Canllawiau

Strategaeth Monitro a Gwerthuso'r Gronfa Ffyniant Bro

Cyhoeddwyd 31 March 2022

1. Crynodeb Gweithredol

Cyhoeddwyd y Gronfa Ffyniant Bro (LUF) gan Drysorlys EM (TEM), yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) a’r Adran Drafnidiaeth (DfT) ym mis Mawrth 2021, gyda chyfanswm cyllid o £4.8 biliwn.

Mae LUF yn ceisio gwella bywyd pob dydd drwy fuddsoddi mewn seilwaith cyfalaf a gaiff effaith wirioneddol ar leoedd lleol ar draws pob rhan o’r DU. Er ei bod yn agored i bob man, ceir rhywfaint o flaenoriaethu cyllid yn ôl yr angen (h.y. mannau lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf i fywyd pob dydd, gan gynnwys ardaloedd cyn-ddiwydiannol, trefi difreintiedig a chymunedau arfordirol).

Mae’r Gronfa’n canolbwyntio ar dri math o ymyriad:

  • Buddsoddiadau trafnidiaeth gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol, atgyweirio pontydd, lonydd blaenoriaeth bysiau, gwelliannau i ffyrdd lleol, a gwelliannau hygyrchedd.
  • Adfywio a buddsoddi yng nghanol trefi, i uwchraddio adeiladau sy’n ddolur llygad a seilwaith sydd wedi dyddio, caffael ac adfywio safleoedd tir llwyd, buddsoddi mewn seilwaith cymunedol diogel a lleihau troseddu, a dod â gwasanaethau cyhoeddus a mannau cymunedol diogel i ganol trefi a dinasoedd.
  • Buddsoddiad diwylliannol sef cynnal, adfywio, neu ailddefnyddio’n greadigol amgueddfeydd, orielau, atyniadau ymwelwyr (a mannau gwyrdd cysylltiedig) ac asedau treftadaeth yn ogystal â chreu mannau newydd sy’n eiddo i’r gymuned i gefnogi’r celfyddydau a bod yn fannau diwylliannol.

Mae Prosbectws LUF yn nodi’r hyn y mae’r polisi am ei gyflawni, drwy fuddsoddi mewn seilwaith i wella bywyd bob dydd, canolbwyntio ar wella twf economaidd, balchder mewn lle, a dod â chymunedau ynghyd. Mae hyn yn golygu mynd i’r afael â gwahaniaethau economaidd a sbarduno ffyniant fel rhan o hybu ffyniant bro ac adawyd ar ôl rhanbarthau o’r DU, gwella bywydau drwy roi balchder i bobl yn eu cymunedau lleol, ac wrth i’r wlad ymadfer o effeithiau economaidd digynsail Covid-19, buddsoddi mewn prosiectau sydd nid yn unig yn dod â buddion economaidd, ond sydd hefyd yn helpu i uno cymunedau. Er mwyn gwneud y gwerthusiad o LUF mor effeithiol â phosibl , rydym wedi ceisio datblygu’r bwriadau hyn a gwneud y mwyaf o ddysgu. Felly, bydd yr hyn a gaiff ei fonitro a’i werthuso yn mynd y tu hwnt i’r effeithiau cychwynnol a nodir yn y Prosbectws, gan dynnu ar y dystiolaeth ddiweddaraf a’r Papur Gwyn Ffyniant Bro i nodi’r effeithiau y bydd LUF yn eu cael ar gymdeithas yn gyffredinol.

Yn ychwanegol, cynlluniwyd y Gronfa gyda disgresiwn lleol mewn golwg, gyda lleoedd lleol yn datblygu prosiectau i ddiwallu anghenion lleol. Bydd y problemau ym mhob lle yn amrywio yn dibynnu ar gyd-destun y lle. Gall problemau ac atebion lleol fod yn wahanol i’r darlun cenedlaethol, gan nad yw hwn yn bolisi sy’n addas i bawb.

Nod y Gronfa Ffyniant Bro yw targedu’r problemau eang canlynol:

Problem 1: Mae gwahaniaethau gofodol ledled y DU mewn canlyniadau economaidd gan gynnwys safonau byw, cyflog a chynhyrchiant is.

Problem 2: Mae gwahaniaethau gofodol mewn canlyniadau cymdeithasol gan gynnwys lefelau is o gydlyniant cymdeithasol, balchder mewn lle, lefelau uwch o droseddu a thai gwael.

Problem 3: Mae gwahaniaethau gofodol mewn canlyniadau iechyd gan gynnwys lefelau uwch o ddiabetes, ysmygu, alcoholiaeth, a marwolaethau cynamserol mewn ardaloedd o amddifadedd uwch.

Arweiniodd adolygiad o lenyddiaeth academaidd ac adnoddau polisi at Theori Newid y bydd y gwerthusiad yn ceisio’i phrofi. O ystyried themâu ymyrryd lluosog y Gronfa, mae damcaniaethau newid thematig yn cael eu datblygu a byddant yn cyfrannu at gynllun y gwerthusiad.

Mae’r gwaith o fonitro a gwerthuso’r Gronfa yn cynnwys pedair elfen allweddol:

  • Monitro a ddefnyddir i olrhain cyflwyno a chostau prosiectau ac i nodi ymhle y gallai fod angen cymorth ychwanegol drwy gydol y rhaglen.
  • Gwerthuso prosesau a fydd yn ceisio deall sut y cyflenwyd y Gronfa mewn ardaloedd a ariannwyd, gan gynhyrchu gwersi i’r hyn a weithiodd yn dda, yr hyn nad oedd yn gweithio yn ôl y bwriad, a rôl llywodraeth ganolog o ran hwyluso’r ddarpariaeth.
  • Gwerth am arian a gwerthusiadau effaith, sy’n cael eu cwmpasu a’u datblygu ar hyn o bryd, a fydd yn anelu at ddangos a oedd y Gronfa’n sicrhau gwerth am arian trethdalwyr ac a gyflawnodd y canlyniadau a’r effeithiau dymunol yn effeithiol.

2. Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn nodi dull yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC), a dull yr Adran Drafnidiaeth, o fonitro a gwerthuso’r Gronfa Ffyniant Bro (LUF). Fe’i datblygwyd ar y cyd ar draws y llywodraeth, gan gynnwys yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), Trysorlys EM, a’r Tasglu Gwerthuso (ETF), ynghyd ag arbenigedd allanol o ganolfan Beth sy’n Gweithio ar gyfer Twf Economaidd Lleol. Mae’n bwriadu hysbysu’r cyhoedd, a rhanddeiliaid, am gyd-destun cynnal y gwerthusiad, y rhesymeg sy’n ei sbarduno a rhai o’r allbynnau y bydd yn eu cynhyrchu yn y pen draw.

Nodau’r ddogfen yw darparu strategaeth sy’n amlinellu’r gweithgareddau a fydd yn cael eu cynnal i ateb cwestiynau allweddol ar yr hyn sy’n gweithio a pham. Bydd y dystiolaeth a gynhyrchir yn cyfrannu’n ôl at weithredu’r gwaith o gyflenwi’r Gronfa ac yn cryfhau’r dull a ddefnyddir ar gyfer cronfeydd eraill sy’n cyfrannu at amcanion yr agenda ffyniant bro. Cynlluniwyd y strategaeth i fod yn hyblyg, er mwyn i’r dull esblygu wrth i’r gwaith o gyflenwi’r Gronfa fynd rhagddo.

Mae monitro a gwerthuso yn weithgareddau allweddol sydd wrth wraidd deall beth sy’n gweithio a pham. Fel yr amlinellir yn Llyfr Magenta, “gwerthuso yw’r asesiad systematig o gynllun, gweithrediad a chanlyniadau ymyriad”. Er bod monitro’n gallu dangos cynnydd o ran cyrraedd nodau penodol, ac yn gallu arwain yr addasiadau angenrheidiol i ymateb, mae gwerthuso’n nodi a yw’r amcanion cyffredinol wedi’u cyflawni ac i ba raddau y mae newid wedi digwydd o ganlyniad uniongyrchol i ymyriad.

2.1 Y Gronfa Ffyniant Bro

Mae’r Gronfa Ffyniant Bro (LUF) yn cyflawni blaenoriaethau lleol sy’n cael effaith weladwy ar bobl a chymunedau ar draws pob rhan o’r DU, gan gynnwys Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r Gronfa’n buddsoddi mewn seilwaith cyfalaf sy’n gwella bywyd pob dydd ac sy’n cael effaith wirioneddol ar leoedd lleol. Ar gyfer Cylch 1, buddsoddodd y Gronfa mewn prosiectau ar draws tair thema: adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio trafnidiaeth leol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth. Targedir cyllid tuag at leoedd sydd â’r angen mwyaf arwyddocaol, fel y’u mesurir gan y mynegai o leoedd â blaenoriaeth. Mae hwn yn ystyried angen lleoedd am adferiad a thwf economaidd, gwell cysylltedd trafnidiaeth ac adfywio, yn unol ag amcanion y Gronfa Ffyniant Bro. Y gallu i gyflenwi, gwerth am arian, a chyweddu strategaethau oedd y meini prawf allweddol a ystyriwyd hefyd wrth asesu cynigion. I gael gwybod rhagor am y broses hon, gweler y Gronfa Ffyniant Bro: nodyn esboniadol ar y broses asesu a gwneud penderfyniadau.

Mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn gronfa olynol i’r Gronfa Twf Lleol (LGF) a oedd, drwy gyfres o gytundebau â Phartneriaethau Menter Leol, yn buddsoddi mewn cyfalaf sgiliau, yn adeiladu cartrefi newydd ac yn cefnogi prosiectau seilwaith gan gynnwys gwelliannau i drafnidiaeth a rhwydweithiau band eang cyflym iawn. Yn wahanol i gronfa LGF a oedd ar gael i Loegr yn unig, mae’r Gronfa Ffyniant Bro (LUF) ar gael i ardaloedd lleol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn un elfen o’r cynllun cyffredinol i hybu ffyniant bro o ran cyfleoedd ledled y DU fel y nodir yn y Papur Gwyn Ffyniant Bro a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022. Ers 2019, mae llywodraeth y DU wedi cefnogi lleoedd i adfywio canol trefi, cadw asedau cymunedol a thyfu eu heconomïau drwy raglenni fel y Gronfa Ffyniant Bro (LUF) gwerth £4.8 biliwn, cronfa Getting Building gwerth £900 miliwn, a chronfa Tai Tir Llwyd (BHF) gwerth £400 miliwn yn Lloegr, y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol (COF) gwerth £150 miliwn ledled y DU, y Gronfa Trefi gwerth £3.6 biliwn, y Gronfa Adfywio Cymunedol (CRF) gwerth £220 miliwn a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) gwerth £2.6 biliwn.

Bydd y Gronfa Ffyniant Bro yn cael ei dyrannu drwy broses gystadleuol gydag arian i’w wario o 2021-2022 i 2024-2025 a disgwylir sawl cylch o gyllid. Ym mis Hydref 2021, dyfarnwyd cyfanswm o £1.7 biliwn i 105 o geisiadau llwyddiannus yn ystod cylch cyntaf y Gronfa. Lansiwyd ail gylch y Gronfa ym mis Mawrth 2022.

Fel y nodwyd ym Mhrosbectws y Gronfa Ffyniant Bro, y meysydd thematig allweddol ar gyfer ymyrryd ar gyfer y cylch ariannu cyntaf yw:

  • Buddsoddiadau trafnidiaeth gan gynnwys (er enghraifft) trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol, atgyweirio pontydd, lonydd blaenoriaeth bysiau, gwelliannau i ffyrdd lleol a gwaith cynnal a chadw strwythurol mawr, a gwelliannau hygyrchedd. Gofynnwyd am gynigion ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth lleol bach, canolig a thrwy eithriad rhai mwy o faint i leihau allyriadau carbon, gwella ansawdd aer, lleihau tagfeydd, cefnogi twf economaidd, a gwella profiad defnyddwyr trafnidiaeth.
  • Adfywio a buddsoddi yng nghanol trefi, gan adeiladu ar fframwaith y Gronfa Trefi i uwchraddio adeiladau sy’n ddolur llygad a seilwaith sydd wedi dyddio, caffael ac adfywio safleoedd tir llwyd, buddsoddi mewn seilwaith cymunedol diogel a lleihau troseddu, a dod â gwasanaethau cyhoeddus a mannau cymunedol diogel i ganol trefi a dinasoedd.
  • Buddsoddiad diwylliannol sef cynnal, adfywio, neu ailddefnyddio’n greadigol amgueddfeydd, orielau, atyniadau ymwelwyr (a mannau gwyrdd cysylltiedig) ac asedau treftadaeth yn ogystal â chreu mannau newydd sy’n eiddo i’r gymuned i gefnogi’r celfyddydau a bod yn fannau diwylliannol.

Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn thema drawsbynciol a disgwylir i fentrau gefnogi amcanion Sero Net a materion fel amddiffynfeydd rhag llifogydd.

2.2 Dull o ddatblygu Strategaeth Monitro a Gwerthuso’r Gronfa Ffyniant Bro

Mae strategaeth monitro a gwerthuso’r Gronfa Ffyniant Bro yn cynnwys pedair adran. Mae’r rhain yn disgrifio’r her sy’n wynebu lleoedd, sylfaen ddamcaniaethol sylfaenol y strategaeth monitro a gwerthuso, nodau ac amcanion y strategaeth honno, a’r dull monitro a gwerthuso cyffredinol.

Dadansoddi Problemau sy’n crynhoi’r dadansoddiad a gynhaliwyd i’r heriau sy’n wynebu lleoedd. Mae’r dadansoddiad yn seiliedig ar dystiolaeth o’r llenyddiaeth sydd ar gael ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Theori Newid (ToC) sy’n darparu’r sail ddamcaniaethol i adeiladu’r dull monitro a gwerthuso. Defnyddiwyd dull theori newid ar sail actorion i gael dealltwriaeth fanwl o’r ffordd y mae’r Gronfa’n bwriadu mynd i’r afael â’r problemau a nodwyd yn y dadansoddiad o broblemau. Yna cafodd hyn ei drosi’n ToC cyffredinol ar gyfer y Gronfa, gan ddisgrifio pum lefel o newid (Gweithgareddau, Allbynnau, Canlyniadau Canolraddol, Canlyniadau ac Effeithiau) yn ogystal â’u llwybrau achosol. Mae’r adran hefyd yn disgrifio’r tybiaethau a’r rhagdybiaethau ac yn darparu cyfeiriadau at lenyddiaeth lle bo’r rheini ar gael.

Nodau ac Amcanion Monitro a Gwerthuso sy’n manylu ar nodau allweddol y Strategaeth Monitro a Gwerthuso a’r hyn rydym yn bwriadu ei gyflawni.

Mae’r Dull Monitro a Gwerthuso yn nodi’r pedwar prif weithgaredd a gynhelir i asesu darpariaeth, gwerth am arian ac effaith y Gronfa Ffyniant Bro, a rhai o’r cwestiynau allweddol y bydd y gweithgareddau hyn yn ceisio eu hateb.

3. Dadansoddi Problemau

Fel y nodir yn y Papur Gwyn Ffyniant Bro:

Mae gan y DU wahaniaethau daearyddol mwy na llawer o wledydd datblygedig eraill yn ôl mesurau lluosog, gan gynnwys cynhyrchiant, cyflog, cyrhaeddiad addysgol ac iechyd. Mae ardaloedd trefol a threfi arfordirol yn dioddef yn anghymesur o droseddu, tra bod gan leoedd â lefelau arbennig o uchel o amddifadedd, megis hen gymunedau mwyngloddio, ystadau trefol anghysbell a threfi glan môr, y lefelau uchaf o angen cymunedol a chyfleoedd gwael i’r bobl sy’n tyfu i fyny yno. Mae’r gwahaniaethau hyn yn aml yn fwy o fewn trefi, siroedd neu ranbarthau na rhyngddynt. Mae’r rhain yn hyper-leol a gall pocedi o gyfoeth ac amddifadedd fodoli yn yr un ardal. Yn wir, ceir llawer o’r ardaloedd gwaethaf o amddifadedd yn ninasoedd mwyaf llwyddiannus y DU. Er bod newid yn bosibl, mewn rhai achosion, mae’r gwahaniaethau hyn wedi parhau am lawer o’r ganrif ddiwethaf. Ac mae rhai o ddinasoedd mwyaf llwyddiannus y DU – fel Birmingham, Manceinion, Leeds, Glasgow a Chaerdydd – ar ei hôl hi’n rhyngwladol o ran cynhyrchiant ac incwm.

Mae Prosbectws y Gronfa Ffyniant Bro yn nodi’r hyn y mae’r polisi am ei gyflawni, drwy fuddsoddi mewn seilwaith i wella bywyd pob dydd, canolbwyntio ar wella twf economaidd, balchder mewn lle, a dod â chymunedau at ei gilydd. Mae hyn yn golygu mynd i’r afael â gwahaniaethau economaidd a sbarduno ffyniant fel rhan o hybu ffyniant bro i ranbarthau’r DU a adawyd ar ol, gwella bywydau drwy roi balchder i bobl yn eu cymunedau lleol, ac wrth i’r wlad wella o effeithiau economaidd digynsail Covid-19, buddsoddi mewn prosiectau sy’n dwyn buddion economaidd, ond sydd hefyd yn helpu i rwymo cymunedau gyda’i gilydd. Er mwyn gwneud y gwerthusiad o’r Gronfa Ffyniant Bro mor effeithiol â phosibl, rydym wedi ceisio datblygu’r y bwriadau hyn a dysgu cymaint â phosibl. Felly, bydd mwy na’r effeithiau cychwynnol a nodir yn y Prosbectws yn destun monitro a gwerthuso, gan ddefnyddio’r dystiolaeth ddiweddaraf a’r Papur Gwyn Ffyniant Bro i nodi’r effeithiau y bydd y Gronfa yn eu cael ar gymdeithas yn gyffredinol.

Yn ogystal, cynlluniwyd y Gronfa gyda disgresiwn lleol mewn golwg. Mae lleoedd lleol wedi cynllunio prosiectau i ddiwallu anghenion lleol. Bydd y problemau ym mhob lle yn amrywio yn dibynnu ar gyd-destun y lle. Gall problemau ac atebion lleol fod yn wahanol i’r darlun cenedlaethol, ac nid yw hwn yn bolisi sy’n cynnig un ateb sy’n addas i bawb.

Felly, at ddibenion y gwerthusiad hwn, rydym wedi nodi’r problemau eang canlynol sy’n wynebu lleoedd y bydd y Gronfa’n ceisio eu targedu:

Problem 1: Mae gwahaniaethau gofodol ledled y DU mewn canlyniadau economaidd gan gynnwys safonau byw, cyflog a chynhyrchiant is.

Problem 2: Mae gwahaniaethau gofodol mewn canlyniadau cymdeithasol gan gynnwys lefelau is o gydlyniant cymdeithasol, balchder mewn lle, lefelau uwch o droseddu a thai gwael.

Problem 3: Mae gwahaniaethau gofodol mewn canlyniadau iechyd gan gynnwys lefelau uwch o ddiabetes, ysmygu, alcoholiaeth, a marwolaethau cynamserol mewn ardaloedd o amddifadedd uwch.

Er bod y Gronfa Ffyniant Bro yn canolbwyntio ar seilwaith cyfalaf, mae’n bwysig cydnabod mai dim ond un o nifer o’r ffactorau lawer sy’n cyfrannu at y problemau a nodir uchod yw diffyg buddsoddiad cyfalaf. Cynigia’r Papur Gwyn Ffyniant Bro fod ffyniant bro’n cael ei gyflawni gan system o chwe math o gyfalaf sy’n atgyfnerthu ei gilydd: ffisegol, anniriaethol, dynol, ariannol, cymdeithasol a sefydliadol. Bydd diffyg buddsoddi mewn seilwaith cyfalaf yn effeithio ar y rhan fwyaf, os nad pob un, o’r chwe math o gyfalaf y soniwyd amdanynt uchod mewn rhyw ffordd.

Drwy gyfres o weithdai ac ymgynghoriadau rhwng DLUHC a’r Adran Drafnidiaeth a chyda chyngor gan DCMS, rydym wedi cynhyrchu’r crynodeb lefel uchel canlynol o ddadansoddi problemau isod.

Crynodeb Problem:

Problem 1: Mae gwahaniaethau gofodol ledled y DU o ran canlyniadau economaidd gan gynnwys safonau byw, cyflog a chynhyrchiant is.

Crynodeb:

  • Mae perchnogaeth tir dameidiog o ran canol trefi a strydoedd mawr a dyheadau croes perchnogion tir ac eiddo yn arwain at heriau gyda strategaeth gynllunio a datblygu gydgysylltiedig.
  • Mae gan leoedd fynediad gwael at gyllid, sy’n arwain at ddiffyg cyllid ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth, diwylliannol a dinesig allweddol.
  • Mae materion trafnidiaeth a chysylltedd digidol yn gwneud lleoedd yn llai deniadol i bobl a busnesau. Mewn rhai ardaloedd, gall rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus fod yn dameidiog, gan arwain at deithiau hirach sy’n anghyfleus neu’n anymarferol. I’r rhai sy’n teithio mewn car, gall tagfeydd ac amseroedd teithio hirach effeithio ar y pellter y mae rhywun yn barod i’w deithio am swydd. Gall cysylltedd digidol gwael ei gwneud yn llai deniadol i fusnesau sefydlu mewn lle neu i bobl weithio gartref.
  • Nid yw twf economaidd y diwydiannau creadigol wedi’i ddosbarthu’n gyfartal ledled y DU, ac mae twf yn canolbwyntio ar Lundain a’r de-ddwyrain.
  • Mae yna fethiant marchnad sy’n arwain at wahaniaeth o ran cyfranogiad / ymgysylltiad â’r celfyddydau / diwylliant ac felly canlyniadau is-optimaidd.
  • Adeiladau nad ydynt yn addas i ofynion yr oes bresennol. Nid yw trefniadaeth ofodol trefi a strydoedd mawr yn addas i ddefnydd ôl-ddiwydiannol.
  • Ffactorau economaidd-gymdeithasol parhaus megis diweithdra ac amddifadedd rhwng cenedlaethau ar lefel deuluol, symudedd cymdeithasol gwael, anghydraddoldeb daearyddol a diboblogi cyffredinol uchel.

Problem 2: Mae gwahaniaethau gofodol mewn canlyniadau cymdeithasol yn y DU, lle mae gan rai mannau lefelau is o gydlyniant cymdeithasol, balchder mewn lle, lefelau uwch o droseddu a thai gwael.

Crynodeb:

Problem 3: Ceir amrywiad sylweddol mewn canlyniadau iechyd (corfforol, meddyliol a lles), sy’n gysylltiedig â lefelau amddifadedd mewn mannau.

Crynodeb:

  • Gall diffyg mannau cyhoeddus gwyrdd/glas (fel parciau a llynnoedd) gyfrannu at lai o ymdeimlad o les a llai o gyfleoedd am weithgareddau corfforol. Gall hyn arwain at iechyd meddwl a chorfforol gwael.
  • Gall lefelau uwch o ddiweithdra mewn trefi gyfrannu at ganlyniadau iechyd gwael. Cael swydd oedd yr ail ffactor mwyaf yn gysylltiedig â lles ac mae cydberthynas rhwng nifer o ddangosyddion iechyd a lefelau incwm.
  • Gall diffyg buddsoddiad mewn seilwaith cymdeithasol sy’n cefnogi agweddau ar ddiwylliant a chymuned leol gael effeithiau negyddol ar iechyd, lles a ffyniant economaidd ein cymunedau.
  • Gall diffyg lle diogel i bobl ifanc mewn cymuned leol, gan gynnwys diffyg pethau i’w gwneud y tu allan i’r ysgol, arwain at fwy o ofn yn y gymuned i bobl ifanc.

Atebion

Yn sgil nodi’r problemau eang hyn, canolbwyntiodd Cylch 1 y Gronfa ffyniant Bro ar dair thema fuddsoddi eang: uwchraddio trafnidiaeth leol, adfywio canol trefi a strydoedd mawr, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.

Trafnidiaeth leol

Gall buddsoddi mewn rhwydweithiau trafnidiaeth lleol adfywio economïau lleol drwy hybu twf, gwella cysylltedd, a chreu lleoedd iachach, gwyrddach a mwy deniadol i fyw a gweithio ynddynt. Mae bron pob taith yn dechrau ac yn gorffen ar rwydweithiau trafnidiaeth lleol, felly gall buddsoddiad wneud gwahaniaeth gwirioneddol, pendant i drigolion, busnesau a chymunedau. Gall prosiectau trafnidiaeth lleol chwarae rhan ganolog yn y gwaith o wella lleoedd a chryfhau ymdrechion i hybu ffyniant bro. Gallai hyn gynnwys uwchraddio seilwaith bysiau a beicio i wella mynediad at swyddi gan gefnogi aer glanach a theithio gwyrddach ac iachach; targedu gwelliannau ffyrdd lleol at fannau cyfyng tagfeydd, ac atgyweirio pontydd i sicrhau nad yw cymunedau’n cael eu hynysu oddi wrth wasanaethau allweddol.

Adfywio

Mae canol trefi yn rhan hanfodol o’n cymunedau a’n heconomïau lleol, gan ddarparu canolbwynt ar gyfer masnach manwerthu a lletygarwch, a chraidd disgyrchiant ystyrlon i gymunedau lleol. Mae llywodraeth y DU yn cydnabod bod newid ymddygiad defnyddwyr yn y blynyddoedd diwethaf wedi gwneud pethau’n anoddach i fanwerthwyr yng nghanol ein trefi a’n strydoedd mawr, mater a amlygwyd fwyfwy gan effaith Covid-19. Yn ogystal, er bod rhai ardaloedd lleol wedi elwa ar raglenni fel y Gronfa Trefi, nid yw rhai lleoedd fel trefi llai wedi gallu manteisio ar y buddsoddiad hwn eto.

Yng Nghyllideb 2018, cyhoeddodd llywodraeth y DU ‘Our Plan for the High Street’, gan arwain nifer o fentrau gan gynnwys y Gronfa Trefi, i adnewyddu ac ail-lunio canol trefi a strydoedd mawr fel eu bod yn edrych ac yn teimlo’n well ac yn gallu ffynnu yn y tymor hir. Mae piler adfywio’r Gronfa Ffyniant Bro yn ceisio adeiladu ar yr athroniaeth hon ac ar y buddsoddiadau a wnaed hyd yn hyn drwy’r Gronfa Trefi.

Bydd y Gronfa’n helpu cymunedau i drawsnewid safleoedd adfeiliedig, gwag neu safleoedd a ddefnyddir yn wael yn ganolfannau masnachol a chymunedol bywiog y gall pobl leol ymfalchïo ynddynt.

Asedau diwylliannol a threftadaeth

Gall buddsoddi mewn asedau diwylliannol adfywio lleoedd, gan arwain at ganlyniadau economaidd a chymdeithasol cadarnhaol ar lefel leol. Gall helpu i gadw a thyfu gweithlu medrus iawn, denu twristiaid i gryfhau busnes lleol, a darparu cyfleoedd i dyfu cysylltiadau pobl a chymunedau â lleoedd. Yn ogystal, gall cefnogi datblygiad perthynas fwy cadarnhaol rhwng pobl a lle gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a chorfforol. Yn fyr, mae diwylliant a threftadaeth yn bethau sy’n dod â phobl at ei gilydd ledled y wlad ac yn cryfhau cymunedau.

Mae canfyddiad o le yn ffactor ‘tynnu’ pwysig mewn penderfyniadau buddsoddi a lleoliad busnes, a gall effeithio ar allu lle i ddenu talent – yn enwedig pobl ifanc – a chadw gweithwyr. Mae gan lawer o drefi dreftadaeth ac ymdeimlad cryf o le eisoes, ac maent yn elwa ar eu hasedau diwylliannol a dinesig yn uniongyrchol, o refeniw twristiaeth ac ymwelwyr, ac yn anuniongyrchol, drwy ysbrydoli ymdeimlad o falchder lleol a chydlyniant cymunedol, gan wneud lleoedd yn fwy deniadol i fyw a gweithio ynddynt. Ochr yn ochr â threfi, mae ardaloedd gwledig hefyd yn aml yn meddu ar dapestri cyfoethog o asedau treftadaeth a diwylliant lleol.

Nid yw diogelu treftadaeth wedi’i gyfyngu i ddenu twristiaid yn unig; mae llawer o ganol trefi a dinasoedd ledled y DU yn hanesyddol ac yn hardd ynddynt eu hunain ac mae sicrhau bod hyn yn parhau yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol y busnesau sydd yno, gan weithio ar y cyd â thema adfywio a buddsoddi yng nghanol trefi y Gronfa Ffyniant Bro.

Egwyddorion allweddol

Yn ogystal ag anelu at fynd i’r afael â phroblemau lleol penodol fel y nodwyd gan awdurdodau lleol, nod y Gronfa hefyd yw cynnal dwy egwyddor allweddol drwy gydol ei gweithredu:

  • Egwyddor 1: Dylai rhaglenni’r Gronfa Ffyniant Bro fod yn gyson ag uchelgeisiau Sero Net y llywodraeth a chyfrannu at gyrraedd targedau amgylcheddol lleol.
  • Egwyddor 2: Dylai’r rhaglen gyfrannu at lai o seilos rhwng adrannau’r llywodraeth i wella rheoli economaidd cenedlaethol a galluoedd economaidd a rheoli economaidd lleol.

4. Theori Newid

Mae Theori Newid (ToC) yn mapio sut y disgwylir i ymyriad neu newid gyflawni’r amcanion a ddymunir. Dengys y cysylltiadau rhwng y mewnbynnau a’r gweithgareddau sy’n rhan o ymyriad, a sut y disgwylir i hyn arwain at allbynnau a chanlyniadau sy’n cynhyrchu’r effeithiau disgwyliedig.

Arweiniodd adolygiad o lenyddiaeth academaidd a dogfennau polisi at Theori Newid y bydd y gwerthusiad yn ceisio’i phrofi. O ystyried themâu ymyrryd lluosog y Gronfa Ffyniant Bro, mae theorïau newid thematig hefyd yn cael eu datblygu a byddant yn cyfrannu at gynllun y gwerthusiad.

Nodir Theori Newid ar lefel rhaglen yn ein theori newid lefel-uchel, gan ddangos y rhesymeg gyffredinol sy’n sail i’r Gronfa Ffyniant Bro. Bydd prosiectau lleol yn ymateb i broblemau sy’n seiliedig ar fannau ac felly bydd rhaglenni’r Gronfa’n amrywio’n sylweddol o ran themâu ymyrryd, graddfa’r buddsoddiad a’r ddarpariaeth. Felly, gall canlyniadau ac effeithiau amrywio o’r Theori Newid ar lefel rhaglen ar gyfer prosiectau unigol.

Bydd yr amserlenni disgwyliedig ar gyfer cyflawni prosiectau, gwireddu canlyniadau ac effeithiau yn amrywio o ran natur ac amcanion pob prosiect. Er enghraifft, gallai ymyriad teithio llesol (megis adeiladu llwybr beicio newydd) ddisgwyl gweld canlyniadau canolraddol yn cael eu gwireddu’n fuan ar ôl i’r ymyriadau gael eu gweithredu (e.e. drwy gynyddu’r nifer sy’n dechrau beicio), ond ar gyfer prosiect adfywio masnachol ar raddfa fawr gall gymryd sawl blwyddyn i sylwi ar unrhyw newidiadau mewn cyfraddau cyflog a chyflogaeth canolrifol. Dylid nodi hefyd fod yr effeithiau a amlinellir yn y ToC yn debygol o ddod i’r amlwg dros gyfnod cymharol hir ar ôl y prosiect e.e. gallai gymryd 5 i 10 mlynedd i allu mesur effeithiau cynlluniau ar berfformiad economaidd.

Theori Newid Lefel Uchel:

Mewnbynnau:

  • Mae £4.8 biliwn o gyllid canolog wedi’i ddyrannu i awdurdodau lleol ei wario ar gymysgedd o brosiectau ar draws tair thema, sef buddsoddi mewn trafnidiaeth, adfywio a diwylliant
  • Canllawiau canolog ar ddewis a chyflenwi pecyn o ymyriadau’n llwyddiannus
  • Canllawiau a chymorth prosiect llywodraeth ganolog
  • Gwybodaeth leol am benderfynwyr ym mhob lle a chynnig prosiect

Gweithgareddau:

  • Gall pob lle godi digon o gyfanswm arian i gyflenwi pecyn arfaethedig o ymyriadau
  • Cymorth llywodraeth ganolog ar gyfer gwella a monitro parhaus

Ym mhob lle, gall penderfynwyr gynnig pecyn o ymyriadau:

1: Ymyriadau teithio llesol

2: Buddsoddiad trafnidiaeth gyhoeddus

3: Buddsoddiad mewn ffyrdd

4: Buddsoddiad diwylliannol

5: Adfywio masnachol

6: Adfywio dinesig

7: Adfywio preswyl

Allbynnau:

  • Mae pob lle dethol yn cyflenwi’r pecyn o ymyriadau arfaethedig.
  • Yn y rhan fwyaf o leoedd, bydd ansawdd cyflenwi a graddau’r cwblhau yn ddigonol i gyflawni o leiaf rhai o’r canlyniadau canolradd a ddisgwylir.

Canlyniadau Canolradd:

Gan ddibynnu ar y cyfuniad o weithgareddau y mae lleoedd yn eu gwneud, byddant yn disgwyl cymysgedd o’r canlyniadau canlynol:

1: Gwell GYC yr awr

2: Gwell cyflog canolrifol

3: Gwell cyfraddau cyflogaeth

4: Buddsoddiad preifat cynyddol

5: Mwy yn manteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol

6: Llai o amser teithio i’r canol trefol sylweddol agosaf

7: Gwell gwasanaeth 5G daearyddol a gwell gwasanaeth safle band eang gigabeit

8: Gwell disgwyliad oes iachus

9: Gwell lles

10: Gwell balchder mewn lle

11: Gwell mynediad at dai o ansawdd da

12: Llai o droseddu cymdogaeth

Effeithiau Tymor Hir:

  • Gwell perfformiad economaidd (twf economaidd)
  • Gwell canlyniadau cymdeithasol (e.e. balchder mewn lle)
  • Gwell canlyniadau iechyd

Blaenioraethau rhaglen

  • Gwell cydredeg o ran targedau amgylcheddol lleol a chenedlaethol
  • Gwell galluoedd economaidd a rheoli economaidd lleol
  • Llai o seilos rhwng adrannau llywodraeth i wella rheoli economaidd cenedlaethol

Gall nifer o alluogwyr ddylanwadu ar y cysylltiadau rhwng cyfnodau’r Theori Newid, sy’n hwyluso cyflenwad a llwyddiant rhaglenni. Mae cyflenwi rhaglenni hefyd yn agored i effeithiau allanoldeb, sy’n effeithiau gorlif negyddol posibl nad ydynt yn ganlyniadau nac effeithiau dymunol y rhaglen (er enghraifft, mae perygl bod polisïau sy’n cynyddu gweithgarwch economaidd a gwerth tir mewn lleoedd yn arwain at ddadleoli ar gyfer grwpiau incwm is). Yn ogystal, gall risgiau effeithio ar gyflenwi rhaglenni a’u heffeithiau. Mae yna hefyd nifer o ragdybiaethau allweddol sy’n sail i’r cysylltiadau rhwng cydrannau’r Theori Newid. Rydym yn nodi’r galluogwyr, yr effeithiau allanoldeb a’r risgiau hynny, a’r rhagdybiaethau isod.

Galluogwyr allweddol

  • Amodau macroeconomaidd sefydlog (gan gynnwys chwyddiant, ysgytiadau i’r economi fyd-eang, ysgytiadau i’r farchnad lafur).

  • Adferiad llyfn o bandemig Covid-19 a llacio’r cyfyngiadau.

  • Bod gan awdurdodau lleol y sgiliau a/neu’r mynediad at y sgiliau sydd eu hangen i gwblhau prosiectau, e.e. penseiri, dylunwyr, cynllunwyr dinasoedd, gallu adeiladu.

  • Bod llywodraeth ganolog yn chwarae rôl gefnogol effeithiol i awdurdodau lleol.

  • Bod llywodraeth ganolog yn gweithio’n effeithiol ar draws adrannau i gyflawni blaenoriaethau hybu ffyniant bro.

Effeithiau allanoldeb a risgiau allweddol

  • Mae perygl bod polisïau sy’n cynyddu gweithgarwch economaidd a gwerth tir mewn lleoedd yn arwain at ddadleoli ar gyfer grwpiau incwm is.

  • Mae tystiolaeth werthuso o raglenni tebyg yn y gorffennol yn awgrymu bod perygl mai cymudwyr, yn hytrach na phreswylwyr, fydd yn elwa ar ymyriadau.

  • Mae prosiectau adeiladu nad ydynt yn cydredeg ag ymrwymiadau Sero Net yn mentro cynyddu allyriadau yn y tymor hir.

  • Gall buddsoddi mewn trafnidiaeth i wella seilwaith ffyrdd arwain at fwy o deithiau ceir preifat, a allai fod yn groes i’r nod o gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio.

  • Mae perygl y bydd chwyddiant tymor byr (Ym mis Chwefror 2022, mae chwyddiant ar ei uchaf ers 30 mlynedd sef 6.2% yn ôl Cyfradd flynyddol CPI, Chwefror 2022. Rhagwelir rhagor o gynnydd ar gyfer 2022, y disgwylir iddo arwain at frig o dros 7% yng Ngwanwyn 2022. Gallai hyn effeithio’n sylweddol ar y costau ar gyfer cyflenwi, oherwydd costau cynyddol llafur, deunyddiau a chydrannau) yn cynyddu costau cyflenwi ac yn effeithio ar werth am arian y prosiect. Yn ogystal, gall cyfyngiadau ar yr ochr gyflenwi ei gwneud yn anodd cael gafael ar rai deunyddiau a chynhyrchion.

Rhagdybiaethau a thybiaethau allweddol

  • Bod prosiectau’n cydredeg yn dda â nodau strategol y Gronfa Ffyniant Bro.

  • Bod prosiectau’r Gronfa yn cael eu cyflenwi mewn pryd yn ôl y cynllun.

  • Os bydd lleoedd yn ymgysylltu â’r gymuned leol drwy gydol y broses o gynllunio a datblygu prosiectau, bydd ymyriadau’n fwy tebygol o gael cefnogaeth leol ac felly cael mwy o effaith.

  • Bod angen i ardaloedd gael y swm gorau posibl o gyllid, digon i gael effaith wirioneddol.

  • Os darperir cymorth i fynd i’r afael â bylchau capasiti a gallu ac adeiladu partneriaethau, bod buddsoddiadau cyfalaf yn fwy tebygol o lwyddo i greu twf cynaliadwy yn lleol.

  • Os bydd lleoedd yn gwella’r amgylchedd adeiledig, sgiliau a chyfleoedd busnes, a chysylltedd trafnidiaeth, bydd y newidiadau hyn yn gwella delwedd ac ymdeimlad o le ymhlith trigolion yn ogystal ag ymhlith darpar ymwelwyr a buddsoddwyr.

  • Os bydd delwedd a’r ymdeimlad o le ymhlith trigolion, darpar ymwelwyr a buddsoddwyr yn gwella, yna yn y tymor hwy dylai hyn gynyddu’r galw a’r cyflenwad, gan wella twf economaidd.

  • Os oes gan leoedd opsiynau trafnidiaeth o ansawdd da, yna bydd cysylltedd a’r nifer sy’n manteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus/teithio llesol yn gwella, a all gael effaith gadarnhaol ar fusnesau newydd, cyflogaeth, buddsoddi a nifer yr ymwelwyr â chanol trefi.

5. Nodau ac Amcanion Monitro a Gwerthuso

Mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn gyfle unigryw i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio ar gyfer hybu ffyniant bro yn y DU. Oherwydd lledaeniad themâu prosiectau a lleoliadau daearyddol yn nyraniad y Gronfa, mae cyfle i ddysgu o ystod eang o ymyriadau ledled y DU.

Bydd gwaith monitro a gwerthuso’r Gronfa yn cynnwys y prif elfennau a restrir isod:

Monitro:

Olrhain a yw lleoedd yn cyflawni’r hyn y dywedasant eu bod yn mynd i’w gyflawni, pan ddywedasant eu bod yn mynd i’w gyflawni, ac yn unol â’r costau a ragwelwyd.

Gwerthuso Prosesau:

Archwilio’r hyn a weithiodd yn dda, a’r hyn nad oedd yn gweithio fel y bwriadwyd, wrth gynllunio a chyflenwi’r gronfa, a pham.

Gwerthuso Effaith:

Asesu pa newidiadau sydd wedi digwydd, maint y newidiadau hynny ac i ba raddau y gellir eu priodoli i’r ymyriad.

Gwerthuso Gwerth am Arian:

Deall a oedd y Gronfa’n darparu gwerth am arian. Mae’r union ddull o weithredu hefyd yn dibynnu ar ganlyniadau’r astudiaeth ddichonoldeb a amlinellir isod (adran 6.3).

6. Dull Monitro a Gwerthuso

Bydd y Gronfa Ffyniant Bro yn ariannu prosiectau ledled y DU, gan ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar le ar draws meysydd ymyrryd thematig. Yng Nghylch 1 y Gronfa, cafodd 105 o leoedd gyllid, gyda mwy o leoedd i gael cyllid mewn cylchoedd yn y dyfodol. Felly, mae nifer o lefelau lle gallem werthuso’r Gronfa, yn amrywio o werthusiadau ar sail lle o gynlluniau unigol (a gynhelir gan awdurdodau lleol a hyrwyddwyr cynlluniau eraill), gwerthusiadau thematig (e.e. canolbwyntio ar grwpiau o ymyriadau tebyg i wella ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio), i asesu effaith ac effeithiolrwydd y cyflenwi ar lefel rhaglen o bosibl. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol adrodd ar ddata monitro i lywodraeth ganolog a chynnal eu gwerthusiadau eu hunain sy’n seiliedig ar le.

Rydym wrthi’n datblygu’r cynllun ar gyfer y gwerthusiad cyffredinol o’r rhaglen ac rydym yn bwriadu cynnal astudiaeth ddichonoldeb i asesu’n llawn yr opsiynau ar gyfer gwerthusiadau effaith a gwerth am arian. Mae’r adran ganlynol yn nodi nodau’r gwerthusiad ar lefel rhaglen a’n cynigion ar gyfer datblygu’r cynlluniau hyn ymhellach yn ystod y misoedd nesaf.

6.1 Monitro

Nod

Defnyddir monitro i olrhain cynnydd prosiectau ac i nodi lle y gallai fod angen cymorth ychwanegol drwy gydol y rhaglen. Bydd y data monitro a gesglir yn galluogi’r adran i wirio cynnydd yn erbyn cerrig milltir y prosiect, sicrhau bod cyllid yn cael ei wario yn unol â thelerau y cytunwyd arnynt, a bod yr allbynnau y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni. Bydd y gweithgaredd hwn hefyd yn ceisio nodi pwy sy’n elwa ar y rhaglen. Bydd y data a gesglir hefyd yn cyfrannu at werthusiadau proses, effaith a gwerth am arian y rhaglen.

Gallai’r cwestiynau allweddol gynnwys:

1. Sut mae lleoedd yn perfformio o ran:

a. Cynnydd yn erbyn cynllun cyflawni

b. Gwariant yn erbyn proffil

c. Cyflawni allbynnau y cytunwyd arnynt

ch. Nodi a lliniaru risgiau

d. Nodi heriau a chyfleoedd

2. A yw’r lle dan sylw yn bodloni gofynion sicrwydd er mwyn gallu rhoi’r taliadau nesaf?

3. Os na, pam felly? Pa gamau sydd eu hangen i fynd yn ôl ar y trywydd iawn?

Caiff y cwestiynau canlynol eu hateb yn rhannol drwy’r wybodaeth fonitro ond byddant yn cael eu harchwilio ymhellach yn rhan o’r gwerthusiad proses:

4. Pa gymorth sydd ei angen ar leoedd tra byddant yn y cyfnod cyflenwi?

5. Beth sy’n gweithio’n dda o ran cyflenwi, a beth sydd angen ei wella?

6. Pa wersi ar gyflawni y gellir eu rhannu o fewn cyfnod y rhaglen?

Ffynonellau data

Bydd derbynyddion y Gronfa’n gyfrifol am ddarparu data monitro bob chwarter a phob chwe mis. Nodwyd y data sy’n ofynnol ym mhob pwynt mewn canllawiau monitro a gwerthuso a rannwyd gyda derbynyddion Cylch 1 y Gronfa Ffyniant Bro ym mis Tachwedd 2021, ynghyd â rhestri o ddangosyddion allbwn a chanlyniad “safonedig” (h.y. dangosyddion gyda diffiniadau safonol, unedau mesur, a gofynion tystiolaeth). Ar yr un pryd, cynhaliodd yr adran ymarfer casglu gwybodaeth, gan gynnwys proffiliau ariannol, cynlluniau cyflawni, allbynnau a risgiau, i ganfod “rhagolygon” ar gyfer pob prosiect cyn iddo ddechrau. Bydd templed monitro, ynghyd â chanllawiau manwl pellach ar sut i gwblhau hyn, yn cael ei rannu â derbynyddion Cylch 1 y Gronfa yng Ngwanwyn 2022.

Mae’r data monitro y gofynnir amdano gan dderbynyddion y Gronfa yn cydredeg â strwythur Theori Newid ac, felly, mae’n cynnwys:

  • Mewnbynnau a Gweithgareddau (e.e., swm a wariwyd ar gyflawni prosiectau)
  • Allbynnau (e.e., faint o le diwydiannol newydd a grëwyd)
  • Canlyniadau Canolraddol (e.e., newid yn nifer yr ymwelwyr)
  • Canlyniadau (e.e., newid mewn buddsoddiad preifat)

Bydd yn ofynnol i dderbynyddion y Gronfa Ffyniant Bro adrodd ar fewnbynnau, gweithgareddau ac allbynnau hyd nes y cwblheir y prosiect ar y cynharaf ond, ar gyfer rhai dangosyddion – yn enwedig canlyniadau – efallai y bydd angen casglu ac adrodd ar ddata am sawl blwyddyn ar ôl cwblhau’r prosiect. Gan fod amgylchiadau pob prosiect yn unigryw, byddwn yn cytuno ar y telerau gyda phob derbynnydd pan fydd eu prosiectau wedi’u cadarnhau.

Rhagwelir y bydd DLUHC a DFT hefyd yn casglu ac yn dadansoddi data ar ganlyniadau/effeithiau yn unol ag amserlenni hirach, gan ddefnyddio data y tu hwnt i’r hyn a gesglir gan dderbynyddion y Gronfa. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys setiau data gweinyddol, casgliadau ystadegol rheolaidd neu ymchwil bwrpasol megis arolygon. Caiff hyn ei archwilio ymhellach yn rhan o’r gwaith cynllunio manylach a fydd yn dilyn y strategaeth hon.

Gall derbynyddion y Gronfa gael y data y gofynnir amdano yn y templed monitro o wahanol ffynonellau. Rhagwelir y bydd y rhan fwyaf o’r data’n cael ei gasglu’n uniongyrchol gan dderbynyddion drwy gasglu data sylfaenol. Mewn rhai achosion, gall partneriaid prosiect ddarparu data; caiff y derbynnydd ddewis contractio’r gwaith casglu data allan i sefydliad trydydd parti; neu gall y derbynnydd gaffael data (e.e. ar gyfer olrhain canlyniadau penodol). Ym mhob achos o’r fath, cyfrifoldeb y derbynnydd o hyd fydd adrodd ar y data drwy’r prosesau monitro y cytunwyd arnynt.

Bydd y data monitro a gyflwynir i DLUHC a’r Adran Drafnidiaeth gan dderbynyddion y Gronfa Ffyniant Bro yn chwarae rhan hanfodol mewn prosesau sicrwydd a rheoli perfformiad, ond disgwylir iddo hefyd gyfrannu at bob lefel o werthuso. Ni ddisgwylir i ddysgu gael ei gyfyngu i adroddiadau gwerthuso interim a therfynol, gan y bydd dadansoddiad parhaus o’r data yn galluogi dysgu gwersi, a gwneud penderfyniadau mwy effeithiol, wrth i’r rhaglen fynd rhagddi. Lle bynnag y bo modd, bydd y mewnwelediadau a’r gwersi hyn yn cael eu lledaenu ymhlith derbynyddion a rhanddeiliaid perthnasol, er mwyn mynd i’r afael â materion, gwella’r ddarpariaeth, a gwneud y mwyaf o effaith y gronfa.

6.2 Gwerthuso prosesau

Nod

Nod y gwerthusiad proses yw deall sut y cafodd y Gronfa Ffyniant Bro ei chyflenwi mewn ardaloedd a gafodd gyllid. Bydd yn cynhyrchu gwersi ar yr hyn a weithiodd yn dda a’r hyn nad oedd yn gweithio fel y bwriadwyd, a fydd yn cyfrannu at welliant parhaus mewn cylchoedd cyflenwi dilynol. Defnyddir y gwersi hyn a ddysgwyd hefyd i lywio’r gwaith o gynllunio polisïau a chyflenwi cronfeydd eraill. Bydd gwaith cwmpasu pellach yn cael ei wneud i bennu’r fethodoleg ar gyfer y gwerthusiad proses, a cheir amlinelliad bras o’r dull arfaethedig isod.

Gallai’r cwestiynau allweddol gynnwys:

Proses ac ymgysylltu ar lefel rhaglen

1. Pa mor dda y gweithredwyd y gystadleuaeth a’r gronfa?

2. I ba raddau y mae’r broses wedi adeiladu arweinyddiaeth, partneriaethau a/neu allu mewn awdurdodau lleol (neu yng Ngogledd Iwerddon, sefydliadau fel prifysgolion)?

3. I ba raddau y mae’r Gronfa Ffyniant Bro wedi galluogi perthynas waith agosach o fewn llywodraeth ganolog o ran mynd i’r afael â heriau twf economaidd ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig?

4. I ba raddau y mae llai o seilos a chydweithrediad cryfach rhwng DLUHC, yr Adran Drafnidiaeth a Thrysorlys EM? A aethpwyd i’r afael â heriau economaidd mewn mannau â blaenoriaeth ledled y Deyrnas Unedig drwy ymyriadau symlach, teilwredig a chydlynol?

Cyflenwi ar lefel ymyriad

5. Wrth gynllunio eu prosiectau, i ba raddau yr ymgynghorodd ymgeiswyr am grantiau â phob grŵp perthnasol, gan gynnwys pobl o gefndiroedd sydd wedi’u hallgáu a/neu o dan anfantais?

6. Lle’r oedd cais gan awdurdod lleol, i ba raddau yr oedd yn ymwybodol o anghenion grwpiau sydd wedi’u hallgáu a/neu grwpiau o dan anfantais, ac a yw’r rhain yn cael sylw llawn yn y cais?

7. Pa gymorth a gafodd lleoedd gan y llywodraeth ganolog? A gafodd hynny effaith sylweddol ar gyflawni prosiectau’n llwyddiannus a’r canlyniadau a’r allbynnau a geisiwyd?

8. Pa gymorth oedd ei angen ar sefydliadau eraill yng Ngogledd Iwerddon i gyflenwi’r Gronfa Ffyniant Bro? A oeddent yn wahanol i awdurdodau lleol o ran gweithredu’r Gronfa?

9. Os cafodd partneriaid cyflenwi eu penodi, pa wahaniaeth a wnaethant wrth weithredu rhaglenni?

10. Pa gymorth sydd ei angen ar leoedd tra byddant yn y cyfnod cyflenwi?

11. Beth sy’n gweithio’n dda o ran cyflenwi, a beth sydd angen ei wella?

12. Pa wersi ar gyflenwi y gellir eu rhannu o fewn cyfnod y rhaglen?

13. A fethodd unrhyw leoedd â chyrraedd eu nodau a’u hamcanion? A oedd gan y lleoedd hyn unrhyw nodweddion a rennir?

14. A oedd unrhyw alluogwyr neu hwyluswyr cyffredin a gyfrannodd yn gadarnhaol at wireddu canlyniadau?

15. A oedd unrhyw rwystrau cyffredin a gyfrannodd yn negyddol at wireddu canlyniadau?

Ffynonellau data

Bydd y gwerthusiad proses yn defnyddio data monitro rheolaidd a ddarperir gan leoedd. Gellir ategu hyn gyda setiau data gweinyddol i roi trosolwg meintiol o berfformiad pob lle yn erbyn ei ddangosyddion a’i fetrigau allweddol. Bydd cyfweliadau a grwpiau ffocws gydag arweinwyr lle a rheolwyr prosiect yn rhoi cipolwg ansoddol i ehangu ar ddata meintiol. Bydd y gweithgareddau ymchwil ansoddol hyn yn rhoi cipolwg gweithredol ar lawr gwlad ar yr hyn a weithiodd yn dda wrth gyflenwi a gweithredu’r Gronfa Ffyniant Bro, a’r hyn nad oedd yn gweithio fel y bwriadwyd.

Mae’r canllawiau technegol a ddaw gyda’r Gronfa hefyd yn gofyn bod lleoedd yn datblygu a chyflwyno eu gwerthusiadau lleol eu hunain. Yn yr un modd â’r gweithgaredd monitro, rhagwelir y bydd lleoedd naill ai’n casglu eu data eu hunain neu’n comisiynu hyn i bartneriaid prosiect neu sefydliadau trydydd parti.

6.3 Gwerthusiadau effaith a gwerth am arian

Rydym wedi ymrwymo i gynnal gwerthusiadau effaith cadarn o ansawdd uchel ar ein polisïau, lle bynnag y bo modd. O ystyried cymhlethdod model cyflenwi’r Gronfa Ffyniant Bro a’r potensial i leoedd llwyddiannus gael arian arall gyda nodau ac amcanion tebyg, bydd yn heriol cynllunio gwerthusiad effaith a all ddangos yn glir gysylltiadau achosol rhwng ymyriadau ac effeithiau. Fel y cyfryw, mae angen ymchwilio ymhellach i gwmpasu’r gwerthusiadau effaith a gwerth am arian er mwyn deall pa fethodoleg sydd ar gael i asesu effaith y Gronfa.

Ar gyfer gwerthusiadau effaith ar draws y rhaglen, cynhelir astudiaeth ddichonoldeb i ganfod beth y gellir ei gyflawni o ystyried cymhlethdod model cyflenwi’r Gronfa, ac a ellir meintioli canlyniadau ac effeithiau a’u priodoli’n uniongyrchol i’r Gronfa ar lefel y rhaglen. Bydd yr astudiaethau dichonoldeb yn taflu goleuni ar ba ddulliau gwerthuso sydd fwyaf priodol, yn seiliedig ar archwilio pa ganlyniad neu ganlyniadau y gellir eu defnyddio i fesur effaith – er enghraifft, dewis rhwng dulliau sy’n seiliedig ar theori neu ddulliau lled-arbrofol. Bydd hyn hefyd yn helpu sefydlu’r amseriadau ar gyfer cyflawni gweithgareddau gwerthuso, a’r gwaith casglu data sydd ei angen. Byddwn yn archwilio defnyddio setiau data gweinyddol, gan gynnwys Gwasanaeth Data Integredig y Swyddfa Ystadegau Gwladol a data gan adrannau eraill y llywodraeth, ar y cyd â setiau data masnachol, i gynnal gwerthusiadau effaith – ond gallai hyn newid ac esblygu ar ôl cwblhau’r astudiaethau dichonoldeb.

Fel yr amlinellir yn adran 6, efallai yr awn hefyd ar drywydd yr opsiwn o gynnal gwerthusiadau effaith thematig. Gallai’r rhain ganolbwyntio ar grwpiau o ymyriadau tebyg i gasglu tystiolaeth fwy cadarn ynghylch a yw mathau penodol o ymyriadau yn effeithiol o ran cyflawni eu hamcanion. Gallai hyn hefyd roi cyfle i sefydlu grwpiau rheoli mewn ardaloedd sydd â mathau tebyg o nodweddion ond na chawsant yr ymyriadau dan sylw. Wrth gynllunio gwerthusiadau thematig, gallem gael ein harwain gan y saith is-thema a amlinellir yn y Theori Newid: ymyriadau teithio llesol, buddsoddiadau trafnidiaeth gyhoeddus, buddsoddiadau ffyrdd, buddsoddiadau diwylliannol, adfywio masnachol, adfywio dinesig, ac adfywio cymunedol. Mae theorïau newid mwy gronynnog ar gyfer y themâu hyn ar y gweill, a thrwy’r astudiaethau dichonoldeb byddwn yn ceisio deall pa ddulliau a allai fod fwyaf priodol ar gyfer cynnal y lefel hon o werthusiad. Gall y gwerthusiadau effaith thematig hyn hefyd gynnwys astudiaethau achos sy’n archwilio data ansoddol a meintiol mewn mannau penodol, er mwyn adeiladu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o effaith ymyriadau.

Bydd y gallu i briodoli achosoldeb rhwng mewnbynnau/gweithgareddau ac effeithiau yn cael effaith uniongyrchol ar sut y gallwn, neu a allwn, gynnal gwerthusiad gwerth am arian. Os na allwn gysylltu canlyniadau ac effeithiau â’r Gronfa, ni fyddwn yn gallu asesu a yw’n sicrhau gwerth am arian. Mae’n allweddol, felly, ein bod yn archwilio a allwn asesu graddau’r berthynas achosol rhwng gweithgareddau ac effeithiau cyn y gallwn ystyried y dulliau a’r ffynonellau data a fydd fwyaf priodol i ddangos effeithiolrwydd, cynildeb, effeithlonrwydd a thegwch y Gronfa. Bydd angen i’r dull gwerthuso gwerth am arian sy’n deillio o hynny fod yn gymhleth i gyfrif am gymhlethdod model cyflenwi’r Gronfa a’r ystod bosibl o fanteision a allai ddod i’r amlwg.

Yn yr un modd â’r opsiwn o gynnal gwerthusiadau effaith thematig, gall yr astudiaethau dichonoldeb hefyd archwilio posibilrwydd cynnal gwerthusiadau gwerth am arian o brosiectau unigol, neu fathau o brosiectau wedi’u grwpio o dan yr is-themâu ymyrryd a restrwyd yn flaenorol. Os yw’n ymarferol, bydd y gwerthusiadau gwerth am arian hyn ar lefel ymyriad yn anelu at ddarparu rhywfaint o dystiolaeth gadarn o ‘beth sy’n gweithio’ os na allwn gynnal gwerthusiadau gwerth am arian ar lefel rhaglen.

7. Y camau nesaf

Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno strategaeth lefel uchel ar gyfer monitro a gwerthuso’r Gronfa Ffyniant Bro. Fe’i dilynir gan gam cynllunio gwerthuso manylach a fydd yn ystyried dulliau, methodoleg ac argaeledd data mewn perthynas â phob un o’r prif weithgareddau gwerthuso (proses, effaith a gwerth am arian). Bydd y cam cynllunio hwn (a fydd yn ymgorffori’r asesiadau dichonoldeb a amlinellir uchod) yn ystyried ymhellach raddfa a logisteg y gweithgareddau gwerthuso, gan gynnwys pa weithgareddau a gynhelir yn fewnol neu a gomisiynir i arbenigwyr allanol.

Efallai bydd diweddariadau pellach i’r strategaeth yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn 2022, gan gwmpasu cynllun y gweithgareddau gwerthuso effaith, proses a gwerth am arian.