Cymorth i gwmnïau mae llifogydd wedi effeithio arnynt
Diweddarwyd 6 March 2017
1. Cyflwyniad
Os yw unrhyw gwmni y mae llifogydd wedi effeithio arno’n methu â ffeilio cyfrifon yn brydlon o ganlyniad uniongyrchol i’r llifogydd, dylai gysylltu â Thŷ’r Cwmnïau cyn diwedd y cyfnod ffeilio a byddwn yn cytuno ar ’estyniad i’r amser ffeilio.
I’r cwmnïau hynny y mae llifogydd wedi effeithio arnynt sy’n methu â gwneud cais am estyniad i’r amser ffeilio ac sy’n ffeilio eu cyfrifon yn hwyr, cysylltwch â ni gan roi’r manylion a byddwn yn ymchwilio’n unol â hynny.
Os oes arnoch angen unrhyw gymorth mewn perthynas â ffeilio, cysylltwch â ni ar 0303 1234 500
Gellir gweld rhagor o wybodaeth ynglŷn ag apelau cosbau ffeilio hwyr (LFP) yn ein canllaw Apelio yn erbyn Cosbau Ffeilio Hwyr.
Paid ag anghofio bod ein gwasanaeth ffeilio ar-lein ar gael 24/7 i gyflwyno gwybodaeth
2. Os na allwch ffeilio cyfrifon yn brydlon oherwydd y llifogydd
Gallwch ofyn i ni am fwy o amser i ffeilio ar yr amod eich bod yn gwneud hynny cyn diwedd y cyfnod ffeilio.
3. Os nad oes gennych fynediad i gyfrifiadur i ffeilio’ch cyfrifon neu i gysylltu â ni
Cysylltwch â ni dros y ffôn, ond bydd arnom angen cynifer o fanylion ag sy’n bosibl.
4. Os ydych wedi derbyn cosb ffeilio hwyr
Nid oes gennym ddisgresiwn ynghylch dyroddi cosb. Y cwbl allwn ei wneud yw penderfynu ei chasglu ai peidio.
5. Beth allwch ei wneud ynghylch y gosb ffeilio hwyr ar ôl iddi gael ei dyroddi?
Os yw’r llifogydd wedi effeithio ar allu’ch cwmni i ffeilio ei gyfrifon yn brydlon, yna byddwn yn edrych yn ffafriol ar unrhyw apêl.
6. Beth allwch ei wneud os yw’ch ffurflen flynyddol yn ddyledus/yn hwyr ond ni allwch ei ffeilio oherwydd y llifogydd.
Cysylltwch â ni ac fe wnawn beth allwn ni i’ch helpu.