Guidance

Pensiwn newydd y Wladwriaeth: geirfa

Updated 6 April 2016

This guidance was withdrawn on

We published this information to help explain the introduction of the new State Pension from 6 April 2016. We do not plan to update it.

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi cael ei dynnu.

Nid yw’r cyhoeddiad hwn bellach yn gyfredol.

Esboniad o eiriau a brawddegau wedi eu defnyddio yn y canllaw ynglŷn â’r Pensiwn newydd y Wladwriaeth.

Ail Bensiwn y Wladwriaeth

Rhan yn berthnasol i enillion o Bensiwn y Wladwriaeth yw hwn a gyflwynwyd ar 6 Ebrill 2002 i gymryd lle Cynllun Pensiwn yn Berthnasol i Enillion y Wladwriaeth. Roedd yn gwella budd-daliadau i enillwyr isel a chymhedrol ac yn ymestyn mynediad i gynnwys rhai gofalwyr a phobl gyda salwch neu anbledd tymor hir.

Blwyddyn gymhwyso

Blwyddyn dreth gyflawn yn ystod bywyd gwaith person lle gwnaethant dalu, cael eu trin fel eu bod wedi talu neu gael eu credydu gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar enillion uwch ben y ‘Terfyn Enillion Is’ wythnosol (£112 yr wythnos yn 2016 i 2017).

Budd-dal Ymddeol Graddedig

Pensiwn y Wladwriaeth yn berthnasol i enillion oedd hwn am y cyfnod 1961 i 1975. Mae’n rhan o’r Pensiwn y Wladwriaeth o dan yr hen gynllun.

Cofnod Yswiriant Gwladol

Cofnod o gyfraniadau a chredydau Yswiriant Gwladol person.

Credyd Cynilo

Rhan o Gredyd Pensiwn yw hwn ac mae’n daliad i bobl sydd wedi cynilo rhywfaint o arian tuag at eu hymddeoliad, er enghraifft, pensiwn personol neu breifat.

O 6 Ebrill ni fydd y credyd cynilo ar gael i bobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Credyd Gwarantedig

Rhan o Gredyd Pensiwn yw hwn sydd ar gael i bobl sydd wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso (oedran Pensiwn y Wladwriaeth merched), a all ychwanegu at incwm wythnosol i isafswm.

Credyd Pensiwn

Budd-dal yn berthnasol i incwm i bobl sy’n byw ym Mhrydain Fawr sydd wedi cyrraedd yr oedran isafswm cymhwyso (oedran Pensiwn y Wladwriaeth merched), Mae’n cael ei dalu naill ai i bobl sengl neu gyplau ar sail cartref. Mae dwy ran:

Gall pobl dderbyn naill ai gyfuniad o’r ddwy ran neu naill ran ar ben ei hun. O 6 Ebrill 2016, ni fydd Credyd Cynilo ar gael i bobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Credydau Yswiriant Gwladol

Mae pobl yn cael credydau Yswiriant Gwladol mewn amgylchiadau penodol fel pan maent yn sal neu’n ddi-waith ac yn hawlio budd-daliadau penodol (yn cynnwys Budd-dal Plant am blentyn o dan 12 oed). Maent yn cwmpasu cyfnodau lle nad yw person yn gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac yn gallu ychwanegu blynyddoedd cymhwyso i gofnod Yswiriant Gwladol person.

Cyfnodau Asesu Incwm

Mae hwn yn ran o Gredyd Pensiwn. Mae Cyfnodau Asesu Incwm yn gyfnodau (fel arfer hyd at 5 mlynedd), pan nad oes angen hysbysu newidiadau mewn darpariaeth ymddeoliad (cynilion a buddsoddiadau nad ydynt yn Bensiwn Wladwriaeth), oni bai y byddai hyn yn golygu cynnyddd mewn dyfarniad Credyd Pensiwn person. Bydd Cyfnod Asesu Incwm yn dod i ben yn raddol rhwng 2016 a 2019.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Mae gweithwyr a chyflogwyr yn gwneud cyfraniadau tuag at y Gronfa Yswiriant Gwladol. Gall y cyfraniadau hyn ychwanegu blynyddoedd cymhwyso i gofnod Yswiriant Gwladol person.

Cynllun Pensiwn yn Berthnasol i Enillion y Wladwriaeth

Rhwng mis Ebrill 1978 a mis Ebrill 2002 hwn oedd y rhan yn berthnasol i incwm o Bensiwn y Wladwriaeth o dan yr hen reolau.

Cynnydd Blynyddol

Y cynnydd blynyddol mewn budd-dal neu bensiwn, sydd fel arfer naill yn unol ag o leiaf enillion neu brisiau yn dibynnu ar ba fudd-dal neu ran o’r Pensiwn y Wladwriaeth sy’n cael ei gynyddu.

Didyniad Eithrio

Roedd y didyniad yn berthnasol i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth person i adlewyrchu cyfnodau o amser roeddynt wedi eithrio rhwng 1978 a 1997.

Eithrio

Roedd person wedi eithrio o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth os oeddynt yn aelod o gynllun pensiwn gweithle sy’n darparu budd-daliadau yn berthnasol i enillion yn lle‘r Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Gall pobl fod wedi cael eu heithrio hefyd drwy fod yn aelod o bensiwn gweithle prynu arian neu breifat a oedd yn cyfarfod yr anghenion ar gyfer eithrio. Roedd y gweithiwr a’u cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol is am yr amser roeddent wedi eithrio.

Etholiad Cyfradd Ostyngedig

Fel arfer gelwir hyn yn ‘Stamp Gwraig Briod’. Hyd at 1977 gallai gwragedd priod a gweddwon ‘ethol’ (dewis) i dalu cyfradd ostynegdig o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Nid yw’r cyfraniadau cyfradd ostyngedig hyn yn cyfri tuag at y prif fudd-daliadau cyfranedig (yn cynnwys Pensiwn y Wladwriaeth) yn seiliedig ar gyfraniadau person ei hun.

Gohirio

Gall person benderfynu i beidio â gwneud cais am eu Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddant yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ac efallai’n gallu ychwanegu rhywfaint rhagor o Bensiwn y Wladwriaeth i’w hawliad yn dibynnu ar faint o amser maent yn oedi gwneud cais am eu Pensiwn y Wladwriaeth; gelwir hyn ohirio. Mae’r rheolau am ohirio yn newid o dan y cynllun Pensiwn newydd y Wladwriaeth ar gyfer pobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016.

Isafswm Cyfnod Cymhwyso

Fel arfer bydd person angen o leiaf 10 mlynedd cymhwyso o gyfraniadau neu gredydau Yswiriant Gwladol er mwyn bod yn gymwys am unrhyw Bensiwn newydd y Wladwriaeth. Gelwir hyn yn isafswm cyfnod cymhwyso.

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Yr oedran cynharaf y gall person wneud cais am eu Pensiwn y Wladwriaeth fel ag y gosodir gan ddeddfwriaeth. Am fwy o wybodaeth ar sut i wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ewch i www.gov.uk/state-pension-age

Pensiwn gweithle

Math o bensiwn preifat wedi ei gynnig gan gyflogwr ac weithiau’n cael ei alw’n gynllun pensiwn galwedigaethol.

Pensiwn newydd y Wladwriaeth

Mae Pensiwn newydd y Wladwriaeth wedi cael ei gyflwyno ar gyfer pobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016.

Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Taliad rheolaidd gan y Llywodraeth yw hwn y gall rhan fwyaf o bobl wneud cais amdano pan fyddant yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar y nifer o flynyddoedd cymhwyso sydd ganddynt ar eu cofnod Yswiriant Gwladol. I gael y swm swm llawn o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth (£119.30 yr wythnos yn 2016 i 2017) mae angen i bobl sydd yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 6 Ebrill 2010 a 5 Ebrill 2016 fod gyda 30 o flynyddoedd cymhwyso. Mae hwn yn ran o’r Pensiwn y Wladwriaeth o dan yr hen reolau ac ni fydd yn ffurfio rhan o’r Pensiwn newydd y Wladwwriaeth.

Pensiwn y Wladwriaeth (ar gyfer pobl a gyrhaddodd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016)

Mae hwn wedi cael ei wneud i fyny o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ac unrhyw bensiwn o Fudd-dal Ymddeol Graddedig. Mae pobl a gyrhaeddodd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 yn derbyn eu Pensiwn y Wladwriaeth o dan y cynllun hwn.

Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Y rhan yn berthnasol i enillion o Bensiwn y Wladwriaeth a gyflwynwyd yn 1973. Roedd hwn yn cael ei alw’n Gynllun Pensiwn yn Berthnasol i Enillion y Wladwriaeth rhwng 1978 a 2002, ac yr Ail Bensiwn y Wladwriaeth o 2002. Mae’n ffurfio rhan o’r Pensiwn y Wladwriaeth o dan yr hen reolau ond ni fydd yn ffurfio rhan o’r dyfarniad Pensiwn newydd y Wladwriaeth.

Swm cychwynnol

Bydd cyfrifiad yn cael ei wneud gan ddefnyddio cofnod Yswiriant Gwladol person ar 6 Ebrill 2016, sy’n cymharu y swm o Bensiwn y Wladwriaeth y gall person ei gael yn seiliedig ar naill ai reolau’r Pensiwn y Wladwriaeth presennol neu reolau’r Pensiwn newydd y Wladwriaeth os oedd rhain mewn lle drwy gydol eu bywyd gwaith. Bydd y ddau swm yn cael eu haddasu i gymryd i ystyriaeth cyfnodau o eithrio. Y swm cychwynnol yw’r uchaf o’r 2 swm hwn. Bydd hyn y lleiaf y bydd person â hawl iddo yn y cynllun Pensiwn newydd y Wladwriaeth cyn belled ag eu bod yn cyfarfod yr isafswm cyfnod cymhwyso.

Swm Ad-daliad Deiliedig

Didyniad yw hwn a osodwyd i swm cychwynnol person i adlewyrchu cyfnodau o amser roeddynt wedi eithrio rhwng 1978 a 5 Ebrill 2016. Mae’n ffurfio rhan o’r cyfrifiad wedi ei wneud yn seileidig ar gofnodion Yswiriant Gwladol pobl cyn 2016 gan ddefnyddio rheolau cynllun Pensiwn newydd y Wladwriaeth.

Taliad Gwarchodedig

Rhan o swm cychwynnol person ar 6 Ebrill 2016, sydd uwchben y swm o Bensiwn newydd y Wladwriaeth llawn, os yn berthnasol. Mae’n cael ei dalu ar ben eu swm Pensiwn newydd y Wladwriaeth ac yn cynyddu pob blwyddyn yn unol â chwyddiant.

Ychwanegiad i Bensiwn y Wladwriaeth

Roedd hwn yn gynllun cyfyngedig o amser a oedd yn rhedeg rhwng 12 Hydref 2015 a 6 Ebrill 2017 i bobl oedd yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016. Roedd pobl yn gallu gwneud cyfraniad Yswiriant Gwladol gwirfoddol (Dosbarth 3A) i ychwanegu at eu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth o hyd at £25 yr wythnos. Mae’r cynllun bellach wedi cau ar gyfer ceisiadau.