Cyfrifon ac adroddiad blynyddol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus: 2025 hyd 2026
Cyhoeddwyd 15 Gorffennaf 2026
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Trosolwg
Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb lefel uchel o weithgarwch Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus dros y flwyddyn. Mae’n nodi ein pwrpas, yr heriau rydym wedi’u hwynebu, a sut rydym wedi perfformio yn erbyn ein targedau gweithredol a’n safonau gwasanaeth i gwsmeriaid ar gyfer 2025 i 2026, fel y nodir yn yr adran hon.
Mae’n cynnwys:
-
datganiad gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus, sy’n myfyrio ar ein cynnydd, ein cyflawniadau a’r meysydd ffocws drwy gydol y flwyddyn
-
amlinelliad o gyfrifoldebau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan ddisgrifio’r hyn rydym yn ei wneud, pwy rydym yn ei wasanaethu, ein prif randdeiliaid, sut rydym yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r prif risgiau a materion roeddem wedi rhoi sylw iddynt
-
crynodeb o’n perfformiad, gan dynnu sylw at sut y gwnaethom berfformio o ran ein hymrwymiadau cyflenwi gwasanaethau
Drwy gydol y flwyddyn, buom yn gweithio i gynnal y lefelau gwasanaeth y mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnynt, gyda galw uchel parhaus am holl wasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae sut rydym wedi cyflawni’r gwasanaethau hyn, ynghyd â’r risgiau a’r heriau roeddem wedi’u rheoli drwy gydol y cyfnod, yn cael eu harchwilio’n fanylach o dudalen 62 ymlaen.
Mae gweddill y tudalennau yn yr adroddiad hwn yn rhoi darlun llawnach o’n perfformiad, ein llywodraethiant a’n hatebolrwydd.
Datganiad gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Prif Weithredwr
Mae’n bleser gennyf gyflwyno adroddiad blynyddol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer 2025 i 2026, yn fy rôl fel Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr. Fel y byddwch yn darllen yn yr adroddiad hwn, mae wedi bod yn flwyddyn lle mae’r galw am ein gwasanaethau wedi parhau i dyfu, ac rwy’n falch o sut mae’r sefydliad wedi ymateb i’r heriau sydd wedi deillio o hyn a’r arloesedd sydd wedi digwydd mewn ymateb. Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar ein cwsmeriaid, gan sicrhau ein bod yn moderneiddio ac yn parhau i drawsnewid sut rydym yn cyflawni.
Eleni, cawsom dros 1.58 miliwn o geisiadau am Atwrneiaeth Arhosol ac Atwrneiaeth Barhaus, sef 6,300 o geisiadau’r dydd ar gyfartaledd bron.
Mae’r ceisiadau hyn wedi cael eu prosesu gan weithlu ymroddedig a phenderfynol. Maent wedi camu i’r adwy i ymateb i gynnydd sylweddol yn y galw i sicrhau ein bod yn parhau i brosesu atwrneiaethau arhosol yn brydlon.
Er gwaethaf y galw eithriadol o uchel hwn (cynnydd cyfartalog o 19% dros y 5 mlynedd diwethaf), yr amser y mae wedi’i gymryd i gofrestru ac anfon atwrneiaethau arhosol yw ein perfformiad cyflymaf ers 2019-2020, sef 45 diwrnod ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn. Ym mis Hydref 2025, gwnaethom ragori ar 10 miliwn o atwrneiaethau ar y gofrestr. Adlewyrchir ansawdd y gwasanaeth hwn mewn lefelau Boddhad Cwsmeriaid, gan gyrraedd 85% a chwblhau 2 flynedd o ragori ar ein targed o foddhad cwsmeriaid o 80%.
Gwelwyd galw mawr ar draws ein gwasanaethau statudol, gan gynnwys cynnydd o 6% mewn gorchmynion dirprwyaeth a ddaeth i law. Galw mawr sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar ein gwasanaeth Ymchwilio, lle gwelsom gynnydd o 17% mewn pryderon yn cael eu codi gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cynhaliwyd asesiadau risg yn gyflym a rhagorwyd ar ein targed, ond ni wnaethom gyrraedd ein targed ar gyfer cwblhau ymchwiliadau o fewn 70 diwrnod.
Er mwyn mynd i’r afael â’r galw heriol mewn ymchwiliadau, gwnaethom newidiadau yn ystod y flwyddyn ac rydym hefyd wedi datblygu ymyriadau strategol i wella’r sefyllfa hon, gan gynnwys buddsoddi mewn staff ychwanegol, technoleg ac ymyriadau digidol, a newidiadau polisi i wella’r model gweithredu ac effeithlonrwydd. Bydd yn cymryd amser i staff newydd gael eu hyfforddi’n llawn, ac i ymyriadau gael effaith lawn, felly bydd hwn yn faes ffocws parhaus wrth i ni symud i’r flwyddyn nesaf, er mwyn gwella’r amser a gymerir i gynnal ymchwiliadau a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol.
I lawer o gwsmeriaid, ein Canolfan Gyswllt yw eu man galw cyntaf am gymorth ac eleni rydym wedi cyflawni gwelliannau gwych o ran cynyddu nifer y galwadau sy’n cael eu hateb o fewn 5 munud, o 57% i 89%. Gwnaethom hyn drwy wneud gwell defnydd o’n technoleg i ddeall pryd mae’r galw ar ei uchaf, a thrwy sicrhau bod gennym y bobl iawn ar yr adegau iawn, gan gynnwys recriwtio cydweithwyr i weithio’n hyblyg yn ystod cyfnodau brig.
Mae rhoi ymyriadau ar waith i gael effaith hirdymor ystyrlon wedi bod yn thema drwy gydol y flwyddyn. Mae datblygiadau parhaus a gwelliannau i systemau wedi bod yn digwydd ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan gynnwys ym maes Goruchwylio, Sicrhau Gwybodaeth ac yn ein tîm Cyfreithiol. Mae ein tîm Cyfreithiol yn chwarae rhan hollbwysig drwy sicrhau ein bod yn cymryd camau llys cymesur, ar yr adeg iawn, a dim ond pan fo angen. Eleni, fe wnaethom gyflwyno dull cyn-gweithredu newydd, sydd wedi galluogi mwy o achosion i gael eu datrys yn gyflym drwy gydsyniad, gan sicrhau canlyniadau gwell i P a llai o straen i deuluoedd.
Mae’r arloesi a ddigwyddodd y llynedd hefyd wedi parhau i sicrhau manteision eleni. Mae’r newid i filiau goruchwylio, drwy symud y gwasanaeth hwn yn fewnol, wedi arwain at wasanaeth mwy ymatebol o ansawdd uwch i gwsmeriaid. Rydym hefyd wedi gweld y lefel isaf o ddyledion ers o leiaf 2019, pan ddechreuodd cofnodion perfformiad, oherwydd gwell rheolaeth ar y broses a gwell cefnogaeth i gwsmeriaid sy’n gymwys i gael eithrio neu ostwng ffioedd, i ddarparu’r dystiolaeth angenrheidiol.
Dechreuasom y flwyddyn drwy ragweld diffyg mewn incwm, gan osod cyllideb heriol iawn i weithio tuag at adennill costau’n llawn. Rydym yn adennill 103.4% o gostau ar ddiwedd y flwyddyn, ar ôl rheoli’r gyllideb yn agos iawn yn ystod y flwyddyn, gan sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn a chael mwy o alw (ac incwm) am atwrneiaethau arhosol na’r hyn a ragwelwyd i ddechrau. Gwnaethom hefyd weithredu cynnydd ffioedd chwyddiannol ar gyfer cofrestru atwrneiaethau arhosol a pharhaus ym mis Tachwedd, er mwyn sicrhau y byddwn yn adennill costau’n llawn yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Er ein bod yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau rhagorol, yr wyf yn cydnabod nad ydym bob amser yn gwneud pethau’n iawn. Rydym yn cymryd ateb a dysgu o bryderon cwsmeriaid o ddifrif, ac mae hyn yn cynnwys sicrhau eu bod yn cael ymateb prydlon i’w gohebiaeth. Gwnaethom gynnal y perfformiad a gyflawnwyd y llynedd wrth ymateb i 90% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith. Yn y flwyddyn i ddod, byddwn yn parhau i fuddsoddi a dysgu o’r pryderon y mae cwsmeriaid yn eu codi, gan ddod â’r rheini sy’n delio â chwynion at ei gilydd mewn un tîm sy’n canolbwyntio ar brofiad ein cwsmeriaid.
Fel y dangoswyd gan yr hyn rydym wedi’i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pobl wrth galon y ddarpariaeth yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Rwy’n falch o arwain staff sy’n dosturiol ac yn benderfynol. Eleni gwelsom gynnydd o 1% yn ein sgôr ymgysylltu â staff, gan gyflawni 65%. Mae’r gyfradd gadael wedi gostwng ymhellach i 7.3%, sy’n well na 8.5% y llynedd. Rydyn ni’n parhau i sicrhau bod cefnogaeth dda ar gael i gydweithwyr, ac rydw i’n arbennig o ddiolchgar i’n Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a’n Cynghreiriaid am eu cefnogaeth.
Rydym hefyd yn ffodus o gael ein cefnogi gan gydweithwyr gweithredol sydd ag arbenigedd cyfoethog o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac o gydweithio i gyflawni amcanion Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Rydym yn elwa o weithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid swyddogaethol, gan gynnwys Cyllid, Digidol a Thechnoleg, Data, Dadansoddi, Deallusrwydd Artiffisial ym maes Cyfiawnder, Cyfathrebu, Cyflawni Prosiectau, Masnachol a Gwasanaethau Pobl.
Rwy’n ddiolchgar i gydweithwyr, Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder am eu hymrwymiad a’u cefnogaeth barhaus eleni. Gyda’n gilydd, rydym wedi gwneud cynnydd da. Byddwn yn adeiladu ar hyn yn y flwyddyn i ddod, gan barhau i wella sut rydym yn cyflawni ar ran ein cwsmeriaid.
Ruth Duffin
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (Dros Dro)
8 Gorffennaf 2026
Datganiad gan Gadeirydd Anweithredol y Bwrdd
Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r adroddiad blynyddol hwn ar gyfer 2025 i 2026 a myfyrio ar flwyddyn o gyflawniad sylweddol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Mewn cyd-destun o alw uchel a chynyddol parhaus, mae cydweithwyr ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi dangos proffesiynoldeb, gwydnwch ac ymrwymiad cryf i gyflawni’r gwasanaeth rhagorol y mae ein cwsmeriaid yn ei haeddu. Yn ystod fy ymweliadau â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun ymroddiad a thosturi ein pobl wrth gefnogi ein cwsmeriaid, sydd yn aml angen ein gwasanaethau ar adegau arbennig o anodd yn eu bywydau. Hoffwn ddiolch i bawb ar draws y sefydliad am eu gwaith caled a’u brwdfrydedd wrth ddarparu cefnogaeth hanfodol gyda gofal a diwydrwydd o’r fath.
Mae’r bwrdd wedi gweld rhywfaint o gynnydd rhagorol ar draws y sefydliad, gyda gwasanaethau hanfodol yn cael eu cyflawni’n barhaus ar yr un pryd â pharhau i wella a moderneiddio ochr yn ochr â hynny. Mae buddsoddiadau mewn pobl, systemau a ffyrdd o weithio yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, ac rydym wedi gweld canlyniadau gwych ym mherfformiad ein canolfan alwadau ac yn llwyddo i brosesu’r nifer uchaf o atwrneiaethau arhosol yn ein hanes. Mae hefyd yn amlwg bod momentwm gwirioneddol y tu ôl i daith drawsnewid hanfodol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, sy’n hanfodol er mwyn galluogi gwelliant pellach.
Ar yr un pryd, rhaid inni fod yn realistig am yr heriau sy’n parhau. Mae mwy i’w wneud i gyflawni’n gyson y lefel o wasanaeth y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn anelu ati, yn gwbl briodol, yn enwedig mewn ardaloedd sydd dan y pwysau mwyaf a lle mae cwsmeriaid fwyaf agored i niwed. Mae’r bwrdd yn dal yn glir bod yn rhaid parhau i fynd i’r afael â’r materion hyn yn gyflym ac yn benodol.
Mae moderneiddio’n dal yn ganolog i ddyfodol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Drwy gydol y flwyddyn, mae’r bwrdd wedi goruchwylio, herio a chefnogi i sicrhau bod newidiadau’n cael eu llywodraethu’n dda, gan ganolbwyntio ar brofiad cwsmeriaid a’u bod yn gynaliadwy yn y tymor hir. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, mae hon yn daith barhaus, ac mae’r bwrdd yn canolbwyntio ar gyflymu newid lle mae hynny bwysicaf. Bydd y flwyddyn i ddod yn hollbwysig o ran gwreiddio’r gwelliannau niferus diweddar a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd trawsnewid.
Rwy’n hyderus, gydag ymroddiad parhaus pobl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r cydweithio cryf rhwng y bwrdd a’r tîm gweithredol, bod y sefydliad mewn sefyllfa dda i adeiladu ar lwyddiannau eleni a sbarduno rhagor o welliannau i wasanaethau cwsmeriaid.
Alison Sansome
Cadeirydd Anweithredol y Bwrdd
Ynglŷn â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Cyflwyniad
Penodir y Gwarcheidwad Cyhoeddus gan yr Arglwydd Ganghellor o dan adran 57 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn atebol yn bersonol i’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder am weithredu’r asiantaeth yn effeithiol, gan gynnwys y ffordd y mae’r asiantaeth yn gwario arian cyhoeddus ac yn rheoli ei hasedau.
Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael cymorth gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni ei swyddogaethau statudol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r swyddogaethau ychwanegol o Ddeddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017. Mae cyfrifoldebau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymestyn ledled Cymru a Lloegr. Mae trefniadau ar wahân ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gweinidogion y llywodraeth sy’n gyfrifol am Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod y cyfnod adrodd hwn (1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026) yw:
-
y Gwir Anrhydeddus Shabana Mahmood AS, yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder (rhwng 5 Gorffennaf 2024 a 5 Medi 2025)
-
y Gwir Anrhydeddus David Lammy AS, yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder (o 5 Medi 2025 ymlaen)
-
Sarah Sackman CB AS, Gweinidog Gwladol dros Lysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol (o 2 Rhagfyr 2024 ymlaen)
-
y Gwir Anrhydeddus y Farwnes Levitt CB, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder a Gweinidog yr Arglwyddi (o 6 Medi 2025 ymlaen)
Fel asiantaeth weithredol, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhan o grŵp adrannol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae ein canlyniadau’n cael eu cyfuno yn adroddiad blynyddol a chyfrifon grŵp y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Beth mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei wneud?
Sefydlwyd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fis Hydref 2007. Rydym yn cefnogi ac yn galluogi pobl i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer gofalu am eu hiechyd a’u harian os byddant yn colli galluedd. Rydym hefyd yn gweithio i ddiogelu buddiannau pobl nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud rhai penderfyniadau drostynt eu hunain.
Ein prif gyfrifoldebau yw:
-
cofrestru atwrneiaethau arhosol a pharhaus
-
goruchwylio dirprwyon a benodir gan y Llys Gwarchod
-
goruchwylio gwarcheidwaid a benodir gan yr Uchel Lys
-
cynnal cofrestri cyhoeddus dirprwyon, gwarcheidwaid, atwrneiaethau arhosol a pharhaus, ac ymateb i geisiadau am chwilio’r cofrestri
-
rheoli adroddiadau (gan gynnwys cwynion) am y ffordd mae atwrneiod, dirprwyon a gwarcheidwaid yn gweithredu eu pwerau
Ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid
Ein cwsmeriaid yw’r rheini sy’n gofyn am ein cymorth neu sydd angen ein cymorth o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu Ddeddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017, gan gynnwys:
Rhoddwyr
Pobl sy’n gwneud neu sydd wedi gwneud atwrneiaeth arhosol neu barhaus i drefnu bod penderfyniadau’n cael eu gwneud am eu lles, eu heiddo neu eu harian pe byddent yn colli galluedd meddyliol yn y dyfodol.
Cleientiaid (a elwir yn ‘P’)
Pobl sydd wedi colli galluedd meddyliol ac y mae eu lles, eu heiddo neu eu materion ariannol yn destun achos gerbron y Llys Gwarchod.
Pobl ar goll
Pobl yr adroddwyd eu bod ar goll neu sy’n absennol ac y mae eu materion yn cael eu rheoli gan warcheidwad a benodwyd gan yr Uchel Lys.
Rydym yn cydnabod bod ein rôl hefyd yn cynnwys ymgysylltu â’r rheini sy’n gysylltiedig ag atwrneiaethau parhaus ac arhosol, dirprwyaethau a gwarcheidiaethau, gan gynnwys:
Atwrneiod
Pobl sydd wedi cael eu penodi gan roddwyr i reoli eu lles, eu heiddo neu eu materion ariannol pe byddent yn colli galluedd yn y dyfodol.
Dirprwyon
Unigolion lleyg neu broffesiynol neu awdurdodau (fel cyfreithwyr neu awdurdodau lleol) sydd wedi cael eu penodi gan y Llys Gwarchod i reoli lles neu gyllid cleient.
Gwarcheidwaid
Unigolion sydd wedi cael eu penodi gan yr Uchel Lys i reoli eiddo a materion ariannol unigolyn sy’n absennol neu sydd ar goll.
Rhanddeiliaid eraill
Perthnasau i gleient neu roddwr, meddygon teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill, elusennau, ac aelodau o’r sectorau cyfreithiol ac ariannol.
Dadansoddi Perfformiad
Sut gwnaethom ni berfformio yn ystod 2025 i 2026?
Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, fe wnaethom ymateb i’r galw mwyaf a mwyaf parhaus am atwrneiaethau arhosol y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i brofi hyd yma. Dros y flwyddyn, cawsom 1,589,500 o geisiadau am atwrneiaeth. Mae’n galonogol bod cynifer o bobl yn cydnabod gwerth cael atwrneiaeth arhosol. Yn y cyd-destun hwn, cyflawnodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ei pherfformiad cryfaf mewn 5 mlynedd. Roedd yr amser cyfartalog yr oedd cwsmeriaid yn aros i gael eu hatwrneiaethau arhosol a pharhaus cofrestredig wedi gwella eto yn 2025 i 2026, i 45 diwrnod, o’i gymharu â 49 diwrnod yn 2024 i 2025. Mae cynnydd parhaus yn nifer y ceisiadau yn golygu ein bod yn adolygu ein prosesau a’n hymrwymiadau perfformiad i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn dryloyw ynghylch amserlenni cyflawni, ac yn parhau i ddarparu gwasanaeth dibynadwy o ansawdd uchel.
Ni chododd y galw’n gyfartal, ond daeth tonnau amlwg drwy gydol y flwyddyn, gan greu cyfnodau o bwysau ar dimau prosesu. Roedd yr amrywiadau hyn yn ei gwneud yn fwy heriol ac yn cyfrannu at anghysondeb mewn amseroedd cofrestru. Er gwaethaf hyn, fe wnaethom adeiladu ar sylfeini gweithredol cryf dros y blynyddoedd diwethaf, a wnaeth ein helpu i reoli’r cyfnodau brig hyn yn fwy effeithiol ar raddfa fawr.
Adlewyrchir ein ffocws parhaus ar gyflawni gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn ein sgôr bodlonrwydd cwsmeriaid uchaf erioed ar gyfer gwasanaethau atwrneiaeth, gan gyrraedd 85%. Atebodd ein canolfan gyswllt i gwsmeriaid y nifer uchaf o alwadau mewn unrhyw flwyddyn, sef 396,541, i fyny o 325,330 yn 2024 i 2025. Nid yw hyn yn gymhariaeth hollol debyg am debyg i nifer y galwadau a gafwyd y llynedd, oherwydd newidiadau gweithredol a welodd rai ciwiau galwadau’n symud i mewn ac allan o gylch gwaith y Ganolfan Gyswllt. Cafodd y newidiadau hyn eu dylunio i wella proses cyfeirio ymholiadau cwsmeriaid a gwella profiad cyffredinol y cwsmer. Roeddem yn gallu ateb 89% o alwadau o fewn 5 munud, sy’n welliant sylweddol ar 57% a gyflawnwyd yn y flwyddyn flaenorol.
Parhaodd y galw am ymchwiliadau i gynyddu’n sylweddol eleni, dan ddylanwad y nifer gynyddol o atwrneiaethau arhosol ar y gofrestr. Nid oeddem wedi cyrraedd ein targed i gwblhau achosion o fewn 70 diwrnod gwaith, a chynyddodd llwyth achosion yr ymchwiliad o’i gymharu â’r llynedd. Eleni, rydym wedi canolbwyntio ar roi ymyriadau ar waith i wneud gwelliannau hirdymor i’r gwasanaeth hwn. Ym mis Ebrill 2025, fe wnaethom ddechrau rhaglen waith benodol i gryfhau gallu ymchwilio, gwella brysbennu, a blaenoriaethu pryderon difrifol. Rydym yn cyflwyno offer a alluogir gan ddeallusrwydd artiffisial i leihau tasgau gweinyddol ailadroddus, gan ganiatáu i ymchwilwyr ganolbwyntio’n gynt ar gamdriniaeth bosibl. Gyda’r galw’n parhau i gynyddu, rydym yn cymryd camau rhagweithiol i gynnal gwasanaeth dibynadwy o ansawdd uchel. Mae ein prosesau cryfach yn rhoi’r unigolyn a warchodir wrth galon y broses o wneud penderfyniadau ac yn blaenoriaethu’r achosion mwyaf difrifol a risg uchel, gan sicrhau cymorth amserol a phriodol. Mae’r mesurau hyn yn rhoi hyder i ni y bydd perfformiad yn parhau i wella wrth iddynt gael eu gweithredu’n llawn.
Ochr yn ochr â chyflawni ein swyddogaethau statudol, rydym wedi parhau i foderneiddio gyda’n gilydd fel sefydliad, gan gryfhau sut rydym yn gweithredu heddiw a pharatoi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi adolygu a gwella ein strwythurau a’n prosesau mewnol, gan gynnwys creu Cyfarwyddiaeth Trawsnewid bwrpasol. Mae hyn yn rhoi ffocws sefydliadol clir ar newid sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, ac yn sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn barod yn weithredol i gyflawni a chynnal gwaith trawsnewid gwasanaethau yn y dyfodol.
Dros y flwyddyn, rydym wedi cyflwyno amrywiol welliannau ymarferol i foderneiddio ein gwasanaethau a phrofiad ein cwsmeriaid. Cafodd system talu diogel Sycurio ei rhoi ar waith i gryfhau diogelwch taliadau cerdyn, ac roedd mwy o gapasiti sganio wedi helpu i gynnal lefelau gwasanaeth yn ystod cyfnodau prysur iawn. Y gwasanaeth digidol newydd, Mynegi Pryder, oedd y prif lwybr ar gyfer mynegi pryderon, gan wella ansawdd y wybodaeth a dderbynnir ymlaen llaw, cefnogi staff i weithredu’r broses yn fwy effeithiol, a chreu profiad mwy cyson a thryloyw i’r rhai sy’n mynegi pryderon. Roedd hyn yn lleihau cyswllt dro ar ôl tro ac yn helpu pryderon i ddatblygu’n fwy llyfn. Rydym hefyd wedi adnewyddu canllawiau ac adnoddau ar-lein ar gyfer y gwasanaeth Defnyddio a Gweld, gan wella eglurdeb a hwylustod i gwsmeriaid.
Ar ben hynny, roedd darparu biliau goruchwylio yn fewnol am y tro cyntaf yn cryfhau’r gallu i reoli ansawdd a rheoli dyledion. Roedd y newid hwn yn galluogi ailgyfrifo ac ad-dalu cyflymach a mwy ymatebol, yn gwella cywirdeb anfonebau, ac yn ei gwneud yn haws i gwsmeriaid gael gwybodaeth ariannol glir ac amserol. Llwyddodd y dull newydd i sicrhau arbedion effeithlonrwydd ariannol ac arweiniodd at arbedion o dros £1.4 miliwn dros y flwyddyn ariannol.
Rhan annatod o’r cyflawniadau hyn yw ein pobl, y mae eu harbenigedd a’u hymrwymiad yn cefnogi popeth a wnawn. Rydym yn cydnabod bod trawsnewid nid yn unig yn ymwneud â systemau, ond hefyd â sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd, yn defnyddio data ac yn gwella gwasanaethau’n barhaus. Mae cyflwyno ein system Canolfan Gyswllt newydd ‘Genesys’ yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn yn enghraifft wych o’n pobl yn cydweithio i sicrhau newid sylweddol. Roedd hyn yn gwella’r ffordd roedden ni’n rheoli galwadau cwsmeriaid, gan gynnwys cyfeirio galwadau, argaeledd asiant a monitro perfformiad. Roedd sesiynau adborth a chynlluniau gweithredu rheolaidd, hyfforddiant cynhwysfawr a chefnogaeth barhaus yn sicrhau bod y newid i’n timau a’n cwsmeriaid yn effeithiol, heb fawr o darfu.
Wrth edrych i’r dyfodol, rydym yn disgwyl y bydd lefelau uchel parhaus o alw am atwrneiaethau arhosol yn parhau. Gyda gwaith ôl-groniad hanesyddol atwrneiaethau arhosol wedi’i glirio, ein ffocws yw cynnal perfformiad ar draws gwasanaethau craidd wrth barhau i arloesi a moderneiddio trwy allu cryfach, gwella brysbennu, ac ehangu offer digidol. Mae buddsoddiad parhaus mewn gwasanaeth i gwsmeriaid a Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sydd wedi’i galluogi’n ddigidol yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i gyflawni ein portffolio trawsnewid a moderneiddio gwasanaethau gyda’n gilydd.
Rydym wedi parhau i weithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ddatblygu’r gwasanaeth atwrneiaeth arhosol wedi’i foderneiddio. Rydym wedi canolbwyntio ar ddatblygu dyluniad y gwasanaeth a’r newidiadau deddfwriaethol i ddechrau profi’n fyw. O ystyried maint a chymhlethdod gwasanaeth a ddefnyddir gan filiynau o bobl bob blwyddyn, mae’n bwysig ein bod yn cymryd yr amser priodol i gael y dyluniad yn iawn.
Mae rhagor o fanylion am sut mae’r ystod lawn o dargedau a pherfformiad yn cael eu mesur ar gael yn yr atodiad.
Dangosyddion perfformiad a llwyth gwaith
|
66,486 Llwyth achosion goruchwylio |
|
1,589,500 Ceisiadau am atwrneiaeth a dderbyniwyd (atwrneiaethau arhosol a pharhaus) |
|
10,620,245 Atwrneiaethau arhosol a pharhaus sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd |
Sut y gwnaethom berfformio:
|
45 diwrnod gwaith Amser clirio gwirioneddol ar gyfartaledd ar gyfer ceisiadau am atwrneiaethau Targed: 40 diwrnod gwaith |
|
31 diwrnod gwaith Amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol gan ddirprwyon rydym yn eu goruchwylio Targed: 40 diwrnod gwaith |
|
22 diwrnod gwaith Amser cyfartalog i adolygu adroddiadau blynyddol dirprwyon Targed: 15 diwrnod gwaith |
|
97% Canran yr asesiadau risg diogelu a gynhaliwyd o fewn 2 ddiwrnod Targed: 95% |
|
198 diwrnod gwaith Amser cyfartalog i gwblhau ymchwiliadau Targed: 70 diwrnod gwaith |
|
89% Canran y galwadau a atebwyd o fewn 5 munud Targed: 90% |
|
85% Canran y cwsmeriaid sy’n fodlon ar y gwasanaethau atwrneiaeth Targed: 80% |
|
38 diwrnod gwaith Diwrnodau gwaith cyfartalog i gyflwyno ceisiadau llys Targed: 35 diwrnod gwaith |
|
90% Canran y cwynion a gafodd ymateb llawn cyn pen 10 diwrnod gwaith Targed: 90% |
|
85% Sgôr bodlonrwydd ar gyfer gwasanaeth digidol ‘Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol’ Targed: 80% |
|
85% Sgôr bodlonrwydd ar gyfer gwasanaeth digidol ‘Gwneud Atwrneiaeth Arhosol’ Targed: 80% |
|
80% Sgôr bodlonrwydd ar gyfer gwasanaeth digidol ‘Cwblhau adroddiad dirprwy’ Targed: 80% |
Atwrneiaethau
Mae atwrneiaethau arhosol a pharhaus yn rhoi hyder i unigolion, pe byddent yn colli’r gallu i wneud penderfyniadau yn y dyfodol, y bydd rhywun y maent yn ymddiried ynddo yn gallu gweithredu ar eu rhan. Cofrestru’r dogfennau hyn yw un o swyddogaethau craidd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Mae ein hymrwymiadau gwasanaeth i gwsmeriaid yn y maes hwn yn cynnwys:
-
ofrestru ac anfon atwrneiaethau mewn 40 diwrnod gwaith ar gyfartaledd
-
ateb 90% o alwadau o fewn 5 munud
-
ymateb i 90% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith
Eleni, cawsom 1,589,500 o geisiadau i gofrestru atwrneiaethau arhosol a pharhaus, sy’n gynnydd nodedig ers y llynedd ac sy’n parhau â’r cynnydd yn y galw am atwrneiaethau. Mae’r twf hwn yn cael ei ddangos yn y graff isod.

Roedd y galw am ein gwasanaeth atwrneiaeth yn dal yn eithriadol o uchel drwy gydol y flwyddyn, gyda thwf sylweddol o un flwyddyn i’r llall mewn ceisiadau a chyswllt cwsmeriaid. Mae’r lefel barhaus hon o weithgarwch yn adlewyrchu pwysigrwydd parhaus atwrneiaethau arhosol fel rhagofal hanfodol sy’n helpu pobl i gynllunio ar gyfer eu dyfodol a gwneud penderfyniadau. Ddiwedd y flwyddyn hon, roedd gennym 10,620,245 o atwrneiaethau arhosol a pharhaus ar ein cofrestr, sy’n dangos hyd a lled a chyrhaeddiad ein gwasanaeth.
Roedd nifer y ceisiadau’n dal yn uchel drwy gydol y flwyddyn, gyda sawl cynnydd wedi’i sbarduno gan gyfuniad o ffactorau tymhorol, sylw yn y cyfryngau a cheisiadau cyn y newid mewn ffioedd a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn ariannol. Arweiniodd y newid mewn ffioedd at gynnydd yn nifer y ceisiadau, gan greu pwysau ychwanegol ar gapasiti prosesu. Ni fu unrhyw ostyngiad dilynol yn y galw ac roedd y niferoedd yn parhau i fod yn uwch am gyfnod hwy. Cawsom sawl diwrnod ac wythnos lle torrwyd record, gan gynnwys y nifer uchaf erioed o geisiadau mewn diwrnod (11,645) ar gofnod a chyfartaledd wythnosol o (30,567) o geisiadau - yr uchaf hyd yma. Derbyniwyd cyfanswm o 1,589,500 o geisiadau atwrneiaeth arhosol a pharhaus, sef 6,307 y dydd ar gyfartaledd. Yr amser cyfartalog i gofrestru ac anfon atwrneiaethau arhosol a pharhaus oedd 45 diwrnod gwaith.
Roedd gwasanaeth i gwsmeriaid yn parhau i fod yn faes perfformiad cryf. Roedd sgôr bodlonrwydd ar gyfer ein gwasanaeth atwrneiaeth wedi cyrraedd 85%, gan ragori ar ei tharged bodlonrwydd o 80% a chynyddu o 84% yn 2024 i 2025. Mae hyn yn adlewyrchu ein gwelliannau parhaus i ansawdd gwasanaethau, mwy o sefydlogrwydd prosesau, a ffocws cryf ar wasanaeth i gwsmeriaid drwy gydol y flwyddyn.
Gwelliannau i’r gwasanaeth
Eleni, gwnaethom barhau i gryfhau a moderneiddio ein gwasanaeth atwrneiaeth, gwella profiad y cwsmer, cryfhau ein systemau digidol, a chynyddu effeithlonrwydd gweithredol gyda’r canlynol:
Teleffoni gwell
Yn 2025 i 2026, gwnaethom barhau i gyflwyno a gwneud defnydd llawnach o lwyfan teleffoni Genesys ar draws ein gwasanaeth, gan gefnogi system fwy gwydn a hyblyg ar gyfer ein timau prosesu a’r Ganolfan Gyswllt. Wrth i’n defnydd o’r system aeddfedu, fe wnaethom wella sefydlogrwydd a’n gallu i reoli nifer uchel o alwadau, a chyfrannodd hyn at ostyngiad o 76% mewn amseroedd aros cyfartalog, o 6 munud 19 eiliad yn 2024 i 2025 i 1 munud 18 eiliad yn 2025 i 2026. Roedd gwelliannau i’n system Ymateb Llais Rhyngweithiol, gan gynnwys gwell nodweddion cyfeirio ac adnabod llais, yn helpu cwsmeriaid i gyrraedd y gwasanaeth cywir yn fwy effeithlon. Yn ystod y flwyddyn, cafodd llwyfan teleffoni Genesys ei ymestyn i dimau ychwanegol, gan gynnwys Gwaith Achos Atwrneiaeth Arhosol.
Gwelliannau digidol a sganio
Y llynedd, buddsoddwyd mewn sganwyr newydd a meddalwedd newydd i gefnogi mwy o geisiadau a ddaeth i law drwy gydol y flwyddyn. Ynghyd â darparu delweddau o ansawdd uwch a phrosesu cyflymach, mae hyn hefyd yn sicrhau ein bod yn gallu cynnal lefelau gwasanaeth a phrosesu dogfennau’n effeithlon yn ystod cyfnodau o alw cynyddol.
Gwelliannau i Wasanaethau Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol a Gweld Atwrneiaeth Arhosol
Roedd gwella’r profiad i gwsmeriaid sy’n defnyddio ein gwasanaethau ‘Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol’ a ‘Gweld Atwrneiaeth Arhosol’ yn parhau i fod yn ffocws mawr. Mae’r gwasanaeth hwn yn caniatáu i roddwyr ac atwrneiod rannu manylion atwrneiaeth arhosol â thrydydd partïon drwy gynhyrchu cod mynediad diogel. Yna, gall banciau, darparwyr gofal iechyd neu gyfreithwyr ddefnyddio’r gwasanaeth Gweld Atwrneiaeth Arhosol i gael gafael arni pan fo angen. Fe wnaethom ddiweddaru’r canllawiau ar-lein a darparu gwybodaeth gliriach gam wrth gam. Mae’r gwelliannau hyn yn cefnogi defnydd ehangach o’r gwasanaeth ac yn helpu cwsmeriaid i’w lywio’n fwy hyderus.
Ymgyrch Eich Llais, Eich Penderfyniad
Mae ein hymgyrch Eich Llais, Eich Penderfyniad wedi’i chynllunio i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd atwrneiaethau arhosol. Rydym wedi parhau i ymestyn yr ymgyrch mewn lleoliadau penodol ledled Cymru a Lloegr i annog mwy o gynulleidfaoedd targed i ddefnyddio atwrneiaethau arhosol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cynhaliwyd yr ymgyrch ym Manceinion Fwyaf, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Leeds, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr. Drwy weithio gydag awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau’r GIG, rhwydweithiau cymunedol, grwpiau ffydd a sefydliadau lleol y mae’r cynulleidfaoedd a dargedwyd gennym yn ymddiried ynddynt, rydym wedi gallu cynyddu cyrhaeddiad ac effaith ein hymgyrch.
Edrych tua’r dyfodol gyda’r gwasanaeth atwrneiaeth
Wrth edrych tua’r dyfodol, byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth atwrneiaeth effeithiol o ansawdd uchel, sy’n diwallu anghenion nifer gynyddol o bobl sy’n dewis rhoi atwrneiaeth ar waith. Rydym yn gwella’r broses o gyfeirio galwadau fel bod cwsmeriaid yn cael eu cysylltu â’r unigolyn iawn y tro cyntaf, yn enwedig ar gyfer ymholiadau am gopi swyddfa a ffioedd ymgeisio, gan leihau trosglwyddiadau diangen a chyswllt dro ar ôl tro. Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno polisi gostwng ac eithrio ffioedd wedi’i ddiweddaru i ddarparu canllawiau cliriach a gwell cefnogaeth i gwsmeriaid cymwys. Gyda’i gilydd, bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau bod ein gwasanaethau’n parhau i fod yn fodern, yn hygyrch ac yn wydn er gwaethaf y galw mawr.
Goruchwyliaeth
Os yw unigolyn wedi colli galluedd meddyliol ac nad oes ganddo atwrneiaeth barhaus neu arhosol, gall y Llys Gwarchod benodi dirprwy i wneud penderfyniadau am gyllid neu iechyd yr unigolyn hwnnw. Gall dirprwyon fod yn aelodau o’r cyhoedd, yn aml yn aelodau o’r teulu, yn ffrindiau neu’n gymdogion, yn ogystal â chwmnïau proffesiynol neu awdurdodau lleol. Cyfeirir at aelodau o’r cyhoedd sy’n gweithredu fel dirprwyon fel dirprwyon ‘lleyg’. Mae dirprwyon proffesiynol a dirprwyon awdurdod cyhoeddus wedi’u hawdurdodi i godi tâl am y gwaith maen nhw’n ei wneud wrth weithredu fel dirprwy.
Mae ein swyddogaeth Goruchwylio yn cynnwys sicrhau bod pob dirprwy yn deall ei gyfrifoldebau ac yn gweithredu er budd pennaf yr unigolyn y mae’n ei gefnogi.
Mae’r baich achosion yn cael ei bennu gan gyfanswm yr unigolion y penodwyd dirprwyon ar eu cyfer. Cyfeirir at yr unigolion hyn fel ‘P’ (yr Unigolyn a Warchodir) gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
Eleni, bu cynnydd yn nifer y gorchmynion dirprwyaeth a dderbyniwyd gan y Llys Gwarchod (y Llys). Mae nifer y dirprwyaethau wedi cynyddu 5.6%, o 61,038 ar ddiwedd 2024 i 2025 i 64,456 ar ddiwedd 2025 i 2026.
Mae’r Safonau Dirprwyon yn nodi’r ymddygiad a’r cyfrifoldebau disgwyliedig ar gyfer pob dirprwy a benodir gan y llys, ac yn darparu’r fframwaith ar gyfer goruchwyliaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a gorchmynion y Llys Gwarchod. Maent yn canolbwyntio ar weithredu er budd pennaf P, rheolaeth ariannol briodol, cadw cofnodion cywir, adrodd amserol, ac ymgysylltu adeiladol â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Defnyddir y safonau drwy gydol goruchwyliaeth i asesu risg, penderfynu ar lefel yr oruchwyliaeth sydd ei hangen, a phenderfynu pryd mae angen rhoi cymorth neu gymryd camau pellach.
Mae’r safonau’n cael eu cymhwyso’n gymesur. Cefnogir dirprwyon lleyg yn bennaf drwy arweiniad, ymweliadau a goruchwyliaeth i’w helpu i ddeall a chyflawni eu cyfrifoldebau. Gall dirprwyon proffesiynol a dirprwyon awdurdod cyhoeddus weithredu ar ran nifer o bobl a warchodir a chodi tâl am eu gwasanaethau. Felly, maent yn wynebu disgwyliadau uwch o ran llywodraethiant, rheolaeth ariannol ac ymatebolrwydd, gyda chraffu manylach lle mae risgiau’n cael eu nodi.
Rhaid i ddirprwyon a benodir gan y Llys Gwarchod gadw cofnodion clir a chywir, ymddwyn yn gyfrifol ac yn dryloyw, a chyflwyno adroddiadau blynyddol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn amlinellu’r penderfyniadau y maent wedi’u gwneud a sut maent wedi rheoli materion yr unigolyn. Mae ein gwasanaeth adrodd digidol, ‘Cwblhau’r adroddiad dirprwy ar-lein’, yn cefnogi dirprwyon i gyflwyno eu hadroddiadau blynyddol yn haws. Dros y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethom ragor o welliannau i gefnogi dirprwyon gyda nifer o gleientiaid, ac i ddarparu ar gyfer achosion lle mae gwahanol ddirprwyon yn dal gorchmynion ar wahân ar gyfer yr un unigolyn. Mae’r sgôr bodlonrwydd ar gyfer y gwasanaeth hwn yn dal yn gyson â lefelau 2024 i 2025, ar 70%.
Ein nod yw cael adroddiadau blynyddol gan ddirprwyon rydym yn eu goruchwylio o fewn 40 diwrnod gwaith i ddiwedd eu cyfnod adrodd, ac roeddem wedi cyrraedd y targed hwn drwy gyflawni 31 diwrnod gwaith ar gyfartaledd, i lawr o 33 diwrnod gwaith yn 2024 i 2025. Mae hyn yn ddangosydd cryf o gydymffurfiaeth â safonau ehangach.
Ein nod yw adolygu adroddiadau blynyddol dirprwyon o fewn 15 diwrnod gwaith i’w derbyn, ond nid ydym wedi cyrraedd y targed hwn eleni. Mae hyn yn bennaf oherwydd lefelau staffio a llwyth achosion cynyddol. Mae hefyd yn gysylltiedig â blaenoriaethu gweithgarwch i sicrhau bod dirprwyon lleyg sydd newydd eu penodi yn deall eu cyfrifoldebau, ochr yn ochr â blaenoriaethu adnoddau ar gyfer yr achosion mwyaf agored i niwed a sicrhau bod mesurau priodol ar waith i ddiogelu P lle bo angen. Rydym yn recriwtio i gryfhau capasiti ac yn disgwyl dychwelyd at y targed yn y flwyddyn i ddod.
Mae’n ofynnol i ddirprwyon dalu ffioedd o gronfeydd P ar gyfer goruchwyliaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan gynnwys ffi asesu untro ar ddechrau’r ddirprwyaeth a ffi oruchwylio flynyddol barhaus, yn dibynnu ar lefel yr oruchwyliaeth sy’n ofynnol. Eleni, fe wnaeth gwasanaeth i gwsmeriaid wella yn dilyn buddsoddiad y llynedd mewn system filio fewnol a’r newid i ganolfan gyllid newydd. Ochr yn ochr â phrosesau wedi’u hailddylunio ar gyfer delio â cheisiadau i leihau neu hepgor ffioedd a chael gwared ar ôl-groniadau hirsefydlog, mae hyn wedi cryfhau’r broses o adennill dyledion a gwella tryloywder ariannol. O ganlyniad, gostyngodd y ddyled goruchwylio a oedd yn weddill o £3.1 miliwn ar ddiwedd 2024 i 2025 i £2.7 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, gan roi i ni ein sefyllfa orau o ran dyled a oedd yn weddill ers dros ddegawd.
Gwelliannau i’r gwasanaeth
Dirprwyon panel
Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn goruchwylio panel o ddirprwyon proffesiynol wrth gefn ar ran y Llys Gwarchod. Maent yn gwasanaethu pan nad oes unrhyw unigolyn neu barti arall yn fodlon neu’n cael ei asesu fel rhywun sydd â’r sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol i weithredu fel dirprwy o dan orchymyn dirprwyaeth, neu pan fo achosion yn arbennig o gymhleth.
Daeth penodiadau’r panel blaenorol o ddirprwyon, a benodwyd yn 2015 am gyfnod o 10 mlynedd, i ben ar 31 Rhagfyr 2025. I ffurfio’r panel newydd, fe wnaethom lansio ymgyrch recriwtio ar gyfer dirprwyon proffesiynol i eistedd ar y panel. Daeth y Panel newydd i rym ar 1 Ionawr 2026, ynghyd ag ailbenodi rhai dirprwyon panel a oedd wedi bod ar y panel o’r blaen. Roeddem hefyd wedi penodi nifer o ddirprwyon panel newydd, gan gynyddu’r aelodaeth o 52 dirprwy i 127. Mae’r ehangu sylweddol hwn yn cryfhau’r cyflenwad o ddirprwyon proffesiynol o ansawdd uchel i gefnogi’r Llys Gwarchod ac yn ehangu’r argaeledd ledled Cymru a Lloegr, gyda darpariaeth arbennig o well yng Nghymru a Gogledd-ddwyrain Lloegr.
Fel rhan o’r broses hon, rydym wedi gwneud ein disgwyliadau o ddirprwyon paneli yn gliriach. Lle nad yw safonau’n cael eu bodloni, neu lle mae angen datrys materion, mae prosesau bellach ar waith i atal neu dynnu dirprwy oddi ar y panel, gan sicrhau mai dim ond y rheini sy’n bodloni’r safonau gofynnol sy’n aros. Rydym hefyd wedi cryfhau ein proses gynefino, gan ddarparu mwy o eglurder, cysondeb a sicrwydd ynghylch ymrwymiad parhaus dirprwyon i’r rôl.
Rydym yn bwriadu cynnal ymgyrchoedd recriwtio rheolaidd pan fo angen yn y dyfodol, i sicrhau bod y Panel yn parhau i fod yn wydn ac yn parhau i ddiwallu anghenion y Llys Gwarchod a’r unigolion rydym yn eu gwasanaethu.
Edrych tua’r dyfodol gyda’r gwasanaeth goruchwylio
Wrth edrych i’r dyfodol, bydd goruchwyliaeth yn canolbwyntio ar barhau i ddatblygu gwasanaeth modern a gwydn. Bydd recriwtio yn parhau i fod yn flaenoriaeth i gryfhau capasiti, ochr yn ochr â chydweithio agosach â’r Llys Gwarchod i wella cyfnewid data. Byddwn hefyd yn parhau i ymateb i ddyfarniadau gan y Llys Gwarchod, ac yn cyd-fynd â nhw, ynghylch sut mae dirprwyon yn cyflawni eu cyfrifoldebau i sicrhau bod ein gwasanaeth goruchwylio yn parhau i fod yn wydn ac yn ymatebol.
Unigolion coll
Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyfrifoldeb statudol hefyd i oruchwylio gwarcheidwaid a benodir ar gyfer Unigolion Coll. Er bod y niferoedd sy’n cael eu goruchwylio bob blwyddyn yn isel, mae’r gorchmynion hyn gan yr Uchel Lys yn darparu cymorth hanfodol i deuluoedd a ffrindiau sy’n delio â diflaniad anwyliaid, gan eu helpu i reoli materion ariannol yn ystod cyfnod sydd eisoes yn drallodus. Eleni, fe wnaethom oruchwylio 7 Gorchymyn gwarcheidiaeth, i fyny o 6 yn 2024 i 2025.
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i weithio’n agos gyda’r elusen Missing People, sy’n darparu cymorth a chyngor i ffrindiau a theuluoedd pobl sydd ar goll, gan eu helpu i ddeall yn well yr heriau sy’n eu hwynebu wrth wneud cais am orchymyn Gwarcheidiaeth a sut gellir lliniaru’r rhain.
Ymchwiliadau
Mae gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus rôl statudol o ran ymchwilio i bryderon ynghylch sut mae atwrneiod neu ddirprwyon a benodir gan y llys yn gweithredu eu pwerau mewn perthynas ag unigolyn heb alluedd meddyliol. Lle bo’n briodol, rydym yn cynnal ymchwiliadau i asesu a yw budd pennaf y rhoddwr neu’r unigolyn a warchodir (y cyfeirir ato fel P) yn cael ei ddiwallu. Daw ein goruchwyliaeth fel Gwarcheidwad Cyhoeddus i ben os bydd y rhoddwr yn marw, neu os bydd yr atwrneiaeth neu’r gorchymyn llys yn dod i ben.
Gwelsom dwf parhaus o un flwyddyn i’r llall yn y pryderon sy’n cael eu codi gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ochr yn ochr â chynnydd sylweddol mewn gweithgarwch ymchwilio. Yn 2025 i 2026, codwyd 13,183 o bryderon gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, i fyny o 11,266 yn 2024 i 2025, sy’n gynnydd o 17%. O’r 13,183 o bryderon a gafwyd, cafodd 9,538 eu cyfeirio at wasanaethau eraill (72%), o’i gymharu â 7,732 yn 2024 i 2025 a chafodd 3,645 eu derbyn i ymchwiliadau (28%) o’i gymharu â 3,823 yn 2024 i 2025. Mae’r gostyngiad bach yn adlewyrchu mwy o ffocws ar ymchwiliadau mawr, cymhleth, yn ogystal â’n proses brysbennu gryfach sy’n lleihau nifer y pryderon annilys sy’n symud ymlaen i ymchwiliadau.
Mae’r twf parhaus yn y galw am atwrneiaethau arhosol wedi cyfrannu at gynnydd cymesur yn nifer y pryderon sy’n cael eu codi gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac ymchwiliadau dilynol rydym wedi’u hagor. Mae hyn yn adlewyrchu mwy o ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o’r oruchwyliaeth a ddarperir gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Eleni, nid ydym wedi gallu ymateb i’r galw ar y cyflymder rydym wedi’i osod fel ein targed. Yn hytrach, cynyddodd yr amser a gymerwyd i gwblhau ymchwiliad i 198 diwrnod, o 138 diwrnod yn y flwyddyn flaenorol, o’i gymharu â tharged o 70 diwrnod. Nid yw’r lefel hon o berfformiad yn adlewyrchu ein huchelgais. O ganlyniad, eleni fe wnaethom sefydlu Prosiect Ymchwiliadau i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu ac i roi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn sefyllfa gryfach i ymateb i’r galw yn y dyfodol. Mae nifer o feysydd gwaith yn cael eu datblygu fel rhan o’r prosiect hwn, ac rydym yn disgwyl iddynt gael effaith ystyrlon yn ystod y flwyddyn adrodd nesaf, gan gynnwys:
-
Mwy o adnoddau i ateb y galw a ragwelir: rydym wedi buddsoddi yn ein timau ymchwiliadau ac wedi’u hehangu, sy’n cynyddu ein capasiti’n barhaus gydag ymchwilwyr sydd newydd gael eu hyfforddi, gan gryfhau ein gallu i ateb y galw
-
Ymyriadau technoleg: datblygu a phrofi offer digidol, data a deallusrwydd artiffisial i gefnogi ymchwilwyr yn eu rolau ac i wella effeithlonrwydd
-
Rhagolygon a dadansoddi: defnyddio data i wella rhagolygon a’r galw yn y dyfodol i gefnogi gwaith cynllunio, ochr yn ochr â dadansoddi achosion sylfaenol y pryderon a godwyd
-
Polisi: mireinio ein trothwyon ar gyfer datblygu pryder yn ymchwiliad, gan sicrhau ein bod yn blaenoriaethu ymyriad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer materion risg uchel, a lleihau nifer yr ymchwiliadau lle nad yw’r pryderon a godir yn cyfiawnhau camau pellach
Pan fydd pryderon yn cael eu codi a allai arwain at gais i’r Llys i ddileu enw atwrnai, ein dull gweithredu yw bod yn dryloyw. Rydym yn egluro’r pryderon i’r atwrnai yr effeithir arno ac yn nodi ei hawliau, gan gynnwys yr opsiwn i gamu i lawr o’r rôl.
Rydym wedi cynnal perfformiad cryf wrth adolygu pryderon diogelu posibl. Mae diogelu’n cyfeirio at sut rydym yn canfod, yn asesu ac yn ymateb i bryderon y gallai unigolyn heb alluedd fod mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei niweidio. Yn ystod y flwyddyn, adolygwyd 97% o bryderon o fewn 2 ddiwrnod gwaith, gan ragori ar y targed diogelu o 95%. Ymatebodd y tîm hefyd i 95% o bryderon o fewn 5 diwrnod gwaith, o’i gymharu â tharged o 95%.
At ei gilydd, fe wnaethom gau 2,982 o ymchwiliadau yn 2025 i 2026 o’i gymharu â 2,959 yn y flwyddyn flaenorol. Roedd gennym 3,224 o ymchwiliadau gweithredol ar 31 Mawrth 2026 o’i gymharu â 2,566 ar yr un adeg y llynedd. Yn ystod y flwyddyn:
-
Arweiniodd 13% o ymchwiliadau at gamau gan y Llys Gwarchod, o’i gymharu ag 11% y llynedd
-
Datryswyd 5% o ymchwiliadau gan ddefnyddio dulliau amgen o ymdrin ag achosion llys, fel gofyn i atwrneiod ddarparu cyfrif diwygiedig mewn ychydig fisoedd i ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r cod ymarfer, o’i gymharu â 5% y llynedd
-
Nid oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach mewn 82% o’r ymchwiliadau a gynhaliwyd, oherwydd eu bod wedi cael eu datrys o ganlyniad i ymchwiliad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, neu nid oedd unrhyw dystiolaeth ynghylch y pryderon a godwyd, o’i gymharu ag 84% y llynedd
Mae’r ffigur a gyhoeddwyd yn flaenorol o 3,465 o ymchwiliadau a gaewyd ar gyfer 2024 i 2025 wedi cael ei ddiwygio, ar ôl glanhau data ein system rheoli achosion a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2025. Canfu’r adolygiad hwn fod nifer o achosion hanesyddol wedi cael eu cynnwys yn y cyfanswm cau, er bod gweithgarwch ymchwilio Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi dod i ben yn ystod blynyddoedd cynharach, a bod yr achosion hynny wedyn yn symud ymlaen drwy achosion cyfreithiol neu’n cael eu trin gan asiantaethau eraill. Y ffigur wedi’i gywiro ar gyfer ymchwiliadau a gwblhawyd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn 2024 i 2025 yw 2,959. O ganlyniad, roedd y canrannau canlyniadau a gyhoeddwyd yn flaenorol yn anghywir. Mae’r ffigurau wedi’u cywiro yn cael eu defnyddio i gymharu â pherfformiad 2025 i 2026.
Gwelliannau i’r gwasanaeth
Ochr yn ochr â’r Prosiect Ymchwiliadau tymor hwy, gwnaethom weithredu nifer o welliannau ymarferol i wasanaethau sydd eisoes yn newid sut mae Ymchwiliadau’n gweithredu o ddydd i ddydd.
Ffyrdd doethach o weithio
Mwy o waith brysbennu ar gyfer achosion sydd yn yr ôl-groniad ar hyn o bryd, sydd wedi golygu ein bod wedi gallu casglu rhagor o wybodaeth sydd wedi helpu’r ymchwilwyr i gwblhau ymchwiliadau’n fwy effeithlon. Mae’r gwaith hwn bellach yn cael ei gyflwyno fel proses busnes fel arfer oherwydd ei manteision.
Gwelliannau uwchgyfeirio ac isgyfeirio
Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot yn y flwyddyn ariannol flaenorol, mae proses sy’n seiliedig ar gymhlethdod ar gyfer uwchgyfeirio ac isgyfeirio achosion wedi cael ei rhoi ar waith yn llawn. Mae hyn yn caniatáu i adnoddau gael eu defnyddio’n gymesur, ar sail cymhlethdod y pryderon a godwyd, drwy ddull mwy hyblyg o asesu achosion sy’n dod i mewn.
Newidiadau Polisi
Mae newidiadau polisi tymor byr a thymor hir wedi cael eu rhoi ar waith i reoli’r galw nawr ac yn y dyfodol ac i gefnogi penderfyniadau mwy cyson ac amserol. Mae hyn yn cynnwys gwneud y polisi ymwadiad yn gliriach ac yn haws i atwrneiod ei deall, ac yn haws i staff ei defnyddio.
Gwella mynediad at wasanaeth
Mae gwella hygyrchedd i’n gwasanaethau yn hanfodol er mwyn gwella’r gefnogaeth a roddwn yn barhaus. Lansiwyd gwasanaeth digidol newydd, Codi Pryder, yn llwyddiannus ym mis Hydref 2025 ac mae eisoes wedi cael dros 1200 o gyflwyniadau. Mae hyn wedi ei gwneud yn haws i’r cyhoedd fynegi pryderon ac mae wedi symleiddio’r broses o’r dechrau i’r diwedd. Mae’n sicrhau bod pobl sy’n codi pryder yn cael eu hysgogi i ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn iddo gael ei asesu’n briodol a, lle bo’n briodol, symud ymlaen i ymchwiliad.
Ffioedd cartrefi gofal
Yn dilyn llwyddiant cynllun peilot ffioedd cartrefi gofal yn y flwyddyn ariannol flaenorol, mae hwn bellach wedi cael ei roi ar waith yn llawn. Mae hyn yn golygu, lle nad yw ffioedd cartrefi gofal yn cael eu talu, ein bod yn rhoi gwybod i’r atwrneiod ac yn gofyn i gamau gael eu cymryd, yn hytrach na dechrau ymchwiliad llawn i gywiro’r mater. Mae hyn yn grymuso atwrneiod i ddatrys pryderon eu hunain ac yn helpu i sicrhau bod adnoddau ymchwilio’n cael eu defnyddio lle mae angen ymyriad.
Edrych tua’r dyfodol gyda’r gwasanaeth Ymchwiliadau
Gan edrych tua’r dyfodol, byddwn yn adeiladu ar y gwaith a wnaed eleni i barhau i foderneiddio ein gwasanaeth Ymchwiliadau yn unol â’n pwerau statudol, ac i gryfhau ein gallu i ymateb yn effeithiol i’r galw cynyddol. Rydym yn canolbwyntio ar wreiddio gwelliannau sy’n cefnogi penderfyniadau mwy amserol, cymesur a chyson, gan arwain at ganlyniadau gwell i’r bobl rydym yn eu gwasanaethu a chwblhau ymchwiliadau’n fwy effeithlon.
Mae’r rhain yn cynnwys buddsoddiad wedi’i dargedu mewn capasiti ymchwilio ychwanegol drwy recriwtio a hyfforddi. Maent hefyd yn cynnwys datblygu a phrofi offer digidol, data ac offer wedi’u galluogi gan ddeallusrwydd artiffisial i leihau baich gweinyddol a chefnogi crebwyll proffesiynol ymchwilwyr, a gwell defnydd o ddata i wella rhagolygon, deall sbardunau galw a chefnogi gwaith cynllunio. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn mireinio dulliau polisi a gwneud penderfyniadau i flaenoriaethu ymyriad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar faterion risg uwch, a bod pryderon yn cael eu cyfeirio drwy’r llwybrau mwyaf priodol.
Mae adolygiad llawn o daith yr ymchwiliad yn mynd rhagddo i gefnogi’r gwaith o ddarparu model gweithredu mwy effeithlon a chynaliadwy. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar egluro sut dylai gwasanaeth y dyfodol edrych er mwyn gwasanaethu ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid yn well.
Enghraifft o achos a wnaeth i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fynd ar drywydd achos llys
Codwyd pryderon gan awdurdod lleol bod yr atwrneiod yn esgeuluso anghenion gofal y rhoddwr ac yn camddefnyddio arian y rhoddwr drwy roddion sylweddol. Aseswyd nad oedd gan y rhoddwr alluedd i fynd i’r afael â’r pryderon ei hun, ynghyd â gweithrediad ei atwrneiaeth arhosol. Roedd hyn yn golygu bod gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus y pŵer i ymchwilio.
Methodd yr atwrneiod â darparu cyfrifon i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn perthynas â rheoli materion ariannol y rhoddwr. Fel rhan o’r ymchwiliad, cafodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus dystiolaeth gan y sefydliadau ariannol perthnasol. Canfu hyn fod y rhoddwr mewn dyled ac, ar sail tebygolrwydd, cadarnhawyd pryderon am gamddefnyddio ariannol.
Awgrymodd tystiolaeth bellach, ar sail tebygolrwydd, fod yr atwrneiod yn esgeuluso anghenion gofal y rhoddwr. O ganlyniad, roedd y rhoddwr wedi dioddef anafiadau sylweddol. Oherwydd difrifoldeb yr anafiadau hyn, roedd yr heddlu hefyd yn gysylltiedig.
Yn dilyn yr ymchwiliad, gwnaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gais i’r Llys Gwarchod i ddirymu’r atwrneiaethau arhosol a phenodi dirprwy panel i reoli materion y rhoddwr yn y dyfodol. Cytunodd y Llys â’r safbwynt hwn a diddymwyd y ddwy atwrneiaeth arhosol a phenodwyd dirprwy.
Enghraifft o achos lle nad oedd angen cymryd camau pellach
Codwyd pryderon i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar ôl i gartref gofal gyflwyno gorchymyn troi allan i’r rhoddwr oherwydd ffioedd gofal heb eu talu a methiant i ddarparu gwybodaeth ariannol.
Cynhaliwyd ymchwiliad i waith rheoli cyllid y rhoddwr. Roedd hyn yn cynnwys adolygiad o’i gyfrifon ac unrhyw asedau sy’n eiddo iddo, a’i resymau dros fethu â darparu’r wybodaeth angenrheidiol. Ni chanfu’r ymchwiliad unrhyw dystiolaeth o gamreoli ariannol na chamddefnyddio grym gan yr atwrneiod. Canfu fod yr atwrneiod mewn trafodaethau rhwng ei gilydd, ac yn ystyried a ddylid gwerthu eiddo’r rhoddwr i dalu’r ffioedd sy’n ddyledus, neu wneud taliad gohiriedig yn erbyn eiddo’r rhoddwr. Roedd y penderfyniad yn eu llethu ac nid oeddent wedi gallu dod i gasgliad mor gyflym ag yr oeddent wedi’i fwriadu.
Gyda chefnogaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r awdurdod lleol, cydnabu’r atwrneiod bwysigrwydd blaenoriaethu’r mater hwn, a chytunwyd gyda’i gilydd i ddewis taliad gohiriedig yn erbyn eiddo’r rhoddwr. Rhannodd yr atwrneiod yr wybodaeth ariannol angenrheidiol â’r awdurdod lleol yn dilyn y penderfyniad. Roedd hyn yn golygu bod modd clirio’r ddyled ffioedd gofal, dileu’r gorchymyn troi allan, a thalu ffioedd y rhoddwr yn barhaus.
Ar y sail hon, ni chymerodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus unrhyw gamau pellach, gan gau’r ymchwiliad gyda chanllawiau wedi’u darparu i’r atwrneiod.
Ymweliadau
Rydym yn gweithio gyda’n hymwelwyr o’r Llys Gwarchod, sy’n ymweld â phobl a warchodir (sydd â gorchmynion dirprwyaeth gweithredol ar waith), rhoddwyr, atwrneiod a dirprwyon. Lle bo angen, mae ymweliadau’n cael eu cynnal gan ymwelydd meddygol arbenigol i ddarparu arbenigedd ychwanegol.
Mae ymweliadau yn ein galluogi i wneud y canlynol:
-
sicrhau bod pobl yn deall ac yn cyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol
-
sicrhau bod y rhai sydd angen cefnogaeth yn ei chael
-
gofyn am wybodaeth fel rhan o ymchwiliadau (e.e. asesiad galluedd)
Rhwng 2025 a 2026, comisiynodd ein tîm Ymweliadau 10,647 o ymweliadau o’i gymharu â 12,388 o ymweliadau yn 2024 i 2025. Ar ben hynny, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd yn comisiynu ymweliadau ar ran y Llys Gwarchod, gan gynnwys ymweliadau a wneir o dan adran 49 o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol ac asesiadau’r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid. Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom gynnal un ymgyrch recriwtio ymwelwyr y Llys Gwarchod, gan arwain at benodi 30 o ymwelwyr cyffredinol newydd ac ailbenodi 11 o ymwelwyr cyffredinol presennol.
Yn ystod 2025 i 2026 rydym wedi:
-
dyrannu 95% o gomisiynau ymweliadau safonol o fewn 5 diwrnod gwaith
-
dyrannu 98.6% o gomisiynau ymweliadau brys o fewn 2 ddiwrnod gwaith
-
prosesu 99.7% o’r holl adroddiadau ymweliadau cyflawn o fewn 5 diwrnod gwaith
Cyfreithiol
Mae ein tîm Cyfreithiol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cyfreithiol arbenigol i gefnogi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni ei swyddogaethau statudol. Mae’r tîm yn rheoli nifer fawr o achosion ymgyfreitha a gychwynnir yn y Llys Gwarchod, yn ogystal ag unrhyw ymgyfreitha a ddygir yn erbyn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Ochr yn ochr â hyn, maent yn darparu cyngor ac arweiniad cyfreithiol i gefnogi gweithrediadau a blaenoriaethau strategol y sefydliad o ddydd i ddydd.
Drwy gydol y flwyddyn, bu ein tîm Cyfreithiol yn cynrychioli’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn amrywiaeth o achosion ymgyfreitha. Roedd y rhan fwyaf o achosion mewn perthynas â gwneud cais i’r Llys Gwarchod ddiswyddo atwrneiod neu ddirprwyon nad oeddent yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae’r tîm yn rheoli achosion safonol (unigolion, materion unigryw) ac achosion lluosog (sawl achos sy’n ymwneud â’r un atwrnai neu ddirprwy). Mae’r llwyth achosion yn cynnwys achosion safonol yn bennaf, sy’n symud ymlaen i’r cam gwneud cais i’r Llys ar ôl casglu’r lefel ofynnol o dystiolaeth.
Yn 2025 i 2026, fe wnaethom ffeilio 431 o geisiadau goruchwylio ac ymchwilio gyda’r Llys, o’i gymharu â 509 yn 2024 i 2025. Mae’r gwahaniaeth hwn yn adlewyrchu cyfuniad o sicrhau mai dim ond yr achosion iawn y gwnaethom eu ffeilio ar yr adeg iawn, a newid o ran sut rydym yn rheoli ceisiadau sawl achos. Mewn blynyddoedd blaenorol, rydym fel arfer wedi ffeilio’r set gyfan o geisiadau sawl achos ar yr un pryd. Fodd bynnag, gan fod y ceisiadau hyn yn cael eu siapio gan gyfarwyddyd y Llys a chyngor gan gwnsler allanol, rydym bellach yn defnyddio dull gwahanol o ffeilio. Fel arfer, byddwn yn ffeilio nifer fach o achosion prawf sy’n ymwneud â’r un atwrnai neu ddirprwy yn gyntaf, gyda gweddill y ceisiadau’n cael eu ffeilio’n ddiweddarach ar ôl i’r achosion prawf hynny gael eu clywed gan y Llys.
Rydym yn parhau i fod â tharged o 35 diwrnod gwaith ar gyfartaledd i gychwyn ceisiadau Llys. Mesurir hyn o’r adeg pan gaiff achos ei dderbyn yn ffurfiol gan y tîm fel un sy’n galw am achos Llys, hyd at yr adeg y caiff y cais ei ffeilio yn y Llys. Eleni, fe wnaethom gyflwyno achos Llys mewn 38 diwrnod gwaith ar gyfartaledd, i lawr o 46 yn 2024 i 2025. Mae’r gostyngiad hwn mewn amser yn adlewyrchu gwell effeithlonrwydd tîm a’r cynllun ymgysylltu cyn gweithredu a amlinellir isod.
Mae achosion lluosog, er eu bod yn cynrychioli cyfran fach o’r llwyth achosion cyffredinol, yn cael effaith anghymesur ar yr amser cyfartalog cyffredinol a gymerir yn y DPA. Yn 2025 i 2026, ac eithrio achosion lluosog, fe wnaethom gychwyn achos Llys mewn 36 diwrnod gwaith ar gyfartaledd. Felly, rydym yn monitro hyn i asesu a ddylai’r DPA adlewyrchu hyn yn ffurfiol yn y dyfodol.
Eleni, fe wnaethom hefyd ddechrau adrodd yn erbyn mesur i benderfynu a yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau priodol wrth ffeilio ceisiadau yn y Llys Gwarchod. Y targed mewn 98% o achosion yw nad yw cais Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei wrthod ac nad yw costau’n cael eu dyfarnu yn erbyn y Swyddfa. Yn 2025 i 2026, gwnaethom gyflawni 99% o ran y targed hwn.
Gwnaethom hefyd ymgyfreitha’n rheolaidd i egluro dilysrwydd cyfreithiol rhai mathau o atwrneiaethau arhosol y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eu cael. Roedd y ceisiadau hyn yn gofyn am ddyfarniadau barnwrol ynghylch a oedd cyfarwyddiadau neu ddewisiadau penodol yn yr atwrneiaethau arhosol hyn yn cydymffurfio â’r gyfraith. Roedd hyn yn golygu bod modd dileu elfennau anghyfreithlon a sicrhau bod buddiannau a bwriadau pennaf y rhoddwr yn cael eu diogelu. Yn 2025 i 2026, cyflwynodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 965 o geisiadau i’r Llys i ddatrys yr atwrneiaethau arhosol hyn, o’i gymharu â 1,220 yn y flwyddyn flaenorol. Mae nifer y ceisiadau a wneir yn dibynnu ar nifer yr atgyfeiriadau at y tîm Cyfreithiol.
Gwelliannau i’r gwasanaeth
O ystyried y twf parhaus mewn atwrneiaethau arhosol a dirprwyaethau, y nifer gynyddol o bryderon sy’n cael eu codi gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer ymchwiliad, a’r galw dilynol ar wasanaethau cyfreithiol, rydym wedi bod yn gweithio i wneud newidiadau cadarnhaol i’n harferion er mwyn i ni allu darparu’r gwerth gorau posibl i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’n cwsmeriaid.
Ymgysylltu cyn-gweithredu
Rydym wedi cyflwyno menter ymgysylltu cyn-gweithredu newydd. Mewn achosion priodol, ar ôl i achos gael ei dderbyn gan y tîm Cyfreithiol, byddwn yn cysylltu â’r parti perthnasol i nodi pryderon Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn glir a’r canlyniad rydym yn ei geisio. Y nod yw datrys materion drwy gydsyniad, naill ai drwy gytuno ar orchymyn cydsynio a baratowyd ymlaen llaw (gorchymyn drafft sy’n nodi’r camau y mae’r partïon wedi cytuno i’w cymryd, y gellir eu cyflwyno’n uniongyrchol i’r Llys i’w cymeradwyo) neu drwy drafodaeth gynnar ar sut i ddatrys materion sy’n weddill, heb yr angen am sawl gwrandawiad neu ymgyfreitha estynedig. Yn 2025 i 2026, fe wnaethom ffeilio 161 o geisiadau cyn-gweithredu gyda’r Llys. Yn ogystal, nid oedd angen ceisiadau mwyach mewn 33 o achosion, gan gynnwys lle’r oedd yr atwrnai wedi ymwrthod (camu i lawr yn ffurfiol fel atwrnai) cyn i’r cais gael ei wneud.
Mae cael y cyswllt cynhwysfawr hwn ar y dechrau wedi arwain at lefel uchel o ymgysylltu cadarnhaol â’r fenter. Yn hytrach na materion sy’n cymryd 12 i 18 mis i symud ymlaen drwy system y Llysoedd, mae achosion lle rydym wedi dod i gytundeb drwy’r cam cyn-gweithredu bellach yn cael eu datrys yn llawer cyflymach fel arfer. Mae hyn yn golygu llai o wrandawiadau Llys neu ddim gwrandawiadau o gwbl ac, yn bwysicaf oll, gwell canlyniad i P. Er mwyn cymharu, yr amser cyfartalog ar gyfer achos sydd wedi’i gymeradwyo gan ein gwasanaethau Ymchwilio a Goruchwylio, a derbyn y Gorchymyn Llys terfynol sy’n cadarnhau’r penderfyniad barnwrol, yw 72 diwrnod gwaith ar gyfer ceisiadau cyn-gweithredu a ganiatawyd, o’i gymharu â 161 diwrnod gwaith ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn rhai cyn-gweithredu.
Cryfhau prosesau digidol
Yn ystod 2025 i 2026, fe wnaethom hefyd gryfhau ein gallu digidol drwy ehangu’r defnydd o wasanaethau electronig yn ein llif gwaith. Mae hyn wedi golygu bod modd cyflwyno mwy o ddogfennau’r Llys Gwarchod yn ddiogel drwy e-bost o’r archeb gychwynnol ymlaen, wedi’u hategu gan dempledi cliriach a phrosesau cydsynio cynnar sy’n lleihau oedi ac yn gwella dibynadwyedd. Gwnaethom hefyd gynyddu’r defnydd o’r Ganolfan Uwchlwytho Dogfennau, gyda holl dimau rhanbarthol y Llys Gwarchod bellach yn rhan o’r broses. Mae hyn wedi gwella cyflymder a chysondeb cyfnewid gwybodaeth gyda gweithwyr proffesiynol a phartïon. Ochr yn ochr â hyn, fe wnaethom welliannau i’r System Rheoli Achosion, gan gynnwys tasgau safonol, diweddaru geiriad cofnodi amser a sefydlogi swyddogaethau, gan wreiddio ffyrdd digidol o weithio ymhellach a chefnogi dulliau hwyluso’r achos ymhellach.
Edrych tua’r dyfodol gyda’r Gwasanaethau Cyfreithiol
Yn y flwyddyn i ddod, mae’r tîm Cyfreithiol yn canolbwyntio ar gryfhau ymgysylltiad cynnar, gwella eglurder i gwsmeriaid, a hybu effeithlonrwydd gweithredol. Mae’r prif flaenoriaethau’n cynnwys:
-
mireinio’r broses cyn-gweithredu i annog cyswllt cynharach, strwythuredig sy’n lleihau ceisiadau Llys y gellir eu hosgoi
-
adolygu gohebiaeth sy’n delio â chwsmeriaid i sicrhau cysondeb ac esboniadau cliriach
-
gwella’r system rheoli achosion i gofnodi dewisiadau cwsmeriaid, dulliau gwasanaeth a cherrig milltir cyfreithiol yn well, ar gyfer gwell sicrwydd ac archwilio
Bydd y tîm yn parhau i archwilio defnydd diogel, wedi’i lywodraethu’n dda, o ddeallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio i gefnogi ein cyfreithwyr, yn enwedig o ran adolygu dogfennau, sicrhau ansawdd templedi, ac effeithlonrwydd llif gwaith, yn unol â fframweithiau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Swyddfa’r Cabinet. Bydd deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo a llywio, nid disodli, penderfyniadau proffesiynol, gan helpu i wella profiad cwsmeriaid, cryfhau ansawdd a goruchwyliaeth data, a sicrhau bod adnoddau cyfreithiol yn cael eu defnyddio’n effeithiol ar draws yr holl waith.
Sicrhau Gwybodaeth
Mae ein tîm Sicrhau Gwybodaeth yn gweithio’n agos gyda’n tîm Cyfreithiol yn yr un gyfarwyddiaeth i sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydymffurfio â gofynion diogelu data statudol. Mae’r tîm Sicrhau Gwybodaeth yn gweithio gydag Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a chydweithwyr Diogelu a Datgelu Data’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i reoli risg, yn dilyn prosesau cymeradwy ac mewn cyfarfodydd traws-sefydliadol.
Mae’r tîm yn delio â phob cais Rhyddid Gwybodaeth ar ran y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, fe wnaethom ymateb i 80 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth, o’i gymharu â 68 yn ystod 2024 i 2025, yn ogystal â 5 adolygiad Rhyddid Gwybodaeth. Mae ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn gofyn am ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith, ac mae gennym darged o 90% ar gyfer cydymffurfio. Eleni, rydym wedi ymateb i 97.5% o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth o fewn 20 diwrnod gwaith, o’i gymharu â 96% yn ystod 2024 i 2025. Ar ben hynny, mae’r tîm yn delio â phob Cais Gwrthrych am Wybodaeth ar ran y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, fe wnaethom ymateb i 146 o’r rhain, o’i gymharu â 119 yn ystod 2024 i 2025, yn ogystal â 23 adolygiad Cais Gwrthrych am Wybodaeth. Mae ceisiadau Cais Gwrthrych am Wybodaeth yn gofyn am ymateb o fewn 1 calendr gwaith, ac mae gennym darged o 90% ar gyfer cydymffurfio. Eleni, ein cyfradd ymateb yn erbyn y cyfnod statudol hwn oedd 98.6%, o’i gymharu â 97% yn 2024 i 2025.
Mae’r tîm hefyd yn delio â cheisiadau am wybodaeth anstatudol y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eu cael. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, geisiadau am wybodaeth a wneir gan yr heddlu, awdurdodau lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG, ASau a’u swyddfeydd, a’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, fe wnaethom reoli 3,592 o geisiadau busnes fel arfer o’i gymharu â 3,066 yn ystod 2024 i 2025.
Mae rheoli achosion o dorri rheolau gwybodaeth yn parhau i fod yn swyddogaeth bwysig i’r tîm, gan ddefnyddio proses well ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn prosesu llawer iawn o ddata personol, gyda’r potensial i’r data hwnnw gael ei anfon at y derbynnydd anghywir mewn camgymeriad. Mae rhywfaint o’r data personol hwn yn sensitif (gwybodaeth iechyd ac ariannol) ac yn cael mwy o effaith os caiff ei ddatgelu’n amhriodol. Roedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyfrifol am 2,476 achos o golli gwybodaeth a thorri diogelwch gwybodaeth, o’i gymharu â 2024 i 2025, lle’r oedd y nifer yn 2,281. Nid oedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’r farn bod yr un achos o golli gwybodaeth yn ddigon difrifol i gyfiawnhau ei hysbysu i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Cefnogir Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i asesu achosion o dorri rheolau yn ymwneud â data gan dîm Diogelu Data canolog y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n gwerthuso’r trothwy’n annibynnol yn erbyn canllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Yn ystod 2025 i 2026, rydym wedi buddsoddi mewn hyfforddiant i staff yn y tîm Sicrhau Gwybodaeth, i ddarparu cymwysterau ardystiedig proffesiynol iddynt mewn GDPR a’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Gwelliannau i’r gwasanaeth
Cefnogi trawsnewid
Mae’r tîm wedi parhau i gefnogi prosiectau trawsnewid ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan gynnwys Moderneiddio Atwrneiaethau Arhosol a phrofi ac archwilio deallusrwydd artiffisial, drwy sicrhau bod y trefniadau llywodraethiant gwybodaeth priodol ar waith i sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â GDPR y DU.
Cryfhau sicrwydd a rheoli cofnodion
Mae’r tîm wedi cyflwyno rhaglen gynhwysfawr o archwiliadau cofnodion ar draws y sefydliad i roi sicrwydd i Berchnogion Asedau Gwybodaeth bod cofnodion yn cael eu rheoli’n briodol.
Edrych tua’r dyfodol gyda Sicrhau Gwybodaeth
Bydd y tîm Sicrhau Gwybodaeth yn parhau i weithio gydag adrannau eraill y llywodraeth ar gytundebau rhannu data perthnasol, gan chwarae rhan ganolog hefyd ym Mhrosiect Gwella Data Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gryfhau’r gwaith o reoli data sefydliadol. Ochr yn ochr â hyn, bydd y tîm yn cynnal cyfrifoldebau rheoli cofnodion craidd drwy archwiliadau parhaus sy’n rhoi sicrwydd i Berchnogion Asedau Gwybodaeth, a’r Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth, bod cofnodion ar draws y busnes yn cael eu rheoli’n briodol.
Cyswllt cwsmeriaid
Yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rydym wedi ymrwymo o hyd i ddarparu gwasanaeth sy’n gefnogol, yn effeithlon ac yn gadarnhaol i’n holl gwsmeriaid. Yn ystod y flwyddyn, deliodd ein Canolfan Gyswllt â lefelau cyson ac eithriadol o uchel o alw a pharhaodd i ddarparu gwasanaeth cryf i’n cwsmeriaid er gwaethaf y pwysau hwn. Fel y prif gyswllt, roedd ein cynghorwyr ffôn yn cefnogi cwsmeriaid gydag amrywiaeth eang o ymholiadau, o help i lenwi dogfennau i ganllawiau ar ddefnyddio ein gwasanaethau, gan ddangos proffesiynoldeb, gwydnwch a ffocws clir ar ofal cwsmeriaid yn gyson. Er bod targedau perfformiad yn heriol yng nghyd-destun y galw, roedd y gwasanaeth a ddarparwyd yn welliant sylweddol ac yn adlewyrchu ymroddiad a gallu staff ein Canolfan Gyswllt.
Rhwng 2025 a 2026, fe wnaethom ddarparu gwasanaeth cyswllt cwsmeriaid cryf a chadarn er gwaethaf galw parhaus, eithriadol o uchel ar draws pob sianel. Roedd cyfeirio pob galwad drwy ein hunig rif 0300 yn uniongyrchol at y tîm goruchwylio yn gwella cyflymder yr ymateb yn sylweddol, ac yn helpu cwsmeriaid i gyrraedd y gwasanaeth cywir y tro cyntaf.
Gwelliannau i’r gwasanaeth
Fe wnaethom ehangu ein dewisiadau cyswllt digidol a hybrid i roi mwy o hyblygrwydd i gwsmeriaid. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio MS Teams Voice i wella ymatebolrwydd dros y ffôn, defnydd ehangach o lwyfan rhannu dogfennau diogel i gyfnewid gwybodaeth fawr neu sensitif, a chyflwyno’r Ganolfan Uwchlwytho Dogfennau ymhellach ar gyfer bwndeli llys. Ar gyfer cwsmeriaid y mae’n well ganddynt gyswllt nad yw’n ddigidol neu y mae angen cyswllt o’r fath arnynt, fe wnaethom gynyddu nifer y gwasanaethau Xerox i anfon llythyrau a gohebiaeth arall drwy’r post yn fwy prydlon. Gwnaethom hefyd barhau i ddarparu cyfathrebiadau yn Gymraeg a fformatau print bras i gefnogi hygyrchedd.
Ochr yn ochr â’r gwelliannau hyn, fe wnaethom gyflwyno’r gwasanaeth newydd digidol, Codi Pryder, sy’n cyd-fynd â phroses safonol sy’n darparu profiad cliriach a mwy cyson i gwsmeriaid, ac sy’n sicrhau ein bod yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen ymlaen llaw. Yn ein gwasanaethau Ymchwilio, fe wnaethom ddechrau treialu trawsgrifio galwadau sy’n cael ei bweru gan ddeallusrwydd artiffisial i gefnogi cywirdeb, lleihau ymyriad â llaw a gwella ansawdd ein gwasanaeth. Roedd diweddariadau i systemau rheoli achosion, gan gynnwys cofnodi hoff ddull cysylltu cwsmeriaid, yn cefnogi ymateb mwy personol ymhellach.
Yn gyffredinol, roedd y datblygiadau hyn yn gwella effeithlonrwydd, yn lleihau oedi ac yn cryfhau profiad y cwsmer ar draws ein sianeli ffôn, e-bost a phost.
Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
Rydym yn ymgysylltu’n rheolaidd â rhanddeiliaid, gan gynnwys sefydliadau a phartneriaid sydd â diddordeb yn y ffordd mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn darparu ei gwasanaethau, ac yn ehangach â grwpiau lle mae mwy o ymwybyddiaeth o weithgarwch Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn werthfawr i’n cwsmeriaid. Rydym yn defnyddio gwybodaeth gan randdeiliaid i ddarparu cyngor strategol ac i helpu i lunio polisi ac arferion gweithredol. Mae hyn yn sicrhau bod ein gwasanaethau’n parhau i fod yn ddibynadwy, yn seiliedig ar wybodaeth ac yn ymateb i anghenion y cyhoedd.
Yn ystod y flwyddyn, ehangodd ein gweithgarwch ymgysylltu strategol yn sylweddol, gan gynyddu nifer y rhanddeiliaid y gwnaethom ymgysylltu â nhw o 62 yn 2024 i 2025, i 86 yn 2025 i 2026. Roedd hyn yn hanfodol i gryfhau gwelededd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Roedd hefyd yn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael rhybudd amserol ymlaen llaw o negeseuon a newidiadau sefydliadol a allai effeithio arnynt ar draws y sectorau cyfreithiol, cyllid, elusennol, iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal ag adrannau eraill y llywodraeth ac awdurdodau lleol. Roeddem wedi cynnal cylch cyfarfodydd rheolaidd gyda’r prif randdeiliaid ac wedi datblygu cysylltiadau newydd mewn meysydd lle roeddem wedi canfod bylchau, gan gynnwys y sector elusennol. Gwnaethom hefyd gryfhau ein hymgysylltiad â’r proffesiwn cyfreithiol drwy gydweithio’n agosach â Chymdeithas y Cyfreithwyr a chynnal ein perthynas â chydweithwyr sy’n darparu gwasanaethau tebyg yn yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon. Rydym wedi blaenoriaethu sicrhau bod deialog gyson gyda’n rhanddeiliaid a llwybrau cliriach ar gyfer adborth ar ein gwasanaethau a’n blaenoriaethau.
Er mwyn gwella ansawdd a hygrededd ein hymgysylltiad, fe wnaethom gynnwys uwch arweinwyr ac arbenigwyr pwnc o bob rhan o’r sefydliad i friffio rhanddeiliaid a rhoi cyflwyniadau. Roedd hyn yn sicrhau bod rhanddeiliaid yn clywed yn uniongyrchol gan y rhai sy’n gyfrifol am gyflawni gweithredol a datblygu polisi ac yn dangos gwerth defnyddio arbenigedd o bob rhan o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Fe wnaethom ddarparu 33 o weminarau, gan gyrraedd 3,308 o bobl, a oedd yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys pwysigrwydd atwrneiaethau arhosol, deall dirprwyaethau, a gwelliannau arfaethedig i wasanaethau. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys lansio cyfres newydd o weminarau ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol, gyda 1,465 o weithwyr proffesiynol yn bresennol yn y cyntaf. Fe wnaethom hefyd gynnal ein digwyddiad cyntaf sy’n canolbwyntio ar ofalwyr yn ystod Wythnos y Gofalwyr, dan arweiniad y Gwarcheidwad Cyhoeddus, a gyrhaeddodd 455 o bobl.
Ar gais rhanddeiliaid, aethom i 7 cynhadledd. Drwy gyflwyno’r prif areithiau, cymryd rhan mewn digwyddiadau panel a chyfrannu at drafodaethau thematig, fe wnaethom godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o’n prif flaenoriaethau. Roedd y rhain yn cynnwys ffioedd, lansiad digidol ‘Rhoi Gwybod am Bryder’, a phroses recriwtio dirprwyon panel wedi’i hadnewyddu. Fe wnaethom hefyd gynnal 53 o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid o bob rhan o’r sectorau cyfreithiol, cyllid, elusennol ac iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys rheoleiddwyr, cyrff aelodaeth a rhwydweithiau proffesiynol. Mae gwerthuso ein gweithgarwch allgymorth yn dangos bod y digwyddiadau hyn yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth y rhai sy’n bresennol. Mae gwella dealltwriaeth rhanddeiliaid yn bwysig oherwydd mae’n galluogi pobl a sefydliadau i gael mynediad at wasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’u defnyddio’n fwy effeithiol, gan gefnogi profiad gwell i gwsmeriaid a meithrin ymddiriedaeth a hyder yn ein gwaith. Byddwn yn parhau i asesu effeithiolrwydd ein gweithgarwch ymgysylltu i sicrhau ei fod yn darparu gwerth ac yn cryfhau’r berthynas â rhanddeiliaid ar draws pob sector.
Cwynion
Mae cwynion cwsmeriaid i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu rheoli drwy broses strwythuredig, ddwy haen. Ar haen 1, caiff cwynion eu hadolygu a chael ymateb gan y maes busnes sy’n gyfrifol am y mater. Os yw cwsmer yn anfodlon â’r canlyniad, gall ofyn am uwchgyfeirio’r gŵyn i haen 2. Yn haen 2, mae’r gŵyn a’r ffordd y mae’n cael ei thrin yn cael eu hadolygu gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus neu uwch arweinydd sy’n gweithredu ar ei ran. Mae’r tîm haen 2 hefyd yn goruchwylio’r holl ohebiaeth a dderbynnir gan aelodau Seneddol. Cawsom gyfanswm o 4,837 o gwynion eleni, cynnydd o’r 3,926 a gafwyd yn 2024 i 2025. Fe wnaethom hefyd ddelio â 143 darn o ohebiaeth seneddol, cynnydd o’r 87 a gafwyd yn 2024 i 2025.
Os bydd cwsmer yn dal yn anfodlon ar ôl cael ein hymateb haen 2, gall ofyn i’w AS gyfeirio’r mater at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd am adolygiad annibynnol. Fel rhan o’i asesiad, gall yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ofyn am wybodaeth ychwanegol gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn penderfynu a oes angen ymchwiliad ffurfiol. Ni dderbyniwyd unrhyw achosion i’w hymchwilio gan yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd yn ystod 2025 i 2026.
Roedd ein hamser ymateb ar gyfer cwynion yn dal yn gryf drwy gydol y flwyddyn. Er mai safon y llywodraeth yw ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith, rydym wedi gosod targed llawer mwy heriol i ni ein hunain o ymateb i 90% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith. Llwyddwyd i gyrraedd y safon uwch hon, gan ymateb i 90% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith.
Gwelliannau i’r gwasanaeth
Adroddiadau ar gwynion
Rydym yn darparu adroddiadau rheolaidd ar gwynion i uwch reolwyr, gan rannu gwybodaeth hanfodol ar draws y sefydliad i gefnogi dysgu a gwelliannau i wasanaethau. Mae’r adroddiadau hyn yn cryfhau’r gwaith o oruchwylio themâu a thueddiadau cwynion, yn ein helpu i gymryd camau amserol i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol, ac yn cefnogi’r gwaith o fonitro cynnydd yn erbyn gwelliannau y cytunwyd arnynt. Mae dadansoddi a rhannu data cwynion yn helpu i sicrhau ansawdd gwasanaeth cyson ac yn atgyfnerthu dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn unol ag egwyddorion Safonau Cwynion yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.
Archwiliad cwynion
Yn y gwanwyn, cynhaliodd Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth archwiliad o’n prosesau a’n swyddogaethau cwyno. Roedd eu canfyddiadau’n cynnwys nifer o argymhellion a gynlluniwyd i wella llywodraethiant, cryfhau cysondeb, a gwella ansawdd gwasanaethau ymhellach. Rydym wedi dechrau rhoi’r argymhellion hyn ar waith ac wedi sefydlu ‘Gweithgor Archwilio Cwynion’ pwrpasol, sy’n dod ag arweinwyr cwynion o bob rhan o’r sefydliad at ei gilydd. Mae’r grŵp hwn yn darparu goruchwyliaeth barhaus ac yn helpu i sicrhau bod cynnydd o ran yr holl gamau gweithredu y cytunwyd arnynt yn cael eu monitro’n effeithiol. Bydd gwaith i gwblhau’r camau gweithredu a argymhellir yn parhau rhwng 2026 a 2027.
Edrych tua’r dyfodol ar gyfer Cwynion
Canoli ein swyddogaeth Cwynion
Yn dilyn adolygiad o’r ffordd yr ymdrinnir â chwynion ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, byddwn yn newid i swyddogaeth gwynion fwy canolog, gydag un arweinyddiaeth a phrosesau cyson a safonol. Bydd y model hwn yn cryfhau cysondeb a gwrthrychedd, yn gwella gwydnwch ar draws timau, ac yn cydnabod bod delio â chwynion yn faes arbenigol sy’n gofyn am allu penodol. Bydd hefyd yn ein galluogi i wneud gwell defnydd o fewnwelediad cwynion i gefnogi gwelliant parhaus ar gyfer ein cwsmeriaid a’r sefydliad ehangach.
Enghraifft o gŵyn
Yn ystod y flwyddyn, cawsom gŵyn am gyfathrebu ynghylch Atwrneiaeth Arhosol.
Pan sganiwyd y cais i ddechrau, roedd 2 dudalen ofynnol ar goll. Anfonwyd llythyr yn gofyn am y tudalennau hynny gan roi dyddiad cau ar gyfer dychwelyd. Er bod y tudalennau coll wedi’u canfod yn ddiweddarach a’u hychwanegu at y cofnod yn fuan wedyn, ni chafodd y diweddariad hwn ei gyfleu i’r cwsmer.
O ganlyniad, roedd y cwsmer yn credu bod angen gweithredu a chysylltodd â ni i ofyn am eglurhad. Er bod yr ymholiadau hyn wedi cael eu derbyn a’u hadolygu, ni chyhoeddwyd unrhyw ohebiaeth ddilynol i gadarnhau nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach. Yn y pen draw, cofrestrwyd yr atwrneiaeth arhosol o fewn yr amserlenni cofrestru a gyhoeddwyd, ac ni fu unrhyw oedi gyda’r cofrestriad ei hun. Fodd bynnag, roeddem yn cydnabod y gallai’r diffyg cyfathrebu rhagweithiol fod wedi achosi dryswch a rhwystredigaeth i’r cwsmer. Ymddiheurwyd am y problemau cyfathrebu a chynigiwyd taliad cysurol i gydnabod yr anghyfleustra a achoswyd.
Roedd y gŵyn hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd diweddariadau amserol pan fydd ymholiadau’n cael eu datrys yn fewnol. Mewn ymateb, fe wnaethom ailadrodd canllawiau i weithwyr achos ar gadarnhau canlyniadau gyda chwsmeriaid er mwyn lleihau ansicrwydd a gwaith dilynol diangen.
Derbyniodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
| 4,837 o gwynion yn 2025 i 2026 o’i gymharu â 3,926 o gwynion yn 2024 i 2025. |
|
90% Cyfran y cwynion a gafodd ymateb cyn pen 10 diwrnod gwaith Targed: 90% |
Y 2 faes uchaf o gwynion oedd:
|
522 Dogfen ar goll |
|
484 Oedi wrth brosesu |
Roedd y 3 prif gŵyn am wasanaethau atwrneiaeth yn ymwneud â:
-
Dogfennau ar goll
-
Oedi wrth brosesu
-
Penderfyniadau a wnaed gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar geisiadau am atwrneiaeth
Roedd y 3 prif gŵyn am wasanaethau dirprwyaeth yn ymwneud â:
-
Y dirprwy
-
Cyswllt â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
-
Cynnwys llythyrau
Ein Pobl
Mae ein cydweithwyr yn ganolog i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, cefnogi ein cwsmeriaid, a pharatoi’r sefydliad ar gyfer y dyfodol.
Ein Haddewid i Bobl
Bum mlynedd yn ôl, fe wnaethom greu ein Haddewid i Bobl i wneud Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lle gwych i weithio ynddi, lle mae ein pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u bod yn gallu ffynnu. Mae’r addewid yn seiliedig ar 5 elfen graidd: perthyn, teimlo’n dda, datblygu ein hunain, arweinwyr gwych ar bob lefel a bod yn barod at y dyfodol. Bob blwyddyn, rydym yn cynhyrchu Cynllun Pobl sy’n nodi’r camau ymarferol y byddwn yn eu cymryd i gyflawni ein Haddewid i Bobl.
Mae ein Cynllun Pobl blynyddol yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r Addewid i Bobl ac mae’n cael ei siapio gan adborth staff o’r Arolwg Pobl blynyddol a Sgyrsiau Tîm Dweud Eich Dweud.
Cynllun Pobl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Roedd cynllun 2025 i 2026 yn canolbwyntio ar 3 blaenoriaeth: dysgu a datblygu, arweinyddiaeth a rheoli newid a mynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.
Drwy gydol y flwyddyn, gwnaethom gyflawni amrywiaeth o fentrau i gefnogi’r blaenoriaethau hyn fel y nodir yn yr adrannau isod.
Dysgu a datblygu
Mae cefnogi dysgu a datblygu ein staff yn ganolog i thema Addewid i Bobl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, sef ‘datblygu ein hunain’. Dros y cyfnod adrodd, fe wnaethom barhau i ddatblygu ein cynnig Dysgu a Datblygu i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ymatebol, yn hygyrch ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r sefydliad.
Academi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a dysgu digidol
Datblygiad pwysig eleni oedd trosglwyddo Academi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i lwyfan newydd, gan gefnogi dull mwy hunan-gyfeiriedig o ddysgu. Ers ei lansio ym mis Mehefin 2025, mae’r Academi wedi cofnodi:
- 90,457 o ymweliadau safle
- 3,016 o ddefnyddwyr unigryw
Mae’r llwyfan newydd yn darparu mynediad symlach at gyfleoedd dysgu, llwybrau hyfforddi a datblygu gorfodol, gan alluogi cydweithwyr i gymryd rhan mewn dysgu pryd a ble maen nhw ei angen.
Cydweithio trawslywodraethol
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi chwarae rhan annatod yn y broses o ddylunio, lansio a chynnal a chadw parhaus Hwb Arweinyddiaeth a Rheolaeth Llinell Grŵp Trawsnewid Gwasanaeth (STG) y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’r llwyfan trawslywodraethol hwn yn ymestyn mynediad at ddatblygu arweinyddiaeth ar draws 9 cyfarwyddiaeth ac asiantaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan ddod â’r arferion gorau ynghyd i gefnogi arweinwyr i lywio trawsnewid.
Gyda’i gilydd, mae’r Academi a’r Hwb STG yn ffurfio amgylchedd dysgu hyblyg, sydd wedi’i alluogi’n ddigidol, sy’n grymuso cydweithwyr i gymryd mwy o berchnogaeth dros eu datblygiad.
Ein cynnig cynhwysfawr
Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom gyflwyno 225 o ddigwyddiadau dysgu, hyfforddi 2,237 o gynrychiolwyr, ac ymsefydlu 278 o ddechreuwyr newydd. Arhosodd ansawdd ein darpariaeth yn gyson uchel, gyda 97.2% o adborth dysgwyr yn graddio’r ddarpariaeth fel un dda neu ragorol. Ochr yn ochr â rhaglenni strwythuredig, fe wnaethom gryfhau mynediad at ddysgu ar adeg yr angen, gan helpu cydweithwyr i feithrin sgiliau’n hyblyg wrth gydbwyso gofynion gweithredol.
Yn ogystal â dysgu mewnol, manteisiodd 1,286 o gydweithwyr ar gyfleoedd dysgu allanol, gan sicrhau y gellid diwallu anghenion datblygu arbenigol neu benodol i rôl lle nad hyfforddiant mewnol oedd y llwybr mwyaf addas.
Datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth
Parhaodd y gallu i arwain a rheoli fod yn ffocws hollbwysig. Fe wnaethon ni gyflawni:delivered:
-
6 hyfforddiant hanfodion rheolwr llinell, gan gefnogi 48 o reolwyr llinell newydd
-
16 sesiwn rheolwr llinell profiadol, a fynychwyd gan 166 o gydweithwyr
-
cyfres o fodiwlau byr sy’n galluogi cefnogaeth amserol ac ymarferol ar gyfer heriau arweinyddiaeth o ddydd i ddydd
Mae’r rhaglenni hyn yn cyfrannu at gymuned arweinyddiaeth fwy hyderus a galluog, gan gefnogi cyflawniad gweithredol a gwydnwch sefydliadol.
Yn y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn parhau i gryfhau ein cynnig Dysgu a Datblygu i gefnogi blaenoriaethau sefydliadol, gwydnwch gweithredol a datblygiad staff. Mae hyn yn cynnwys datblygu llwybrau arweinyddiaeth, gwella mynediad at ddysgu ar yr adeg y mae ei angen a sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â themâu ein Haddewid i Bobl.
Mynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu
Rydym am i bawb yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus deimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi, a’u bod yn perthyn. Nid yw unrhyw fwlio, aflonyddu na gwahaniaethu a brofir yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dderbyniol.
2025
Sgôr cynhwysiant a thriniaeth deg: 76%
Wedi profi bwlio ac aflonyddu: 9%
Wedi profi gwahaniaethu: 9%
2024
Sgôr cynhwysiant a thriniaeth deg: 78%
Wedi profi bwlio ac aflonyddu: 9%
Wedi profi gwahaniaethu: 9%
Eleni, fe wnaethom barhau i gyflawni camau gweithredu i leihau bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu ar draws y sefydliad ac i adeiladu amgylchedd gwaith diogel a chynhwysol. Fe wnaethom gyflwyno offer dysgu newydd a chryfhau ein gallu mewnol i ymateb yn effeithiol i bryderon.
Fe wnaethon ni gyflwyno hyfforddiant ar ddatrys anghydfodau yn y gweithle a lansio adnodd senario bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu digidol newydd, wedi’i gynllunio i helpu timau i archwilio enghreifftiau bywyd go iawn o ymddygiad amhriodol. Mae’r fformat rhyngweithiol yn galluogi trafodaeth agored a dysgu ar y cyd, gan gefnogi cydweithwyr i fynd i’r afael â materion yn gynnar ac yn hyderus.
Er mwyn cynyddu ein gallu i ymateb i adroddiadau ffurfiol am fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu ymhellach, fe wnaethom hyfforddi 15 ymchwilydd ychwanegol ac ehangu ein cronfa o reolwyr penderfyniadau ac apeliadau. Mae hyn yn sicrhau y gallwn ddarparu triniaeth amserol, deg a chyson o achosion.
Fe wnaethon ni hefyd ddatblygu dangosfwrdd data a mewnwelediadau newydd ar gyfer bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, gan ganoli gwybodaeth am gwynion a darparu adroddiadau perfformiad amser real. Mae hyn yn rhoi gwell gwelededd i arweinwyr o dueddiadau, heriau a chyfleoedd ac yn galluogi gwneud penderfyniadau mwy ymatebol.
Er bod cyfran y cydweithwyr a oedd yn nodi bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn yr Arolwg Pobl wedi aros yr un fath ar 9%, cynyddodd yr hyder i roi gwybod am bryderon yn sylweddol, i fyny 7% i 56% yn 2025. Mae hyn yn adlewyrchu effaith ein ffocws parhaus ar ymwybyddiaeth, cefnogaeth ac ymyrraeth gynnar.
Mae lleihau nifer y bobl sy’n profi bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn parhau i fod yn un o flaenoriaethau pobl uchaf y Swyddfa. Yn 2026 i 2027, byddwn yn parhau i hyrwyddo camau datrys anffurfiol cynnar, yn annog y defnydd o gyfryngu a llwybrau cefnogol eraill, a chodi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i gydweithwyr sy’n profi gwrthdaro. Byddwn hefyd yn cyflwyno fframwaith gwerthuso bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu newydd i fesur effeithiolrwydd ein camau gweithredu a gyrru gwelliant pellach.
Arolwg Pobl
Yn 2025, cyflawnodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyfradd ymateb o 71% i’r Arolwg Pobl blynyddol. Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad bach o’i gymharu â 2024, lle ymatebodd 74%. Dros yr un cyfnod, cynyddodd nifer y staff yn y Swyddfa o 1,939 i 2,112.
Cynyddodd ein sgôr ymgysylltu cyffredinol o 64% i 65%. Mae hyn yn gosod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ychydig uwchlaw cyfartaledd y Weinyddiaeth Gyfiawnder o 61% ac yn unol â meincnod cyffredinol y gwasanaeth sifil o 65%. Arhosodd ein harweinyddiaeth a rheoli newid yn sefydlog ar 54%, gan berfformio’n gryfach na’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar 50% a’r gwasanaeth sifil yn gyffredinol ar 53%. Mae cyfran y staff sy’n nodi eu bod wedi profi bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn aros yr un fath yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 9%. Mae hyn yn is na chyfartaledd y Weinyddiaeth Gyfiawnder o 10%, er ychydig yn uwch na chyfartaledd y gwasanaeth sifil o 7%.
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, cynhaliwyd sgyrsiau Dweud Eich Dweud mewn Timau ar draws y sefydliad i drafod canlyniadau’r arolwg a chasglu adborth ar ein meysydd blaenoriaeth. Cymerodd tua 1,300 o aelodau staff ran yn y sgyrsiau hyn - y cyfranogiad uchaf hyd yma.
I ymateb i’r adborth hwn, mae ein cynllun ar gyfer 2025 i 2026 yn canolbwyntio ar ddwy flaenoriaeth ymgysylltu benodol: Arweinyddiaeth a Rheoli Newid, a Chynhwysiant, gyda ffocws penodol ar fynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.
Amrywiaeth a chynhwysiant
Yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rydym wedi ymrwymo i adeiladu a chynnal sefydliad sy’n agored, yn gynhwysol ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth ein pobl. Mae data ein gweithlu yn parhau i ddangos gweithlu amrywiol: mae 53% o gydweithwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, mae 58% yn fenywod, mae gan 23% anabledd, mae 11.4% yn ofalwyr, a 6% yn uniaethu fel LHDT.
Rydym yn cael ein cefnogi gan amrywiaeth o rwydweithiau staff gweithredol sy’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sefydliad. Cryfhawyd cefnogaeth rhwydweithiau’r Swyddfa yn 2025 i 2026 drwy ychwanegu cyd-gefnogwyr ar raddau uwch at y rhan fwyaf o rwydweithiau, ochr yn ochr â chefnogaeth barhaus gan aelod o’r tîm gweithredol. Mae gennym hefyd grŵp ymroddedig o 36 o swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl a chynghreiriaid, sy’n darparu cefnogaeth gyfrinachol i gydweithwyr sy’n profi problemau iechyd meddwl yn y gwaith.
Drwy gydol y flwyddyn, fe wnaethom barhau i godi ymwybyddiaeth o nodweddion gwarchodedig a hyrwyddo diwylliant cynhwysol drwy ymgysylltu â digwyddiadau cenedlaethol, gan gynnwys Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau, Mis Hanes Pobl Ddu, Wythnos Genedlaethol y Gofalwyr, Diwrnod Amser i Siarad ac Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant.
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi dylunio a chyflwyno Elevate, rhaglen ddatblygu ar gyfer pobl o gefndir ethnig du neu leiafrifol a/neu ag anabledd. Y nod yw nodi a lleihau rhwystrau i gynnydd i bobl â’r nodweddion gwarchodedig hyn fel, yn y tymor hwy, bod tîm uwch arweinyddiaeth y Swyddfa yn adlewyrchu cymdeithas ehangach a demograffeg amrywiol y sefydliad yn well. Wedi’i gyflwyno dros 10 mis, mae Elevate yn cynnig cymysgedd o weithdai, siaradwyr gwadd, grwpiau mentora, a chyfleoedd datblygu ymarferol gan gynnwys cyfweliadau ffug, cysgodi swyddi, a dysgu profiadol.
Fe wnaethon ni gyflwyno’r rhaglen beilot gyda 20 o gyfranogwyr yn 2024 a chwblhau ail raglen ym mis Tachwedd 2025 gyda 24 o gyfranogwyr. Agorodd ceisiadau ar gyfer y drydedd raglen ym mis Rhagfyr 2025. Roedd yn llwyddiannus iawn, gyda dwywaith cymaint o geisiadau ag o leoedd. Lansiwyd y rhaglen newydd hon yn ffurfiol ym mis Chwefror 2026.
Mae Elevate eisoes yn cael effaith gadarnhaol. Mae mwy na chwarter y cyfranogwyr o’r ail raglen wedi sicrhau rolau newydd ers ei chwblhau, ac mae pawb ond un o’r garfan wreiddiol yn aros yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae gwerthusiad wedi dangos cynnydd sylweddol yn hyder y cyfranogwyr a chanfyddiad cadarnhaol cryfach o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel sefydliad.
Mae’r Swyddfa hefyd yn elwa o fentrau symudedd cymdeithasol ehangach ar draws y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n anelu at ddenu, recriwtio a datblygu unigolion talentog o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae ein Pwyllgor Gweithredol yn darparu cefnogaeth uwch ar gyfer pob nodwedd warchodedig, gan helpu i hyrwyddo cynhwysiant a sicrhau bod cydweithwyr yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Rydym yn parhau i gymryd rhan yn y cynllun interniaeth Cymorth i Bobl sy’n Gadael Gofal a’r Academi Gwaith Seiliedig ar Sector, gan gynnig cyfleoedd i unigolion y gallai eu hamgylchiadau fod wedi cyfyngu ar eu mynediad at lwybrau cyflogaeth traddodiadol.
Eleni, fe wnaethom barhau i gryfhau ein cynnig lles. Mewn ymateb i dueddiadau mewn data absenoldeb oherwydd salwch, fe wnaethom wella hwb lles ar-lein Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddarparu cyfeiriadau cliriach at ganllawiau, adnoddau a chymorth. Mae’r gwelliannau hyn yn helpu i greu gwasanaeth lles mwy hygyrch a rhagweithiol, gan gefnogi cydweithwyr i ffynnu yn y gwaith.
Gweithlu
Yn ystod 2025 i 2026, cynhaliwyd 134 o ymgyrchoedd recriwtio, cyflawniad sylweddol a oedd yn gofyn am gydweithio agos ar draws timau. Ein hamser cyfartalog i recriwtio oedd 69 diwrnod, yn erbyn targed o 52 diwrnod.
Mae’r tablau isod yn dangos nifer y staff newydd a ymunodd â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod y flwyddyn a nifer y rhai a ymadawodd:
| Recriwtiaid newydd | Ymadawyr | |
| Gweision sifil – gweithwyr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus | 146 (142.92 cyfwerth ag amser llawn) | 136 (130.72 cyfwerth ag amser llawn) |
| Gweithwyr asiantaeth | 159 (146.42 cyfwerth ag amser llawn) | 91 (85.64 cyfwerth ag amser llawn) |
Gan gynnwys Gweision Sifil a gweithwyr asiantaeth, roedd cyfanswm ein gweithlu yn 2,112 ym mis Ebrill 2026, o’i gymharu â 1,939 ym mis Ebrill 2025. Ar ddiwedd mis Mawrth 2026, roedd cyfanswm trosiant staff y Swyddfa wedi gostwng i 7.3%, o 8.5% ym mis Mawrth 2025.
Cefnogi Trawsnewid
Drwy gydol 2025 i 2026, gwnaethom roi ymgysylltiad staff a pharodrwydd y gweithlu wrth wraidd ein gweithgarwch trawsnewid, gan sicrhau bod cydweithwyr yn cael eu cefnogi trwy newid sefydliadol a thechnolegol.
Fel rhan o’n paratoadau ar gyfer cyflwyno llwyfan teleffoni Genesys, fe wnaethom flaenoriaethu cyfathrebu clir a chyfleoedd mynych i roi adborth. Galluogodd ymgysylltu wedi’i dargedu a dolenni adborth hyblyg ni i ymateb yn gyflym i fewnwelediadau staff, gyda chefnogaeth arolygon pwls yn ystod cyfnodau pwysig. Cryfhaodd y dull hwn ymddiriedaeth rhwng staff ac arweinyddiaeth ac mae wedi sefydlu model y byddwn yn parhau i’w ddefnyddio ar gyfer rhaglenni trawsnewid yn y dyfodol.
Fe wnaethon ni hefyd ddatblygu ein cynllunio gweithlu a chynllunio strategol y gweithlu. Cytunwyd ar safle gweithlu sylfaenol ar gyfer 2025 i 2026, a datblygwyd dangosfwrdd Power BI newydd i gefnogi cynllunio, monitro a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.
Ochr yn ochr â hyn, fe wnaethom ddarparu cefnogaeth wedi’i thargedu i bobl ar draws ystod o fentrau trawsnewid, gan gynnwys adolygiadau rôl i gefnogi gweithgarwch gwella data, a chefnogi adolygiadau o’n swyddogaeth gwynion a’n cynnig dysgu a datblygu.
I gefnogi cydweithwyr drwy newid, mae’r tîm Newid Pobl wedi:
-
monitro gofynion technoleg gynorthwyol heb eu datrys sy’n gysylltiedig â systemau newydd
-
cwblhau asesiadau effaith ar gydraddoldeb ar draws prosiectau trawsnewid
-
adolygu’r rhwydwaith Hyrwyddwyr Newid
-
cyflwyno proses symud rheoledig newydd i staff yr effeithiwyd arnynt gan newid sefydliadol
Fe wnaethom barhau i roi’r sefyllfa gyfredol i gydweithwyr drwy gydol y flwyddyn, gan roi gwybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am brosiectau mawr drwy’r holl gyfarfodydd staff ac adrannol, gyda chyfleoedd i holi cwestiynau a herio.
Perfformiad ariannol
Rhagweld galw ac incwm
Rydym wedi parhau i weithio gyda chydweithwyr cyllid yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â’n rhagolygon galw ac incwm sydd wedi cryfhau ein rhagolygon a gwella cynllunio.
Mae adferiad costau yn 2025 i 2026 wedi cyrraedd 103.4%, o’i gymharu â 104.3% y llynedd. Mae hyn o fewn y goddefiant o 5%.
Perfformiad ariannol
Mae’r adran hon yn darparu sylwadau i gefnogi’r datganiadau ariannol a’n perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r datganiadau ariannol wedi’u nodi ar dudalennau 96 - 125. Mae Nodyn 2 ar ddatganiadau ariannol ar dudalen 110 yn manylu ar y ffioedd a’r taliadau ar gyfer yr incwm isod ac mae nodyn 3 yn rhoi rhagor o fanylion am y gwariant ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Isod mae uchafbwyntiau perfformiad ariannol y Swyddfa yn 2025 i 2026.
| Adferiad costau 103.4% | I lawr o 104.3% |
|
Incwm atwrneiaeth Perfformiad gwell wrth gofrestru atwrneiaethau a chynnydd mewn ffioedd ym mis Tachwedd gan arwain at gynnydd mewn incwm tua diwedd y flwyddyn |
£115.9 milliwn o gynnydd (1%) |
|
Incwm goruchwylio Oherwydd cynnydd yn llwyth achosion goruchwylio |
£11.7 million o gynnydd (0%) |
|
Costau staff Cynnydd oherwydd recriwtio staff parhaol ac asiantaeth ychwanegol i reoli’r galw a gweithredu dyfarniadau cyflog. Mae cynnydd yng nghyfraddau yswiriant gwladol cyflogwyr o 13.5% i 15% ochr yn ochr â gostyngiad mewn trothwyon hefyd wedi cyfrannu at y cynnydd |
£83.7 million o gynnydd (7%) |
|
Adroddiadau ymwelwyr proffesiynol Wedi gostwng oherwydd llai o ymweliadau a’r costau teithio a chynhaliaeth cysylltiedig |
£2.4 million o ostyngiad (15%) |
|
Postio Cynnydd oherwydd twf mewn ceisiadau atwrneiaeth a dderbyniwyd eleni |
£9.6 million o gynnydd (3%) |
Adroddiad cynaliadwyedd
Rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar y byd naturiol. I wneud hyn, rydym yn mesur ein heffaith ar yr amgylchedd ac yn gweithio i leihau ein defnydd o adnoddau cyfyngedig, allyriadau nwyon tŷ gwydr a theithio diangen.
Rydym wedi ystyried yn ofalus ganllawiau Trysorlys EF1 ar weithredu argymhellion y Tasglu ar Ddatgeliad Ariannol sy’n Gysylltiedig â’r Hinsawdd (TCFD). Mae’n ofynnol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddilyn y canllawiau hyn drwy fod wedi bodloni’r meini prawf o gyflogi mwy na 500 o staff cyfwerth ag amser llawn ar draws y cyfnod adrodd 2025 i 2026. Mae Atodiad B i’r canllawiau yn nodi, “Rhaid i endidau sy’n adrodd ddarparu Datganiad Cydymffurfio â TCFD a’r datgeliadau a argymhellir ar gyfer: Llywodraethiant; Rheoli Risg; Metrigau a Thargedau”. Dylid ystyried y paragraff hwn fel ein Datganiad Cydymffurfio, ac isod rydym wedi amlinellu sut rydym yn cydymffurfio â’r datgeliadau a argymhellir.
Llywodraethiant
Fel y nodwyd yn y canllawiau, y datgeliadau a argymhellir yw:
-
disgrifio goruchwyliaeth y bwrdd o risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawddd
-
disgrifio rôl rheolwyr wrth asesu a rheoli risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd
Ystyrir effaith ein prosiectau portffolio ar gynaliadwyedd a’r amgylchedd wrth ddatblygu achosion busnes, sy’n destun craffu gan y Bwrdd Portffolio a Newid.
Ystyrir cynaliadwyedd hefyd wrth flaenoriaethu prosiectau o fewn y portffolio. Gweinyddir adolygiadau porth ffurfiol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac maent yn ystyried cynaliadwyedd.
Metrigau a Thargedau
Y datgeliadau a argymhellir yw:
-
datgelu’r metrigau a ddefnyddir gan y sefydliad i asesu risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd yn unol â’i strategaeth a’i broses rheoli risg
-
datgelu allyriadau nwyon tŷ gwydr Cwmpas 1, Cwmpas 2, ac, os yw’n briodol, Cwmpas 3, a’r risgiau cysylltiedig
-
disgrifio’r targedau a ddefnyddir gan y sefydliad i reoli risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd a’r perfformiad o ran targedau
Rydym yn adrodd ar gyfleustodau a ddefnyddir, teithio a wneir, a gwastraff a gynhyrchir. Caiff y rhain eu mesur yn erbyn blynyddoedd blaenorol ac ar y cyd â thargedau o Ymrwymiadau Materion Gwyrdd y Llywodraeth, sy’n nodi camau gweithredu y bydd adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth yn eu cymryd i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Cafodd y rhain eu diwygio yn 2021 ac roeddent yn berthnasol tan 2025. Mae’r targedau ar gyfer 2024 i 2025 wedi’u trosglwyddo a’u defnyddio ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
Disgwylir i dargedau newydd gael eu rhyddhau ar gyfer 2026 i 2030 yng nghanol 2026.
Mae ein data yn cael ei gymryd yn uniongyrchol o fesuryddion cyfleustodau, cyflenwyr, a chontractwyr gwaredu gwastraff. Lle rydym yn rhannu adeiladau a chyflenwadau cyfleustodau, rydym yn seilio ein ffigurau defnydd ar y lle a feddiannir.
Nid oes gennym gerbydau fflyd, a chofnodir milltiroedd cerbydau personol a ddefnyddir ar gyfer teithio busnes mewn hawliadau treuliau.
Dim ond ar ddefnydd papur cefn swyddfa y mae’n ofynnol i ni adrodd arno. Fodd bynnag, mae rhoi pecynnau atwrneiaeth arhosol i gwsmeriaid yn ddefnydd sylweddol o bapur ac er mwyn tryloywder rydym yn adrodd ar y rhain hefyd. Yn 2020, cyflwynwyd argraffu oddi ar y safle a phostio uniongyrchol, sydd wedi disodli rhan fawr o argraffu yn y swyddfa. Mae ffigurau ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ar ddefnydd papur.
Mae ein data hefyd yn cael ei gasglu yn adroddiad blynyddol a chyfrifon adrannol y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae gan y Weinyddiaeth hefyd Strategaeth Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd, sy’n gosod fframwaith i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyd-fynd ag ef.
Rheoli Risg
Y datgeliadau a argymhellir yw:
-
disgrifio prosesau’r sefydliad ar gyfer nodi ac asesu risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd
-
disgrifio prosesau’r sefydliad ar gyfer rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd
-
disgrifio sut mae prosesau ar gyfer nodi, asesu a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd yn cael eu hintegreiddio i brosesau rheoli risg cyffredinol y sefydliad
Ar hyn o bryd nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gweithredu fframwaith annibynnol ar gyfer nodi, asesu a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd. Fodd bynnag, mae ystyriaethau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd wedi’u hymgorffori ym mhrosesau rheoli risg, parhad busnes a chynllunio ystadau ehangach y sefydliad. Disgwylir i berchnogion risg ystyried ffactorau mewnol ac allanol perthnasol a allai effeithio ar debygolrwydd neu effaith risgiau, gan gynnwys y rhai sy’n deillio o newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol.
Yn ystod 2025 i 2026, ystyriodd Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd a’u goblygiadau posibl i wydnwch gweithredol a chyflenwi gwasanaethau. Cydnabu’r Bwrdd nad yw newid hinsawdd yn debygol o gael effaith uniongyrchol ar y galw am wasanaethau statudol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Fodd bynnag, ystyriodd yr aelodau ystod o risgiau anuniongyrchol a allai godi dros amser, gan gynnwys aflonyddwch a achosir gan ddigwyddiadau tywydd eithafol, pwysau ar seilwaith a chyfleustodau, effeithiau ar gyflenwyr a chadwyni cyflenwi, ac effeithiau ehangach ar argaeledd y gweithlu a pharhad busnes.
Daeth y bwrdd i’r casgliad, er bod risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd yn berthnasol ac yn esblygu, nad ydynt ar hyn o bryd yn cynrychioli risg sylweddol na phrif risg i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Roedd yr asesiad hwn yn adlewyrchu natur gweithrediadau’r Swyddfa, gan gynnwys ei hystâd brydles a’i dibyniaeth gynyddol ar wasanaethau digidol ac awtomeiddio. Serch hynny, cytunodd y Bwrdd y dylid parhau i fonitro risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd trwy drefniadau llywodraethu, rheoli risg a pharhad busnes presennol, gyda’r sefyllfa’n cael ei hadolygu’n rheolaidd wrth i risgiau a chanllawiau barhau i esblygu.
Bydd ystyriaethau hinsawdd yn parhau i lywio datblygiad ystadau, cynllunio cynaliadwyedd a gwydnwch digidol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, wedi’u halinio’n gymesur â gweithgarwch a chanllawiau cynaliadwyedd ehangach y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Gwybodaeth am ein hystadau
Mae prif swyddfeydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Birmingham a Nottingham. Mae ffigurau ar gyfer 2017 i 2018 yn gosod y llinell sylfaen flaenorol y mae blynyddoedd y dyfodol wedi’u mesur yn fewnol yn ei herbyn. Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2021 i 2022, symudodd swyddfeydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Birmingham i safle mwy modern, llai gan ddefnyddio model gweithio hybrid. Yn 2024 meddiannwyd llawr arall yn Victoria Square House. Rhaid i gymariaethau â blynyddoedd blaenorol ystyried hyn, a bydd naratifau ar berfformiad adeiladau yn defnyddio llinell sylfaen blwyddyn ariannol 2024 i 2025.
Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus nifer fach o staff sy’n gweithio o adeiladau eraill y Weinyddiaeth Gyfiawnder nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn, gan fod ffigurau ar gyfer y safleoedd hyn yn cael eu hadrodd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Ein targedau
Mae Ymrwymiadau Materion Gwyrdd y Llywodraeth a’n perfformiad yn erbyn y rheini wedi’u nodi yn y tablau isod.
Fel yn y blynyddoedd blaenorol, nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyrraedd y targed lleihau defnydd papur oherwydd y cynnydd parhaus yn y llwyth gwaith a nifer y staff ers y blynyddoedd sylfaenol. Trafodir y meysydd hyn yn fanwl isod.
Mae moderneiddio atwrneiaethau arhosol a’r defnydd cynyddol o arloesedd digidol yn cynnig cyfleoedd i’r Swyddfa wella perfformiad o ran ein targedau cynaliadwyedd.
Roedd allyriadau carbon deuocsid ar y trywydd iawn i gyflawni Ymrwymiadau Materion Gwyrdd y Llywodraeth tan 2022, pan gynyddodd allyriadau eto. Trafodir hyn isod.
Dylai cymhariaeth o’r tablau isod â blynyddoedd blaenorol ystyried newidiadau yn y blynyddoedd sylfaenol.
| Ymrwymiadau Materion Gwyrdd y Llywodraeth | Targed y Weinyddiaeth Gyfiawnder at 2025 |
Ein sefyllfa hyd at 31 Mawrth 2026 |
Canlyniad | ||
| Allyriadau nwyon tŷ gwydr | Gostyngiad o 41% ers 2017 i 2018 | 5% o ostyngiad | Heb ei gyflawni | ||
| Gostyngiad o 23% mewn allyriadau uniongyrchol ers 2017 i 2018 | 242% o gynnydd | Heb ei gyflawni | |||
| Teithiau hedfan domestig | Lleihau teithiau hedfan domestig o 30% o’i gymharu â 2017 i 2018 | Un wedi’i adrodd | Heb ei gyflawni | ||
| Gwastraff | Cyfanswm gostyngiad o 15% mewn gwastraff o’i gymharu â lefelau 2017 i 2018 | 74% o gynnydd | Heb ei gyflawni | ||
| Llai na 5% wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi | 0% | Cyflawnw yd | |||
| Ailgylchu 70% o’n gwastraff blynyddol a rhagori ar lefelau ailgylchu 2017 i 2018 | 70% | Cyflawnw yd | |||
| Dŵr | Gostyngiad o 8% yn y defnydd o ddŵr o’i gymharu â lefelau 2017 i 2018 | 24% o ostyngiad | Cyflawnw yd | ||
| Papur | Gostyngiad o 50% yn y defnydd o bapur o’i gymharu â lefelau 2017 i 2018 | 43% o gynnydd | Heb ei gyflawni |
Dangosir isod ffigurau cyfanswm y defnydd a’r allyriadau, ynghyd â gwariant lle bo modd.
| 2025 i 2026 | 2024 i 2025 | ||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| CO2e ffynonellau | Symiau |
Tunell i CO2e |
Gwariant | Symiau |
Tunell i CO2e |
Gwariant | |
| Nwy (cwmpas 1) |
2,178,940 kWh |
392 | Anhysbys, fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau | 2,062,500 kWh |
371 | Anhysbys, fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau | |
| Trydan (cwmpas 2) |
771,848 kWh |
151 | Anhysbys, fel rhan | ||||
| o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau | 777,500 kWh |
149 | Anhysbys, fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau | ||||
|
Teithio (cwmpas 3) Rheilffordd (gan gynnwys Trenau Tanddaeaerol Llundain) |
365,661 km | 12.9 | £86,143 | 484,100 km |
17.2 | £127,000 | |
| Fflyd lwyd (ceir) | 42,299 km |
7.0 | £19,065 | 48,743 km |
7.9 | £21,000 | |
| Awyr | 528 km | 0.08 | £58 | N/A | 4,974 km | 0.74 | £712 |
| 2025 i 2026 | 2024 i 2025 | ||||||
| Adnoddau cyfyngedig | Symiau | Gwariant | Symiau | Gwariant | |||
| Gwastraff | Cyfanswm | 129 tunnell | Anhysbys, fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau | Cyfanswm | 139 tunnell | Anhysbys, fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau | |
| Ailgylchwyd | 90 tunnell (70%) | Anhysbys, fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau | Ailgylchwyd | 97 tunnell (70%) |
Anhysbys, fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau | ||
| Troi gwastraff yn ynni | 13 tunnell (15%) | Anhysbys, fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau | Troi gwastraff yn ynni | 39 tunnell (30%) | Anhysbys, fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau | ||
| Dŵr | 5,875 m3 | Anhysbys, fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau | 5,477 m3 | Anhysbys, fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau | |||
| Papur | 49,195 rîm (swyddfa gefn) | £5.9 million | 15,545 rîm (swyddfa gefn) | £5.7 million | |||
| 53,750 rîm wedi’u hallanoli | £5.9 million | 50,512 rîm wedi’u hallanoli | £5.7 miliwn | ||||
| 8,470 rîm fel pecynnau Atwrneiaeth Arhosol | £5.9 million | 10,895 rîm fel pecynnau Atwrneiaeth Arhosol | £5.7 miliwn |
Gwastraff
Mae gennym gontractau gwaredu gwastraff ‘dim i safle tirlenwi’ ar gyfer ein swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham. Yn ystod 2025 i 2026, cafodd yr holl wastraff a gynhyrchwyd ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio trwy ei droi’n olew tanwydd. Yn ogystal, cafodd 100% o wastraff papur a chardbord ei ailgylchu trwy broses dolen gaeedig, sy’n golygu eu bod wedi’u hailbrosesu gan gyflenwyr yn gynhyrchion papur newydd.
Rhwng 2025 a 2026, gostyngodd cyfanswm y gwastraff a gynhyrchwyd ar draws y ddwy swyddfa o 5% o’i gymharu â 2024 i 2025. Mae’n fwyaf tebygol bod hyn oherwydd clirio’r ôl-groniad o atwrneiaethau arhosol yn y flwyddyn flaenorol, a leihaodd faint o bapur oedd angen ei waredu. Mae cyfran sylweddol o wastraff papur yn deillio o becynnau atwrneiaethau arhosol a dogfennaeth ddiangen a gyflwynwyd gan ymgeiswyr, a oedd wedi cronni yn ystod 2024 i 2025. Ailgylchwyd yr holl wastraff papur hwn.
Mae gan adeilad swyddfa Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Nottingham ffrydiau gwastraff wedi’u gwahanu’n llwyr o wydr, cardbord a phapur, ailgylchu cymysg sych, a bwyd a deunyddiau na ellir eu hailgylchu. Gan fod ein safle yn Birmingham yn adeilad perchennog, nid oedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gallu gweithredu ffrydiau gwastraff wedi’u gwahanu’n llwyr ar y safle - mae gwastraff yn cael ei wahanu yn y cyfleuster ailgylchu ac adfer. O fis Ebrill 2026 bydd ffrydiau gwastraff wedi’u gwahanu’n llawn, gan gynnwys gwastraff bwyd, ar waith.
Rydym wedi ail-gyflwyno casgliad o becynnau creision a byrbrydau yn ein dwy swyddfa yng Nghanolbarth Lloegr, ac wedi casglu tua 40kg i’w ailgylchu.
Gall ymgeiswyr ofyn am becyn atwrneiaeth arhosol gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Caiff y rhain eu hanfon mewn bagiau postio bioddiraddadwy wedi’u gwneud o wastraff siwgr câns i leihau’r defnydd o betrocemegolion ac atal gwastraff nad yw’n dirywio rhag mynd i safleoedd tirlenwi.
Dŵr
Gosodwyd y targedau blaenorol ar gyfer defnydd dŵr ar sail ‘fesul cyfwerth ag amser llawn’. Mae’r targedau newydd ar gyfer gostyngiad absoliwt. Ers y flwyddyn sylfaenol 2017 i 2018, mae defnydd dŵr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi gostwng 24% i 5,875 metr ciwbig, unwaith eto ychydig yn fwy na’r llynedd oherwydd cynnydd mewn meddiannaeth swyddfa yn Victoria Square House.
Defnydd papur
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, ni chyrhaeddodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus y targed o ostyngiad o 50% yn y defnydd o bapur swyddfa gefn, yn bennaf oherwydd cynnydd yn y galw am ein gwasanaethau ers blwyddyn sylfaenol 2017 i 2018. Roedd y defnydd cyffredinol o bapur 43% yn uwch na llinell sylfaen 2017 i 2018.
Fodd bynnag, gostyngodd y defnydd o bapur 26% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, sy’n debygol o adlewyrchu clirio’r ôl-groniad o geisiadau atwrneiaeth arhosol yn ystod 2024 i 2025, sy’n golygu bod y defnydd o bapur bellach wedi’i gyfyngu’n bennaf i brosesu ac ymateb i geisiadau atwrneiaeth arhosol newydd eu derbyn yn unig.
Gostyngodd faint o bapur a ddefnyddiwyd fesul achos yn sylweddol hefyd yn ystod y flwyddyn, i 18 dalen fesul atwrneiaeth arhosol o 24 dalen fesul atwrneiaeth arhosol, er gwaethaf cynnydd o 2% yn nifer yr atwrneiaethau arhosol a dderbyniwyd o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r Swyddfa yn parhau i fod wedi ymrwymo i leihau’r defnydd o bapur ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.
Bu cynnydd pellach (13%) yn nifer y pecynnau atwrneiaeth arhosol a anfonwyd yn uniongyrchol at ymgeiswyr eleni. Gwnaed newid i’r pwysau papur diofyn a ddefnyddir ddechrau 2026 o 90 i 80gsm. Bydd hyn yn arbed tua 10% ar bwysau’r papur a ddefnyddir yn y blynyddoedd i ddod, er na fydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn nifer y rimiau a adroddir.
Teithio
At ei gilydd, mae ein teithio i lawr 23% o 2024 i 2025, a 35% ar y flwyddyn sylfaenol. Cofnodwyd un daith hedfan ddomestig yn ôl eleni a oedd yn allyrru 78kg o garbon deuocsid. Ni chofnodwyd unrhyw deithiau hedfan rhyngwladol. Gan nad oedd unrhyw deithiau hedfan wedi’u cofnodi yn 2017/18, mae hyn yn golygu nad yw’r targed wedi’i gyrraedd, ond mae’n amhosibl lleihau teithiau hedfan islaw’r lefel sylfaenol.
Mae’r gostyngiad cyffredinol yn adlewyrchu ymdrechion i leihau teithio diangen gan staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Roedd yn ofynnol i reolwyr adolygu ceisiadau teithio, a darparwyd adroddiadau manwl i’r uwch dîm rheoli i gefnogi goruchwyliaeth a nodi meysydd lle mae gwariant teithio uwch.
Rydym yn gweithio’n agos gyda chynghorau lleol a gweithredwyr trafnidiaeth i alluogi staff i fanteisio ar deithiau bws am bris gostyngol a chyfleusterau parcio a theithio. Mae’r cynllun beicio i’r gwaith yn cael ei hyrwyddo, gyda chyfleusterau newid a storfa feiciau ddiogel yn cael eu darparu.
Mae opsiynau teithio llesol hefyd yn cael eu hyrwyddo fel rhan o agenda lles Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i annog ymarfer corff a ffyrdd iach o fyw.
Cyfleustodau eraill
Arhosodd y defnydd o drydan yn gyson i bob pwrpas yn ystod 2025 i 2026, o’i gymharu â 2024 i 2025, i lawr 1%. Yn erbyn y flwyddyn sylfaenol o 2017 i 2018, mae allyriadau trydan wedi gostwng 32%.
Mae defnydd nwy yn Birmingham ar gyfer gwresogi wedi cynyddu 249% o’i gymharu â 2017 i 2018. O’i gymharu â 2024 i 2025 mae defnydd nwy wedi cynyddu 6%.
Cwblhawyd gosod paneli solar yn ein swyddfa yn Nottingham ddechrau 2022, ac fe gynhyrchon nhw 44,942 kWhr yn ystod 2025 i 2026. Roedd hyn yn 10% o ddefnydd trydan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Nottingham (6% o gyfanswm Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus) ac arbedodd 9.3 tunnell o allyriadau CO2.
Yn anffodus, oherwydd y tywydd anarferol o wael, fe wnaeth y paneli solar ar safle Nottingham danberfformio, felly er bod y defnydd trydan cyffredinol wedi gostwng, cododd yr allyriadau gwirioneddol 1%.
Bioamrywiaeth
Mewn partneriaeth â’r landlord yn ein swyddfa yn Nottingham, mae ardal fawr o’r tiroedd yn cael ei gadael heb ei thorri rhwng mis Ebrill a mis Medi i annog twf blodau gwyllt a chefnogi peillwyr, pryfed ac adar. Mae gwesty pryfed hefyd wedi’i osod, ac mae pren wedi’i docio mewn ardaloedd coediog wedi’i adael yn ei le i ddarparu cynefinoedd i infertebratau.
Ymgorffori cynaliadwyedd yn ein dyfodol
Mae targedau newydd yn cael eu llunio ar gyfer y cyfnod ar ôl Ebrill 2025. Byddwn yn gweithio tuag at gyrraedd y rhain unwaith y byddant yn cael eu rhyddhau. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid Landlordiaid ac Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth i leihau ein defnydd o gyfleustodau a byddwn yn sicrhau bod cynaliadwyedd yn cael ei ystyried ym mhob prosiect perthnasol a gyflwynir gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Mae gwaith ar y gweill i sicrhau safle newydd yn Birmingham o ddiwedd 2029. Bydd perfformiad ynni yn faen prawf â blaenoriaeth yn y broses ddethol.
Ruth Duffin
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (Dros Dro)
8 Gorffennaf 2025
Adroddiad atebolrwydd
Adroddiad llywodraethiant corfforaethol
Cyflwyniad
Diben yr adroddiad llywodraethiant corfforaethol yw egluro cyfansoddiad a threfniadaeth ein strwythurau llywodraethu a sut maent yn cefnogi cyflawniad ein hamcanion.
Mae ein dogfen fframwaith yn nodi’r trefniadau ar gyfer llywodraethiant, atebolrwydd, cyllido, staffio a gweithrediadau. Gellir darllen y ddogfen yn llawn ar GOV.UK yn www.gov.uk/government/publications/opg-corporate-framework
Fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n gyfrifol am ddefnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau fel y nodir yn y ddogfen fframwaith. Mae Rheoli Arian Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF, hefyd yn nodi cyfrifoldebau swyddog cyfrifyddu.
Rwyf yn bersonol gyfrifol am ddiogelu’r arian cyhoeddus yr wyf yn gyfrifol amdano, gan sicrhau priodoldeb a rheoleidd-dra wrth drin arian cyhoeddus, a gweithrediadau a rheolaeth o ddydd i ddydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn ogystal, rhaid i mi sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyfan yn cael ei rhedeg yn unol safonau, o ran llywodraethiant, gwneud penderfyniadau a rheolaeth ariannol.
Mae fy adroddiad yn amlinellu’r trefniadau llywodraethiant sydd ar waith i reoli risgiau i gyflawni amcanion a thargedau cytunedig Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae hefyd yn darparu goruchwyliaeth a rheolaeth effeithiol dros adnoddau ac asedau’r Swyddfa. Mae’n cynnwys:
- adroddiad y cyfarwyddwyr
- datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu
- datganiad llywodraethiant
Adroddiad y Cyfarwyddwyr
Cyflwyniad
Mae strwythurau bwrdd Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus, y pwyllgor archwilio a sicrhau risg a r pwyllgor gweithredol wedi u nodi isod. Maent yn gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus a monitro perfformiad yn erbyn amcanion y cytunwyd arnynt.
Aelodaeth y Bwrdd
Roedd aelodaeth bwrdd Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2025 i 2026 yn cynnwys:
Cadeirydd
- Alison Sansome
Aelodau Anweithredol y Bwrdd
- Greig Early
- Martyn Burke
- Veronika Neyer
Aelodau Gweithredol o r Bwrdd:
- Amy Holmes (Public Guardian and CEO, until 21 April 2025)
- Ruth Duffin (Public Guardian and CEO from 22 April 2025)
- Adrian Hannell (Director of Financial Management, Control, Risk and Governance)
Penodir Aelodau Anweithredol y Bwrdd ar l cystadleuaeth deg ac agored, ac am gyfnod o 3 blynedd. Mae pob aelod newydd o’r Bwrdd yn derbyn sesiwn ymsefydlu a rhoddir cyfleoedd hyfforddiant pellach i ddatblygu dealltwriaeth aelodau’r Bwrdd o Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ein model ffioedd a’n swyddogaethau statudol.
Datganiad o fuddiannau
Mae’n ofynnol i bob aelod o’r bwrdd ddatgan unrhyw swyddi cyfarwyddwyr a gwrthdaro buddiannau wrth gael eu penodi. Mae hefyd yn ofynnol i bob aelod o’r bwrdd ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau newydd cyn dechrau pob cyfarfod. Mae’r rhestr lawn o ddatganiadau buddiannau a gofnodwyd ar gyfer Aelodau Bwrdd Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer 2025 i 2026 ar gael i’r cyhoedd ar GOV.UK: Cofrestr buddiannau aelodau Bwrdd Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Digwyddiadau data personol
Ystyriwyd a oedd unrhyw ddigwyddiad yn ymwneud data personol mor ddifrifol fel y dylid ei adrodd i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Nid oes unrhyw ddigwyddiadau o’r fath wedi bod.
Iechyd a diogelwch
Mae Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ei chyfrifoldebau cyfreithiol ac mae wedi ymrwymo i gynnal amgylchedd diogel ac iach i’n gweithwyr a phawb sy’n defnyddio ein hadeiladau.
Datganiad Cyfrifoldebau r Swyddog Cyfrifyddu
O dan adran 7(2) o Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000, mae Trysorlys EF wedi cyfarwyddo Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i baratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn y ffurf ac ar y sail a nodir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon. Mae’r cyfrifon yn cael eu paratoi ar sail croniadau a rhaid iddynt roi darlun gwir a theg o gyflwr materion Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac o’i hincwm a’i gwariant, datganiad o’r sefyllfa ariannol, a llif arian parod ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Wrth baratoi’r cyfrifon, mae’n ofynnol i’r swyddog cyfrifyddu gydymffurfio gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth ac yn benodol i:
- ddilyn y Cyfarwyddyd Cyfrifon a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a gweithredu polis au cyfrifyddu addas yn gyson
- gwneud penderfyniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
- datgan a yw safonau cyfrifyddu cymwys fel y c nt eu nodi yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth wedi’u dilyn, a datgelu ac egluro unrhyw wyriadau perthnasol yn y datganiadau ariannol
- paratoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol
- cadarnhau bod yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon yn gyffredinol yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol am yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon a’r penderfyniadau sy’n ofynnol, i benderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy
Mae Prif Swyddog Cyfrifyddu r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dynodi r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae cyfrifoldebau Swyddog Cyfrifyddu, gan gynnwys cyfrifoldeb am briodoldeb a rheoleidd-dra r cyllid cyhoeddus y mae r Swyddog Cyfrifyddu n atebol amdano, am gadw cofnodion priodol ac am ddiogelu asedau r Swyddfa, wedi u nodi yn Rheoli Arian Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy n cadarnhau:
- nad oes gwybodaeth berthnasol nad yw archwilwyr Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymwybodol ohoni, ac rwyf wedi cymryd yr holl gamau y dylwn eu cymryd i sicrhau fy mod yn ymwybodol o wybodaeth archwilio berthnasol ac i sicrhau bod archwilwyr Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymwybodol o r wybodaeth honno
- mae’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon yn gyffredinol yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, ac rwy’n cymryd cyfrifoldeb personol am yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon a’r penderfyniadau sy’n ofynnol i benderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy
Ruth Duffin
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (Dros Dro)
8 Gorffennaf 2026
Datganiad llywodraethiant
Mae’r datganiad hwn yn egluro sut yr wyf i, Ruth Duffin, fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus, wedi cyflawni fy nghyfrifoldeb i reoli a chadw golwg ar adnoddau Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod y flwyddyn.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflawni fy nghyfrifoldeb i ddarparu adroddiad blynyddol i’r Arglwydd Ganghellor ynghylch cyflawni swyddogaethau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn unol ag adran 60 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
Cyflwyniad
Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw Prif Swyddog Cyfrifyddu’r adran.
Mae cyfrifoldebau Swyddog Cyfrifyddu wedi’u nodi ym Mhennod 3 o Reoli Arian Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Mae’r Prif Swyddog Cyfrifyddu yn fy nynodi’n Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer gwariant gweinyddol Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac yn diffinio fy nghyfrifoldebau, yn ogystal ‘r berthynas rhwng Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu.
Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn r l statudol, gyda’r deiliad yn cael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor o dan adran 57 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae’r r l hon wedi’i chyfuno r l Swyddog Cyfrifyddu, ac fel arfer r l weinyddol Prif Swyddog Gweithredol.
Rhaid i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sicrhau ei hun bod y prosesau a’r rheolaethau ar draws pob maes busnes yn gadarn, yn effeithiol, a bod modd dangos tystiolaeth ohonynt. Mae hyn yn cynnwys monitro sefyllfa ariannol, risg a pherfformiad yr asiantaeth yn rheolaidd, a nodi cyfleoedd i wella gwasanaeth cwsmeriaid. Mae’r Bwrdd hefyd yn darparu sicrwydd dros y cyfnod hwn.
Fframwaith llywodraethiant
Mae effeithiolrwydd trefniadau llywodraethiant, rheoli risg a system rheolaeth fewnol Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u nodi yn y datganiad llywodraethu hwn.
Mae’r datganiad yn cynnwys yr asesiad gofynnol o gydymffurfiaeth chod llywodraethiant corfforaethol Trysorlys EF. Er bod ffocws y cod ar adrannau gweinidogol, lle bo’n berthnasol mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymhwyso’r egwyddorion y mae’n teimlo sy’n briodol ar gyfer ei maint, ei statws a’i fframwaith cyfreithiol.
Bwrdd yr OPG: Yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol i gefnogi cyflawni amcanion o fewn y cynllun busnes.
Pwyllgor Gweithredol: Yn sicrhau rheolaeth effeithiol ar gyllid, perfformiad, risg, gweithlu, AD, cwynion, cyflawni busnes, arweinyddiaeth a dathlu llwyddiant.
Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg: Yn rhoi barn annibynnol i Brif Weithredwr Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gamau llywodraethiant, rheolaethau rheoli risg a sicrwydd y Swyddfa.
Bwrdd Portffolio a Newid: Yn gyfrifol am fonitro cynnydd portffolio trawsnewid Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn adolygu ac yn gweithredu ar risgiau a materion a allai beryglu darpariaeth amserol a gwireddu buddion.
Pwyllgor Iechyd a Diogelwch: Yn cefnogi’r Prif Weithredwr yn ei gyfrifoldeb cyffredinol am gydymffurfiaeth sefydliadol Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a sicrhau bod Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lle diogel ac iach i weithio.
Pwyllgor Polisi a Gweithredu: Yn darparu fforwm gwneud penderfyniadau cydlynol ar gyfer Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn perthynas pholisi gweithredol, cyn ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gweithredol.
PPwyllgor Pobl: Yn cydlynu’r gweithgarwch sy’n gysylltiedig phobl i gefnogi cyfeiriad strategol Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar bobl a diwylliant.
Beth mae Bwrdd Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei wneud
Mae Bwrdd Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cefnogi’r Pwyllgor Gweithredol wrth ddatblygu a gweithredu amcanion strategol a chynlluniau busnes Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’r bwrdd yn gwneud hyn drwy ddarparu goruchwyliaeth, craffu a her i berfformiad y Swyddfa, wrth oruchwylio gweithrediadau a rheoli risg drwy’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Mae’r bwrdd hefyd yn gyfrifol am gymeradwyo Fframwaith Llywodraethiant Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus, i sicrhau bod cynllunio, perfformiad a rheolaeth ariannol y Swyddfa n cael eu cynnal yn effeithlon, yn effeithiol, ac yn agored a thryloyw.
Cadeirydd: Alison Sansome, Non-Executive Board Chair
Effeithiolrwydd a phrif lwyddiannau
Yn ogystal diweddariadau rheolaidd ar gyllid, perfformiad, cynnydd portffolio newid, a datblygiadau polisi perthnasol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae’r Bwrdd wedi:
- darparu cyfeiriad strategol ar brif fentrau newid Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus
- adolygu perfformiad sefydliadol ac archwilio mesurau i reoli a lleihau llwythi gwaith cynyddol
- cadarnhau dangosyddion perfformiad allweddol newydd ar gyfer yr holl brif weithgareddau gweithredol ar gyfer 2026 i 2027
- cynnal goruchwyliaeth o berfformiad cyffredinol trwy adrodd ar ddangosyddion perfformiad allweddol rheolaidd a diweddariadau trawsnewid, gan gynnwys cydnabod sawl llwyddiant gweithredol
- cynnal gweithdai i adolygu ac adnewyddu dull Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus o reoli risg, gwella r gwasanaeth ymchwiliadau, a chefnogi datblygiad y Strategaeth Ystadau a Chynaliadwyedd, gan gynnwys cynnal asesiad perthnasedd ar risg newid hinsawdd
- trafod Cynllun Pobl Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r dull o ymdrin ag AWDL
- cynnal dull ar sail data o wella gwasanaeth cwsmeriaid, gan gynnwys adolygu mewnwelediadau arolygon cwsmeriaid yn rheolaidd
Ein his-bwyllgorau a’n pwyllgor cynghori annibynnol
Mae gan y bwrdd 2 is-bwyllgor: y pwyllgor gweithredol a’r Bwrdd Portffolio a Newid. Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn bwyllgor cynghori annibynnol i’r Bwrdd.
Y Pwyllgor Gweithredol
Mae’r pwyllgor hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflawni busnes Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ddydd i ddydd, gan gynnwys cyllid, perfformiad, risg, gweithlu, newid a chynllunio, cwynion, AD (rheoli presenoldeb a recriwtio), cyflawni busnes, arweinyddiaeth, ymgysylltu gweithwyr a dathlu llwyddiannau.
Cadeirydd: Ruth Duffin, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr
Ystyriwyd amrywiaeth o faterion pwysig yn ystod y flwyddyn. Adolygodd y pwyllgor yn rheolaidd a chytunodd ar ragolygon galw, modelu incwm a’r cynllun i wella mesurau adennill costau. O ganlyniad, cyflawnwyd adferiad cost llawn yn ystod y flwyddyn ariannol, gyda chefnogaeth gweithredu ffi gofrestru atwrneiaeth arhosol/atwrneiaeth barhaus newydd a r galw uchaf erioed am wasanaethau.
Mae’r pwyllgor hefyd wedi:
- cwblhau sesiynau ‘archwiliad dwfn i bob risg strategol i asesu digonolrwydd rheolaethau a chamau gweithredu, gan sicrhau cyd-fynd ag archwaeth risg y sefydliad
- goruchwylio gwaith Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan gynnwys prosesu mwy o geisiadau atwrneiaeth arhosol nag mewn unrhyw flwyddyn flaenorol, ochr yn ochr galw cynyddol am oruchwyliaeth ac ymchwiliadau dirprwyon
- cefnogi gwelliannau i wasanaeth cwsmeriaid, gan gynnwys adolygu dangosyddion perfformiad allweddol
- herio a chytuno ar gyllidebau gwariant blynyddol yn ei swyddogaeth fel Pwyllgor Buddsoddi
- cymeradwyo polis au a gwelliannau newydd yn deillio o newidiadau i wasanaethau yn y dyfodol
Bwrdd Portffolio a Newid
Mae’r Bwrdd Portffolio a Newid yn dwyn ynghyd randdeiliaid allweddol o bob rhan o Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’i phartneriaid i oruchwylio cyflawniad llwyddiannus portffolio newid y sefydliad.
Cefnogir y Bwrdd gan strwythur llywodraethu dirprwyedig i sicrhau goruchwyliaeth a chyflawniad effeithiol o brosiectau.
Cadeirydd: Ruth Duffin, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr
Yn ystod y flwyddyn, ystyriodd y Bwrdd nifer o faterion arwyddocaol a:
- pharhau i weithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ddatblygu’r gwasanaeth Moderneiddio Atwrneiaethau Arhosol (MLPA), gan ganolbwyntio ar ddylunio gwasanaethau a’r newidiadau deddfwriaethol sydd eu hangen i gefnogi profion byw yn y dyfodol a gweithredu Deddf Atwrneiaethau 2023
- goruchwylio gweithrediad llwyddiannus newid ffioedd atwrneiaethau arhosol
- dechrau r Prosiect Ymchwiliadau i foderneiddio a gwella’r gwasanaeth ymchwilio i fynd i’r afael ‘r galw cynyddol, a sicrhau bod y gwasanaeth yn diwallu anghenion y dyfodol
- cryfhau gallu data sefydliadol Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus drwy gyflwyno model perchnogaeth data, polis au data, safonau ac arferion gorau i sicrhau uniondeb a dibynadwyedd data ar draws y Swyddfa
- goruchwylio gwaith cydgrynhoi gofod swyddfa yn Nottingham Embankment House, gan leihau’r defnydd o ddau lawr i un a gwella effeithlonrwydd, integreiddio a chynaliadwyedd
- cryfhau’r dull portffolio drwy gyflwyno log gwersi a ddysgwyd canolog a gwella dogfennaeth cychwyn prosiectau
- cynnal adolygiadau sicrwydd o brosiectau portffolio
- goruchwylio prosiectau allweddol Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan gynnwys penodi panel newydd o ddirprwyon
Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
Mae’r pwyllgor yn rheoli ac yn cynghori ar sut y gellir hwyluso gwelliannau ac yn monitro cynnydd ar ymatebion y rheolwyr i risgiau a nodwyd. Mae’r pwyllgor hefyd yn cymeradwyo gwaith archwiliadau mewnol ac allanol, yn asesu a yw polis au cyfrifyddu yn gywir ac yn cael eu cymhwyso’n briodol i drafodion Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac yn darparu argymhellion i’r Swyddog Cyfrifyddu ar bob mater y mae’r pwyllgor yn ei ystyried yn briodol.
Cadeirydd: Martyn Burke, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd
Yn ogystal derbyn adroddiadau gwrth-dwyll a sicrhau gwybodaeth chwarterol, ac adroddiadau blynyddol ar iechyd a diogelwch a pharhad busnes, rhoddodd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg sicrwydd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a Bwrdd Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar reoli’r fframwaith risg, risgiau penodol, a’u camau lliniaru.
Adolygodd y gofrestr risg strategol ym mhob cyfarfod a chomisiynodd archwiliadau manwl i sicrwydd i bynciau, gan gynnwys cyfraddau cwblhau dysgu gorfodol a chontractau masnachol trydydd parti.
Llofnododd adroddiad blynyddol a chyfrifon 2024 i 2025, gan ganiat u iddynt gael eu cyflwyno gerbron y Senedd fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
Cylch gorchwyl
Mae cylch gorchwyl bwrdd a phwyllgorau Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unol :
- ‘Canllawiau ar effeithiolrwydd bwrdd’ (2018) a baratowyd gan y Cyngor Adrodd Ariannol
- ‘Safon llywodraethu da ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus’ (2004) wedi’i baratoi gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth a’r Swyddfa Rheolaeth Gyhoeddus Cyf.
Tabl Presenoldeb Bwrdd/Pwyllgor Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2025 i 2026
| Bwrdd Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus |
Y Pwyllgor Gweithredol |
Y Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd (ARAC) |
Bwrdd Portffolio a Newid | |||||
| Nifer yrcyfarfodyddra fynychwyd |
Nifer y cyfarfodydd cymwys |
Nifer yrcyfarfodyddra fynychwyd |
Nifer y cyfarfodydd cymwys |
Nifer yrcyfarfodyddra fynychwyd |
Nifer y cyfarfodydd cymwys |
Nifer yrcyfarfodyddra fynychwyd |
Nifer y cyfarfodydd cymwys |
|
| Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr | ||||||||
| Amy Holmes (tan 21 Ebrill 2025) | 0 | 1 | ||||||
| Ruth Duffin (o 22 Ebrill 2025)* | 5 | 5 | 2 | 12 | 3 | 4 | 8 | 10 |
| Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfreithiol a Sicrhau Gwybodaeth | ||||||||
| Peter Boyce | 4 | 5 | 12 | 12 | 3 | 4 | 10 | 11 |
| Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog (Rhannu Swydd) | ||||||||
| Ruth Duffin (tan 21 Ebrill 2025) | 1 | 1 | ||||||
| Amy Shaw (tan 5 Medi 2025) | 3 | 3 | 5 | 5 | 2 | 2 | 4 | 5 |
| Emma Sharp (o 26 Awst 2025 tan 16 Ionawr 2026)* | 5 | 2 | 2 | 5 | 5 | 3 | 4 | |
| Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Canolog | ||||||||
| Emma Sharp (o 19 Ionawr 2026) | 1 | 1 | 3 | 3 | 2 | 2 | ||
| Cyfarwyddwr Trawsnewid | ||||||||
| Lee Hiorns (o 19 Ionawr 2026) | 1 | 1 | 3 | 3 | 1 | 1 | 2 | 2 |
*Symudodd Amy Holmes i r l arall ar 17 Mawrth 2025 ond cadwodd gyfrifoldebau Swyddog Cyfrifyddu a Gwarcheidwad Cyhoeddus tan 21 Ebrill 2025. *Rhannwyd y Gyfarwyddiaeth Strategaeth a Gwasanaethau Canolog yn Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Canolog a Chyfarwyddiaeth Trawsnewid o 19 Ionawr 2026.
| Bwrdd Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus |
Y Pwyllgor Gweithredol |
Y Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd (ARAC) |
Bwrdd Portffolio a Newid | |||||
| Nifer yrcyfarfodyddra fynychwyd |
Nifer y cyfarfodydd cymwys |
Nifer yrcyfarfodyddra fynychwyd |
Nifer y cyfarfodydd cymwys |
Nifer yrcyfarfodyddra fynychwyd |
Nifer y cyfarfodydd cymwys |
Nifer yrcyfarfodyddra fynychwyd |
Nifer y cyfarfodydd cymwys |
|
| Prif Swyddog Gweithredu | ||||||||
| Julie Lindsay (tan 30 Mehefin 2025) | 0 | 1 | 2 | 3 | 3 | 3 | ||
| Sara O Byrne (o 7 Gorffennaf 2025) | 3 | 3 | 8 | 9 | 2 | 2 | 7 | 8 |
| Cyfarwyddwr Cyllide | ||||||||
| Adrian Hannell | 5 | 5 | 2 | 4 | ||||
| Uwch Bartner Busnes Cyllid | ||||||||
| Louisa Harrison | 5 | 5 | 10 | 12 | 3 | 4 | 10 | 11 |
| Cadeirydd Anweithredol y Bwrdd | ||||||||
| Alison Sansome | 5 | 5 | ||||||
| Aelod Anweithredol o r Bwrdd: | ||||||||
| Cadeirydd ARAC Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus | ||||||||
| Martyn Burke | 4 | 5 | 4 | 4 | ||||
| Aelod Anweithredol o r Bwrdd | ||||||||
| Greig Early | 5 | 5 | 4 | 4 | 11 | 11 | ||
| Veronika Neyer | 5 | 5 | 4 | 4 | ||||
| Aelod Annibynnol o ARAC Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus | ||||||||
| Emir Feisal (tan 3 Gorffennaf 2025) | 0 | 1 |
Archwilio Mewnol
Un o rolau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw sefydlu a chynnal trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau archwilio mewnol gan Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth (GIAA). Mae’r rhain yn unol ‘r amcanion a’r safonau ar gyfer archwilio mewnol a nodir yn ‘Safonau archwilio mewnol y sector cyhoeddus’ Trysorlys EF. Mae hyn yn galluogi gwerthusiad annibynnol a gwrthrychol o berfformiad rheolwyr wrth gyflawni trefniadau effeithiol llywodraethiant, rheoli risg a rheolaethau mewnol.
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn derbyn cop au o gynlluniau archwilio mewnol blynyddol Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r adroddiad barn terfynol blynyddol. Hysbysir y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Swyddfa’r Cabinet am unrhyw dwyll neu afreoleidd-dra o fewn y diffiniad a nodir gan Drysorlys EF.
Cynhaliodd GIAA 4 archwiliad ar ran Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2025 i 2026. Gellir graddio aseiniadau archwilio mewnol a gwblhawyd fel rhai sylweddol, cymedrol, cyfyngedig, neu anfoddhaol. Diffinnir y graddfeydd hyn gan GIAA fel a ganlyn:
- Sylweddol: Mae’r fframwaith llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth yn ddigonol ac yn effeithiol
- Cymedrol: Mae angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth
- Cyfyngedig: Mae gwendidau sylweddol yn fframwaith llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth fel y gallai fod neu y gallai ddod yn annigonol ac aneffeithiol
- Anfoddhaol: Mae gwendidau sylfaenol yn fframwaith llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth fel ei fod yn annigonol ac yn aneffeithiol neu’n debygol o fethu
Derbyniodd yr archwiliadau a gynhaliwyd y sgoriau canlynol:
| Teitl yr archwiliad | Sg r |
| Trin Cwynion | Cyfyngedig |
| Rheoli Cyllideb | Sylweddol |
| Parhad Busnes | Cymedrol |
| Gweithredu Polisi | Cyfyngedig |
Rheoli risg, rheolaeth a sicrwydd
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyson o ran rheoli risg. Defnyddir rheoli risg i’n rhybuddio am fygythiadau gwirioneddol neu faterion sy’n dod i’r amlwg, sy’n debygol o effeithio ar gyflawniad ein hamcanion.
Mae archwaeth risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei lunio gan swyddogaethau statudol y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’r prif risgiau a ystyriwyd dros y flwyddyn wedi’u manylu yn yr adran nesaf.
Mae ein t m sicrhau wedi cyflawni gwelliannau mewn meysydd gan gynnwys rheoli risg a chanfod twyll. Er enghraifft, gwnaed gwelliannau pellach i’n cofrestr risg strategol, gan gynnwys dull mwy trylwyr o asesu sgoriau tebygolrwydd ac effaith
yn unol chanllawiau arfer gorau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn unol chynlluniau trawslywodraethol i ddatblygu swyddogaethau gwrth-dwyll, rydym wedi gweithio i wella gallu canfod twyll Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gyda’r ddarpariaeth yn mynd rhagddi’n dda ar gynllun gweithredu y cytunwyd arno gydag Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus, gan gynnwys lansio Strategaeth Gwrth-dwyll a dogfennau Polisi ac Ymateb y Swyddfa.
Yn eu hadroddiad barn terfynol blynyddol ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n cwmpasu 2025 i 2026, mae’r GIAA wedi rhoi barn flynyddol ‘Gymedrol’ i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Diffinnir barn gymedrol fel ‘mae angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth’.
Canfu gwaith GIAA yn ystod 2025 i 2026 fod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i gynnal fframwaith llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth gadarn ar y cyfan. Nododd gweithgarwch archwilio gyfleoedd i gryfhau llywodraethu gweithredol, adrodd a goruchwylio, a gwella hyfforddiant, arweiniad a chasglu gwersi a ddysgwyd ymhellach. Bydd y Swyddfa n parhau i ganolbwyntio ar y meysydd hyn i gefnogi darpariaeth gwasanaethau effeithiol a gwelliant parhaus.
Risgiau allweddol
Yn ystod 2025 i 2026, adnewyddodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus y disgrifiadau risg, y rheolaethau ac archwaeth risg ar gyfer ei risgiau strategol, a chynhaliodd weithdy risg gyda Bwrdd y Swyddfa i sicrhau bod ei chofrestr risg gorfforaethol yn cyd-fynd blaenoriaethau strategol y sefydliad. Mae’r gofrestr yn destun craffu gan weithredwyr y Swyddfa sy’n cynnal archwiliad manwl rheolaidd o risg benodol, i herio perchnogion risg ar reoli rheolaethau ac asesu unrhyw oblygiadau ehangach sy’n gysylltiedig ‘r risg. Mae’r pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn darparu her bellach bob chwarter sy’n cynnwys adolygiad llawn o’r sefyllfa risg bresennol.
Nid yw’r risgiau allweddol a reolwyd eleni yn newydd, ond maent wedi’u mireinio o ran eu disgrifiad a’u harchwaeth risg, ac maent yn cynnwys y canlynol:
Risg
Methu chyflawni trawsnewid cydlynol, ar draws y sefydliad ar gyflymder a graddfa, gan arwain at ansefydlogrwydd gwasanaeth ac anallu i gyflawni amcanion strategol ac ariannol.
Archwaeth risg
Agored
Effeithiau Allweddol
-
Llai o allu i gyflawni effeithlonrwydd a gwireddu manteision trawsnewid
-
Mwy o bwysau ariannol a risg i gynaliadwyedd hirdymor
-
Cyflwyno anghyson ar draws prosiectau, gan gyfyngu ar ganlyniadau cyffredinol y sefydliad
-
Oedi i fodel gweithredu yn y dyfodol ac amcanion strategol
-
Ymddieithrio o’r gweithlu a llai o eglurder ar flaenoriaethau
-
Costau cynyddol oherwydd dyblygu a diffyg goruchwyliaeth strategol
-
Anghydnawsedd rhwng galw, capasiti a blaenoriaethu
-
Tarfu gweithredol a pherfformiad gwasanaeth is
Lliniaru Risg
-
Llywodraethiant portffolio cryfach, gan gynnwys adolygiadau sicrhau a cherrig milltir
-
Cychwyn prosiectau n well drwy ymgorffori gwersi a ddysgwyd
-
Adrodd portffolio gwell ac atebolrwydd cliriach am gyflawni
-
Aliniad cryfach rhwng cynllunio gweithredol, ariannol a dadansoddol
-
Rhagolygon rheolaidd a phrofion straen o’r galw a rhagdybiaethau ariannol
-
Mwy o ffocws ar barodrwydd busnes, ymgysylltiad staff, a chyfathrebu
-
Alinio cynllunio a recriwtio’r gweithlu ‘r galw am drawsnewid
-
Mwy o dryloywder
Effaith Lliniaru
-
Gwell goruchwyliaeth, cysondeb ac adnabod risgiau cyflawni yn gynnar
-
Gwell aliniad rhwng strategaeth, galw, a’r capasiti sydd ar gael
-
Parodrwydd sefydliadol cynyddol ac ymgysylltiad staff newid
-
Cynllunio ariannol a galw mwy cadarn
-
Llai o ddyblygu a defnydd mwy effeithlon o adnoddau
-
Mwy tebygol o gyflwyno manteision trawsnewid ar gyflymder a graddfa o ran gweithgarwch i gefnogi cynllunio a blaenoriaethu adnoddau
Risg
Methu chyflawni swyddogaethau statudol Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn l safonau gwasanaeth y cytunwyd arnynt, gan arwain at brofiad gwael i gwsmeriaid, amddiffyniad gwan I cwsmeriaid, a niwed i enw da.
Archwaeth risg
Agored
Effeithiau Allweddol
-
Dirywiad mewn perfformiad gwasanaeth yn erbyn targedau allweddol oherwydd galw uchel parhaus
-
Mwy o l-groniadau, yn enwedig mewn ymchwiliadau a gwaith achos
-
Llai o amseroldeb wrth gyflawni swyddogaethau statudol (e.e. gweithgareddau adrodd a goruchwylio)
-
Pwysau capasiti yn arwain at ddibyniaeth ar oramser a mesurau dros dro
-
Risg i ddiogelu canlyniadau i gwsmeriaid
-
Niwed i enw da yn deillio o ddarpariaeth gwasanaeth gwael a safonau heb eu bodloni
Lliniaru Risg
-
Monitro perfformiad parhaus trwy gardiau sg r cytbwys ac olrhain dangosyddion perfformiad allweddol
-
Rhagweld y galw ac adolygu rheolaidd drwy fforymau llywodraethiant
-
Rheoli’r gweithlu’n weithredol, gan gynnwys ymgyrchoedd recriwtio a defnyddio goramser
-
Cyflwyno cynlluniau adfer a gwella ar gyfer ymchwiliadau a lleihau l-groniadau
-
Defnyddio staff aml-sgil i fynd i’r afael phwyntiau pwysau
-
Ymgysylltu parhaus dirprwyon a rhanddeiliaid i gynnal lefelau gwasanaeth
-
Cryfhau cynllunio ariannol i gefnogi gofynion adnoddau cynyddol
Effaith Lliniaru
-
Gwelededd a rheolaeth well o berfformiad gweithredol
-
Sefydlogi darpariaeth gwasanaethau mewn ardaloedd galw uchel
-
Cynyddu capasiti a gwydnwch trwy recriwtio a chynllunio’r gweithlu
-
Gostyngiad mewn l-groniadau a gwell amseroldeb prosesau allweddol
-
Gwell aliniad rhwng y galw a’r adnoddau sydd ar gael
-
Cyflawni swyddogaethau statudol craidd yn barhaus, gan ddiogelu canlyniadau cwsmeriaid
Risg
Methu datblygu a chadw gweithlu medrus i gyflawni amcanion busnes Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus a phontio trwy drawsnewid.
Archwaeth risg
Gofalus
Effeithiau Allweddol
-
Capasiti a gallu’r gweithlu n annigonol i gyflawni amcanion busnes
-
Cynnydd mewn cyfraddau gadael staff a heriau wrth gadw staff medrus
-
Cynhyrchiant a pherfformiad is yn erbyn metrigau pobl allweddol
-
Lefelau uwch o absenoldeb oherwydd salwch yn effeithio ar gyflawniad gweithredol
-
Llai o ymgysylltiad a mor l staff
-
Risg uwch o ymddygiad gwael yn y gweithle, gan gynnwys bwlio a gwahaniaethu
-
Bylchau gallu sy’n cyfyngu ar gyflawni trawsnewid a model gweithredu’r dyfodol
-
Effaith negyddol ar ddiwylliant sefydliadol a lles gweithwyr
Lliniaru Risg
Datblygu a gweithredu cynllun gweithlu strategol sy’n cyd-fynd ‘r model gweithredu targed
-
Cynllunio olyniaeth ar gyfer rolau hanfodol ac anghenion gallu yn y dyfodol
-
Camau gweithredu i leihau’r amser i hurio a gwella canlyniadau recriwtio
-
Buddsoddi mewn dysgu, datblygiad, a gallu arweinyddiaeth ar draws pob lefel
-
Cyflwyno llwybrau gyrfa a rhaglenni adeiladu gallu wedi’u targedu
-
Cryfhau gallu rheoli llinell, gan gynnwys cefnogaeth lles
-
Cyflawni cynlluniau ymgysylltu a mentrau diwylliant sefydliadol
-
Monitro a rheoli absenoldeb salwch ac ymyriadau lles
Effaith Lliniaru
-
Cynllunio gweithlu gwell wedi’i alinio ag anghenion sefydliadol yn y dyfodol
-
Cynyddu effeithlonrwydd recriwtio a chryfhau piblinellau talent
-
Gwell gallu ac arweinyddiaeth ar draws y sefydliad
-
Gwell ymgysylltiad staff, cyfraddau cadw a lles staff
-
Lefelau absenoldeb is a chynhyrchiant gwell
-
Diwylliant sefydliadol cryfach yn cefnogi cyflawni newid
-
Mwy o wydnwch a chapasiti i gyflawni amcanion strategol a thrawsnewidiol
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn adrodd ar risgiau ar lefel strategol. Mae rheoli risg yn cyd-fynd ‘n hamcanion sefydliadol ac yn cysylltu ‘r egwyddorion a nodir yn Llyfr Oren Llywodraeth EF (‘Rheoli Risg Egwyddorion a Chysyniadau’).
Caiff y gofrestr risg strategol ei hadrodd a’i thrafod gan bwyllgor gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus er mwyn rhoi sicrwydd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ynghylch lliniaru a rheoli risgiau.
Mae’r t m risg a sicrhau n casglu’r wybodaeth ddiweddaraf gan berchnogion risg o bob rhan o’r sefydliad. Mae’r t m risg yn dwyn perchnogion y risg i gyfrif lle bo angen ac yn defnyddio gwybodaeth a phrofiad risg i gefnogi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyda chyngor ac arweiniad ynghylch rheoli risg, er mwyn sicrhau bod risg yn cael ei rheoli’n dda yn y Swyddfa.
Mae cynrychiolwyr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd yn trafod rheoli risg mewn cyfarfodydd misol rheolaidd gyda Phartneriaid Busnes Risg ehangach y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac yn chwarterol yng Ngrwp Cynghori ar Risg y Weinyddiaeth Gyfiawnder, dan gadeiryddiaeth Canolfan Ragoriaeth Risg y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae gan y fforymau hyn gynrychiolwyr o bob rhan o’r Weinyddiaeth, gan gynnwys cyrff hyd braich, ac maent yn cyfarfod i drafod arfer gorau a newidiadau mewn arfer neu weithdrefn, yn ogystal chydweithio.
Rydym yn parhau i adrodd risgiau i bwyllgor gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder bob chwarter fel rhan o fframwaith rheoli risg ehangach yr adran. Mae cefnogaeth y Pwyllgor Gweithredol i’r rhaglen newid tymor hwy yn bwysig wrth liniaru’r risgiau hyn.
Y risgiau allweddol a adroddwyd yn ystod y flwyddyn yw:
- Trawsnewid: y risg o fethu chyflawni trawsnewid cydlynol, ar draws y sefydliad ar gyflymder a graddfa, gan effeithio ar sefydlogrwydd gwasanaeth a chyflawniad amcanion strategol ac ariannol
- Gweithrediadau: y risg o fethu chyflawni swyddogaethau statudol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn l safonau gwasanaeth y cytunwyd arnynt, gan arwain at brofiad gwael i gwsmeriaid, llai o ddiogelwch i gwsmeriaid a niwed i enw da
- Pobl: y risg o fethu datblygu a chadw gweithlu medrus i gefnogi cyflawni amcanion a thrawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn annog arloesedd ac mae ganddi ymagwedd gytbwys at risg. Er enghraifft, mae ganddi fwy o oddefiant risg ar gyfer datblygu galluoedd digidol i wella cynhyrchion Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ond goddefgarwch is mewn meysydd fel sicrhau bod pryderon yn cael asesiad ac ymchwiliad i gefnogi diogelu pobl agored i niwed a’u hasedau.
Fframwaith llywodraethiant a sicrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Mae bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhan o osod y cyfeiriad strategol a’r fframwaith ar gyfer gweithrediadau ac mae’n gyfrifol am sicrhau safonau uchel o lywodraethiant corfforaethol bob amser. Mae’n gosod archwaeth risg yr asiantaeth ac yn sicrhau bod fframwaith rheoli priodol ar waith sy’n rhoi sicrwydd ar asesiadau risg.
Pwyllgorau ac is-bwyllgorau’r bwrdd
Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
Yn rhoi cyngor a sicrwydd i’r bwrdd ar risg, rheolaeth a llywodraethiant.
Bwrdd Portffolio a Newid
Yn goruchwylio ac yn craffu ar risgiau penodol i brosiectau a rhaglenni.
Pwyllgor Gweithredol
Cyfrifoldeb o ddydd i ddydd am fonitro risg.
Pwyllgor Iechyd a Diogelwch
Goruchwylio a chraffu ar risgiau mewn perthynas ag iechyd a diogelwch.
Perchnogion risg a chefnogwyr
Cyfrifol am sicrhau bod risgiau strategol yn cael eu deall yn briodol, yn cael eu rheoli’n weithredol, eu hadrodd a’u monitro.
Grwp Cynghori ar Risg y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Yn edrych ar risgiau ar draws y Weinyddiaeth Gyfiawnder, asiantaethau a chyrff hyd braich, ac yn sicrhau bod risgiau a rennir yn cael eu hadrodd fel y cyfryw a bod modd cynyddu risgiau asiantaethau yn l yr angen.
Archwiliadau mewnol Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth
Mae archwiliadau mewnol yn adlewyrchu ac yn digwydd yn y meysydd lle mae’r risg strategol uchaf ac yn rhoi goruchwyliaeth a mewnwelediad ychwanegol.
Diwygio swyddogaethol
Mae swyddogaethau corfforaethol a phroffesiynol yn chwarae rhan hanfodol yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac fe g nt eu darparu n ganolog gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gefnogi cydweithio mwy effeithiol, gyrru effeithlonrwydd a chryfhau’r sefydliad. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau dadansoddol, maes masnachol, cyfathrebu, gwrth-dwyll, dyled, digidol, cyllid, grantiau, pobl, cyflawni prosiectau, eiddo a diogelwch. Mae’r model Arweinyddiaeth Swyddogaethol canolog yn dwyn ynghyd arbenigwyr mewn timau unedig sengl, ac yn unol gofynion gweithredu a osodwyd trwy Safonau Swyddogaethol cyffredinol y Llywodraeth.
Asesir aeddfedrwydd swyddogaethau drwy ‘wiriadau iechyd’ rheolaidd, a gefnogir gan hunanasesiadau sy n defnyddio fframweithiau asesu gwelliant parhaus Swyddfa’r Cabinet.
Adroddiadau chwythu’r chwiban
Mae chwythu’r chwiban yn ymwneud datgelu gwybodaeth yn fewnol neu’n allanol i ddatgelu camweddau yn y gorffennol, y presennol neu’r potensial i gael camweddau mewn sefydliad. Os gofynnir i unigolyn wneud rhywbeth, neu os yw’n ymwybodol o weithredoedd eraill, y mae n eu hystyried yn sylfaenol anghywir, yn anghyfreithlon, neu sydd ‘r potensial i beryglu eraill neu dorri gwerthoedd Cod y Gwasanaeth Sifil, dylai godi pryder chwythu’r chwiban. Mae’r broses ar gyfer codi pryder chwythu’r chwiban yn cael ei chyhoeddi’n fewnol i staff yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gyda thudalen fewnrwyd bwrpasol dolen i bolisi a chanllawiau chwythu’r chwiban y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Mae gennym swyddog enwebedig annibynnol sydd ‘r r l o roi cefnogaeth a chyngor i staff ynghylch sut i godi pryder. Mae Llinell Gymorth Uniondeb y Gwasanaeth Sifil hefyd ar gael i staff gysylltu hi os nad ydyn nhw’n teimlo’n gyfforddus yn codi pryder gyda’r rheolwyr. Gellir hefyd adrodd am unrhyw bryderon neu amheuon ynghylch gweithgarwch twyllodrus yn uniongyrchol ac yn ddienw i Ganolfan Arbenigedd Gwrth-Dwyll y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Cyhoeddwyd nifer o negeseuon cyfathrebu mewnol yn ystod y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth gyda’n staff o chwythu r chwiban, twyll a diogelwch a’r prosesau adrodd priodol.
Derbyniodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 5 adroddiad chwythu’r chwiban rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026, ac ymchwiliwyd i bob un ohonynt yn ffurfiol. Nododd un ymchwiliad gamwedd, ac adroddwyd y gwersi a ddysgwyr i r Prif Swyddog Gweithredol. Daeth un achos i’r casgliad nad oedd unrhyw gamwedd wedi digwydd. Mae’r 3 ymchwiliad sy’n weddill yn parhau.
Rheolau Penodiadau Busnes
Mae gweision sifil, ar bob lefel, yn ddarostyngedig i reolau ynghylch derbyn penodiadau allanol ar l gadael y Gwasanaeth Sifil. Pwrpas y Rheolau Penodiadau Busnes yw osgoi:
- y risg y gallai cyflogwr ennill mantais amhriodol drwy benodi cyn-swyddog sy’n dal gwybodaeth am ei gystadleuwyr, neu am bolisi llywodraeth sydd ar ddod
- unrhyw amheuaeth y gallai penodiad fod yn wobr am ffafrau yn y gorffennol
- y risg y bydd cyn-swyddog yn manteisio’n amhriodol ar fynediad breintiedig at gysylltiadau yn y llywodraeth
- cwestiynu neu feirniadu annheg o uniondeb cyn-weision sifil
Mae manylion llawn am y Rheolau Penodiadau Busnes, pryd maen nhw’n berthnasol a’r broses ymgeisio ar gael i holl staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus drwy fewnrwyd y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn ystod 2025 i 2026, ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau gan weithwyr y Swyddfa mewn perthynas ‘r rheolau hyn. Darperir nodiadau atgoffa rheolaidd i uwch arweinwyr o fewn y Swyddfa i sicrhau cydymffurfiaeth ‘r rheolau.
Parhad busnes
Dros y flwyddyn ddiwethaf, cwblhawyd adolygiad o’r holl asesiadau effaith busnes a chynlluniau parhad busnes i gyd-fynd strwythur sefydliadol presennol Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r gweithgareddau hanfodol. Fe wnaethom hefyd adnewyddu ein Cynllun Rheoli Digwyddiadau a phrofi’r trefniadau hyn trwy ymarfer pen bwrdd ymosodiadau seibr gyda staff uwch. Gwnaeth Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus gynnydd sylweddol o ran aeddfedrwydd parhad busnes, gyda’i sg r hunanasesu parhad busnes yn gwella o 74% i 94%, fel y cyfeirir ato yn Adroddiad Parhad Busnes Adrannol y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Yn y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth ymhellach o gynlluniau parhad busnes Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus a chynnal hyfforddiant senarios ychwanegol i staff. Bydd y camau hyn yn cefnogi ymateb rheoli digwyddiadau r Swyddfa i fod yn effeithiol.
Gwrth-dwyll, llwgrwobrwyo a thwyll
Gwnaed gwaith sylweddol yn ystod 2025 i 2026 i ddatblygu a chynyddu aeddfedrwydd dull gwrth-dwyll, llwgrwobrwyo a thwyll Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan gynnwys gwella cydymffurfiaeth ‘r safon swyddogaethol. Parhaodd y Swyddfa i flaenoriaethu codi ymwybyddiaeth o dwyll ymhlith staff trwy dudalen fewnrwyd bwrpasol, amrywiaeth o lwyfannau cyfathrebu mewnol, a chydweithio Dysgu a Datblygu i ddarparu hyfforddiant a gweithdai gwell ar draws y sefydliad.
Parhaodd Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd i gyflwyno cyfres o Asesiadau Risg o Dwyll ar draws meysydd busnes blaenoriaeth. Mae’r asesiadau hyn yn elfen sylfaenol o ymateb effeithiol i wrth-dwyll, gan alluogi’r sefydliad i nodi a deall ei wendidau i dwyll. Ochr yn ochr ag asesiadau cychwynnol o effaith twyll a gwaith mesur colledion twyll, mae’r gweithgareddau hyn wedi llywio datblygiad Asesiad Risg Twyll Menter Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gyda gwaith pellach wedi’i gynllunio drwy gydol 2026 i 2027.
Mae ymwybyddiaeth gynyddol wedi cyfrannu at well gwaith canfod ac adrodd ar dwyll. Mae achosion o dwyll amserlenni mewnol wedi arwain at gamau disgyblu, ac atgyfeiriadau at Hwb Twyll Mewnol Swyddfa’r Cabinet i gefnogi sancsiynau trawslywodraethol. Mae Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i ymgysylltu’n weithredol rhwydweithiau gwrth-dwyll adrannol, gyda chynrychiolaeth yng nghyfarfodydd Is-bwyllgor Gwrth-dwyll y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Phwyllgor Rhanddeiliaid Risg Fewnol.
Cydymffurfiaeth cyflenwyr
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dilyn model caffael y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau, lle rydym yn defnyddio contractau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder drwy fframweithiau presennol Gwasanaethau Masnachol y Goron sydd eisoes ar waith. Mae rheolwyr contract gweithredol wedi’u nodi ledled y Swyddfa i reoli’r contractau a’r cyflenwyr hynny o ddydd i ddydd. Ar gontractau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chontractau trawslywodraethol, mae rheolwyr contract gweithredol y Swyddfa n darparu gwybodaeth am berfformiad cyflenwyr i reolwyr contract canolog.
Iechyd a diogelwch
Mae Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ei chyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles ei weithwyr ac i bawb sy’n defnyddio ei safle. Rydym yn cydymffurfio ‘r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a phob rheoliad a deddfwriaeth berthnasol arall yn l yr angen.
Mae gennym strategaeth iechyd a diogelwch ar waith sy’n cyd-fynd ‘n hamcanion busnes ac sydd wedi’i datblygu i wella iechyd a diogelwch galwedigaethol, yn ogystal diogelwch rhag t n.
Mae Dirprwy Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Canolog yn gyfrifol am y Gofrestr Iechyd a Diogelwch, wedi’i llywio gan asesiadau risg lleol. Mae r gofrestr hon yn destun adolygiad a chraffu yn y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch i roi sicrwydd i’r Prif Weithredwr fel deiliad y ddyletswydd.
Fe’i rhennir hefyd gyda Phwyllgor T n, Iechyd a Diogelwch y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac fe’i cyhoeddir ar ein mewnrwyd.
Mae ein swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham yn cael eu rheoli gan un t m iechyd a diogelwch. Mae’r ddau safle yn cyflwyno eu heriau eu hunain, ond trwy hyfforddiant effeithiol, cyfathrebu, glynu wrth ddeddfwriaeth ac ymgysylltu n rhagweithiol, gall y t m reoli a datrys problemau wrth iddynt godi.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i ddarparu cefnogaeth i’n staff yn eu gweithle, boed gartref neu yn y swyddfa. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn rydym wedi cwblhau 1309 o asesiadau offer sgrin arddangos ar gyfer staff, yn ogystal chyfanswm o 224 o sesiynau ymsefydlu iechyd a diogelwch i staff ar draws ein swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham. Rydym hefyd wedi datblygu a defnyddio offer TG newydd i reoli DSE ac asesiadau risg eraill er mwyn gwella gwaith cadw cofnodion a symleiddio rheolaeth camau gweithredu sy’n weddill.
Yn ystod 2025 i 2026, ar draws y ddwy swyddfa, gwelsom 24 o ddamweiniau, 27 o ddigwyddiadau (yr oedd 20 ohonynt yn ddigwyddiadau iechyd cyffredinol), ac 11 o ddamweiniau a fu bron digwydd. Mae’r ffigurau hyn yn cynrychioli cynnydd cyffredinol bach o 2024 i 2025, pan gofnodwyd 19 o ddamweiniau, 32 o ddigwyddiadau (yr oedd 20 ohonynt yn ddigwyddiadau iechyd cyffredinol), a 7 o ddamweiniau a fu bron digwydd. Nid oedd angen gwneud unrhyw adroddiadau i r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o dan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus.
Mae Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ymrwymo i wella iechyd a diogelwch yn barhaus. Drwy gydol y flwyddyn, fe wnaethom barhau i fonitro ac adolygu nifer yr ymatebwyr brys sydd gennym ar waith i sicrhau digon o gyflenwad ym mhob safle Swyddfa r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Fe wnaethom gynllunio a threfnu hyfforddiant ar gyfer wardeiniaid t n, swyddogion rheoli digwyddiadau, gweithredwyr cadeiriau achub a gweithwyr cymorth cyntaf. Eleni, mae’r t m iechyd a diogelwch wedi gweithio gyda’r t m dysgu a datblygu i gael cymwysterau cydnabyddedig ar gyfer swyddogion cymorth cyntaf ychwanegol (18 aelod o staff) a darparodd hyfforddiant cadair achub i 2 aelod o staff.
Casgliad y Swyddog Cyfrifyddu
Fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n gyfrifol am adolygu effeithiolrwydd system rheolaeth fewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan gynnwys y fframwaith rheoli risg. Mae fy adolygiad yn cael ei lywio gan waith yr archwilwyr mewnol a’r rheolwyr gweithredol o fewn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Maent yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal y fframwaith rheolaeth fewnol ac ymateb yn briodol i sylwadau a wneir gan yr archwilwyr allanol yn eu llythyr rheoli ac adroddiadau eraill. Mae’r system rheolaeth fewnol wedi bod ar waith, gyda m n addasiadau, ar gyfer y flwyddyn 2025 i 2026, a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon.
Yn eu hadroddiad blynyddol, mae ein harchwilwyr mewnol wedi rhoi lefel sicrhau gyffredinol o ‘gymedrol’, sy’n golygu bod angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth. Rwyf wedi cael cyngor ar oblygiadau canlyniadau fy adolygiad gan y bwrdd a’r pwyllgor archwilio a sicrhau risg. Rwy’n fodlon bod cynllun i fynd i’r afael gwendidau yn y system rheolaeth fewnol a sicrhau bod gwelliant parhaus y system ar waith. Rwyf hefyd yn fodlon bod yr holl risgiau perthnasol wedi’u nodi a bod y risgiau hynny’n cael eu rheoli’n briodol trwy ein cofrestr risg.
Ruth Duffin
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (Dros Dro) 8 Gorffennaf 2026
Datganiadau ariannol
Datganiad o incwm net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026
| 2025 i 2026 | 2024 i 2025 | |||
| Nodyn | £000 | £000 | ||
| Refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid | 2 | (128,484) | (126,221) | |
| Cyfanswm incwm gweithredu | (128,484) | (126,221) | ||
| Costau staff | 3 | 83,715 | 83,715 | |
| Costau gweithredu eraill | 3 | 33,820 | 36,281 | |
| Costau dibrisiant, amorteiddio ac amhariad | 3 | 6,676 | 6,909 | |
| Cyfanswm gwariant gweithredu | 124,211 | 121,074 | ||
| Gwarged gweithredol net | (4,273) | (5,147) | ||
| Gwariant cynhwysfawr arall | ||||
| Enillion net wrth ailbrisio eiddo, offer a chyfarpar | 6 | (138) | (21) | |
| Cyfanswm incwm net | (4,411) | (5,168) |
Ni chafwyd unrhyw wariant cynhwysfawr arall yn ystod y flwyddyn. Mae’r holl incwm a gwariant yn deillio o weithgareddau sy’n parhau.
Mae’r nodiadau ar Datganiadau Ariannol yn rhan o’r Datganiadau Ariannol hyn.
Datganiad o’r sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2026
| 31 Mawrth 2026 | 31 Mawrth 2025 | ||
| Nodyn | £000 | £000 | |
| Asedau anghyfredol | |||
| Asedau anniriaethol | 5 | 4,780 | 5,626 |
| Eiddo, offer a chyfarpar | 6 | 1,466 | 1,792 |
| Asedau hawl-i-ddefnyddio | 7 | 7,512 | 3,026 |
| Cyfanswm asedau anghyfredol | 13,758 | 10,444 | |
| Asedau cyfredol | |||
| Symiau masnach derbyniadwy a symiau derbyniadwy eraills | 9 | 12,223 | 12,868 |
| Arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod | 10 | 19,313 | 13,024 |
| Cyfanswm asedau cyfredol | 31,536 | 25,892 | |
| Cyfanswm asedau | 45,294 | 36,336 | |
| Rhwymedigaethau cyfredol | |||
| Symiau masnach taladwy a symiau taladwy eraill | 11 | (38,741) | (33,620) |
| Rhwymedigaethau ariannol eraill | 12 | (2,378) | (2,648) |
| Darpariaethau | 13 | (1,788) | (3,588) |
| Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol | (42,907) | (39,856) | |
| Cyfanswm asedau llai’r rhwymedigaethau cyfredol | 2,387 | (3,520) | |
| Rhwymedigaethau anghyfredol | |||
| Rhwymedigaethau ariannol eraill | 12 | (4,816) | - |
| Darpariaethau | 13 | (1,087) | - |
| Cyfanswm rhwymedigaethau anghyfredols | (5,903) | - | |
| Cyfanswm asedau llai’r rhwymedigaethau | (3,516) | (3,520) |
| 31 Mawrth 2026 |
31 Mawrth 2025 |
||
| Nodyn | £000 | £000 | |
| Ecwiti trethdalwyr | |||
| Y Gronfa gyffredinol | (3,748) | (3,797) | |
| Cronfa ailbrisio | 232 | 277 | |
| Cyfanswm ecwiti trethdalwyr | (3,516) | (3,520) |
Mae’r nodiadau ar Datganiadau Ariannol yn rhan o’r Datganiadau Ariannol hyn.
Ruth Duffin
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (Dros Dro)
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
8 Gorffennaf 2026
Datganiad llif arian ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2026
| 2025 i 2026 |
2024 2025 |
||
| Nodyn | £000 | £000 | |
| Llifoedd arian o weithgareddau gweithredol | |||
| Gwarged gweithredu net | 4,273 | 5,147 | |
| Addasiadau ar gyfer trafodion tybiannol ac nad ydynt yn arian parod | 3 | 21,576 | 22,198 |
| Gostyngiad mewn symiau masnach derbyniadwy a symiau derbyniadwy eraill | 9 | 1,293 | 264 |
| Balansau rhyngadrannol a setlwyd drwy gronfeydd wrth gefn cyffredinol | 6,358 | 8,864 | |
| Cynnydd/(Gostyngiad) mewn symiau masnach taladwy a symiau taladwy eraill | 11 | 5,121 | (10,950) |
| Mewnlif arian net o weithgareddau gweithredol | 38,621 | 25,523 | |
| Llif arian o weithgareddau buddsoddi | |||
| Prynu eiddo, offer a chyfarpar | 6 | - | 84 |
| Gostyngiad mewn croniadau cyfalaf | 11 | - | (8) |
| Mewnlif/(all-lif) arian net o weithgareddau buddsoddi | - | 76 | |
| Llif arian o weithgareddau ariannu | |||
| Ildio arian parod dros ben i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder | (29,000) | (19,000) | |
| Ad-daliadau prifswm ar brydlesi | 7 | (3,332) | 2,464) |
| All-lif arian net a ddefnyddiwyd mewn gweithgareddau cyllido | (32,332) | (21,464) | |
| Cynnydd net mewn arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod yn ystod y flwyddyn | 10 | 6,289 | 4,135 |
| Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod ar ddechrau’r flwyddyn | 10 | 13,024 | 8,889 |
| Arian parod a symiau cyfwerth ag arian parod ar derfyn y flwyddyn | 10 | 19,313 | 13,024 |
Mae’r nodiadau ar Datganiadau Ariannol yn rhan o’r Datganiadau Ariannol hyn.
Datganiad o newidiadau yn ecwiti trethdalwyr am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026
| Cronfa Gyffredinol |
Cronfa Ailbrisio Wrth Gefn |
Cyfanswm | ||
| Nodyn | £000 | £000 | £000 | |
| Balans ar 1 Ebrill 2025 | (3,797) | 277 | (3,520) | |
| Gwarged gweithredu net am y flwyddyn | 4,273 | - | 4,273 | |
| Ildio arian parod dros ben i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder | (29,000) | - | (29,000) | |
| Addasiadau nad ydynt yn arian parod | ||||
| Ad-daliad tybiannol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder | 3 | 16,156 | - | 16,156 |
| Ffi archwilio allanol dybiannol | 3 | 105 | - | 105 |
| Balansau rhyngadrannol a setlwyd drwy gronfeydd wrth gefn cyffredinol | 6,358 | - | 6,358 | |
| Trosglwyddo asedau o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder | 5 | 1,974 | - | 1,974 |
| Elw net ar ailbrisio | - | - | - | |
| Eiddo, offer a chyfarpar | 6 | - | 138 | 138 |
| Trosglwyddiad ailbrisio | 183 | (183) | - | |
| Balans ar 31 Mawrth 2026 | (3,748) | 232 | (3,516) |
| Cronfa Gyffredinol |
Cronfa Ailbrisio Wrth Gefn |
Cyfanswm | ||
| Nodyn | £000 | £000 | £000 | |
| Balans ar 1 Ebrill 2024 | (15,338) | 445 | (14,893) | |
| Gwarged gweithredu net am y flwyddyn | 5,147 | - | 5,147 | |
| Ildio arian parod dros ben i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder | (19,000) | - | (19,000) | |
| Addasiadau nad ydynt yn arian parod | ||||
| Ad-daliad tybiannol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder | 3 | 15,753 | - | 15,753 |
| Ffi archwilio allanol dybiannol | 3 | 84 | - | 84 |
| Balansau rhyngadrannol a setlwyd drwy gronfeydd wrth gefn cyffredinol | 8,864 | - | 8,864 | |
| Trosglwyddo asedau o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder | 5 | 504 | - | 504 |
| Elw net ar ailbrisio | ||||
| Asedau anniriaethol | 5 | - | - | - |
| Eiddo, offer a chyfarpar | 6 | - | 21 | 21 |
| Trosglwyddiad ailbrisio | 189 | (189) | - | |
| Balans ar 31 Mawrth 2025 | (3,797) | 277 | (3,520) |
Mae’r nodiadau ar Datganiadau Ariannol yn rhan o’r Datganiadau Ariannol hyn.
Nodiadau ar y datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026
1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu
Mae’r datganiadau ariannol hyn wedi’u paratoi yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth 2025 i 2026 a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Mae’r polisïau cyfrifyddu sydd wedi’u cynnwys yn y Llawlyfr yn cymhwyso Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y cawsant eu haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus.
Lle mae’r Llawlyfr yn caniatáu dewis polisi cyfrifyddu, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dewis y polisi sy’n cyflwyno darlun gwir a theg orau. Mae polisïau cyfrifyddu’r Swyddfa wedi’u cymhwyso’n gyson wrth ymdrin ag eitemau a ystyrir yn berthnasol mewn perthynas â’r cyfrifon.
1.a. Sail paratoi
Cyflwynir y datganiadau ariannol mewn punnoedd sterling wedi’u talgrynnu i’r mil agosaf (£000) oni nodir yn wahanol. Paratowyd y cyfrifon hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol, ac eithrio ailbrisio asedau.
Mae’r datganiadau ariannol, ynghyd â’r nodiadau ar dudalennau 103 i 125, wedi’u paratoi ar sail groniadol yn unol â’r cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei hariannu’n bennaf o ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol, ond mae hefyd yn derbyn cyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, o’i chyflenwad seneddol, ac, os oes angen, cyllid i gwrdd ag unrhyw ddiffyg a gynhyrchir. Felly, ystyriwyd ei bod yn briodol mabwysiadu’r sail busnes gweithredol ar gyfer paratoi’r datganiadau ariannol hyn.
1.b. Penderfyniadau cyfrifyddu pwysig a’r prif ffynonellau o ansicrwydd amcangyfrif
Wrth weithredu’r polisïau cyfrifyddu, a ddisgrifir isod, mae’n ofynnol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wneud dyfarniadau, amcangyfrifon a rhagdybiaethau ynghylch symiau cario asedau a rhwymedigaethau nad ydynt yn amlwg o ffynonellau eraill, ac i ddatgelu penderfyniadau perthnasol yma.
Ffynonellau allweddol o ansicrwydd o ran amcangyfrif
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried nad oes unrhyw amcangyfrifon perthnasol wedi’u gwneud wrth gynhyrchu’r datganiadau ariannol.
Penderfyniadau cyfrifyddu hollbwysig
Dyma benderfyniadau arwyddocaol a ddefnyddiwyd wrth gynhyrchu’r datganiadau ariannol.
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod colled credyd disgwyliedig mewn perthynas â symiau masnach derbyniadwy ac asedau contract. Darperir manylion y dechneg amcangyfrif a’r canrannau amhariadau a roddwyd ar waith, a dadansoddiad sensitifrwydd, yn Nodyn 9, Derbyniadau Masnach a symiau derbyniadwy eraill.
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd yn darparu ar gyfer ceisiadau llwyddiannus tebygol yn y dyfodol am ostwng ac eithrio ffioedd a godir, yn seiliedig ar lefelau hanesyddol o ostyngiadau ac eithriadau. Darperir rhagor o fanylion yn Nodyn 9, Derbyniadau Masnach a symiau derbyniadwy eraill.
1.c. Newidiadau mewn polisïau a datgeliadau cyfrifyddu
Safonau newydd a diwygiedig wedi’u mabwysiadu
Mae Llawlyfr Adroddiadau Ariannol 2025 i 2026 yn tynnu’r opsiwn yn ôl i ail-fesur asedau anniriaethol gan ddefnyddio’r model ailbrisio o 1 Ebrill 2025. Gyda chaniatâd Trysorlys EF, mabwysiadodd pob endid yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yr addasiad hwn o IAS 38 yn gynnar. Cymhwyswyd y newid hwn yn rhagolygol gyda gwerthoedd cario ymlaen ar y dyddiad trosglwyddo o 1 Ebrill 2024 bellach yn cael eu hystyried yn gost hanesyddol.
Mae IFRS 17 Contractau Yswiriant yn cael ei weithredu yn y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol o 1 Ebrill 2025, gyda dyddiad trosglwyddo o 1 Ebrill 2024. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi asesu effaith amcangyfrifedig IFRS 17 ar ei datganiadau ariannol drwy adolygu contractau, darpariaethau, asedau a rhwymedigaethau amodol, ac wedi dod i’r casgliad na fydd gweithredu IFRS 17 yn cael effaith sylweddol ar ei datganiadau ariannol ar gyfer 2025 i 2026.
Safonau, gwelliannau a dehongliadau newydd a gyhoeddwyd ond heb fod yn weithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau 1 Ebrill 2025 a heb eu mabwysiadu’n gynnar.
Bydd IFRS 18 yn disodli IAS 1 Cyflwyno Datganiadau Ariannol ac mae’n weithredol ar gyfer cyfnodau adrodd blynyddol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2027 yn y sector preifat. Mae effaith IFRS 18 ar y sector cyhoeddus yn dal i gael ei hasesu, ac nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto ar ddyddiad gweithredu.
Nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried y bydd unrhyw safon neu ddehongliad newydd neu ddiwygiedig arall yn cael effaith sylweddol.
Diwygiad oherwydd peidio â chyhoeddi Mynegeion Prisiau Cynhyrchwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Caiff pob ased heblaw tir ac adeiladau ac asedau sy’n cael eu hadeiladu eu hailbrisio ym mhob cam adrodd gan ddefnyddio’r PPI a baratowyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ni chynhaliwyd yr ailbrisio hwn ar gyfer 2024 i 2025, oherwydd bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi tynnu sylw at broblemau gyda’u hasedau cyfredol a mynegeion hanesyddol. Yn dilyn datrys y materion hyn, mae ailbrisio wedi ailgychwyn ar 31 Mawrth 2026. Nid oedd effaith oedi gyda’r ailbrisio yn berthnasol.
1.1. Cyllid
Mae gweithgareddau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu talu’n bennaf drwy ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol, ond gall y Swyddfa hefyd dderbyn cyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac, os oes angen, cyllid i gwrdd ag unrhyw ddiffyg a gynhyrchir.
Fel y cytunwyd â Thrysorlys EF ac yn unol â’i dirprwyaeth gyllidebol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus amcan ariannol o gyflawni o fewn 5% o adennill cost llawn. Manylir ar berfformiad o ran yr amcan hwn yn Nodyn 4, Adennill Costau. Pan fydd y Swyddfa’n cynhyrchu gwarged arian parod, caiff hwn ei ildio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Cydnabyddir trosglwyddiadau cyllid i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac oddi wrthi yn y gronfa gyffredinol ac o dan ‘ariannu’ yn y datganiad o lif arian parod.
1.2. Adrodd segmentaidd
Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad cyhoeddus un segment gweithredol y gellir ei adrodd o dan IFRS 8. Felly nid yw’n paratoi dadansoddiad segmentaidd manwl.
1.3. Incwm
Mae refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid yn cynnwys ffioedd am wasanaethau a osodir ar sail adennill cost llawn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae incwm ffioedd yn cynnwys symiau am wasanaethau atwrneiaeth, goruchwyliaeth, a chopïau o dystysgrifau atwrneiaeth. Cydnabyddir incwm yn unol ag IFRS 15 Refeniw o Gontractau gyda Chwsmeriaid.
Atwrneiaethau arhosol a pharhaol
Mae ffioedd atwrneiaeth yn daladwy ar ôl derbyn y cais ond, yn unol ag IFRS 15, ni chaiff incwm sy’n deillio ohonynt ei gydnabod tan y cwblheir y gwasanaeth a ddarperir, naill ai wrth gofrestru’r atwrneiaeth neu os bydd camau prosesu yn dod i ben cyn cofrestru. Pan fydd cwsmeriaid yn talu ffioedd atwrneiaeth ar-lein cyn cyflwyno eu cais, mae’r arian hwn hefyd yn cael ei ddal mewn rhwymedigaethau contract. Os na dderbynnir cais ar-lein ar ôl i’r cwsmer dalu, ad-delir y swm a dalwyd.
Goruchwylio dirprwyon
Cydnabyddir incwm goruchwylio bob dydd ar gyfer pob achos gweithredol. Anfonebir incwm goruchwylio ar gylchred flynyddol hyd at y dyddiad y daw goruchwylio achos i ben, wedi’i gyfrifo ar sail pro rata.
Cydnabyddir incwm fel ased contract. Cyfrifir darpariaeth dyled ddrwg, yn seiliedig ar y model colled credyd disgwyliedig, a chaiff ei netio oddi ar asedau contract, naill ai pan anfonebir ffioedd neu wrth iddynt gronni.
Eithriadau a gostyngiadau
Cydnabyddir incwm ffioedd ar ôl tynnu gostyngiadau ac eithriadau ffioedd. Rhagnodir y cynllun gostyngiadau yn Rheoliadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (Ffioedd, ac ati) 2007 a gymeradwywyd gan y Senedd ac nid yw ffioedd sy’n cael gostyngiad yn cael eu casglu gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Rhaid gwneud cais am eithriad neu ostyngiad mewn ffi gyda’r cais cofrestru atwrneiaeth gychwynnol neu, ar gyfer ffioedd goruchwylio, ei gyflwyno o fewn chwe mis i ddyddiad y cais am ffi.
Yn yr achosion hynny lle na wneir cais am eithriad neu ostyngiad ar ôl derbyn y cais am ffi, mae cyfyngiad bod yn rhaid derbyn cais cyflawn am eithriad neu ostyngiad o fewn chwe mis i godi’r anfoneb.
Pan fydd ffi wedi’i thalu a chytunir ar eithriad neu ostyngiad wedi hynny, rhoddir ad-daliad.
1.4. Buddiannau gweithwyr
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cronni ar gyfer cost ddisgwyliedig hawl gwyliau blynyddol ei gweithwyr yn unol ag IAS 19 Buddion Gweithwyr. Mae’r Swyddfa hefyd yn cronni ar gyfer bonysau perfformiad a ddyfarnwyd ond heb eu talu eto.
1.5. Pensiynau
Cynllun buddion diffiniedig heb ei ariannu yw Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) ac nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gallu cydnabod ei gyfran o’i asedau a’i rwymedigaethau sylfaenol. Yn unol â’r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol, mae’r Swyddfa’n cyfrif am hyn fel cynllun cyfraniadau diffiniedig. Mae’r Swyddfa’n cydnabod cyfraniadau sy’n daladwy i gynlluniau cyfraniadau diffiniedig fel treuliau yn y flwyddyn y cânt eu hysgwyddo, ac mae’r rhwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol wedi’i chyfyngu i’r swm y mae’n cytuno i’w gyfrannu at y gronfa.
1.6. Ad-daliadau tybiannol
Mae’r ad-daliad tybiannol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynrychioli defnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o wasanaethau corfforaethol.
Mae’r ffi archwilio dybiannol yn cynrychioli cost yr archwiliad allanol blynyddol a gyflawnir gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar ran y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol.
1.7.Cyfrifo treth ar werth
Codir TAW na ellir ei adennill ar y categori gwariant perthnasol neu, os yw’n briodol, caiff ei gyfalafu gydag ychwanegiadau at asedau anghyfredol. Fel arall dangosir incwm a gwariant net o TAW.
1.8. Asedau sy’n cael eu hadeiladu
Caiff asedau sy’n cael eu hadeiladu eu prisio ar gost hanesyddol o fewn eiddo, offer a chyfarpar ac asedau anniriaethol fel y bo’n briodol, ac ni chânt eu dibrisio na’u hamorteiddio.
1.9. Asedau anniriaethol
Cydnabyddiaeth gychwynnol
Mae costau datblygu sy’n uniongyrchol briodol i ddylunio a phrofi cynhyrchion meddalwedd adnabyddadwy ac unigryw, megis costau contractwyr allanol a chostau gweithwyr perthnasol, yn cael eu cydnabod fel asedau anniriaethol yn unol ag IAS 38 ‘Asedau Anniriaethol’ fel y’i haddaswyd gan y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol. Mae mabwysiadu cynnar addasiad IAS 38 y Llawlyfr 2025 i 2026 wedi’i ymgorffori, gan ddileu’r model ailbrisio o 1 Ebrill 2024 ymlaen. Mae gwariant arall nad yw’n bodloni’r meini prawf hyn yn cael ei gydnabod fel treuliau wrth iddynt gael eu hysgwyddo.
Caiff meddalwedd a ddatblygir yn fewnol ei rheoli gan dîm Digidol y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Hyd nes y bydd wedi’i chwblhau, mae’r costau’n aros o fewn cyfrifon y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ar ôl cwblhau, caiff yr asedau eu trosglwyddo i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’u cydnabod yng nghyfrifon y Swyddfa. Trothwy cyfalafu’r Swyddfa ar gyfer prosiectau meddalwedd yw £10,000 (gan gynnwys TAW na ellir ei adennill).
Prisiad dilynol
Hyd at 31 Mawrth 2024, cafodd asedau anniriaethol eu hailbrisio wedi hynny gan ddefnyddio mynegeion fel amcangyfrif o werth cyfredol yr asedau hyn a’u hamorteiddio dros oes ddefnyddiol yr ased, fel yr amcangyfrifwyd gan berchnogion yr asedau. O 1 Ebrill 2024, mae Trysorlys EF wedi rhoi caniatâd i bob endid grŵp y Weinyddiaeth Gyfiawnder dynnu’r model ailbrisio ar gyfer asedau anniriaethol yn ôl, gweler 1.c Newidiadau mewn Polisïau a Datgeliadau Cyfrifyddu. Ystyrir bod y gwerthoedd cario drosodd ar y dyddiad trosglwyddo o 1 Ebrill 2024 yn gost hanesyddol.
Amorteiddiad
Mae oes ddefnyddiol meddalwedd a ddatblygwyd yn fewnol yn amrywio o ddwy i saith mlynedd. Yn unol ag IAS 38 Asedau Anniriaethol, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn adolygu oes ddefnyddiol economaidd ei hasedau anniriaethol bob blwyddyn ariannol, ac yn asesu am amhariad.
Codir amorteiddio ar sail llinell syth ar gyfraddau a gyfrifir i ddileu gwerth yr asedau, llai gwerth gweddilliol amcangyfrifedig, dros oes economaidd ddefnyddiol yr ased.
1.10. Eiddo, offer a chyfarpar
Cydnabyddiaeth gychwynnol
Mae asedau eiddo, offer a chyfarpar sy’n costio mwy na’r trothwy cyfalafu o £10,000 (gan gynnwys TAW na ellir ei adennill) yn cael eu trin fel asedau cyfalaf. Pan fydd eitem yn costio llai na’r trothwy cyfalafu ond yn ffurfio rhan o ased neu ased grŵp, y mae ei gyfanswm gwerth yn fwy na’r lefel cyfalafu, caiff yr eitem ei thrin fel ased cyfalaf.
Gwerthusiad dilynol
Ar ôl y gydnabyddiaeth gychwynnol, mae pob ased heblaw asedau sy’n cael eu hadeiladu wedi’u datgan yn hanesyddol ar eu gwerth cyfredol mewn defnydd presennol ac wedi’u hailbrisio ar bob dyddiad adrodd, gan ddefnyddio’r PPI a baratowyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol oedi cyn cyhoeddi’r data hwn yn dilyn nodi gwallau hanesyddol; felly, nid oedd data PPI ar gael ar gyfer 2025 ac ni chymhwyswyd unrhyw fynegeio i asedau nad oeddent yn dir ac adeiladau yn 2024 i 2025. Mae ailbrisiadau blynyddoedd blaenorol wedi bod yn amherthnasol, yn ystod y flwyddyn ac yn gronnus, ac roedd effaith oedi ar ailbrisio ar gyfer 2024 i 2025 hefyd yn amherthnasol. Mae asedau wedi’u hailbrisio yn 2025 i 2026 gan ddefnyddio’r PPI a baratowyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Dibrisiant
Codir dibrisiant ar sail llinell syth ar gyfraddau a gyfrifir i ddileu gwerth yr asedau, llai gwerth gweddilliol amcangyfrifedig wedi’i rannu’n gyfartal dros eu hoes ddefnyddiol amcangyfrifedig.
Mae oesoedd defnyddiol amcangyfrifedig asedau o fewn yr ystodau canlynol:
- gwelliannau prydles – cyfnod y brydles sy’n weddill
- dodrefn a gosodiadau – 10 mlynedd
- offer a chyfarpar – 5 i 7 mlynedd
- technoleg gwybodaeth – 3 i 7 mlynedd
Adolygir oes ddefnyddiol asedau a chategorïau asedau yn flynyddol.
1.11. Prydlesi
Cwmpas ac eithriadau – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesddeiliad
Yn unol ag IFRS 16 Prydlesi, cyfrifir am gontractau, neu rannau o gontractau, sy’n cyfleu’r hawl i reoli’r defnydd o ased am gyfnod o amser fel prydlesi.
Caiff contractau ar gyfer gwasanaethau eu gwerthuso i benderfynu a ydynt yn cyfleu’r hawl i reoli’r defnydd o ased a nodwyd, gan ymgorffori’r hawl i gael bron yr holl fuddion economaidd o’r ased ac i gyfeirio ei ddefnydd. Os felly, caiff y rhan berthnasol o’r contract ei thrin fel prydles.
Fel y’i haddaswyd gan y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol, mae IFRS 16 wedi’i weithredu gyda phrydlesi heb ystyriaeth neu ystyriaeth enwol (hynny yw, yn sylweddol is na gwerth y farchnad) a threfniadau ar gyfer addasu rhwng adrannau’r llywodraeth.
Wrth wneud yr asesiadau uchod, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eithrio dau fath o brydles. Yn gyntaf, y rhai sy’n ymwneud ag eitemau gwerth isel, y mae’n eu hystyried fel y rhai lle byddai gan yr ased sylfaenol gost o lai na £10,000 pan oedd yn newydd, ar yr amod nad yw’r eitemau hynny yn ddibynnol iawn ar eitemau eraill neu wedi’u hintegreiddio â nhw. Yn ail, contractau y mae eu tymor (sy’n cynnwys y cyfnod na ellir ei ganslo ynghyd ag unrhyw opsiynau estyniad y mae’n rhesymol sicr y byddai’r Swyddfa yn eu harfer ac unrhyw opsiynau terfynu y mae’n rhesymol sicr na fyddai’r Swyddfa’n eu harfer) yn llai na 12 mis.
Cydnabyddiaeth gychwynnol – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesddeiliad
Ar ddechrau prydles mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ased hawl-i-ddefnyddio a rhwymedigaeth brydles.
Mesurir y rhwymedigaeth brydles ar werth y taliadau prydles sy’n weddill, wedi’u disgowntio naill ai gan y gyfradd llog sy’n ymhlyg yn y brydles, neu lle nad yw hyn yn hawdd ei bennu, cyfradd fenthyca gynyddrannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Cynghorir y gyfradd hon yn flynyddol gan Drysorlys EF a chaiff ei chymhwyso i brydlesi sy’n dechrau neu sy’n cael eu hailfesur yn y flwyddyn honno. Newidiodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i IFRS16 yn 2021 i 2022, a disgowntiwyd y prydlesi a gyfalafu ar gyfradd Trysorlys EF yn 2021 o 0.91%.
Lle mae’r brydles yn cynnwys opsiynau estyniad neu derfynu, bydd taliadau’r brydles ar gyfer y cyfnod na ellir ei ganslo ynghyd ag unrhyw opsiynau estyniad neu derfynu y mae’n rhesymol sicr y bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eu harfer/peidio â’u harfer.
Mae mesur taliadau prydles yn eithrio unrhyw TAW sy’n daladwy, a chaiff TAW na ellir ei adennill ei godi fel treuliau ar yr adeg y mae’n dod yn ddyledus yn unol ag IFRIC 21 Ardollau. Pan fydd Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth yn trosglwyddo cost TAW sy’n daladwy i brif landlord, ond nad yw wedi dewis trethu’r eiddo, ni chaiff y gost TAW a drosglwyddir eu gosod fel treuliau, mae wedi’i chynnwys yn rhwymedigaeth y brydles a gwerth yr ased hawl-i-ddefnyddio.
Mesurir yr ased hawl-i-ddefnyddio yn ôl gwerth rhwymedigaeth y brydles, wedi’i addasu ar gyfer: unrhyw daliadau prydles a wneir cyn y dyddiad cychwyn; unrhyw gymhellion prydles a dderbynnir; unrhyw gostau ychwanegol o gael y brydles; ac unrhyw gostau o gael gwared ar yr ased ac adfer y safle ar ddiwedd y brydles.
Mesur dilynol – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesddeiliad
Bydd rhwymedigaeth y brydles yn cael ei haddasu ar gyfer croniad llog, ad-daliadau, ailasesiadau ac addasiadau. Ailasesiadau yw ailwerthusiadau o debygolrwydd yr opsiynau a roddir gan y contract prydles presennol.
Ar ôl y gydnabyddiaeth gychwynnol, mesurir yr asedau hawl-i-ddefnyddio gan ddefnyddio’r model gwerth teg. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried bod y model cost (mesur trwy gyfeirio at rwymedigaeth y brydles) yn ddirprwy rhesymol ar gyfer gwerth teg, yn achos prydlesi nad ydynt yn eiddo, ac ar gyfer prydlesi eiddo o lai na phum mlynedd neu gydag adolygiadau rhent rheolaidd. Ar gyfer prydlesi eraill, bydd yr ased yn cael ei gario drosodd am swm wedi’i ailbrisio.
Bydd gwerth yr ased yn cael ei addasu ar gyfer amorteiddio ac amhariad dilynol, ac ar gyfer ailasesiadau ac addasiadau i rwymedigaeth y brydles fel y disgrifir uchod. Pan fo swm y gostyngiad i’r ased yn fwy na gwerth cario’r ased drosodd, cydnabyddir y swm gormodol mewn gwariant.
Mae gwariant ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn cynnwys llog ar rwymedigaeth y brydles a thâl amorteiddio llinell syth ar yr ased hawl-i-ddefnyddio dros oes y brydles, ynghyd ag unrhyw amhariad ar yr ased hawl-i-ddefnyddio ac unrhyw newid mewn taliadau prydles amrywiol.
Amcangyfrifon a dyfarniadau
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi pennu telerau prydles drwy asesu lefel y sicrwydd ynghylch a fydd opsiynau terfynu neu estyniad yn cael eu harfer. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi penderfynu bod y model cost yn ddirprwy rhesymol ar gyfer gwerth teg, oherwydd bod y rhenti sy’n daladwy wedi’u halinio â chyfraddau’r farchnad agored.
1.12. Offerynnau ariannol
Mae IFRS 7 Offerynnau Ariannol: Datgeliadau yn mynnu datgelu’r rôl y mae offerynnau ariannol wedi’i chwarae yn ystod y flwyddyn wrth greu neu newid y risg y mae endid yn ei hwynebu wrth gyflawni ei fusnes. Nodir hyn yn Nodyn 8 o’r datganiadau ariannol hyn.
1.13. Arian parod a chyfwerth ag arian parod
Mae arian parod a chyfwerth ag arian parod yn cynnwys balansau banc a gedwir gyda banciau masnachol gan gynnwys y rhai a weinyddir drwy Wasanaeth Bancio’r Llywodraeth.
1.14. Darpariaethau
Mae darpariaethau’n adlewyrchu’r amcangyfrif gorau o’r gwariant sydd ei angen i setlo’r rhwymedigaeth. Ni chaiff llif arian darpariaethau amcangyfrifedig Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus eu disgowntio, gan nad yw’r effaith o bwys.
2. Incwm
| 2025 i 2026 | 2024 i 2025 | |
|---|---|---|
| £000 | £000 | |
| Incwm ffioedd gros | ||
| Atwrneiaethau arhosol | 121,369 | 120,002 |
| Atwrneiaethau parhaus | 327 | 405 |
| Goruchwylio dirprwyon | 13,213 | 13,096 |
| Penodi dirprwyon | 1,187 | 1,090 |
| Arall | 1,014 | 830 |
| 137,110 | 135,423 | |
| Gostyngiadau ac eithriadau | ||
| Atwrneiaethau arhosol | (5,799) | (5,837) |
| Atwrneiaethau parhaus | - | (4) |
| Goruchwylio dirprwyon | (2,511) | (2,427) |
| Penodi dirprwyon | (180) | (203) |
| Gostyngiadau ffioedd dewisol | (136) | (731) |
| (8,626) | (9,202) | |
| Cyfanswm | 128,484 | 126,221 |
3. Costau staff a chostau cysylltiedig
| 2025 to 2026 | 2024 to 2025 | |
|---|---|---|
| £000 | £000 | |
| Costau staff | ||
| Cyflogau | 63,155 | 60,054 |
| Costau nawdd cymdeithasol | 6,881 | 4,844 |
| Costau eraill yn ymwneud â phensiwn | 13,679 | 12,986 |
| 83,715 | 77,884 | |
| Costau gweithredu eraill | ||
| Gwasanaethau ymwelwyr | 2,427 | 2,843 |
| Postio | 9,591 | 9,299 |
| Gwasanaethau a rennir | 119 | 1,715 |
| Llety, cynnal a chadw a chyfleustodau | 3,367 | 3,180 |
| Llog prydles | 56 | 47 |
| Nwyddau traul swyddfa | 338 | 390 |
| Gwasanaethau proffesiynol | 659 | 828 |
| Hyfforddiant a chostau eraill sy’n gysylltiedig â staff | 228 | 346 |
| Teithio, cynhaliaeth a lletygarwch | 142 | 207 |
| Dileu derbyniadau masnach a derbyniadau eraill na ellir eu casglu | 517 | 671 |
| Costau eraill | 1,476 | 1,466 |
| Costau nad ydynt yn arian parod | ||
| Ad-daliad tybiannol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder | 16,156 | 15,753 |
| Ffi archwilio allanol dybiannol | 105 | 84 |
| Cynnydd/(gostyngiad) yn y ddarpariaeth ar gyfer dyledion drwg | (648) | (548) |
| Symudiad mewn darpariaethau | (713) | - |
| 33,820 | 36,281 | |
| Costau dibrisiant, amorteiddio ac amhariad | ||
| Amorteiddiad asedau anniriaethol | 2,820 | 2,537 |
| Dibrisiant eiddo, offer a chyfarpar | 464 | 1,102 |
| Dibrisiad asedau hawl-i-ddefnyddio | 3,392 | 3,270 |
| 6,676 | 6,909 | |
| Cyfanswm | 124,211 | 121,074 |
4. Adennill costau
Mae’n ofynnol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn unol â Rheoli Arian Cyhoeddus, ddatgelu canlyniadau ar gyfer y meysydd o’i gweithgareddau a gyflawnwyd drwy gydol y flwyddyn ariannol, lle codwyd ffioedd a thaliadau. Am fanylion ynghylch ffioedd a chymorthdaliadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sydd ar gael i gwsmeriaid ewch i: www.gov.uk/government/organisations/office-of-the-public-guardian
Darperir cymhorthdal i sicrhau nad yw cleientiaid yn cael eu hatal rhag cael mynediad at wasanaethau oherwydd anallu i fforddio’r ffioedd gofynnol.
| 2025 i 2026 | 2024 i 2025 | |
|---|---|---|
| £000 | £000 | |
| Incwm | (128,484) | (126,221) |
| Gwariant | 124,211 | 121,074 |
| (Gwarged)/diffyg gweithredu net | (4,273) | (5,147) |
| % | % | |
| Adennill costau | 103.4 | 104.3 |
| Goddefgarwch 5% y tu mewn/(y tu allan) | 1.6 | 0.7 |
Mae Adran 180 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn caniatáu i’r Arglwydd Ganghellor, gyda chydsyniad Trysorlys EF, ragnodi ffi sy’n fwy na chost darparu’r gwasanaeth hwnnw. Ers mis Ebrill 2017, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi defnyddio’r pŵer hwn i godi ffi uwch am gofrestru atwrneiaeth i dalu costau eithrio a gostwng ffioedd ac i roi cymhorthdal i gostau gweithredu darparu gwasanaethau goruchwylio.
Rhoddir rhagor o wybodaeth am berfformiad yn erbyn y targed adennill costau (fel y cytunwyd â Thrysorlys EF ac yn unol â dirprwyaeth y gyllideb gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder) yn yr adroddiad atebolrwydd ac archwilio seneddol ar dudalennau 88 i 89.
5. Asedau anniriaethol
| Meddalwedd | Asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|
| £000 | £000 | £000 | |
| Cost | |||
| Ar 01 Ebrill 2025 | 22,247 | - | 22,247 |
| Trosglwyddo o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder | - | 1,974 | 1,974 |
| Ailddosbarthiadau | 1,974 | (1,974) | - |
| Gwarediadau | (938) | - | (938) |
| Ar 31 Mawrth 2026 | 23,283 | - | 23,283 |
| Amorteiddiad | |||
| Ar 1 Ebrill 2025 | 16,621 | - | 16,621 |
| Talwyd yn ystod y flwyddyn | 2,820 | - | 2,820 |
| Gwarediadau | (938) | - | (938) |
| Ar 31 Mawrth 2026 | 18,503 | - | 18,503 |
| Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2026 | 4,780 | - | 4,780 |
Mae’r holl asedau anniriaethol yn eiddo i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
| Meddalwedd | Asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|
| £000 | £000 | £000 | |
| Cost | |||
| Ar 01 Ebrill 2024 | 22,247 | - | 22,247 |
| Trosglwyddo o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder | - | - | - |
| Ailddosbarthiadau | - | - | - |
| Gwarediadau | - | - | - |
| Ailbrisio | - | - | - |
| Ar 31 Mawrth 2025 | 22,247 | - | 22,247 |
| Amorteiddiad | |||
| Ar 1 Ebrill 2024 | 14,084 | - | 14,084 |
| Talwyd yn ystod y flwyddyn | 2,537 | - | 2,537 |
| Gwarediadau | - | - | - |
| Ailbrisio | - | - | - |
| Ar 31 Mawrth 2025 | 16,621 | - | 16,621 |
| Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2025 | 5,626 | - | 5,626 |
6. Eiddo, offer a chyfarpar
| Gwelliannau lesddaliadol | Cyfarpar TG | Dodrefn, gosodiadau a chyfarpar | Asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|---|
| £000 | £000 | £000 | £000 | £000 | |
| Cost neu brisiad | |||||
| Ar 1 Ebrill 2025 | 956 | 1,837 | 1,187 | - | 3,980 |
| Ychwanegiadau | - | - | - | - | - |
| Trosglwyddo o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder | - | - | - | - | - |
| Ailddosbarthiadau | - | - | - | - | - |
| Ailbrisio | (185) | 58 | 181 | - | 54 |
| Gwarediadau | - | (1,092) | - | - | (1,092) |
| Ar 31 Mawrth 2026 | 771 | 803 | 1,368 | - | 2,942 |
| Dibrisiant | |||||
| Ar 01 Ebrill 2025 | 1 | 1,315 | 872 | - | 2,188 |
| Talwyd yn ystod y flwyddyn | 254 | 91 | 119 | - | 464 |
| Ailbrisio | (254) | 24 | 146 | - | (84) |
| Gwarediadau | - | (1,092) | - | - | (1,092) |
| Ar 31 Mawrth 2026 | 1 | 338 | 1,137 | - | 1,476 |
| Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2026 | 770 | 465 | 231 | - | 1,466 |
Mae’r holl eiddo, peiriannau ac offer yn eiddo i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn hytrach na chael eu prydlesu.
| Gwelliannau lesddaliadol | Cyfarpar TG | Dodrefn, gosodiadau a chyfarpar | Asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|---|
| £000 | £000 | £000 | £000 | £000 | |
| Cost neu Brisiad | |||||
| Ar 1 Ebrill 2024 | 1,684 | 1,333 | 1,019 | 409 | 4,445 |
| Ychwanegiadau | - | - | - | (84) | (84) |
| Ailddosbarthiadau | 157 | 504 | 168 | (829) | - |
| Trosglwyddiadau o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder | - | - | - | 504 | 504 |
| Ailbrisio | (885) | - | - | - | (885) |
| Ar 31 Mawrth 2025 | 956 | 1,837 | 1,187 | - | 3,980 |
| Dibrisiant | |||||
| Ar 01 Ebrill 2024 | 1 | 1,272 | 719 | - | 1,992 |
| Talwyd yn ystod y flwyddyn | 906 | 43 | 153 | - | 1,102 |
| Gwarediadau | - | - | - | - | - |
| Ailbrisio | (906) | - | - | - | (906) |
| Ar 31 Mawrth 2025 | 1 | 1,315 | 872 | - | 2,188 |
| Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2025 | 955 | 522 | 315 | - | 1,792 |
7. Prydlesi
Asedau hawl-i-ddefnyddio
| 2025 i 2026 | 2024 i 2025 | |
|---|---|---|
| £000 | £000 | |
| Cost neu Brisiad | ||
| Ar 1 Ebrill | 12,561 | 12,378 |
| Ychwanegiadau/ailfesuriadau | 7,878 | 183 |
| Ar 31 Mawrth | 20,439 | 12,561 |
| Dibrisiant | ||
| Ar 1 Ebrill | 9,535 | 6,265 |
| Talwyd yn ystod y flwyddyn | 3,392 | 3,270 |
| Ar 31 Mawrth | 12,927 | 9,535 |
| Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth | 7,512 | 3,026 |
Asedau hawl-i-ddefnyddio Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw prydlesi ar swyddfeydd yn Nottingham a Birmingham. Estynnwyd y ddwy brydles yn ystod 2025 i 2026.
Rhwymedigaethau les
| 2025 i 2026 | 2024 i 2025 | |
|---|---|---|
| £000 | £000 | |
| Ddim hwyrach na blwyddyn | 2,692 | 2,659 |
| Yn hwyrach na blwyddyn a heb fod yn hwyrach na phum mlynedd | 5,130 | - |
| Rhwymedigaethau gros | 7,822 | 2,659 |
| Elfen namyn llog | (628) | (11) |
| Gwerth presennol rhwymedigaethau | 7,194 | 2,648 |
Cyflwynir dadansoddiad o lifau arian parod disgowntiedig sy’n ymwneud â rhwymedigaethau prydles, rhwng cyfredol ac anghyfredol, yn Nodyn 12.
Symiau a gydnabyddir yn y Datganiad o (incwm)/gwariant net cynhwysfawr
| 2025 i 2026 | 2024 i 2025 | |
|---|---|---|
| £000 | £000 | |
| Amorteiddiad | 3,392 | 3,270 |
| Treuliau llog | 56 | 47 |
| Cyfanswm | 3,448 | 3,317 |
Symiau a gydnabyddir yn y Datganiad o lif arian
| 2025 i 2026 | 2024 i 2025 | |
|---|---|---|
| £000 | £000 | |
| Ad-dalu prifswm ar brydlesi | 3,332 | 2,464 |
| Treuliau llog o fewn cost gweithredu | 56 | 47 |
| Cyfanswm | 3,388 | 2,511 |
8. Offerynnau ariannol
IFRS 7 Offerynnau Ariannol: Mae’n ei gwneud yn ofynnol datgelu’r rôl y mae offerynnau ariannol wedi’i chwarae yn ystod y flwyddyn wrth greu neu newid risg y mae endid yn ei hwynebu wrth gynnal ei fusnes.
Gan fod gofynion arian parod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu bodloni drwy’r broses amcangyfrif, mae offerynnau ariannol yn chwarae rhan fwy cyfyngedig wrth greu a rheoli risg nag a fyddai’n berthnasol i gorff nad yw’n rhan o’r sector cyhoeddus.
Caiff symiau derbyniadwy eu gwerthuso o dan y model colled credyd disgwyliedig a nodir yn IFRS 9. Cydnabyddir symiau derbyniadwy ar golled oes ac amhariad (cam tri o dan IFRS 9). Nodir y dechneg amcangyfrif a ddefnyddir wrth werthuso symiau derbyniadwy yn Nodyn 9, ynghyd â dadansoddiad sensitifrwydd.
Mae’r holl arian parod yn cael ei gadw gyda Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth. Pan fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynhyrchu arian parod dros ben, caiff hwn ei ildio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystod y flwyddyn.
Mae gwerth cario asedau a rhwymedigaethau ariannol ymlaen fel a ganlyn:
| 31 Mawrth 2026 | 31 Mawrth 2025 | |
|---|---|---|
| £000 | £000 | |
| Arian parod a gwerthoedd cyfwerth ag arian parod - GBS | 19,313 | 13,024 |
| Symiau masnach derbyniadwy a symiau derbyniadwy eraill | 12,223 | 12,868 |
| Symiau masnach taladwy a symiau taladwy eraill | (38,741) | (33,620) |
| Rhwymedigaethau ariannol eraill | (7,194) | (2,648) |
| Cyfanswm | (14,399) | (10,376) |
Wedi’i gynnwys o fewn symiau masnach taladwy a symiau taladwy eraill mae £28.166 miliwn o rwymedigaethau contract, sy’n cynrychioli incwm atwrneiaeth sydd wedi’i ohirio, gan nad yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi prosesu’r ceisiadau cysylltiedig eto (31 Mawrth 2025: £21.677 miliwn).
9. Symiau masnach derbyniadwy a symiau derbyniadwy eraill
| 31 Mawrth 2026 | 31 Mawrth 2025 | |
|---|---|---|
| £000 | £000 | |
| Symiau masnach derbyniadwy | 13,892 | 3,378 |
| Asedau contract | 3 | 12,313 |
| Amhariad ar gyfer dyledion drwg ac amheus | (3,384) | (3,928) |
| 10,511 | 11,763 | |
| TAW yn ddyledus | 249 | 227 |
| Symiau derbyniadwy staff | 277 | 278 |
| Swm sy’n ddyledus gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder | 396 | 594 |
| Symiau sy’n ddyledus gan adrannau llywodraeth eraill | - | 6 |
| Rhagdaliadau | 790 | - |
| Cyfanswm | 12,223 | 12,868 |
Mae holl dderbyniadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gasgladwy o fewn blwyddyn. Cyhoeddwyd anfonebau goruchwylio blynyddol ym mis Mawrth 2026, ar ôl cael eu cwblhau ar ôl mis Mawrth mewn blynyddoedd blaenorol, gan arwain at gynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn symiau derbyniadwy a gostyngiad mewn asedau contract.
Mae’r amhariad ar ddyledion drwg ac amheus wedi’i gynnwys fel a ganlyn:
| 31 Mawrth 2026 | 31 Mawrth 2025 | |
|---|---|---|
| £000 | £000 | |
| Dyledion drwg ac amheus | 2,840 | 3,282 |
| Remissions and exemptions provision | 544 | 646 |
| Cyfanswm | 3,384 | 3,928 |
Codir y symudiad yn y ddarpariaeth ar gyfer gostyngiadau ac eithriadau yn erbyn incwm.
Amhariad ar ddyledion drwg ac amheus
Mae’r amcangyfrif o’r ddarpariaeth ar gyfer dyledion drwg ac amheus yn cynnwys:
- dyledion sy’n heneiddio yn seiliedig ar yr anfoneb gynharaf nad yw’r cwsmer wedi’i thalu
- grwpio dyledion yn seiliedig ar statws yr achos fel un ‘byw’ neu ‘wedi’i derfynu’
- lleihau grwpiau dyledion yn ôl canrannau sy’n adlewyrchu gweithgarwch yn y gorffennol a disgwyliadau o ran perfformiad casglu dyledion yn y dyfodol
Dyma’r grwpiau oedran dyled a’r canrannau amhariad a gymhwyswyd ar 31 Mawrth 2026 a 31 Mawrth 2025:
| Mwy na thair blynedd | Rhwng dwy a thair blynedd | Rhwng blwyddyn a dwy flynedd | Llai na blwyddyn | |
|---|---|---|---|---|
| % | % | % | % | |
| Achosion byw | ||||
| Lleyg | 60 | 25 | 25 | 7.5 |
| Proffesiynol | 50 | 10 | 10 | 5 |
| Corff cyhoeddus | 60 | 30 | 30 | 12.5 |
| Achosion wedi’u terfynu | ||||
| 31 Mawrth 2026 | 90 | 80 | 80 | 70 |
Caiff y grwpiau a’r canrannau hyn eu hadolygu’n flynyddol. Mae’r canrannau a gymhwysir yn seiliedig ar y data sydd ar gael a gwybodaeth y rheolwyr am y sylfaen o gwsmeriaid. Dangosodd dadansoddiad o gyfraddau casglu yn 2025 i 2026 nad oedd angen newid cyfraddau amhariad. Mae asesu colledion credyd disgwyliedig yn y dyfodol yn gofyn am gymhwyso technegau amcangyfrif a barn y rheolwyr: efallai na fydd colledion credyd gwirioneddol yr un fath â’r ddarpariaeth a wnaed.
Cynhaliwyd dadansoddiad sensitifrwydd, sy’n dangos yr effeithiau posibl canlynol o gynnydd/(gostyngiad) yng nghanrannau’r amhariad:
| Cynnydd/(gostyngiad) yng nghanran yr amhariad | *-10%* | -5% | +5% | +10% |
|---|---|---|---|---|
| Cynnydd/(gostyngiad) yn y ddarpariaeth | £m | £m | £m | £m |
| Achosion byw | (0.9) | (0.6) | 0.6 | 1.2 |
| Achosion wedi’u terfynu | (0.2) | (0.1) | 0.1 | 0.2 |
| Cyfanswm | (1.1) | (0.7) | 0.7 | 1.4 |
Darperir ar lai na 10% ar gyfer achosion byw ar gyfer dirprwyon lleyg a phroffesiynol o dan flwyddyn. Mae’r cyfrifiad hwn yn tybio nad oes darpariaeth ar eu cyfer.
Darpariaeth eithriadau a gostyngiadau
Bydd ceisiadau am ostyngiadau ac eithriadau yn cael eu derbyn a’u caniatáu ar gyfer rhai o’r ffioedd y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi anfonebu amdanynt neu wedi’u cronni. Felly, cydnabyddir darpariaeth o fewn symiau derbynadwy yn seiliedig ar lefelau blaenorol o ostyngiadau ac eithriadau a roddwyd.
Tybir bod cyfrolau hanesyddol o ostyngiadau ac eithriadau yn gynrychioliadol o symiau’r dyfodol.
10. Arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod
| 2025 i 2026 | 2024 i 2025 | |
|---|---|---|
| £000 | £000 | |
| Ar 1 Ebrill | 13,024 | 8,889 |
| Newid net mewn balans | 6,289 | 4,135 |
| Ar 31 Mawrth | 19,313 | 13,024 |
Mae holl arian parod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei gadw gyda Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth.
11. Symiau masnach taladwy a symiau taladwy eraill
| 31 Mawrth 2026 | 31 Mawrth 2025 | |
|---|---|---|
| £000 | £000 | |
| Symiau masnach taladwy | 101 | 55 |
| Trethi a nawdd cymdeithasol, taladwy | 1,289 | 964 |
| Swm sy’n ddyledus i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder | 2,559 | 2,280 |
| Symiau taladwy eraill | 1,705 | 1,958 |
| Croniadau | 4,921 | 6,686 |
| Rhwymedigaethau contract | 28,166 | 21,677 |
| Cyfanswm | 38,741 | 33,620 |
Mae holl ddyledion Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ddyledus o fewn blwyddyn.
Roedd symudiadau rhwymedigaethau contract drwy gydol y flwyddyn fel a ganlyn:
| 2025 i 2026 | 2024 i 2025 | |
|---|---|---|
| £000 | £000 | |
| Ar 1 Ebrill | 21,677 | 31,015 |
| Incwm atwrneiaeth a gydnabyddir yn ystod y flwyddyn | (115,897) | (114,566) |
| Incwm atwrneiaeth wedi’i ohirio | 122,386 | 105,228 |
| Ar 31 Mawrth | 28,166 | 21,677 |
12. Rhwymedigaethau ariannol eraill
| 31 Mawrth 2026 | 31 Mawrth 2025 | |
|---|---|---|
| £000 | £000 | |
| Rhwymedigaethau prydles: cyfredol | 2,378 | 2,648 |
| Rhwymedigaethau prydles: anghyfredol | 4,816 | - |
| Cyfanswm | 7,194 | 2,648 |
Darperir rhagor o wybodaeth am rwymedigaethau prydles a’r asedau hawl-i-ddefnyddio cysylltiedig yn Nodyn 7.
13. Darpariaethau
| Ymadawiad cynnar | Dadfeiliad | Arall | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| £000 | £000 | £000 | £000 | |
| Ar 01 Ebrill 2025 | - | 3,588 | - | 3,588 |
| A ddarparwyd yn ystod y flwyddyn | 323 | - | 165 | 488 |
| Wedi’i wrthdroi heb ei ddefnyddio | - | (1,201) | - | (1,201) |
| Ar 31 Mawrth 2026 | 323 | 2,387 | 165 | 2,875 |
| Ar 01 Ebrill 2024 | - | 3,400 | - | 3,400 |
| A ddarparwyd yn ystod y flwyddyn | 323 | - | 203 | 203 |
| Wedi’i wrthdroi heb ei ddefnyddio | - | (15 ) | - | (15) |
| Ar 31 Mawrth 2025 | - | 3,588 | - | 3,588 |
Dyma’r amseriadau disgwyliedig ar gyfer llifau arian parod:
| Ymadawiad cynnar | Dadfeiliad | Arall | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| £000 | £000 | £000 | £000 | |
| Ddim hwyrach na blwyddyn | 323 | 1,300 | 165 | 1,788 |
| Rhwng blwyddyn a phum mlynedd | - | 1,087 | - | 1,087 |
| Ar 31 Mawrth 2026 | 323 | 2,387 | 165 | 2,875 |
| Ddim hwyrach na blwyddyn | 3,588 | - | 3,588 | |
| Rhwng blwyddyn a phum mlynedd | - | - | - | |
| Ar 31 Mawrth 2025 | 3,588 | - | 3,588 |
Dadfeiliad
Mae’r ddarpariaeth ar gyfer dadfeiliad yn ymwneud â chostau amcangyfrifedig dadfeiliad ar swyddfeydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Nottingham a Birmingham ar ddiwedd telerau eu prydles.
14. Ymrwymiadau
Ar 31 Mawrth 2026, nid oedd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus unrhyw ymrwymiadau perthnasol o dan gontractau eraill na ellir eu canslo (31 Mawrth 2025: dim).
15. Asedau a rhwymedigaethau amodol
Ar 31 Mawrth 2026, roedd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus rwymedigaethau amodol yn ymwneud â hawliadau tribiwnlys cyflogaeth ar wahanol gamau a hawliad cyfreithiol gan gwsmer, gyda’r rhwymedigaeth bosibl uchaf wedi’i hamcangyfrif yn £275,500 (31 Mawrth 2025: £323,000). Ar 31 Mawrth 2026, nid oedd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus unrhyw asedau amodol (31 Mawrth 2025: dim).
16. Trafodion partïon cysylltiedig
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn asiantaeth weithredol o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ystyrir bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn barti cysylltiedig. Yn ystod y cyfnod, cafodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus amryw o drafodion perthnasol gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Mae’r ailgodiad tâl gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a ddatgelir yn Nodyn 3 yn ddosraniad o orbenion gan gynnwys Adnoddau Dynol, cyllid, TG ac ystadau i holl adrannau ac asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar sail dybiannol.
Roedd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus drafodion hefyd ag adrannau ac endidau llywodraeth eraill.
Nid oes yr un o aelodau bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, staff rheoli hanfodol, na phartïon cysylltiedig eraill wedi ymgymryd ag unrhyw drafodion gyda’r swyddfa yn ystod y flwyddyn ariannol.
17. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd
Yn unol â gofynion IAS 10 Digwyddiadau ar ôl y Cyfnod Adrodd, ystyrir digwyddiadau hyd at y dyddiad y mae’r datganiadau ariannol wedi’u hawdurdodi i’w cyhoeddi, a ddehonglir fel dyddiad Tystysgrif ac Adroddiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol.
Nid oes unrhyw ddigwyddiadau dilynol i’w hadrodd.
Targedau perfformiad
Mae Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPAion) yn offeryn hanfodol ar gyfer nodi meysydd o berfformiad cryf ac ar gyfer cefnogi camau cywirol amserol lle nad yw perfformiad yn bodloni disgwyliadau. Mae ein Fframwaith Perfformiad blynyddol yn sicrhau bod ein DPAion yn parhau i fod yn berthnasol ac yn cyd-fynd â’n gweithgareddau gweithredol a’n hamcanion strategol, gan ein galluogi i fesur cynnydd tuag at ein cenhadaeth.
Yn ystod 2026 i 2027, byddwn yn cryfhau ein cyfres o DPAion ymhellach drwy wneud yr iaith yn fwy hygyrch a thrwy gyflwyno metrigau cysgodol. Bydd y rhain yn gwella gwelededd y ffactorau ehangach sydd y tu allan i’n DPAion ffurfiol ond sydd serch hynny’n cyfrannu at gyflawni ar draws ein meysydd gweithredol.
Dangosydd effaith: Atwrneiaethau
Yr amser clirio gwirioneddol cyfartalog ar gyfer atwrneiaethau. Yr amser clirio gwirioneddol cyfartalog targed yw 40 diwrnod gwaith
Diben
Mae’r dangosydd hwn yn cyfrifo nifer cyfartalog y diwrnodau gwaith a gymerir i gofrestru ac anfon pob atwrneiaeth mewn cyfnod adrodd penodol. Dyma’r amser a gymerir rhwng dyddiad derbyn y cais a dyddiad ei anfon.
Dull Cyfrifo
Nifer y diwrnodau gwaith rhwng derbyn y cais atwrneiaeth cyflawn gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a’r dyddiad y caiff yr atwrneiaeth gofrestredig ei hanfon yn ôl at y cwsmer.
Ffynhonnell Data
Systemau rheoli achosion mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Wedi cyflawni hyd at 31 Mawrth 2026
Amser clirio gwirioneddol cyfartalog o 45 diwrnod gwaith (ar gyfer atwrneiaethau arhosol a pharhaus) yn erbyn targed o 40 diwrnod gwaith.
Dangosydd effaith: dirprwyon goruchwylio
a) Yr amser targed ar gyfartaledd i adolygu adroddiadau blynyddol yw o fewn 15 diwrnod gwaith.
b) Y targed ar gyfer adroddiadau blynyddol sy’n weddill ers dros 98 diwrnod calendr yw 4.5% neu lai.
Diben
Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu cefnogaeth gymesur a phriodol i bob dirprwy.
Dull Cyfrifo
a) Y nifer gyfartalog o ddiwrnodau gwaith rhwng y dyddiad y derbynnir adroddiad blynyddol a’r dyddiad y cafodd ei adolygu.
b) Canran yr achosion dirprwyaeth weithredol gydag o leiaf un adroddiad blynyddol heb ei gyflwyno ers dros 98 diwrnod calendr.
Ffynhonnell Data
Systemau rheoli achosion mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Wedi cyflawni hyd at 31 Mawrth 2026
a) Yr amser cyfartalog i adolygu Adroddiad Blynyddol a dderbyniwyd oedd 22 diwrnod gwaith, yn erbyn targed o 15 diwrnod gwaith.
b) Roedd 2% o adroddiadau blynyddol yn weddill dros 98 diwrnod calendr.
Dangosydd effaith: diogelu ac ymchwiliadau
a) Y targed yw asesu risg 95% o bryderon diogelu a godwyd o fewn dau ddiwrnod gwaith.
b) Y targed yw i 95% o asesiadau risg diogelu gyrraedd canlyniad terfynol o fewn pum niwrnod gwaith.
c) Y targed yw cwblhau pob ymchwiliad o fewn 70 diwrnod gwaith.
d) Y targed yw’r amser cyfartalog a gymerir i weithredu camau gweithredu sy’n eiddo i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus, lle nad yw camau llys wedi’u hystyried yn angenrheidiol o fewn 25 dyddiau gwaith.
Diben
Mae’r dangosyddion hyn yn canolbwyntio ar gyfrifoldeb Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddiogelu oedolion agored i niwed. Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynnal proses asesu risg i benderfynu a oes gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus awdurdodaeth i ymchwilio i bryderon ac, os ddim, i gyfeirio’r pryder at yr asiantaeth berthnasol.
Rydym yn cynnal ymchwiliad os oes sail dros awgrymu nad yw budd pennaf y rhoddwr na P yn cael eu diwallu.
Dull Cyfrifo
a) Dau ddiwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’ Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y pryder. Diwrnod un yw’r diwrnod gwaith y derbynnir y pryder.
b) Pum niwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y pryder. Diwrnod un yw’r diwrnod gwaith y derbynnir y pryder.
c) Mae’r cyfnod o 70 diwrnod gwaith yn dechrau’r dyddiad y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y pryder sy’n arwain at ymchwiliad.
d) Mae’r cyfnod o 25 diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymeradwyo’r adroddiad. Diwrnod un yw’r diwrnod y caiff yr adroddiad ei gymeradwyo.
Ffynhonnell Data
Caiff pob cwyn a phryder eu hasesu o ran risg ac ystyrir awdurdodaeth y Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Mae data yn cael ei gyrchu o’r system Rheoli Achosion wedi’i brysbennu a’r system Rheoli Achosion Ymchwiliadau au.
Wedi cyflawni hyd at 31 Mawrth 2026
a) Cafodd 97% o bryderon eu hasesu o fewn dau ddiwrnod gwaith am risg.
b) Cyrhaeddodd 95% o bryderon ganlyniad terfynol o fewn pum diwrnod gwaith.
c) Amser cyfartalog i ddod ag ymchwiliadau i ben oedd 198 diwrnod gwaith.
d) Yr amser cyfartalog i gwblhau’r holl argymhellion lle nad ystyriwyd bod angen gweithredu yn y llys oedd 13 diwrnod gwaith.
Dangosydd effaith: Cyfreithiol
Diben
Mesur amseroldeb a gwneud penderfyniadau mewn unrhyw ymgyfreitha a gynhelir ar ran y Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Dull Cyfrifo
a) Mewn 98% o achosion, ein nod yw na fydd cais Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’r Llys Gwarchod yn cael ei wrthod ac na fydd costau’n cael eu dyfarnu yn erbyn y Swyddfa.
b) Mae’r cyfnod o 35 diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymeradwyo’r adroddiad. Diwrnod un yw’r diwrnod y caiff yr adroddiad ei gymeradwyo.
Ffynhonnell Data
System Rheoli Achosion Cyfreithiol
Wedi cyflawni hyd at 31 Mawrth 2026
a) Roedd 100% o achosion yn bodloni’r meini prawf
b) Yr amser cyfartalog i gwblhau pob argymhelliad lle mae gweithred llys wedi’i ystyried yn briodol oedd 38 diwrnod gwaith.
Canolfan gyswllt cwsmeriaid
a) Roedd 100% o achosion yn bodloni’r meini prawf.
b) Yr amser cyfartalog i gwblhau pob argymhelliad lle mae gweithred llys wedi’i ystyried yn briodol oedd 38 diwrnod gwaith.
Dangosyddion gwasanaeth a boddhad cwsmeriaid
Canolfan gyswllt cwsmeriaid
a) Y targed ar gyfer galwadau i’n canolfan gyswllt cwsmeriaid yw bod 90% yn cael eu hateb o fewn 5 munud o gael eu rhoi yn y ciw.
b) Y targed ar gyfer galwadau i’n canolfan gyswllt cwsmeriaid sy’n ymwneud ag Oedolion Agored i Niwed yw i 95% gael eu hateb o fewn 3 munud o gael eu rhoi yn y ciw.
Boddhad cwsmeriaid
c) Y ganran darged o gwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘eithaf bodlon’ â gwasanaethau digidol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw 80%.
d) Arolwg boddhad cwsmeriaid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – gwasanaethau atwrneiaeth. Y ganran darged o gwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘eithaf bodlon’ ar y gwasanaethau atwrneiaeth yw 80%.
e) Arolwg boddhad cwsmeriaid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – gwasanaethau dirprwyaeth. Y ganran darged o gwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘eithaf bodlon’ ar y gwasanaethau dirprwyaeth yw 80%.
Cwynion
f) Y targed yw ymateb i 90% o holl gwynion cwsmeriaid o fewn 10 diwrnod gwaith i’w derbyn.
Diben
Mae’r dangosydd hwn yn mesur cefnogaeth ac arweiniad amserol a chywir ar gyfer holl wasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a chyfeirio at wasanaethau’r Llys Gwarchod lle bo’n briodol.
Dull Cyfrifo
a) Nifer y galwadau a gyfeiriwyd at asiantau’r Ganolfan Gyswllt a atebwyd o fewn pum munud (ac eithrio’r Llinell Ddiogelu) wedi’i rannu â nifer y galwadau hynny a dderbyniwyd. Caiff galwadau sy’n cael eu hailgyfeirio y tu allan i’r cwmpas eu tynnu o gyfanswm y galwadau i osgoi cyfrif ddwywaith, gan fod y rhain yn cael eu hadrodd ar wahân lle bo angen.
Ffynhonnell Data
System rheoli data teleffoni Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Wedi cyflawni hyd at 31 Mawrth 2026
Roedd canran y galwadau a atebwyd o fewn pum munud yn 89.3% yn erbyn targed o 90%.
Diben
Mae’r dangosydd hwn yn mesur cefnogaeth ac arweiniad amserol a chywir ar gyfer ymholiadau sy’n ymwneud ag Oedolion Agored i Niwed.
Dull Cyfrifo
b) Nifer y galwadau i’n llinell Oedolion Agored i Niwed a atebwyd o fewn 3 munud, wedi’i rannu â chyfanswm y galwadau a dderbyniwyd ar y llinell honno.
Ffynhonnell Data
System rheoli data teleffoni Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Wedi cyflawni hyd at 31 Mawrth 2026
Roedd canran y galwadau a atebwyd o fewn 3 munud yn 99% yn erbyn ein targed o 95%.
Diben
Mae’r dangosydd effaith hwn yn helpu i sicrhau ein bod yn datblygu ein gwasanaethau digidol i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.
Dull Cyfrifo
c) Nifer y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘eithaf bodlon’ ar y gwasanaethau digidol wedi’i rannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg a dderbyniwyd yn ateb y cwestiwn hwn.
Ffynhonnell Data
Arolwg boddhad cwsmeriaid offeryn digidol atwrneiaeth arhosol.
Wedi cyflawni hyd at 31 Mawrth 2026
Roedd sgôr arolwg boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn yn 85% ar gyfer ein gwasanaeth ‘defnyddio atwrneiaeth arhosol’, 85% ar gyfer ein gwasanaeth ‘gwneud atwrneiaeth arhosol’, ac 80% ar gyfer ein gwasanaeth ‘cwblhau adroddiad dirprwy’.
Diben
Mae’r dangosydd hwn yn ein helpu i ddeall anghenion ein cwsmeriaid ac adnabod tueddiadau fel y gallwn wella ein gwasanaethau’n barhaus.
Dull Cyfrifo
d) Nifer a ymatebodd yn ‘fodlon iawn’ neu’n ‘eithaf bodlon’ wedi’i rannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg.
Ffynhonnell Data
Arolygon boddhad cwsmeriaid atwrneiaeth arhosol.
Wedi cyflawni hyd at 31 Mawrth 2026
Roedd sgôr arolwg boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn yn 85%.
Diben
Mae’r dangosydd hwn yn ein helpu i ddeall anghenion ein cwsmeriaid ac adnabod tueddiadau fel y gallwn wella ein gwasanaethau’n barhaus.
Dull Cyfrifo
e) Nifer a ymatebodd yn ‘fodlon iawn’ neu’n ‘eithaf bodlon’ wedi’i rannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg.
Ffynhonnell Data
Arolygon boddhad cwsmeriaid dirprwyon
Wedi cyflawni hyd at 31 Mawrth 2026
Roedd sgôr arolwg boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn yn 70%.
Diben
Mae’r dangosydd hwn yn chwarae rhan bwysig wrth helpu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddeall i ba raddau rydym yn cyflawni disgwyliadau ein cwsmeriaid.
Dull Cyfrifo
Mae’r metrig hwn yn mesur cyfran y cwynion Haen 1 a Haen 2 yr oedd disgwyl ymateb iddynt yn ystod y mis ac a ymatebwyd iddynt o fewn yr amserlenni targed y cytunwyd arnynt.
Ffynhonnell Data
Gwybodaeth reoli o bob maes busnes unigol
Wedi cyflawni hyd at 31 Mawrth 2026
Ymatebwyd i 90% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith i’w derbyn.
Dangosydd pobl: Ymgysylltu â Staff
a) Y targed yw cyflawni sgôr ymgysylltu staff o 62%.
b) Y targed ar gyfer canran y staff sydd wedi profi bwlio neu aflonyddu yn y gwaith yw 0%, i adlewyrchu ein polisi dim goddefgarwch i fwlio ac aflonyddu yn y gweithle.
c) Y targed ar gyfer canran y staff sydd wedi profi gwahaniaethu yn y gwaith yw 0%, i adlewyrchu ein polisi dim goddefgarwch ar gyfer gwahaniaethu yn y gweithle.
Diben
Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i greu lle gwych i weithio ac i gefnogi dull dim goddefgarwch yn erbyn bwlio, aflonyddu, a gwahaniaethu yn y gweithle.
Dull Cyfrifo
a) Mae pob un o’r pum cwestiwn ymgysylltu yn yr arolwg wedi’u pwysoli gyda sgôr o 100 i 0 yn dibynnu ar eu hymateb. Mae’r sgoriau canlyniadol yn cael eu hadio at ei gilydd a’u rhannu â 5 (nifer y cwestiynau) i greu’r sgôr mynegai ymgysylltu.
b) Cyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer yr ymatebwyr sy’n datgan profiad o fwlio a/neu aflonyddu â chyfanswm yr ymatebwyr.
c) Cyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer yr ymatebwyr sy’n datgan profiad o wahaniaethu â chyfanswm yr ymatebwyr.
Ffynhonnell Data
Arolwg pobl blynyddol ac arolwg clyfar.
Wedi cyflawni hyd at 31 Mawrth 2026
a) Roedd sgôr ymgysylltiad staff yn 65%.
b) Roedd 9% o staff wedi profi bwlio ac aflonyddu.
c) Roedd 9% o staff wedi profi gwahaniaethu.
Dangosydd Pobl: data’r gweithlu
a) Y targed ar gyfer trosiant staff yw 10% neu lai.
b) Y targed yw cyflawni sgôr o 7.5 diwrnod gwaith neu lai a gollwyd oherwydd absenoldeb salwch.
Diben
Mae’r dangosyddion hyn yn helpu i gynorthwyo ein gwneuthurwyr penderfyniadau i sicrhau bod gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddigon o adnoddau, a fydd yn galluogi’r Swyddfa i gyflawni amcanion ei chynllun busnes, cyflawni ei gweledigaeth ac ymdrechu i wireddu gwerthoedd y Swyddfa ym mhopeth a wnawn.
Dull Cyfrifo
a) Cyfrifir y dangosydd drwy rannu cyfanswm y bobl sy’n gadael mewn cyfnod treigl o 12 mis â chyfartaledd cyfanswm y staff dros gyfnod treigl o 12 mis.
b) Cyfrifir y dangosydd drwy rannu cyfanswm y diwrnodau gwaith a gollwyd yn y cyfnod â blynyddoedd staff yn y cyfnod.
Ffynhonnell Data
Darperir y data gan dîm gwasanaethau dadansoddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n lawrlwytho’r data o SOP, system rheoli achosion Adnoddau Dynol y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Wedi cyflawni hyd at 31 Mawrth 2026
a) Roedd trosiant staff yn 7.3%
b) Collwyd 10.7 diwrnod gwaith ar gyfartaledd
Newidiadau i DPAion ar gyfer 2026 i 2027
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyflwyno tri DPA newydd eleni i gryfhau ein hadroddiadau ar ansawdd ein prosesau trin cwynion ac amseroldeb ein hymatebion i geisiadau am wybodaeth gan y cyhoedd, trwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000) a’r Ddeddf Diogelu Data (2018).
Ar gyfer y flwyddyn 2026 i 2027, bydd y Swyddfa’n ymrwymo i’r targedau canlynol:
Teitl DPA
Ein nod yw sicrhau nad yw’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (PHSO) yn cadarnhau cwyn am Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn 100% o achosion.
Targed DPA: 100%
Teitl DPA
Ein nod yw ymateb i 90% o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth o fewn 20 diwrnod gwaith
Targed DPA: >=90%
Teitl DPA
Ein nod yw ymateb i 90% o Geisiadau am Fynediad at Ddata gan y Testun o fewn un mis calendr
Targed DPA: >=90%
Ymgysylltiadau oddi ar y gyflogres
Ymgysylltiadau â gweithwyr oddi ar y gyflogres ar gyflog mawr ar 31 Mawrth 2021, a oedd yn ennill £245 y diwrnod neu fwy:
| Nifer yr ymgysylltiadau presennol ar 31 Mawrth 2026 | - |
|---|---|
| Nifer sydd wedi bodoli, ar adeg adrodd, ers | |
| Llai na blwyddyn | - |
| Rhwng blwyddyn a dwy flynedd | - |
| Rhwng dwy a thair blynedd | - |
| Rhwng tair a phedair blynedd | - |
| Am bedair blynedd neu fwy | - |
Nid oedd unrhyw ymgysylltiadau â gweithwyr oddi ar y gyflogres ar gyflog mawr ar 31 Mawrth 2026, a oedd yn ennill £245 y diwrnod neu fwy.
Yr holl weithwyr oddi ar y gyflogres ar gyflog mawr a ymgysylltodd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026, a oedd yn ennill £245 y diwrnod neu fwy
| Nifer y gweithwyr oddi ar y gyflogres dros dro a ymgysylltodd |
|
|---|---|
| yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026 | - |
| O’r rhain:: | |
| Ddim yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres | 1 |
| Yn amodol ar ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac yn cael eu pennu fel rhan o gwmpas IR35 | - |
| Yn amodol ar ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac yn cael eu pennu fel tu allan i gwmpas IR35 | - |
| Nifer yr ymgysylltiadau a ailaseswyd at ddibenion cydymffurfio neu sicrwydd yn ystod y flwyddyn | - |
| Nifer yr ymgysylltiadau a welodd newid i statws IR35 yn dilyn yr adolygiad | - |
Roedd 1 gweithiwr oddi ar y gyflogres ar gyflog mawr wedi’i ymgysylltu yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026, yn ennill £245 y dydd neu fwy.
Ar gyfer unrhyw ymgysylltiadau oddi ar y gyflogres gan aelodau’r bwrdd, a/neu uwch swyddogion sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol, rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026
Nid oedd unrhyw ymgysylltiadau oddi ar y gyflogres gan aelodau’r bwrdd a/neu uwch swyddogion â chyfrifoldeb ariannol sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol.
Roedd pedwar ar ddeg o unigolion ar y gyflogres ac oddi ar y gyflogres a ystyriwyd yn ‘aelodau o’r bwrdd a/neu uwch swyddogion â chyfrifoldeb ariannol sylweddol’ yn ystod y flwyddyn ariannol, mae hyn yn cynnwys ymgysylltiadau ar y gyflogres ac oddi ar y gyflogres.
Geirfa
Atwrnai
Yr unigolyn a ddewisir i weithredu ar ran rhywun arall mewn atwrneiaeth arhosol neu barhaus.
Atwrneiaeth arhosol (LPA)
Dogfen gyfreithiol a ddefnyddir i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan.
Mae dau fath o atwrneiaeth arhosol:
- lles personol
- eiddo a materion ariannol
Rhaid cofrestru’r ddau fath o atwrneiaeth arhosol gyda’r Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn bod modd eu defnyddio.
Atwrneiaeth barhaus (EPA)
Disodlwyd gan atwrneiaethau arhosol ym mis Hydref 2007. Fel atwrneiaeth arhosol, mae’n ddogfen gyfreithiol sy’n cael ei defnyddio i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan pe byddech yn colli galluedd meddyliol.
Mae atwrneiaethau parhaus sydd wedi’u llofnodi a’u dyddio cyn 1 Hydref 2007 yn dal yn ddilys a gellir eu cofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus pan fydd y rhoddwr yn dechrau colli, neu wedi colli, galluedd meddyliol.
Deddf Galluedd Meddyliol (MCA) 2005
Y Ddeddf yng Nghymru a Lloegr sy’n amddiffyn ac yn cefnogi pobl na all wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain. Mae’r Ddeddf yn amlinellu cyfrifoldebau OPG.
Defnyddiwr
Unrhyw un sy’n defnyddio gwasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Gallai hyn gynnwys rhoddwyr, atwrneiod, dirprwyon, pobl sy’n destun gorchmynion dirprwyaeth, partneriaid neu gyfryngwyr. Mae hefyd yn cynnwys staff sy’n defnyddio systemau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Dirprwy
Unigolion lleyg neu broffesiynol neu awdurdodau cyhoeddus (fel cyfreithwyr neu awdurdodau lleol) sydd wedi cael eu penodi gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran pobl sydd heb alluedd.
Galluedd meddyliol
Y gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud. Gallwch ddod o hyd i ddiffiniad cyfreithiol o alluedd meddyliol yn Adran 2 y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Goruchwyliaeth
Y broses y mae OPG yn sicrhau bod dirprwyon a gwarcheidwaid yn cyflawni telerau eu gorchymyn llys.
Gwarcheidwad
Person, a benodwyd gan yr Uchel Lys i reoli cyllid person coll, er eu budd gorau.
Lles gorau
Rhaid i unrhyw benderfyniadau a wneir, neu gamau a gymerir, ar ran rhywun sydd wedi colli galluedd meddyliol fod er ei les gorau. Mae camau safonol i’w dilyn wrth benderfynu ar les gorau rhywun. Mae’r rhain wedi’u nodi yn Adran 2 o god ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Llys Gwarchod (COP)
Llys arbenigol sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar faterion ariannol neu les i bobl sydd heb allu meddyliol i wneud penderfyniad drostynt eu hunain.
P
Unigolion sy’n destun achosion yn y Llys Gwarchod, a/neu y gwnaed trefniadau am benderfyniadau ynghylch eu lles personol neu eu heiddo a’u materion ariannol ar eu rhan – boed hynny drwy atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus, neu o dan orchymyn dirprwyaeth.
Rhoddwr
Rhywun sydd wedi gwneud Atwrneiaeth Barhaus neu Atwrneiaeth Arhosol. Cyfeirir atynt fel rhoddwyr am eu bod wedi rhoi rhai pwerau gwneud penderfyniadau i rywun arall.
Ymchwiliadau
Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gynnal ymchwiliad i weithredoedd dirprwy, atwrnai cofrestredig, neu rywun a awdurdodir gan y Llys Gwarchod i berfformio trafodiad ar ran rhywun nad yw’r galluedd ganddo, ac adrodd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus neu’r Llys Gwarchod. Bydd yr argymhellion yn adroddiad yr ymchwiliad wedyn yn cael eu hystyried gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus, sy’n cymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau eu bod er lles gorau’r rhoddwr neu’r cleient, ac yna’n cymeradwyo’r adroddiad. Mae hyn yn rhan hanfodol o rôl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gefnogi’r gwaith o ddiogelu oedolion sydd mewn perygl.