Prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol: ffioedd ymgeisio o 1 Ebrill 2026/27 ymlaen
Updated 26 February 2026
Applies to England and Wales
1. Codir ffi ar ymgeiswyr am y canlynol:
- gwasanaethau cyn-ymgeisio
- ceisiadau am awdurdodiad o dan adrannau 52 a 53 Deddf Cynllunio 2008, cael gwybodaeth am fuddiannau mewn tir a hawliau mynediad
- costau lleoliad, pan na fydd yr Ymgeisydd yn darparu lleoliad ar gyfer gwrandawiad
- ffi i gyd-fynd â’r cais (y ‘Ffi derbyn’)
- ffi cyn-archwilio ar ôl penodi’r Arolygydd/Arolygwyr a ddewiswyd i archwilio’r cais i ddechrau
- taliad cychwynnol mewn perthynas â thrin cais (sy’n daladwy ar ddechrau’r cam Archwilio, yn dilyn y Cyfarfod Rhagarweiniol)
- taliad olaf mewn perthynas â thrin cais (sy’n daladwy ar ôl cwblhau’r cam Archwilio)
2. Ffioedd o 1 Ebrill 2026 ymlaen
2.1 Y ffi mewn perthynas â gwasanaethau cyn-ymgeisio
Yn dilyn hysbysiad gan Ymgeisydd am gais arfaethedig yn gofyn am wasanaethau cyn-ymgeisio a chytuno ar yr haen gwasanaeth
Mae’r tabl isod yn dangos y ffioedd sy’n daladwy o 1 Ebrill 2026 ymlaen ar gyfer ceisiadau presennol a newydd yn ystod cam cyn-ymgeisio’r broses.
Mae’r haenau gwasanaeth Safonol a Manylach yn destun Treth ar Werth (TAW) uwchlaw cost ffi’r haen gwasanaeth Sylfaenol.
| HAEN 1: SYLFAENOL | £65,820 fesul blwyddyn gwasanaeth | |||
| HAEN 2: SAFONOL | £133,064 fesul blwyddyn gwasanaeth + TAW £13,448.80 | |||
| HAEN 3: MANYLACH | £220,471 fesul blwyddyn gwasanaeth + TAW £30,930.20 |
3. Ffioedd o 1 Ebrill 2026 ymlaen
Mae’r tabl isod yn dangos y ffioedd sy’n daladwy o 1 Ebrill 2026 ymlaen ar gyfer ceisiadau presennol a newydd. Gellir gweld Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffioedd) 2010 a diwygiadau dilynol yn legislation.gov.uk
| Y ffi mewn perthynas â cheisiadau am awdurdodiad o dan adrannau 52 a 53 | |
|---|---|
| Cais am awdurdodiad o dan adran 52(2) (gwybodaeth am fuddiannau mewn tir). | £2,067 |
| Cais am awdurdodiad o dan adran 53(1) (hawliau mynediad). | £2,067 |
| Y ffi i gyd-fynd â chais | |
|---|---|
| Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio godi ffi ar yr Ymgeisydd mewn perthynas â’r penderfyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 55 (Derbyn ceisiadau) ynglŷn â ph’un ai derbyn y cais ai peidio. Mae’n rhaid i’r ffi gyd-fynd â’r cais. | £9,286 |
| Y ffi cyn-archwilio | |
|---|---|
| Yn dilyn penderfyniad o dan adran 61 (Dewis cychwynnol o Banel neu Arolygydd unigol), mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio hysbysu’r Ymgeisydd yn ysgrifenedig am y ffi Cyn-archwilio. Mae’r ffi Cyn-archwilio fel a ganlyn:- | |
| Arolygydd unigol | £26,879 |
| Panel o ddau Arolygydd | £44,451 |
| Panel o dri Arolygydd | £62,024 |
| Panel o fwy na thri Arolygydd | £88,901 |
| Y taliad cychwynnol mewn perthynas â thrin cais | |
|---|---|
| Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan Arolygydd unigol | £1,272 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig |
| Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan banel o ddau Arolygydd | £2,022 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig |
| Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan banel o dri Arolygydd | £2,771 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig |
| Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan banel o fwy na thri Arolygydd | £4,219 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig |
| Y taliad terfynol mewn perthynas â thrin cais | |
|---|---|
| Ar ôl hysbysiad ynghylch cwblhau’r cam Archwilio o dan adran 99. Mae’r taliad terfynol yn dibynnu ar nifer y diwrnodau a oedd yn ofynnol ar gyfer yr archwiliad mewn gwirionedd:- | |
| Pan fydd Arolygydd unigol wedi archwilio’r cais | £2,543 fesul diwrnod perthnasol |
| Pan fydd panel o ddau Arolygydd wedi archwilio’r cais | £4,044 fesul diwrnod perthnasol |
| Pan fydd panel o dri Arolygydd wedi archwilio’r cais | £5,541 fesul diwrnod perthnasol |
| Pan fydd panel o fwy na thri Arolygydd wedi archwilio’r cais | £8,437 fesul diwrnod perthnasol |
Mae’r taliad cychwynnol mewn perthynas â thrin cais yn cael ei ddidynnu o’r taliad terfynol.