Papur polisi

Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin

Mae’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin yn disgrifio sut y gallwn reoli pysgodfeydd cregyn y brenin yn gynaliadwy yn yr hirdymor yn nyfroedd Cymru a Lloegr.

Dogfennau

Manylion

Mae’r cynllun rheoli pysgodfeydd cregyn y brenin yn nodi’r stociau yn nyfroedd Cymru a Lloegr.

Lluniodd Defra a Llywodraeth Cymru y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin mewn partneriaeth â Grŵp Ymgynghori’r Diwydiant Cregyn Bylchog, sef fforwm cydweithredol sy’n dod â diwydiant, y byd academaidd, rheoleiddwyr y llywodraeth, a llunwyr polisïau at ei gilydd.

Mae’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin wedi cael ei baratoi a’i gyhoeddi i fodloni’r gofynion sydd wedi’u nodi yn Neddf Pysgodfeydd 2020.

Darllenwch fwy am gynlluniau rheoli pysgodfeydd (yn Saesneg).

Yr ardaloedd

Dyfroedd Cymru a Lloegr.

Statws

Daeth ymgynghoriad cyhoeddus i geisio barn ar y cynllun drafft i ben ar 1 Hydref 2023.

Tarwch olwg ar yr ymgynghoriad ac ymateb y llywodraeth yn Cregyn y Brenin: ymgynghoriad ar y cynllun rheoli pysgodfeydd arfaethedig.

Cyhoeddwyd y cynllun rheoli pysgodfeydd terfynol ym mis Rhagfur 2023.

Cysylltwch â ni

Os hoffech chi ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at FMPs@defra.gov.uk.

Cyhoeddwyd ar 14 December 2023