Guidance

Ap COVID-19 y GIG: hysbysiad am breifatrwydd i bobl ifanc (privacy information for young people, Welsh language)

Updated 27 January 2022

This guidance was withdrawn on

The NHS COVID-19 app closed down on 27 April 2023, so this content is out of date.

The app was managed by the UK Health Security Agency, which is an executive agency sponsored by the Department of Health and Social Care. From 27 April 2023, the app is no longer available and is no longer collecting data or providing a service to app users. This document broadly reflects the service provided by the app during its later stages.

Your data and privacy now the app has closed down

The data collected by the app, which cannot identify app users, will be held in line with the retention period set out in the Privacy Notice for the NHS COVID-19 app.

Find out why the app has closed down and where to find the latest guidance.


Tynnwyd y cyhoeddiad hwn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Caeodd ap COVID-19 y GIG ar 27 Ebrill 2023 felly nid yw’r cynnwys hwn bellach yn gyfredol.

Rheolwyd yr ap gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, sy’n asiantaeth weithredol a noddir gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  O 27 Ebrill 2023, nid yw yr ap ar gael bellach ac nid yw yn casglu data na yn darparu gwasanaeth i ddefnyddwyr apiau bellach. Mae’r ddogfen hon yn adlewyrchu’n fras y gwasanaeth a ddarperir gan yr ap yn ystod ei gamau diweddarach.

Eich data a’ch preifatrwydd nawr mae’r ap wedi cau

Bydd y data a gesglir gan yr ap, na all adnabod defnyddwyr yr ap, yn cael ei gadw yn unol â’r cyfnod cadw a nodir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer ap COVID-19 y GIG.

Darganfyddwch pam mae’r ap wedi cau a ble i ddod o hyd i’r canllawiau diweddaraf.

Fersiwn cryno o Ap COVID-19 y GIG: hysbysiad preifatrwydd yw’r wybodaeth yma am breifatrwydd.

Ap COVID-19 y GIG

Mae Ap COVID-19 y GIG (yr ap) yn helpu yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws. Mae’r ap yn cael ei ddarparu gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (y DHSC, neu “ni” yn y ddogfen hon) ac mae ar gael yng Nghymru a Lloegr.

Trwy ddefnyddio’r ap, byddi di’n gwneud cyfraniad pwysig i helpu dy gymuned gadw’n iach ac achub bywydau.

Erbyn hyn, mae rhybuddion yr ap yn gweithio ar draws gwahanol wledydd: Gibraltar, Jersey, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

I gael gwybodaeth fwy trylwyr, darllena:

Dy breifatrwydd

Mae’r ap wedi cael ei lunio i barchu ac amddiffyn dy breifatrwydd:

  • ni fydd y llywodraeth na defnyddwyr eraill yr ap byth yn cael gwybod pwy wyt ti;

  • ni fydd angen i ti roi dy enw, dy oedran na dy gyfeiriad;

  • does dim modd tracio dy leoliad;

  • fydd dim modd gwybod pwy wyt ti os byddi di’n profi’n bositif am y coronafeirws;

  • allwn ni ddim cael gafael ar ddata sy’n cael ei gadw yn yr ap yn unig.

Dydy’r ap ddim yn gallu:

  • cael ei ddefnyddio i edrych a ddylet ti fod yn ynysu;

  • defnyddio unrhyw ddata arall ar dy ffôn (er enghraifft, dy luniau neu dy negeseuon).

Mae’r Wybodaeth hon am Breifatrwydd yn esbonio mwy am sut mae’r ap yn diogelu dy breifatrwydd di a defnyddwyr eraill yr ap.

Pa ddata sy’n cael eu casglu?

Mae angen i’r ap ddefnyddio data er mwyn i’w nodweddion weithio. Y nodweddion hynny yw:

  • yr ardal cod post y byddi di’n ei ddarparu wrth osod yr ap

  • yr awdurdod lleol y byddi di’n ei ddewis pan fydd yr ap yn gofyn i ti wneud hynny

  • unrhyw godau a gynhyrchir fel rhan o’r broses o olrhain cysylltiadau yn ddigidol

  • y wybodaeth rwyt ti’n ei rhoi wrth wirio symptomau neu wrth archebu prawf

  • dy oed fel unigolyn ifanc (dan 18 oed) os oes angen hyn erbyn i ni ddarparu gwybodaeth i ti

  • gall oedolion dros 18 oed ddewis datgan eu statws brechu

  • manylion y lleoliadau yr wyt ti wedi mewngofnodi iddyn nhw (dim ond ar dy ffôn y mae’r wybodaeth hon yn cael ei storio, nid yn unrhyw le canolog)

Mae’r ap yn casglu gwybodaeth yn awtomatig i sicrhau bod yr ap yn gweithio ac i helpu i frwydro yn erbyn y coronafeirws. Dydi’r wybodaeth ddim yn dweud pwy wyt ti. Er enghraifft, os oes gen ti symptomau coronafeirws ac yn defnyddio’r gwiriwr symptomau bydd yr ap yn creu crynodeb o’r gweithgaredd hwnnw. Gelwir y data hyn yn set ddata ddadansoddol.

Mae’r wybodaeth ddienw hon yn helpu i hysbysu ac i wella’r canlynol:

  • yr ymchwil a’r gwaith cynllunio sydd angen ei wneud i ymateb i’r coronafeirws

  • diogelwch yr ap a pha mor effeithiol ydyw

  • cywirdeb y cyngor, y wybodaeth a’r cymorth sy’n gysylltiedig ag iechyd y cyhoedd

Mae’r cyfeiriad IP (dynodwr unigryw ar dy ffôn pan fyddi di’n defnyddio’r rhyngrwyd) yn cael ei ddefnyddio’n awtomatig i drosglwyddo gwybodaeth i ni. Dydyn ni ddim yn defnyddio’r cyfeiriad IP hwn ac rydyn ni’n ei ddileu cyn gynted ag y bydd yn cyrraedd.

Darllen rhagor o wybodaeth am y data sy’n cael eu casglu o dy ffôn a sut mae’r data’n cael eu defnyddio

Dy ddewisiadau data

Pan fyddi di’n gosod yr ap am y tro cyntaf, bydd yn gofyn iti:

  • droi Bluetooth ymlaen

  • caniatáu hysbysiadau

  • rhoi rhan gyntaf cod post dy gartref, cyn y bwlch (er enghraifft, E12) a dewis enw d’awdurdod lleol

Mae angen y rhain er mwyn i’r ap weithio, ond galli di eu newid ar unrhyw adeg.

  • dim ond ar dy ffôn y bydd unrhyw ddata a allai dy adnabod gael eu storio

  • ni fydd yr ap byth yn rhannu’r data hyn ag unrhyw un arall

Os byddi di’n dewis lawrlwytho a gosod yr ap, galli di:

  • ddefnyddio rhannau o’r ap heb rannu unrhyw ddata

  • dileu neu ddiweddaru unrhyw wybodaeth rwyt ti wedi ei rhoi

  • dileu a dadosod yr ap ar unrhyw adeg

Ti biau’r dewis a wyt ti am rannu data amdanat ti ai peidio. Os byddi di’n penderfynu rhannu’r data, bydd y gweithwyr iechyd proffesiynol yn eu defnyddio i ddysgu mwy am y feirws.

Mae’r ap yn defnyddio proses awtomataidd i gynnig cyngor. Rydyn ni’n argymell dy fod yn dangos unrhyw rybuddion ar yr ap i oedolyn cyfrifol. Os oes gen ti bryderon am y cyngor sy’n cael ei gynnig, cysyllta ag NHS 111.

Gwneud cais am Daliadau Cymorth Profi ac Olrhain

Os yw gwasanaeth Profi ac Olrhain y GIG yn cysylltu â thi ac yn dweud wrthyt am hunanynysu ar 28 Medi 2020 neu wedi hynny, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnat ti wneud hynny.

Gall cymorth ariannol fod ar gael i ti yn ystod unrhyw gyfnod o hunanynysu. Mae manylion sut i wneud cais am y cymorth ariannol i’w gweld yn https://www.gov.uk/government/publications/test-and-trace-support-payment-scheme-claiming-financial-support

Mae ap COVID-19 y GIG yn caniatáu i ti wirio a wyt yn gymwys i dderbyn taliadau cymorth. Bydd botwm ar y sgrin gartref yn rhoi mynediad diogel a sicr i ti gyrraedd gwefan ‘Test and Trace Support Payment’ (neu borth Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu (SISS), os wyt ti yng Nghymru). Yma galli di gofnodi dy wybodaeth i weld pa gymorth ariannol sydd ar gael i ti.

Sylwer:

  • nid yw’r ap yn darparu mynediad i’r gwefannau taliadau cymorth

  • mae ceisiadau am gymorth ariannol yn gwbl breifat a chyfrinachol

  • bydd y rheiny sy’n gwneud cais am gymorth ariannol yn parhau i fod dan rwymedigaeth gyfreithiol i hunanynysu hyd yn oed os gwelir nad ydynt yn gymwys i dderbyn taliad

  • Ni all yr ap:

    • d’adnabod o’r ap yma

    • wirio dy fod yn hunan-ynysu

    • monitro a wyt yn cadw at amodau’r taliad

Olrhain cysylltiadau yn ddigidol

Mae proses olrhain cysylltiadau yn gallu darganfod pobl sydd mewn perygl o gael y feirws. Hyd yma, mae gweithwyr gofal iechyd wedi bod yn olrhain cysylltiadau â llaw, trwy ofyn i’r rhai sydd wedi cael y feirws:

  • enwi unrhyw un a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â’r person heintiedig

  • enwi mannau lle gall yr haint fod yn bresennol (y lleoedd y buon nhw ynddyn nhw)

Mae olrhain cysylltiadau yn ddigidol yn ddull newydd ac effeithiol sy’n defnyddio technoleg ffonau clyfar i gyflymu’r broses.

Mae ap COVID-19 y GIG yn gweithio drwy ddefnyddio technoleg a ddatblygwyd gan Apple a Google sef ‘Hysbysiadau Cysylltiad’ (‘Exposure Notifications’). Mae Hysbysiadau Cysylltiad yn caniatáu i dy ffôn gynhyrchu a rhannu dy ID gyda ffonau eraill sydd wedi’u galluogi, a hynny heb ddatgelu pwy wyt ti.

Gelli di ddiffodd ‘Hysbysiad Cysylltiadau (‘Exposure Notification’) yng ngosodiadau dy ffôn unrhyw bryd.

Dim ond ar dy ffôn di y mae’r data hyn yn cael eu storio, ac ni all unrhyw un gael mynediad atyn nhw oni bai dy fod ti’n dewis eu rhannu. Gofynnir iti a wyt ti am rannu’r data dienw hyn os byddi di’n profi’n bositif am y coronafeirws.

Mae rhagor o wybodaeth am GAEN ar wefannau Apple neu Google.

Dysgu am y system olrhain cysylltiadau yn ddigidol a’i gwella

Pan fydd IDs anhysbys (nad sy’n datgelu pwy wyt ti) yn cael eu rhannu, mae’r ddau ffôn yn cofnodi:

  • faint o amser y bu’r ffonau’n agos at ei gilydd

  • pa mor gryf oedd y signal Bluetooth rhyngddyn nhw (sy’n dangos pa mor bell oddi wrth ei gilydd oedd y ffonau)

  • y sgôr risg sy’n cael ei gynhyrchu gan y mesuriadau pellter yma.

Trwy ddiweddaru dy ffôn i ddefnyddio’r feddalwedd ddiweddaraf gan Apple a Google, os byddi di’n cael canlyniad prawf COVID-19 positif, bydd yn bosibl i ti rannu data gyda’r GIG i helpu:

  • Darganfod sut y mae olrhain cysylltiadau yn ddigidol yn gweithio,

  • Gwella’r ffordd y mae’r dechnoleg a’r dadansoddi yn gweithio

Mae hyn yn cynnwys helpu i:

  • Asesu a yw’r algorithm risg a ddefnyddir yn gweithio’n iawn

  • Deall a yw’r sgôr risg (sy’n cael ei gweithio allan o’r rhyngweithredu) yn adlewyrchu’n gywir y risg o COVID-19

  • Sicrhau bod y trothwy risg yn gweithio fel y bwriadwyd iddo wneud, ac wedi’i osod ar lefel briodol

  • Gynnig budd i iechyd cyhoeddus trwy ddysgu a gwella’r ap a pherfformiad a chyngor gwasanaethau

  • I ddeall sut y gall yr ap dy helpu, darllena’r hysbysiad preifatrwydd

Rhyngweithredu (apiau o wahanol wledydd yn gallu gweithio gyda’i gilydd)

Mae’r Gwasanaethau Iechyd yn Gibraltar, Jersey, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn defnyddio apiau olrhain cysylltiadau digidol sy’n seiliedig ar yr un dechnoleg Google Apple â’r ap hwn.

Rydyn ni’n sicrhau bod yr apiau hyn yn gallu rhannu ychydig o ddata gyda’i gilydd er mwyn gwneud olrhain cysylltiadau yn fwy effeithiol.

Os byddi di’n cael prawf positif rwyt ti eisoes yn gallu dewis rhybuddio pobl yr wyt ti wedi bod mewn cysylltiad â nhw. Erbyn hyn, mi alli di hefyd rybuddio pobl sy’n defnyddio apiau Gibraltar, Jersey, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn ogystal â defnyddwyr yr ap yma.

Alli di ddim dewis rhybuddio pobl Cymru a Lloegr yn unig, ond galli di ddewis peidio â rhybuddio neb.

Pwrpas gwneud i apiau weithio gyda’i gilydd fel hyn yw gwneud y gwaith o olrhain cysylltiadau yn fwy effeithiol. Mae’n arbennig o bwysig i bobl sy’n teithio llawer rhwng ardaloedd lle mae dau fath gwahanol o ap, er enghraifft Cymru a’r Alban.

Os byddi di’n teithio i Gibraltar, Jersey, Gogledd Iwerddon a’r Alban ac yn dod i gysylltiad â pherson sydd â’r feirws, bydd di nawr yn cael dy rybuddio. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl sy’n byw ar ffin, er enghraifft y ffin rhwng yr Alban a Lloegr.

Yn y dyfodol, efallai y bydd yr ap hwn yn gweithio gydag apiau gwledydd eraill heblaw’r DU. Yna, byddi di’n gallu defnyddio nodweddion olrhain cysylltiadau’r ap hwn pan fyddi di’n teithio dramor yn ogystal â phan fyddi di yn y DU. Does dim modd gwneud hynny ar hyn o bryd.

Does dim data a allai ddangos pwy wyt ti yn cael eu rhannu ag unrhyw wlad arall. Does dim data yn cael eu casglu’n ganolog amdanat ti. Does dim data a allai adnabod rhywun arall yn cael eu rhannu gyda ti.

Pa mor hir y mae gwybodaeth yn cael ei chadw

Bydd dy ffôn yn cadw data sy’n gysylltiedig â’r ap am y cyfnodau canlynol:

  • codau prawf sy’n cysylltu â chanlyniad prawf – 24 i 48 awr

  • codau dyddiol a ddefnyddir ar gyfer olrhain cysylltiadau – 14 diwrnod

  • sganiau QR ar ôl mewngofnodi i leoliad – 21 diwrnod

  • dy ddatganiad oed, os wyt ti’n ei ychwanegu – y cyfnod ynysu a 14 diwrnod ychwanegol

Cytunwyd ar y cyfnodau cadw hyn ar sail cyngor gwyddonol a meddygol. Yn y dyfodol, gallai hyn gynyddu neu leihau wrth i’r cyngor newid.

Ni fydd unrhyw wybodaeth sy’n cael ei chadw gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) yn cynnwys unrhyw ddata personol. Bydd y cofnodion hyn yn cael eu cadw am:

  • 8 mlynedd, i ddwyn y sefydliad i gyfrif

  • 20 mlynedd, i helpu i barhau i fonitro clefydau (fel y coronafeirws)

Cod Ymarfer Adran 46, y Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus, a dyletswyddau statudol perthnasol DHSC sy’n rheoli hyn.

Darllen mwy o wybodaeth am y broses o gadw dy ddata.

Diogelwch a chydymffurfiaeth

Nid yw’r ap yn casglu nac yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth a allai dy adnabod di i unrhyw un. Mae hyn yn cynnwys y Llywodraeth, Awdurdodau, y GIG, pobl a sefydliadau sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad yr ap, neu unrhyw un arall sy’n defnyddio’r ap.

Mae’r holl fesurau, polisïau a gweithdrefnau diogelwch angenrheidiol ar waith i atal:

  • unrhyw un rhag cael neu ddatgelu unrhyw ddata a gesglir gan yr ap

  • unrhyw ddata rhag cael eu dinistrio, naill ai’n fwriadol neu’n ddamweiniol

Mae hyn yn golygu bod yr ap:

  • yn saff i’w ddefnyddio

  • yn ddiogel ac yn gyfrinachol

  • yn cydymffurfio â’r gyfraith

Darllen mwy o wybodaeth am ddiogelwch a chydymffurfiaeth.

Dy hawliau di

  • galli di ddewis a wyt ti am lawrlwytho a gosod yr ap ai peidio

  • galli di ddewis dileu’r ap a’r holl ddata sydd ynddo ar unrhyw adeg

  • galli di ddefnyddio’r ap i gael mynediad at y data amdanat ti

  • galli di arfer dy hawliau yn ymwneud â’r data fel a ganlyn:

Hawl mynediad a cheisiadau am wybodaeth

Galli di gyrchu’r wybodaeth allweddol trwy ddefnyddio’r ap:

  • agor y sgrin ‘Ynglŷn â’r ap hwn’

  • clicia ar ‘Eich data’

  • clicia ar ‘Rheoli fy nata’

Dy hawl i gael dy anghofio

Galli di ddewis dileu’r ap a’r holl ddata sydd ynddo. Alli di ddim cael y data’n ôl pan fydd yr ap wedi’u dileu.

Dy hawl i wrthwynebu

Galli di ddewis dileu’r ap a’r holl ddata sydd ynddo neu ddileu lleoliadau penodol.

Gwneud penderfyniadau unigol yn awtomataidd gan gynnwys proffilio

Os oes gen ti bryderon am gyngor yr ap i fynd i gael prawf neu i hunanynysu, ffonia 111 (neu 0845 46 47 os wyt ti’n byw yng Nghymru ond nid yn ardaloedd Byrddau Iechyd Hywel Dda, Powys, Aneurin Bevan a Bae Abertawe – gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr).

Mae gwybodaeth am dy hawliau a sut i’w defnyddio ar gael gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cysylltu â’n Swyddog Diogelu Data (DP)

Yn ôl y gyfraith, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) sy’n gyfrifol am benderfynu sut a pham y bydd dy ddata personol yn cael eu defnyddio. Rydyn ni hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y data yn ddiogel.

Os oes gen ti unrhyw gwestiynau neu os wyt ti’n anhapus â’r ffordd mae dy wybodaeth yn cael ei defnyddio yn yr ap, cysyllta â Swyddog Diogelu Data DHSC yn data_protection@dhsc.gov.uk.

Tryloywder

Fel rhan o’n hymrwymiad i dryloywder, galli di weld y canlynol:

Mae rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n cadw dy ddata’n ddiogel YMA.

Mae gwybodaeth fwy cyffredinol am y coronafeirws ar gael yn GOV.UK/coronavirus.