Skip to main content
Penderfyniad

Cymeradwyo’r cyfiawnhad niwclear dros Adweithydd Modiwlar Bach Rolls-Royce

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn cymeradwyo’r cyfiawnhad niwclear dros Adweithydd Modiwlar Bach Rolls-Royce (SMR) a ddyluniwyd gan Rolls-Royce SMR Limited.

Dogfennau

Penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol fel Awdurdod Cyfiawnhau ynghylch Cyfiawnhad Rheoleiddiol dros Adweithydd Modiwlaidd Bach Rolls-Royce a ddyluniwyd gan Rolls-Royce SMR Limited

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch defra.helpline@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, Emma Reynolds fel Awdurdod Cyfiawnhau, y dylid cyfiawnhau Adweithydd Modiwlar Bach Rolls-Royce (SMR) a ddyluniwyd gan Rolls-Royce SMR Limited o dan Reoliadau Cyfiawnhau Arferion sy’n Ymwneud ag Ymbelydredd Ïoneiddio 2004.

Mae’r penderfyniad yn cymryd i ystyriaeth ymatebion i’r Ymgynghoriad ar y Cais ar gyfer ‘SMR Rolls-Royce’ a ddyluniwyd gan Rolls-Royce SMR Limited, a oedd yn agored rhwng 6 Hydref a 1 Rhagfyr 2025, a barn yr ymgyngoreion statudol.

Bydd angen i is-ddeddfwriaeth sy’n rhoi effaith i’r penderfyniad cyfiawnhau gael ei chymeradwyo trwy benderfyniad gan ddau Dŷ’r Senedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Mai 2026 show all updates
  1. Added the Welsh version of the information.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon