Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Ffioedd Cais am Gael Gwneud Newid Sylweddol ar ôl Cydsyniad o 1 Ebrill 2026/27
Updated 24 March 2026
Applies to England and Wales
Codir tâl ar ymgeiswyr am y canlynol:
- costau lleoliad, pan na fydd yr Ymgeisydd yn darparu lleoliad ar gyfer gwrandawiad
- ffi i gyd-fynd â’r cais
- ffi cyn-archwilio ar ôl penodi’r Arolygydd/Arolygwyr a ddewiswyd yn wreiddiol i archwilio’r cais
- taliad cychwynnol yn gysylltiedig â thrin cais (sy’n daladwy ar ddechrau’r cam Archwilio, yn dilyn y Cyfarfod Rhagarweiniol)
- taliad terfynol yn gysylltiedig â thrin cais (sy’n daladwy ar ôl cwblhau’r cam Archwilio)
1. Ffioedd o 1 Ebrill 2026
Mae’r tabl isod yn dangos y ffioedd sy’n daladwy o 1 Ebrill 2026 ar gyfer ceisiadau newydd am gael gwneud newid sylweddol ar ôl cydsyniad. Gellir gweld Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Cydsyniad Datblygu) 2011 a diwygiadau dilynol yn legislation.gov.uk
| Y ffi i gyd-fynd â chais | |
|---|---|
| Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio godi ffi ar yr Ymgeisydd am gais a wneir o dan Reoliad 16 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Cydsyniad Datblygu) 2011. Mae’n rhaid i’r ffi gyd-fynd â’r cais. | £9,286 |
| Y ffi cyn-archwilio | ||
|---|---|---|
| Yn dilyn penderfyniad o dan Reoliad 22 (Penodi’r Corff Archwilio), mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio hysbysu’r Ymgeisydd yn ysgrifenedig am y ffi cyn-archwilio. Mae’r ffi cyn-archwilio fel a ganlyn:- | ||
| Arolygydd unigol | £17,573 | |
| Panel o ddau Arolygydd | £35,147 | |
| Panel o dri Arolygydd | £52,722 | |
| Panel o fwy na thri Arolygydd | £79,600 |
| Y taliad cychwynnol yn gysylltiedig â thrin cais | |
|---|---|
| Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan Arolygydd unigol | £1,272 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig |
| Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan banel o ddau Arolygydd | £2,022 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig |
| Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan banel o dri Arolygydd | £2,771 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig |
| Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan banel o fwy na thri Arolygydd | £4,219 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig |
| Y taliad terfynol yn gysylltiedig â thrin cais | |
|---|---|
| Ar ôl hysbysiad ynghylch cwblhau’r cam Archwilio o dan Reoliad 42. Mae’r taliad terfynol yn dibynnu ar nifer y diwrnodau a oedd yn ofynnol ar gyfer yr archwiliad mewn gwirionedd:- | |
| Pan fydd Arolygydd unigol wedi archwilio’r cais | £2,543 fesul diwrnod perthnasol |
| Pan fydd panel o ddau Arolygydd wedi archwilio’r cais | £4,044 fesul diwrnod perthnasol |
| Pan fydd panel o dri Arolygydd wedi archwilio’r cais | £5,541 fesul diwrnod perthnasol |
| Pan fydd panel o fwy na thri Arolygydd wedi archwilio’r cais | £8,437 fesul diwrnod perthnasol |
Mae’r taliad cychwynnol yn gysylltiedig â thrin cais yn cael ei ddidynnu o’r taliad terfynol.