth Annibynnol a gweithwyr atgyfeirio arést cyffuriau.

4. Os yw swyddog y ddalfa neu’r cyfwelydd (yn amodol i baragraff 13.1(b)) yn fodlon ar gyfer diben penodol fel y disgrifiwyd ym mharagraffau 2 a 3 uchod, na fyddai’r cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw yn effeithio’n andwyol ar neu’n tanseilio na chyfyngu gallu’r sawl a amheuir fel arall i gyfathrebu’n hyderus ac effeithiol i’r diben hwnnw, rhaid hysbysu’r sawl a amheuir o hyn, ei gyfreithiwr ac (os yn berthnasol) yr oedolyn priodol. Ar yr un pryd, rhaid esbonio gweithrediad cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw a’i arddangos iddo, rhaid ei gynghori o rwymedigaethau’r prif swyddog parthed diogelwch cyfathrebiadau dolen fyw dan baragraff 13.13 (gweler Nodyn N2) a rhaid gofyn a yw eisiau cyflwyno sylwadau na ddylid cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw os yw eisiau mwy o wybodaeth ynghylch gweithrediad y trefniadau. Rhaid hefyd ei hysbysu ar unrhyw adeg ble defnyddir cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw, y gall gyflwyno sylwadau i swyddog y ddalfa neu’r cyfwelydd y dylid stopio ei weithredu ac y dylid trefnu presenoldeb corfforol cyfieithydd.

Pan fydd angen awdurdod arolygydd

5. Os:

  • (i) gwneir sylwadau na ddylid defnyddio cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw, neu yn ystod unrhyw adeg y mae cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw yn cael ei ddefnyddio, y dylai ei weithrediad ddod i ben ac y dylid trefnu presenoldeb corfforol cyfieithydd ar y pryd; a
  • (ii) ni all swyddog y ddalfa na’r cyfwelydd (yn amodol ar baragraff 13.1(b)) leddfu’r pryderon a godwyd; yna ni chaniateir defnyddio’r ddolen fyw, neu (yn ôl fel y digwydd) barhau i’w defnyddio, oni bai ei fod wedi’i awdurdodi’n ysgrifenedig gan swyddog o safle arolygydd neu uwch yn unol â pharagraff 6.

6. Gellir rhoi awdurdod os yw’r swyddog yn fodlon i’r diben(ion) dan sylw ar y pryd pan mae angen cyfieithydd, fod cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw yn angenrheidiol a gellir ei gyfiawnhau. Wrth wneud y penderfyniad hwn, rhaid i’r swyddog ystyried:

  • (a) amgylchiadau’r sawl a amheuir;
  • (b) natur a difrifoldeb y drosedd;
  • (c) gofynion yr ymchwiliad, yn cynnwys ei effaith debygol ar y sawl a amheuir a’r dioddefwr(dioddefwyr);
  • (d) y sylwadau a wnaethpwyd gan y sawl a amheuir, ei gyfreithiwr ac (os yn berthnasol) yr oedolyn priodol na ddylid cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw (gweler paragraff 5);
  • (e) argaeledd cyfieithydd addas i fod yn gorfforol bresennol o gymharu ag argaeledd cyfieithydd addas ar gyfer cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw (gweler Nodyn N3); ac
  • (f) y perygl os nad yw cyfieithydd yn gorfforol bresennol, y gallai tystiolaeth a gaffaelwyd yn defnyddio cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw gael ei eithrio mewn achosion troseddol dilynol; ac
  • (g) yr effaith debygol ar y sawl a amheuir a’r ymchwiliad o unrhyw oedi dilynol i drefnu i’r cyfieithydd fod yn gorfforol bresennol gyda’r sawl a amheuir.

7. I ddibenion Cod E a chyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw, nid oes gofyniad i wneud recordiad gweledol sy’n dangos y cyfieithydd fel y mae’r sawl a amheuir ac eraill sy’n bresennol yn y cyfweliad yn ei weld. Mae’r recordiad sain sy’n ofynnol gan y Cod hwnnw yn ddigonol. Fodd bynnag, gall y swyddog awdurdodi, mewn ymgynghoriad â’r swyddog sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad, gyfarwyddo y dylid cynnal a recordio’r cyfweliad yn unol â chod F. Bydd hyn yn gofyn i’r cofnod ysgrifenedig ddangos y trefniadau cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw a’r cyfieithydd fel y’i gwelir ac y’i profir gan y sawl a amheuir yn ystod y cyfweliad. Gellid ystyried hyn os yw’n ymddangos y gellid herio derbynioldeb tystiolaeth y cyfweliad oherwydd nad oedd y cyfwelydd yn gorfforol bresennol, neu os yw’r sawl a amheuir, cyfreithiwr neu oedolyn priodol yn cyflwyno sylwadau y dylid gweithredu Cod F.

Dogfennaeth

8. Rhaid gwneud cofnod o’r camau gweithredu, penderfyniadau, awdurdodiadau a chanlyniadau yn deillio o ofynion yr Atodiad hwn. Mae hyn yn cynnwys sylwadau a wnaethpwyd yn unol â pharagraffau 4 a 7.

Rhan 2: Addasiadau ar gyfer cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw

9. Bydd yr addasiad canlynol yn berthnasol i ddibenion cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw:

(a) Cod C paragraff 13.3:

Ar gyfer y drydedd frawddeg, amnewid: “Dylid anfon copi clir darllenadwy o’r cofnod llawn heb oedi trwy’r ddolen fyw i’r cyfwelydd. Bydd y cyfwelydd, wedi cadarnhau gyda’r sawl a amheuir fod y copi yn ddarllenadwy ac yn gyflawn, yn caniatáu i’r sawl a amheuir ddarllen y cofnod, neu gael y cofnod wedi ei ddarllen iddo gan gyfieithydd, a llofnodi fod y copi yn gywir neu ddynodi ym mha ffordd y mae’n ystyried ei fod yn anghywir. Mae’r cyfwelydd yn gyfrifol am sicrhau y cedwir y copi a lofnodir a’r cofnod gwreiddiol a wnaed gan y cyfwelydd gyda phapurau’r achos i’w defnyddio fel tystiolaeth os oes angen ac mae’n rhaid cynghori’r cyfieithydd o’i rwymedigaeth i gadw’r cofnod gwreiddiol yn ddiogel i’r diben hwnnw.”;

(b) Cod C paragraff 13.4:

Ar gyfer is-baragraff (b), amnewid: “Dylid anfon copi clir darllenadwy o’r datganiad llawn heb oedi trwy’r ddolen fyw i’r cyfwelydd. Bydd y cyfwelydd, wedi cadarnhau gyda’r sawl a amheuir fod y copi yn ddarllenadwy ac yn gyflawn, yn gwahodd y sawl a amheuir i’w lofnodi. Mae’r cyfwelydd yn gyfrifol am sicrhau y cedwir y copi a lofnodir a’r cofnod gwreiddiol a wnaed gan y cyfwelydd gyda phapurau’r achos i’w defnyddio fel tystiolaeth os oes angen ac mae’n rhaid cynghori’r cyfieithydd o’i rwymedigaeth i gadw’r cofnod gwreiddiol yn ddiogel i’r diben hwnnw.”;

(c) Cod C paragraff 13.7:

Wedi’r frawddeg gyntaf, mewnosod: “Rhaid anfon copi clir darllenadwy o’r cofnod ardystiedig heb oedi trwy’r ddolen fyw i’r cyfwelydd. Mae’r cyfwelydd yn gyfrifol am sicrhau y cedwir y cofnod ardystiedig a’r copi gwreiddiol a wnaed gan y cyfwelydd gyda phapurau’r achos i’w defnyddio fel tystiolaeth os oes angen ac mae’n rhaid cynghori’r cyfieithydd o’i rwymedigaeth i gadw’r cofnod gwreiddiol yn ddiogel i’r diben hwnnw.”

(d) Cod C paragraff 11.2, Cod E paragraffau 3.4 a 4.3 a Chod F paragraff 2.5 - cyfweliadau

Ar ddechrau pob paragraff, mewnosod: “Cyn i’r cyfweliad gychwyn, fe esbonnir gweithrediad y cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw a’i arddangos i’r sawl a amheuir, ei gyfreithiwr ac oedolyn priodol, oni bai ei fod wedi ei esbonio ac arddangos yn flaenorol (gweler Cod C Atodiad N paragraff 4).”

(e) Cod E, paragraff 3.20 (llofnodi label y prif recordiad)

Wedi’r drydedd frawddeg, mewnosod, “Os defnyddiwyd cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw, dylai’r cyfwelydd ofyn i’r cyfieithydd arsylwi tynnu a selio’r recordiad meistr ac i gadarnhau’n ysgrifenedig ei fod wedi ei weld yn cael ei selio a’i lofnodi gan y cyfwelydd. Rhaid anfon copi clir darllenadwy o’r cadarnhad a lofnodwyd gan y cyfieithydd trwy’r ddolen fyw i’r cyfwelydd. Mae’r cyfwelydd yn gyfrifol am sicrhau y cedwir y cadarnhad a’r copi gwreiddiol a wnaed gan y cyfwelydd gyda phapurau’r achos i’w defnyddio fel tystiolaeth os oes angen ac mae’n rhaid cynghori’r cyfieithydd o’i rwymedigaeth i gadw’r cadarnhad gwreiddiol yn ddiogel i’r diben hwnnw.”

Sylwer: Yn rhinwedd paragraffau 2.1 a 2.3 o God F, mae hyn yn berthnasol pan wneir recordiad gweledol y mae Cod F yn berthnasol iddo.

Nodiadau Arweiniad

N1 I ddibenion ar wahân i gyfweliad, gall cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw sain yn unig, er enghraifft dros y ffôn (gweler Cod C C paragraff 13.12(b) ddarparu dewis priodol nes bydd cyfieithydd yn gorfforol bresennol neu y bydd cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw ar gael. Enghraifft benodol fyddai’r gweithredu cychwynnol sydd angen pan fydd sawl sy’n cael ei gadw yn cyrraedd gorsaf heddlu i’w hysbysu o, ac i esbonio, y rhesymau dros ei arestio a chadw a’i amrywiol hawliau. Enghraifft arall fyddai i hysbysu’r sawl a amheuir dros y ffôn fod cyfieithydd y bydd yn gallu ei weld a chlywed yn cael ei drefnu. Dan yr amgylchiadau hyn, gallai cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw dros y ffôn helpu leddfu pryderon y sawl a amheuir a chyfrannu i gwblhau’r asesiad risg (gweler Cod C paragraff 3.6).

N2 Bwriedir i’r esboniad ac arddangosiad o gyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw helpu’r sawl a amheuir, cyfreithiwr a’r oedolyn priodol i wneud penderfyniad gwybodus ac i leddfu unrhyw bryderon.

N3 Bydd ffactorau sy’n effeithio ar argaeledd cyfieithydd addas yn cynnwys lleoliad gorsaf yr heddlu a’r iaith a math o ddehongliad (llafar neu iaith y byddar) sydd angen.