Skip to main content
Canllawiau

eCall Cenhedlaeth Nesaf mewn ceir a cherbydau masnachol ysgafn

Cyhoeddwyd 29 Gorffennaf 2026

Yn ddiweddar, mae’r llywodraeth wedi diweddaru gofynion cerbydau newydd i gynnwys eCall Cenhedlaeth Nesaf (NG), sy’n cael ei osod yn y rhan fwyaf o geir newydd a cherbydau masnachol ysgafn.

Beth yw eCall?

Mae eCall yn dechnoleg hanfodol sy’n gwella diogelwch ffyrdd trwy alluogi ymatebion effeithlon i wrthdrawiadau. Mae’r system wedi’i chynllunio i alw am gymorth yn awtomatig os bydd gwrthdrawiad difrifol trwy hysbysu’r gwasanaethau brys.

Cyn 31 Mawrth 2027, efallai na fydd eCall NG yn gweithredu ac ni ddylid dibynnu arno mewn argyfwng. Dylid cysylltu â’r gwasanaethau brys trwy ffôn symudol neu ffôn Argyfwng ar ochr y ffordd.

Cerbydau eCall cymwys

Dim ond mewn cerbydau a gofrestrwyd ar ac ar ôl 1 Medi 2025 y mae eCall NG ar gael, sef o’r plât cofrestru ‘75’.

Os cofrestrwyd eich cerbyd cyn 1 Medi 2025 ac mae ganddo blât ‘25’ neu’n gynharach, nid oes angen i chi wneud dim.

Sut ydw i’n cael eCall NG?

Gall eich manwerthwr cerbydau eich cynghori a yw eich cerbyd wedi’i osod ag NG eCall.

Pam y cyflwynwyd NG eCall

Cyflwynwyd NG eCall i sicrhau dull cyson ledled Ewrop. Mae angen uwchraddio seilwaith telathrebu’r DU i alluogi cydnawsedd ag NG eCall. Disgwylir i’r newidiadau hyn gael eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2027.

Bydd rhwydweithiau telathrebu 2G y DU, sy’n cefnogi’r fersiwn flaenorol o eCall, yn cael eu diffodd yn 2029 a 2030. Mae NG eCall wedi’i gynllunio i weithredu y tu hwnt i’r cyfnod hwn ar y rhwydweithiau 4G a 5G ac felly bydd ganddo’r fantais o weithio am y rhan fwyaf o oes y cerbyd.

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru unwaith y bydd y seilwaith wedi’i uwchraddio.