Guidance

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Ffioedd Cais am Gael Gwneud Newid Sylweddol ar ôl Cydsyniad o 1 Ebrill 2025/26

Updated 23 July 2025

Applies to England and Wales

Codir tâl ar ymgeiswyr am y canlynol:

  • gwasanaethau cyn-ymgeisio
  • costau lleoliad, pan na fydd yr Ymgeisydd yn darparu lleoliad ar gyfer gwrandawiad
  • ffi i gyd-fynd â’r cais
  • ffi cyn-archwilio ar ôl penodi’r Arolygydd/Arolygwyr a ddewiswyd yn wreiddiol i archwilio’r cais
  • taliad cychwynnol yn gysylltiedig â thrin cais (sy’n daladwy ar ddechrau’r cam Archwilio, yn dilyn y Cyfarfod Rhagarweiniol)
  • taliad terfynol yn gysylltiedig â thrin cais (sy’n daladwy ar ôl cwblhau’r cam Archwilio)

1. Ffioedd o 1 Ebrill 2025

Mae’r tabl isod yn dangos y ffioedd sy’n daladwy o 1 Ebrill 2025 ar gyfer ceisiadau newydd am gael gwneud newid sylweddol ar ôl cydsyniad. Gellir gweld Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Cydsyniad Datblygu) 2011 a diwygiadau dilynol yn legislation.gov.uk

Y ffi i gyd-fynd â chais
Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio godi ffi ar yr Ymgeisydd am gais a wneir o dan Reoliad 16 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Cydsyniad Datblygu) 2011. Mae’n rhaid i’r ffi gyd-fynd â’r cais. £8,946
Y ffi cyn-archwilio
Yn dilyn penderfyniad o dan Reoliad 22 (Penodi’r Corff Archwilio), mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio hysbysu’r Ymgeisydd yn ysgrifenedig am y ffi cyn-archwilio. Mae’r ffi cyn-archwilio fel a ganlyn:-    
Arolygydd unigol £16,930  
Panel o ddau Arolygydd £33,860  
Panel o dri Arolygydd £50,792  
Panel o fwy na thri Arolygydd £76,686  
Y taliad cychwynnol yn gysylltiedig â thrin cais
Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan Arolygydd unigol £1,225 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig
Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan banel o ddau Arolygydd £1,948 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig
Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan banel o dri Arolygydd £2,669 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig
Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan banel o fwy na thri Arolygydd £4,064 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig
Y taliad terfynol  yn gysylltiedig â thrin cais
Ar ôl hysbysiad ynghylch cwblhau’r cam Archwilio o dan Reoliad 42. Mae’r taliad terfynol yn dibynnu ar nifer y diwrnodau a oedd yn ofynnol ar gyfer yr archwiliad mewn gwirionedd:-  
Pan fydd Arolygydd unigol wedi archwilio’r cais £2,450  fesul diwrnod perthnasol
Pan fydd panel o ddau Arolygydd wedi archwilio’r cais £3,896  fesul diwrnod perthnasol
Pan fydd panel o dri Arolygydd wedi archwilio’r cais £5,338  fesul diwrnod perthnasol
Pan fydd panel o fwy na thri Arolygydd wedi archwilio’r cais £8,128  fesul diwrnod perthnasol

Mae’r taliad cychwynnol yn gysylltiedig â thrin cais yn cael ei ddidynnu o’r taliad terfynol.