Unedau pesgi trwyddedig ar gyfer gwartheg: cais
Ffurflenni i gofrestru uned besgi drwyddedig yng Nghymru a Lloegr ar gyfer gwartheg o fuchesi sydd heb TB yn swyddogol.
Applies to England and Wales
Dogfennau
Manylion
Gwneud cais i gael cymeradwyaeth am uned besgi drwyddedig yng Nghymru neu yn Lloegr.
Math o uned TB yw uned besgi drwyddedig a all ond fod wedi’i lleoli yn ardal TB isel yng Nghymru neu yn ardal risg isel Lloegr.
Gallwch besgi gwartheg sydd wedi cael profion negatif o sawl buches sydd heb TB yn swyddogol (OTF) o unrhyw ardal yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Mae gwartheg mewn unedau pesgi trwyddedig:
- o dan gyfyngiadau symud yn barhaol
- yn cael eu cadw dan do o dan amodau bioddiogel
Cyn i wartheg symud i uned besgi drwyddedig, rhaid iddynt gydymffurfio â gofynion profion cyn symud statudol.
Ceir amodau cymeradwyo a chanllawiau ar wahân i unedau pesgi trwyddedig yng Nghymru a Lloegr.
Unedau pesgi trwyddedig yn Lloegr
- Gall gwartheg ond symud o unedau pesgi trwyddedig yn uniongyrchol i’w lladd neu i’w lladd drwy grynhoad TB cymeradwy (marchnad neu gasgliad) yn Lloegr.
- Ni all gwartheg symud trwy grynhoad lladd TB cymeradwy yng Nghymru
- Nid oes angen profion TB ar wartheg mewn unedau pesgi trwyddedig ond gall yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) brofi o dan amgylchiadau eithriadol
- Dim ond os nad oes prawf cyn symud gofynnol wedi’i gynnal 60 diwrnod cyn symud i’r uned besgi drwyddedig y bydd angen prawf ar ôl symud ar wartheg sy’n cael eu symud o fuchesi sy’n cael profion TB yn flynyddol neu’n amlach na hynny
Unedau pesgi trwyddedig yng Nghymru
- Mae unedau pesgi trwyddedig yn darparu eithriad rhag profion ar ôl symud gwartheg sy’n symud i uned besgi yn ardal TB isel Cymru.
- Gall gwartheg ond symud o unedau pesgi trwyddedig yn uniongyrchol i’w lladd neu i’w lladd drwy grynhoad TB cymeradwy (marchnad neu gasgliad) yng Nghymru neu yn Lloegr.
- Mae’n rhaid profi gwartheg mewn unedau pesgi cymeradwy bob 6 mis
- Bydd angen profion ychwanegol ar unrhyw anifail heb brawf cyn symud statudol, pan fo’n ofynnol yn ystod y 60 diwrnod cyn symud i uned besgi drwyddedig yng Nghymru.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 June 2023 + show all updates
-
Welsh language version of the page and Welsh language form TR188 has been added.
-
The terms and conditions of the approval and operation of a licensed finishing unit (England) and terms and conditions of the approval and operation of a licensed finishing unit (Wales) have been updated.
-
A new TB Order came into force in England on 1 October 2021. Updated the TB188 form, application for a licensed finishing unit.
-
Terms and conditions of the approval and operation of a licensed finishing unit (England) updated
-
Updated TR429 document
-
Data protection statement updated on form
-
Updated Terms and conditions of the approval and operation of a licensed finishing unit (Wales)
-
Added details for LFUs in Wales.
-
Updated Terms and conditions of the approval and operation of a licensed finishing unit
-
First published.