Prosiect dalgylch Afon Gwy ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Defra i reoli a lleihau llygredd o faethynnau hysbysiad preifatrwydd
Cyhoeddwyd 10 Gorffennaf 2025
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y bydd Tîm Ymchwil Ansawdd Dŵr Defra yn Llifogydd a Dŵr yn rheoli eich data personol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gynnwys yr hysbysiad preifatrwydd hwn, e-bostiwch: wyejointresearch@defra.gov.uk.
Pwy sy’n casglu eich data personol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer y data personol a gasglwn:
Department for Environment, Food and Rural Affairs
Seacole Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am sut mae Defra yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig, gallwch gysylltu â rheolwr diogelu data Defra yn data.protection@defra.gov.uk neu yn y cyfeiriad uchod.
Mae’r swyddog diogelu data ar gyfer Defra yn gyfrifol am wirio bod Defra yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Gallwch gysylltu â nhw yn DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk neu yn y cyfeiriad uchod.
Pa ddata personol rydyn ni’n eu casglu a sut mae’n cael eu defnyddio
- enw
- galwedigaeth
- manylion cyswllt
- sefydliad
Mae’r data hyn yn cael eu casglu a’u cadw gan Dîm Ymchwil Ansawdd Dŵr Defra yn yr adran Dadansoddi a Thystiolaeth ar gyfer Llifogydd, Dŵr a Halogiad i ledaenu canfyddiadau a newyddion ynghylch canfyddiadau a thrafodion y prosiect. Gellir eu defnyddio i gael cyfraniadau arbenigol, ac i ymholi yn eu cylch, i ddiwallu anghenion tystiolaeth a chael chyngor penodol.
Sut cafwyd eich data personol, os gwnaed hynny gan drydydd parti
Cafwyd eich enw a’ch e-bost cyswllt o’ch Prifysgol gyhoeddus neu broffil gwaith neu drwy bartneriaid Partneriaeth Dalgylch Gwy a/neu Fwrdd Rheoli Maethynnau Gwy.
Y sail gyfreithiol dros brosesu’r data personol
Y sail gyfreithiol dros broses eich data personol yw cydsyniad.
Rhoi cydsyniad inni rannu eich data personol
Mae prosesu eich data personol yn seiliedig ar gydsyniad. Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg drwy e-bostio: wyejointresearch@defra.gov.uk.
Gyda phwy rydyn ni’n rhannu eich data personol
Byddwn yn rhannu’r data personol a gesglir o dan yr hysbysiad preifatrwydd hwn gyda Llywodraeth Cymru, gan eu bod yn gweithio ar y prosiect hwn ar y cyd ac efallai yr hoffent gyfathrebu â chi hefyd.
Rydym yn parchu eich preifatrwydd personol wrth ymateb i geisiadau mynediad at wybodaeth. Rydym ond yn rhannu gwybodaeth pan fo angen i fodloni gofynion statudol Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Am ba mor hir rydyn ni’n cadw data personol
Byddwn yn cadw’ch data personol ar y rhestr bostio cyhyd ag y byddwch am fod arni.
Beth sy’n digwydd os na fyddwch chi’n darparu’r data personol
Os na fyddwch yn darparu’r data personol, ni fydd tîm y prosiect yn gallu ystyried eich profiad a’ch barn ac ni allwn roi gwybod i chi am y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas â’r prosiect.
Defnyddio penderfyniadau awtomataidd neu broffilio
- wneud penderfyniadau awtomataidd (gwneud penderfyniad drwy ddulliau awtomataidd heb unrhyw gyfranogiad dynol)
- proffilio (prosesu data personol awtomataidd i werthuso pethau penodol am unigolyn)
Trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r DU
Byddwn ond yn trosglwyddo eich data personol i wlad arall sy’n cael ei hystyried yn addas at ddibenion diogelu data.
Eich hawliau
Yn seiliedig ar y prosesu cyfreithlon uchod, eich hawliau unigol yw:
- yr hawl i gael gwybod
- yr hawl i fynediad
- yr hawl i gywiro
- yr hawl i ddileu data
- yr hawl i gyfyngu ar y prosesu
- yr hawl i gludadwyedd data
- hawliau sy’n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau awtomataidd a chreu proffil
Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau unigol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA 2018), i’w gweld yma.
Cwynion
Mae gennych yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar unrhyw adeg.
Siarter gwybodaeth bersonol
Mae ein siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio mwy am eich hawliau dros eich data personol.