Papur polisi

Prosbectws Y Gronfa Ffyniant Bro

Diweddarwyd 15 July 2022

Adran 1: Trosolwg o’r Gronfa

Cyflwyniad

Mae gan fuddsoddi mewn seilwaith y potensial i wella bywydau trwy: roi balchder i bobl yn eu cymunedau lleol; dod â mwy o bobl ledled y DU yn agosach at gyfleoedd; a dangos y gall y llywodraeth gyflawni’n weledol yn erbyn anghenion amrywiol yr holl leoedd a’r holl ddaearyddiaethau. Mae ein cymunedau lleol a’r cysylltiadau sydd rhyngddynt ledled y DU yn rhannau hanfodol o’r economi, y diwylliant, a’r gymdeithas rydym ni’n eu rhannu.

Serch hynny, mae gwahaniaethau economaidd yn parhau o hyd rhwng gwahanol rannau o’r DU, gan gynnwys ein dinasoedd, hen drefi diwydiannol, a chymunedau gwledig ac arfordirol. Mae goblygiadau gwirioneddol ynghlwm â’r gwahaniaethau economaidd hyn: maent yn effeithio ar fywydau pobl drwy eu cyflogau, cyfleoedd gwaith, iechyd, a chyfleoedd mewn bywyd. Mae mynd i’r afael â’r gwahaniaethau economaidd hyn ac ysgogi ffyniant fel rhan o sicrhau ffyniant rhanbarthau o’r DU sydd wedi’u gadael ar ôl yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon.

Gellir mesur ffyniant mewn sawl ffordd. I lawer o bobl, fodd bynnag, y mesur mwyaf pwerus o lwyddiant economaidd yw’r newid cadarnhaol a welant a’r balchder a deimlant yn y mannau y maen nhw’n ei alw’n gartref.

Cyhoeddwyd rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro yn Adolygiad o Wariant 2020 i gefnogi cymunedau i wireddu’r weledigaeth hon. Gan ganolbwyntio ar fuddsoddi cyfalaf mewn seilwaith lleol, adeiladu ar a chyfnerthu rhaglenni blaenorol fel y Gronfa Twf Lleol a’r Gronfa Trefi, fe wnaeth rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro gefnogi gwerth £1.7 biliwn o brosiectau mewn dros 100 o ardaloedd lleol ym mhob cwr o’r DU, gan ddarparu dros £170 miliwn o gyllid yn yr Alban, a £120 miliwn yng Nghymru, a £49 miliwn yng Ngogledd Iwerddon. Ymhlith pethau eraill, rydym yn cefnogi adfywio canol y ddinas yn Aberdeen, Station Gateway yng Nghaerlŷr, Llwybr Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin, a Stiwdio Gynhyrchu yn Belfast.

Drwy’r rownd nesaf hon o’r Gronfa Ffyniant Bro, bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fuddsoddi’n uniongyrchol mewn cymunedau ar draws holl rannau’r DU. Trwy gynyddu effaith ei buddsoddiad, bydd Llywodraeth y DU yn rhyddhau grym cynhyrchiol ac yn hybu balchder mewn lleoedd ym mhob cwr o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gefnogi ein hagenda hybu ffyniant bro.

Mae hybu ffyniant bro yn ganolog i agenda’r Llywodraeth i adeiladu’n ôl yn well ar ôl y pandemig, ac i gyflawni ar gyfer dinasyddion ym mhob rhan o’r DU. Rydym yn cydnabod bod hybu ffyniant bro yn mynnu ymagwedd amlweddog a darperir y Gronfa fel rhan o becyn eang o ymyriadau cydategol ledled y DU, gan gynnwys: Cronfa Adfywio Cymunedol y DU, Cronfa Perchnogaeth Gymunedol y DU, y Cynllun Hybu Swyddi [Plan for Jobs], y rhaglen Porthladdoedd Rhydd, Banc Seilwaith y DU, y Gronfa Trefi, a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae’r Papur Gwyn Ffyniant Bro a gyhoeddwyd ar 2 Chwefror yn adeiladu ar y sylfeini hyn, gyda chynllun clir i hybu ffyniant bro ym mhob cornel o’r DU, yn seiliedig ar 12 cenhadaeth uchelgeisiol dros 10 mlynedd ac yn cael ei olrhain gan adroddiad blynyddol a fydd yn monitro cynnydd ffyniant bro ac yn sicrhau y delir y llywodraeth i gyfrif. Bydd ein cynllun yn mynd i’r afael â gwahaniaethau ledled y DU, yn rhoi mwy o arian ym mhocedi’r rheiny sydd ei angen fwyaf, ac yn trawsnewid economi’r DU trwy gynhyrchu swyddi sy’n mynnu sgiliau lefel uwch ac yn talu cyflogau uwch, a buddsoddiad newydd.

Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i warchod a hyrwyddo cryfderau cyfunol y DU, gan adeiladu ar gannoedd o flynyddoedd o bartneriaethau a hanes a rennir. Bydd y cylch hwn o’r Gronfa Ffyniant Bro yn cryfhau’r Undeb ac yn sicrhau bod sefydliadau’r DU yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n fanteisiol i bobl ym mhob rhan o’r wlad.

Blaenoriaeth Llywodraeth y DU yw darparu buddsoddiad effeithiol ym mhob rhan o’r DU, er mwyn hyrwyddo’r buddion pennaf i ddinasyddion. Mae cyflawni’n effeithiol ar gyfer pobl a chymunedau yn nod y gwyddwn ein bod yn ei rhannu gyda chydweithwyr yn y gweinyddiaethau datganoledig. Trwy fabwysiadu’r ymagwedd strategol hon, a gweithio fel un Deyrnas Unedig, gallwn fynd i’r afael yn well â heriau y mae’r wlad gyfan yn eu hwynebu.

I ymgeisio am fuddsoddiad o ail gylch y Gronfa Ffyniant Bro, rhaid i sefydliadau lleol cymwys gyflwyno’u cynigion llawn gyda’r holl ddogfennaeth ategol drwy’r porth ymgeisio ar-lein erbyn canol dydd, dydd Mercher 6 Gorffennaf.

Themâu buddsoddi

Bydd ail gylch y Gronfa’n canolbwyntio ar yr un tair thema fuddsoddi â’r cylch cynaf: prosiectau trafnidiaeth lleol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i ardaloedd lleol; adfywio canol trefi a’r stryd fawr; a chefnogaeth ar gyfer cynnal ac ehangu portffolio’r DU o asedau diwylliannol a threftadaeth sy’n arwain y byd. Yn benodol, bydd y gronfa’n disgwyl cefnogi:

  • Buddsoddiadau trafnidiaeth gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) drafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol, atgyweirio pontydd, blaenoriaeth i fysiau, gwelliannau i ffyrdd lleol a gwaith cynnal a chadw strwythurau mawr, a gwelliannau i hygyrchedd. Rydym yn gofyn am gynigion ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth lleol pwerus bach, canolig, a thrwy eithriad, cynlluniau trafnidiaeth lleol mwy er mwyn lleihau allyriadau carbon, gwella ansawdd aer, lleihau tagfeydd, cefnogi twf economaidd a gwella profiad defnyddwyr trafnidiaeth.
  • Buddsoddi mewn adfywio canol trefi, gan adeiladu ar fframwaith y Gronfa Trefi i uwchraddio adeiladau sy’n ddolur llygad a seilwaith sydd wedi dyddio, caffael ac adfywio safleoedd tir llwyd, buddsoddi mewn seilwaith cymunedol diogel a lleihau troseddu, a dod â gwasanaethau cyhoeddus a mannau cymunedol diogel a hygyrch i ganol trefi a dinasoedd.
  • Buddsoddiad diwylliannol yn cynnal, adfywio, neu addasu’n greadigol at ddibenion gwahanol asedau diwylliannol, creadigol, treftadaeth a chwaraeon presennol, neu greu asedau newydd sy’n ateb y dibenion hynny gan gynnwys theatrau, amgueddfeydd, orielau, cyfleusterau cynhyrchu, llyfrgelloedd, atyniadau ymwelwyr (a mannau gwyrdd cysylltiedig), cyfleusterau chwaraeon ac athletau, adeiladau a safleoedd treftadaeth, ac asedau sy’n cefnogi’r economi ymwelwyr.

Dylai cynigion buddsoddi ganolbwyntio ar gefnogi prosiectau â blaenoriaeth uchel, mawr eu heffaith a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol gweladwy i ardaloedd lleol, gan gydnabod y bydd yr hyn a elwir yn fuddsoddiad blaenoriaeth yn amrywio ar draws awdurdodau lleol a daearyddiaethau, gan gynnwys ardaloedd gwledig y DU.

Wrth gyflwyno cynigion, bydd disgwyl i leoedd ddynodi pa thema (themâu) buddsoddi y mae’r ymyrraeth yn ei thargedu, ar sail prosiect wrth brosiect. O fewn cynigion lleoedd, bydd rhyddid iddynt gyflwyno unrhyw gyfuniad o brosiectau ar draws y tair thema fuddsoddi (yn enwedig prosiectau unigol ar draws nifer o themâu buddsoddi) lle mae rhannu cyllid ar draws gwahanol bileri wir yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol, a lle byddant yn cael yr effaith leol fwyaf.

Yr eithriad i’r rheol hon yw cynigion trafnidiaeth mawr (Lan i £50 miliwn) a chynigion a gyflwynir gan sefydliadaucymwys sydd â chynnig ‘trafnidiaeth yn unig’ fel yr amlinellir yn – mae’n rhaid i’r rhain fod ar gyfer 90% trafnidiaeth o leiaf.

Yn ogystal, ar gyfer ail rownd y Gronfa, byddwn hefyd yn barod i ariannu hyd at ddau gynnig mawr am hyd at £50 miliwn o dan thema buddsoddi mewn diwylliant a threftadaeth y Gronfa. Rhaid i’r ceisiadau hyn fod ar gyfer prosiectau blaenllaw a bod yn unol â ffocws y Gronfa ar ymyriadau tra gweladwy sy’n hybu balchder mewn lleoedd. Rhaid i’r rhain fod o leiaf 90% diwylliant.

Mae uchelgeisiau Sero Net ac uchelgeisiau amgylcheddol ehangach y Llywodraeth hon yn rhan allweddol o’n hymrwymiad i adeiladu’n ôl yn wyrddach – ac mae hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â phrosiectau cyfalaf a seilwaith, sy’n cael effaith fwy gweledol ar ein hamgylchoedd. Dylai prosiectau fod yn gyson â nodau Sero Net a’u cefnogi, gan gynnwys y rheiny sydd wedi’u hamlinellu yn Strategaeth Sero Net Llywodraeth y DU a chynlluniau penodol i sector fel y Strategaeth Gwres ac Adeiladau, lle bo’n berthnasol. Er enghraifft, anogir prosiectau i gyflawni arfer gorau carbon isel neu sero carbon; mabwysiadu a chefnogi technoleg arloesol, lân a/neu cefnogi’r twf mewn sgiliau gwyrdd a chadwyni cyflenwi cynaliadwy.

Dylai cynigion hefyd ystyried sut y gall prosiectau weithio gyda’r amgylchedd naturiol i gyflawni amcanion prosiectau – gan ystyried, man lleiaf, effaith y prosiect ar asedau naturiol ein gwlad, yn ogystal â pha mor wydn yw unrhyw brosiect seilwaith cyfalaf yn erbyn peryglon posibl megis llifogydd. Gallai prosiectau gynnwys cynigion seilwaith cyfalaf sy’n diogelu’n well rhag llifogydd ac erydu arfordirol lle maent yn ffurfio rhan gydlynus o gynnig trafnidiaeth, adfywio, a/neu ddiwylliant a threftadaeth ehangach.

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod lleihau troseddu a chyflawni trefi a dinasoedd diogel a sicr mae pobl eisiau byw a gweithio ynddynt, ac ymweld â nhw, yn hanfodol i’n cenhadaeth i sicrhau ffyniant bro. Lle bo’n gymwys, dylai cynigion ystyried sut maen nhw’n cryfhau gwaith cynghorau a phartneriaid amlasiantaeth wrth fynd i’r afael ag ystod o faterion diogelwch cymunedol a lleihau troseddu.

Anogir cynigion i gynnwys manylion am sut byddai eu prosiectau y Gronfa Ffyniant Bro yn ategu ffynonellau cyllid eraill, er enghraifft Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Trafnidiaeth

Gall buddsoddi mewn rhwydweithiau trafnidiaeth lleol adfywio economïau lleol trwy hybu twf, gwella cysylltedd, a gwneud lleoedd yn iachach, yn wyrddach ac yn fannau mwy deniadol i fyw a gweithio ynddynt. Mae bron iawn pob taith leol yn dechrau ac yn gorffen ar rwydweithiau trafnidiaeth lleol, felly mae buddsoddi’n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gweladwy i drigolion, busnesau a chymunedau lleol. Gall prosiectau trafnidiaeth lleol chwarae rhan ganolog mewn gwella lleoedd ac ymdrechion i hybu ffyniant bro. Gallai hynny gynnwys uwchraddio a gwella diogelwch a diogeledd seilwaith bysiau a beicio er mwyn gwella mynediad at swyddi wrth gefnogi aer glanach a theithio gwyrddach, iachach, targedu gwella ffyrdd lleol mewn ardaloedd lle ceir mannau cyfyng, a thrwsio pontydd er mwyn sicrhau nad yw cymunedau’n cael eu hynysu o wasanaethau allweddol.

Disgwyliwn y bydd unrhyw brosiectau ffyrdd lleol yn cyflawni neu’n gwella seilwaith beicio a cherdded hefyd, a chynnwys mesurau blaenoriaeth i fysiau, oni ellir dangos nad oes fawr o angen neu ddim angen gwneud hynny. Rhaid i gynigion i fuddsoddi mewn seilwaith beicio newydd ac wedi’i uwchraddio fodloni’r safonau a amlinellwyd yn nodyn trafnidiaeth leol 1/20: dylunio seilwaith beicio.

Gwelodd cylch cyntaf y Gronfa dros £450 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn trafnidiaeth ar hyd y DU. O adnewyddu cysylltiadau at gymunedau ynysedig i leihau tagfeydd yn ein dinasoedd, ac o gysylltu ardaloedd preswyl â chanolfannau cyflogaeth i uwchraddio’n eang rwydweithiau gwefru cerbydau trydan, bydd lleoedd yn gweld y buddion hyn yn cael eu gwireddu cyn hir.

Gallai prosiectau sy’n cael eu cyflwyno i’w harfarnu o dan y thema fuddsoddi hon gynnwys:

  • Buddsoddiadau mewn darpariaeth newydd neu ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes ar gyfer beicio.
  • Gwell blaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol (e.e. lonydd blaenoriaeth bysiau neu flaenoriaeth signalau ar gyffyrdd).
  • Gwell adnoddau trafnidiaeth cyhoeddus, megis safleoedd a gorsafoedd bysiau, a gwella eu diogelwch.
  • Gwelliannau i’w gwneud hi’n haws i bobl anabl ddefnyddio rhwydweithiau trafnidiaeth lleol.
  • Gwella ac uwchraddio rhwydweithiau ffyrdd lleol (e.e. ffyrdd osgoi a gwelliannau i gyffyrdd)
  • Gwaith cynnal a chadw strwythurol i ffyrdd lleol, gan gynnwys pontydd.
  • Cynigion aml-ddull sy’n cyfuno dau neu fwy o ymyriadau i wella trafnidiaeth ar draws dulliau.

Astudiaeth Achos: Bishop Auckland, Durham

Bydd £20 miliwn o rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro yn ailagor Pont Whorlton, sef pont grog hynaf y DU, a thrawsnewid rhan o’r strwythur sydd ynghlwm yn ganolfan ymwelwyr, ail-lwybro’r A68 bresennol at ffordd osgoi, gan ddarparu gwelliannau strwythurol i draciau a ddefnyddir gan drenau stêm treftadaeth a man parcio gwell i ymwelwyr. Bydd y prosiect yn cynyddu niferoedd ymwelwyr â’r safle diwylliannol ac yn gwella cysylltiadau trafnidiaeth i bobl leol, yn enwedig y rheiny mewn cymunedau gwledig o amddifadedd. Bydd yr ardal yn elwa hefyd o lwybr cerdded a beicio 18 cilometr ochr yn ochr â’r rheilffordd, gan gysylltu cymunedau gwledig mwy fyth â swyddi ac addysg yn Bishop Auckland a Newton Aycliffe. Fe wnaeth y cynnig hwn nodi’n effeithiol fuddion iechyd, gwelliannau i ansawdd siwrneiau a lleihau tagfeydd a fyddai’n cael eu cyflawni o’r ymyriadau.

Astudiaeth Achos: AMIDS South, Swydd Renfrew

Bydd bron i £39 miliwn o rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro yn darparu cysylltiadau newydd, gwell ac o ansawdd uchel ar gyfer dulliau teithio cymysg. Bydd hyn yn sefydlu rhwydwaith cynhwysfawr a chynaliadwy sy’n cysylltu canolfannau preswyl, addysgol, cyflogaeth, diwylliannol, manwerthu a hamdden. Advanced Manufacturing Innovation District Scotland (AMIDS) yw un o ddeilliannau mwyaf a mwyaf datblygedig Bargen Dinas-ranbarth Glasgow erbyn hyn.

Gan adeiladu ar fuddsoddiad blaenorol gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Chyngor Swydd Renfrew, bydd AMIDS South yn helpu lleihau allyriadau carbon, yn cefnogi twf ac yn gwella profiad defnyddwyr trafnidiaeth ledled Paisley, Renfrew ac Inchinnan. Fe wnaeth y cynnig hwn uno rhanddeiliaid lleol i fynd i’r afael â’r angen brys i hwyluso adferiad lleol o bandemig COVID-19.

Adfywio

Mae canolfannau trefi yn rhan hanfodol o’n cymunedau a’n heconomïau lleol, yn darparu canolbwynt i’r fasnach fanwerthu a lletygarwch a chanolfan ystyrlon ar gyfer cymunedau lleol. Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bod ymddygiad cwsmeriaid wedi newid a bod hynny wedi gwneud pethau’n anoddach i fanwerthwyr yn ein canolfannau trefi ac ar y stryd fawr, rhywbeth a wnaed yn fwy amlwg fyth gan effaith Covid-19. Yn ogystal, er bod rhai ardaloedd lleol wedi elwa o raglenni fel y Gronfa Trefi, nid yw mannau eraill, fel y trefi llai, wedi gallu cael y buddsoddiad hwn.

Yng Nghyllideb 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ‘Ein Cynllun ar gyfer y Stryd Fawr’, gan arwain nifer o fentrau gan gynnwys y Gronfa Trefi, i adnewyddu ac ailffurfio canolfannau trefi a’r stryd fawr fel eu bod yn edrych ac yn teimlo’n well, ac yn gallu ffynnu yn y tymor hir. Ym mis Ionawr 2022, ymrwymodd Llywodraeth y DU i fynd ati’n rhagweithiol i nodi ac ymgysylltu â hyd at 20 o leoedd yn Lloegr i sbarduno trawsnewid economaidd, drwy ddod â chronfeydd gwahanol o gyllid a arweinir yn lleol ynghyd, gan gynnwys y Gronfa Ffyniant Bro, y Gronfa Trefi, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ochr yn ochr ag £1.8 biliwn o gyllid tir llwyd a seilwaith yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a buddsoddiad preifat. Mae hyn yn cydnabod llwyddiant colofn adfywio y Gronfa Ffyniant Bro sydd eisoes wedi cefnogi 51 o brosiectau i adfywio canol trefi, helpu twf glân a’r pontio at Sero Net, darparu addysg a chefnogi deilliannau iechyd ac amgylcheddol lleol. Rydym eisiau helpu cymunedau i drawsnewid safleoedd sy’n adfeiliedig, yn wag neu’n cael eu defnyddio’n wael, i fod yn ganolfannau masnachol a chymunedol bywiog y gall pobl fod yn falch ohonynt.

Gallai prosiectau sy’n cael eu cyflwyno i’w harfarnu o dan y thema fuddsoddi hon gynnwys:

  • Adfywio safleoedd hamdden a manwerthu allweddol a gwella eu diogelwch, er mwyn annog busnesau newydd a gwasanaethau cyhoeddus i leoli yno.
  • Cael gwared ar adeiladau adfeiliedig ac adeiladau eraill sy’n ddolur llygad, i wneud lle i ddatblygiadau newydd.
  • Caffael ac adfer safleoedd gadawedig neu safleoedd tir llwyd, ar gyfer defnydd masnachol a defnydd preswyl newydd.
  • Gwella tir y cyhoedd, gan gynnwys y stryd fawr, parciau a mannau gwyrdd, gan sicrhau nad oes cyfleoedd ar gyfer troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Creu cysylltedd gwell rhwng ac o fewn safleoedd manwerthu a hamdden allweddol, gan gynnwys ychwanegu a/neu wella seilwaith i helpu gwneud canol trefi a’r stryd fawr yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau.

Astudiaeth Achos: Tower Hamlets, Whitechapel Road

Bydd £9.3 miliwn o rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro yn helpu Tower Hamlets i adfywio ardal sy’n dioddef o droseddu a materion ymddygiad gwrthgymdeithasol, llygredd sŵn ac aer sylweddol, economi gyfyngedig mis nos a mannau tir cyhoeddus gwael. Mae Whitechapel Road yn ganolfan fasnachol hen sefydledig a chanddi farchnad stryd awyr agored hirsefydlog - sef calon ddiwylliannol yr ardal, gyda nifer o asedau treftadaeth. Nod Rhaglen Wella Whitechapel Road yw trawsnewid ardal Whitechapel Road i hyrwyddo’r cyfleoedd twf economaidd a charbon Sero Net i’r eithaf, gan wneud yr ardal yn fwy diogel a mwy hygyrch.

Roedd y cynnig yn dangos lefelau uchel o gefnogaeth gan randdeiliaid lleol a chysondeb â chyfleoedd i hybu ffyniant bro sy’n bodoli i ategu buddsoddiad presennol ac arfaethedig ehangach yn yr ardal.

Astudiaeth Achos: Adfywio Economaidd a Ffisegol Integredig Antrim

Bydd £1.2 miliwn o rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer Adfywio Economaidd a Ffisegol Integredig Antrim yn helpu ysgogi twf economaidd hirdymor trwy gefnogi adfywio ac adfywhau amgylchedd economaidd a ffisegol canol y dref. Nod y cynllun yw ailsefydlu Antrim fel lleoliad bywiog i bobl ymweld ag ef, i fyw a gweithio yno ac fel cyrchfan allweddol ar gyfer mewnfuddsoddiad. Cyflawnir hyn trwy ddatblygu man gweithio busnes hyblyg maestrefol mewn prif leoliad canol tref, adfywio ac ymestyn llwybr pren glan afon i ddarparu mynediad i’r afon a’r stryd fawr o’r eiddo ac i Erddi Castell Antrim. Bydd mesurau trafnidiaeth cynaliadwy yn cael eu cefnogi a’u hariannu yn ogystal â chynnig seilwaith glas/gwyrdd unigryw. Roedd y cynnig hwn wedi rhoi achos grymus gerbron fod hyn yn flaenoriaeth leol a dangosodd dystiolaeth dda o gefnogaeth leol.

Diwylliant a Threftadaeth

Gall buddsoddi mewn asedau diwylliannol adfywio lleoedd, gan arwain at ganlyniadau economaidd a chymdeithasol cadarnhaol yn lleol. Gall helpu cadw a chynyddu gweithlu medrus iawn, denu ymwelwyr i hybu busnesau a sefydliadau lleol, a chynnig cyfleoedd i gynyddu cysylltiadau pobl a chymunedau gyda lleoedd a chynyddu’u balchder mewn lleoedd. Yn ogystal, gall cefnogi datblygu perthynas fwy cadarnhaol rhwng pobl a lleoedd gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a chorfforol. Yn fyr, mae diwylliant a threftadaeth yn bethau sy’n dod â phobl o bob cwr o’r wlad at ei gilydd ac yn cryfhau cymunedau. Hyd yma, mae’r Gronfa yn cefnogi 31 o leoedd i gyflawni’r nodau hynny.

Mae canfyddiad o le yn ffactor pwysig sy’n ‘tynnu’ buddsoddiad a phenderfyniadau ynghylch lleoli busnesau, a gall effeithio ar allu lle i ddenu talent – yn enwedig pobl ifanc – a chadw gweithwyr. Mae treftadaeth ddiwylliannol gryf ac ymdeimlad o le gan lawer o drefi yn barod. Mae’r trefi hyn yn elwa ar eu hasedau diwylliannol a threfol yn uniongyrchol, o refeniw twristiaeth ac ymwelwyr, ac yn anuniongyrchol, drwy ysbrydoli ymdeimlad o falchder lleol a hybu cydlyniant cymunedol, gan wneud lleoedd yn fwy deniadol i fyw a gweithio ynddynt. Ochr yn ochr â threfi, mae gan ardaloedd gwledig eu clytwaith cyfoethog o asedau diwylliannol a threftadaeth lleol yn aml.

Nid yw diogelu treftadaeth wedi’i gyfyngu i ddenu ymwelwyr yn unig; mae llawer o ganol trefi a dinasoedd ledled y DU yn hanesyddol ac yn hardd ynddyn nhw’u hunain. Gall cynnal yr asedau hyn fod yn hanfodol i fusnesau lleol ac i gefnogi balchder trigolion yn y lleoedd maent yn byw ynddynt. Dangoswyd hyn gan gylch cyntaf y Gronfa trwy fuddsoddiad mewn creu canolfannau celfyddydol a sinemâu, ochr yn ochr ag uwchraddio atyniadau arfordirol unigryw a gwelliannau i safleoedd hanesyddol gwerthfawr.

Nid yw diogelu treftadaeth wedi’i gyfyngu i ddenu ymwelwyr yn unig; mae llawer o ganol trefi a dinasoedd ledled y DU yn hanesyddol ac yn hardd ynddyn nhw’u hunain. Gall cynnal yr asedau hyn, a’u diogelu rhag troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, fod yn hanfodol i fusnesau lleol ac i gefnogi balchder trigolion yn y lleoedd maent yn byw ynddynt. Dangoswyd hyn gan rownd gyntaf y Gronfa trwy fuddsoddiad mewn creu canolfannau celfyddydol a sinemâu, ochr yn ochr ag uwchraddio atyniadau arfordirol unigryw a gwelliannau i safleoedd hanesyddol gwerthfawr.

Dylai darpar fuddsoddiadau gyd-fynd â, yn hytrach na dyblygu neu gystadlu gyda chyllid sydd eisoes yn cyflawni neu sydd ar fin cyflawni mewn ardal benodol (megis trwy raglen Parthau Gweithredu Treftadaeth y Stryd Fawr neu Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU). Dylai buddsoddiadau mewn asedau diwylliannol gael eu hysgogi gan dystiolaeth o angen neu gyfle sy’n sensitif i le, a bod â deilliannau clir sy’n cyd-fynd a gweledigaeth ardaloedd ar gyfer datblygiad economaidd a chymdeithasol yn seiliedig ar le, yn ogystal ag iechyd a lles pobl leol.

Gallai prosiectau sy’n cael eu cyflwyno i’w harfarnu o dan y thema fuddsoddi hon gynnwys:

  • Uwchraddio a chreu mannau diwylliannol a chreadigol newydd, gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon neu athletau, amgueddfeydd, lleoliadau’r celfyddydau, theatrau, orielau, llyfrgelloedd, cyfleusterau cynhyrchu, cyfleusterau ffilm/teledu, atyniadau ymwelwyr, tirnodau amlwg, adeiladau, safleoedd hanesyddol, parciau neu erddi.
  • Diogelu safleoedd diwylliannol rhag troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol;
  • Canolfannau, mannau neu asedau cymunedol newydd, wedi’u huwchraddio neu a warchodir (a mannau gwyrdd cysylltiedig) e.e. neuaddau pentref, canolfannau cymunedol.
  • Caffael, adnewyddu ac ailwampio safleoedd diwylliannol a threftadaeth allweddol, gan gynnwys hosteli ac adeiladau a safleoedd hanesyddol, gan gynnwys gwelliannau i hygyrchedd, lle bo angen.
  • Datblygu asedau lleol sy’n cefnogi’r economi ymwelwyr.

Astudiaeth Achos: Canolfan Les Gymunedol Houghton Regis

Bydd bron i £20 miliwn o rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro yn helpu ardal Houghton Regis yn Swydd Bedford i greu Canolfan Les Gymunedol newydd i Houghton Regis. Bydd y ganolfan yn cynnwys cyfleusterau hamdden dan do ac awyr agored, cyfleusterau gofal cymdeithasol oedolion a chyfleusterau cymunedol, caffi a man chwarae i blant. Bydd llwybrau, llwybrau beicio a lle parcio newydd, a mannau gollwng bysiau, y cyfan wedi’u dylunio i gefnogi’r gymunedol leol. Ategir y cynllun gan dirlunio a phlanhigion newydd hardd, y cyfan yn gydnaws â’r ardal.

Bydd y datblygiad hwn yn ategu ailgyflenwi ysgol uwchradd leol ac yn darparu amwynderau ar gyfer y 7,000 o gartrefi newydd sy’n cael eu datblygu yn yr ardal leol ar hyn o bryd, ac yn darparu seilwaith cymdeithasol lleol hanfodol ac yn mynd i’r afael ag amddifadedd yn yr ardal leol, i gefnogi adfywio lleol. Darparodd y cynnig hwn achos pwerus y bydd y buddsoddiad yn cefnogi cydlyniant cymunedol ac yn creu ymdeimlad o berthyn i bawb.

Astudiaeth Achos: Canolfan Gelfyddydau’r Miwni, Rhondda Cynon Taf

Bydd £5.3 miliwn o rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro yn helpu ailddatblygu Canolfan Gelfyddydau’r Miwni, sef un o nifer o adeiladau rhestredig ym Mhontypridd sy’n rhan o dreftadaeth bensaernïol a chymdeithasol y dref. Bydd yn darparu lleoliad diwylliannol manyleb uchel sy’n cynnig cerddoriaeth, sinema a theatr, yn cefnogi’r economi hamdden a’r economi min nos, ac yn galluogi ystod eang o weithgareddau celfyddydau, diwylliant, digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol. Mae buddsoddiad yn yr adeilad yn adlewyrchu gwerth ac arwyddocâd celfyddydau a diwylliant Pontypridd yn ansawdd y cyfleusterau a ddarperir, a bydd ei ddyfodol yn cael ei ddiogelu at y dyfodol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd, cynyddu effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau.

Fel arwydd o’i ymrwymiad hirdymor i’w ailddatblygu, mae’r cyngor, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, wedi buddsoddi bron i £400,000 i ymgymryd â gwaith galluogi a pharatoadol allweddol i sicrhau y gallai’r prosiect ddechrau arni ar lawr gwlad mor gyflym â phosibl. Mae hwn yn enghraifft allweddol o Lywodraeth y DU yn gweithio gyda llywodraeth leol a’r weinyddiaeth ddatganoledig i gyflawni prosiect strategol hybu ffyniant bro. Roedd y cynnig yn dangos ymgynghori trwyadl gyda busnesau lleol, y gymuned leol a rhanddeiliaid eraill, yn ogystal â darparu achos pwerus dros ymyrraeth yn yr ardal.

Dulliau Ariannu a Thargedu

Mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn parhau’n gronfa gystadleuol ar gyfer yr ail rownd, gyda chyllid yn cael ei ddosbarthu i leoedd ledled y DU i brosiectau a oedd wedi llwyddo i gael eu dewis. Yn unol â nod y Gronfa i ddod â buddsoddiad ystyrlon i bob cwr o’r DU, dros rownd gyntaf ac ail rownd y Gronfa, bydd o leiaf 9% o gyfanswm dyraniadau’r DU yn cael ei neilltuo i’r Alban, 5% i Gymru, a 3% i Ogledd Iwerddon, yn amodol ar fod nifer addas o gynigion o ansawdd uchel yn dod gerbron, gyda photensial i gyfanswm y cyllid fod yn uwch na’r swm hwn.

Fel yn y rownd gyntaf, bydd cyllid yn cael ei dargedu at leoedd yn Lloegr, yr Alban a Chymru lle ceir yr angen mwyaf am y math o fuddsoddiad y mae’r Gronfa’n ei ddarparu, fel y mesurir yn ôl Mynegai Mannau Blaenoriaeth sy’n ystyried y nodweddion lleoedd canlynol:

  • yr angen am adferiad a thwf economaidd,
  • yr angen am gysylltedd trafnidiaeth gwell, ac,
  • yr angen am adfywio.

Bydd ail rownd y Gronfa’n parhau i ddefnyddio’r Mynegai Mannau Blaenoriaeth ar gyfer lleoedd yn Lloegr, yr Alban, a Chymru, gyda’r Mynegai ei hun yn cael ei ddiweddaru i ddefnyddio’r setiau data diweddaraf sydd ar gael.

Yn y cylch hwn, gall lleoedd symud i fyny i gategori blaenoriaeth uwch, neu aros yn eu categori presennol, ond ni fyddant yn symud i lawr i gategori blaenoriaeth is. Rydym wedi ehangu categori 1 ar sail eithriadol, ac ar gyfer yr ail rownd yn unig, i nodi ardaloedd lleol y mae eu lefelau angen wedi cynyddu ers i’r Gronfa gael ei lansio, er enghraifft oherwydd effeithiau pandemig Covid-19, heb greu anfantais i’r ardaloedd hynny y mae ganddynt angen hirdymor o hyd, h.y. lleoedd a oedd yng nghategori 1 yn y rownd gyntaf.’

Bydd unrhyw awdurdodau lleol sy’n symud i fyny i gategori 1 o ganlyniad i ddiweddaru’r Mynegai, yn unol â’r rownd gyntaf, yn derbyn £125,000 o gyllid capasiti i gynorthwyo â pharatoi a chyflwyno cynigion o ansawdd uchel ar gyfer y rownd hwn o’r Gronfa. Mae hyn yn berthnasol i ardaloedd categori 1 ‘newydd’ yn unig sy’n dal yn gymwys i gynnig. Ni fydd lleoedd sydd eisoes wedi derbyn y cyllid hwn yn y rownd gyntaf yn derbyn rhagor o gymorth capasiti.

Gellir cael manylion y diweddariad a’r fethodoleg sy’n sail i’r Mynegai, yn ogystal â rhestr o gategoreiddiad yr holl leoedd ar gyfer ail gylch y Gronfa ar sail y mynegai wedi’i ddiweddaru, yn y nodyn methodoleg a gyhoeddir yma.

Fel ar gyfer rownd gyntaf y Gronfa, nid yw Cynghorau Sir, Awdurdodau Cyfun ac Awdurdod Llundain Fwyaf wedi’u rhestru yn y Mynegai. Bydd cynigion trafnidiaeth gan yr awdurdodau hyn yn cael eu hasesu o ran y maen prawf ‘nodweddion y lle’ gan ddefnyddio’r band blaenoriaeth a chategoreiddiad Mynegai yr awdurdod haen is neu haen sengl lle mae’r cynnig wedi’i leoli yn bennaf.

Dull Gweithredu yng Ngogledd Iwerddon

Fel ar gyfer rownd gyntaf y Gronfa, bydd dull gweithredu gwahanol yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r holl ardaloedd yng Ngogledd Iwerddon yn gymwys ar gyfer cyllid a bydd ymgeiswyr yn gallu wneud cais yn uniongyrchol i Lywodraeth y DU.

Adran 2: Sut bydd y Gronfa’n Gweithredu

Model Cyflawni

Mae’r Gronfa’n cael ei rheoli ar y cyd gan Drysorlys Ei Fawrhydi, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) a’r Adran Drafnidiaeth.

Yn Adolygiad Gwariant 2020, ymrwymodd Llywodraeth y DU i dalu £4 biliwn cychwynnol i’r Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer Lloegr dros y pedair blynedd nesaf (hyd at 2025-26), gan gynyddu cyfanswm y cyllid ar ôl hynny i £4.8 biliwn ledled y DU gyfan, gydag isafswm o £800 miliwn ar gyfer yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Fe wnaeth cylch cyntaf y Gronfa gefnogi prosiectau llwyddiannus gwerth £1.7 biliwn, gan gynnwys dros £170 miliwn o gyllid yn yr Alban a £120 miliwn yng Nghymru a £49 miliwn yng ngogledd Iwerddon.

Bydd Llywodraeth y DU yn defnyddio’r pŵer cymorth ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y DU i wneud y Gronfa ar gael i’r DU gyfan, gan alluogi’r holl gymunedau i dderbyn y buddsoddiad a’r gefnogaeth y mae eu hangen arnynt i ymadfer o bandemig COVID-19.

Lle bo’n briodol, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r Adran Drafnidiaeth yn gofyn am gyngor gan Lywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ar brosiectau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn y drefn honno, gan gynnwys y gallu i ddarparu ac a fyddai hynny’n cyd-fynd â’r ddarpariaeth bresennol. Hefyd, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r Adran Drafnidiaeth yn ceisio ymgysylltu ag adrannau eraill y llywodraeth sydd ag arbenigedd perthnasol.

Mae’r prosbectws hwn yn amlinellu’r dull gweithredu ar gyfer ail gylch y Gronfa, sy’n agored i brosiectau a all ddangos gwariant o’r Gronfa ym mlwyddyn ariannol 2022-23. Byddem yn disgwyl i’r holl gyllid a ddarparwyd o’r Gronfa gael ei wario erbyn 31 Mawrth 2025 ac erbyn 2025-26 ar sail eithriadol.

Dull Gweithredu yng Nghymru, yr Alban a Lloegr

Fel ar gyfer cylch cyntaf y Gronfa, yng Nghymru, yr Alban a Lloegr, bydd cyllid yn cael ei ddarparu trwy’r awdurdodau lleol. Mae’r Gronfa’n agored i’r holl ardaloedd lleol â slotiau cynnig ganddynt ar ôl. Bydd swm y cyllid y bydd pob ardal yn ei dderbyn yn cael ei bennu ar sail gystadleuol yn unol â’r meini prawf asesu a gyhoeddwyd.

Cymhwysedd

Yn Lloegr, yr Alban, a Chymru, mae’r sefydliadau sy’n gymwys i wneud cynnig yn parhau’r un fath â’r rownd gyntaf. Mae’r sefydliadau canlynol yn gymwys i wneud cynnig:

a) Gall awdurdodau unedol (gan gynnwys cynghorau bwrdeistrefi metropolitanaidd), cynghorau bwrdeistref a chynghorau dosbarth Llundain mewn ardaloedd dwy haen yn Lloegr gyflwyno nifer o gynigion ar gyfer unrhyw rai o dair blaenoriaeth fuddsoddi’r Gronfa sy’n gyfwerth â chyfanswm nifer etholaethau cyfan neu etholiadau rhannol o fewn neu ffiniau.

b) Gall yr holl awdurdodau unedol yng Nghymru a’r Alban, ac awdurdodau unedol yn Lloegr sydd â phwerau trafnidiaeth, gyflwyno nifer o gynigion ar gyfer unrhyw rai o dair blaenoriaeth fuddsoddi’r Gronfa sy’n gyfwerth â chyfanswm nifer etholaethau cyfan neu etholiadau rhannol o fewn neu ffiniau, ac yn ogystal gallant gyflwyno un cynnig arall trafnidiaeth yn unig y mae’n rhaid iddo ymwneud 90% â thrafnidiaeth (yn ôl gwerth).

c) Gall cynghorau sydd â phwerau trafnidiaeth, awdurdodau cyfun, awdurdodau cyfun maerol ac Awdurdod Llundain Fwyaf gyflwyno un cynnig trafnidiaeth yn unig ac mae’n rhaid iddo ymwneud 90% â thrafnidiaeth (yn ôl gwerth).

Bydd unrhyw gynigion llwyddiannus, gan gynnwys cynigion ar y cyd, o rownd gyntaf y Gronfa yn cael eu tynnu oddi wrth lwfansau cynigion lleoedd ar gyfer ail rownd y Gronfa.

Mae’r ymgeiswyr hynny a oedd yn aflwyddiannus yn y rownd gyntaf ac mae lwfans cynnig ganddynt o hyd yn gymwys i wneud cynnig arall gyda fersiwn o’u cynnig yn y rownd hwn, gan nodi’r newidiadau bychain i’r cais, prosesau asesu, a gwneud penderfyniadau ar gyfer yr ail rownd.

Dull Gweithredu yng Ngogledd Iwerddon

Fel yn y rownd gyntaf, byddwn yn parhau i weithredu’n wahanol wrth gyflwyno’r Gronfa yng Ngogledd Iwerddon, sy’n ystyried y dirwedd llywodraeth leol wahanol o gymharu â Lloegr, yr Alban a Chymru. Bydd Llywodraeth y DU yn derbyn cynigion ar y lefel fwyaf lleol, gan amrywiaeth o ymgeiswyr lleol, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i fusnesau, sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol, cynghorau dosbarth, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.

Rôl Rhanddeiliaid Lleol ac Aelodau Seneddol

Dylai ymgeiswyr ymgynghori ag amrywiaeth o randdeiliaid lleol ar draws daearyddiaeth gyfan lle wrth ddatblygu eu buddsoddiadau arfaethedig ar gyfer y Gronfa. Dylid ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol fel y bo’n briodol gan ddibynnu ar y math o brosiect sy’n cael ei gynnig, a allai gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): fusnesau lleol, darparwyr trafnidiaeth cyhoeddus, cynrychiolwyr y gymuned, cynrychiolwyr amgylcheddol, cynrychiolwyr iechyd y cyhoedd, yr heddlu a’r gwasanaethau brys, a phrifysgolion a cholegau addysg bellach. Yn yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon, dylai ymgeiswyr ymgynghori ag Aelodau Senedd yr Alban (MSPs), Aelodau’r Senedd, ac Aelodau’r Cynulliad Deddfwriaethol (MLAs) yn y drefn honno fel rhan o ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymorth iddynt wrth baratoi cynigion.

Lle bo’n berthnasol, dylai ymgeiswyr ystyried hefyd sut i gynnwys rhanddeiliaid o grwpiau sy’n anoddach eu cyrraedd, er enghraifft cymunedau gwledig, wrth lunio cynigion. Gallai ymgeiswyr, wrth ddangos tystiolaeth o hyn, ddefnyddio ymgynghoriadau blaenorol hefyd, a defnyddio partneriaethau sy’n bodoli eisoes rhwng llywodraeth leol, cymunedau a’r sector preifat. Dylai cynigion ddangos tystiolaeth o’r ymgysylltiad hwn â rhanddeiliaid a’r cymorth iddynt fel rhan o’u hachos strategol trwy lythyrau rhanddeiliaid neu gyfrwng tebyg.

Ochr yn ochr â’r broses ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymorth i randdeiliaid, yn Lloegr, yr Alban a Chymru, bydd gan Aelodau Seneddol, fel yng nghylch cyntaf y Gronfa, rôl ffurfiol yn y broses gynnig i adlewyrchu eu safbwnynt lleol gwerthfawr. Gall pob Aelod Seneddol ddarparu cefnogaeth blaenoriaeth ffurfiol i un cynnig gan ddefnyddio’r Pro Forma Cymorth Blaenoriaeth, a fydd ar gael cyn hir, pe baent wedi darparu cefnogaeth blaenoriaeth ffurfiol i gynnig llwyddiannus neu aflwyddiannus yn y rownd gyntaf neu beidio.

Nid yw cymorth blaenoriaeth ffurfiol yn amod na’n ofyniad er mwyn i gynnig fod yn llwyddiannus. Os nad yw AS yn dweud yn glir ar y Pro Forma pa gynnig y mae’n ymwneud ag ef neu ei fod yn darparu cymorth blaenoriaeth ffurfiol i fwy nag un cynnig, ni chaiff ei ystyried yn gymorth blaenoriaeth ffurfiol. Yn lle hynny, bydd yn cael ei ystyried fel tystiolaeth o gymorth ehangach i randdeiliaid.

Gall Aelod Seneddol gynnig cefnogaeth gyffredinol i un neu fwy o gynigion, fel rhanddeiliad lleol allweddol.

Adran 3: Y Broses Ceisiadau

Rhoi cynigion at ei gilydd

Dylai ardaloedd lleol ystyried eu hanghenion seilwaith ar draws trafnidiaeth, adfywio a buddsoddi diwylliannol yn gyfannol wrth ddatblygu’u cynigion. Dylai ceisiadau am gyllid ddangos yn glir sut y bydd buddsoddiadau arfaethedig yn cefnogi strategaethau lleol perthnasol a’u hamcanion ar gyfer gwella seilwaith, hybu twf, gwella’r amgylchedd naturiol, a gwneud eu hardaloedd yn lleoedd mwy deniadol i fyw a gweithio ynddynt.

Maint Ceisiadau

Fel ar gyfer y rownd gyntaf, bydd y Gronfa’n canolbwyntio buddsoddiad mewn prosiectau lleol, llai o ran maint y mae angen cyllid o lai nag £20 miliwn arnynt. Fodd bynnag, mae cyfle i fuddsoddi mewn prosiectau gwerth uwch, drwy eithriad.

Gall cynigion hyd at £50 miliwn gael eu derbyn ar gyfer cynigion trafnidiaeth a diwylliant mawr drwy eithriad a gellir eu cyflwyno gan unrhyw ymgeisydd. O ran cynigion trafnidiaeth mawr, mae’n rhaid iddynt fod ar gyfer 90% trafnidiaeth o leiaf a rhaid i gynigion diwylliant mawr fod ar gyfer 90% diwylliant o leiaf, yn ôl gwerth. Bydd ymgeiswyr yn dymuno nodi ein bod yn barod i ariannu hyd at ddau gynnig diwylliant mawr. Ni all cost y cyfryw gynigion fod yn fwy na £50 miliwn ac, fel yn y rownd gyntaf, byddant yn destun proses achos busnes manylach.

Gall ymgeisydd gyflwyno cynnig ar gyfer prosiect unigol neu gynnig sy’n rhan o becyn, yn cynnwys hyd at uchafswm o dri phrosiect. Rhaid i gynigion pecyn a chynigion ar y cyd esbonio’n eglur sut mae eu gwahanol elfennau yn cyd-fynd â’i gilydd ac yn cynrychioli set gydlynus o ymyriadau. Gallant gynnwys cymysgedd o brosiectau o dair thema fuddsoddi’r Gronfa.

Rydym yn disgwyl i ymgeiswyr sy’n cyflwyno cynigion ystyried sut i ledaenu eu hymyriadau arfaethedig yn deg a chyfartal o fewn ffiniau’r awdurdod ac ar draws ystod gyfan eu hetholaethau, gan dargedu pocedi o amddifadedd, fel y bo’n briodol.

Cynigion ar y Cyd

Gallai ymgeiswyr fod eisiau cyflwyno cynigion ar y cyd hefyd. Yn Lloegr, yr Alban a Chymru, gallai hyn gynnwys cynigion ar y cyd ar draws ffiniau i gefnogi’r Gronfa yn cryfhau’r Undeb.

Bydd uchafswm y cynigion ar y cyd yn cael ei benderfynu drwy adio’r terfyn £20 miliwn unigol sydd gan bob ymgeisydd, gan ganiatáu i gynigion mwy adlewyrchu daearyddiaethau cyfunol mwy. Bydd cynigon ar y cyd yn Lloegr, Yr Alban a Chymru yn cyfrif tuag at uchafswm nifer y cynigion y gall bob ymgeisydd sy’n gysylltiedig eu cyflwyno. Er enghraifft, gall lleoedd ag un cynnig yn unig gyflwyno naill ai cynnig ar y cyd neu gynnig unigol, ond nid y ddau.

Cynigion Trafnidiaeth yn Unig

Rhaid i unrhyw gynigion ‘trafnidiaeth yn unig’ gael eu cyflwyno gan leoedd yn y grwpiau ‘b’ a ’c’ ac mae’n rhaid iddynt fod ar gyfer 90% trafnidiaeth o leiaf (yn ôl gwerth).

I ymgeisio am fuddsoddiad o ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro, mae’n rhaid i sefydliadau lleol cymwys gyflwyno eu cynigion gan ddefnyddio’r porth ymgeisio ar-lein erbyn 12:00, dydd Mercher 6 Gorffennaf.

Mae’n rhaid i gynigion a gefnogir gan y Gronfa Ffyniant Bro gydymffurfio â holl ddeddfwriaeth berthnasol y DU, gan gynnwys deddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â chydraddoldebau, rhwymedigaethau ar reoli cymorthdaliadau ac ar gyfer rhai ymgeiswyr yng Ngogledd Iwerddon, diwydrwydd dyladwy i fod yn gymwys ar gyfer cyllid.

Wrth gwblhau eu cais, dylai awdurdodau lleol roi ystyriaeth i’r Llyfr Gwyrdd gan gynnwys Atodiad A2: Dadansoddiad ar sail Lleoedd.

Rydym yn benderfynol i ddysgu’r holl wersi y gallwn wrth barhau i wella ein cymorth ar gyfer mannau lleol. O ystyried y byddwn yn cael cyfle i werthuso llwyddiant y rownd gyntaf cyn gwanwyn 2023, nid ydym yn ymrwymo eto i amseriad na fformat rowndiau yn y dyfodol. Felly, byddem yn annog ymgeiswyr sydd mewn sefyllfa i wneud hynny i gyflwyno cynigion ar gyfer y rownd hwn.

Porth, Asesu a Gwneud Penderfyniadau

Fel gyda chylch cyntaf y Gronfa, bydd asesu’n canolbwyntio ar bedwar maen prawf: nodweddion lleoedd, ymarferoldeb cyflawni, ffit strategol gyda blaenoriaethau lleol a blaenoriaethau’r Gronfa, a’r achos economaidd yn unol â’r fframwaith asesu cyhoeddedig.

Bydd tri cham i’r prosesau asesu a gwneud penderfyniadau. Bydd Llywodraeth y DU yn ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol a ddarparwyd yn y cynnig, yn ogystal ag unrhyw ddata sydd ar gael yn gyhoeddus i roi prawf ar haeriadau a wneir gan ymgeiswyr.

Cam 1 Porth

Y cam cyntaf yw porth llwyddo/methu. Ni fydd cynigion sy’n methu meini prawf y porth yn cael eu hasesu ac ni fyddant yn gymwys i’w hystyried ar gyfer cyllid.

Cam 2 Asesu a Llunio Rhestr Fer

Bydd cynigion sy’n mynd yn eu blaen o’r cam porth yn cael eu hasesu o ran pob un o’r meini prawf a amlinellwyd yn y fframwaith asesu:

  • Nodweddion lle – Fel ar gyfer rownd gyntaf y Gronfa, ar gyfer Lloegr, yr Alban a Chymru, mae pob awdurdod lleol wedi’u gosod yng nghategorïau 1, 2 neu 3 yn seiliedig ar feini prawf gwrthrychol, gyda chategori 1 yn cynrychioli lefel uchaf anghenion dynodedig. Mae’r ddolen yn rhoi mwy o fanylion am y modd y diweddarwyd y Mynegai hwn ers y rownd gyntaf.

  • Ffit strategol - Dylai ceisiadau amlinellu sut mae’r cynnig yn cefnogi blaenoriaethau economaidd, cymunedol a diwylliannol eu hardal leol a sut y bydd yn hyrwyddo cynlluniau hirdymor yr ardal ar gyfer hybu ffyniant bro, gan ategu strategaethau a buddsoddiadau cenedlaethol (gan gynnwys cyflawni allyriadau carbon Sero Net a gwella ansawdd aer), rhanbarthol a lleol. Dylai hyn gynnwys buddsoddiadau diweddar i hybu ffyniant bro (gan gynnwys Porthladdoedd Rhydd, Cyllid Trefi a’r Stryd Fawr), cynlluniau buddsoddi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU sydd yn yr arfaeth, a chyllid a wnaed ar gael trwy rownd gyntaf y Gronfa. Dylai hefyd gynnwys unrhyw strategaethau lleol perthnasol (fel Cynlluniau Lleol, Strategaethau Diwydiannol Lleol neu Gynlluniau Trafnidiaeth Lleol). Dylai ceisiadau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon amlinellu’n glir sut mae cynigion yn cyd-fynd â, neu’n ategu, buddsoddiadau mewn gwasanaethau cyhoeddus ehangach a wnaed ar gael gan y Gweinyddiaethau Datganoledig a’u hasiantaethau. Fel yr amlinellwyd yn, dylai darpar gynigion a phrosiectau cyfansoddol sicrhau cefnogaeth rhanddeiliaid a phartneriaid lleol perthnasol, a’u datblygu ar ôl ymgynghori â nhw.

  • Achos Economaidd – Dylai cynigion ddangos sut maen nhw’n cynnig gwerth cyhoeddus i gymdeithas. Bydd amrywiaeth o fuddion yn cael eu hystyried yn ein harfarniad o werth am arian prosiectau, gan gynnwys buddion meintiol ac ansoddol. Mae hyn yn cynnwys potensial i hybu twf economaidd lleol, buddion amgylcheddol (gan gynnwys cyfrannu at gyflawni ymrwymiadau carbon Sero Net Llywodraeth y DU a gwella ansawdd aer yn lleol), mwy o gyfleoedd i gael gwaith, lleihau amserau teithio i gael gwasanaethau allweddol, mwy o bobl yn mynd i ganol trefi a dinasoedd, lleihau troseddu, iechyd a lles gwell, a gwerth cymdeithasol i gymunedau lleol.

  • Ymarferoldeb Cyflawni – Bydd yr holl gynigion yn cael eu hasesu ar gyfer tystiolaeth o gynlluniau rheoli a chyflawni cadarn, gan gynnwys strategaeth gaffael, strwythurau llywodraethu a rheoli prosiectau (gan gynnwys sgiliau a phrofiad), rheoli risg, costau prosiectau, a monitro a gwerthuso. Hefyd, rhaid i gynigion allu dangos gwariant o’r Gronfa ym mlwyddyn ariannol 2022-23.

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd yr asesu’n seiliedig ar dri o’r pedwar maen prawf yn unig, a hynny oherwydd nad oes unrhyw sgôr ‘nodweddion lle’ ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Cam 3 Gwneud Penderfyniadau

Lloegr, Yr Alban a Chymru

Yn Lloegr, yr Alban a Chymru, ar ôl i gynigion gael eu hasesu a’u safoni, ac ar ôl llunio’r rhestr fer, bydd Gweinidogion yn gwneud penderfyniadau ariannu. Wrth wneud y rhain, bydd Gweinidogion yn cael y cyfle i arfer disgresiwn i fodloni’r ystyriaethau ychwanegol canlynol:

  • Sicrhau bod yna raniad thematig rhesymol o brosiectau cymeradwy (e.e. ar draws adfywio a chanol trefi, trafnidiaeth a diwylliant a threftadaeth);
  • Sicrhau lledaeniad teg o brosiectau cymeradwy ledled Prydain o fewn, a rhwng cenhedloedd a rhanbarthau unigol, a rhwng ardaloedd gwledig a threfol;
  • Sicrhau cydbwysedd teg o brosiectau cymeradwy ar draws lleoedd mewn angen;
  • Blaenoriaethu naill ai ‘ffit strategol’ neu ‘ymarferoldeb cyflawni’ neu ‘achos economaidd’ dros y meini prawf eraill (gan nodi bod yn rhaid cymhwyso hyn yn gyson i bob prosiect);
  • Ystyried buddsoddiadau eraill mewn ardal leol, gan gynnwys buddsoddiad a wnaed o gylch cyntaf y Gronfa er mwyn annog lledaenu cyllid ffyniant bro ar draws lleoedd.

Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, ar ôl i gynigion gael eu hasesu a’u safoni, ac ar ôl llunio rhestr fer ar gyfer Gogledd Iwerddon, bydd Gweinidogion yn gwneud penderfyniadau ariannu. Wrth wneud y rhain, bydd Gweinidogion yn cael y cyfle i arfer disgresiwn i fodloni’r ystyriaethau ychwanegol canlynol:

  • Sicrhau bod yna raniad thematig rhesymol o brosiectau cymeradwy (e.e. ar draws adfywio a chanol trefi, trafnidiaeth a diwylliant a threftadaeth);
  • Sicrhau lledaeniad teg o brosiectau cymeradwy ledled Gogledd Iwerddon, a rhwng ardaloedd gwledig a threfol;
  • Sicrhau cydbwysedd teg o brosiectau cymeradwy ar draws lleoedd mewn angen;
  • Blaenoriaethu naill ai ‘ffit strategol’ neu ‘ymarferoldeb cyflawni’ neu ‘achos economaidd’ dros y meini prawf eraill (gan nodi bod yn rhaid cymhwyso hyn yn gyson i bob prosiect);
  • Ystyried buddsoddiadau eraill mewn ardal leol. Bydd hyn yn cynnwys cyllid a ddarparwyd i ardaloedd lleol trwy gylch cyntaf y Gronfa hon.

Monitro a Gwerthuso

Mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn gyfle unigryw i wella ein cyd-ddealltwriaeth o ba fathau o ymyriadau sy’n gweithio’n dda i fynd i’r afael â heriau hybu ffyniant bro, trwy raglenni, prosiectau unigol ac ar draws gwahanol raddfeydd gofodol. Bydd datblygu diwylliant o dwf lleol a gwerthuso trafnidiaeth, sy’n hyrwyddo dysgu ar y cyd ledled y DU, yn hanfodol i hyn ac mae’n adlewyrchu pwyslais mwy y llywodraeth hon ar werthuso o ansawdd uchel.