Papur polisi

Cynllun rheoli ar gyfer pysgodfeydd cregyn y brenin yn nyfroedd Cymru a Lloegr

Cyhoeddwyd 14 December 2023

Crynodeb gweithredol

Cyd-destun

Mae rhai o’r stociau pysgod môr gwyllt gorau yn y byd yn nyfroedd Cymru a Lloegr. Er mwyn medru rheoli’r pysgodfeydd yn gynaliadwy a diogelu ein stociau amrywiol, rhaid wrth drefniadau priodol ar gyfer eu cynaeafu. Mae ein llywodraethau wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid er mwyn sicrhau newid effeithiol a chydweithredol i reoli stociau cregyn y brenin yn gynaliadwy.

Y cynlluniau rheoli pysgodfeydd (FMPs) yw ein polisi sylfaenol ar gyfer rheoli’n pysgodfeydd yn well ac yn un o ofynion canolog Deddf Pysgodfeydd 2020.

Mae’r FMP yn disgrifio cynigion a fframweithiau rheoli i’n helpu i wireddu’r uchelgais a rennir yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd (JFS) i sicrhau:

  • stociau cynaliadwy,
  • amgylchedd morol iach a
  • sector pysgota ffyniannus a phroffidiol.

Datblygwyd yr FMP hwn gan Weithgor Grŵp Ymgynghori’r Diwydiant Cregyn Bylchog (SICGWG) ar ran Defra a Llywodraeth Cymru. Mae adborth gan Grŵp Ymgynghori’r Diwydiant Cregyn Bylchog (SICG) ehangach, digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r dystiolaeth sydd wedi’i chasglu ar gyfer y cynllun hwn, wedi dangos bod angen rheoli ein pysgodfeydd cregyn y brenin (Pecten maximus) yn well.

Cynhaliodd Defra a Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar yr FMP drafft ym mis Gorffennaf 2023 yn unol â gofynion Atodlen 1 o Ran 3 o’r Ddeddf. Mae’r fersiwn 1 hon o’r FMP wedi rhoi sylw i’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad hwnnw. Nod yr FMP hwn yw darparu pysgodfeydd cregyn y brenin cynaliadwy sy’n cael eu rheoli’n dda yng Nghymru a Lloegr.

Beth yw FMP?

Cynllun gweithredu wedi’i seilio ar dystiolaeth yw FMP ar gyfer cynnal neu adfer stociau pysgod cynaliadwy. Mae FMP yn gynllun tymor hir a bydd gofyn ei adolygu ac os oes angen ei ddiwygio o leiaf bob chwe mlynedd. Mae FMP yn amlinellu nodau ar gyfer y bysgodfa darged (neu’r pysgodfeydd targed), ynghyd â’r polisïau a’r ymyriadau rheoli sy’n angenrheidiol i gyflawni’r nodau hyn. Bydd Defra a Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r FMPs i fynd i’r afael â materion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sy’n gysylltiedig â’n pysgodfeydd. Y nod yw y bydd yn help sylweddol i gryfhau ein gwaith o reoli pysgodfeydd ar sail ecosystemau. Bydd cynlluniau’n cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn ymateb i dystiolaeth newydd a phrofiad ymarferol a phara’n effeithiol.

Pam FMP ar gyfer cregyn y brenin?

Rhoddwyd blaenoriaeth i baratoi FMP ar gyfer cregyn y brenin am y rhesymau canlynol:

  • bod y stociau mewn perygl o gael eu gorbysgota
  • gwerth economaidd y bysgodfa
  • diffyg tystiolaeth i asesu a monitro cyflwr y stoc yn gywir
  • effeithiau amgylcheddol posibl y bysgodfa

Mae pysgodfeydd cregyn y brenin yn gwneud cyfraniad diwylliannol, cymdeithasol, ac economaidd at gymunedau arfordirol trwy gyflogaeth a buddiannau pysgota hamdden. Felly, mae angen camau rheoli ychwanegol i sicrhau bod pysgota am gregyn y brenin yn gynaliadwy. Gwneir hyn trwy warchod y stoc i sicrhau ei dyfodol a dyfodol y diwydiant sy’n dibynnu arni.

Mae asesiadau wedi cael eu cynnal o’r stoc cregyn y brenin ers 2016. Mae angen rhagor o ddata i ategu’r asesiadau stoc presennol er mwyn amcangyfrif y biomas sydd ar gael yn gywir ar gyfer pysgota cynaliadwy.

Mae’r FMP hwn yn cyfuno gweledigaeth tymor hir i gyflawni Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf (MSY) neu fesur tebyg sy’n adlewyrchu iechyd y stoc. Mae angen mesurau rheoli i gyrraedd a chynnal y nod hwn. Mae’r cynllun hwn yn dwyn ynghyd mesurau presennol ar gyfer cregyn y brenin a’r holl wyddoniaeth a thystiolaeth sydd ar gael. Mae’r cynllun yn amlygu lle y ceir bylchau yn y dystiolaeth a beth sy’n ofynnol i lenwi’r bylchau hynny i alluogi’r amddiffyniad angenrheidiol ar gyfer stociau yn awr ac yn y tymor hir.

Mae pysgota am gregyn y brenin yn effeithio ar yr amgylchedd, yn enwedig gwely’r môr. Mae’r FMP hwn yn cynnwys amcanion i sicrhau y deëllir yr effeithiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â physgota am gregyn y brenin. Pan ystyrir bod pysgodfeydd llusgrwydo am gregyn y brenin yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd morol, bod camau’n cael eu cymryd i osgoi, unioni neu liniaru effeithiau o’r fath.

Statws y stoc

Mae’r FMP wedi defnyddio’r dystiolaeth ddiweddaraf am y pysgodfeydd cregyn y brenin o gwmpas Cymru a Lloegr i

  • asesu statws y stoc
  • nodi’r mesurau rheoli sy’n cael eu cymryd
  • penderfynu ar bolisïau a gweithredoedd ar gyfer rheoli’r bysgodfa cregyn y brenin.

Mae lefelau’r dystiolaeth sydd ar gael am stociau cregyn y brenin gwahanol yn amrywio. Mae gennym ddigon o dystiolaeth i allu creu procsi ar gyfer yr MSY yn yr asesiad o’r stoc sy’n weddill.

Mae gennym ddigon o dystiolaeth i allu creu procsi ar gyfer yr MSY (pysgod sy’n silio y tro cyntaf i gynhyrchu un sy’n goroesi – ‘virgin spawner per recruit’) mewn 4 ardal asesu stoc:

  • Lyme Bay
  • Gorllewin Sianel Lloegr – Môr Mawr
  • Gorllewin Sianel Lloegr – Y Glannau
  • Dwyrain Sianel Lloegr – Gogledd

Nid oes gennym ddigon o dystiolaeth i allu creu procsi ar gyfer yr MSY yn yr ardaloedd asesu stoc sy’n weddill:

  • Dwyrain Sianel Lloegr – De
  • Dogger Bank
  • Gogledd Cernyw
  • Swydd Efrog/Durham

Nid oes gennym ddigon o dystiolaeth i allu asesu MSY (neu ei gyfatebol) y stoc cregyn y brenin yng Nghymru. Mae’r FMP yn disgrifio’r camau rydym yn eu cynnig i wella’r dystiolaeth er mwyn gallu cynnal asesiadau yn y dyfodol o statws y stoc tra’n parhau i reoli’r pysgodfeydd er mwyn diogelu’r stociau.

Mesurau rheoli presennol

Nid oes cwotâu wedi’u pennu ar gyfer cregyn bylchog ac nid oes terfynau ar faint y gellid eu dal. Mae ystod o fesurau rheoli eisoes ar waith mewn perthynas â physgodfeydd cregyn y brenin i warchod stociau a’r amgylchedd. Mae mesurau rheoli presennol yng Nghymru a Lloegr yn cael eu cymhwyso ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol, a lleol trwy drwyddedu pysgodfeydd, deddfwriaeth ac is-ddeddfau. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys

  • manylebau offer technegol
  • maint cyfeirio cadwraeth lleiaf (MCRS)
  • trwyddedau cregyn y brenin gydag amodau
  • cau tymhorol i warchod stociau silio
  • cau i warchod nodweddion gwely’r môr
  • terfynau ar nifer y diwrnodau ar y môr ar gyfer llongau pysgota 15 metr a mwy o hyd sy’n pysgota mewn ardaloedd penodol – y cyfeirir atynt fel system ymdrech dyfroedd y gorllewin.

Mae’r rhan fwyaf o gregyn y brenin yn cael eu dal gan ddefnyddio llusgrwydi sbring-lwythog sy’n cael eu tynnu ar hyd gwely’r môr. Mae dulliau eraill yn cynnwys casglu â llaw trwy blymio a llusgrwydi ar drawstiau, lle mae cregyn bylchog yn cael eu dal fel sgil-ddalfa yn bennaf.

Nodau allweddol

Wrth ddatblygu’r FMP hwn, cytunwyd yn gyffredinol nad yw ymagwedd ‘un ateb i bawb’ yn briodol i bysgodfeydd cregyn y brenin o ganlyniad i amrywiaeth y fflyd Felly, mae angen rheolaeth ranbarthol, ynghyd â gwell data am rywogaethau a physgodfeydd i sicrhau cynaliadwyedd tymor hir. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â natur ddatganoledig rheoli pysgodfeydd.

Mae’r FMP hwn yn amlygu’r amcanion canlynol:

Gwella’r sylfaen dystiolaeth

Cafodd cynllun tystiolaeth ac ymchwil drafft ar gyfer cregyn y brenin ei gyhoeddi gyda’r ymgynghoriad cyhoeddus yng Ngorffennaf 2023. Mae’n disgrifio’r dystiolaeth sydd ar gael, bylchau yn y dystiolaeth a sut i lenwi’r bylchau hynny er mwyn gallu rheoli’r bysgodfa’n well. Amlygir yr angen am wella methodoleg asesu stoc, dangosyddion a phwyntiau cyfeirio ar gyfer yr holl stociau. Mae’r FMP yn crynhoi’r camau i’w cymryd yn ystod cylch cynta’r FMP ar gyfer cregyn y brenin i wella’r dystiolaeth. Bydd Defra a Llywodraeth Cymru’n diweddaru ac yn cynnal y cynllun tystiolaeth ac ymchwil gydol oes yr FMP hwn.

Nodau’r cynllun ymchwil yw adeiladu ar ymchwil a data presennol ar gyfer cregyn y brenin, er mwyn i reolaeth gael ei sbarduno gan

  • strategaethau cynaeafu sy’n dibynnu ar stoc
  • asesiadau dibynadwy’o’r stoc
  • rhaglen casglu data ac ymchwil barhaus a chyson.

Pennu mesurau rheoli cychwynnol

Mae’r FMP hwn yn amlinellu mesurau i’w cymryd yn y tymor byr i fynd i’r afael â phryderon cynaliadwyedd yn unol â’r amcan rhagofalus yn Neddf Pysgodfeydd 2020. Mae’r amcan rhagofalus yn nodi na ddylid defnyddio diffyg tystiolaeth wyddonol fel rheswm dros beidio â chyflwyno mesurau rheoli. Mae’r camau i ddatblygu mesurau rheoli cychwynnol yn cynnwys:

  • chwilio am gyfleoedd i gryfhau’r mesurau presennol i amddiffyn y stoc yn well
  • alinio’r mesurau  lle medrir, i osgoi gwahaniaethau diangen yn y mesurau ar draws ffiniau rheoli.

Creu mesurau rheoli tymor hwy

Wrth i’r sylfaen dystiolaeth a monitro effeithiolrwydd wella, gellid datblygu mesurau rheoli wedi’u targedu gan gynnwys ymchwilio a datblygu fframwaith rheoli cyffredinol sy’n seiliedig ar

  • fesurau rheoli’r allbwn sy’n seiliedig ar wyddoniaeth ar gyfer pennu terfynauar faint o bysgod gaiff ddod o’r bysgodfa
  • mesurau rheoli’r mewnbwn ar gyfer cyfyngu ar yr ymdrech bysgota

Yn ogystal â datblygu’r fframwaith rheoli, byddwn yn edrych ar y mesurau rheoli sy’n bod i wneud yn siŵr eu bod yn ateb y gofyn o dan y drefn reoli newydd. Bydd hynny’nllywio ymgynghoriadau ar y mesurau newydd i reoli pysgodfeydd cregyn y brenin. Bydd y broses o ddatblygu a gweithredu mesurau mwy penodol yn ailadroddol ac yn addasu i ganlyniadau adolygiadau.

Materion ehangach ac effeithiau amgylcheddol

Yn ogystal â’r amcan ecosystem a’r amcan newid hinsawdd yn Neddf Pysgodfeydd 2020, mae pob FMP yn dod o dan rwymedigaethau cyfreithiol ar gyfer diogelu’r amgylchedd yn:

  • Rheoliadau Cynefinoedd 2017
  • Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009
  • Rheoliadau Strategaeth Forol y Deyrnas Unedig 2010
  • datganiad polisi Egwyddorion Amgylcheddol ar gyfer Deddf yr Amgylchedd 2021.

Fel yr amlinellir yn yr adroddiad amgylcheddol sy’n cyd-fynd â’r FMP hwn – mae’r FMP ar gyfer cregyn y brenin yn cynnwys amcanion i sicrhau y deëllir yr effeithiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â physgota am gregyn y brenin. Pan ystyrir bod pysgodfeydd llusgrwydo am gregyn y brenin yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd morol, dylid cymryd camau i osgoi, unioni neu liniaru effeithiau o’r fath. Mae’r bysgodfa llusgrwydo am gregyn y brenin yn achosi tair risg amgylcheddol

  • risg i gyfanrwydd gwely’r môr
  • sgil-ddal rhywogaethau sensitif
  • sbwriel o offer pysgota.

Ar sail tystiolaeth bresennol:

  • ystyrir bod sgil-ddal rhywogaethau sensitif a sbwriel o offer pysgota yn risg isel ystyrir bod integriti gwely’r môr yn fater o risg uwch.

Gan weithio gyda rhanddeiliaid, bydd Defra yn ystyried y dystiolaeth ac yna’n datblygu argymhellion ychwanegol ynglŷn ag effeithiau posibl gweithgareddau pysgota (ochr yn ochr â gweithgareddau eraill) ar gyfanrwydd gwely’r môr a chyflwr cynefinoedd benthig. Bydd hyn yn cynnwys cyfrannu at weithredu a chydlynu’r Gweithgor Effaith Fenthig. Bydd y gwaith hwn yn ystyried effeithiau posibl gweithgareddau pysgota o fewn cyd-destun ehangach newidiadau parhaus i’r defnydd o ofod y môr ynghyd â faint o ddiogelu sydd ei angen ar yr amgylchedd er mwyn cyflawni statws amgylchedd da o dan Strategaeth Forol y Deyrnas Unedig.

Gweithredu a monitro

Bydd y camau gweithredu a’r mesurau a gynhwysir yn yr FMP hwn yn mynd trwy gam gweithredu a bydd angen dulliau priodol i’w cyflawni. Gallai dulliau o’r fath gynnwys:

  • mesurau gwirfoddol
  • amodau trwydded
  • is-ddeddfau cenedlaethol a rhanbarthol
  • offerynnau statudol.

Mae’n rhaid i’r FMP ar gyfer cregyn y brenin gael ei adolygu pan fo’n briodol a bob chwe blynedd, o leiaf. Bydd yr adolygiad ffurfiol hwn yn asesu sut mae’r FMP wedi gweithredu o ran cyflawni amcanion y Ddeddf.

Casgliad

Mae’r FMP hwn ar gyfer cregyn y brenin wedi cael ei baratoi i fodloni’r gofynion a amlinellir yn Neddf Pysgodfeydd 2020. Mae’r datganiad hwn a chynnwys y cynllun yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a amlinellir yn adran 6 y Ddeddf.

Mae’r FMP hwn wedi crynhoi mesurau rheoli presennol a’r wyddoniaeth a’r dystiolaeth sydd ar gael i asesu statws ein stociau cregyn bylchog a phennu lefel gynaliadwy o bysgota. Adeg ei gyhoeddi, roedd lefelau’r dystiolaeth yn amrywio yn ôl y stoc cregyn y brenin, gyda

  • digon o dystiolaeth ar gyfer rhai i greu procsi ar gyfer MSY
  • dim digon o dystiolaeth ar gyfer stociau eraill.

Er bod mesurau rheoli presennol yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at stociau mewn rhai ardaloedd, nid yw hyn yn wir ym mhob ardal stoc. Profyd gan  asesiadau stoc, gydag amcangyfrifon bod rhai stociau cregyn y brenin yn cael eu pysgota ar lefel uwch na’r MSY.

Mae’r FMP hwn yn dangos y bylchau mewn gwybodaeth a thystiolaeth ar gyfer sefydlu pysgodfeydd cregyn y brenin cynaliadwy. Mae’r FMP yn nodi’r polisïau a’r camau ar gyfer datblygu sylfaen o dystiolaeth ynghyd â chynnal neu gynyddu lefelau’r stociau. Mae’r amcanion rheoli a’r cynllun tystiolaeth ac ymchwil cysylltiedig yn helpu i ddangos sut i lenwi’r bylchau dros amser. Mae’r mesurau rheoli arfaethedig yn cynnig ffordd ragofalus wrth i’n tystiolaeth wella.

Dyma pwy fydd yn gyfrifol am wireddu amcanion yr FMP hwn:

  • gweithgorau
  • awdurdodau pysgota
  • llywodraethau

Nodir hyn yn y JFS a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022.

Rhagair 

Nod yr FMP hwn ar gyfer cregyn y brenin yw cynnal “Diwydiant ffyniannus a phroffidiol sy’n defnyddio adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac yn cydnabod ei gyfrifoldebau i warchod pysgodfeydd gwerthfawr cregyn y brenin yn nyfroedd Cymru a Lloegr, yr ecosystem ehangach y mae cregyn y brenin yn dibynnu arni a rhyngweithiadau pysgota eraill”.

I gyflawni hyn, bydd angen i’r sector bwyd môr cyfan (o’r rhwyd i’r plât), gan gynnwys rheolwyr pysgodfeydd, gydweithio a chroesawu technolegau newydd. Bydd hynny’n helpu’r broses gwneud penderfyniadau ar y cyd a lleihau effeithiau ar yr amgylchedd ehangach.

Lluniwyd yr FMP hwn, ar gyfer rheoli cregyn y brenin yn y tymor hir ac mae’n ffrwyth cydweithredu (trwy SICGWG) rhwng:

  • awdurdodau polisi pysgodfeydd
  • asiantaethau statudol yr amgylchedd
  • cynrychiolwyr o’r diwydiant cregyn y brenin (dalwyr a phroseswyr).

Cynhaliodd Defra a Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus hefyd oedd yn cynnwys digwyddiadau gyda rhanddeiliaid o gwmpas yr arfordir ac ar-lein i gasglu safbwyntiau i’n helpu i baratoi’r cynllun.

Mae’r cynllun hwn yn berthnasol i’r holl achosion o godi cregyn y brenin yn fasnachol gan longau pysgota yn nyfroedd Cymru a Lloegr. Sefydlwyd SICGWG fel grŵp rheoli ar y cyd ac mae’r aelodau wedi bod yn eiriolwyr cryf o blaid ymagwedd gydreoli tuag at bysgodfeydd cregyn y brenin. Mae wedi arwain y broses o ddatblygu nodau ac amcanion i symud tuag at gydreoli pysgodfeydd. Mae’r FMP ar gyfer cregyn y brenin yn gam arall allweddol ar y daith hon tuag at ymagwedd gydreoli. Bydd fersiynau o’r FMP yn y dyfodol a gweithio ar y cyd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer cregyn y brenin a’r diwydiannau sy’n gysylltiedig â’r pysgodfeydd hyn.

Mae FMPs yn cyfuno gweledigaeth tymor hir i gyflawni MSY â mesurau clir sy’n ofynnol i gyrraedd a chynnal y nod hwn. Mae mesurau rheoli a data sy’n darparu tystiolaeth o weithredu a chydymffurfio yn bodoli ar ffurf ansystematig ar y funud. Mae hyn yn golygu bod y bysgodfa’n agored i niwed, gyda risgiau ymhlyg gorbysgota, ac mae bylchau o ran yr hyn a ddeëllir am rai o’r effeithiau ar yr amgylchedd morol ehangach. Am y tro cyntaf, mae’r portffolio cyflawn o fesurau rheoli presennol ar gyfer cregyn y brenin yn cael ei ddwyn ynghyd mewn un cynllun, gyda’r holl wyddoniaeth a thystiolaeth sydd ar gael. Mae’r FMP hwn yn dangos hefyd ble mae yna fylchau yn ein gwybodaeth a beth sy’n ofynnol i lenwi’r bylchau hynny a darparu’r amddiffyniad angenrheidiol ar gyfer stociau yn awr ac yn y tymor hir.  

Strwythur FMP cregyn y brenin

Dyma rannau allweddol yr FMP hwn:

  • Cyd-destun – mae’r adran hon yn esbonio sut mae’r FMP hwn yn bodloni gofynion y Ddeddf a deddfwriaeth a pholisïau eraill ac yn disgrifio hefyd sut cafodd yr FMP hwn ei ddatblygu
  • Cwmpas FMP cregyn y brenin – mae’r adran hon yn cynnwys disgrifiad o’r bysgodfa, disgrifiad bras o’r mesurau rheoli, gwybodaeth am effaith gêr ar y bysgodfa a gwybodaeth am statws y bysgodfa
  • Nodau FMP cregyn y brenin – mae’r adran hon yn esbonio’r nodau sydd wedi’u datblygu gan SICGWG ar gyfer rheoli pysgodfeydd cregyn y brenin
  • Strategaeth rheoli pysgodfeydd – mae’r adran hon yn disgrifio’r strategaeth ar gyfer rheoli pysgodfeydd cregyn y brenin yn nyfroedd Cymru a Lloegr, gan gynnwys sut i ddefnyddio y fanyleb safon cynaeafu (HSS) i ddatblygu strategaeth gynaeafu gyda rheolau rheoli cynaeafau, y bydd modd eu haddasu er mwyn gallu rheoli’r bysgodfa mewn ffordd ymatebol. Mae’r adran hon yn disgrifio hefyd y mesurau blaenoriaeth ar gyfer rheoli’r bysgodfa, gydag amserlen ar gyfer eu datblygu
  • Rheoli a datrys risgiau amgylcheddol – mae’r adran hon yn esbonio sut y gellid delio ag ystyriaethau amgylcheddol
  • Rhoi ar waith, monitro ac adolygu – mae’r adran hon yn disgrifio sut y caiff y cynllun ei roi ar waith. Mae’n esbonio hefyd sut y byddwn yn mesur perfformiad o ran rhoi’r cynllun ar waith.

Mae’r FMP ar gyfer gregyn y brenin wedi’i lunio i fod yn ddogfen annibynnol fydd yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen i ddeall sut y caiff y pysgodfeydd cregyn y brenin o gwmpas Cymru a Lloegr eu rheoli yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r cynllun yn crynhoi’r wybodaeth berthnasol yn hytrach na rhoi’r manylion i gyd. Cafodd llawer o’r manylion gafodd eu defnyddio i baratoi’r cynllun drafft eu cyhoeddi yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yng Ngorffennaf 2023. Bydd Defra’n parhau i gasglu a chyhoeddi’r wybodaeth fydd yn sail ar gyfer rhoi’r FMP ar waith dros y blynyddoedd i ddod.

Er gwybodaeth, cafodd 7 atodiad eu cyhoeddi fel un ddogfen unigol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus 2023:

  • Datganiad tystiolaeth am gregyn y brenin sy’n nodi’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd am y bysgodfa yn nyfroedd Cymru a Lloegr
  • FMP a chynllun ymchwil cregyn y brenin sy’n disgrifio’r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi’r cynllun a chyflawni amcanion yr FMP
  • Adroddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid am FMP Cregyn y Brenin - crynodeb o’r adborth gan randdeiliaid ar yr amcanion a’r mesurau arfaethedig a gasglwyd yn ystod cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd yn hwyr yn 2022
  • Adroddiad ymgysylltu ychwanegol â rhanddeiliaid yng Nghymru - crynodeb o’r adborth gan randdeiliaid ar yr amcanion a’r mesurau arfaethedig a gasglwyd yn gynnar yn 2023
  • Cyd-destun deddfwriaethol a llywodraethu’r FMP ar gyfer cregyn y brenin
  • Sut mae cregyn y brenin yn cael eu rheoli ar hyn o bryd
  • Ystyriaethau amgylcheddol ar gyfer cregyn y brenin

Mae’r wybodaeth ar gael o hyd yng Ngofod y Dinesydd, erfyn ymgynghori ar-lein Defra.

Cafodd yr FMP hwn ei baratoi a’i gyhoeddi yn unol â gofynion y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd a’r gofynion yn adran 6 Deddf Pysgodfeydd 2020. Wrth ei baratoi, ystyriwyd:

  • Y Cynlluniau Morol oedd mewn grym (yn unol â gofynion adran 58(3) Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009)
  • Yr Egwyddorion Amgylcheddol (yn unol â gofynion adrannau 17(5)(a-e) a 19(1) Deddf yr Amgylchedd 2021)

Mae’r cynllun hwn ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Y mae wedi’i baratoi a’i gyhoeddi i gydymffurfio â dyletswydd Gweinidogion Cymru i:

  • geisio cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth a gwneud ecosystemau’n fwy cydnerth o dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016 (adran 6(1)
  • cyfrannu at y nodau llesiant ac amcanion llesiant Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (adrannau 3 – 5)

Cynllun rheoli pysgodfeydd cregyn y brenin ar gyfer dyfroedd Cymru a Lloegr

Cyd-destun

Paratowyd yr FMP ar gyfer cregyn y brenin i fodloni’r gofynion a amlinellir yn Neddf Pysgodfeydd 2020. Mae’r datganiad hwn yn cadarnhau’r rhwymedigaeth a amlinellir yn adran 6(5) y Ddeddf.

Mae’r Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd (JFS), a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022, yn amlinellu manylion ychwanegol am y polisïau y bydd yr awdurdodau pysgodfeydd yn eu dilyn i gyflawni neu gyfrannu at gyflawni 8 amcan pysgodfeydd y Ddeddf. Mae’n cynnwys:

  • rhestr o FMPs
  • nodi’r awdurdod arweiniol ar gyfer pob FMP
  • y stociau dan sylw
  • yr amserlenni cyhoeddi

Yn ogystal â bodloni gofynion y Ddeddf Pysgodfeydd, mae’r cynllun hefyd yn cefnog:

  • y broses o weithredu ymrwymiadau ehangach yn ymwneud â gwarchod yr amgylchedd morol
  • adfer bioamrywiaeth
  • mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd

Rhoddir manylion ychwanegol am ofynion y Ddeddf Pysgodfeydd, ymrwymiadau ehangach, a sut mae’r rhain yn cael eu bodloni yn y cynllun hwn, yn nogfen yr Atodiadau a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023 (gweler y Cyd-destun deddfwriaethol a llywodraethu).

Mae angen ystyried y pwysau gofodol cynyddol yn sgil newidiadau yn y ffordd y defnyddir gofod y môr a’r heriau y gall hyn eu hachosi i bysgodfeydd. Mae hynny’n cynnwys unrhyw oblygiadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol perthnasol sy’n deillio o ddadleoli posibl. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi sefydlu rhaglen blaenoriaethu gofodol morol i helpu i gefnogi ymagwedd fwy strategol tuag at reoli pwysau yn y dyfodol yn nyfroedd Lloegr. Bydd y rhaglen yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn gwerthuso tystiolaeth bresennol a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg er mwyn deall gofynion yn y dyfodol a phennu’r ffordd orau o’u rheoli. Bydd allbynnau o’r rhaglen yn llywio’r gweithredu ac adolygiadau dilynol o’r FMP, yn ogystal ag ymagwedd Defra at gynllunio morol.

Nod tymor hir

Nod tymor hir y cynllun hwn yw sicrhau bod rheolaeth ar bysgodfeydd yn y dyfodol yn adfer a chynnal stociau cregyn y brenin ar lefel MSY neu uwch neu bwynt cyfeirio tebyg. Bydd yr FMP hwn hefyd yn ystyried tystiolaeth o effeithiau’r bysgodfa ar yr amgylchedd morol ac yn amlinellu camau gweithredu i wella rheolaeth yn y dyfodol. Bydd yr FMP hwn hefyd yn amlygu bylchau yn y dystiolaeth a sut gellid mynd i’r afael â’r rhain yn ystod y 6 blynedd nesaf.  

Mae Deddf Pysgodfeydd 2020 yn cynnwys ‘amcan rhagofalus’, sy’n golygu na fydd absenoldeb tystiolaeth wyddonol yn cael ei ddefnyddio i atal gweithredu mesurau rheoli.

Mae’n rhaid i’r ymagwedd ragofalus

  • ystyried canlyniadau annymunol fel cyfyngiadau diangen ar yr ymdrech bysgota
  • darparu cynlluniau wrth gefn er mwyn osgoi neu liniaru canlyniadau o’r fath.

Ceir rhagor o fanylion am yr ymagwedd ragofalus yn nogfen yr Atodiadau a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023 (gweler y Cyd-destun deddfwriaethol a llywodraethu.

Bydd yr FMP hwn yn defnyddio ymagwedd seiliedig ar dystiolaeth, gan ddatblygu a gweithredu mesurau rheoli yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael. Er hynny, bydd hefyd yn amlygu bylchau mewn tystiolaeth ac yn manylu ar sut yr eir i’r afael â’r rhain. Ceir cynllun tystiolaeth ac ymchwil, i gefnogi’r broses o gyflawni’r FMP hwn yn nogfen yr Atodiadau a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023 (gweler y Cynllun Ymchwil). Caiff y cynllun ymchwil a thystiolaeth ei ddiweddaru gydol oes yr FMP hwn.

Datblygu’r FMP

Cafodd yr FMP hwn ei baratoi ar ran Defra a Llywodraeth Cymru trwy SICGWG. Mae’r grŵp hwn yn dwyn ynghyd diwydiant, rheoleiddwyr, llunwyr polisïau ac ymchwilwyr i weithio tuag at gyflawni nodau’r FMP.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses, ynghyd â rolau a chyfrifoldebau grwpiau allweddol sy’n ymwneud â’r FMP cregyn y brenin, ar gael yn nogfen yr Atodiadau a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023 (gweler y Cyd-destun deddfwriaethol a llywodraethu).

Datblygodd Seafish, ar ran SICGWG, gyfres o ddigwyddiadau i ymgysylltu â rhanddeiliaid oedd â diddordeb ac i lywio datblygiad yr FMP. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru sesiynau ymgysylltu pellach yng Nghymru i sicrhau bod yr holl bysgotwyr yn cael cyfle i ymateb i’r amcanion a’r cynigion rheoli. Ceir disgrifiad o’r ymgysylltu hwn a gyfrannodd at yr FMP drafft yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023 (gweler adroddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r adroddiad ar yr ymgysylltu pellach yng Nghymru).

Cynhaliodd Defra a Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar yr FMP drafft yng Ngorffennaf 2023 yn unol â’r gofynion yn Atodlen 1 o Ran 3 o’r Ddeddf. Mae’r fersiwn 1 hon o’r FMP wedi nodi’r ymatebion a gafwyd yn yr ymgynghoriad hwnnw.

Cwmpas yr FMP cregyn y brenin a statws y bysgodfa cregyn bylchog

Rhywogaethau

Mae’r FMP hwn yn berthnasol i bysgodfeydd cregyn y brenin (Pecten maximus) yn nyfroedd Cymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys unrhyw weithgarwch o unrhyw long bysgota yn nyfroedd Cymru a Lloegr. Mae’n rhaid i unrhyw fesurau a fabwysiedir yn unol â’r cynllun hwn fod yn gyson â gofynion y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA) rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig gan gynnwys, yn arbennig, Erthygl 496. Mae hwn yn gofyn am fesurau rheoli pysgodfeydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sy’n gymesur ac sydd ddim yn gwahaniaethu yn erbyn y naill na’r llall. Rhaid iddynt fod yn gyson ag unrhyw benderfyniadau perthnasol a wneir trwy’r Pwyllgor Arbenigol ar gyfer Pysgodfeydd (SCF), fel mabwysiadu unrhyw strategaethau aml-flwyddyn (MYSts) ar gyfer stociau heb gwota a rennir.

Disgrifiad o’r bysgodfa

Rhywogaeth arfordirol yw cregyn y brenin sy’n ffafrio gwaddodion cymysg sy’n cynnwys tywod mwdlyd, graean tywodlyd, neu raean. Mae’r pysgodfeydd cregyn y brenin sydd dan sylw yn yr FMP hwn yn bodoli yn ardaloedd Cyngor Rhyngwladol Archwilio’r Môr (ICES):

  • 4b ac c (Môr y Gogledd)
  • 7a (Môr Iwerddon)
  • 7d-h (y Sianel a’r Môr Celtaidd).

Mae’r bysgodfa cregyn y brenin yn cael ei thargedu’n bennaf gan longau dros 10 metr, sy’n pysgota gan fwyaf â llusgrwydi. Roedd y glaniadau a adroddwyd gan longau dros 10 metr

  • wedi cynyddu rhwng 2016 a 2019, 2017 i 2019
  • aros yn sefydlog rhwng 2017 a 2019, ac yna gostwng oddeutu 8% rhwng 2019 a 2020.

Mae glaniadau gan longau llai na 10 metr yn awgrymu dirywiad graddol ar hyd yr un cyfnod o 6 blynedd, heblaw am 2017.  

Mae cregyn y brenin hefyd yn cael eu pysgota gan helwyr llaw masnachol a hamdden yn nyfroedd Lloegr. Fodd bynnag, mae data am helwyr llaw yn Lloegr yn gyfyngedig ac ystyrir bod hwn yn faes y bydd yr FMP yn ceisio mynd i’r afael ag ef. Ceir rhagor o wybodaeth am nodweddion y bysgodfa a’r fflyd, gan gynnwys offer pysgota a ddefnyddir, yn nogfen yr Atodiadau a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023 (gweler y Datganiad Tystiolaeth).

Mesurau rheoli pysgodfeydd

Mae ein pysgodfeydd cregyn y brenin yn cael eu rheoleiddio gan ystod o fesurau rheoli ar hyn o bryd  gan gynnwys:

  • MCRS
  • mesurau technegol
  • tymhorau caeëdig a system ymdrech dyfroedd y gorllewin
  • cyfyngu ar nifer y diwrnodau ar y môr a’r ymdrech mewn perthynas â physgodfeydd cregyn y brenin mewn ardaloedd penodol.

Mae’r mesurau rheoli presennol[footnote 1] yn darparu sylfaen dda y bydd yr FMP hwn yn adeiladu arni i sicrhau bod rheolaeth pysgodfeydd cregyn y brenin yn y dyfodol yn effeithiol ac yn helpu i gyflawni nodau’r FMP.

Rhyngweithio rhwng offer

Gall offer ‘sefydlog’ neu ‘statig’, hynny yw offer sy’n sownd a sydd ddim yn gallu symud, fel cewyll a rhwydi sefydlog, wrthdaro ag offer pysgota ‘symudol’ sy’n cael ei lusgo, pan fyddant yn rhannu’r un ardal bysgota. Gall y rhyngweithio hwnnw arwain at ddifrodi neu golli offer ac felly at golledion o ran arian ac amser pysgota i’r diwydiant ac at gynyddu’r risg i stociau a chynefinoedd. Wrth i’r defnydd o amgylchedd y môr gynyddu, felly hefyd y bydd y rhyngweithio ag ofer.

Mae’r FMP hwn yn cydnabod bod angen deall y rhyngweithio rhwng gwahanol fathau o offer a lle medrir, bod angen cyfyngu ar y rhyngweithio hwnnw, gan gynnwys y gwrthdaro pan symudir gweithgarwch pysgota. Fel y dywedir yn nod 7 sy’n ymwneud â rhywogaethau penodol, byddwn yn annog y sector cregyn bylchog a defnyddwyr eraill y môr, yn enwedig y sector offer sefydlog, i gyfathrebu ac yn ymgysylltu’n adeiladol â’i gilydd. Bwriad y cyfathrebu hwn fydd datblygu mesurau fel:

  • cod arfer da er mwyn osgoi offer
  • cadw cofrestr gyfoes o offer sefydlog
  • parthau lle ceir cyfyngiadau dros dro a thymhorol ar offer
  • rheoli parthau er mwyn i’r sector treillrwydo cregyn bylchog a’r sector offer sefydlog weithio’r un darn o’r môr ar adegau gwahanol o’r flwyddyn, os gwelir bod angen

Wrth i ddulliau rheoli gael eu datblygu, gan gynnwys wrth lunio FMPs eraill, caiff lefel y symud ac effaith hynny ei ystyried a’i asesu, er mwyn cadw’r symud a’i effeithiau mor fach â phosibl.

Statws presennol y bysgodfa 

Mae’r dystiolaeth i gefnogi datblygiad yr FMP ar gyfer cregyn y brenin yn dod o asesiadau stoc blynyddol a gynhaliwyd gan Cefas ers 2017. Cyhoeddwyd yr asesiad stoc blynyddol diweddaraf ar gyfer Cymru yn 2019. 

Mae asesiadau stoc cregyn bylchog yn y Sianel, y Môr Celtaidd a Môr y Gogledd yn cael eu cynnal ar wahân gan Ffrainc a Lloegr ar eu daliadau data eu hunain. Cyflwynir canlyniadau’r asesiadau hyn i weithgor cregyn bylchog ICES. Fodd bynnag, ers 2022, nid oes unrhyw asesiadau stoc ICES yn cael eu cynnal ar gyfer stociau cregyn y brenin yn nyfroedd y Deyrnas Unedig.

Mae lefelau’r dystiolaeth yn amrywio, yn ôl y stoc cregyn y brenin. Mae digon o dystiolaeth o bedair ardal asesu stoc (Lyme Bay, Gorllewin Sianel Lloegr – y Môr Mawr, Gorllewin Sianel Lloegr – y Glannau, Dwyrain Sianel Lloegr – Gogledd) i allu creu procsi i’r MSY (pysgod sy’n silio y tro cyntaf i gynhyrchu un sy’n goroesi). Ar gyfer yr ardaloedd asesu stoc sy’n weddill (Dwyrain Sianel Lloegr – De, Dogger Bank, Gogledd Cernyw, Swydd Efrog/Durham), nid oes digon i dystiolaeth i allu creu procsi i’r MSY. Ar hyn o bryd, nid oes digon o dystiolaeth i asesu MSY (neu ei gyfatebol) y stoc cregyn y brenin yng Nghymru.

Mae asesiadau’n amcangyfrif bod rhai stociau cregyn bylchog yn cael eu pysgota ar lefel uwch nag MSY. Yn ogystal â’r cynigion rheoli sydd wedi’u cynnwys yn yr FMP hwn i sicrhau bod stociau’n cael eu pysgota’n fwy cynaliadwy, mae Defra a Llywodraeth Cymru’n cymryd camau i wella’r data sydd ar gael i fwydo’r asesiadau stoc. Mae hyn yn cynnwys pethau fel dealltwriaeth well o effeithlonrwydd offer pysgota, nodi uned stoc optimaidd a sut mae’r ffactorau hyn yn effeithio ar asesu statws stoc mewn perthynas â phwyntiau cyfeirio sy’n rhoi safon i ni ar gyfer cymharu statws stociau. Mae statws y stoc cregyn y brenin yng Nghymru yn anhysbys o hyd. Fodd bynnag, gan fod data cyfres amser hwy ar gael bellach, mae gwaith parhaus gan Brifysgol Bangor yn ymchwilio i b’un a ellir datblygu modelau asesu ymhellach. 

Ceir rhagor o wybodaeth am asesiadau stoc, casglu data a bylchau tystiolaeth yn nogfen yr Atodiadau a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023 (gweler y Datganiad Tystiolaeth). 

Disgrifiad o amcanion y cynllun rheoli pysgodfeydd

Beth mae angen ei wneud i gyflawni’r amcanion hyn?

Mae’r amcanion canlynol yn cefnogi nod yr FMP o gyfrannu at bysgodfa cregyn y brenin yn y DU sy’n gynaliadwy ac yn cael ei rheoli’n dda:

  • amcan 1:  Cyflawni cynaliadwyedd biolegol, cymdeithasol ac economaidd
  • amcan 2:  Datblygu rheolaeth effeithiol ar yr holl bysgodfeydd yng Nghymru a Lloegr mewn perthynas â’r holl bysgota cregyn y brenin trwy bob dull, a bydd y mesurau rheoli sydd ar waith yn berthnasol i’r holl longau sy’n pysgota yn nyfroedd Cymru a Lloegr
  • amcan 3:  Sicrhau rheolaeth effeithiol sy’n cyfrannu at ymarferoldeb ecosystemau

Figure 1: flowchart showing the overarching goals the king scallop FMP objectives will help to achieve

Ffigur 1 – Siart lif sy’n dangos y nodau trosfwaol y bydd amcanion yr FMP cregyn y brenin yn helpu i’w cyflawni

Disgrifiad ffigur 1: siart llif sy’n dangos nod cyffredinol FMP cregyn y brenin, a’r 3 amcan a fydd yn cefnogi hyn, fel y disgrifir ar ddechrau’r adran hon.

Amcanion rheoli penodol cregyn y brenin

Disgrifir yr amcanion cregyn y brenin ar gyfer pysgodfeydd yn nyfroedd Cymru a Lloegr yn yr adran hon, gan gynnwys:

  • y sail resymegol i bob amcan
  • y gweithgareddau a fydd yn helpu i’w gyflawni
  • sut mae’n cysylltu â’r amcanion yn Neddf Pysgodfeydd 2020

Mae rhai o amcanion yr FMP yn mynd y tu hwnt i Ddeddf Pysgodfeydd 2020 ac yn cysylltu ag ymrwymiadau deddfwriaethol a pholisi ehangach. Mae’r amcanion hyn yn adlewyrchu blaenoriaethau’r diwydiant a’r awydd i gynnal pysgodfeydd pysgod cregyn amgylcheddol gynaliadwy. Maent yn parhau i ddarparu buddion economaidd-gymdeithasol i gymunedau a’r gadwyn gyflenwi ehangach.

Lluniwyd yr amcanion hyn i fynd i’r afael â materion rheoli pysgodfeydd allweddol sy’n wynebu pysgodfeydd cregyn y brenin yn nyfroedd Cymru a Lloegr. Datblygwyd yr amcanion rheoli ar gyfer pysgodfeydd cregyn y brenin ar y cyd â SICGWG ac maen nhw’n adlewyrchu adborth a gafwyd yn ystod digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae’r cynllun tystiolaeth ac ymchwil yn amlinellu sut bydd y gofynion tystiolaeth i gefnogi’r broses o gyflawni’r amcanion hyn yn cael eu bodloni[footnote 2].

Mae’r amcanion sy’n ymwneud yn benodol â rheoli pysgodfeydd cregyn y brenin yn nyfroedd Cymru a Lloegr yn canolbwyntio ar gasglu data, asesu ac, yn eu tro, gofynion rheoli’r pysgodfeydd hyn. Maen nhw hefyd yn canolbwyntio ar addasu i’r newid yn yr hinsawdd a lliniaru ei effeithiau a sicrhau y deëllir yr effeithiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â physgota am gregyn bylchog. Pan ystyrir bod y pysgodfeydd hyn yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd morol, amlygir amcanion i osgoi, unioni, neu liniaru effaith o’r fath.

Pan gytunir ar gamau gweithredu, bydd grwpiau diwydiant, awdurdodau pysgodfeydd a’r llywodraeth yn gyfrifol am gyflawni’r amcanion hyn. Bydd angen blaenoriaethu’ i gefnogi cynnydd yr FMP fesul cam tuag at gyflawni amcanion y Ddeddf Pysgodfeydd.

1. Datblygu sylfaen o dystiolaeth wyddonol ar gyfer datblygu strategaethau cynaeafu a rheolau rheoli’r cynhaeaf ar gyfer stocio unigol o gregyn y brenin

Sail rhesymegol

Bydd data gwell yn golygu rheolaeth well ar y pysgodfeydd wrth i wyddonwyr, rheoleiddwyr, rheolwyr a’r diwydiant allu cael at y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar y dystiolaeth. O gael data gwell, gallwn droi oddi wrth reoli rhagofalus. Bydd hynny yn ein helpu i wireddu’r amcan cynaliadwyedd a ddisgrifir yn Neddf Pysgodfeydd 2020.

Gweithredoedd

Cefnogi cyfres tymor hir o ddata sy’n addas ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn gynaliadwy fydd wedi’u datblygu ar y cyd â rhanddeiliaid. Bydd rhanddeiliaid yn ymddiried yn y data hyn.

Ystyried pecynnau ariannu posibl i gynnal asesiadau stoc, trwy gyfuniad o ffrydiau ariannu o dan y diwydiant (trwy ardoll wyddoniaeth ar y diwydiant), y llywodraeth ac eraill.

Nodi bylchau yn yr wybodaeth a’r angen am dystiolaeth e.e. ble mae’r larfa yn gwreiddio a chysylltedd larfa ag ardaloedd stociau eraill.

Datblygu cynllun ymchwil i dystiolaeth i lenwi bylchau yn y dystiolaeth a chytuno arno.

Annog a chefnogi arolwg o ffiniau stociau’r DU, ar sail tystiolaeth fiolegol.

Annog rhagor o fuddsoddi i ddatblygu tystiolaeth sydd ei hangen i allu gwneud penderfyniadau rheoli priodol.

Annog a chefnogi sefydlu pwyntiau cyfeirio o ran marwoldeb naturiol a thrwy bysgota ar gyfer cregyn bylchog y DU lle nad oes rhai yn bod.

Chwilio am ragor o dystiolaeth am effeithiau ehangach y bysgodfa cregyn y brenin ar amgylchedd y môr, gan gynnwys ar gynefinoedd dyfnfor, er mwyn lleihau’r risgiau i integriti gwely’r môr ac i sicrhau statws amgylcheddol da (GES).

Amcanion perthnasol Deddf Pysgodfeydd 2020

  • Amcan gwyddonol

2. Datblygu strategaethau cynaeafu a rheolau rheoli’r cynhaeaf (HCR) i sicrhau bod yr ymdrech bysgota’n ymateb i statws y stoc trwy ddatblygu mesurau priodol ar gyfer rheoli pysgodfeydd

Sail rhesymegol

Mae alinio’r ymdrech bysgota â statws y stoc yn hanfodol i allu rheoli pysgodfeydd yn gynaliadwy. Gwneir hynny trwy sicrhau nad yw’r pwysau ar y stoc yn fwy na gallu’r stoc i atgenhedlu.

Gweithredoedd

Datblygu mesurau rheoli pysgodfeydd sy’n ymateb i signalau a thueddiadau yn lefel y stoc.

Ystyried un neu fwy o’r canlynol:

  • Fframwaith rheoli sy’n seiliedig ar:
    • reoli mewnbynnau
    • rheoli allbynnau
  • Mesurau rheoli i ategu’r fframwaith:
    • cau ardaloedd penodol, e.e. i warchod stociau silio, a/ neu wely’r môr yn ystod y cam gwreiddio
    • pan fydd buddion yn gysylltiedig â gwneud hynny (amgylcheddol, cymdeithasol neu economaidd), dylid ystyried alinio mesurau, ar draws ffiniau rheoli lle y bo’n briodol

Ystyrir bod datblygu pwyntiau cyfeirio terfyn a tharged yn ôl stoc yn angenrheidiol i reoli pysgodfeydd yn gynaliadwy.

Amcanion perthnasol Deddf Pysgodfeydd 2020

  • amcan cynaliadwyedd
  • amcan tystiolaeth wyddonol
  • amcan ecosystem
  • amcan rhagofalus
  • amcan mynediad cyfartal
  • amcan sgil-ddalfa
  • amcan budd cenedlaethol

3. Osgoi’r risg o orbysgota ar yr un pryd â sefydlu’r amodau sy’n angenrheidiol i ganiatáu ar gyfer datblygu a chyflwyno mesurau rheoli effeithiol (HCRs)

Sail resymegol

Asesu effaith yr ymdrech bysgota (gan gynnwys capasiti cudd) ar gynaliadwyedd stoc ac, os oes angen, argymell mesurau priodol i reoli’r ymdrech.

Gweithredoedd

Asesu effaith debygol yr ymdrech bysgota (gan gynnwys capasiti cudd) ar bwysau pysgota a chynaliadwyedd stoc ac ystyried mesurau i reoli risg pwysau pysgota uwch ar gynaliadwyedd stoc. 

Ystyried un neu fwy o’r canlynol: 

  • Cyflwyno rheoleiddio priodol ar gyfer y sector cregyn bylchog â llongau o dan 15m
  • Ar hyn o bryd, nid oes rhwystr rheoleiddiol rhag twf y sector o dan 10m ac mae rhwystr rheoleiddiol cyfyngedig rhag twf y sector o dan 15m (er gwaetha’r ffaith y gwelwyd y twf mwyaf hyd yma yn y sector 10-15m). Mae’n bosibl y gallai twf annisgwyl y sector o dan 15m danseilio penderfyniadau rheoli yn y dyfodol
  • Ystyried p’un a oes angen ‘rhewi’ trwyddedau cregyn bylchog dros 10m cudd a’r dull/ meini prawf priodol y gellid eu cymhwyso – gan gynnwys ymagwedd sefydledig ar gyfer rhyddhau hawliau ‘wedi’u rhewi’ os bydd tystiolaeth wyddonol yn cefnogi hyn
  • Datblygu cafaetau penodol i sicrhau nad yw newydd-ddyfodiaid dilys yn cael eu hatal rhag ymuno â physgodfa
  • Annog holl weinyddiaethau’r Deyrnas Unedig i adolygu capasiti cudd yn gyfnodol ar draws fflyd y Deyrnas Unedig

Amcanion perthnasol Deddf Pysgodfeydd 2020

  • amcan cynaliadwyedd
  • amcan ecosystem
  • amcan rhagofalus
  • amcan mynediad cyfartal

4. Ceisio cyfleoedd i alinio mesurau (lle y bo’n briodol), fel y gofyn am offer, diogelu stociau ac osgoi gwahaniaethau diangen mewn mesurau sy’n gymwys ar draws ffiniau rheoli gweinyddol 

Sail rhesymegol

Lleihau beichiau ariannol ar y diwydiant yn ogystal â lleihau dadleoli ymdrech ymhellach sy’n effeithio ar stociau cregyn bylchog hygyrch sy’n weddill.

Gweithredoedd

Diffinio rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer cyflawni FMPs pob gwlad i sicrhau ymagwedd gydlynol o amgylch y Deyrnas Unedig, lle bo’n briodol.

Asesu buddion (amgylcheddol, cymdeithasol neu economaidd) alinio ymagweddau/mesurau rheoli.

Hyrwyddo ymgysylltiad effeithiol â’r holl awdurdodau polisi pysgodfeydd trwy grwpiau rheoli unigol.

Adolygu mesurau presennol ar draws pob ardal.

Datblygu proses cynllunio gofodol i ystyried stociau cregyn bylchog hygyrch.

Amcanion perthnasol Deddf Pysgodfeydd 2020

  • amcan mynediad cyfartal

5. Asesu’r rhyngweithiau â’r amgylchedd morol ac effeithiau posibl sy’n gysylltiedig â physgodfeydd cregyn bylchog a datblygu cynllun gweithredu sy’n amlinellu mesurau priodol i leihau effeithiau niweidiol

Sail rhesymegol

Bydd dealltwriaeth well o ryngweithiau amgylcheddol ehangach gweithgareddau pysgota am gregyn bylchog, yn enwedig:

  • ôl troed y bysgodfa, yn caniatáu ar gyfer rheoli’n fwy cynaliadwy
  • helpu i gyrraedd statws GES
  • mabwysiadu arfer gorau
  • gwella enw da’r diwydiant

Gweithredoedd

Gwella dealltwriaeth o’r effaith y mae llongau cregyn y brenin y Deyrnas Unedig yn ei chael ar yr amgylchedd morol (gan gynnwys gwely’r môr, gweoedd bwyd, rhywogaethau masnachol eraill, Carbon Glas, allyriadau CO2, sbwriel y môr) trwy astudiaethau ar y cyd. 

Nodi rhwystrau ac atebion ymarferol i leihau ôl troed amgylcheddol y sector cregyn bylchog ar yr un pryd ag ystyried cynaliadwyedd economaidd.

Parhau â chamau tuag at stiwardiaeth, dros y tymor hwy, i sicrhau cydymffurfedd â Strategaeth Forol y Deyrnas Unedig a dilyn mesurau rheoli Ardal Forol Warchodedig (MPA) ac Ardal Forol Hynod Warchodedig (HPMA).

Datblygu cynllun i ddarparu data gofodol cyfunol i ategu MPA sy’n seiliedig ar dystiolaeth a rheoli ecosystemau ar gyfer pob sector (gan gydnabod materion cyfrinachedd posibl). 

Amcanion perthnasol Deddf Pysgodfeydd 2020

  • amcan ecosystem
  • amcan tystiolaeth wyddonol
  • amcan rhagofalus
  • amcan cynaliadwyedd

6. Archwilio ffyrdd o fynd i’r afael â defnydd aneffeithiol o offer a mathau eraill o aneffeithlonrwydd sy’n bodoli ar hyn o bryd mewn pysgodfeydd cregyn y brenin er mwyn lleihau effeithiau amgylcheddol

Sail rhesymegol

Mae’r manylebau technegol presennol ar gyfer offer pysgota am gregyn bylchog yn cael eu pennu mewn rheoliadau cenedlaethol a lleol. Mae’r diffyg hyblygrwydd hwn wedi cael ei nodi fel rhwystr allweddol sy’n atal y diwydiant a’r gymuned ymchwil rhag archwilio ffyrdd o leihau effeithiau amgylcheddol ac allyriadau CO2 yn eu gweithrediadau pysgota masnachol ac astudiaethau ymchwil.

Gweithredoedd

Adolygu’r mesurau technegol a’r polisïau trosfwaol (e.e. trwyddedu) presennol sy’n effeithio ar y diwydiant cregyn y brenin.

Nodi cyfyngiadau allweddol yn y rheolau presennol sy’n rhwystro arloesi ar gyfer gwelliannau amgylcheddol yn niwydiant cregyn y brenin y Deyrnas Unedig. 

Archwilio newidiadau sy’n cefnogi arloesedd sy’n arwain at arferion mwy amgylcheddol gynaliadwy, gan leihau effeithiau amgylcheddol ar wely’r môr, amserau pysgota, ôl troed y bysgodfa ac allyriadau CO2 ar yr un pryd ag ystyried hyfywedd economaidd y sector cregyn bylchog.

Hwyluso’r broses o ddatblygu offer cregyn bylchog amgen er mwyn lleihau effeithiau amgylcheddol ar yr amgylchedd morol, gan gynnwys cefnogi defnyddio gollyngiadau ar gyfer astudiaethau academaidd i ddatblygu tystiolaeth o’u heffeithiolrwydd.

Ystyried law yn llaw â mesurau rheoli addas i atal gorbysgota stociau gydag offer mwy effeithlon yn gweithredu o fewn strategaeth gynaeafu gynaliadwy a reolir yn dda. 

Amcanion perthnasol Deddf Pysgodfeydd 2020

  • amcan newid hinsawdd
  • amcan ecosystem
  • amcan sgil-ddalfa

7. Ystyried effeithiau newidiadau i ddefnydd gofodol morol, gan gynnwys effaith bosibl llongau cregyn bylchog nomadig mwy o faint y Deyrnas Unedig, ar bysgodfeydd cregyn brenin y Deyrnas Unedig o safbwynt amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol

Sail rhesymegol

Mae o ddadleoli ar yr ymdrech cregyn bylchog oherwydd:

  • natur nomadig iawn llongau cregyn bylchog mwy o faint y Deyrnas Unedig
  • colli meysydd pysgota o ganlyniad i ynni adnewyddadwy
  • rheoliadau pysgodfeydd, mesurau rheoli MPA a, lle y bo’n berthnasol, HMPA
  • gwrthdaro o ran offer
  • tunelleddau TCA, yn cael effaith negyddol ar stociau hygyrch sy’n weddill

Mae cynnal ymgysylltiad a chyfathrebu adeiladol rhwng sector cregyn bylchog y Deyrnas Unedig a defnyddwyr eraill posibl y môr yn sicrhau bod effeithiau cyffredinol (economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol) dadleoli ymdrechion pysgota cregyn bylchog yn fach.

Gweithredoedd

Mae’r canlynol yn gamau gweithredu posibl i’w harchwilio ymhellach gan awdurdodau sy’n gweithio gyda SICG, grwpiau cynghori yng Nghymru a grwpiau rheoli a rhanddeiliaid eraill.

Cynnal adolygiad desg o’r defnydd presennol o le morol a’r defnydd arfaethedig ohono yn y dyfodol.

Sicrhau bod allbynnau’r FMP cregyn y brenin yn bwydo i’r Rhaglen Blaenoriaethu Gofodol Morol (MSP) draws-lywodraethol er mwyn cysylltu â’r defnydd presennol o le morol a’r defnydd arfaethedig ohono yn y dyfodol yn nyfroedd Lloegr.

Annog ymgysylltu rhagweithiol a chynhwysol â’r sector cregyn y brenin wrth ddatblygu mesurau rheoli o fewn MPAs neu HPMAs, ynni adnewyddadwy alltraeth.

Nodi a mynd i’r afael â bylchau mewn tystiolaeth i sicrhau bod gan y sector cregyn bylchog y data, y dystiolaeth, y naratif a’r dulliau priodol i ymgysylltu â rheoleiddwyr a defnyddwyr posibl y môr ynglŷn â chynllunio gofodol morol (gan fwydo i’r rhaglen MSP yn Lloegr) a materion mynediad (yn gysylltiedig â chynllun ymchwil yr FMP).

Gwella’r ddealltwriaeth o opsiynau ymgysylltu i sicrhau bod y sector cregyn y brenin yn gallu rhoi mewnbwn ynglŷn â materion gofodol.

Datblygu cynllun i ddarparu data gofodol cyfunedig i gefnogi MPA/ rheoli ecosystemau ar gyfer pob sector, e.e. Monitro Electronig o Bell (REM) (gan gydnabod materion cyfrinachedd posibl).

Mynd i’r afael â newidiadau i ddefnydd gofodol morol trwy ddefnyddio gwybodaeth sydd ar gael am batrymau presennol gweithgarwch pysgota am gregyn bylchog, amlygu a threialu ‘ardaloedd pysgota am gregyn bylchog’, sbardunwyr deddfwriaethol cystadleuaeth am le morol, a chyfleoedd i leihau gwrthdaro gofodol i’r eithaf â sectorau pysgota eraill a dynodiadau amgylcheddol.

Er mwyn osgoi gwrthdaro o ran offer â sectorau pysgota eraill:

  • sefydlu a chynnal cyfathrebu da â’r sector offer sefydlog
  • datblygu cod arfer da ar gyfer osgoi gwrthdaro o ran offer
  • cynnal cofrestr gyfredol o barthau offer cyfyngedig parhaol, tymhorol a dros dro
  • ystyried datblygu rheolaeth fesul parth i ganiatáu i’r sectorau llusgrwydo am gregyn bylchog ac offer sefydlog weithio’r un meysydd ar adegau gwahanol o’r flwyddyn, os ystyrir bod angen.

Amcanion perthnasol Deddf Pysgodfeydd 2020

  • amcan newid hinsawdd
  • amcan ecosystem
  • amcan cynaliadwyedd

8. Datblygu mesurau lliniaru ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd ar gyfer pysgodfeydd cregyn bylchog y Deyrnas Unedig

Sail rhesymegol

Cydymffurfio â’r Amcan Newid yn yr Hinsawdd yn y Ddeddf Pysgodfeydd.

Gweithredoedd

Gwella’r ddealltwriaeth o’r effaith y mae llongau cregyn y brenin yn ei chael ar yr amgylchedd morol (gan gynnwys gwely’r môr, Carbon Glas, allyriadau CO2) trwy astudiaethau ar y cyd.

Diwydiant a’r llywodraeth i ystyried lleihau allyriadau CO2 cyffredinol trwy bysgota deallus, lleihau allyriadau tanwydd, chwilota, amserau pysgota, offer mwy effeithlon a gosod cyfyngiadau ar ymdrech.

Defnyddio/datblygu mapiau mannau problemus o ran carbon a “llochesau” hinsawdd i amlygu a lleihau gorgyffyrddiad posibl ag ôl troed pysgota am gregyn bylchog. 

Datblygu dealltwriaeth o effeithiau tebygol y newid yn yr hinsawdd ar statws cregyn bylchog (yn ogystal â chysylltiadau ag ecosystemau) a physgodfeydd i lywio rheolaeth addasol a chynaliadwyedd tymor hir ar gyfer yr amgylchedd a’r diwydiant.

Amcanion perthnasol Deddf Pysgodfeydd 2020

  • amcan newid hinsawdd

Strategaeth rheoli pysgodfeydd

Strategaeth gynaeafu

Mae’r FMP ar gyfer cregyn y brenin yn gosod cynllun ar gyfer rheoli’r pysgodfeydd hyn yn gynaliadwy yn y tymor hir. Mae’r adran hon yn manylu ar y dull rheoli arfaethedig ar gyfer cregyn y brenin.

Gan ddibynnu ar eu nodweddion, mae’n bosib y bydd angen strategaethau cynaeafu gwahanol ar stociau neu ranbarthau cregyn y brenin unigol. Byddant yn rhestru’r camau rheoli sydd eu hangen i gynnal neu adfer y stoc at lefel MSY. O’u cymryd gyda’i gilydd, caiff y strategaethau cynaeafu eu defnyddio i gyflawni amcanion yr FMP hwn.

Mae Strategaethau cynaeafu’n gyfuniad o:

  • fonitro
  • asesu stoc
  • HCRs
  • camau rheoli sy’n ofynnol i reoli pysgodfa’n gynaliadwy.

Bydd pob strategaeth gynaeafu’n pennu proses ar gyfer:

  • cynnal asesiadau (gweler Atodiad 1 ar gyfer manylion am asesiadau stoc)
  • monitro priodoleddau biolegol ac economaidd pysgodfa
  • pennu rheolau (fel HCRs) sy’n rheoli’r ymdrech bysgota.

Dylai pob strategaeth gynaeafu fod yn:

  • bragmatig
  • yn gost effeithiol
  • yn dryloyw
  • yn hawdd ei deall
  • yn hawdd ei haddasu (yn gallu newid wrth i fwy o wybodaeth ddod ar gael).

Egwyddorion allweddol strategaethau cynaeafu cregyn y brenin yw:

  • bydd pob strategaeth yn ymatebol i gyflwr y stoc(iau)
  • byddant yn glir ac yn benodol i’r bysgodfa, wedi’u teilwra i anghenion y pysgodfeydd cregyn y brenin
  • byddant yn cael eu diweddaru, fel y bo’n briodol, i fodloni’r amcanion rheoli, yn unol â llinellau amser yr FMP
  • bydd data biolegol, cymdeithasol ac economaidd yn cael eu hystyried wrth ddatblygu a gweithredu dulliau a mesurau
  • pan fyddant ar waith, bydd angen eu monitro a’u gwerthuso yn y dyfodol i sicrhau eu bod yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir gan yr FMP

Bydd y strategaeth gynaeafu a HCRs yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael eu llywio gan enghreifftiau o arfer gorau yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang. Byddant yn seiliedig ar fewnbwn rhanddeiliaid, gan gynnwys SICGWG a rhanddeiliaid priodol yng Nghymru, ymgysylltu’n anffurfiol â rhanddeiliaid ac ymgynghori cyhoeddus. Trwy’r FMP, bydd HCRs yn cael eu dylunio a’u gweithredu i gynnal marwoldeb pysgota o fewn lefelau cynaliadwy ac ystyried effeithiau eilaidd ar yr amgylchedd. Cydnabyddir nad yw lleihau marwoldeb pysgota ar ei ben ei hun yn ddigon i sicrhau cynaliadwyedd a bod rhaid iddo gael ei ystyried o fewn system ehangach.

Ar ôl cyhoeddi’r FMP, bydd fframwaith rheoli a mesurau i gyflawni MSY neu gyfwerth yn cael eu datblygu gyda rhanddeiliaid. Bydd y fanyleb safon cynaeafu (HSS) yn llywio’r broses hon. Caiff gwahanol elfennau’r strategaeth reoli a chynaeafu eu dylunio i helpu i gyflawni nod yr FMP (amcan 2). Bydd mesurau lefel stoc yn cael eu datblygu mewn perthynas â strategaethau cynaeafu ac unrhyw reolau rheoli cynaeafu cytunedig i adfer stociau i lefelau cynaliadwy neu eu cynnal ar lefelau cynaliadwy.

Dulliau rheoli

Ystyriaethau wrth ddatblygu dulliau rheoli

Yr egwyddorion trosfwaol sy’n seiliedig ar adborth a gafwyd mewn digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid yw:   

  • dylai mesurau gael eu seilio ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael a bod yn ymatebol i amrywiadau mewn biomas stoc
  • mae’n rhaid i HCRs fod yn ymatebol i statws stoc a thystiolaeth wyddonol sy’n dod i’r amlwg/ data pysgodfa
  • dylai’r egwyddorion fod yn berthnasol i’r holl bysgota masnachol am gregyn y brenin gan yr holl longau pysgota sy’n pysgota yn nyfroedd Cymru a Lloegr
  • dylai’r mesurau gael eu datblygu a’u cyflawni gan ddefnyddio stiwardiaeth y diwydiant
  • dylai gofynion offer presennol gael eu hadolygu (i wella effeithlonrwydd a sbarduno arloesedd)
  • dylai’r FMP, a’r mesurau ynddo, osod targedau cynaliadwyedd ar gyfer pwysau pysgota a biomas stoc
  • dylai’r mesurau gael eu cymhwyso ar y lefel briodol, e.e. cenedlaethol, rhanbarthol a lleol
  • dylai mesurau gofodol a/ neu dymhorol gael eu hystyried a’u cymhwyso lle y bo’n briodol
  • dylai’r mesurau rheoli ar gyfer yr holl gregyn y brenin sy’n cael eu cynaeafu’n fasnachol yn nyfroedd Cymru a Lloegr gael eu dylunio a’u cymhwyso’n deg ar draws llongau o bob maint, o bob gwlad (gan gynnwys trwy ddyrannu unrhyw gyfleoedd pysgota)
  • dylai’r mesurau rheoli ystyried anghenion unigryw gwahanol sectorau o’r diwydiant masnachol, yn enwedig fflydiau’r glannau ar raddfa lai
  • mae’n rhaid ystyried data biolegol, cymdeithasol ac economaidd wrth ddatblygu a gweithredu dulliau/ mesurau
  • dylai’r mesurau rheoli a sefydlir alluogi pysgota mwy deallus sy’n caniatáu i’r diwydiant weithredu mewn system sydd, lle y bo’n briodol, yn cynyddu effeithlonrwydd i’r eithaf, yn lleihau costau, nad yw’n cynyddu’r pwysau ar stociau ac sy’n lleihau nwyon tŷ gwydr ac effeithiau ar gynefinoedd
  • mae’n rhaid i ddulliau/ mesurau rheoli newydd neu wedi’u diweddaru ystyried telerau a darpariaethau’r TCA rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd

Diben a nodau

Nod rheoli pysgodfeydd cregyn y brenin yn nyfroedd Cymru a Lloegr yw cyflawni cynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, er budd cymunedau arfordirol a chymdeithas ehangach. Un o flaenoriaethau allweddol yr FMP yw sicrhau bod y stociau hyn yn cael eu pysgota’n gynaliadwy. Hynny, er mwyn gofalu eu bod yn cyrraedd ac yn cynnal MSY neu fesur amgen sy’n adlewyrchu iechyd y stoc (amcan 2 yr FMP).

Mae angen mwy o amddiffyniad trwy ddatblygu a gweithredu mesurau rheoli a thystiolaeth wyddonol wybodus, i sicrhau cynaliadwyedd tymor hir stociau. Mae adborth a gafwyd o ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cadarnhau bod llawer o randdeiliaid yn cefnogi’r ymagwedd hon fel maes blaenoriaeth i fynd i’r afael ag ef.[footnote 3]

Dulliau rheoli arfaethedig; i gyflawni amcanion cynaliadwyedd â blaenoriaeth yr FMP

Mewn cyfarfodydd â rhanddeiliaid, mynegwyd cefnogaeth i:

  • fwy o reolaeth ar bysgodfeydd cregyn bylchog
  • amcanion FMP sy’n ceisio sicrhau bod stociau’n cael eu pysgota’n gynaliadwy

Mae rheoli gweithgarwch pysgota wedi cael ei amlygu fel dull rheoli allweddol o gyflawni hyn.

Cydnabyddir na all un mesur unigol weithio ar ei ben ei hun i gyflawni hyn. Rhaid i ymagwedd yn y dyfodol gyfuno cyfres o fesurau gyda fframwaith wedi’i gefnogi gan nifer o fesurau rheoli (neu ymyriadau), gan gynnwys mesurau rheoli mewnbynnau ac allbynnau.

Yn gyffredinol, mae fframweithiau rheoli pysgodfeydd wedi’u seilio ar reolaethau allbwn neu fewnbwn. Mae’r mesurau rheoli allbwn yn cyfyngu ar faint o stoc y gellir ei dal a’i lanio. Mae’r terfynau hyn wedi’u seilio ar amcangyfrifon gwyddonol o MSY stoc.

Mae’r mesurau rheoli mewnbwn yn ceisio cyfyngu ar weithgarwch pysgota trwy reoli ymdrech bysgota. Gallai hyn fod ar ffurf cyfyngu ar yr amser y gall llongau bysgota trwy uchafswm nifer diwrnodau ar y môr. 

Mae tystiolaeth ynglŷn â dulliau rheoli posibl yn y dyfodol, gan gynnwys enghreifftiau o arfer gorau i gyflawni pysgodfeydd cynaliadwy, wedi cael ei chasglu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn cynnwys tystiolaeth o:

  • adolygiadau gwyddonol o ddulliau rheoli yn y Deyrnas Unedig a rhannau eraill o’r byd
  • cynadleddau a arweiniwyd gan y diwydiant i drafod rheolaeth yn y dyfodol
  • digwyddiadau ymgysylltu diweddar â rhanddeiliaid ynglŷn â’r FMP cregyn bylchog

Amlinellir yng ngweddill yr adran hon gyfres sy’n cael ei chynnig o fesurau, wedi’u seilio ar y dystiolaeth a’r adborth hyn, gan gynnwys fframwaith trosfwaol.

Y fframwaith rheoli trosfwaol a gynigir yw:

  • mesurau rheoli allbwn ar sail wyddonol (e.e. terfynau’r ddalfa) a/neu
  • mesurau rheoli ymdrech ar sail wyddonol (e.e. diwrnodau ar y môr)

Dyma’r mesurau a ddefnyddir i’w cefnogi:

  • ystyried alinio mesurau (fel manylebau llusgrwydo a’r nifer uchaf o dripiau llusgrwydo a ganiateir) lle ceir buddion amgylcheddol, cymdeithasol neu economaidd o wneud hynny
  • a gall gynnwys mesurau rheoli wedi’u seilio ar ardal (fel cau tymhorol)

Bydd mesurau newydd yn cael eu halinio, lle y bo’n briodol. Fodd bynnag, mewn rhai achosion mae’n bosibl y bydd rhesymau da dros wahaniaethau o ganlyniad i amgylchiadau lleol i ddiogelu stociau neu’r amgylchedd.   

Er bod y dulliau arfaethedig ar lefel uchel ar hyn o bryd, maen nhw’n darparu sail gadarn ar gyfer datblygu mesurau rheoli posibl yn fanylach. Bydd angen i reolwyr pysgodfeydd, y diwydiant a gwyddonwyr ddadansoddi hyn yn fanwl, trwy ymagwedd gydreoli, i ymdrin â meysydd fel:

  • y darpariaethau a gynhwysir o dan bob mesur arfaethedig
  • lefel y dystiolaeth wyddonol a’r math o dystiolaeth wyddonol sy’n ofynnol i fod yn sail i fesurau a’u llywio
  • buddion i gynaliadwyedd stoc, gweithredu mesurau o bosibl
  • dulliau posibl o ddyrannu cyfleoedd pysgota ar draws pob sector a fflyd
  • monitro cydymffurfedd â’r mesurau a’u heffeithiolrwydd
  • goblygiadau cyfreithiol y TCA gyda’r Undeb Ewropeaidd

Bydd canlyniadau’r dadansoddiad hwn yn llywio’r llwybr rheoli mwyaf priodol ac effeithiol i’w ddilyn. Cyn i unrhyw newidiadau gael eu gwneud i fesurau rheoli pysgodfeydd, bydd cynigion yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, ac unrhyw asesiadau o’r effaith sy’n angenrheidiol.

Llinellau amser a blaenoriaethau

Bydd angen digon o amser ac adnoddau i ddatblygu manylion mesurau yn y dyfodol, a fydd yn wahanol ar gyfer pob mesur a phob cam, gan ddibynnu ar ffactorau amrywiol, er enghraifft:

  • p’un a yw’r mesur yn newydd neu’n cael ei ddiweddaru
  • cymhlethdod y mesur arfaethedig
  • y dystiolaeth sydd ar gael i lywio’r manylion
  • pa ddull y bydd ei angen i weithredu’r mesur

Bydd angen cynnal dadansoddiad trwyadl i ddatblygu’r mesurau a amlinellir yn yr FMP. Bydd hyn yn adeiladu ar y dystiolaeth a’r wybodaeth bresennol yn ogystal â gwersi a ddysgwyd o fesurau sydd eisoes yn cael eu cymhwyso i bysgodfeydd cregyn y brenin neu bysgodfeydd eraill perthnasol.

Mae angen i fframweithiau rheoli mewnbynnau ac allbynnau gael eu hategu gan nifer o fesurau rheoli. Gallai eu dyluniad a’u pwysigrwydd cymharol amrywio o dan y naill fframwaith neu’r llall. Bydd gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu’r fframweithiau a’r mesurau, gan gynnwys deall sut gall y mesurau rheoli hyn helpu i gyflawni amcanion yr FMP a sut gallai fod angen eu dylunio’n wahanol o dan fframwaith o fewnbynnau neu o allbynnau. Bydd hyn yn parhau i ddefnyddio ac adeiladu ar dystiolaeth bresennol, fel:

  • y wybodaeth sydd wedi llywio datblygiad yr FMP
  • gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo i gasglu ac ystyried y dystiolaeth hon er mwyn datblygu mesurau yn y dyfodol

Bydd angen cynnal arolwg o’r mesurau presennol, hynny wrth ddatblygu fframwaith rheoli newydd, i sicrhau y byddent yn ateb y gofyn o dan y fframwaith rheoli newydd, o ran sicrhau cynaliadwyedd y stoc. Ymchwilir hefyd i gyfleoedd i alinio mesurau (lle bo hynny’n briodol).

Bydd angen gwneud mwy o waith a dadansoddi i ddatblygu mesurau blaenoriaeth. Amlinellir yn yr adran sy’n dilyn asesiad cychwynnol o’r camau datblygu polisi. Bydd y camau hyn yn destun rhagor o waith asesu a blaenoriaethu gan bob gweinyddiaeth, hynny fel rhan o’r broses o weithredu’r cynllun. Ond mae adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar yr FMP drafft wedi’n helpu i nodi’r canlynol fel meysydd â blaenoriaeth uchel, i’w cychwyn yn 2024:

  • datblygu fframwaith rheoli ar gyfer cregyn y brenin, yn seiliedig ar fesurau rheoli mewnbynnau a/neu allbynnau
  • adolygu’r mesurau rheoli presennol, gan gynnwys ystyried eu halinio lle bo hynny’n briodol
  • asesu effeithiau pysgota am gregyn y brenin ar wely’r môr a sut i liniaru’r effeithiau hynny

Caiff y gweithredoedd a ddisgrifir yn yr adran hon eu cynnal yn 2024, gyda sylw arbennig ar y rheini sydd â blaenoriaeth uchel. I gefnogi’r gwaith hwn, datblygir cynlluniau gwaith manwl sy’n disgrifio’r camau sydd angen eu cymryd a’r amser a’r adnoddau (ym mhob cymal o’r gwaith) sydd eu hangen i gyflawni mesurau yn y dyfodol. Gwneir hyn mewn cydweithrediad â SICG a’r grwpiau perthnasol o randdeiliaid yn gynnar yn 2024. Bydd hyn yn cyfrannu at gynllunio FMPs eraill gan gefnogi cyflwyno mesurau rhagofalus i gynyddu’r amddiffyniad i stociau.

Bydd hyn yn cefnogi’r gofyn yn y Ddeddf Bysgodfeydd am ddull rhagofalus o reoli stociau wrth i’r sylfaen o dystiolaeth wella.

Ond cyn datblygu cynlluniau gwaith manwl, mae’r canlynol yn amcangyfrif cychwynnol o’r amser sydd ei angen i gymryd y camau sydd angen eu cymryd.

  • tymor byr – o fewn 1-2 flynedd wedi cyhoeddi’r cynllun hwn
  • tymor canolig – yn ystod y 3-5 mlynedd nesaf
  • tymor hir – mwy na 5 mlynedd (i adlewyrchu’r gwaith mwy cymhleth sy’n ofynnol i’w datblygu)

Wrth i’r mesurau rheoli gael eu datblygu, byddwn yn adolygu’r cynlluniau gwaith sy’n eu cefnogi a byddwn yn eu newid yn ôl y gofyn i sicrhau bod y gweithredoedd sydd â blaenoriaeth yn cael eu cynnal yn brydlon.

Fframwaith rheoli: rheoli allbynnau neu fewnbynnau ar sail wyddonol (tymor byr i ganolig)

Dyma’r canlyniadau a ddymunir:

  • ystyried manteision ac anfanteision mesurau allbwn a mewnbwn i lywio’r broses o ddatblygu mesurau seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi pysgota cynaliadwy (bydd y ddau opsiwn yn cael eu dadansoddi a’u hystyried yn gyfartal)
  • Llywio ymgynghoriadau ynglŷn â chynigion i weithredu mesurau rheoli newydd ar gyfer pysgodfeydd cregyn y brenin

Mae tri cham wedi cael eu nodi, ynghyd â gweithredoedd i’w rhoi ar waith a chamau ychwanegol dilynol.

Gweithredoedd cam 1:

  • amlygu a choladu gwybodaeth bresennol am fesurau rheoli allbwn a mewnbwn a gymhwysir i bysgodfeydd eraill (gan gynnwys pysgodfeydd cregyn y brenin) a buddion/ materion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cysylltiedig. Mae cryn dipyn o waith wedi cael ei goladu ar hyn eisoes a bydd y gwaith hwnnw’n cael ei ehangu

Gweithredoedd cam 2:

  • Datblygu ymagwedd bosibl at sut gallai mesurau rheoli allbynnau a mewnbynnau gael eu cymhwyso i bysgodfeydd cregyn y brenin, gan gynnwys opsiynau ar gyfer y dull o osod terfynau, y dull dyrannu a meini prawf ar gyfer cyfleoedd pysgota, monitro sy’n ofynnol i fesur effeithiolrwydd
  • amlygu’r data perthnasol sy’n ofynnol, gan gynnwys data cyfres amser priodol, i fod yn sail i reolaethau allbwn neu fewnbwn, a deall a yw’r data hyn eisoes yn cael eu casglu neu a oes angen dulliau newydd o gasglu data

Gweithredoedd cam 3:

  • asesu effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cymhwyso terfynau ar reoli allbwn neu fewnbwn
  • amcangyfrif sut y bydd mesurau’n cyfrannu at gyflawni cynaliadwyedd stoc a nodau trosfwaol yr FMP, a graddfeydd amser tebygol
  • archwilio opsiynau gweithredu ac amseru posibl, e.e. deddfwriaeth, defnyddio pwerau presennol

Gweithredoedd dilynol:

  • Ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ehangach ar yr ymagwedd i lywio datblygiad ac asesu buddion/ effeithiau

Gweithredoedd i’w rhoi ar waith:

  • i’w lywio gan y dadansoddiad a’r mewnbwn gan randdeiliaid uchod. Ystyried ymagwedd fesul cam, a/ neu dreialon, ar draws ardaloedd stoc a sectorau. Adrodd ar y canlyniadau fel y bo’n briodol i lywio’r mesurau

Mesur: ystyried alinio mesurau lle bydd hynny’n arwain at fuddion amgylcheddol, cymdeithasol neu economaidd (tymor byr i ganolig)

Y canlyniadau a ddymunir yw:

  • ystyried mesurau presennol a newydd i sicrhau eu bod yn cael eu cymhwyso ar y lefel fwyaf priodol
  • ystyried alinio mesurau pan fydd buddion (amgylcheddol, cymdeithasol neu economaidd) yn gysylltiedig â hynny
  • bydd yr adolygiad o fesurau presennol a amlinellir yn ddiweddarach yn yr adran hon yn galluogi’r gwaith hwn i fynd rhagddo

Mae tri cham wedi cael eu nodi.

Gweithredoedd cam 1:

  • crynhoi gwybodaeth am fesurau presennol sy’n ymwneud â manylebau a therfynau llusgrwydo a dangos eu bod yn amrywio ar draws y Deyrnas Unedig
  • amlygu lle mae mesurau’n wahanol ar draws ardaloedd ac archwilio cyfleoedd ar gyfer eu halinio
  • asesu lle y gallai alinio mesurau penodol â mesurau eraill y Deyrnas Unedig arwain at effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mewn ardaloedd amrywiol
  • amcangyfrif sut y bydd mesurau’n cyfrannu at gyflawni cynaliadwyedd stoc a nodau trosfwaol yr FMP, a graddfeydd amser tebygol
  • archwilio opsiynau gweithredu ac amseru posibl, e.e. deddfwriaeth, defnyddio pwerau presennol ac os yw’n berthnasol, p’un a allai fod yn fuddiol i dreialu ymagwedd arfaethedig
  • ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ehangach yn rheolaidd i lywio datblygiad yr ymagwedd

Gweithredoedd i’w rhoi ar waith:

  • parhau â’r mesurau presennol yn ogystal ag amlygu cyfleoedd ar gyfer cryfhau mesurau, yn seiliedig ar y dadansoddiad a’r mewnbwn gan randdeiliaid uchod - I’w adolygu’n barhaus

Gweithredoedd cam 2 (dilynol):

  • parhau i ddatblygu a chynnal cofnod o’r holl fesurau rheoli presennol a gymhwysir i gregyn y brenin yn nyfroedd Cymru a Lloegr, fel ffynhonnell wybodaeth gyfredol
  • ystyried yn barhaus p’un a oes buddion yn gysylltiedig ag alinio ymagweddau rheoli newydd neu a ddylai mesurau fod yn benodol i ranbarth
  • ystyried yn barhaus y potensial i fesurau rheoli presennol gael eu cryfhau yr un pryd â datblygu mesurau rheoli newydd

Llinellau amser y mesurau hyn yw:

  • Cwblhau cofnod mesurau presennol – tymor byr, 6 mis
  • adroddiad ar yr adolygiad o fesurau presennol i’w ddatblygu yn y tymor byr
  • camau gweithredu eraill yn parhau

Fframwaith rheoli: Asesu effeithiau pysgota am gregyn bylchog ar wely’r môr a sut i liniaru’r effeithiau hynny (tymor byr i ganolig)

Y canlyniadau a ddymunir yw:

  • bydd yr FMP yn arwain at ffurfio Gweithgor Effaith Fenthig, lle defnyddir tystiolaeth i ddatblygu rhagor o argymhellion ar sut i reoli effeithiau posibl pysgota (a gweithgareddau eraill) ar wely’r môr a chyflwr cynefinoedd benthig
  • deall yn well y rhyngweithio rhwng pysgota am gregyn bylchog a’r amgylchedd ehangach, yn enwedig ôl troed amgylcheddol a charbon y bysgodfa
  • datblygu cynllun gweithredu ar gyfer lleihau effeithiau niweidiol a’i roi ar waith

Mae’r cam cyntaf wedi’i nodi.

Gweithredoedd cam 1:

  • dylanwadu ar waith arall sy’n cael ei wneud i ystyried potensial Gweithgor Effaith Fenthig – bydd yn ategu gwaith gweithgorau eraill sy’n ystyried y pwysau ar gynefinoedd benthig, gyda chylch gwaith i helpu i roi’r FMP ar waith a chefnogi amcanion ehangach o ran effeithiau pysgota am gregyn bylchog
  • mapio’r ardaloedd sy’n cael eu pysgota ynghyd â’r ardaloedd lle ceir stociau o gregyn bylchog ond lle gwaherddir pysgota neu lle nad yw’n ymarferol pysgota, fel mewn rhai MPAs a ffermydd gwynt yn y môr, er mwyn deall yn well ôl troed y bysgodfa
  • nodi a chasglu gwybodaeth am y dystiolaeth a’r data sydd eu hangen i fapio’r rhyngweithio rhwng pysgota am gregyn bylchog a physgodfeydd eraill, rhywogaethau nad ydynt yn darged a’r amgylchedd ehangach. Nodir bylchau posibl yn y dystiolaeth a chynlluniau ar gyfer eu llenwi
  • fel blaenoriaeth, yn ein barn ni dylai’r Gweithgor Effaith Fenthig ystyried cynnal arolwg o’r dulliau a ddefnyddir i ddal cregyn y brenin, y dystiolaeth sydd ei hangen i asesu effeithiau amgylcheddol dulliau gwahanol a chyfleoedd i fabwysiadu dulliau newydd ar gyfer eu dal

Byddwn yn defnyddio’r Gweithgor Effaith Fenthig fel cyfrwng i gefnogi a sbarduno gweithredoedd a chamau eraill. Byddwn yn gweithio gyda’r Gweithgor i sicrhau bod yna fecanweithiau ymarferol ar gyfer cymryd y camau a nodwyd a bod cynllun gweithredu cynhwysfawr yn cael ei ddatblygu a’i roi ar waith maes o law.

Mesur: cau a rheoli ar sail ardal (tymor byr i ganolig)

Y canlyniadau a ddymunir yw:

  • darparu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer defnyddio cau fel mesur i warchod stociau ac egwyddorion/ meini prawf ynglŷn â phryd a ble y gallai’r mesur hwn fod yn briodol
  • creu dogfen ganllaw sy’n crynhoi’r dadansoddiad a’r meini prawf uchod i’w chymhwyso wrth ystyried a gweithredu cau tymhorol ar sail ardal

Mae tri cham wedi cael eu nodi, ynghyd â gweithredoedd i’w rhoi ar waith a chamau ychwanegol dilynol.

Gweithredoedd cam 1:

  • amlygu a choladu gwybodaeth am gyfnodau cau presennol a gymhwysir i bysgodfeydd (gan gynnwys pysgodfeydd cregyn y brenin), eu nodau bwriadedig, e.e. gwarchod stociau silio, a buddion a materion cysylltiedig
  • datblygu cyfres o egwyddorion i ategu defnyddio cyfnodau cau fel mesur i warchod stoc, gan gynnwys diben a nodau’r cyfnodau cau, pryd a ble y gallent fod yn effeithiol, meini prawf ar gyfer pennu hyd ac amseriad y cyfnod cau i gyflawni ei nodau (‘strategaeth gau’)

Gweithredoedd cam 2:

  • amlygu’r data perthnasol sy’n ofynnol, gan gynnwys data cyfres amser priodol, i ategu a llywio cwmpas ac effeithiolrwydd cyfnodau cau a’u heffaith ar bysgodfeydd ac ardaloedd eraill, a deall a yw’r data hyn eisoes yn cael eu casglu neu a oes angen dulliau newydd o gasglu data
  • amlygu a blaenoriaethu ardaloedd stoc posibl y gellid cymhwyso cyfnodau cau newydd iddynt, a’u cwmpas, hyd a buddion tebygol (gan gynnwys rhyngweithio â chyfnodau cau eraill presennol neu arfaethedig)

Gweithredoedd cam 3:

  • asesu effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cymhwyso cyfnodau cau mewn ardaloedd amrywiol, e.e. y glannau neu alltraeth
  • amcangyfrif sut y bydd mesurau’n cyfrannu at gyflawni cynaliadwyedd stoc a nodau trosfwaol yr FMP, ac amserlenni tebygol
  • llwyr asesu effeithiau dadleoli posibl mesurau rheoli seiliedig ar ardal
  • archwilio opsiynau gweithredu ac amseru posibl, e.e. deddfwriaeth, defnyddio pwerau presennol

Camau dilynol:

  • ceisio safbwyntiau a mewnbwn rhanddeiliaid ehangach ar yr ymagwedd i lywio datblygiad yr ymagwedd
  • asesu effeithiau dadleoli cynradd ac eilaidd posibl mesurau rheoli seiliedig ar ardal

Gweithredoedd i’w rhoi ar waith:

  • parhau â chyfnodau cau tymhorol presennol a fydd yn cael eu hadolygu i sicrhau bod y mesurau’n addas i’r diben a bod cyfleoedd ar gyfer cryfhau yn cael eu hamlygu, yn seiliedig ar y dadansoddiad a’r mewnbwn gan randdeiliaid uchod
  • creu dogfen ganllaw (strategaeth gau) yn cael ei chynhyrchu yn y tymor byr
  • lle gwelir bod angen, caiff cyfnodau cau seiliedig ar ardal eu cyflwyno dros y tymor byr i ganolig

Fframwaith rheoli: gweithio mewn partneriaeth (ar hyd oes y cynllun)

Y canlyniadau a ddymunir yw:

  • dylai ymagwedd ar y cyd gyda rhanddeiliaid allweddol gefnogi’r broses o ddatblygu a gweithredu’r cynllun hwn a lle bo hynny’n briodol, cefnogi’r camau tuag at gyd-reoli
  • bydd SICG (a grwpiau rheoli priodol yng Nghymru) yn parhau i weithredu fel fforwm sy’n caniatáu i’r diwydiant, rheoleiddwyr, a’r gymuned ymchwil ymgysylltu a chydweithio ar reoli pysgodfeydd cregyn bylchog
  • ystyried aelodaeth bresennol y grwpiau rheoli cregyn bylchog perthnasol ar gyfer gweithredu’r cynllun a sut bydd y grwpiau’n gweithio gyda’i gilydd i flaenoriaethu a datblygu mesurau a fersiynau dilynol o’r cynllun. Caiff aelodaeth y grwpiau ei hadolygu a’i diweddaru lle bo angen i sicrhau eu bod yn gynhwysol ac yn cynrychioli’r holl sectorau a grwpiau buddiant ac yn gweithio i ystyried sut i ymgysylltu yn y dyfodol er mwyn clywed barn mwy o randdeiliaid
  • cymryd y camau allweddol i adolygu strwythur SICGWG a’r grwpiau rheoli cregyn bylchog perthnasol yng Nghymru a chynnal dadansoddiad o’r term cydreoli yn y tymor byr er mwyn i’r grwpiau rheoli allu cytuno ar ddiffiniad

Mae tri cham wedi cael eu nodi ynghyd â setiau ychwanegol o weithredoedd.

Gweithredoedd cam 1:

  • cynnal dadansoddiad i ddeall a sut i defnyddio’r term ‘cydreoli’, gan gynnwys sut i’w gymhwyso’n ymarferol (hyn i’w wneud yn y tymor byr)
  • amlygu a choladu gwybodaeth bresennol am bysgodfeydd byd-eang a gydreolir (gan gynnwys pysgodfeydd cregyn y brenin) a buddion/ materion cysylltiedig. Mae gwaith eisoes wedi cael ei goladu ar hyn a bydd yn cael ei ddatblygu ymhellach
  • adolygu strwythur a gweithrediad SICGWG a grwpiau rheoli cregyn bylchog perthnasol i sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda i gyfrannu at gydreoli pysgodfeydd cregyn y brenin
  • adolygu strwythur SICGWG i sicrhau bod arno gynrychiolaeth effeithiol o’r gadwyn cyflenwi cregyn y brenin, busnesau o bob maint, awdurdodau pysgodfeydd a rhanddeiliaid perthnasol eraill, lle bo hynny’n berthnasol, i greu pwynt ffocws ar gyfer trafod pysgodfeydd cregyn bylchog a’u rheolaeth (i’w adolygu yn y tymor byr-canolig)
  • ystyried sut i sicrhau cynrychiolaeth i’r rheini a fynegodd awydd yn yr ymgynghoriad i gael mwy o ran wrth ddatblygu a gweithredu FMP yn y dyfodol ar y grwpiau rheoli cregyn bylchog perthnasol neu i ymgysylltu fwy â nhw
  • ystyried sut y bydd grwpiau rhanddeiliaid gwahanol yn cael eu hintegreiddio a’u cydgysylltu i gynnal gweithredoedd yr FMP
  • datblygu a gweithredu cynllun cyfathrebu cynhwysfawr, gan gynnwys amseriadau, i sicrhau bod yr holl grwpiau aelodaeth a rhanddeiliaid perthnasol yn ymwybodol o’r FMP, ei flaenoriaethau a chynnydd yn unol â’r blaenoriaethau hyn
  • ystyried cyfleoedd i sicrhau mwy o dryloywder ynghylch gwaith SICGWG a’r grwpiau rheoli cregyn bylchog perthnasol, gan gynnwys datblygu a chyhoeddi cylchoedd gorchwyl a rhannu gwybodaeth am ffrwyth trafodaethau yn ehangach, fel bod pawb yn deall eu cylch gwaith

Gweithredoedd cam 2:

  • hybu ‘llythrennedd’ rheoli yn y sector cregyn bylchog, a fydd yn arwain at drafodaethau mwy gwybodus a chynhyrchiol wrth i’r broses gydreoli esblygu
  • hwyluso cyfnewidfeydd dysgu rhwng pysgodfeydd wedi’u targedu, gan ddwyn ynghyd cynrychiolwyr o wahanol bysgodfeydd i rannu gwybodaeth ac arbenigedd ym maes cydreoli pysgodfeydd
  • rhannu arfer da gyda grwpiau cydreoli sydd eisoes wedi’u sefydlu ar gyfer pysgodfeydd eraill i gynhyrchu syniadau ar gyfer gweithredu ymagwedd tuag at gregyn y brenin yng Nghymru a Lloegr

Gweithredoedd cam 3:

  • datblygu opsiynau gweithredu ac amseru posibl, e.e. deddfwriaeth, defnyddio pwerau presennol
  • nodi strwythur, swyddogaeth a dulliau llywodraethu posibl trefniant cydreoli newydd mewn perthynas â datblygu mesurau rheoli a chomisiynu gwaith ymchwil yn y dyfodol

Gweithredoedd dilynol:

  • ceisio safbwyntiau a mewnbwn rhanddeiliaid ehangach ar yr ymagwedd yn rheolaidd i lywio datblygiad yr ymagwedd a chynnwys safbwyntiau a gasglwyd trwy ymgynghori ffurfiol
  • gweithio gyda rhanddeiliaid eraill i nodi sut a phryd sydd orau i ymgysylltu â nhw

Camau gweithredu eraill i gefnogi datblygiad y fframwaith rheoli newydd, gan gynnwys: sefydlu llinell sylfaen ar gyfer pysgodfeydd cregyn y brenin y gellir ei defnyddio i asesu newidiadau dros amser o ganlyniad i reolaeth. Dylai’r llinell sylfaen hon ganolbwyntio ar barhad busnes a’r asesiad economaidd o gyflawni amcanion yr FMP i ddeall y sefyllfa bresennol yn well. Bydd hyn yn helpu i werthuso gweithredu FMP cregyn bylchog y Deyrnas Unedig a mireinio amcanion mewn cynlluniau rheoli a mentrau ymchwil yn y dyfodol. Dylai’r llinell sylfaen hon sefydlu’r canlynol: - cynaliadwyedd cymdeithasol a pherfformiad economaidd gwahanol sectorau yn y gadwyn gyflenwi pysgod cregyn - y cyd-destun deddfwriaethol a rheoli - cryfderau, gwendidau, cyfleoedd, a rhwystrau’r farchnad ddomestig; - asesiad economaidd parhaus o ddalfeydd yn ôl segment - cyd-destun y farchnad allforio

Ymgysylltu ynglŷn â gweithredu mesurau rhywogaeth heb gwota o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA)

Mae cregyn y brenin yn ffurfio cyfran sylweddol o ddalfa rhywogaeth heb gwota’r Deyrnas Unedig y tu mewn a’r tu allan i Barth Economaidd Neilltuedig (EEZ) y Deyrnas Unedig. Dylid sefydlu dull addas i’r diwydiant cregyn bylchog gydweithio â rheoleiddwyr ar faterion sy’n ymwneud â mesurau rheoli pysgod cregyn rhywogaeth heb gwota. Dylai nodau’r ymgysylltiad hwn â’r broses alluogi’r diwydiant i:

  • asesu goblygiadau tebygol y mesurau rheoli a weithredir trwy’r TCA ar stociau cregyn bylchog yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir
  • cael mwy o dryloywder ynglŷn â gweithgarwch y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn eu dyfroedd ei gilydd
  • cefnogi datblygiad y strategaeth aml-flwyddyn beilot ar gyfer cregyn y brenin gyda’r Undeb Ewropeaidd

Bydd unrhyw fesurau i reoli’r bysgodfa’n esgor ar effeithiau cymdeithasol, economaidd a biolegol. Wrth roi mesur rheoli newydd ar waith, mae gofyn statudol i asesu’r buddion cenedlaethol ehangach a ragwelir (er enghraifft, statws stoc y rhywogaeth a dargedir) ynghyd â’r effeithiau tebygol ar randdeiliaid a sut i leihau’r effeithiau negyddol. Caiff yr effeithiau ar gymunedau lleol ac ar hawliau dynol a’r effeithiau economaidd a chymdeithasol eu nodi mewn asesiadau effaith cysylltiedig y bydd angen eu cynnal fel rhan o’r broses o ddatblygu’r mesurau.

Rheoli a mynd i’r afael â risgiau amgylcheddol

O dan Reoliadau Strategaeth Forol (2010) y DU, mae cyfrifoldeb ar y DU i gymryd y camau sydd eu hangen i ennill neu gadw Statws Amgylcheddol Da (GES). Y Strategaeth Forol sy’n rhoi’r fframwaith polisi ar gyfer rhoi polisi morol ar waith ar lefel y DU ac mae’n esbonio sut i wireddu’r weledigaeth ar gyfer cefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol. Caiff GES ei fesur trwy 11 o ddisgrifyddion ansoddol sy’n disgrifio sut olwg fydd ar amgylchedd â statws GES.

Yn ogystal â sicrhau bod stociau’n cael eu pysgota’n gynaliadwy, mae’r FMP cregyn y brenin yn cynnwys amcanion i sicrhau y deëllir yr effeithiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â physgota am gregyn y brenin a, phan ystyrir bod pysgodfeydd llusgrwydo am gregyn y brenin yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd morol, bod camau’n cael eu cymryd i osgoi, unioni neu liniaru effeithiau o’r fath. Mae’r bysgodfa llusgrwydo am gregyn y brenin yn achosi 3 prif risg amgylcheddol:

  • cyfanrwydd gwely’r môr
  • sgil-ddal rhywogaethau sensitif
  • sbwriel o offer pysgota

Yn seiliedig ar dystiolaeth bresennol, ystyrir bod sgil-ddal rhywogaethau sensitif a sbwriel o offer pysgota yn risg isel tra ystyrir bod cyfanrwydd gwely’r môr yn fater risg uwch.

Stociau pysgod a physgod cregyn masnachol

Mae nodau 2 a 3 yr FMP yn nodi gweithredoedd ar gyfer datblygu strategaethau cynaeafu a rheolau rheoli’r cynhaeaf (HCR). Maent yn sicrhau bod yr ymdrech bysgota’n ymateb i statws y stoc a bod ei heffaith ar gynaliadwyedd y stoc yn cael ei asesu, gyda mesurau rheoli priodol yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod stociau’n cael eu cynaeafu mewn ffordd gynaliadwy. Bydd hynny’n gam adeiladol at sicrhau Disgrifydd 3 Statws Amgylcheddol Da Strategaeth Forol y DU (stociau pysgod a physgod cregyn masnachol) yn nyfroedd Cymru a Lloegr. 

Cyfanrwydd gwely’r môr

Mae Nod 5 yr FMP yn nodi’r gweithredoedd ar gyfer asesu’r rhyngweithio rhwng amgylchedd y môr ac effeithiau posibl pysgodfeydd cregyn bylchog a datblygu cynllun gweithredu o fesurau priodol i leihau’r effeithiau niweidiol. Bydd hyn yn cyfannu at ddatrys problem aflonyddu gwely’r môr sy’n gysylltiedig â’r bysgodfa cregyn y brenin gan gyfrannu’n adeiladol at sicrhau Disgrifydd 1 (bioamrywiaeth) a Disgrifydd 6 (cyfanrwydd gwely’r môr) GES Strategaeth Forol y DU  

Sgil-ddalfa

Mae Nod 5 yr FMP yn nodi’r gweithredoedd ar gyfer deall y rhyngweithio rhwng gweithgareddau pysgota am gregyn bylchog a’r amgylchedd, gan gynnwys effaith llongau pysgota cregyn y brenin yn y DU ar rywogaethau masnachol eraill. Bydd hyn yn cyfrannu at ddatrys problem sgil-ddalfa’r bysgodfa cregyn y brenin ac yn gyfrannu’n adeiladol at sicrhau Disgrifydd 1 (bioamrywiaeth) a Disgrifydd 4 (gweoedd bwyd) GES Strategaeth Forol y DU.  

Sbwriel môr

Mae Nod 5 yr FMP yn nodi’r gweithredoedd ar gyfer deall y rhyngweithio rhwng gweithgareddau pysgota am gregyn bylchog a’r amgylchedd, gan gynnwys effaith llongau pysgota cregyn y brenin yn y DU ar sbwriel môr. Bydd hyn yn cyfrannu’n adeiladol at sicrhau Disgrifydd 10 (sbwriel môr) GES Strategaeth Forol y DU yn nyfroedd Cymru a Lloegr.

Camau gweithredu ar gyfer lliniaru risgiau i gyfanrwydd gwely’r môr

Mae’r FMP yn cydnabod bod angen iddo ymgysylltu’n gryf ag ymagwedd strategol at:

  • leihau effeithiau pysgota ar wely’r môr
  • nodi gweithredoedd fydd yn helpu i leihau effeithiau pysgota ar wely’r môr gan gynnwys trwy’r Gweithgor Effaith Fenthig

Yn y diweddariad i Strategaeth Forol y Deyrnas Unedig, Rhan 1 (2019), ymrwymodd Defra i asesu dichonoldeb sefydlu gweithgor partneriaeth, y cyfeirir ato fel y Gweithgor Effaith Fenthig Bydd y grŵp yn golygu y bydd rhanddeiliaid allweddol yn cydweithio gyda’i gilydd i amlygu datrysiadau ar gyfer lleihau effeithiau pysgota ar gyfanrwydd gwely’r môr. Pan fydd wedi’i gynnull, dylai’r grŵp hwn ddarparu goruchwyliaeth a chyfeiriad strategol ar gyfer rhoi cyngor yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys amlygu, datblygu a threialu opsiynau lliniaru neu reoli posibl, mewn partneriaeth.

Bydd yr FMP hwn yn gwneud cyfraniad sylweddol at greu a chydlynu’r Gweithgor Effaith Fenthig. Bydd yr FMP yn hwyluso gwaith ar draws pysgodfeydd cregyn bylchog i gefnogi graddau’r camau gweithredu sy’n ofynnol i liniaru effeithiau ar gyfanrwydd gwely’r môr. Bydd hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth i fapio ardaloedd sy’n cael eu pysgota ar hyn o bryd ochr yn ochr ag ardaloedd lle nad yw pysgota am gregyn bylchog yn cael ei ganiatáu neu’n ymarferol, fel mewn rhai MPAs a ffermydd gwynt alltraeth. Bydd hyn yn gwella dealltwriaeth o ôl troed cyffredinol y bysgodfa.

Bydd grŵp yn ystyried hefyd p’un a allai newidiadau ychwanegol ddigwydd i feysydd pysgota cregyn bylchog yn y dyfodol, er enghraifft datblygiadau alltraeth newydd, neu rwydwaith MPA ehangach. Bydd asesiad wedi’i seilio ar dystiolaeth yn cael ei gynnal o’r rhyngweithiadau rhwng y bysgodfa cregyn bylchog a’r amgylchedd morol i:

  • lywio’r broses o ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer lleihau effeithiau niweidiol (fel yr amlinellir yn amcan 5 yr FMP)
  • ystyried yr agweddau hyn yng nghyd-destun ehangach pwysau gofodol o weithgareddau morol eraill

Mae rhagor o fanylion am risgiau amgylcheddol ychwanegol a amlygwyd yn yr Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA) a sut byddant yn derbyn sylw wedi’u crynhoi yn amcanion yr FMP. Ceir disgrifiad manwl o’r risgiau hyn yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a gyhoeddwyd yn 2023[footnote 4] ac yn Adroddiad Amgylcheddol yr SEA.

Gweithredu, monitro ac adolygu

Gweithredu

Mae’r FMP cregyn y brenin yn amlinellu gweledigaeth a nodau ar gyfer y pysgodfeydd cregyn y brenin, ynghyd â pholisïau ac ymyriadau rheoli sy’n angenrheidiol i gyflawni’r nodau hyn. Mae’r FMP hwn yn cynnig fframwaith rheoli newydd. Bydd y mesurau a ddatblygir o dan y fframwaith hwn yn mynd trwy gam gweithredu dilynol a bydd angen dulliau priodol i’w cyflawni. Gallai dulliau o’r fath gynnwys

  • mesurau gwirfoddol
  • amodau trwydded
  • is-ddeddfau cenedlaethol a rhanbarthol
  • offerynnau statudol

Bydd y cam gweithredu’n adeiladu ar y

  • sylfaen dystiolaeth bresennol
  • unrhyw gamau a gymerwyd drwy gydol y broses o ddatblygu’r FMP
  • yr opsiynau a drafodwyd gyda rhanddeiliaid

Bydd hyn yn destun monitro ac adolygu rheolaidd i sicrhau cynnydd.

Mae’r FMP cregyn y brenin yn destun proses adolygu statudol 6 blynedd ar y mwyaf ar ôl cyhoeddi, pryd y bydd angen dangos tystiolaeth o’r hyn a gyflawnwyd trwy weithredu’r camau a’r mesurau hynny. Bydd y broses adolygu hon yn cynnwys hefyd monitro ar gyfer effeithiau amgylcheddol posibl, er mwyn helpu i sefydlu p’un a oes angen unrhyw newidiadau i reolaeth y pysgodfeydd cregyn y brenin.

Monitro perfformiad

Dyma fersiwn gynta’r FMP hwn. Mae’n nodi’r camau cyntaf a’r weledigaeth tymor hir sydd eu hangen i reoli’r bysgodfa mewn ffordd gynaliadwy. Bydd angen amser i ddatblygu’r cynlluniau hyn a’u rhoi ar waith. Bydd angen gallu eu haddasu a byddwn yn eu hadolygu a’u gwella dros amser wrth i ni gasglu mwy o dystiolaeth ac wrth i ni gydweithio â’r sector pysgota a buddiannau eraill ar reoli pysgodfeydd yn gynaliadwy.

Byddwn yn monitro’r gweithredoedd a’r mesurau a wneir fel rhan o’r FMP hwn.

Ar hyn o bryd, nid oes digon o dystiolaeth i allu pennu’r MSY na phrocsi’r MSY, ar gyfer rhai stociau cregyn y brenin yn nyfroedd Lloegr (Dwyrain Sianel Lloegr – De, Dogger Bank, Gogledd Cernyw, Swydd Efrog/Durham) nac ar gyfer holl stociau dyfroedd Cymru. Mae’r FMP hwn yn esbonio’r camau y cynigir eu cymryd i ddatblygu sylfaen o dystiolaeth am y stociau prin eu data hyn. Bydd y dystiolaeth honno’n ein helpu i ddiffinio a mesur statws y stoc a chynaliadwyedd y stoc. Os gwelir cynnydd yn y dystiolaeth am statws y stoc, bydd hynny’n arwydd o effeithiolrwydd y cynllun hwn ar gyfer y stociau hynny.

O ran stociau cregyn y brenin eraill yn nyfroedd Lloegr (Lyme Bay, Gorllewin Sianel Lloegr – y Môr Mawr, Gorllewin Sianel Lloegr – y Glannau, Dwyrain Sianel Lloegr – Gogledd), ceir digon o dystiolaeth i allu pennu procsi i’r MSY ac i asesu cynaliadwyedd y stoc. Caiff rhai stociau eu pysgota o fewn y terfynau cynaliadwyedd a rhai eraill y tu hwnt iddynt. Os gwelir cynyddu a/neu gadw nifer y stociau sy’n cael eu pysgota o fewn y lefelau cynaliadwy, bydd hynny’n arwydd o effeithiolrwydd y cynllun ar gyfer y stociau hynny. Mae’r FMP yn disgrifio’r camau a gynigir ar gyfer datblygu’r sylfaen o dystiolaeth i allu asesu pob stoc yn well. Os gwelir cynnydd yn y dystiolaeth ac asesiadau stoc gwell, bydd hynny’n arwydd o effeithiolrwydd y cynllun ar gyfer y stociau hynny.

Bydd dangosyddion eraill i fesur effeithiolrwydd y polisïau ar gyfer adfer neu gadw stociau cregyn y brenin at lefelau cynaliadwy:

  • cwblhau arolwg o’r mesurau rheoli mewnbynnau a/neu allbynnau sy’n seiliedig ar y fframwaith rheoli. Bydd hynny’n datblygu mesurau rheoli pysgodfeydd sy’n ymateb i signalau a thueddiadau yn lefelau’r stoc ac yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth ar gyfer y bysgodfa cregyn y brenin
  • cwblhau arolwg o’r mesurau presennol er mwyn sicrhau eu bod yn ateb y gofyn i sicrhau stoc cynaliadwy o dan y fframwaith rheoli newydd
  • mesurau’n cael eu cymryd neu lle bo’n briodol, eu halinio, gan ganiatáu reolaeth gydlynol ar draws ffiniau a rhoi mwy o amddiffyniad i stociau i helpu i gynnal neu gynyddu eu lefelau

Adolygu’r FMP Cregyn Bylchog

Mae’n rhaid i’r FMP cregyn bylchog gael ei adolygu pan fo’n briodol a phob chwe blynedd o leiaf. Bydd yr adolygiad ffurfiol hwn yn asesu pa mor dda y mae’r FMP wedi cyflawni amcanion y Ddeddf.

Bydd canfyddiadau’r adolygiadau hyn yn llywio datblygiad fersiynau dilynol o’r FMP cregyn bylchog. At hynny, bydd yr FMP yn cael ei asesu’n gyffredinol yn rhan o’r broses o adrodd ar gyfraniad FMPs at gyflawni’r JFS. Mae’r Ddeddf yn mynnu bod awdurdodau polisi pysgodfeydd

  • yn adrodd ar y JFS bob tair blynedd
  • yn adolygu’r JFS pryd bynnag yr ystyrir y bo’n briodol, neu o leiaf o fewn chwe blynedd o’i gyhoeddi
  1. Disgrifir hyn yn Nogfen yr Atodiadau a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023 (gweler Mesurau Rheoli). 

  2. Roedd y Datganiad Tystiolaeth a’r Cynllun Ymchwil gwreiddiol yn Nogfen yr Atodiadau a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023. 

  3. Ceir crynodeb o’r ymgysylltu a fu â rhanddeiliaid a gyfrannodd at ddrafft gwreiddiol yr FMP yn nogfen yr Atodiadau a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023. 

  4. Nodir yr ystyriaethau amgylcheddol yn nogfen yr Atodiadau