Ffurflen

Yswiriant Gwladol: Hawlio ad-daliad o gyfraniadau a dalwyd i'r DU tra'n gweithio dramor (CA307)

Llenwch ffurflen CA307 i hawlio ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalwyd i'r DU tra'r oeddech yn gweithio dramor.

Dogfennau

Hawlio ar-lein (mewngofnodi gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth)

Hawlio gan ddefnyddio’r ffurflen argraffu ac anfon(CA307)

Manylion

Er mwyn hawlio ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU a dalwyd tra oeddech yn gweithio dramor, gallwch naill ai:

  • defnyddio’r gwasanaeth ffurflen ar-lein
  • llenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i phostio i Gyllid a Thollau EM

Er mwyn hawlio ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un wrth hawlio.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol – mae hwn yn 2 lythyren wedi’i ddilyn gan 6 rhif ac 1 llythyren. Cewch hyd i hwn ar eich slip talu, eich P60 neu’ch Ffurflen Dreth
  • eich cyfeiriad rhyngwladol
  • manylion eich statws cyflogaeth yn y DU cyn i chi adael y DU, gan gynnwys enw a chyfeiriad eich cyflogwr
  • y dyddiad y gwnaethoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ddiwethaf
  • manylion eich cyflogaeth dramor, gan gynnwys pryd y gwnaethoch adael y DU, y wlad yr oeddech ynddi, enw a chyfeiriad eich cyflogwr, dyddiadau dechrau a gorffen eich cyflogaeth, a chyda phwy yr oedd eich contract (darllenwch yr adran ynghylch preswyliaeth gyffredin ar dudalennau 6 a 7 o daflen wybodaeth NI38 cyn i chi ateb y cwestiwn hwn). Byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth os oes angen i ni wirio hyn

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn defnyddio hen borwr, e.e. Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn llawn cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth ynghyd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Cyhoeddwyd ar 12 August 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 May 2016 + show all updates
  1. An online form service is now available.

  2. New Welsh addition of the CA307 available

  3. Welsh translation added to the page.

  4. First published.