Cyhoeddiad

Cyfarwyddyd ymarfer 58: cynllun iaith Gymraeg Cofrestrfa Tir EM, ffurf y gofrestr

Diweddarwyd 30 January 2016

1. Cyflwyniad

Mae gan Gofrestrfa Tir EM Gynllun Iaith Gymraeg a baratowyd o dan adran 21(3) o Ddeddf yr laith Gymraeg 1993, a derbyniodd gymeradwyaeth lawn Bwrdd yr Iaith Gymraeg ym Mawrth 1998. Mae’r cynllun yn darparu y byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal wrth ddelio â’r cyhoedd yng Nghymru. Mae’r newidiadau a amlinellir yn Y newidiadau a phryd y daethant i rym yn deillio o’r egwyddor hon.

2. Y newidiadau a phryd y daethant i rym

Daeth y newidiadau a wnaed i gydymffurfio â’r Cynllun Iaith Gymraeg i rym ar 1 Hydref 2001 ac roeddynt fel a ganlyn.

  • rydym nawr yn cynhyrchu templed y gofrestr ar ffurf ddwyieithog. Mae’r penawdau a’r wybodaeth safonol (er enghraifft, ‘Cofrestr Eiddo’ neu ‘Teitl Llwyr’) yn ymddangos yn Gymraeg a Saesneg ar bob cofrestr teitl yng Nghymru
  • mae cofnodion unigol y gofrestr bellach yn ymddangos yn iaith (Cymraeg neu Saesneg) y ddogfen wreiddiol y seiliwyd hwy arnynt. Felly, lle mai’r Gymraeg yw iaith y dogfennau gwreiddiol, mae’r cofnodion yn Gymraeg; lle mai Saesneg yw iaith y dogfennau gwreiddiol, mae’r cofnodion yn Saesneg. Lle nad oes dogfen, mae cofnod y gofrestr yn adlewyrchu dewis iaith y ceisydd a gyflwynodd y cais. Am ragor o wybodaeth gweler Cofnodion nad ydynt yn deillio o weithred.

3. Cofnodion dwyieithog

Dim ond templed y gofrestr fydd yn ddwyieithog. Iaith y dogfennau gwreiddiol fydd yn penderfynu iaith cofnodion y gofrestr.

4. Cofnodion nad ydynt yn deillio o weithred

Lle nad oes dogfen, er enghraifft pan fo cofnod o natur gyffredinol neu’n cyfeirio at sefyllfa’r cynllun teitl yn unig, bydd iaith y cofnod hwnnw’n adlewyrchu dewis iaith y ceisydd naill ai yn y cais cyfredol, neu os cynhyrchir y cais cyfredol gan Gofrestrfa Tir EM ei hunan, ar sail dewis iaith y perchennog cofrestredig cyfredol.

5. Disgrifiadau eiddo dwyieithog

Y cyfeiriad swyddogol a gedwir yng nghronfa ddata ein disgrifiad eiddo cyfrifiadurol, sy’n seiliedig ar ffeiliau cyfeiriadau Swyddfa’r Post, fydd y disgrifiad eiddo (a nodir yn y gofrestr eiddo). Gall y cyfeiriad ar gyfer gohebu yn y gofrestr perchnogaeth, sy’n bersonol i’r perchennog unigol, fod yn Gymraeg naill ai’n unol â dewis iaith y ceisydd neu ar gais. Sylwch, fodd bynnag, fod hyn yn gymwys i eiddo yng Nghymru’n unig. Am ragor o wybodaeth gyffredinol, yn enwedig o ran effaith Rheolau Cofrestru Tir 2003, gweler cyfarwyddyd ymarfer 55: cyfeiriad ar gyfer gohebu.

6. Ceisiadau wedi eu seilio ar ddogfennau Cymraeg a gyflwynwyd cyn 1 Hydref 2001

O 1 Hydref 2001, mae Cofrestrfa Tir EM Swyddfa Cymru wedi argraffu pob cofrestr ar dempled cofrestr ddwyieithog heb ystyried y dyddiad y crëwyd y gofrestr ei hunan. Cyfieithwyd cofnodion yn deillio o ddogfennau Cymraeg a gyflwynwyd cyn 1 Hydref 2001 i’r Saesneg ar gyfer eu gosod ar y gofrestr. Nid yw’n fwriad gennym ddiwygio’r cofnodion hynny.

7. Os yw eich eiddo yn Lloegr, ni allwch gael eich cofrestr yn Gymraeg

Mae’r newidiadau a nodwyd uchod yn effeithio ar gofrestri tir yng Nghymru yn unig. O ganlyniad, ni fydd modd i Gymry alltud sy’n byw yn Lloegr neu Gymry sy’n berchen ar dir yn Lloegr gael cofrestri eu tir Seisnig ar dempled dwyieithog. Ni fydd modd ychwaith creu cofnodion Cymraeg ar y cofrestri hynny.

8. Penawdau neu allweddi ar gynlluniau teitl

Nid yw’n fwriad gennym gyfieithu penawdau neu allweddi ar gynlluniau teitl ar hyn o bryd.

9. Â phwy i gysylltu am wybodaeth bellach neu gymorth

Dylid cyfeirio ymholiadau ynglŷn â’r newidiadau hyn at:

Eleri Sparnon Jones
Cydlynydd y Gymraeg
Swyddfa Cymru
Tŷ Cwm Tawe
Ffordd y Ffenics
Llansamlet
Abertawe SA7 9FQ

(DX 82800 Swansea 2)

Ffôn: 0300 006 9567

ebost: eleri.jones@landregistry.gov.uk

10. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.